Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
20 erthygl ar y dudalen hon
FFYNNON Y BYKGWM, GER BRECHFA
FFYNNON Y BYKGWM, GER BRECHFA EISTEDDFOD GADEIRIOL. Cynhaliwyd yr eisteddfod uchod eleni ar y 15fed. o Mehefin. Hon ydoedd y pumed wyl flynyddol. Cafwyd hin ddiguro, a daeth torf luoeog iawn ynghyd. Llwyddiant ydyw hanes yr eisteddfod hyd. yma; beth sydd i gyfrif am hyn, nis gwyddom; cred ambell un yma ac aew yn wahanol, a meddyiiant mai rhyw un peth sydd i gyfrif am hyny; ond sicr yw mai nid un peth sydd i gyfrif am Iwydd- iant eisteddfod y Byrgwm. Gadawn i'r cyhoedd farnu drostynt eu hunain. Cadeiriwyd yn nghyfar- fod y boreu gan yr Henadur Jones-Thomas, Y.H., Llanfynydd, ac arweiniwyd gan y Parch. J. IL Davies, Abergorlech. Yn y prydnawn cadeiriwyd gan Dr. Price, Llansawel, ac arweiniwyd gan y Cynghorwr Ben. Evans, Gwastod Abbot; cyfeilydd, I Mr. D. Vaughan, A.L.C,M., L.R.A.M., Caerfyrddin. Beirniaid: Cerddoriaeth, Mr. D. Thomas, M.A., Mus. Doc., Abertawe; barddoniaeth, etc., Mr. R. Eirwyn Rees, Pencader; hosanau,. gwniadwaith, etc., Mrs. Gwynne-Hughes, Glancothi; pedolau, Mr: Joshua Jones, Esgairdawe; cadcirydd y pwyllgor, Mr. S. Jones, Tyrcae, Brechfa; trysorydd. Mr. Ben Evans, Byrgwm; ysgrifenydd, Mr. D. Thomas, Tanyrallt. Yn canlyn wele restr o'r cystadleuaethau, ynghyd ag enwau'r buddugwyr;—Adroddiad i blant dan 15 oed, "Y Bwthyn Adfeiliedig"; 1, Tom Lewis, Llain. Unawd i rai dan 15 oed: 1, Lizzie Mary Thomas, Ammanford. Dau englyn i'r "Bontbren WTifrau": D. Ehedydd Jones, Rhvdeymerau, a' D. Thomas, Llanybyther, yn gyd-fuddugol. "Brat i blentyn" (gwaith Haw): I, Mrs. Jones, Rose Cot- tage, Llanfynydd. Unawd, "Y Bachgen ffarweliodd a'i WI ad" (cyfyngedig i rai o fewn cylch 4 milidir o Ffvnnon Byrgwm): I, John Thomas, Rose Hill, Brechfa. Chwech cvnghor i ddyn ieuanc pan yn ymadael am wlad cstronol: 1, Ben. Jones, Peniel. Gwddf-glwm, wedi ei gwa ua llaw: 1 a 2, Miss Agneit Evans, Llanfynydd. Unawd soprano, "Hyd fedd hi gar yn gywir": 1, Mrs, Morgan, Llanarthney. Cyf- ieithad o'r Saesueg i'r Gymraeg: I, T. Hefin Thomas, LJydiadnenog. Adroddiad, "Y Cerbyd Modur ar Dan" (cyfyngedig): 1, Thomas Davies, .Llainole, Gwernogle. Pedwarawd, "Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd": 1, J. Thomas, Bryndawe, a'i gyfeillion. Par o hosanau i wryw: 1, Miss James, Gwyddgrug. Cvfansoddi penill ar y pryd: 1, Tlios. Davies, Llainole. Unawd baritone, "Teyrn y Dydd": 1, Wm. Gealy, Porthyrhyd. Yn nesaf caf- wyd y seremoni o gadeirio y bardd. Cynygid gwobr a chadair dderw gerfiedig hardd am y bryddest oreu i "Ddyffryn Cothi." Allan o ddeg ymgeisydd dyfarnwvd eiddo Lewis, Glyn Cothi. yn orcu, sef y Parch. E. J. Herbert, Cross Hands, a chadeirwyd ef. yn 01 braint a defawd Beirdd Ynys Prydain. Corau wyth mewn nifer, "0 tyr'd yn ol": 1, J. Thomas. Bryndawe, a'i barti. Unawd tenor, "Gwlad v D<'lvn": 1, Harry Williams, Foelgastell. Her-unawd: 1. Madam Agnes Thomas, Ammanford. "Dwy bedol i geffyl trol" (cyfyngedig i rai heb enill gwobr o'r blaen: 1. Harry Lewis, Gwernogle. "Dwy eto" (agored): I, Daniel Thomas, Park-cwm. Corau Mcibion, "Dringo Plumlimon": Cor Taly- llyehau, dan arweiniad Mr. Caradog Davies. Traethawd, "A Phwy yw fy Nghymydog?" 1, Parch. M. Myddfai Thomas, Ffaldybrenin. Adroddiad, "Ymson uwchben y cryd gwag": 1, Miss Francis, Caerfyrddin. Yn nesaf cafwyd cystadleuaeth y prif ddarn corawl. Bu tynu caled am y dorch hon. am ba un y gwobr 0 £ 5, a dadun mawr (wcdi ei fframio) o'r arweinydd, gwerth JE1 Is. Y dernyn ydoedd "Yr Haf." Daeth tri cor i'r maes, ond ciniwyd y wobr gan Gor Talvllychau, dan arweiniad Mr. Caradog Davies. Ac felly y dygwyd gweithrecl- iadau y dydd i derfyn.
NODION 0 DDYFFRYN TYWI
NODION 0 DDYFFRYN TYWI LLANSADWRN.— LLADRAD. Prvdnawn dydd Llun wythnos o'r blaen, cynierodd lladrad beiddgar le yn ein pentref, yn y ty a elwir Maesporth. Ymddengys fod y teulu sydd yn trig- fanu yno alian wdh y cynhauaf gwàir, It phan dycliwelsant yn yr hwyr, cawsant allan ar unwaith fod rhywun wedi tori i mewn trwy y ffencstr, ac wedi myned oddiyno a swm dda o arian, yn cynwys £34. Y mae hyn yn Haw yr heddgeidwad, ac hyder- wn daw o hyd i'r dyheryn, fel y caffo cosp drymaf y cyfraith am ei ddrygioni. Y GYMMANFA DDIRWESTOL. Ymddengys fod y pwyllgor gweithiol y gymmanfa uchod yn brysur gwneyd pob trefniadau er cael yr wyI yn ilwyddiant. Cadeirydd y pwyllgor ydyw y Parch. R. Salmon; ysgrifenydd, y Parch. E. G. Rees, Carmel; arweinydd, Mr. J. Rees, Gwalia House. Blin genym gael ar ddeall, trwy y JOTJBNAL, am yr wythnos o'r blaen, nac ydyw pawb yn cyd- fyned a rheolau y pwyllgor. LLANGADOG. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MRS. RACHEL MORGAN, PENYRHIW. Anhawdd ydyw dadrys droion Rhagluniaeth yn ngwyneb rhwygiadau anfad angeu yn nheulu dyn. 0 bosibl fod yr anhawsder yn codi yn ffaith mai meidrolion ydym, ae fel meidrolion yn methu codi i dir digon uchel i ddirnad cudd weithrediadau yr Anfeidrol. Yr oedd gwrthddrych ein testyn yn un o'r rhai prydferthaf yn yr ardal hon. Yr oedd bob amser yn gwisgo gwen siriol a diniwed, ac yn meddu ar serch diofn a diniweidrwydd nur; ond wele y pur o galon yn cael ei tharo gan glefyd creulon, a'i thynu yn annhrugarog o fynwes y teulu, a'i bwrw i'r bedd, gan adael archoll yn nghalon a hiraeth yn mynwes y teulu. Prydnawn dydd Iau cymerwyd ei gweddillion marwol i'w chladdu yn nghladdfa y plwyf, Llansadwrn, a gweinyddwyd yn y ty cyn cychwyn gan y Parch. R. Salmon, ac yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch. L. Morris. Gadawodd briod hoff a chwech o blant, ynghyd a lu o berthynasau i alaru y golled ar ei hoi. Syched y teulu eu dagrau yn ol y gobaith o gael cyfarfod eto draw yn ardal lonydd yr aur delynau a gwynfa credadyn. Huned mewn hedd, chwythed yr awel yn dyner, a gwylied engyl am fan fechan ei bedd. GALWAD. Deallwn fod y Parch. J. Elias Thomas, Ramah, Treorci, wedi derbyn yr alwad gafodd oddiwrth eglwysi Providence a Beth]ehem, a'i fod yn dechreu ar ei waith yma mis nesaf. Cynhelir y cyfarfodydd ei sefydlu yma Awst 3 a 4. EmRYS.
