Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
m IDrcbo A WELSH WEEKLY r 1851. ESTABLISHED 1851. Every Thursday Morning. J. GRIFFITHS, Proprietor^ UTICA, N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.-The attention of business men in general is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with subscribers in every State and Territorj cf the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
IGALLU A BYWYD Y GREADIGAETH.
GALLU A BYWYD Y GREADIGAETH. Gan Efben P. Davies. iPenod IV. Ileb fanylu. dim ax yr hyn a wyr dyn drwy broliad am ddylanwad y rhywiau ar P-u- gilydd, gofynwn i'r darllenydd i gofio bob amser, pan tyddwn yn F- drin ag amlygiadau rhyfedd y cadarn- lieol a'r nacaol drydanol, i bwyso a ir^siir yr amlygladau hyny yn ngoleuni ei torofiad. Os gwna hyn, daw troion cy;friniol natur mor syml ac eglur iddo ag yw troion cyffredin dydd ar ol dydd; li. y., daw i ddirnad'mai yn unol a'r un ddedclf y rhoddir bodolaeth i allu a bywyd drwy boll adranau y greadig- aetb. Nid yw y ddeddf hon yn igyfyng- eaig, chwaith, i'r materol, eithr ym- estyn i'r ysfbrydol hefyd. Nacaol a s f/'u.^amliaol, igwagder a llawnder, yw dot yr anweledig fyd fel yn y byd gw, ..edig. Onid yw yn wir i brcfiad y H darllenydd, mai pa wacaf yr a at lDduw oil yw o dderbyn bendith? Ych-, ydig dros flwyddyn yn ol anfonais i'r "Dryoh" gyfres o erthyglau ar "Y Penaf o Bechaduriaid," nid oedd yr ys- grtfau hyny ond ymdriniaeth o'r un ddeddf, yn y moesol a'r ysbrydol, -dan dennau gwahanol, megys "Ideal a Real," neu "Rhai cyfiawn a iphechadur- iaid." Mewn termau gwyddonol gellir dweyd na ddaeth Iesu i'r byd i geisio rhai cadarnhaol, ond rhai nacaol; nid rhai llawnion, ond irbai gweigion; nid rhai cyfiawn ondpechaduriaid i edifeir- wch, neu os mynwch, rhai gweigion i'w j llanw, neu rhai nacaol i'w cadarnhau. Ie, "deddf naturiol yn y byd ysbryd- ol." Neu, os mynwch, ddeddf yslbrydol yn y byd naturiol; y mae y naill ffurf gystal a'r llall, ac o bosibl yn well, o leiaif, rhydd y flaenoriaeth i'r ysbrydol. Ei oed yw tragwyddoldeb, a'i natur yw anntghyfnewidioldeb. Gweithreda bob amser yr un fath, ond y mae y cyfryng- au yn llawer ac yn amrywiol, ac o'r amrywiol a'r gwahanol gyfryngau yn unig y cwyd y gwahaniaeth ymddangos- iadol yn ei chynyrch. Os teimla rhyw- un i wrthwynebu rhywbeth a ddywed- wn yn yr ysgrifau hyn, arosed hyd ar ol iddo ddarllen yr olaf cyn igwneyd, erbyn hyny dichon y gwel nad oedd cy- maint yn ei wrthwyndbiad ag al dylbiai; os cydymffurtfir a hyn, ceislwn gyfarfod ag unrhyw wrthwynebiad a ymddengys. y m yr yegrif dd! Fel y sylwasoan yn yr ysgrif ddi- weddaf, weithiau gwna trydaniaeth nacaol y ddaea-r ddyifod yn fwy gweith- gar na'r cwmwl cadarnhaol sydd uwch ei iben, a'r hwn yr ymgaia am gysyllt- iad. Pan ddygwyddo hyn, ffurfir llin- ell