Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
t 1 ¡ 4" lJ/J fI BEfORE ACCEPTING IMITATIONS of J3 OG' DEN'S ( :1 i' A GUINEAGOLD^ -71 mmSI CIGARETTES. /■ j' Imitations are not 'just as good.9 I ^iImSL There is a charm and delightful aroma about OGDEM S which no S. feJl'SiiijJHf other cigarette possesses. Copyright I '9°'- It i. ■nnmiWlll ■ | | nwiiiBll
Marwolaeth a Chladdedigaoth…
Marwolaeth a Chladdedigaoth Mr John Howells, Garnant. Daeth braw a syndod mawr ar breswyl- wyr Dyffryn Amman a'r cymydoga.ecbau cyfagos pan yr ymdaenodd y newydd am farwolaeth sydyn Mr John Howells, adeil- adydd, Garnant, prydnawn Sadwrn, y 15fed cyfisol. i wyddai braidd neb am ei waeledd cyu fod y swn am ei angeu yn tramwy trwy y wlad. Yr oedd yn brysur iawn yu Abertawe dydd lau, ac yn Glan- amman y dydd Gwener blaenorol gyda'i fasnach. Cymerwyd ef yn glaf prydnawn Gwener, ac ymhen pedair awr ar hugain yr oedd ei ysbryd wedidianc i'r byd y tu hwnt i'r lien yn wr ieuanc 33 mlwydd oed Mat ydoedd i John a Rachel Howells, Pentre- hardd, plwyf Llanedi, a iiai o ochr ei fam i Mr John Williams, Long Cross-street, Caerdydd. Er ei fod yD un o wyth o blant, ei farwolaeth ef ydoedd y cyntaf yn hanes y teulu iluosog. Daeth i'r Garnant tua naw mlynedd yn 01, ac y mae lluaws o'r tai newyddion sydd wedi eu codi yn y cylch yn ystod y tyinur hwnw wedi eu hadeiladu ganddo ef. Efe hefyd adeiladodd ysgol newydd ardderchog y plant yn Glanamman, o dan Fwrdd Yagol Llandilo. Yr oedd yn ddyn ieuauc hawdd- gar, rhinweddol, ac ymarechgar. Llawn ydoedd ei natur o fywyd a gweithgarwch. Nid oes amheuaeth na welid ef yn Ilwydd- iant mawr gyda'i alwedigaeth pe yr estynid ychydig flynyddoedd yn rhagor at, ei einoes. Prysurodd ei ddiwedd drwy orweithio ei hun yn ei awydd i gwrdd a'r yalwadau mynych am ei wasanaeth. Yr oedd nifer o dai newyddion ganddo ar ei law pan y gal- wyd ef mor ddirybudd ymaith i'r byd an- weledig. Tri mis sydd oddiar yr ymunodd mewn priodas a Miss M. E. Davies, Gorwydd "Villa, Llanddewibrefi, Cereiigion, yr hon oedd yn ysgolfeistres ar y pryd yn Ysgol Genedlaethol Llandebie. Teimlir yu ddwys dros y foneddiges lednais sydd wedi ei gad- ael yn weddw mor fuan ac mor ieuanc. Claddwyd ef y dydd Mawrth canlynol yn mynwent Ebenezer, capel y Methodistiaid. Llanedi. Gweiayddwyd yn y ty gan y Parch E. Thomas, B.A., curad Gwaencae- gurwen. Amlygwyd gofid gan y Parchn J. Towyn Jones ac E. A. Davies, ficer Cwmamman, oherwydd eu metbiant i fod yn bresenol yn yr angladd. Brysiodd y* cyntaf, yr hwn oedd yn byw y drwa nesaf iddo, adref ddi- wrnod y gladdedigaeth er mwyn amlygu ei gydymdeimlad a'r perthynaaau yn eu trallod chwerw a'u tywydd blin. Tybiai mai yn un o fynwentydd Cwmamman y cleddid ef, ac y cyrhaeddai y He yn brydlon i'r aogladd 08 y cymerai le ar yr awr arferol, a mawr oedd ei aiomiant i ddeall pan y cyrhaeddodd Cwmamman fod y cynhebrwng wedi cy- chwyn ddwy awr cyn hyny am gladdfa y capel y treuliodd yr ymadawedig ddyddiau ei ieneoctyd, yr hwn sydd tua wyth milldir o'r Garnant. Aelod gyda'r Methodistiaid ydoedd yr ymadawedig, ac aelod gyda'r Eg- lwys yw ei weddw. Daetb cynrychiolaeth ragorol o bob dos- barth o'r bobl drigiana y wlad sydd yn ym- estyn o Bontardulaie ar y naill law, byd at Brynamman a Llandebie ar y 11a w arall, i'r cynhebrwng. Gwelid tua haner cant o ger- bydau, heblaw yr elor gerbyd, yn yr orym- daith angladdol pan yn myned drwy Glan- amman, ac ychwanegwyd ugain o gerbydau ereill atynt yn Rhydamman. Ger y Bryn, Tycroes, ymanodd aelodau Cyftinfa Ty- croes, a llu ereill ar draed, a'r orymdaith oddiyno i'r fynwent. Gwasanaethwyd yn y capel gan y Parch Thomas Lloyd, Capel Hendre, ac ar lan y bedd gan y Parchn John Evans, Tycroes, a Vincent Thomas, Penygroes. Rhoddwyd y corff i huno yn ei hanell hyd foreu yr adgyfodiad ar hafddydd hyfryd o Fehefiu, yn nghanol gwenau haul a glesni daear, ond yn nghanol galar cyffredinol y bobl safent uwch y bedd. Cuddid wyneb yr arch gan flodeudyrch osodwyd yno gan galonau yn llawn serch tuag ato, ac yn llawn hiraeth ar ei ol. Yna ymwasgarodd y bobl i'" cartrefi, gan gofio grym y genadwri bregethwyd mor effeithiol iddynt y diwrnod hwnw. 4 Canys pob cnawd fel glaswelltyn yw, a holl ogoniant dyn fel blodeuyn y glaawelltyn. Gwywodd y glaswelltyn, a'i flodeuyn a syrthiodd eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd.' CYFAILL.
Cyfarfod Terfysglyd yn Llundain.
Cyfarfod Terfysglyd yn Llun- dain. Nos Fercher, yr wythnos ddiweddaf, yr oedd cyfarfod mawr o'r pro-Boers wedi ei drefnu i gymeryd lie yn y Queen's Hall. Yr oedd rhaKocheliadaa anghyffredin wedi eu cymeryd i rwystro i neb ond rhai yn cydfyned ag amcan y cyfarfod fyned i mewn. Yr oedd wyth gant o ddynion wedi eu goeod ar hyd y neuadd i gadw trefn, ac i droi allan y rhai aflywodraethus 08 byddai angen. Wedi i'r lie gael ei rwydd lanw a'r rhai yn dal tocynau, agorwyd y drysau. Yr oedd torf heb iod yn mhell o ddeng mil y tu allan, y rhai a wnaethant rathr am y mynedfeydd. Yr oedd pam' cant o hedd- geidvraid at alwad gan yr awdurdodau, a bu raid wrthynt i glirio yr htolydd oedd yn cael ea cau gan y bobl y tu allan i'r ueu. add. Oddimewn yr oedd golygfa anesgrif- iadwy. Torwyd gwydr y drysaa mewnol yn chwilfriw, sathrwyd amryw dan draed ar risiau yr orielau, ac aeth yn ymladd cy- firedinol bron rhwng y 'stiwardiaid' a'r bobl. Wedi cael rhywbeth tebyg i drefn, daeth Mr Labouchere, A.S., i mewn i gy- meryd y gadair, a chydag ef ar y llwyfan yr oedd Mr Keir Hardie, A. S., Mr Bryn Roberta, A.S., a Mr Lloyd George, A.S., y tri, gyda llaw, yn cynrychioli rhanau o Gymru. Tra y siaradai y rhai hyn ac ereill cymerodd ami i ysgarmes boeth le, ond y stiwardiaid gaent y trechaf, a bwrid pob un a godai ei lais dros ei wlad ei hun allan yn bendramwnwgl. Ar y diwedd canwydy Marsellaise.'