tADOLYGIAD
ADOLYGIAD Y SKINT GHEAL-gan J. M. Edwards, M.A., Prif Athraw Ysgoi Sir Trettynon; Kducational Publishing Co.; pris, la. Pwy sydd nad yw wedi clywed neu ddarllen ryw dro all. y llestr gwyrddias hwnw aduabydd.r fel y Seint Greai." Y ge.riadur a ddengys mai llestr neu phiol feddylir wrth "greal," ac o gyich y Greai Sanctaidd mae Rhaniant wedi gweu ei breuddwydion ar hyd y canrifoedtl. Y n y canol oesau credid mai o'r liesti hwn y bwytaodd ein Harglwydd y Swper diweddat, ac mai ynddo y casglodd Joseph o Ari- mathea ei Waed Sanctaidd ("Sang Real"). Wedi hyny meddylid fod y llestr yn guddiedig a chylch o farchogion yn ei wylio ar fynydd. Yn y cylch hwnw yr oedd un gadair wag, a gelwid hi "Sedd y Perygi," yn yr hon ni feiddiai neb eistedd, oni byddai ddihalog a phur ei galon. Penderfynodd Arthur a'i farchogion chwilio am y llestr sanctaidd: yn wir disgwylient iddo ymddangos yng Nghymru. Un diwrnod "fe ddaeth," meddai'r hanes, i fewn attynt v mawrfrydig lestr, « elwir Y Greal, ac weoi ei guddio a samit gwyn: ac nid oedd neb o honynt a wyddai beth (jedd yn ci arwain ef." Eithr diflanodd y Greal wedi hyny "heb wybod o neb o honynt hwy pa Ie yn y byd." Gwnacth Arthur a'i wyr lw yr aethent ar bererlndod am flwyddyn a diwrnod, "neu a fo fwy os bydd raid," hyd oni weient y Greal eto. Yn y gytrol sydd o'u blaen ceir hanes y cais am y Llestc Sanctaidd wedi ei baratoi ar gyfer y werin a phlant ysgol. Addewir hanes darganfod Seint Greal mewn cyfrol arall, a theimlwn fod y golygydd wedi rhoddi digonedd ini yn y gyfrol ddyddorol hon. Er newid tipyn ar Gymraeg yr hen lawysgrifau, mae ei hadlais yn eglur yng Nghymiaeg croew y casgliad yma, a gwnai darllen y llyfr les nid bychan, pe dim ond ar gyfrif ceindcr a thlysni ei frawddeg- au. Na phetrused neb wneyd hyny, canvs rhoddir ar ddiwedd y llyfr restr gyflawn iawn o'r geiriau mwyaf annghvfarwydd. Xi pherthyn ini fanylu na rhoddi crjnhodeb o gynhwys y gyfrol, eithr bodd- lonwn ar Adweyd fod y golygydd wedi casglu hanes teifhiau prif farchogion llvs Arthur; a pha deithiau tebyg iddynt o ran dyddordeb a swyn digymar eu rhaniant? Cawn yma hanes vnidaith Galaath a'i Iwvddiant gyda'-r darian ryfedd: vmdaith Melian a'i gwymp drwy falchder: yindaith Lawnslot yr hwn welodd y Greal tra'n cysgu: yindaith Peredur, bryd y cafodd hanes y Ford Gron a Mvrddin ac y ceis- iwyd ei hudo mewn ynys unig. Dyma'r byd i'r hwn yr arweinia'r gyfrol hon ei darllenwyr, byd vn llawn o freuddwydion am burdeb a bywyd cli- halog a sanctaidd. Olierwydd un o wcrsi amlycaf y Seint Greal yw ljurdeb bywyd: am ganrifoedd ceis- iodd pendefigion a thywvsogion ein daear ddilyn esianipl Peredur a (Jalaath, (I au arwr oedd yn ddigon glan eu calon i weled y Seint Greal. o llyfr hwn (ac nid yw ei bris ond swllt) ca'r darllenydd fwyniant, a phleser mewn byd o ramant nad oes mo'i ragorach, a daw i w Gymracg nerth a cheinder na pherthynent iddi cyn hyny. Os gall, pryned y llyfr, ac ni bydd'edifar ganddo.
Advertising
rHYARCHER&C^ii COLDEN RETURNS 1 REGISTERED xj .„ { Facsimile of Onc-Ounce Paiket. Archer's Golden Returns The Perfection of Pipe Tobacco. COOL, Sweet akp FRACRANT.
CYFARC'HIAD PRIODASOL
CYFARC'HIAD PRIODASOL I Mr. Emile Evans, M.E., Aipht, a Miss Ida Blanche Enid Morgan, Henllvsfawr, Llanymddyfri. 'Rwyf fi yn rhwym o ganu, Nis gallaf fod yn fud, Waeth gweithrediadau cariad Yw sail fy nghan i gyd. Bu Mr. Emile Evans Yn Egypt amser maith, Ond methodd yn unman Gvdmares ar ei daith. Pan ddaeth yn ol i Gymru, I ardal Ion y Llan. SvTthio wnaeth ei Ivgad Ar feinwen yn y fan. A'i galon bron a "bursto" 0 dan ei dyner fron, Am enill calon honno, A'i meddu iddo'n lion. Ond cyn pen fawr o amser, ('add gyfle ddweyd ei gwyn, A hithau a'i atebodd Mewn geiriau llawn o swyn. "Pe bawn yn gallu credu Eich bod yn dweyd v gwir, Fe allem ni wneyd undeb, A hyny cyn bo hir." A phenderfynu wnaethant Briodi yu Cilycwm, Ac yntau, INlr. Davies, Sydd wedi gwneyd y clwm. Nad a fe byth yn chwilfriw, \n ParLs na Jaj)an, Mae cariad iddo'n sylfaen, Nid ysgog mewn un man. Rfiown glod i Mr. Evans Am gadw'r iaith yn bur. 'Does dim gwell Cymro heddyw Yn rhodio mor na thir, A chadw ci gymeriad Yn loew ac yn lan, Ond cofiwn Mrs. Evans Dvmuniad yr ardal ïw iddynt hir oes, A byw yn gysurus h<'b trwmwl na chroes, A^Duw a'i bendithio ag 'chvdig o had, 'R etifedd yn gyntaf, yr un ffunud dad. Ac yna v merched ar ddelw eu mam, Rhai siriol a serchog, rhai rnwyn a dinam. A llawn caredigrwydd rhinweddol eu moes, A nefoedd yn gartref ar derfyn eu hoes. Cilposte, Llanymddyfri. WILLIAM PpjCE.