ehedfaenol (magnetic line) rhwng y ddaear a'r cwmwl, ac yna bydd arllwys- iad o'r drydaniaeth nacaol tuag i fyny, drwy yr hwn y diarfogir trydaniaeth gadarnhaol y cwmwl, ac yr amddifadir ef o'i nerth, a'r canlyniad yw cydfbwys- edd trydpncvl. Pan fyddlo y nacaol wedi dyfod yn fwy byw na'r cadarnhaol y mae ei fflachiadau, tuag i fyny i'r cwmwl, yn wyn-las, tra y maefflach- iaclau y cwmwl tua-r dd.aeax, neu tuiag at igiwmwl is, yn goch-las. Yn wyneb ,yr arbrawf a roddwyd yn yr ysgrif ddl- weddaf, credwyf nad oes un meddwl di- duedd a wad mai yr haul yw ffynonell: trydaniaeth. gadarnhaol; ac y mae mor! ddiameuol a hyny fod yn gynhenid i'r d'daear drydaniaeth nacaol. Profir hyn gan ei liw igwahanol, a chyfeiriad ei sy- tnudiad. Fel yr awgrymwyd yn barod, un o ?anlyniadau gwrthrywiol yr haul a'r idaear yw fod ymlyniad cryf rhyng- Mynt. Y mae i'r ymlyniad cydgyifran- )g()l hwn eto ei ganlyniadau arbenig, a :hyn y igwnawn gymwyso y gallu ys- ?ogol at ei walth, gw-nevrn sylwi ar um )'r canljmiadau hyn. Drwy yr ymlyn- ad a fodola, derbynia y ddaear lawer DWy o wres a thrydaniaeth nag yr ym- ddengys ar y cyntaf. Profwyd drwy yr arbrawf yn flaenorol fod mwy neu lai o dry,daniaeth yn mhob pelydryn, ond ni dderbyn yr haul-wydr amgen y pelydr- au unicnsytli, tra y derbyn y ddaear lawer rha;o1' na'r rhai hyn, oherwydu yr ymlyn'lui rhwng y ddaear na- caol a'r cadarnhaol. Daw i'r ddaear [7:1 finferth o belydrau a elent heilbb i-icli, ar eu cwrs unionsyth oni bai am yr ymlyniad sydd rhyng, ddynt, a chyfnewidir y goleuni a'r gwres cydatdynedig hyn i drydaniaeth weithredol ac ysgogol. Yma eto, fel yn y ddarpariaeth i wasgaru a chyfartalu'r gwlaw, ac y rhwystrir hollt-gymylau dinystriol, gwelwn ardderchawgrwydd y ddeddf drydanol, a darpariaeth ddoeth y nef er crynhoi ar wyneb Ipobplaned lawer mwy o allu a bywyd nag a ddeuai iddi heb y ddeddf hon. Gwelwn yma gynil- deb natur mewn darpariaeth i ymestyn allan i'r eangder ar bob Haw i'r blaned a thynu i mewn elfenau i'w cymwyso i wasanaeth-elfenau a- elent yn was- traff oni bai am gydatdyniad y gwrth- rywiol drydanol. Yn awr, wedi eyflwyno i'r darllenydd ffynonell y gallu, ac wedi profi iddo fod y ffynonell hono yn ddihysbydd yn ei chymwysder i anfon i'r ddaear yn barhaus ac yn ddiddiwedd ddigon o drydaniaeth. i'w hysigogi a'i llywodT- aethu yn ei Voll amlygiadau, yr ydym yn barod i gymwyso y ga;llu at ei wa- hanol orucbwylion. Bu farw Syr Isaac Newton, darganfyddwr a chyfundraeth- wr dysgyrchiaeth (gwell genyf "ddys- gyrchiaeth" na "dysgyrchiant") yn y fiwyddyn 1727, pan oedd Benjamin Franklin, darganfyddwr cyffredinedd, neu hollbresenoldeib trydaniaeth, ond un-ar-hugain oed. Yn y flwyddyn 1752i gwnaeth Franklin yr aIfurawf rhytfedd^ ol hwnw o'r barcud papyr, ac a dyn- odd drydanioeth i lawr o'r cwmwl, ac