Yr Aelodau Cymreig a'r .Mesur…
Yr Aelodau Cymreig a'r Mesur Addysg. Prydnawn dydd Mawrth cyahaliwyd cyfarfod Iluosog o'r aelodau Rhyddfrydig dros Gymru, yn un o'r ystafelloedd cy- sylltiedig a Thy y Cyffredin. Llywyd did gan Mr Alfred Thomas, ac yr oedd amryw o'r aelodau yn breseool. Amcan arbenjg y cyfarfod ydoedd cy-er- wyd o dan ystynaeth pa agwedd a gyuierai y blaid, fel paid, tuag at y Mesur a ddygwyd ymlaen gan Syr John Gor&t i Dy I y Cyffredin yn ddiweddar. Eglurodd Mr Humphreys-Owea, yr hwn, fel cadeirydd Bwrdd Canolog Cymru, sydd yn meddu gwybodaeth dda am Addysg Ganolradd yn Nghymru yn ei wahanol agweddion, yn fyr, brif bwyntiau y Mesur, yr hwn, i raddan mwy neu lai, oedd yn effeithio ar Gymru. Yr oedd Mr Lloyd George, ac un neu' ddau o aelodau ereill, o'r farn fod y Mesur fel yr oedd yn sefyll yn tueddu nt sefydlu a chyfuuo y cynlluu o addysg ganolradd oedd yn cael ei weithio yn awr yn Nghymru. Wedi i'r mater gael ei ddad[eu pender- fynwyd, ur gynygiad Mr Humphreys-Owen, yn cael ei gefnogi gan Mr Charles Morley, gynyg y gwelliant canlynol ar y Mesur :— Na bydd un cynllun o drefniant addysgol yn foddhaol i'r Ty hwn ar nad ydyw yn darparu ar gyfer rheolaeth boblog- aidd lawn o'r holl ysgolion sydd yn derbyn cynorthwy oddiwrth y Llywodraeth, pa un bynag ai eilraddol, celfyddydol, neu elfenol, nac un sydd yn ei wneyd yn bosibl i drysorfeydd cyhoeddus, cenedlaethol neu leol i gael en rhoddi i gynorthwyo ysgolion enwadol.' Afewn perthynas i drosgIwyddiåd posibl o'r rheolaeth leol o ysgolion canolraddol oddiwrth y cyrff o lywiawdwyr sirol i Gynghorau Dinesig, y mae'n ymddangos fod yna fwriad i ymweled ag is-lywydd y Cyngor ar Addysg, gyda'r amcan o gael esboniad clir ar yr adranau y mae angbyd- welediad yn eu cylch yn y Mesur.
Y Gymraeg.
Y Gymraeg. Yn y Drych diweddaf ymddangosodd ertbygl olygyddol yn ymdrin & thynged yr hen iaith wemp mewn ysbryd caredig ati hi. Nid tebyg yr ai y Drych i ensynio dim yn anfFafriol i'w pharhad a'i lies tragwydd. ol. Sylwid yn fyr ac yn gyfeiriadol ar y modd yr esgeulusir hi gan ei phlant drwy ei hannysgu. Amcan yr erthygl oedd enyn tosturi yn ei phlant a'u plant hwythau tuag ati a thros gadwraeth yr hen fam-iaith yn fyw ac felly ea symbylu i'w hanwylo eto o'r newydd a'i pharchu hyd yr eithaf, fel y mae yn gweddu i blant yr hen fam oesol, sydd yn hynod sionc ag ystyried ei hoed. Cyfieithwyd yr erthygl i newyddiaduron Seianig dinas Utica, ac aeth y si ar led yn mhlith y Canaaneaid fod y Gymraeg yn marw ac yn tynu ei hanadl olaf. Creodd y newydd disylwedd gyffro o ddyddordeb yn mhlith claddwyr y ddinas, ac ymgymerodd drwg gyfeillion cymdeithas y Dic-Shoniaid a'r gorchwyl o gyflogi galarwyr proffeawrol gydag wbain ffug-wylofus a hysbysebol i gydfyned a'r claddedigaeth, ond trodd y ffwdan allan yn rhy gynarol, am nad oedd yr oil namyn gweledigaeth seil- iedig ar gamddealldwriaeth. Y mae hyn eto yn arddangosiad o'r camddefnydd ellir wneyd o ymgais i gyflawni lies. Ein hamcao oedd symbylu y Cymry i barhau tymor einoes eu hiaith, ond cymerwyd ein aylwadau yn golygu fod y Gymraeg ar farw. Buasai sail i'r cyffro pe y dywedaaem fel Jonah, 4 Deugaint niwrnod a'r iaith Gym- raeg a ddifedir l' Ond ni ynganid hyny o gwbl genym. Dangosem yn blaen fod yn rhaid addysgu Cymraeg i'r plant neo yr ai i ffordd yr holl ddaear yn nghwra amser- ond nid ymhen deagain niwrnod, yn sicr. Er mai marw sydd yn ei haros yn y dyfodol yn ol y drefn bresenol yn y wlad hon, eto ni olyga hyny na fywia am dymor hir eto. Y mae yn iach iawn erioed. Disgwylid iddi drengu ganrifoedd yn ol; ond y mae yn fyw byd heddyw, trwy y rhai a'i llefarant,' nid y rhai a'i I molant.' Un ffordd aydd i'w chadw yn fyw, sef drwy roi ein calonau a'n 1 geneuau yn gartref iddi. Arferai y Cymry. Bef y beirdd, goelio fod y Gymraeg yn iaith Paradwys; iddi ddisgyn oddiar dafodau angylion mai a hi y aiaradai Duw ag Efa ac Adda yn yr ardd ac y mae ei hanes rhyfedd yn profi.fod ynddi (ac yn y bobl a'i siarada) ddefnyddiau goroesi rhyfeddol. Goroesodd bedwar can'{mlynedd o oresgyn- lad y Rhufeiniaid goroesodd raib ac an- rhaith y Ffichtiaid, Dauiaid, Sacsoniaid, a; phob ymgais a chynllwyn i'w difetha; a'r ffaith yw y siaredir hi gan fwy o Gymry yn yr Hen Wlad hfeddyw nag erioed o'r blaen. Nid yw taith fywiodd gyhyd yn myned i drenga yn faan iawn. Y mae ei threm yn fywiog ac yn loyw a'i gradd vn Iliwgar eto. Pan y dywedodd yr Arglwydd wrtb Adda, Gall farw y byddi farw,' ni tu farw tranoeth na thradwy, eithr yr oedd yn gryf ac yn loyw am ganrifoedd. Bu fyw am yn agos i fil o flynyddoedd. Y :mae hirhoedledd anian Gardd Eden yn y Gym- raeg hefyd a'n Cyngor i'w gelynion yw peidio prynu blodeu i'w rhoi ar ei harch am genedlaethan eto yn y wlad hon. Yr ydym ya sicr, hefyd, fod hen daid y cluch am genedlaethan eto yn y wlad hon. Yr ydym ya sicr, hefyd, fod hen daid y clucb. ydd a dyr ei bedd ac a'i cladd hi eto heb ei eni. Asgwrn cefn, ac ochrau y Gymraeg yn y wlad hon yw dyfodiaid o Gymru, nid en disgynyddion yma. Felly y mae ei pharhad yn gorphwys, yn bwnaf, ar ymfud- laetho draw, ac efallai y daw tyrfa fawr o Gymru cyn bo hir i roi adfywiad i'r hen iaith wemp yn v wlad hon gan roi iddi hirhoedledd y tunwnt i ddim ragwelir yn hreaeool, oblegid daw y rhai hyn a'a plant | Cymreig gyda hwy. I weled cynhebrwng bythgofiadwy y Gymraeg bydd llawer o'r rhai ddymunant ei thranc yn fyw—' ond yu y byd uesaf,' chwedl Pat Doyle.—O'r Drych.