- NODION 0 ABERGWILI -,
NODION 0 ABERGWILI Gwaghawyd rhan helaeth o'n meusydd o'u chnyd- au vr wythnos aeth heibio, ond llanwyd yr ydJan- oedd o'r swin mwyaf a gwerthfawrocaf a gafwyd er ys blvnyddau lawer, fel y mae yna obaith am gynhal- iacth ragorol i'r anifeiliaid yn ystod y gauaf dyfodol, pan bydd deddf natur wedi cangu ar bob glas- welltyn, a'r hlodau amryliw a hiliodd y dolydd yn mroichiau cwsg, y cyfan megis mewn amdo ac yn guddiedig o dan y cwrlid llwyd, a ninau yn gwledda ar ffrwvth cynauafau yr estron wiad, a bod yn rhy debvg ein hunain i ost roniaid, fe ddichon, yn crwvdro megis oddiwrth yr Hwn sydd yn rhoddi yn haelionus l bawb, ac yn ein llwyt-ho a phob daioni heb ddannod. YMA DAWIAD. Congyfarchwn Ir. R. A. Falconer, Bwich, ar ei ddyrchatiad i fod yn arolygwr ar adran amaethyddol Lord Cawdor, Stackpole Court, ir Benfro. Y mae ef wedi creu 11u o gyfeillion iddo yn yr ardal hon yn ystod ei arosiad byr yn ein nlith, ac y inae wedi enwogi ac anrhydeddu IIKI yn unig ei hun ond y lie a'r ardal hefyd yn gyffrodinol mewn amaeth- yddiaeth ac arddangosfeydd yn n.u'wahanol barthau o'r wlad; y mae wedi cipio gwobrwyon uchel am gnydau y meusydd, am wartheg, fe! yn rhoddi y cyflawnder mwyaf o laeth ar brawf; a chyda rhywogaeth o geffylau neiliduol, anunhosibl oedd ei orchfygu. Yr oedd y barnwyr fel rheol yn ei osod yn flaenaf bob amser, ac yr oedd hyn yn ei fabwys- iadu i'r swydd uchel hon. ynghyd a'l wybodaoth a'i ddealldwriaeth o wrteithio gwahancl diroedd, heblaw T cymeriad uchel oedd yn ei feddiant. Yr oedd yn sfvmvdog trwyadl. ac yn gymwynaswr hael, ac yn caru gwneyd daioni bob amser. Bu hefyd yn gym- horth i ail sefydlu yr arddangosfa fawr a gymcr le yma yn flynyddol. ac bu yn ysgrifenydd ffyddlon, didwyil, a goriest, iddi. Gwerthfawrogwyd a chydna- bvddvvyd ef am ei waith rhagorol yn y cyfeiriad yma gan v nwyllgor trwy ci anrhegu a phlat arian gwerthtawr. Dymunwn iddo bob llwyddiant i gyflawnu ei swydd uchel a nhwysig gvda rhwydd- ineb, a gallwn sicrhau ei ardalwyr newydd yn Sir Bpnfro y bvdd ein colled mawr ni vn sicr o fod yn elw mawr iddynt hwy. Deallwn fod Miss Falconer* ei chwaer. yn aros dros ychydig eto yn pin plith, vr hon sydd mor enwog a narchus ag yntau, i ofalu am y meddianau. ac yn cap! ei ehvnorthwyo hefyd gan em cvnghorwr enwog, sef Mr. J. Griffiths, C.S., A r dwyn. CYNGHOR PLWYFOL. Mae aelodau yr uchod wedi bod mewn ystormydd ao anhawsderau lawer y dyddiau aeth heibio, ac yn dangos eu hawliau trwv osod eu cyfraith mown grvm, a thrwy hyny wedi gorchfygu a choncro cyn- llwvnion ac eithafion v doethion o'r de a'r dwyrain, ac wrth rwygo y creigiau a symud mynyddau o rwystrau fel yma, rhaid iddynt beidio esgeuluso y pethau bychain. Carem yn garodig i alw eu sylw at y bonr-droed sydd ar y troed-lwybr sydd yn croesi o Glangwili i'r Henallr. yr hon sydd mewn cyflwr perygius iawn. DYFFRYXOG. ELUSEN Y PLWYF. Cyfarfyddodd arolygwyr yr Itchod yn yr y-gol ddvddiol v lie nos Sadwrn, yr 16eg o'r mis hwn. Yn bresenol yr oedd y Parch. T. Thomas, y ficer '(eadeirydd); Mr. Williams. Portland House; Mr. Evans. Gwili House; Mr. Lioy d, Llannumsaint, a'r Ysgrifenydd (Mr. D. Davies, Crossing). Amlyg- wyd ammhosiblrwydd yr Henadur J. Lloyd. Y.H., Penybank, i roddi pi bresenoldeb, a phenderfynwvd fod arian yr elusen ag oedd mewn Haw, iael eu trosgiwyddo i Abergwili Club."
--------------BRIWSION
BRIWSION [GAN "TYWI."] EISTEDDFOD FAWR CAERFYRDDIN. Llawenydd ydyw canfod fod ritagolygon yr Eis- teddfod yn edrych yn ddvmunol iawn, os 08 gorfu i'f anfarwol Gwilym Mai i ganu y canlynol yn 1867:- "Gwynt a gwiaw, Mwd a baw. Pwy dd-l a ddaw I 'teddfod fawr Caerfyrddin ?" Dvmuniad "Tvwi" a nifer ereill o blani sir Gar vsdd at wasgar ydyw— Gwynt a gwlaw, Cadw draw. Paid a dyfod I'r Esteddfod. OWEN DAFYDD. Un o hen feirdd Cwmamman oedd Owen Dafydd, sydd bellach yn huno yn dawel yn mhriddellau'r glyn, ond siaradm6 e iweithiau mor newydd fig erioed. Gwelais kanesyn dro yn ol, pan y bu y bardd yn gweithio yn y Gurnos, ger Ystalyfera, iddo gwympo i lawr i bwll lle'r oedd rhod ddwr. Tra yno am amser maith, a'r dwr yn disgyn yn ofnadwy, daeth cyfaill i'w waredu, ac wedi i'r hen brydydd cyrhaedd y tir diogel, edrychai ar yr hen bwll, gan cldywedyd "N-la,o lie i'r damnedigion, Nis gwn i ddim yn b'le; Ond os mai'n mhyllau rhodau, Ofnadwy fydd y lie." Ysgrifenodd y bardd bennillion ar Dduwdod Crist nn adeg, ao adroddir iddynt peri loes i Undodwyr y cyloh. Digwyddodd i un o honynt wybod am bechod parod y bardd, a dyma fel y cyfarchodd yr Undodwr ef un tro wrth fyned at ei waith— ")lae Owen lawn mor laned Ag un o'r Calfinistiaid, "Xol iddo beidio meddwi mwy, Ymhlith y Dwyfundodiaid." A dyma'r atebiad gafodd yn union deg- Achubwyd Lot er meddwi, Mae heddyw yn y nef, 'Does yno neb yn dannod, Ei fedd-dod iddo ef; Achubwyd ddim o Judae, -Nlae'r Belbl gen i'n dyst; Achubir nef o'r rheiny Sy'n gwadu Iesu Grist. BARN AMSEROL MR. W. GEORGE! "Os dygi glagwydd oddiar fynydd, I'r carchar ei yn bur ddi-rybudd; Os cerdd a mynydd oddiar y clagwydd, A'th ddiwedd fydd dy wneyd yn Arglwydd." AEROPLANE. Ymddangosodd y canlynol mewn newyddiadnr ychydig yn ol gan Anonymou Dyn i'w droi yn aderyn—heb y plu, Aeroplane yw'r offeryn; "Asteil-awyro!earaf hyn Fel enw da i'n hedegyn. I'r gystadleuaeth, daw "gwastadlain"—awyrol I erlyn y gamp yn gvwrain, Rhagorach "astell'' na gair tri-sain Os ma wrygir geiriau mirain. "A wyr-gerbvd Hagr budriairh—yw hwn A hynoda y Seisnigiaith; Sylwedd o flaen ansodd yn ein hiaith A gyfrifir oreu gyfraith. CYMHORTH I GOFIO. Y mae yn gvnorthwy i'r cof i gysvlltu ffeithiau a'u gilvdd, ac mae llawer o gydoddigwyddiadau i'w cael. Er engraifft, mae Prydain Fawr yn cael ei gwneyd i fyny o bedair gwlad-Lloegr. Cymru, Ysgotland, ac Iwerddon. Mae pedwar tymor y flwyddvn—Gwanwyn, haf. hvdref. a gauaf. Mae 52 o siroedd yn Lioegr a C'hymru; ac mae 52 o wythnosau mewn blwyddyn, 365 o filldiroedd yw hyd Lloegr, a 365 o ddyddiau eydd mewn blwyddyn, 240 o filldiroedd yw lied Lloegr, a 240 o filoedd o filldiroedd sydd or ddaear i'r lleuad. ADERYN MWYN. o tyr'd yn ol a'r rhiniog lan, Aderyn mwyn, aderyn mwyn Rho eto sain o'th betaidd gan, Aderyn mwyn, aderyn mwyn! n aros mwyach gvda ni, Aderyn b yw, aderyn byw! A chofia ganu ger fy nhy. Aderyn bvw. aderyn byw! Dy salmau ner ennyna swyn, Aderyn bach, aderyn bach! Paid meddwi cefnu ar y llwvn, Aderyn bach, aueryn bach! Dy ganiad dlos ar doriad gwawr, Aderyn glan, aderyn glan! Sy'n lloni calon plant y wawr, Aderyn glan, aderyn glan!
