Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

NODION 0 ABERGWILI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION 0 ABERGWILI Y Nadolig a aeth hebio, fel arfer, gan adael llawer mewn gofid a galar, cystudd a phoen, llawnder a thlodi, yn noeth ac yn gaeth, a threuliwyd yr wyl hefyd gan luoedd mewn gloddest a meddwdod, angen a chrindod; ac mewn can a chlodforedd, sisialoedd yn dawel iachawdwriaeth uwch ben cryd y Baban, newyddion da wrth ddor yr ieuenctyd, a sobrwydd yng nghlustiau'r canol oed, a thangnefedd yng nghalon yr hen a'r methiedig. tvwalltodd olew ar glwyfau'r dioddefus, madtfeuant i'r ed!ifoirJol, a goleuni ar dywyllwch caddugawl y fagadu, a chyn yr ymwel a ni eto, bydd llawer pen wedi ei guddio, llawer calon wedi ei chlwyfo, a Ilawer enw vn gerfiedig ar feini y dvffrvn. Ymwelodd a'n bvd v tro yma ar hin laith a thymmeredd, ac nid a'r rew ac eira fel y disgwyliem, a dywed hen ddiareb Gymraeg. "Daear las wna fynwent fras." YN YR EGLWYS ar ddydd yr wyl uchod, cynhaliwyd cvfarfod am saith o r gloch v boreu. Yr oedd yr adeilad oddi- fewn wedi ei addurno yn brydferth, a thyrfa luosog wedi dyfod ynghyd i daiu gwarogaeth ar ddydd genedigaeth J* Ceidwad, ac a offrymasant iddo eu hanrhegion mewn mawl a chan. Darllenwyd rhanau or He brea;d ac o'r Efengyl yn ol Sant loan gan y Parch. T. Thomas, y ficer, a'r Parch. D. J. Evans, curad, a chanwyd emynau, "Wele ganwyd y Mes- siah," "Dyma Geidwad i'r colledig," etc., ac unwyd mewn cymundeb a Duw yng ngweinvddiad vr ordin- had o'r swper olaf. Eto am wyth o'r gloch aed drwy yr un ffurf o wasanaeth yn yr iaith Scisneg, a bu cyfarfodydd yn ystod y dydd, fel arfer, a ph'rc- gethwyd yn f-,ff(-;thiot lawn gydag arddeliad nelilduol ar ranau o'r Ysgrythyr ag oedd vn cvfatteb y dydd pwysig, gan y Parch. T. Thomae, y ficer, i gynnulliadau lluosog iawn. YN EBENEZER bu cyfarfociydd gweddi am naw a deg o'r gloch y boreu, a bu y piant yn myned drwy eu rhaglen am ddau yn y prydnawn. Adroddwyd yr ail bennod yn Matthef gan chwech o ferched bychain yn dda a chywir, ac arweiniwyd mown gweddi gan Mr. Thos. Davies, hen feistr yr orsaf, a chanwvd ton; yna ymgymerodd y Parch. D. Williams, y gweinidog, at faes eu Uafur. sef hanes genexLgaeth a bywyd Iesu Grist, a chafwyd atebion bywiog a boddhaol, a chanwyd amryw donau dan arweiniad Mr. James Evans, Bodarddu, a chyfeiliwyd yn rhagorol gan Miss M. Davies, Bwlch 'Bach. Yr'oedd yr holl waith yn ganmoladwy, ac yn dangos ol ilafur, ac yr oedd llawer o'r clod hefyd yn ddyledus i Mrs. Williams, Rosendale. Yn yr hwyr am chwech daeth y rhai mewn oed ynghyd, gan fyned drwy yr un cwrs o wasanaeth. Dechreuwyd trwy ganu, ac yna adrodd- wyr yr ail bennod yn Liyfr Joel gan Miss Maria Evans, Tanrallt Cottage ,a chafodd ganmoliaeth uchel iawn