Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

21 erthygl ar y dudalen hon

I NOMON 0 ABERCWIL1.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I NOMON 0 ABERCWIL1. Gyda'r wawr mor swynol i'n clyw ydyw can yr adar man, y -gog hefyd a ganodd i ni ei hanthem "Ffarwel haf,' ao a ddefnyddiodd ei hesgyll uwch tonau'r aig i chwilio am wanwyn arall wlad, lie y ca ymborthi ar gynwysion nythod adar ei dolydd. Ac yn cymeryd Uwyfan ei ohan yma, ceir peirian- au'r amaethwyr gyda'r wawr yn dadseinio, nee y mae pob clogwyn a dol yn taflu ei gwiegoedd tadaa- aidd amryliw yn ebyrth i'w deheuad. Ond or em gorawydd am amser gwell, ni theifl yr haf i ni eto ei belydryn disgleer eirias, ac mewn canlyniad gwelir yr hwsmoo bob boreu o'r newydd yn onro yr hinwydrao gyda'i ddyrnau geirwon, gan ei bygwylSfc fel pe bai yr haul yn llettya yn eu hymysgaroedd eiddil yn ystod y nos, heb ystyried ei resymol «as- anaeth o blygu ar ei liniau a ohuro wrth hen wydrau Palmant y Duwdod, He mae yr huan yn eael gorchymyn bob boretl i ble ac i bwy yr ymddengys ei ruddiau. GENEDIGAETH. Dydd Mawrth, Mehefin y 17eg, pried Mr. D. Lewis, Gifre Gardens, gynt arwyddwr yng ngorsaf Bronwydd Arms, ar ferch. Y ddel ddrudfawr ddiledryw,-O m¡w'n Hon Mwy na llawn ty ydyw, Denol fod, daw yn fenyw. Yma gwel mai g-wa&ledd yw. EIN GOF GRADDIOG. Y mae Mr. W. Jonee, R.S.S., Felinesgob, wedi gorphen ail-adeiiadu ei eiaii yr wytbnos ildiweddai, heb law ei fod wedi eangu'r terfynau. Y mae wedi afionyddu awyrgyich y ber nefyd, a medr o hyn allan drwsio traed ryw cmvec/i o feiron yn eu tro mewn diddosrwydd. Yr adeiladwyr oeddynt y Mri. Edwards, Mount Pleasant, Felinwen; Mr. Richards, Penygader, a Mr. J. Davies, Black Ox Hotel. Y mae i'r adeilad ddor llydan ao uchel, fel y gellir eludo i fewn ao allan droiiau gyda rhwyddineb. ao y mae yno ffenestr fawr brydferth, tebyg i alches ail law rhyw eglwys neu gapel; ao os telly, tebyg y llewyrcba arno o hyn allan oleuni gwell er aileni ei dalentau gwych, ac hyderwn y ca yng nghwmn ei fam oes hir a iechyd da i fwynhau o ffrwyth fn lafur. SYR JAMES DRUMMOND. Hunodd Mehefin 15fed, 1913. Un llawgar yn ilywio'r llu,—fu lago, Fawrygodd glod Cymru; Mewn sawdd tan mae'r Syr a fu, A gwerin yn galaru. PENIEL YN BLODEUQ. Boreu Sul diweddaf, yn Ebenezer, derbyniwyd cais oddiwrth uelodau Yffgol 8u1 Peniei yn gofyn am ganiatad iddynt gael adrodd a chanu yn hwyr y babbatn canlynol, sef yr 28ain, ac atebwyd yn gadarnhaol fod porth Ebenezer a dor pob calon yn rhydd iddynt. Yn yr hwyr daeth cais cyffelyb oddiwrth Ysgol Sul Capel Cwmdwyfran, yn gofyn am hwyr y Sab- bath cyntaf neu yr ail yn Gorphenaf. Rhoddwyd croesawiad cynhes iddynt hwytiiau hefyd; a u hym- weliadau ddyro gychwyn i gapeli'r wlad yw ein dymuniad. GALW I GYFRIF. Nos Fercher .y 18fed, cyfarfyddodd prif swyddog- ion Pabeil y Recabiaid yn Festri Ebenezer, gyda'r amcan o drin rhai matenon anghyireithlawn acnos- wyd yn nherfysg y cyfarfod bythgofiadwy blaenorol, dan lywyddiaeth Mr. D. Arthur, Cwmau Cottage. Yn gyntaf oil brawychwyd y liys drwy i un o'r brodyr fygwyth y byddai jddo ymaflyd yng ngholor y cyntaf godai ei lais yn uwch na'i don arferol a'i symud allan drwy y ddor. Yr oedd y brodyr yn disgwyl rhywbeth gwell na hyn oddiwrth ddiaoon yn eglwys Dduw. Ai tybed mai ymffrostio yn ei ddwrn yr oedd yn hytrach nag yn ngair y Gwir- ionedd? Drwg genym