Advertising
P JHwatan I *Soap$% K tjf -our friend and always the same BT 2d. & 3id.; worth it. ^j| THOMAS. BrisioL ™
,MANION
MANION (GAX "CRWYDRY" A MYKDDINFAB.") Mae y Parch. Peter Price wedi cael galwad eglwys Bethlehem, Rhos. Cvtrifir fod deng mil o "lepers" yn Rwssia, ac mai alcohol yw gwreiddyn y drwg. Y mae'r "suffragettes," meddir, wedi llwyddo i enill Syr Edward Grey o'u plaid ac 1 gvnieryd y llwyfan dr08tvnt, A'aeth Mr. Lloyd-George ar y Gyllideb eleni oedd yr un foraf a. draddodwvd erioed wrth ddwyn y •"Budget'' 1 Ty. "Nid gwiw gwadu nad oedd angen diwygio trefn- iadau'r Ysgol ul," medd y "Goieuad." Y mae hyd y no<l v deillion yn gweied. Y mae adeiladwyr ilongau Glasgow yn cael llafnau dur at eu gwasanaeth 5s. 6c. yn rhatach o Germani nag oddiwrth "linns" Prydemig. Bwriedir sefydlu "Labour Exchanges'' er cynor- thwyo personau ieuainc o dan 17 i gael gwaith. Mae eisieu swyddi ar rvwrai, dvbygvwi. Y mae'n bosibl mai drwy y "whisky tax" y dymchweiir y Llywodraetli hon os arosir dipyn. Y mae "whisky" wedi llorio eu galluocach lawer tro. "Y mae rhy fach o enaid yn dyddiau hyn," yn ol Mr. Sylvester Home. Yn wir, ychydig o chwys sydd yn nglyn ag ef, heb son am enaid. iVlewn prinder gwaith, "pauperism," ac ymfud- iaeth, saif Prvdain yn ddnach na'r 1111 deyrnas gyn- yddol arall yn y byd.—Mr. G. Wyndham yn y Queen's Hall. Wrth gwyno yn herwydd ynineillduad Mr. D. A. Thomas, o'r Senedd, dywed y "Goieuad" y gall efe feddwl am y Toriaid yn cael gafael ynddo. Dyna'r arfer; cic fydd Radical yn gaei unwaith yr ym- adawo a'i "gyfeillion." Creda'r benywod sydd yn gofyn am y bleidlais mai Mr. John Burns yw y gelyn mwyaf sydd gan- ddynt yn y c'yfrin-gjnghor. Yn hynod iawn, ed- rycha ei hen gyfeillion y gweithwyr ar Burns fel eu geiyn penaf hwythau. Mae oosrau llywodraethiad y wlad wedi myn'd i fyny yn arswydus o dan ofal Mr. Asquith: v mae ei Lywodraeth wedi creu cynifer o swyddi i'w chefnogwyr fel y mae hyd y nod y Prif Weinidog yn cywilyddio son am y peth. "Arwydd cr wendid yw adeiladu Ilongau rhyfel," medd v Parch. Sylvester Home. Cn peth yw dweyd hyn ar lwvfan, ond bvddai y "tune" yn newid pe b'ai pelen o un o "Dreadnoughts" Germani yn taro ar draws llwybr Horno neu rai o'i dylwyth. Wrth siarad am genadaeth sydd ar droed yn Porthcawl, dywedaTr Parch. Seth Joshua ei fod yn gobeithio y byddai ei ergydion mor gryf a rhai Johnson yn yr ymladdfa yn erbyn arferion y He hwnw. Tvbed mai doeth yw dwyn enw Johnson i'r pwlpud? Esgus Mr. Lloyd George dros beidio Ylllwtluo n mlaen a me6urau c-ymdeithasol er budd y bob! "W fod y Llvnges a'r Fyddin, medd efe, yn llyncu r arian, ac arweinodd ei wrandawyr i gredu ei fod ef yn edrvch ar hyn fel gwastraft". Ar gefn hyny, galwodd Mr. A. Chamberlain a Mr. Snowden arno i ymddiswvddo. Ond—na, dim perygl. Dathlodd Mr. Joseph Chamberlain ei 14 mivvydd oÏ opd YII ystod Y1' wythnos ddiweddaf. Yil 9C3 y cychwynodd efe ei yrngyrch ar "Tanff Reform." I ddangos y cynydd y mae y mudiad wedi ei wnejd, cawn fod 376 yn ei erbyn yn y Ty yn 190' 255 yn 19C7; 169 yn 1908, a 31 yn 1910. Byddai r :111 11 or Ifol i ddyn daro'i ben yn erbyn y wai ag iddo wudu yn wHleb hyn nad yw "Taritf Reform yn en')i pro Ar wahan ir Gwvddelod, y mae mwyaf .'if yn y Ty Cvtfredin heddyw. Drwv ddeddf y "Patents," daw £20.000 y flwyddyn mewn trethi i'r wiad hon, cyflogir 2,200 o bobl, ieli:* £9.100 mewn cyflogau, ac yr vdys wedi gorfodi 40 o "firms" tramorol i ymsefydlu yma. Ac eto ceir gweithwyr i ddwyed mai drwg yw "Protectioll," Ond. wrth gwrs, y llwybr a gymer y partiwr dall \w tlweyd megis yn ei gyfer mai nid "Protection' vw y ddeddf hon. Os na. beth arall ydyw? Onid i iiinddiffyn gweithwyr Prydain y pasiwyd hi? Nid oedd un o'r papyrau yn mliell le, dy- bjgwn. wrth gyhoeddi, ychydig ddyddiau'n ol, ei iii-ediniaeth y byddai i'r Rhyddfrydwyr gymeryd polisi "Tariff Reform" i fyny, a'i alw ar enw arail. Fod rhai o'u harwcinwyr yn credu ynddo sydd anilwg. oblegyd y mae Mr. Lloyd George wedi dangos hyny yn neddf y "Patents," ac yn awr y mae Mr. Churchill wedi cyhoeddi v bnld cvflenwi "canvas" i garcharau'r wlad tuag at vwneyd bags" yn cael ei roddi yn l)aw "firms" Prydeinig. er eu bod i gyd ychydig yn ddrutach. Yr hyn oil sy'n dangos unwaith eto mai "game" yw gwleid- yddiaeth. Bu Esgobion Llanelwy a Thy Ddew! yn siarad yn Xhy r Arglwyddi pa ddydd. Gwneyd cais oedd- ent am ofyn i hob un yp y cyfrifiad cvffredinol nesaf ddweyd i ba. enwad erefyddol y perthynai. Ni fy 11 Jackvddiaeth hyn. Paham? Ie, iiaham'' Cas gan enaid y Parch. J. H. Jowett, D.D., y gweinidogion sydd yn barhaus yn mesur gwerth eu gwasanaeth mewn ffigyrau. Eithaf re'.t-, svr. "Pwy 0 honom sydd heb fad yn gyfarwydd a'r paragraffau yn mhunyr yr enwad yn croniclo nifer yr vchwaneg- iadau at yr eglwY5, a SWill v ddyled fyddo wedi ei chlirio, yn ystod gwasanaeth v Parch. J. Jowett, etc. meddai. Pwy hefyd? Onid yn ol rhif yr aelodau ac ar "system" o £ s. d. y cvfrifir llwydd- iant neu aflwvddiant y weinidogaeth? Yr hyn a brofa. fod yr eifen fachnasol yn llyncu pob ystyriaeth arall i fyny. •Beiid yr Arglwyddi adeg yr etholiad. ac wedi'r etholiad, am yr arafwch yn nglyn a phasio'r Gyll- ideb. Ond yr wythnos o'r blaen dygodd y Canghell- ydd ei Gyllideb am 1910-11 o flaen y Ty, yr hon ni fwriedir ceisio ei chario drwodd cyn mis Tachwedd nesaf, am nas gellir dibynu ar "vote" y Gwyddclod ar hyn o bryd. Ac yn hynod iawn, nid oes yr un Radical yn yr holl wlad yn codi ei lef nac yn beio neb. Dyma'r "party game" yn ei gogoniant. Oddiwrth hyn, ymddengys mai cvthreuliaid yw y "Lords" a safant ar flfordd Cyllideb chwyldroadol, ond mai saint yw y "Cabinet" sydd yn hongian y "Budget" i fyny am dros bedwar mis. er fod pawb yn foddlon arno ond y Gwyddelod. Mawr y twrw wnawd gan gefnogwyr y Llytvodr- aeth pan welodd Mr. Balfour hi yn dda i roddi casfa gas i'r enwog Mr. Ure am ddweyd y byddai dychweliad yr Undebwyr adeg yr etholiad yn perygiu Blwydd-dal yr Hen Bobl. Wedi hyny gwelwvd yr olygfa o Mr. Ure yn ceisio ateb Mr. Balfour yn y Ty, a'r Rhyddfrydwyr yn curo dwvlaw. Ac eto yn y Ty Cyffredin n06 Fercher wythnos i'r diweddaf, clywyd Mr. Asquith ei hun yn cyhoeddi yn ddifloesgni fod yr hwn a ddywed y bvdd i un- rhyw Llvwodraeth yn y dyfodol yinyraeth a'r Blwydd-dal yn un annheilwng o ymddiriedaeth. Pa- ham na ddywedasai Asquith hyn yn wyneb Ure? n. adeg etholiad ydoedd. Y "party game" eto. \)1 Nghvmmanfa Mynwy (Bedyddwvr) pa ddydd, pas wyd y penderfyniad canlynol gyda brwdfrydedd: —"That this Conference at its annual gathering respectfully calls upon the Government in the interest of Liberalism and justice, to redeem its oft-repeated pledge to the Principality by passing through the House of Commons without any further delay or postponement a Bill for the Dis- establishment and Disendowment of the Church of England in Wales." Yn mhob cymmanfa "pre- gethu" y dyddiau rhain, y mae yn rhaid i'r hen Fam i gael ergyd gan Jackvddiaeth. "Jackvdd- iaeth," please look at home, medd "Myddinfab." Beth am y "census" grefyddol? Yr hen gowardiaid. Yn mha le y mae eich 9 to 1 yn sefyli? Lol botes. Erbyn hyn mae'r holl gyfansoddiadau Henyddol gogyfer ag Eisteddfod fawr Colwyn Bay wedi dyfod i law, ae yn 01 y rhestr sydd wedi ei chyhoeddi gan v pwvllgor y mae'r nifer yn lluosog iawn. Yn wir, os nad ydym yn camgymeryd, ni chafwyd erioed fwy o gynyrchion nag a welir eleni, ac os ydyw r safon llenorol yn cydfyned a'r cynhauaf liawn hwn, dylai Eisteddfod Colwyn Bay gael ei chofio ar iechres ein prif wyliau am amser hir. Am awdl y Gadair mae 14 yn cystadlu; ar Bryddest y (ioron, 9; am y Cywydd i'r "Angel," 9; ar y Rhieingerdd, 3; Myfrdraeth, 8; cyfres o Delynegion, 9; cad wen o Englynion, 2; Hir a Thoddaid, 24; a chynifer a 153 wedi ymgeisio ar yr Englvn. Pwy ddywed, ar 01 hyn, fod yr englyn yn colli tir, ac nad yw ein beirdd yn ymhyfrydu yn y cywreinbeth hwn? Am y prif waith llenyddol, sef traethawd ar "Hanes Sir Ddinbych," y mae dau yn cynyg am y wobr o JE50. Ar ddaearyddiaeth siroedd Meirion, Trefaldwyn, etc., 15; casgliad o weithiau an- gyhoeddedig, 3; Dylanwad y Rhufeiniaid ar iaith > Cymry. 4; Traethawd Llew Llwyfo, 4: eto ar Twm o'r Nant, 8; Ffugchwedl ddirweetol, 15; tra maer cyfieithiadau a'r man gystadleuon llenyddol a banldonol wedi cael cefnogaeth barod iawn.