Mr. H. H. Asquith, A.S., a'r…
Mr. H. H. Asquith, A.S., a'r Rhyddfrydwyr. Nos Iau yr oedd Mr Asquith yn llyw- yddu yn nghiniaw Rhyddfrydwyr Deheu- barth Essex. Yn ystod ei araeth efe a gonderaniodd yn gryf y penderfyniad Boer- bleidiol a basiwyd yn nghyfarfod Queen's Hall, Llundain, y noson cynt, a gwrth- dystiodd mewr modd pendant yn erbyn ei alw yn llais y Blaid Ryddfrydol. Dywed- odd nas gellid dan unrhyw amgyichiadau roddi annibyniaeth hollol i'r Bueriaid yn bresenol, ond polisi y Blaid Ryddfrydol yn y dyfodol fyddai gwneyd o Dde Affrica un wladwriaeth rydd ac unedig ar yr un llinellau a Chanada ac Awstralia. Siarad- odd Mr Asquith am Arglwydd Milner oddiar wybodaeth bersonol a hir gydnabydd- iaeth, ac adwaenai ef fel person o'r mwyaf dyngar(,l datganodd' hefyd na chariwyd rhyfel ymlaen erioed gyda mwy o ddyngar- weh na rhyfel De Affrica. Aeth Mr Aequith rhagddo i ddweyd eu bod wedi cyfarfod dan amgyichiadau digyffelyb yn hanes y Blaid Ryddfrydol. Yr oedd cais wedi ei wneyd ato, wrth eu hanerch, i anwybyddu digwyddiadau diweddar a phrophwydo pethau da. Da ganddo fuaaai gwneyd hyny ond, yn ei farn ef, buasai yn wyriad difrifol o ddyledswydd, i'r blaid ac i'r wlad. Os siaradai yn gryf a phlaen, yr oedd ganddo beth bawl i gael gwrandaw- iad. Yr oedd er's deng mlynedd wedi eistedd yn nghynghorau mewnol y Blaid Ryddfrydol ac wedi gwasanaethu dan bedwar o arweinyddion olynol, a chyda phob un ohonyut yr oedd wedi gweithio yn deyrngar a heddychol. Gallai ddweyd yn onest iddo, yngwyneb pob rhwystrau, wneu- thur ei oreti i gadw tangnefedd a chydgord ac ymdrechu ail gyfansoddi Plaid Rydd- frydol unedig yr hyn a gredai ydddeo I angen mawr y wlad a'r Ymherodraeth. Er dechreuad y rhyfel yr oedd gwahanol farn- I aulwedi bod ynghylch yr achos ohoni 1 ond yr oedd ef wedi gobeithio y byddent oil yn foddlawn, mor bell ag yr oedd a fyno digwyddiadau y gorphencl, i'w gadael i ddedfryd hanesyddiaeth. Yn mhob cyfar- fod Rhyddfrydol o fewn y chwe' mis diweddaf, ei brif amcan ef fa pregethu undeb a hyrwyddo heddwch. Yr oedd yn gobeithio y buasai hyn wedi dwyn fFrwyth ond ymddengya fod rhai personau na fynent i hyny fod oblegid yr wythnos ddiweddaf yr oedd her wedi ei rhoddi mewn gwaed oer ag y byddai yn anmhosibl i unrhyw gorff o ddynlon yn meddu gronyn o hunanbarch ei derbyn mewn distawrwydd. Yr oedd yr awgrym daflwyd allan, aef fod y Rhyddfryd- wyr a goleddent ei olygiadau ef (Mr As. quith) yn aismaticiaid, yn fater i gwyno yn ei erbyn. Nid oedd yn wir fod Rhydd. frydwyr a feddylient fel efe wedi newid eu golygiadau. Nid oeddynt yn edifarhau oherwjdd eu golygiadau nac yn eu diar- ddelwi. Yr oeddynt yn dal i gredu na ddygaiy rhyfel unfantais i'r Ymherodraeth ae nad oedd ar y bobl ei heisiau ond a oeddynt hwy, oherwydd eu bod yn dal fod gwaed ac arian yn cael ea trealio, nid ar antunaeth ddrygionus, eithr mewn trefn i alia codi Gwladwriaeth Unedig a Rydd yn Ne Affrica allan o annhrefn ac aflywodraeth, i gael eu gosod i lawr fel rhai wedi gwada eu hegwyddorion ? Ni wyddai efe am yr un awdurdod yn y Blaid Ryddfrydol allai gyhoeddi y fath ddedfryd. Yr oeddynt yn parhau yn Rhyddfrydwyr i'r earn a byddai iddynt, I) wedi i ymrafaelion allanol fyned drosodd, ail ymaflyd yn yr ymdrech wnaethpwyd gan y Blaid yn erbyn pob ffarf o anghydraddol- deb ac anghyfiawnder cymdeithasol. Efe a ddywedai hyn oherwydd naa gallent gael aduniad gwirioneddol oddieithr ar delerau o gydoddefgai well, au hefyd am y dymunai iddo gael ei ddeall nad oedd y pethao a draethwyd yn y Queen's Hall yn'ddatwanifd awdnrdodedig o eiddo y Blaid Ryddfrydol (cymeradwyaeth uchel a pharhaol). Yr oedd cyfeillion iddo ef oeddynt yn meddwl y dylid gwneyd ymostyngiad diamodol i'r Boeriaid ond cyhyd ag y byddai ganddo ef lais i wrthdystio yn oi erbyn, ni chaffai hyny fyned allan i'r byd fel opiniwn v Blaid Ryddfrydol. Y RHWYG RADICALAIDD CYFFRO YN Y BLAID. Y mae araeth Mr Asquith wedi rhoddi tramgwydd mawr i'r Radicaliaid a gefnog- asant gynygiad Mr Lloyd George yn y Sen- edd nos Lun, ac wedi achosi rhwyg ymhlith yr arweinwyr Rhyddfrydol, yn gyatal a pheri siomedigaeth a braw yn mysg pleid- wyr Rhyddfrydiaeth drwy y wlad. Y mae effaith yr araeth yn cael ei yetyried yn holl adranau y Maid fel yn ddifrifol i'r elthaf- yn fwy felly oherwydd ei fod yn awr yn wy bydd as mai nid datganiad digwyddiadol o farn Mr Asquith ydoedd hwn Mae yr araeth, a'r poliai wrth ba un y rhwymir y rhai sydd o'r un feddwl a Mr Asquith, yn golygu rhwyg bendant a ther- fynol yn y blaid, a chreadigaeth corff new- ydd o Ryddfrydwyr Undebol. Yn y corff hwn fe fjynwyair Syr Henry Fowler, Syr Edward Grey, Mr McArthur (au o Chwip- laid yr Wrthblaid), Mr Munro Ferguson (cyn-Chwip i'r Wrthblaid), Mr Haldane Mr Norman, Mr Perks, Mr Freeman- Thomas, Mr Robson, Mr Brynmor Jones, MrTennant, Mr Soares, Mr Wallace Mr Fuller, a Mr Walton. I
Advertising
BOT WATER IKSTAIfTLT MrU or Day f.taeo*Tef **nU'd -wHho.it notioe, without kitcheii tifling w»t«rin comfort At pmall cost. Bwart' ucysers for r uii ..r Ku«i. 346 Bmton M* imii'j.ju.. 11. .|>w.