fel,ly bro'fi ei Ibresenoldeb eyffredinol, Ar ol hyn, aeth ipedwar ugain mlynedd heiibio cyn i ddim gael ei ddyfeisio er gwneyd y (gallm cyffredinol hwn i fodo wasa-naeth ii ddyn. Ond tua'r adeg hon, wele Proff. Morse yn dyfeisio yr "Elec- tric Telegraph," a'r Barnydd Richard- son yn esgor ar y syniad mai try-dan- iaeth yw y gallu a ddeil ac a reola'r cyrff nefol yn euga-whemol rawdiau. Fel y dyiwedwyd yn ibarod, nacaol yw y ddaear o ran ei sefyllfa drydanol, ond y mae yr hanergylch hwnw sydd yn gwynelbix yr haul, ac yn derbyn o'i belydrau, yn cael ei gyfnewid o fod yn nacaol i fod yn gadarnhael. Dygir hyn oddiamgylch drwy y ffaith brofedig fod1 j try,danlaeth gadarnhaol yn mhob 'pel- ydryn, ac telly yn dwyn yr arwynebedd hwnw o'r ddaear i'r un sefyllfa. Yna, drwy y ddeddlt fod cydrywiau yn gwrth- od eu gilydd, ca yr arwynebedd goleu- i edig e'i wthio i ffwrdd oddiwrth yr haul cadarnhaol. Naturiol i'r darllenydd yw meddwl, wrth hyn, y byddai i'r ddaear gael ei hyrddio i ffwrdd ar linell union- i syth, hyd nes yr ai yn rhy bell i'r h ddylanwadu arni. Ond cofied y darllen- ydd mad un gron yw y dda, a bod1 iddi ochr dywell a nacaol, a bod 'gan yrl haul, yn rhinwedd yr un ddeddf, gry- I maint o allu atdyniadol i'r ochr hono ag sydd ganddo o allu gwith-hyrddiol i'r ochr oleuediig. Felly, drwy wthio UID. ochr a thynu y llall, yr unig symudiad posibl iddi yw troi ar ei phegynau. Fel y bydd yr ochr oedd dywell yn dyfod i'r goleu dechreua golli ei sefyllfa nacaol, a chyfnewidia yn raddol o awr i awr, fel erfbyn haner dydd y mae wedi dyfad yn hollol gadarnhaol yn rhin-, wedd y goleuni y mae wedi ei dderbyn er chwech y boreu. Yr hyn sydd wir am yr arwynebedd oedd dywyll, sydd wir am yr arwynebedd oedd oleu, hef- yd, h. y., cyfnewidia yn ei sefyllfa dry- 'I danol. Yn ei droad i ffwrdd oddiwrth yr haul dechreua golli ei sefyllfa ga- darnhaol, a'i golli a wna yn raddol, fel eliby-n canol nos, y mae yn hollol nacaol, ac felly, yn igymaint a bod yr arwyneb-; edd goleuedig erbyn Nn yn gadarn-j haol, parha y ddaear i symud a chwbl- ha y tro ar ei phegynau, a chawn ddydd a nos bob yn ail.
I NODION 0 NEW YORK.
I NODION 0 NEW YORK. Y mae golwg pur addawol am bazaar llwyddianus iawn yr wythnos hon yn eg- lwys y M. C., 155th St. Y mae yma nif- er luosog o roddion wedi dod i law, ac y mae yma un rodd wedi dod o'r Ty Gwyn oddiwrth ferch yr Arlywydd Wil- son. Nos Sabboth diweddaf, ymunodd ag eglwys 155th St., amryw aelodau gyda llythyrau eglwysig, Mr. Robert E. Wil- liams a'r teulu, o Granville; Mr. Robert Parry, o Rome, a dwy chwaer ieuanc o Gymru.—T. H. R.
[No title]
Gofynir i dref Aberystwyth letya pymtheng mil ofilwyr yn ystod y gauiaf presenol. Ni ddywedir pa !bryd, y deœ- ant, rhaid bod yn barod i'w derlbyn ar dri nhvrnod o rybudd.
IFEL ADFERYDD BYWYD.