|AT EIN BEIRDD
AT EIN BEIRDD Brwg genym fod y pedwar pennill ïr "Muff" wedi ymddangos yr wythnos ddiweddaf yn ein colofnau. Yr oeddym wedi eu bwriadu i'r "fasged," am nad oeddent i fyny a'r safon. Beth bynag, disgwylir i ffrwyth yr Awen feddu rhyw gymaint o weddusdra, lies, a newydd-der i'n darllenwyr.—Y GOL. Da chwi. "D astudi\ych reolau englyn. Yn eich llith diweddaf er enghraifft cawn— "Ar lwyfao can mae Mag mor gain." Y mae y Khagwant,—can,—ar y bedwerydd sill; lasai fod ar y pummed Bill; ac nid yw "can" a "gain" yn cynghaneddu. Buasai yn gywir—• Ar lwyfan y gan, O mor gu. lwyfan gan gu. Niil oes cvnghanedd o gwbl yn y Cyrch, ac mae'r ddwy linell olaf yn wallufl. "Myn y swyn*»ydd yn mhob sain," 1 n s m b B, "b" yn ateb "n"; heblaw y mae yn proestio; a'r liineli olaf, er fod "c," "r" yn rhan flaenaf y llinell yn ateb "c," "r" yn y rhan olaf, mae yn croes ae- cenu. Yr ydym yn rhoddi y nodiadau hyn, cofier. er mwyn ein beirdd ieuainc. Y mae yn anmhosibl i unrhyw fardd gyfansoddi englyn cywir heb fyned i "Ysgol Farddol" Dafydd Morganwg, neu ryw "Ysgol" debyg. I'r "Yegol," boys.
NEWYDDION CYFFREDINOL.
NEWYDDION CYFFREDINOL. POSTFEISTR NEWYDD LLANDUDNO. Mr. J. D. Jones, postfeistr Caerfyrddin,. sydd new- ydd ei benodi yn bostfeistr Llandudno. Brodor ydyw o Gaernarfon. ac mae yn frawd i Mr. Thomas Jones, postfeistr Henffordd, a Mr. William Jones" Crugan, Caernarfon. Mae y ddau bostfeistr wedi gwasanaethu y Llywodraetli rhyngddynt am 87 mlyn- edd. Dyrchafwyd Mr. Jones i Gaerfyrddin" Tach- wedd, 1903, o Winchfield, De Lloegr, ac aeth yn wr poblogaidd iawn yn y dref. Yr oedd yn flaenor gyda'r Bedyddwyr, yn un o sefydlwyr Cymdeithas y Cymmrodorion yn y dref, ac yr oedd yn un o aelod- au cyntaf y Cymdeithas Hynafiaethol. Yr oedd hefyd yn aelod o amryw gymdeithasau ereill. Mae yn Gymro i'r earn, yn awdurdod ar gestvll Cymru, uc yn eistoddfodwr dan gamp. Efe ydyw cadeirydd Pwyllgor Gorscdd Eisteddfod Caerfyrddin. Dy- wedir mai efe yw y Cymro cyntaf i lenwi swydd postfeistr Llandudno. PARCH. PETER PRICE A'R DIWYGIAD. Yn Nghymmanfa yr Annibynwyr yn Ffestiniog diwedd yr wythnos, sylwodd y Parch. Peter Price, B.A., wrth anerch ar "Amod dyfodiad y Dyddan- ydd," fod yn rhaid colli er mwyn enill. "BuddioL yw i chwi fy myned i ymaith, canys onid af, ni ddaw y Diddanydd atoch." Rhaid rhoddi Iesu Grist am yr Ysbryd Glan. Cyfeiliornad mawr y Diwygiad diweddaf oedd mcddwl y gallai yr Ysbryd weithio ar ddim ond swn, a nesaf peth i ddim hollol yw hwnw. Nid oedd y canlyniadau yn syndod b gwbl gan faint y swn oedd. Ïw gael, heb ddim arall ynddo. DAM WAIN GYDA AWYRLONG. Fel yr oedd cystadleuaethau gyda Ilongau awyr yn cael eu dwyn yn mlaen yn Bournemouth,, ddydd Mawrth wythnos i'r diweddaf, digwyddodd dam- wain echryslon drwy yr hon y collodd yr Anrhyd- edus C. S. Rolls, mab Arglwydd ac Arglwyddes Llangatwg, Hendre, sir Fynwy, ei fywyd. Cwymp- odd gan' troedfedd, gan dori ei wddf, fel y bu farw er braw i'r miloedd edrychwyr, cyn pen ychydig eiliadau. Yr oedd ei vveithredoedd gyda cheir motor ao awyr-iongau wcdi ei. wneyd yn. adnabyddue- drwy y byd, a disgwylid llawer oddiwrtho yn y dyfodol. Pan yr oedd yn uchel yn y wybren, derbyniodd gymeradwyaeth y miloedd edrychwyr, ond mewn amrantiad distawodd pob swn, a cWywïd dolefau- caionrwygol y dorf pan ganfyddwyd ef yn cwympo. Llewygai merched, ac yr oedd y dyc-hryn dyfnaf yn mhlith yr edrychwyr pan wclwyd ef a'i awyr-Iong yn disgyn fel mellten i'r ddaear. Rhedodd amryw fcdygon ato yn ddioed, ond yr oedd ei niweidiau tuhwnt. i'w gallu i'w gwclla, gan i<ldo, ar ol anadlu yn drwm dair gwaith, farw. Cludwvd ei gorph i babell y beirniaid. Yr oedd effaith y ddamwain yn annisgrifiadwy ar y miloedd vmgynnulledig. Tri munyd yn flaenorol, yn nghanol cymeradwyaeth y dorf, ac yn swn y seindorf,. esgynodd 1fr: Rolls yn ei awyr-long, ond trowyd y llawenydd yn alar a thrust o fpwn i dri munyd! Ychydig amser yn ol, cyflawnodd orchestwaith a synodd y byd, sef myned yn ei awyr-long i Ffrainc ac yn ol. N1 wyddai Mr. Rolls beth oedd ofn, ac yr oedd ei wrhvdri wedi ei osod ar ben pinacl anrhydedd.
CARDJS LLENGAR A CHERDDGAR.