CAERWEDROS.
CAERWEDROS. CYFARFOD CYHOWDUS. —Cyahaliwyd cyfarfod yn y lie uchod nos Wener, y 7fed cyfisol, er ystyried y priodoldeb o gael pont dros afon Soden, ger Felinpontbren, sef yr afon sydd yn gwahanu plwyfi Llan- dysilio a Llanllwchaiarn. Daeth llaaws. o drethdalwyr y ddau blwyf ynghyd (tua 30 neu 40 mewn nifer), yn cynwys amryw o brif ffermwyr 'a masnachwyr y gymydog- aeth, so y-r oedd nifer y personau ddaethant yno, ynghyd a'r brwdfrydedd a feddianai pob un o'r siaradwyr yn fynegiant eglur o briodoldeb a theilyngdod yr achos. Ethol- wyd y Parch W. Griffiths, Maenygroes, i'r gadair, a siaradwyd yn effeithiol ac i'r pwynt gan amryw bersonau, sef Mri Jenkin Davies, Tirgwyn W. Morgan, Cross Inn Evan Davies, Cyffionos Owen Lloyd, Pendderw Rees Rees, Penrhiw- galed, ac ereill ac yr oedd yn eithaf amlwg fod pob un oedd yn bresenol yn gefnogwr gwresog i'r amcan mewn golwg. Ar ol i bawb ddatgan eu barn, y gwaith nesaf oedd dewis cynrychiolwyr i gyfarfod nifer o aelodau Cyngor Dosbarth Aber- aeron, pa rai a fwriadent dalu ymweliad i'r lie dranoeth. Penodwyd y personau canlyn- ol Mri Owen Lloyd, Pendderw Jenkin Evans, Cwmcynon David Jones, Penpark; Evan Davies, Cyffionos David Evans, Caerwedros Shop JJohn Morrs, Drefach Rees Rees, Penrhiwgaled W. Davies, PauLe Thomas Lewis, Penrhiw Parch D. Richards, Llandyeilio, ac o bosibl ereill. Da geny m oedd gweled cynifer o'r Cyngor Dosbarth wedi cyrchu i'r fangre (Felinpont- bren) dydd Sadwrn-y rhan luosocaf obonynt wedi teithio cryn bellder (yn amrywio o 4 i 15 milldir). Gwelsom y personau canlynol :—Mri D. Jones (cadeirydd), Jenkin Evans (arolygwr y ffyrdd), Thomas Davies (Compton) J. C. Jones a A. Lloyd Rees, Llanarth Evan Evans a Jenkin Davies, Llandysilio Samuel Evaas, LlaxiUwchaiarn Thomas Jonathan, Cilie Aeron Griffith Griffiths, Naut'refail John Davies, Cydplwyf, &c. Hefyd gwelsom ereill y rhai nid ad- waeuem. Digon yw dweyd ei bod yn Ilawn bryd symud er gwneyd rhyw welliant yn y fan hon, ac y mae yn syndod na buasai rhywbeth heblaw siarad wedi ei wneyd ymhell cyn hyn, a thystiolaeth bendant amryw heblaw trigolion yr ardal yw nad oes un man trwy y sir mewn cyflwr mor wael ac adfeiliedig ag ydyw hwn ac y mae y ffaith hon yu resynus i'r pen, ac yn adlewyrchu gwaradwydd ar ein byrddau cyhoeddus, megis y Cynghorau Plwyfol, Dosbarth, a Sirol, ac yn en wedig Bwrdd y prif-ffyrdd ac y mae y gwarth yr fwy byth pan gofiom ein bod yn byw yn oes y gwelliantau a'r diwygiadau o bnb math. ODd da genym weled fod Cyngor Dusbarth Undeb Aberaeron wedi addaw cymeryd y mater i'w ystyriaeth beth bynag, a chredwn fod ymweliad cynifer o'r aelodau a'r lie, ynghyd â'u cyfaddefiad o gyflwr gwael y fan a'r aDgenrheidrwydd am welliant lie y mae cymaint o dramwy yn wystI o'n dilysrwydd, a hyderwn y gwnant symud yn sylweddol yn y mater yn ddioed, a gwneyd, nid rhyw fath o bont, ond un a fydd yn goron ac yn gof-golofn am flynydd- au lawer i aelodau presenol y Cyngor. Gyda llaw dymunwn fel ardalwyr ddatgan ein diolchgarwch i'r Parch W. Griffiths a'r Proffeswr Parry, Neuadd, am y modd deheuig y darfu iddynt o-iod y mater ger bron aelodau y Cyngor Dosbarth yn Aber- aeron y dydd o'r blaen. Deallwn fod rhai personau yn fwy pleidiol i gael pont dros yr afon ger Felin Newydd ond cofier mai rhai yn ymyl y lie ydynt, a chlywsom fod rhyw tudd peraonol ganddynt mewn golwg; ond nis gwyddom yn sicr am hyny, ond un peth a wyddom, na fuasai sael pont yn y fan hono o un fantais i gefnogwyr yr ychydig bleidwyr hyny, gan nad ydynt byth yu tramwy y ffordd hono. Ai tybed fod yu well i bobl arial Gwenlli a Ffynon- ddewi dd'od lawr i ymyl y Castell na myned dros y brif-ffordd heibio Synod Inn i Cross Inn a Uheinewydd ? Gadawer i synwyr cyffredin ateb y gofyriad. Digon gwir y buasai pont yn ymyl Felin Newydd yn hwylusdod i rai personau lleol, ac o ran hyny ni ddylasai un afon o fairifcioli cyffredin fel Soden fod heb bont yn y dyddiau hyn ond credwn gan mai y ffordd heibio i Felinpontbren yw y brif dramwyfa sydd yn arwain yn unionsyth o'r ardal i Cross Inn, Ceinewydd, Gilfachreda, Llanarth, ac Aberaeron, credwn yn ddi- doedd mai mwy caffaeliad o lawer fuasai cael y bont yr ocbr isaf (Felinpontbren). Un rheawm yw fod y dwfr yn fwy chwyrn yn y fan hon nag vn Felin Newydd, ac felly yn tori gwaelod yr afon yn enbyd, nes ei gwneyd braidd yn anmhosibl i gerbydau gweigion groesi. Hefyd rhydd pont yn y fan hon fantais arbenig arall. Gan fod cymaint o serthedd yn y rhiw sydd yn arwain o'r ochr ddeheuo'l i'r afon, a chan nad yw ond un fer ac os gwneir pont weddol uchel, a thipyn o hyd yn ei chanllawiau, gwna hyny leihau cryn dipyn o'r aerthedd. Darfu i fesurydd cyfarwydd fesur y llethredd y dydd o'r blaen, a dywed wrthym na fydd y codiad, ar ol tynu i lawr ychydig o dop y rbiw, ddim mwy na pedair modfedd yn mhob llatben. Ac y mae sefyllfa ddaearyddol y lie yn fanteisiol dros ben i fyrhau y rhiw, drwy fod codiad yo y tir yr ochr arall hefyd a hyny heb fod ymhell o'r afon, fel mai gwaith hollol rwydd a naturiol fydd llenwi y gwagle a barn gyffredinol y gymydogaeth yw, os bydd i'r Bwrdd Dosbarth roddi ystyriaeth ddyladwy i'r cweativn (fel y credwn y gwna), y gwelir y cam hwn wedi ei unioni, a phont sylweddol a hwylus yn croesi afon Soden, er budd a hwylusdod i deithwyr, amaethwyr, tramps* a masnachwyr y wlad a hynyyn fuan iawn, ac nad oes achos ofni y clywir am fochyn, dafad, ei, neu aayn neb yn myned gyda'r llif byth mwy yn afon Soden. Rhwydd hynt i'r bont yw dymun- lad-Gwyliedydd.