I FEL ADFERYDD BYWYD. Gan Hen Wr Brynsylwad, Cincinnati,O. I II. » Pa sawl gwaith y dywedasant hwy mevh dagrau wrth eu gilydd, "Pe buas- ai Ef yma, ni buasai ein brawd farw." 'Lrlawen genyf nad oeddwn I yno,' medd- ai yr lesu. A phwy oedd yn gwylbod pethau oraf? Yr oedd cadarnhau ffydc y dysgyblion mor bwysig fel .yr oedd yn werth gan yr Iesu adael i'w gyfaill :'a.rw, a gadael dwy chwaer hoff ganddo n nyfroedd dyfnion eu trallod am ys- baid er mwyn hyny. Mae yr un peth weithiau yn achos trallod i'r rhai mae yr lesu yn hoff o honynt, ac yn destyn llawenydd iddo ef. Nid oes dim mor bwysig ac mor werthfawr i ddyn a ffydd yn lesu Grist, ac mae, yr hyn sydd yn dwyn trallod am dymor, yn ami yn foddion i ddadblygu a ichyff- nerthu ffydd yn y pen draw. Er fod yr Iesu wedi dweyd yn eglur, "Bu farw Lazarus," er hyny, efe a ddy- wedodd "Awn ato ef." Nid oedd ei fwriad cyntaf ef wedi newid. Ei amean o hyd oedd myned i'w ddihuno ef. Ac yr oedd y 'dysgyblion yn parhau i ofni perygl. Ni welai Thomas ddim yn aroSi ei Athraw yn Judea ond marwol- aeth, er hyny, yr oedd yn benderfynol o'i ddylyn yno. Rhaid fod tuedd natur- iol Thomas i edryoh ar yr ochr dywyll yn gref iawn, ac y mae yn ddiau mai gwaith caled i'w ffydd oedd gorobfygu ameuon ac ofnau naturiol ei feddwl. Ond pa mor anmherffaith bynag oedd ei ffydd, nid oedd dim cwestiwn am ei gariad. Yr oedd ei ffydd yn rhy wan i ganfod dim ond marw yn aros ei Ath- raw yn Judea, ond yr oedd ei gariad yn ddigon cryf i fyned yno i tfarw gydag ef. Yn nesatf, yr ydym yn cael yr lesu wedi cyraedd i Bethania, ac yn ymddy- ddan gyda Martha. Ond cyn dwyn yn mlaen yr ymddyddan a Martha, mae y Dysgybl Anwyl yn nodi daubeth-un ydyw, fod Lazarus, erbyn i'r Iesu gyr- ae du Bethania, wedi bod bedwiar diwr- nod yn y bedd, a'r llall, Tod llawer o'r Iuddewon wedi myned tat y ddwy chwaer d'w cysuro hwy am eu brawd. Mae yr hyslbysiaeth 'gyntaf yn rhoddri mantais i ni weled sicrwydd a rhyfedd- olrwydd y wyrth, a'r Hall yn rhoddi mantais i ni weled fod digon o dystion i'r cyflawniad' o honi. Clybu Martha fod Iesu Grist yn jdyfod, a chyn gynted ag y clybu hyny, hi a aeth allan i'w gyfarfod. Y peth cyntaf a ddywedodd wrtho oedd, "Arglwydd, ipe buaset ti yma, ni 'buasai farw fy mrawd." Yr oedd hyn yn ddiau wedi cael el ddweyd mewn sylwedd gan y ddwy chwaer, y naill wrth y llall, lawer gwaith cyn hyny. Yr oedd eu hymddiried yn eu Ha-rglwydd yn fewr iawn. (Credent ma buiasai angeu byth yn meiddio dod i'r un man ag ef. Ac yr oedd ffydd'Martha yr awr hon wedi ymgodi yn uwch na hyny, "Eithr mi a wn," ebai hi, '^hefyd yr awrhon, pa Ibethau ibyn-ag a ddymun- ech di igan Dduw, y dyry Dnw Ii ti." Credai y mynyd hwnw y gallasai Tesu Grisi igkidi ei Ibrawd o'r bedd. Gwir nad' oedd ei golygiadau yn glir lawn, efallai nad