CARDJS LLENGAR A CHERDDGAR. At Olygydd y JOLRNAL. Syr,—Yr oedd yn bleser mawr iawn genyf wcled llinellau Mr. Dan Jenkins yn eich rhifyn diwe 1 laf yn gosod allan awgrjmiad mor ddoeth ac Yn sicr rhaid fod yna lawer yn wir barod i gyd- olygu a Mr. Jenkins. Gresyn ydyw fod cymaint o len-y-werin yn myned ar ddifancoll o ddiffyg drech i'w groniclo. Byddai "Cymdeithas y Llofli J'J yn sicr o fod yn ddifyr iawn, a llonai calon ami un wrth weled colofn o'r fath ar dudalen Gymreig y JOURNAL. Yn Saesneg y mae y rhan fwyaf o fater- ion o'r fath wedi ei drin. ran amlaf v ond yr wyf o'r farn y rnedrid ennill lawer mwy o gefnogaeth yn y cyfeiriad yma wrth drin y pwnc yn Gymraeg. Mae yn reyn meddwl gymaint o bethau gwobrwyedig yr eisteddfodau bychain a mawrion sydd eto heb weled golcu ddydd. Yn wir dyddorol iawn fyddai cael "Colofn y Lloffion." yn gyfoethog o draddod- iadau lleol, hen hanesion, pennillion beirdd y werin, Caledau, dywediadau hynod, hanes hen gymeriadau YII llawn 0 0 bob nodwedd. Gobeithio v gwelir yr awgrym wnaeth Mr. Jenkins mewn gweithrediad yn fuan. Byddwn yn barod i wneyd fy ngoreu gyda'r gwaith, er mor ychydig yw fy ngallu. Dyma restr o enwau rhai fedrent gynorthwyo yn rhagorol:—loan Dafydd, Brythonydd, Miss Mary Thomas, Cledlyn, Mr. J. D. Lewis (Llandyssul), Parch. H. M. liams (Lledrod), Mri. J. M. Howell, L. J. Roberts, Ben Davies (gynt o Dyffryn Cerdin), a Uuaws o rai ereill trwy ranau sir. Beth pe cychwynyd colofn o'r nodwedd yma yn ddioed? Deuparth gwaith yw dechreu.—Ydwyf, yr eiddoch yn gywir, HOFF O'R HEN.
-. Y MUDION A'R BYDDARIAID.
Y MUDION A'R BYDDARIAID. At Olygydd y JOURXAL. Syr,—Diau ei bod yn hysbvs i lawer o'ch darllen- wyr bellaeh fy mod yn gwasanaethu i'r mudion a'r byddariaid ym 31hontypridd a'r cylchoedd er yn agos i chwe' blynedd. Yn ystod yr amser hwnw y mae y gwaith wedi ei arddel a'i lwyddo mewn modd rhyfeddol, ac yr ydym ninau, mewn canlyniad, yn ccisio ymgyfaddasu ar gyfer y sefyllfa newydd a grewyd gan y llwyddiant eithriadol hwn. Bydd yn chwith gan v darllenydd glywed fod y gymdeithas anhebgorol hon, sef Cenhadaeth Mud- ion Morganwg, mewn bod er's dros chwarter canrif, a'i bod eto heb un adeilad yn feddiant iddi hi ei hun. Nid yw hyn yn golygu ein bodn cyfarfod yn yr awyr ago red. Dyna yn ddiau a fuasai raid i ni, oni bai fod caredigion achoe yr Arglwydd yn rhoddi benthyg ystafloedd i'n gwahanol ganghen- d u gyfarfod ynddynt. Y mae yr ystafelloedd ben- thyg hyn yn addas iawn i addoli ynddynt, ond y mae arnom ni angen dybryd am Ie i ddwyn gwaith y Gymdeithas ym mlaen ohono, a He i fudion Ponty- pridd (oblegid dyna lie y mae y mwyafrif ohonynt yn byw) gvdgyfarfod am hyfforddiant ac adloniant. Yr ydym eisoes wedi cael darn o dir nas gellir ei gyfaddasaeh. gan Arglwydd Tredegar, un o is-ly- wyddion y Gymdeithas, ar delerau rhesymol iawn, ac yr ydym wedi anfon aiieliadau at holl eglwysi Cymru am Fit o Bunnau, y swm y credwn y bydd ei angen, at yr hyn sydd genym mewn llaw e soes. Cofier mai yr un gwaith a gvflawnir genym ni ym mhlith y mudion ag a gvflawnir gan ein brodyr yn v weinidogaeth ym mhlith y rhai sydd yn clywed. Nodwn hyn. gan fod llawer dan gamargraff mai ysgol i blant sydd genym, neu ryw fath o nodd-dy mawr. neu eluseridy o ryw fath; a'r dydd o'r blaen, holai brawd fi yng nghylch fy amddifatty Cofier fod y plant, a enir yn fyddariaid, neu a gollant eu elyw yn nyddiau eu mebyd, yn tyfu i fyny ac yn gadael yr ysgolidn. a'u bod hwythau mewn angen am bywyd fel rhywun arall. Cofier. hefyd, fod llawer fel fy hun yn colli eu clyw ar ol tyfu i fyny. ac y mae eisieu darpariaeth gyfaddas ar gyfer v rhai hyny. Gweinidogaeth yr Efengyl a gyf- lawnir genym. yn yr ystyr lawnaf a helaethaf. Gan fod bywyd yn un trwm o angenrheidrwvdd i'r bobl amddifad hy gwnawn lawer drostynt yn dym- horol. Chwiliwn am waith iddynt, a chyfranwn elusenau pan fo angen am danynt. A chan ein bod yn hysbvs o'u holl amgylchiadau, gallwn roddi yr effeithiolrwydd mwyaf i bob cvmhorth a estynwn. Cvdnabyddir ix>b rhodd yn ddiolchgar genym, ond eu hanfon i ni i Bontvoridd. i'r cyfeiriad isod.—\r eKldoch yn bur, J. HODFAX AXWYL. Bryn Tyvica Road, Pontypridd. [Cvnieradwywn y mudiad gwir deilwng hwn i sylw e 11 darllenwyr. Gwyddom yn dda am y maes a'r gwaith gwerthfawr a wncir gan y gymdeithas a'i harolvgydd.—Goi..]
I CASTELLNEWYDD-EMLYN
CASTELLNEWYDD-EMLYN MARCHXAD, Gorphenaf 15ed.—Marchnad fechan iawn, oherwydd yr hin ddymunoi i gynauafa gwair. Yr oedd y prisiau fel y canlyn:—Pyre, yn fyw, 7s yr ugain pwys; defaid, yn fyw, o 2c i 3c y pwys; wyn, yn fyw, o 3e i 3c y pwys; lloi, yn fyw, o i 4c y pwys; ednod ieuainc, o 4s i 5s y owpl (fjc y pwys yn fyw); ieir, o 2s 6c i 3s 6c y cwpl; hwyaid ieuainc, o 4s 6c i 5s 6c y cwpl (o 6c i 7c y pwys yn fyw); wyau, 16 am Is; yinenyn ffres, yn roliau pwys, lie y pwys; eto, yn dalpau, heb halen ac mewn llcstri, lOc y pwys. BWRDD Y GWARCHEIDWAID.—Dydd Gwener, y 15fed cvfisol, cynhaliwyd cyfarfod pythefnosol y Bwrdd mewn vstafoll yn y Tlotty. Yr oedd yn bresenol—Mr. W. J. Wallis-Jones, Pencader (yn y gadair), ynghyd a'r aelodau canlynol:—Mrs. Evans, Esgair, Penbrvn; Mri. E. Davies a J. O. James, Llandyssul; II, Davies, Sychnant; T. Morris, Cefnmaesmawr; J. Clarke, Dangribyn; Dr. Jenkins, Aberbanc, ac ereill, ynghyd a Mr. D. T. George, ysgrifenydd. Adroddiadau y Rheidweinyddion.—Darllenodd y rhcidweinyddion eu rhestrau cynorthwyol. Yr oedd Mr. KReps wedi talu yn y bythofnos £74 19s. i 209 o dlodion. a Mr. J- Thomas-wedi talu yn yr un amsiv £78 10s. i 247 o dlodion. Tlodion yn y Tlotty.—Yr oedd 23 o dlodion yn y ty yn yr wythnos gyntaf o'r bythefnos, a 21 yn yr ail wythnos, ar gyfer 17 a 18 yn yr amser cyfer- byniol y flwyddyn ddiweddaf. Or nifer yr oedd dau yn egwan eu meddyliau, a thri o blant yn mynychu yr ysgol ddyddiol yn y dref. Crwydriaid.—Yr oedd 59 o grwydriaid wedi bod yn y tlotty am y bythefnos, ar gyfer 83 yn yr amser cyferbyniol ddeuddeng mis yn ol. Yn Llaw y Trysorydd. Yr oedd y swm o £ 1,449 15s. 9c. yn llaw y trysorydd, yn dwyn llog ar y swm uwchlaw £ 500; ond mynegodd yr ysgrifenydd nad oedd y gweddill ond ychydig wedi talu yr holl ofynion. Gwasanaeth yn y Tlotty.-Cynygiodd Mrs. Evans, Esgair, ddiolchgarwch y Bwrdd i'r )1ri. Griffiths a Thomas, efrydwyr yn Ysgol Ramadegol Emlyn. am gynhal gwasanaeth Duwinyddol yn y Tlotty.-Caf- odd ei heilio, a chytunwyd yn unfrydol. Crwydryn wedi ei Niweidio.—Yr oedd un Joseph Birmingham wedi dyfod i'r tlotty wedi tori ei eis (ribs); nid oedd yr adroddiad yn mynegu pa fodd v cvfarfu a'r ddamwain. Marw yn y Gwallgofdv.—Darllenwyd hysbysiad o Wallgofdy Caerfyrddin fod un Daisy Walters. 45 oed, diweddar o Clawdd-du, yn mhlwyf Clydey, wedi marw yn y gwallgofdy. Tanysgrifio i Drysorfa M a n nn a e lh. — R hod d o d d Dr. Jenkins rybudd y bydd iddo yn y cyfarfod nesaf gynyg fod y Bwrdd yn tanysgrifio i drysorfa Mammaeth (Nurse), fel y gellir ei galw i WRsan- aethu yn y tlotty nan y byddo angen. Yr oedd nifer yr aelodau ag oedd yn bresenol yn y cyfarfod hwn or Bwrdd yn un o'r rhai lleiaf a welais er ys ugain mlyncdd. CYNGHORAll DOSBARTH GWLEDIG LLAN- DYSSUL A LLANFYRNACH. Yr oedd cyfarfodydd misol y ddau Gynghor i gael eu cynhal ar yr un dydd, ond oherwvdd y tywydd braf i gyAauafu y gwair, nid oedd nifer digonol or aelodau yn bresenol; felly cawsant eu gohirio am y bythefnos.