BRYNCINYM, EMLYN.
BRYNCINYM, EMLYN. CYFARFODYDD AGOBIADOII. Yn ddi- weddar adeiladwyd addoldy newydd yr An- nibvnwyr yn y lie uchod, a'r wythnos ddi- weadaf cynhaliwyd cyfarfodydd pregethu ar yr achlysur u agoriad y capel newydd. Cynhaliwyd y cyntaf o'r cyfryw nos Fercher, y 19eg cyfisol, pryd y pregethwyd gan y Parchn D. Jones, Rhuthyn (hen weinidog eglwysi Drewen, Bethesda, a'r lie hwn), a Job Miles. Aberystwyth. Dydd lao, am ddeg o'r gloch, dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch D. Gwyn Lewix, Crugiau, a phreg- ethwyd gan y Parchn Evan Phillips (M.C.), Emlyn Job Milea, a T. Eynon Davies, Llundain. Vn y prydnawn dechreuwvd v cyfarf. d gan y Parch D. Walters, Emlyn, a phregethwyd gan y Parchn D. Jones, Rhuthyn, a E. Evans, Llanbedr. Yn yr bwyr dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch Lewis, Scranton, Pa., yr hwn sydd yu bresenol ar ymweliad a'r wlad hon, a phregethwyd gan y Parchn E Evans a T. Eynon Davies. Trodd yr hin allan yn wlyb y diwrnod hwn, yr hyn fu yn anfantais i'r cyfarfodydd hyn. Oherwydd y gwlaw yr oedd yn anmhosibl braidd fod allan ar y cae, tra yr oedd y capel, ar yr ochr arall, yn rhy fychau i gynwya y cynuIlind Iluosog ddaeth ynghyd i'r cyfarfodydd. Achosodd hyn i rai fod yn auesmwyth, ond a chy- metyd y cyfan i ystyriaeth, caed cyfarfod- fodydd ueillduol o dda, y rhai y bydd eu dylauwad i'w deimlo yn y parthau hyn yu hir ni a obeithiwn. Teimlem fel pe b'ai y fendith ysbrydol a'r gwlaw naturiol yn cyd- ddisgyn. Yr oedd y pregethu yn rymus, a'r gwrandawiad, a chyfrif yr an^hyfleus- derau, yn dra astud. Yr oedd y trefniadau yn ngofal y Parch D. Evans, Drewen, gweinidog yr eglwys, yr hwn gyflawnodd ei ran i foddlonrwydd pawb. Casglwyd yn y cyfarfodydd at ddileu y ddyled ar yr addol- dy, a da genym ddeall mai ychydig sydd rhyngddo a chael ei chlirio. Bu pobl y lIe uchod ac o gwmpas yn hynod garedig drwy i ddarparu lluniaeth ar gyfer dyeithriaid, ac nid oedd pall ar eu croeaaw. Dalied ein | gwlad ei gafael yn y cyfarfodydd pregethu a'r cymanfaoedd os yw am gadw ei nerth a'i chymeriad.—Brodor. j
=-=.:-=--..-n--:,__n---CILCENHIN..
=-=.=- -n :n- CILCENHIN. GWYL DE.—Dydd Gwener wyttfcnos i'r diweddaf, cafodd deiliaid Ysgol Silt yr Eg- lwya de blynyddol. Cafodd y cyfan ei rhoddi gan Miss B. Evans, TymaAr Miss Mary Williams, Plas a Mr Daniel Hamer,c Doleooien. Dyna'r tri roddodd y wledd y flwyddyn hon. ac yn wir yr oedd yu ardderchog. Pen Trichrug oedd y man penodedig i fod, ond gan i'r tywydd oeri gwelwyd maidoeth oedd bod yn yr hen ysgoldy. Gwelwyd Miss Davies, Blaen- lluesfe a Miss Hamer, Dolecoion yn ffyddloo iawn wrth y byrddau a Mrs Red- mond, Tym.i<vr, wrth ei bodd yn gwled la o'r danteithion. Teimlodd pawb oedd yn bresenol fod y wledd ragorol a digon yn weddill. Am 7.30 cafwyd cyngerdd da dros ben, yn enwedig wrth gofio nad oedd fawr o barotoi wedi bod ar ei gyfer. Brysed y dydd y ceir gwledd o'r fath eto.— Gohebyad.
BRYNCWENITH. CEREDICION.