eto orfod gwireddu "Llith Twm 'Barels." Yn nesaf galwyd un o'r trosedd- wyr i'r fainc ar y cyhuddiad o gam-liwio ei gyd- frawd, pa un oedd wedi bod mor anffodus o golli aelod o'i gorph mewn damwain ddifrifol. Darfu i'r brawd wadu'r cynuddiad ddygwyd yn ei erbyn yng ngwyneb tystion, a gadawodd y llys, ynghyd a'i dystion, cyn i'r ddedfryd gael ei chyhoeddi, a deallwn fod gwarant allan am danynt i ymddangos yn y sessiwn nesaf; ac hysbysodd y clerc, Mr. T. Evans, nad oedd efe yn bwriadu ymsymud cyn cael heddwch a chyfiawnder i fodoli mor lan a dail ei lyfrau, ac y mae hyn yn liefaru cyfrolau am Mr. Evans fel ysgrifenydd gwych y gymdeithaa. Yr oedd Mr. Arthur hefyd braidd yn Uwfraidd wrth ymadael, oblegid gwyddai nad oedd par o fenyg gwynion yn ei aros y sessiwn nesaf. FELINWEN. Dydd Llun, yr 16eg cyfisol, cynhaliodd Ysgol Sul yr Annibynwyr wledd o de a barl brith yn ysgol ddyddiol y He. Yn mhlith y gwahoddedigion yr oedd Mrs. Maauchelli a Miss Gravenor, Alitygog. Miss Jones a Miss Davies, sef v brif a'r is-athraw- esau; y Pa/ch. a Mrs. D. Williams, Rosendale, a'r Parch. P. Daviefl, Pantteg. Yn gweinu wrth y byrddau yr oedd Misses Harris, y Feim; Mrs. Da-vies, Fronun; Mrs. Ilees, Ailtyfyrddin; Miss T. Lewis, Quarry Lodge; Mies Liavie6, Tycanol; a Miss Francis, Alltyfyrddin Uchaf. Yn tafelio'r bara yr oedd Mrs. Williams, Miss Hinds, a Mrs. Harris, y iFelin. Yn darparu y te yr oedd Mrs. Edwards, Mount Pleasant. Yn croesawu'r dieithriaid a'r plant yr oedd Mr. Hinds, Mr. Davies, Grocery; Mr. Davies, Panty- ddauddwr; Mr. Jones, Felinwen, a Mr. Edwards, Mount Pleasant. Parhaodd y wledd o dri o'r gloch hyd 8.30, ac ar yr awr olaf gweinyddwyd gan Mrs. Phillips, y Llythyrdy; Miss K Lewis, Quarry Lodge; Miss Jemaima Davies; Miss M. Davies, a Mws L. Phillips, Alltygog Farm; a Miss E. M. Evans, Merlin's Grove. Dosbarthwyd y melusion rhwng y plant gan Mr. J. M. Harris. Yn coroni'r wledd oedd bara brith y Bristol House, Caerfyrddin, a hara gwyn a brown Mrs. Harris, y Felin; a melusion vIr. E. Davies a Mr. D. Davies, ac ymenyn Tyllwyd, a i daeth yr amaethwyr a llaeth ddigon yn rhad. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyngherdd dan flrweiniad y Parch. D. Williams, a chafwyd adroddiadau a chaneuon da gan ser di«giaer y cylch, a chydnabyddwyd ymdrech. a Hafur pawb efo'r cwrdd a'r wledd da, a ther- fynwyd trwy ganu "Hen Wlad fy Nbadau." MR. MILES A'R MODUR. Dyad Mereher, y 18fed, moduriodd Mr. Jones yng nghwmni Mr. T. Beynon, Pencader, yn ei fodur am Gaerdydd. Cychwynasant am bedwar y boreu, a chyrhaeddont Caerdydd am wyth. Yn diweddarach yn y dydd tarawyd Mr. Jones a syndod pan welodd ei gymydog drwe nesaf iddo, sef Mr. Miles, yn ymddangos o gyloh y "Terra Nova," sef y Hong aeth ailan am bogwn y De. Yr oedd Mr. Miles wedi bwriadu ynghudd a thawel gyrhaedd Caerdydd o flaen y modur trwy deithio efo'r tren 7.16 o Gaer- fyrddin; ond yr oedd y modur wedi cyrhaedd pen y daith ddwy awr o flaen tren Mr. Miles. Ond daethant oil adref yn gysurus yn y modur mewn amser da. DYFFBTNOG.

. AT EIN BEIRDp.

Advertising

HWNT AC YMA.

. GLYNARYHEN

BETHESDA, GER DREWEN

- PENBRYN, CEREDIGION

CAPEL NONNI

LLECHRYD

PiSGAH, CEREDIGION

REHOBOTH

4p AT EIN GOHEBWYR.

Advertising

ALLTWALIS.

. Y GOLOFN FARDDOL.

[No title]

CARMARTHEN.

LLAHDTLO.

Rural District Council

CARMARTHENSHIRE INSURANCE…

[No title]