LLANSADWRN
LLANSADWRN MARWOLAETH MISS DAVIES, GYXT 0 ABERMARLAIS, —Mae genym y tro hwn y gorchwyl annymunol o gofnodi marwolaeth un a hoffid yn fawr gan bawb o'i chydnabod, yn mherson Miss Davies, gynt o Abertegan, yn y plwyf uchod. Hanai y chwaer o deulu duwiol a pharchus, a gellir gyda llawer o briodoldcb ddweyd fod deuparth o'u hyspryd wedi disgyn arni hithau. Bu farw yn nilodau ei dydd- iau, er galar mawr i bawb a'i hadwaenai. Er ei bod wedi gadael Abertegan er ys blwyddi lawer, eto yr oedd yn cael lie dwfn yn ei mynwes, ac yr oedd hithau yn ystod yr amser y bu yn preswylio yno wedi ennill serch ac edmygedd pawb o'i chylch. Fel prawf o hyn oedd y gynrychiolaeth gref oedd yn ei chynhcbrwng o'r ardal. Bu yr ymadawedig yng ngwasanaeth Miss Pelham, Abermarlais (Mrs. Rut- zen yn awr). am yr yspaid inaith o bymtheg mlyn- edd, a phrofodd ei hun yn wasanaethferch deilwng, a byddai yrr wcrth i luaws ereill ei hefelyehu yn y cymeriad yma. Pan glywodd Mrti. Rutzen am ei marwolaeth, bu flin iawn ganddi, ac anfonodd lythyr o gydymdeimlad at y teulu ac yn dwyn y dystiolaeth uchaf iddi fel cymeriad goncst a di- dwyll. Tua blwyddyn yn ol ymneillduodd o fod mcwn gwasanaeth, ac aeth i Lanwrtyd i fyw, e yr oedd wedi dodrefnu ty yn hardd a chyfleus i gadw yinwelwyr, a'r cyfryw yn mwynhau yn rhagor- ol i letya dan ei chronglwyd; ond nid hil" y bu yno cyn i'w hiochyd roddi ffordd, a bu farw wedi ychydig fisoedd o gystudd caled. Claddwyd hi yn mynwent Llariwrda daeth torf luosog ynghyd i osod ei phabell frau yn nhy ei hir gartref. Gadawodd ddau frawd a chwaer, ynghyd a Ilu mawr o gyfeill- ion a chvfeillesau i alaru ar ei liol. Yr oedd yn fcrch ietillnc ddiamheuol fel cymeriad tawel ac addfwvn. Nid rhosyn mewn diffaethweh ydcedd, ond rhosyn mewn gardd flodau. Ceid ynddi y cyfun- iad hapus o gymeriad hardd ac vmddangosiad hardd. Gadawodd gymeradwyaeth gyffredinol ar ei hoi; cymeradwyaeth ddigymysg rotldid iddi gan frawd a chwaer, a theimlem nad oeddynt yn def- nyddio gormodiaeth, er fod hyn yn demtasiwn gref i deimlad a phawb oedd bod mewn cysylltiad a hi yn dwyn yr un dystiolaeth. Huned ein chwaer anwyl yn y graean oer hyd y dydd y "Bvdd dorau beddau'r byd Ar un gair yn agoryd." D.B.T.
BRYNAMMAN
BRYNAMMAN MARWOLAETH MRS. JAMES, "GWALIA," LLAXDEILO ROAD.—Ar ol cystudd maith a ehaled, bu y chwaer uchod farw, yu 25 mlwydd oed. Dioddefodd ei chystudd yn dawel ac amyneddgar, a syhveddolai fod y "ty o waith llaw" yn dechreu dattod, a chaf- odd ei phriod a'i rhiaint le i gredu ei bod hithau yn aeddfedu i'r wlad, ni a hyderwn, "Lie nad oes tywyll nos Ond dydd a .phleser heb ddim blinder sydd." Pan yn ncsu tua glan yr afon, adroddai emynau salmau, a chynghorai ei phriod anwyl, i gofi, i, "rhau i arwain yr un bywyd ag oedd wedi arfer wneyd, a thystiolaethau yn ei horiau olaf ei bod "hi yn myned at Iesu Grist," a'i bod am cael ei gwrdd eto "Yn Salem lan oddeutu'r bwrdd," a chanai yr hen emyn adnabyddus hwnw ar ei gwely, "Ymadaw wnaf a'r babell." Gorchwyl an- hawdd ydoedd i briod anwyl, a mam a thad, oedd ffarwelio a'i hanwylyd yn niwl y glyn mor gynar, ond ni a hyderwn ei bod wedi ei chymeryd i'w thraws-blanu mcwn gwlad well, lie nad oes neb yn marw. Cafodd angladd lluosog iawn. Daearwyd ei gweddillion yn mynwent Moriah, yr hon eglwys yr oedd yr ymadawedig yn aelod. Gwasanaethwyd gan y Parch. Rhystyd Davies, gweinidog, a'r Parchn. W. D. Thomas, Gibea, a John Llewellyn, Ifethania. Gadawodd briod anwyJ a rhiaint, a brodyr a chyfeillion, i alaru ar ei hoi. Y prif alarwyr oeddynt-Mr. Tom James, Gwalia (priod); Mr. a Mrs. Daniel Morgan, Llandeilo-road (tad a mam); Mr. a Mrs. D. Morgan, Diyshvyn; a Mr. a Mrs. Willie Morgan, Cwmgarw-road (brodyr a chwiorydd-yng-nghyfraith). Nodded y nef fyddo drostynt oil yn eu dydd blin, yn neiliduol tad yr ymadawedig, yr hwn sydd ar wely cystudd er ys blynvddoedd. Ni a obeithiwu ei fod yntau yn aeddfedu i'r cynhauaf mawr, fel y caffont gwrdd eto "heb raid ymadael mwy."—"Brynfab."