oeddent yn igywir iawn. Gellir barnu oddiwrth el geirieu ei (bod yn priodoli gallu yr lesu, i adgyfod'i ei brawd vn fwy i'w lwyddiant gyda fDuw j mewn gweddi fel dyn da nag i'rar.fer- iad o'i awdurdod a'i allu priodol ef eij hun fel MaAb Duw. Ond os ned oedd igolygiada-u Martha { yn glir nac yn gywir iawn, yr oedd ei chalon yn berffaith onest, ac yr oedd ei hyslbryd mewn agwedd hynod o gyf-1 ad da sol i dderbyn addysg. Ac yr oedd yr lesu yn myned i roddi gwers uwch: iddi-yr oedd yn myned i roddi dad- guddiad uwch a llawnach 0 hono ei hun. Ond yr oedd yn igwneuthur hyny j yn raddol. Dywedodd yn gyntaf, "'Ad- gyfodir dy frawd dracheifn." Deallodd Martha y geiriau hyn yn eu hystyr lgyff- redin, a danigosodd fod ei ffydd yn ath- rawiaeth yr adgyfodiad yn gadarn a -di- 1 ysgOlg. ,Dywedodd yn y modd mwyalf dibetrus, "Myfl a wn yr :adgyfodir elf yn yr adgyfodiad y dydd diweddaf." Er- byn hyn yr oedd yn ibarod i dd,ertbyny dadguddiad mawr. "Yr lesuaiddywed- odd wrthi, Myfl yw yr Adgyfodiad a'r Bywyd." lArweiniodd ei meddwl yn y modd mwyaf naturiol, ac ar yr un pryd yn y modd mwyaf grymus, oddiwrth athrawiaeth ac amgylchiad yr adgyfod- iad at y Person, at y Myfi yw-yr Iffig10 Eimi—yr Ydwyf sydd yn ffynon wreidd- iol a chynenid ibywyd. Ac mae yr Iesu yn egluro y dadiganiad mawr hwn am dano ei hun yn ei berthynas ymarferol a chredinwyr. Yn y lie cyntaf y mae yn dyfod i lawr i'r un safle a'i ddys- gyblion. Mae yn edrych ar angeu yn ei arweddion mwyaf tywyll ac ar- swydol, ac yn dweyd yn ei wyneb yn y modd mwyaf cadarn, "Myfl yw yr adgy- fodiad, yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw a fydd byw." Yn gymaint. ag fod y corff yn dadfeilio, ac yn cael el ddwyn i'r bedd, mae y BYi'.nl i gyfar- fod a hyny yn gwislgo yr ar'C\ Id o ad- gyfodiad. Gan fod Lazarn ya buno mae y Bywyd sydd yn gyfai^ iddo yn myned i'w ddihuno af. A y mae'r Tesu yn gwneyd mwy na hyn. Mae yn yr ail le yn cod' ei ddys- gyCalion i'r un safle ag ef ei a tin, ac yn dangos iddynt yr amgylchiad hwn yn y peth ydyw mewn Igwirioned3. "Myfi yw y bywyd, a phwy bynag Wdd yn fyw, ac yn credu yna* fi, ni bydd marw yn dragywydd." Dyna yr olwg .gywir ar bethau-"a phwy bynag sydd yn credu ynof fi, ni bydd marw -n dragy- wydd." "Nid marwolaeth yn ei gwir a'i.llawn ystyr yw eu hanigeu hwy," ebai Henry Rees. "Pe baech chwi yn dirnad," ebai efe, "beth yw anigeu yn ei wir ystyr, ac yn dirnad y farwolaetb y mae y Cristion yn ei phrofi gyda'i ddyoigelwch ynddi, ei obaith j, gysur- on odditani, a'i ddedwyddweh wedi myned trwyddi, chwi a dfljwedech uwchben ei fedd, "Nid marw eithr eysgu y mae." (I'w Bar'hau). (I'w Barhau ) •»,
; CRIST, CANOLBWYNT MEiöWL…