am y fath adroddiad ardderchog a di- wall gan Mr. Williams, y gweinidog, yr hwn hefyd a arweiniodd mewn gweddi ddwys a dyfal; yna canwyd anthem, A'r Gair a wnaethnwvd yn gnawd"; yna adroddwyd yr ail bennod o r Efengyl yn ol Luc yn adranau gan y gwahanol ddosbarth- iadau, ac nis gallwn eu canmol yn uchel am hyn; ond yr oedd yr holi a'r atebicn yn dda a boddhaol, eto canwyd anthemau "Gogoniant i Dduw yn y Goruchaf" a "Jerusalem fy nghartref gwiw," dan arweiniad Mr. Willie Thomas, Glangwili Farm; a chyfeiliwyd yn ddestius gan Mr. D. Lewis. Gifre- gardens. Cydnabyddwyd eu gwaith gan Mr. Wil- liams fel un ag oedd yn teilyngu canmoliaerh uchel; a dymuna.i y byddai iddynt i barhau yr un mor weithgar a bywiog yn y dyfodol, a goilyngockl yr oedfa drwy weddi. MARWOLAETH. "Ei ffyrdd Ef sydd yn y mor, a'i lwvb-au yn y dyfroedd dyfion," ac nid fel yr edrych dyn yr edrych Duw; trefnu a chynllunio yn mlaen llaw y mae dyn; ond nac ymffrostia yn y dydd yfory, medd Duw, ao fel adroddodd yr hen wr Mr. Benjamin Evans yr emyn canlynol i ni:— Cyfnewidiol a siomedig Ydyw holl flinderau'r oyd, Pan yn meddwl daw gorfoledd, Tristwch ddaw i lanw'n bryd; Pan mae gobaith yn addawu Yn nyfodol dedwydd lion, Yn ddisymwth oerwynt angeu Chwael pob cvsur dan ein bron. Ac felly y bu, yr wythnos ddiweddaf yn marwolaeth Mr. Thomas Dyer, 50 oed, Abergwili. gynt o'r Felin Esgob, pa un a gymerodd le ar y 19eg, ar ol rhyw bum inlyrieddo afiechyd, a chafodd gystudd trwm yn ystod y tri iilit olaf, pa rai a wasanaethodd yn dawel ac arvjy/kxfclg-ar. "Cn o'i ragorion oedd ei dawelwch a'i heddychrwydd a phawb. Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn ardal Peniel, yn mha le yr oedd hefyd yn aelod ffyddlon pan yn ei allu, a gwelwyd llu o'r ardal hono fel hon yn vmweled ag ef ar droion heblaw ei barchus weinidog, Mr. Jacob, pa un a fu yn ffyddlon iawn iddo yn ystod ei gystudd maith. Daeth tyrfa luosog ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddo y dydd Gwener canlynol i heb- rwng ei weddillion i fynwent yr eglwys yn y lie. Gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch. D. Williams, Ebenezer, a'r Parch. H. J. Jacob. Peniel, ac yn yr Eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch. T. Thomas, ficer, a'r Parch. D. J. Evans, curad. Gadawodd ar ol briod, pa un a fu yn dyner iawn yn gweini iddo ddydd a noe yn ystod yr ysbaid o amser, a'i mab, pa un sydd yn yrwr modur gan y boneddwr Mr. John Cory, Caerdydd, a lluaws ereill o berthvnasau hoff. Yr Arglwydd a fyddo iddynt yn ol ei addewid ydyw ein dymuniad. FELINWEN. Y mae yma un o'r sefydliadau hynaf yn yr ardal, ac ychydig sydd heddyw yn cofio ei sefydlu, sef cyfarfod adloniadol ar noson Nadolig, ond cynhaliwyd ef y tro yma y nos Lun canlynol, a rhyfedd y tyru sydd iddo