FELINDRE A'R CYLCHI
FELINDRE A'R CYLCH YR YSGOL.—Cwestiwn sydd i gael ei ystyried yma yn awr ydyw yr un o eangu Ysgoldy Felindre, gan fod y lie yn brcsenol yn rhy fach ar gyfer y nifer o blant sydd yn ei mynychu. Galwodd Canon Jones (rheithor) gyfarfod o'r trethdalwyr ac ereill o blwyfi Penboir a Llangeler nos Fercher diweddaf cr ystyried y cwestiwn. Oherwydd y cynhauaf gwair, methodd llawer a d'od yn nghyd, ae fellv gohiriwyd y cyfarfod i nos Sadwrn, sef nos yfory, am saith o'r gloch. Mynegodd y Rheithor fod ganddo addewid- ion am oddeutu tri chant o bunau on daethant i'r penderfyniad o eangu yr ysgoldy preseno!. Ceisir penderfynu y cwestiwn yn y cyfarfod nesaf. GW>5LLIAXTAI\—HAL y crybw,yllwy<\ disioes. mae Mr. Robert Thomas wedi myned at y gwaith o gasglu tanysgriiiadau gyda'r amcan o gael seddau cyhoeddus yn yr ardal yma. Yr ydym yn deall ei fod wedi llwyddo yn hynod o dda, ac yn fuan iawn caiff yr ardal weled yn eglur o ffrwyth ei lafur clodfawr. Mae yr ardaloedd yma yn dyfod yn fwy enwog bob blwyddyn am eu hynnveiwyr, a thebyg iawn y gwna llawer ohonynt hwy roddi help i'r achos. Bydd seddau o'r fath yn gaffaeliad pleserus i'r gymydogaeth, ac mae Mr. Thomas yn deilwng o'n diolchgarwch am fyned at v gwaith. CLADDEDIGAETH.—Dydd Iau, 7fed cyfisol, liebryng- wyd gweddillion marwol y diweddar Miss Mary Jones, Yet (oed 46), i gladdfa Saron. Gweinyddwyil ar yr amgylchiad galarus gan y Parchn. E. T. Owen. Saron; W. Talvan Davies. Closygraig, a Idwat Jones, Drefach. Pregethodd Mr. Owen yn darawiadol iawn. Y prif alarwyr oeddynt—Mr. a Mrs. Sarah Davies, Newport, Drefach; Mr. a Mrs. Hannah Evans a'u merch; Miss Evan*. 52. Tudor- terrace, Aberdar; Mrs. Rees a'i mab; Mr. Daniel Rees, Gilwen Castle; Mrs. Ann Jones, Yet (chwior- ydd); Mr. al Mrs. John Jones, Bronial (iial), ac ereill. Dangosir v cydymdeimlad llwyraf a'r oil jrn eu profedigaeth o golli chwaer anwyl iddynt. Bu yr ymadawedig yn glaf am hir amser. a bydd y cof o'i chvmeriad tlws yn gysur mawr i'r oil o'r galarwyr. COR MEIBIOX.-Bydd yn dda gan lawer o ddar- llenwyr y JOURNAL ddeall fod Cor Mcibion Bargoed- Teifi yn myned yn mlaen yn hwylus o dan arweiniad Mr. Jenkins, ysgolfeistr. Pleser ydyw gweied y bechgyn ar eu goreu i anrhydeddu yr ardal, ac mae lluoedd o gefnogwyr o galon yn eidduno iddynt bob llwyddiant. Mae yn y cor eleni nifer mawr o wynebau newyddion o blith pobl icuainc y cylch. ac os bydd iddynt ddal yn mlaen yn benderfynol, maent yn sicr o orchfygu cyn y diwedd. Mae brwydrau Caerfyrddin a Chastellnewydd-Emlyn wrth y drws, a boed y fuddegoliaeth yn eiddo'r meibion.
YMWELIAD MISS WATKIXS A CHYMRU.
YMWELIAD MISS WATKIXS A CHYMRU. Draw, draw o'r Amerig, Dros wvneb y dw'r. Daeth geneth garedig, A phrydferth yn siwr, A Chymru yinwclodd Tro hwn gyda'i thad, Y r hwn a ddychwelodd I'w hoff anwyl wlad. Lie cafodd ei fag-u, Daeth adref bob cam, Y tro hWTI uï deulu I aelwvd ei fam; M ss Watkins siriolaf Ddaeth gydag ef, do, A hon Jongyfarchaf dyfod am dro. YlIlwelodd a Chvmru, Ll<> na bu o'r bla'n, iMae hon siwr o ddenu Meib awen a chan; 'Rwvf weithiau bron dotio Wrth weled v ferch Ddaeth o Coloado Yn llawn swyn a serch. cofio yr adeg Yniwelodd a'r wlad, Yn Nyffryn Ponrgarreg, Lie ganwyd ei thad; 'Nol lM)d yn y dyffryn, Symudodd nes lan", I balas y Glaslwvn, el, dyma y fan. Adeilad rhagorol. Adpilad go hardd. Mae hi gartrefol Fan hvn, meddai'r bardd; v ^Mae n pdrych mor Honed, Mor dlws ar y brig, nghanol y merched Ar lofft Capel Wig. Y inae Lizzie Nora. A'i gohvg yn well d'od i'r wiad vrna O'r Amerig bell; Pawb wna ei chroesawu Trwy Gvmru o'r bron, Mae'r bardd wedi canu Ar ymweliad hon. pgrau. ioAa- GLYNDW R. f
ADGOFION AM BENCADER. '
ADGOFION AM BENCADER. Adgofion am Bencader I mi yn swynol sy', Y fan lie ccs fy magu Sydd anwyl iawn gen i; Fe garwn i yr avvrhon Gael eto fyn'd yn ol I'r ardal lie y magwyd, Mae hiraeth ar ei hot. Hen graig y Bane sy'n aros, A'r Castell gwyrddias ban, Lie bum i gynt yn chwareu Fel oenig gylch y fan; Maent hwythau, Gwen a Tweli, Yn rhedeg ar eu hynt, Ac hefyd afon Talog, 'Run fath a'r amser gynt. O bulpud ya hen gapel, Sy'n aros yo, y lie, Fe glywais fawl a moliant Yn esgyn tua'r ne'; A ilawer o annogaeth A gefais ar y Sui Yn Eglwys Fair, Pencader I rodio'r llwybr cul. Yn y "Beeliive" fe dreuliais Yn ddedwydd foreu'm hoes Tan ofal fv rhieni, Heb nemawr 'stormydd croes; Ac O! mor ddedwydd oeddem Ar aelwyd chwech o blant; Nid ydym yno heddyw I chwareu ger y nanL 'Dyw Liza, fy chwaer henaf, I'w chael ar dir y byw, Yr hon fu'n canu ganwaith Mor swynol yn fy nghlyw, 'Rwy'n credu'n gryf yr awrhon Ei bod hi mewn gwell lie, Ynghartref yr angvlion Yn canu yn y nc'. Fy hoff a'm hanwyl riaint Sy'n mynwent oer v plwy', Eu gwenau a'u cynghorion Ni theimlaf nio nynt mwy; Rwyf yma fel pererin Yn anial dir, Gobeithio y cawn eto Gydgwrddyd cyn bo hir. Ffactri Aberarad, Casteilnewydd-Emly^ LEWIS"
ER COF
ER COF Am Ivor, mab Mr. a Mrs. Davies, Medical Hall, Llandyssul. Bu farw Mehefin 23ain, 1910, yn 16 oed. Ysbeilydd bywvdau, hen. hen, lofrudd cysuron Yw angeu, bri ingoedd a brenin y braw; Gwahana gyfeillion, dinystria amcanion, Gan rodio o amgykh a l gledd vn ei Jaw; Hvf borthydd v beddrod, hen rwygwr dvnoliaeth Ond eto cenadydd Creawdwr bvd yw cludo enei<liau i wvnfyd neu alaeth Mewn bywyd tragwvddol i wyddfod ei Dduw. Mae Scion Llandyssul mewn drylliog deimladau, Dan loes ei harchollion yn welw ei gwedd Y dagrau sy'n treiglo i lawr dros ei gruddiau, 1-e -syrthiodd un ieuanc gobeithiol i'w fedd, Fel gwywa'r glaswelltyn, fel syrth y blodeuyn lan rewllyd awclon gauafol oer gledd, Fe. syrthiodd ein Ivor, yr hoffus fachgenyn, Gwyllt stormydd yr ingoedd a ddryiliodd ei sedd, Os tarawodd ei lbtr ar greigiau afiechyd, Os angeu a beddrod yn gynar wnaeth gwrdd, r.1 enaid a hedodd i wvnfa uwch adfyd [ wlad y cysuron aeth gofid i ifwrdd; Os yw ei gyfeillion dan gwmwl o brudd-der, ir l nie,?,n llawenydd dibaid 'rochor draw in chwareu ei delyn dan haul pur Cyfiawnder, Yn rhodio hcirdd fryniau Cacrsalem heb fraw. Dilynwyd ei elor i'r bedd gan ugeiniau O'r plant fu'n cydchwareu yn wylaidd eu gwedd, Distawrwydd galarus yn ffurf eu gwynebau, Gan gario tyrch-flodau i'w rhoi ar ei fedd. O! Ivor anwylgu! mae'n anhawdd ei gladdu, I'r b«xld rhaid ei roddi, y bachgen dinam', 0 lIa. nid efe, ond y corff fu'n anneddu Adawyd i huno yn mynwes ei fam. Ein tirion Greawdwr, ein Duw Hollalluog, 0 cynal ci riaint yn ngwyneb y groes, Cysura eu meddvl, a gwna hwy'n gyfoethog Mewn rhmwedd a chariad vn addurn i'w hoes; 1 erthynasau ac ereill sy'n teimlo yn unig, Na wylwch o heiwydd ei ddodi mewn bedd, O r niwl fe aeth adref i'r nef fendigedig I fynwes yr Iesu i ganu mewn hedd. Cyfoder i'w cnw gofadail o fynor, Ac arm flodeuglwm alinonaidd ad, Aurg-ertiad, a i enw to genym vn drysor ( erubiaid goleuni uwchben -ei orweddfa Yn ^wylaidd ymblvgu n alarus eu gwedd, l-i wch oy^redi? angylion a'i gwylia Hy0. floedd yr Archangel i'w alw o'r bedd. Llandyssul. D.F.H.