BRYNCWENITH. CEREDICION. CYMANFA DDIRWESTOL—Cynhaliodd Un- deb Dirwestol Glanau Ceri ei gymanfa blyn- yddol dydd Mercher, Mehefin 19eg, yo y capel uchod dan lywyddiaeth Mr D. Jones, Penralltwen, Castellnewydd-Emlyn. Er i'r hin droi yn anffafriol gan ei bod yn gwlawio'n eobyd, eto daeth cynulliad Iluos- og ynghyd erbyn y cyfarfod cyn taf, sef un o'r gloch. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch D. D. Davies, Beu- lah yna cauodd y plant y don Ardystiad' dan arweiniad Mr Daniel Davies, Aelybryn, Bryngwenith. Cydadroddwyd y pwnc dir- westol gan blant y cylch yn hynod o dda, sef Y rhwymedigaethau ifod yn Ddirwest-I wyr,' a Y moddion i atal meddwdod. Holwyd hwy yn y penodau yna gan Mr Davies, Beulah, yn bwrpasol dros ben a chanwyd y don Dewch blant sy'n caru dirwest.' Am dri <r gloch yr oedd cynhad- ledd, pryd yr ymdrinlwyd a'r mater Gwae a roddo ddiod i'w gymydog.' Cafwyd anerchiad agoriadol dwys ar y testyn goan y Parch S. Davies, Maesyfelio, Rhydlewis a siaradwyd yn mhellach i'r un cyfeiriad gan frodyr o eglwysi'r undeb ac ereill, sef Mri. R. Davies, Brithair, Ha wen E. Jones, Blaengwrog, Beulah J. Lloyd, Gwernant, Salem D. Jones, Llechryd (Capel New- ydd), D. R. Jones, Aberbank, Gwernllwyn; E. Davies, Fforest, Drewen a'r Parchn T. Thomas, Felincwm, Rhydlewis D. D. Davies, Beulah a J. P. Jones, M.A., Dinorwig (pregethwr dall). Diweddwyd trwy weddi gan Mr Jones, a thystiolaeth pawb oedd ei bod yn un o'r cynhadieddau goreu gafwyd yn y cylch erioed. Yna ym- wahanwyd i gydfwynhau y te a'r deisen flasus oedd wedi cael ei ddarparu gan y frawdolaeth yn yr hen gapel gerllaw. Am 6 o'r gloch cyuhaliwyd y cyfarfod cyhoedd- us, pryd y dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch T. Thomas, Felincwm; ac y tradd- odwyd anerchiadau gan y Parchn E Keri Evans, M.A., Caerfyrddin a J. Puleston Jones, M.A, Dinorwig. Clywyd dim yn gryfach o blaid dirwest erioed nag anerch- iadau uwchraddol y brodyr uch-od yn y cylch hwn. Canwyd yn ystod y cwrdd y tonau Ymrwymiad,' Wesley,' 'Llaotrisaot,' a Innocent.' Gwnaeth y swyddogion, Mri E. Rees, Pengelli, yr ysgrifenydd; E Jones, Brongest Villa, y trysorydd a D. Jones, y llywydd bobpeth yn eu gallu i'r dyben o wneyd y gymanfa yn llwyddiant yn mhob ystyr. Hysbyswyd ar y diwedd mai yn Beulah y cynhelir yr wyl y flwyddyn nesaf. Ond creda bobl garedig y Twrgwyn mai yno mai ei gylchdro rheolaidd.
LLANGYBI
LLANGYBI CLADDEDIGAETH.-Dydd Sadwrn diwedd- af dygwyd gweddillion Mr William Henry Williams, Erw House, Aberystwyth, i'w rhoddi i erphwys yn mynwent dawel Eg- lwys y Plwyf uchod. Cymerwyd ef yrnaith yn mlodau ei ddyddiau pan yn 23 mlwydd oed. Bu mewn coasnachdai yn Rhymni, Abertawe, a Llundain, ac enillodd le cynes yn serchiadau y rhai ddaethant i gyffyrdd. iad fig ef. Gwr ieuanc hynaws a charedig ydoedd, a'i fywyd yn bur fel y deigryn. Traddodwyd y bregeth angladdol ar y ffordd o'r orsaf yn Ngbapel Maesyffynon gan y Parch D. R. Williams, Salem, Aberys- twyth.
EISTEDDFOD PANTDEFAID, 1901.
EISTEDDFOD PANTDEFAID, 1901. At Olygydd y JOURNAL. SYR,—Gan yr ymddengya i mi nad ydyw 1 Sarnicol' yn dewis rhoddi gair o eglurhad i mi drwy gyfrwng eich uewyddiadur o berthynas i'r englynion crybwylledig ddan- fonwyd iddo yn amserol ar gyfer yr eistedd- fod uchod, byddaf ddiolchgar i chwi am ganiatau i mi ddweyd gair neu ddau eto yn y JOURNAL o berthynas iddynt. Mor bell ag yr wyf yn co6o, ni wuaeth Sarnicol' ddydd yr eisteddfod ond dweyd yn frysiog na ddaeth oud dau nen dri o englynion i law, ac nad cedd un ohonynt yn deilwng—yn deilwng o'r wobr, y fcestyn- au, neu o sylw Sarnicol' nis gwn. Nid wyf yu un o'r rhai hyny sydd yn hoffi dadl wedi barn, ond gan fod lluaws o englynion wedi cael eu danfon iddo yn am- serol i'r ddau frawd ymadawedig, ac na wnaeth yr un sylw ohonynt na chydnabod eu derbyniad, ystyriwn nad oedd dim yn anmhriodol i ofyn iddo am air o eglurhad yn yr achos. Os ydyw yn barnu y byddai yn ddar- ostyngiad iddo i wneyd aylw o'm cais rhes- ymol, gallaf ei sicrhau y bydd yn fwy o warth iddo beidio yn marn y cyhoedd, ac yr erys y weithred hon o'i eiddo yn flotyn du ar ei gymeriad fel beirniad. Buaswn yn hoffi cymeryd rhan helaeth- ach yn yr achos hwn oni b'ai fy mod yn ys- tyried ei bod hytrach yn beryglus i anturio i faes y frwydr tra mae y brodyr sydd ar y maes yn barod yn auelu eu raagnelau, ac yn saethu y naill at y llall, yn lie cydym- osod, fel y dylasent, ar 'Sarnicol' fel beirn- iad llenyddol. Os na lwydda 'Tud wal,' Petrel,' I Tys- sul and Co.' i gael gan 'Sarnicol' i wneyd sylw o'u ceimadau, hoffwn eu gweled cyn terfynu yn eyfeirio eu magnelau i gyfeiriad pwyllgor yr eisteddfod, a thaflu ychydig o danbelenau i'w gwersyll er mwyn cael gweled beth fydd y canlyniad, gan y credaf mai un o'r Boers ydyw Sarnicol,' yn hoffi yrnguddio yu nghysgod y pwyllgor yn hy- ttach na d'od allan, fel y dyl;,sii, i'r maes agored. -Yr eiddoch, &c., GWYLIEDYDD. EISTEDDFOD PANTDEFAID. At Olygydd YE BRYTHON. SYR,-Yr t)eddwik yn meddwl fod 4 Tud- wal' wedi marw, ac fod dwy farwnad wedi ymddangos iddo pan ysgrifen tis yr .vythnos ddiweddaf; oud am ei fod eto yn fyw ac yn iach, tebyg mai dyna'r achos iddi beidio ymddangos. Yn henaf yn vr ysirif hon yr wyf am ddangos i I l'udwal ei wamalwch. Yr oedd yn dweyd bob tro er pau ysgrifeo- ais gyntaf mai 'Sarnicol' oeddwn, a'r tro diweddaf dywedodd ei f. d yn gwybod mai 4Dai Cilie' oeddwn er y dechreu. Gwir y canodd yr anfarwol.4 Petrel' iddo fel hyn :— "Ti ydwyt yn wir, 'Tudwal,'—yu