yn flynyddol, ieuenctyd y mynydda ua dd-euant i waered fel drudws, a'r rhai o'r gwastadedd fel soflieir; daw hefyd yn eu mysg ambcll i un yn debyg i ddylluan, ac arall fel aderyn y bwn, gan daflu ami i screch oerllyd tie-, tori ar odidogrwydd ac ardderchowgrwydd y chwareuyddiaethau, ac nid yn unig arswydant y gweithredwvr, ond braidd rhwygant y sidan main a'r brethyn cul ag sydd wedi eu halltudio yn frenhinoedd a breninesau, pendefig- ion a phendefigesau, a thywysogion a thywysogesau, heb law gyru rhai o'r gwran^awvr i heintiau caddug- awl wylofus y fagddu, ac yn yr amrywiaerhau a geir yma y mae rhyw bethau yn nodweddu yr oil o honynt, ac yn creu digrifwch anarferol i'r gwran- dawvqr, ac y mae gogoniant y gweithredwyr yn eu gwisgoedd, eu harddwch yn eu hedrychiad, eu caredigrwydd ar eu gruddiau, a'u hattyniad yn eu lleisiau, ond diwedd y gan yw y geiniog. Llywydd- wyd gan y Parch. D. Williams, Rosendale, ac yr oedd y chwareufan wedi ei harddu fel neuadd fren- hinal o amrvwiaeth ac amryliw. Cyfeiliwyd vn fedrus gan Miss Bessie Harris," Y Felin;" Miss Mabel Jones, a Miss Cassie Davies, Abergwili. Cafwyd y gan agoriadol gan Mr. J. Lloyd, Tumble, a chafwyd adroddiadau dyddorol a difyrus, ynghyd a chaniadau o bob math gan blant yr ysgol ddvddiol y lie,. dan arweiniad Miss Jones, yr y^golfeistre?. Yr oedd gweithrediadau y rhai yma yn un o'r goreuon, ac yn dwyn clod nid bychan i fedrusrwvdd M.ss Jones. Cafwyd hefyd ddau adroddiad ardderchog arall, sef 'Y Fam a'i Phlentyn," gan Miss Maria Evans, Abergwiii, "Fidelity by Lord Tennyson," gan Mr. Daniel Davies, Crossing, Abergwili. Piano solo gan Miss Griffiths, actmeillionog. Violin solo gan Mifcs Dalies, Llanelli; unawd gan Mr. J. Llovd, Tumble; eto deuawd gan Mr. J. M. Harris a Mr. J. Lloyd, ac yna ymddangosodd y teulu brenhinol mewn rhwysg a mawredd ar y llwvfan, ynghyd a'u gweision a'u morwynion. Gweithredodd Mr. E. Edwards fel tywysog, a Miss Maggie Harris fel y dywysoges Zara, a Johnny Davies fel y brenin, a'r rhai canlynol yn gweini iddynt mewn caniadau a gweithrediadau, sef y Mri. Willie Thomas, Felinwen; Thomas Phillips, Tom Francis, a Tommy Price, Alltygog, a Misses Sarah Davies, Tycanol; Mary Davies, Alltygog; Ellen Evans, Crossing; Hannah a Jemima Davies, Sarah Ann Daniels, Sarah Davies, Sarah Ann Thomas, Lizzie Mary Davies, Olive Evans, Bessie Lewis, Eliza Thomas. Ellenor Mary Francis, Maggie Edwards, Sarah Ann Evans, a Bessie Jeremy, ac aethant oil drwy eu gwaith yn anrhydeddus, a chanwyd "Hen Wlad fy Nhadau" ar y diwedd. DYFFKYNOG.

Advertising

DADGYSYLLTIAD A DADWADDOLIAD1…

YR EGLWYSA'R ADFYWlAD CENEDLAETHOL…

Advertising

TROS Y MYNYDD

Advertising

Y MILFLWYDDiANT

CYNGHOR DGSBARTH GWLEDIG CASTELL-NEWYDD-EMLYN.

Advertising

; CYFARCHIAD

Advertising