CRIST, CANOLBWYNT MEiöWL A BYWYD. j Gan y Parch. J. M. Llci*. I. Ill. I'r meddwl newynog am fywvd uwch, "Efe yw Bara'r Bywyd." I'r dyn wedi dyrysu mewn cyfeiliorniadau "Efe yw y fflordd y gwirionedd a'r BY"'yd;" i'r clwyfedig ei ysbryd "Efe yw y aaeddyg mawr;" i'r rhai awyddus i asiudio cy- meriad tCriS!t-Æfe yw y puraf yn mysig y cedyrn a'r cadarnaf yn mys!, y rhai pur. Yr hwn sydd wedi dyrrchwelyd ymerodraethau oddiar eu sylfa>~m, wedi troi ffrydlif hanesiaeth o'u be, -I-,Iolau. eto yn parhau i reoleiddio Ld arwain yr oesau. Yr hwn sydd wedi myfyrio eymeriad Crist wrth oleuni yr yslbryd santaidd yn unig a wyr pa mor otfer ydyw pob ymdrech i ddesigrifio y cy- meriad hwnw, y mae tudraw i amgyffi- redion dynion, a bydd holl fodau holl oesau y byd yn gonfod cydnabod "na anwyd neb yn mhlith meiibion dynion" yn gyffelyfb i Iesu o Nazareth. Dyma'r proffiwyd sydd yn datguddio ewyllys Duw, dymar offeiriad sydd yn gwneyd iawn am bechod, a dyma'r Brenin sydd yn meddu ar yr unig hawl i lywodr- aethu arnom. Cyflawmodd lawer o wyrthiau, ond y fwyaf o'r holl wyrthlau ydyw teyrniaaiad ei gtariad ar y rhai a gredaht yn ei enw Er. Nid yw y igrefydd Grlstionogol yn amcanu at ddim llai nag adgenedliad o gymeriad Crist yn meddwl a bywyd, dyn, ac ynddo ef y ceir yr helaeth- rwydd o'r santeiddrwydd a'r gwirion- edd mwyaif. Peth arall teilwng o sylw yw, os, if el y dywedaaoim fod cymdeith- as yn ffurfio icymeriad, y mae cymeriad hefyd yn ipenderfynu tynged. Mae rhywheth yn ogoneddus yn y (bywyd dynol. Mor rhyfedd yw yn ei gyflawn- iadau a'i bosiblrwydd. Mae ei iberthyn- as a thynged dyfodol, oiblegid ei 'gys- ylltiad a Christ, cymeriad yr hwn sydd j yn fraint ac anrhydedd i'w efelychu, yn sicrhau y ibydd tynged y Cristion ynum dyrchafol a gwobrwyol—'bydd yn gyd- etifedd a Christ ei Warediwr, mewn oy- meriad, eiddo, cartref a igogoniant. Mae Durw y Tad wedi igiosod ei FaJb yn "iben uwchlaw pob peth i'r eglwys. Mae efe yn ben ar deulu Duw yn y cysegr; y mae cyflawnder yr eglwys, a chyflawnder y Duw dod yn cydymgyfar- fod ynddo Ef; Ffe yn unig all gyd-I feddwl, 'cydymdeimlo, cydVylo a chyd- 1 weithrediu a dyn, ac ni all calon lawn o gariad yn y dyn tlotaf awgrymu cyd- > nalbyddiaeth nad oes yn Iesu fodd i dderbyn hyny. Mae ganddo ben i'r en-j aint gwerthfawr a thraed i ddagrau MaiT. Dywedir tod ei rajglfwriadau e-rioed-I cyn gwneuthur nefoedd na daear yn pwyntio ac yn ymgydio wrth ddynol- iaeth, ac mewn rhyw' ystyr aneslbonlad- wy i nl ond ar dir cariad y mae Duw, fel pe yn ymgilio o'i safle ddwyfol mewn ystyr er cael trefn i uno meddwl dyn a'i ifeddwlei hun, "Yr Hwn ac efe yn ffurf IDuw, ni thybiodd yn drais 1 fod yn ogyfuwch a Duw, a dyna i ni Dduw yn mherson y iMab yn ymwadu ag ef ei hun, a dyma ddynoliaeth yn mherson y Mab yn ymwadu, "Yr Hwn yn He y llawenydd a osodwyd iddo, a dyoddef- odd y groes gan ddiystyru gwarad- wydd." Yr Hwn welwn mewn