hynod 0 wanaidd a "warnitl Dyn ydwyt lied anwadai, A sych, yr hen benbwl sal Ni welais englyn yn cynwys cyrnint o nodweddion yr un person erioed, a'r rhai hyny yn wir bob uu. Yn gyntaf, ei wendid ei wendid fel rhesymwr, materolwr, ac ieithwr ei watnalvvch a'i anwadalwch fel pynciwr a meddyliwr ei sychder fel ysgrif- enwr i ddenu sylw a'i salwch fel cyngban- eddwr a pbobpeth arall. Edryched dros ei englynion eto, a rhifed ei wallau. Gwelais i dri gwall cynghame.ldol ganddo, ond ef- allai fod yna lagor pe bawn yn manylu, ond peidied a chyfrif ei feiau mewn synwyr Daeth hefyd ddau efaill iddo i'r maes, rhai hynod o drugarog, a rhai wedi eu cy- ";7-== nhyrfu hyd bedolau eu ctocs—na yn dweyd 4 Ffei, ffei,' a'r llall jfn dwey4 „*Hoel a chlopa/ a'r ddaa efo'u gilyd<| yn dweyd dim. Y tri efill yn trafod-ben ddwli, Eiddilaidd a sorod Boys awen bach, be sy'n bod 1-0 gethern Hen dawch o uffern ydyw eich ephod Yr wyf yn synu atat ti I Tudwal.' Ym- ddaogosaist y tro cyntaf gyda'th gledd yn llawn brwdfrydedd ac aidd i anddiffyn lleu- yddiaeth dy wlad a'th genedl. ac yn ymddangas fel pe yn foddlawn i roi dy fywyd i lawr fel gwarogaeth ac anwyldeb tuag ati. Ond dyma ti yn awr wedi defnyddio geiriau ac ymadroddion, a'i tynai i lawr i fwy o raddau nas gallasai rhyw eiddilyn fel tydi ei chodi am oea, pe b'ai rhywrai yn gwneyd sylw ohonynt. Buodd dy frawd I Tysoul mor feiddgar a dweyd am danat fel un yn ymdrechu i ddyrchafu a phleidio llenyddiaeth yn ddirodrea, ai ni charai gael tynu ei eiriau yn ol yn awr ? Os wyt yu ceisio diraddio a thafla rhyw fantell o warth dros dy wrthwynebydd, bydd yn ofalus er cadw dy hun yn glir. Pe baet yn taflu careg o ben Cwmbwrddwch i'r mor, gwaith caled fuasai i ti atal dy hun rhag myned efo'r gareg, a disgyn yr un msfo a hi yn nhragwyddoldeb obry. Mae arnaf ofn dy fod wedi llychwino mwy o dy hunan a thudalenau'r newyddiaduron Da wnest o 4 Eliciad a Petrel.' Nid yw beirdd o safle 'Sarnicol yn gallu cofio pethau mor fychan ag englyn yn hir, hwyrach ei fod wedi anghofio yr aradr erbyn hyn, a hyn yw'r achos na ddeuai i'ch gwrthwynebu am hyny gadweh lonydd iddo a gofalwch y tro nesaf i dd'od allan ar fyr- der ar ol yr eisteddfod.. Nid wyf yn bwriadu ymyraeth rhagor a chwi ar y testyn hwn, ond dymunaf i chwi rwydd hynt hyd nes y boddlonwch eich hunain, neu hyd nes y daw rhywun o Gaer- fyrddin i roi tro am danoch. Bei bei yn awr babanod-a ffarwel, Fire away 'r eiddilod Dewch a rhagor o'ch sorod-bombardiweh Eto os mynwch eich Toesnmenod —Yr eiddoch, &c., EILICIAD. [Dyma derfyn ar y ddadl hon.—GOL].
-----------BARDDONIAETH.
BARDDONIAETH. GALABNAD AM MRS EMILY WILLIAMS, LLANDAWG, LLACHARN, yr hon a ymadawodd a'r fuchedd honjdydd Mercher, Mai 29ain, 1901, yn 36ain mlwydd oed, ac a gladdwyd y dydd Sad- wrn canlynol yn mynwent capel Anni- bynol, Llacharn. Yr oedd y wraig rinweddul a'r fam ofalus hon yn ferch i Mr J. F. James a Mrs James, Llwyn Celyu, Llaudeilo Fawr. Y gu, ieuanc wraig a wywodd,—agwen Ei gwyneb ddiflanodd Yn foreu yr Angeu a rodd Friw i hon heb fraw a huaodd. Son am Gristionoges anwyl Ydyw'm gorchwyl yn y gan, A darlunio nodwedd crefydd Y fwyn, lony:id fenyw I&n Penaf nod y wraig rinweddol Oedd beunyddiol, fuddiol fyw Gan ymdrechu ymdebygu I urddasol deulu Duw. Haul ei bywyd a fachludodd Cyn cyrhaeddyd hanner dydd, A'i hanwyliaid pan yr hunodd Oeddynt oil a'u bron yn brudd Llewyrch haul gwlad anfarwoldeb A dywynodd ar y glyn, Ac a wisgodd a dysgleirdeb Ei gwywedig wyneb gwyn. Fel blodeuyn y glaswelltyn Amlwg wywo'n raddol wnaeth Pan y cafodd gaeth orchymmyn Angeu'n sydyn ati ddaeth Tra yr ai drwy'r don lifeiriol I'r dyeithrol, fythol fyd, Safai 'i cheraint tyner-galon A'i chyfeillion fel yn fad. Pan yr oedd ei dydd yn darfod, Boddlon ganodd hi yn iach I wrthddrychau'r llawr, a'i phriod Mwyn, a'i hynod hoff rai bach I fyd arall gan ei Cheidwad Cynnar alwad iddi roed; Gadael daiar wnaeth, a'i thristyd Cyn cyrhaeddyd deugain oed. Tarl a mam sydd yn galaru Ar ol claddu'r fwyngu ferch Rhyngddi hi a hwy yr Angau Dorodd gysylltiadau sercn Yn ei hanwyl hen gym'dogaeth Y mae hiraeth mawr am hon, Lie y cafodd iawn fagwriaeth Megys oenig lywaeth, Ion. Beunydd mwyn oedd ei lleferydd Nes i'w chystudd drechu'i chan, Ac i lesgedd ddrygu peraidd Lais y luniaidd ddynes liu; Ar nosweithiau meithion, blinion, Ac ar ddyddiau trymion, trist, Ffyddiog ddaliai i hyderu, Ac i gredu'rt Iesu Grist. Fel y gwyr ei holl gydnabod, Tawel hynod ydoedd hon Ac fe drigai gras a rhinwedd P, A tbangnefedd dan ei bron Iselfrydig fel ei Harglwydd Oedd, ac addfwyn yn ei hoes Ni rwgnachai mewn tymmestloedd Pan y chwythai gwyntoedd croes. Caru'r gwir ac uniawn gerdded Oedd dan nodded Duw y Nef Pan ar aelwyd ei rhieni Dysgwyd hi i'w ofui ef Ar ei thaith hyd derfyn bywyd Addfwyn oedd ei hysbryd hi I'r Iorddonen aeth heb gwynfan Er mor llydan oedd y Hi Pan yn gadael Ffynnon Gollen Disgwyl oedd am heulwen haf, Ond fe welodd ddu gymylau Ar y bryniau uwch y Taf Y ii o 'ri fynych pan y dringai Safai ar y rhiwiau serth, Am fod cystudd yn cynyddu Ac yn graddoluychu 'i nerth. m Y fam fwyn mewn cartref newydd Wllaed gan gystudd blin yn gaeth Oddi yno yn mhen ennyd I dras-wyddol wynfyd aeth Ei gweddillion sydd mewn llecyn Tawel dan amddiffyn lor Dygwyd h wy i lanerch lonydd Dan y mynydd ger y mor. j Nawdd y Nef a fo i'w phriod Ar yr adeg hynod bon. Ac i'w thad a'i mam gan dywydd Blin sydd beddyw'n brudd eu bron Ei hanwyliaid gaffont lechu Yn llaw'r Duw a ddarfu ddwyn, Yn noethineb ei