ipreseib yw yr Hwn sydd deilwng o'r palas; yr Hwn wrthodir yn Nazareth yw jir Hwn sydd raid i'r Nef ei dderbyn; yr Hwn sydd yn wylo uwchben y ddinas yw testyn can yr angeiion; y gwr gofidus a chynefin a dolur yw rhosyn Saron a Uli y dyffrynoedd, yr Hwn sydd a. sych- ed arno wrth ffynon Jacob, sydd ffynon ddihysbydd i dyrtfa nas gall neb ei rhifo, ond mae yr hyn a roddodd Bfe lieibio yn ei ymddarostyngiad i ddy- chwelyd iddo eto. Wedi gorphen'ei swydd fel cyfryngwr, "cyflwynir y deyrnas i Dduw a'r Tad—fel y ibyddo Duw oil yn oil." Dyma ni yn gorphen hyn o ysgrif gyda dweyd hyn—Os ydyw dadfolygiad cymeriad -Crist ynom yn awr yn ein hysTorydoli a'r fath wrolder, igobaith a llawenydd, pa 'beth fydd ei berffeithiad tybed wedi i ni fyned adref i dy ein Tad? Dyma yr unig reswm i ni geisio desgrifio mewn un o'n hysgrifau ar "Amser caled yn yr Eglwys" ydoedd ceisio cymell dynion i ystyried cymer- iad eu hoes, oes y dynion meddylgar a ynwyrol, .oes dynion yn chwilio am y gwirionedd, ond wrth ei geisio yn mys-g dynion ac mewn dtsigeldiaeth ddynol ar wahan i Grist, canolbwynt meddwl a rbywyd-eu bod wedi ei golli, ac o'i golli ei bod hi wedi myned yn amser caled yn eglwys Crist ar y ddaear. Na foddloner ar ddim hyd nes "dychwelyd i'r hen lwybrau."
RHAI 0 HEN GYMERIADAU PEN-I…
RHAI 0 HEN GYMERIADAU PEN-I MACHNO. Gan E. O. Roberts. I Penod XI. I Huw Dafis-.—Genedigol o Fachno oedd efe, a chwarelwr wrth ei alwedig- aeth. Bu am dymor maith yn oruch- wyltwr chwarel Bwlch y Slater, o dan y diweddar Mr. Bromley. Cyfrifid ef yn ddaea.regydd da. Chwiliodd lawer ar fynyddoedd y cylchoedd am lechfeini. Yr oedd elf yn wr diarllengaT iawn, ac yn fwy deallus na'r cyffredin, Yr oedd hefyd yn dduwinydd da, ac yn weddiwr mawr, a hynod o wresog. Dywed un yegrifènydd am dano: '"Yr oedd ei al- wedigaeth fel goruchwyliwr chwarel yn peri nad oedd yn hawdd iddo gael myned i Gyfarfod Misol yn fynych, ac yr oedd yntau trwy hyny yn colli i rad;dau y duedd i fyned yn mhell iddo. Ond, llwyddwyd i'w bersiwadio i ddytfod un tro mewn certbyd gydag eraill oedd yn myned i gyfarfod misol Gwyddel. wern, dros ugain milldir oddi cartref, ac er ei fod yn edstedd mewn congl neillduedig yn y capel, cafwyd ganddo, ar ol cryn lawer o gymell, i ddyfod yn mlaen i ddechreu un o'r cynadleddau. Yn ei weddi yr oedd fel yn tynu y net- oedd i lawr i'r lie; yr oedd ei heffeith- iau yn toddi'r cyfarfod. Pan ddaeth amser darllen trefn y moddion, clywid enw Huw Dafis yn cael ei gyhoeddi i ddechreu yr oedfa gyntaf yn y Cyfarfod Misol. ,Ni chydsyniodd i wneyd hyny, ond mae'r ffiaith iddo gael ei enwi i hyny yn dangos y teimlai cyfeillion Gwyddelwern mai nid gweddiwr cyff- redin ydoedd." Bu farw Awst 215, 18S6. yn 76 oed. Claddwyd ef yn mynwent Salem. Ceir yr eniglyn canlynol ar ei feddtfaen, ond. nis gwyddom pwy yw yr awdwr: Byw oleuni fu'r blaenor—a'i burdeb I'w ardal yn drysor, Gwylaiidd was, yr Arglwydd lor, Ac angel i roi cyngor. Robert Jones.