ragluniaeth, Oddi wrthynt fammaeth fwyn Cadwed dyn rhag rhoi beiruiadaeth Ar Ragluniaeth yn ei gwaith, Ciinys Arglwydd y mynyddoedd Ydyw Duw, a'r rnnroedd maith Egltir pleu'(J rgwlad angelion Ar ei ddyfuion ffyrdd a ddaw, J Felly peidied neb yu Ullman Gwyofan dan ei lydan Jaw. I J. MYRDDIN THOMAS. East Parade, Caerfyrddin. DIRWEST. Boneddigea garedig—yw Dirwest, Sy'n ijwenu'n haelfrydig V tried dwyn o'i Iwtndra llymrig j Ddwg i drefn, dedwydd foneddig. Dolbwba. E. DAVIBS. "YR ENETH SY'N CLWÝFO FY NGHALON." Mewn bwthyn bach syml ynghanol y wlad Lie llifa gwyrdd-donau'r afonig—- Gan furmur alawon fel geneth ddifVft/l Dan gangau ireiddiol yr helyg,- Yngydgord o salmau boreuol yr hydd, Ac ergyd y gof ar yr eingion, Trig geneth mor siriol a llygad y dydd 1 Yr eneth sy'n clwyfo fy nghalon.' Mae cariad yn clwyfo rhyw fynweso hyd, Mae delw ei ffiam yn dy lygad I wella y clwyfau does balm ddigon drnd- Y clwyfau agorir gan gariad A lie bo gwreichionen o gariad a serch All t'warcben y bedd ddim ei difa,— Mae lludw tanbeidiol cariadol y ferch Yn aros o hyd yn Nghefnydfa. Rwyn cara yr eneth sy'n clwyfo fy mron, A dyma paham 'rwyn ei charu— 'Rwyn methu a theimlo fy hunan yn lion Heb feddwl yn gyson am dani, Mae 'i groddiau'n baradwys ddiderfyn i mi, Mae'n destyn fy hapus freuddwydion Ai angel ddisgynodd o'r Nef ydyw hi- Yr eneth sy'n clwyfo fy nghalon.' All gwynder y lili a thegwch y wawr Nac ewyn y don ei darlunio, Ac nid oes blodeuyn mor beraidd ei sawr All ddangos ei thegweh yn gryno Mae tangnef yn tincioyn murmur ei llais, Fel tawel furmuron yr afon Ac eos yn canu i mi yn barhaus 4 Yw'r eneth sy'n clwyfo fy nghalon.' Mae'i llygaid mor siriol a'r ser yn y nos Wrth ddawnsio ar fron y ffurfafen A'i gwallt mor aur-felyn a meillion y rhoa Dan gynes weniadau yr heulwen Ac 0 mor augylaidd yw gosod fy mraich Yn dawel am wddf un mor dirion Nid clwyfo yw'r cwbl-eswwytho fy mraich Wna'r eneth sy'n clwyfo fy nghalon. Eisteddais nosweithiau rhwng blodau yr ardd, Dan gysgod y prenau afalau 'Roedd hyny yn ddigon o nefoedd i fardd, Ond mwy oedd cael merch rhwng fy mreichiau Eisteddai yr adar rhwng cangao y coed, I wrando ein cynes 'madroddion Lefarodd 'run eneth mor dyner erioed A'r eneth sy'n clwyfo fy nghalon. Breuddwydied John Bunyan yn ngharchar o hyd, Dilyned 61 troed ei bererin A llifed llifogydd cynddeiriog y byd Heb ddiwedd ar draethell y werin Aed daear yn wenffiam, aed pobpeth yn fud Ond rhued y byd a'i drallodion Er gwaethaf y ddrycin mi garaf o hyd Yr eneth sy'n clwyfo fy nghalon. G. b P. D. W. DE WET. (Buddugol yn Penpark, Aberteifi, 1901). Llwynog a ffals gyzillunydd-yw De Wet, Sy'n dotio'i erlynydd Tra deil yr hen ysbeilydd, Y Transvaal taranus fydd. TYDU.
Advertising
Aberayron a Llanbedr. Bydd Vans Owen Jones a Daniel Davies yn rhedeg o'r lleoedd ac ar yr amserau canlynol Bore, Pryd. Aberaeron 7 20 Llanbedr 3 20 Cilie Aeron. 8 0 Talsarn 4 25 Slsa"\ 8 30 Cilie Aeron. 4 55 Llanbedr 9 30 Aberaeron 5 25 TRADE DIRECTORY. CARMARTHEN AND DISTRICT. Auctioneers. J. Howell Thomas and Son, St. Mary-street Carmarthen. John Francis, St. Mary-street, Carmarthen. Lloyd & Thomas, Quay-street, Carmarthen Booksellers and Stationers. C. H. Carpenter, Newsagent King-street Car marthen. Churn Maker and Cooper. Thomas Jones, Quay-street and Market Place Churn and Dairy Appliances. Coal Merchant. T. Bland Davies, Coal and Lime Merchant Blue-street, and 8, Quay-street, Carmarthen Family Butchers. J. Lloyd, Family Butcher, Dark Gate, Car- marthen. Fresh Meat Daily. Jones & Co., Wholesale and Retail ButcherSj London House. Mansel-street, Carmarthen Nathaniel Thomas, Family Butcher, 9, King. street, Carmarthen, next door to Post Office Iron Founders. T. Jones & Sons, Agricultural Implement Manufacturers, Priory Foundry. Ma- chinery Depot—Corner of Avenue,' Priory street, Carmarthen. Hotels John Lewis. Falcon Inn, Lammas-street Mourning Carriages, Hearse, Traps, &c., on Hire. 1 Hairdressers. Heddon's Ladies' and Gentlemen's Hair- cutting Rooms, Guildhall-square. Coomb ings made up, Bazors set. Private Room for Ladies and Children Ironmongers, W. Thomas, JO, Hall-street, 6, St. Mary-st., and 9, Priory-street. Agent for all Lead- ing Implement Makers. Mrs W. Phillips, Wholesale and Retail Fur nishing Ironmonger, and 6, Dark Gate, Carmarthen. Frederick Jones, 16. Guildhall-square Car- marthen, Wholesale & Retail Ironmonger. Clearing out Stock. Business fordisposal. Jewellers. H. Reeves, 543,. King-street, Carmarthen Private Room for Wedding Rings. Davies & Sons, 5, Guildhall-square, Carmar then. Wedding and Keeper Rings a Spe- ciality. Printers and Publishers. The JOURNAL Company, Limited, 1 and 2 St. -lary-street, Carmarthen. Tobacconist. For Tobaccos, Cigars, Cigarettee. Pipes WalKinsr Sticks, &c., go to Heddo., Guild hall Square, Cicderallas, 3s 4d per box Wine and Spirit Merchants W. S. Phillips & Co., King-street, Carmarthen sole proprietors of "My, Own" Scotch Whiskey. LLANDILO. Wholesale Ale and Stout Merchant- William Griffiths, liailway Tavern Stores New Road, Llaadilo, Corn, Flour and General Merchaat. LLANDOVERY. Boot and Shoe Manufacturers. Quality an-I Price are the Best Salesmen in the Wovld. See them at Jenkins and Son, Boot Vianufacturers, Llandvery and Rhos- mair street, Llandilo. LAMPETER. Coal and Ume^Merchant. D. Tivy Jones, Railway Station Crocer. Vaughad Davies. Harford-square THE WJOST NUTRITIOUS COCOA. t: ama E P P S'S GRATEFUL-COMFORTIN. COCOA FOR BREAKFAST MPMi