-Cydflaenor y ddau a nodwyd ddiweddaf oedd yr uchod. Brodor oedd Robert Jones o ardal Pantglas, yn mh.en uchaf plwyf Clynog, a gof wrth ei alwedigaeth. Gwr cadarn, ffraeth, llawen a siriol. Rhoddiodd ei efail yn Maohno heibio, a symudodd ef gyda'i ferch al fab-yn-nghyfraith (Owen Williams, goruicihwyiiwr Cwt y Bugail) i Plas Farm, Glasgwm, a lie y Ibu iddo yn fuan wedi ymsefydlu yno,. gyfarfod a damwain angeuiol. Ei eiriau olaf ar nos Sul yn eglwys Salem oedd, "Hyn a wn—demnir byth mohonwyf." Ei angladd ef oedd y cyntaf erioed yn Machno meddir i beriglor y plwyf was- anaethu yn y fynwent Ymneillduol. Yr oedd y blaenor a'r periglor yn gyfeill- ion mynwesol. Pan yn arolygwr yr Ys- gol Sul, methodd un tro a chael ath- rawes ar ddosbarth, ac o'r diwedd ym- biliodd a'i briod, ond gwrthod a wnaeth Mrs. Jones hefyd. Ar unwaith aeth R. J. i'r set fawr, can odd y gloeh, ac ar ol cael dystawrwydd, hyslbysodd yr Ysgol yn ei ddudl deheuig ei hun, ei fod yn rhoddi i fyny yr arolygiaeth, oherwydd nas gallai gael neb i fyned yn athraw- es, ac fod hyd yn nod Sarah (ei briod) hithau wedi gwrthod. Mantelsiodd ar yr amgylchiad, ac ni chafodd drilfferth mwyach, gan fod ar bawb o hyn allan ofn tine y gloch. Deallwn fod Robert Jones yn swyddog gyda'r Annibynwyr cyn ei ddyfodiad i Benmachno. Dewisi- wyd ef a'r diweddar Huw Davies yr un adeg yn swyddogion. Yr oedd Robert Jones yn ddyn tra galluog. Darllenai lawer, a gallai wneyd defnydd da o'r hyn a ddarHenai. Yr oedd yn meddu dawn i siarad, a bu yn wasanaethgar iawn gyda'r achos yn ei ddydd. Oy- merai ddyddordeb mawr gyda'r plant, ac arferai gadw "Cyfarfod Plant" fel ei gelwid ei hun. Sicr genym fod adgof- ion melus gan lawer o'r plant hyny fu dan ei ofal, sydd erbyn hyn ar wasgar yn mhob rhan o'r byd, ac heddyw yn bobl mewn oed, yn wyr a gwragedd, tadau a mamau-am gyfarfodydd y plant gyda Robert Jones, y gof. Pre- swylia wyr iddo, sef Owen J. Williams, yn Ilion, N. Y. Os igwrel y llinellau hyn, derfbynied fy nghofion gwresocaf. Hy- deraf ei fod yntau, fel ei dad, Owen Williams, a'i daid, Robert Jones, yn flaenllaw iawn gyda gwaith y cysegr. Robert Thomas y Siop.—Bu ef yn w as an a ethgar iawn iawn fel ysgrifen- ydd yr eglwys er pan oedd yn fachgen isvanrc iawn. Dewiswyd yntau yn flaen- or yn 1875, a bu yn golofn gref, ac yn gefn i'r eglwys hyd ddiwedd ei oes. Mr. Thomas, heifyd, a roddodd y tir tuag at wneyd mynwent ger capel Salem. Brodyr iddo oedd John Thom- as y Benar-un o ffermydd mwyaf y plwyf, a Richard Thomas, Coed y Ffynon, goruchwyliwr ar ystad Mr. Bankes. Robert Edward, Carrog.—Hen flaen- or ffyddlon gyda'r M. C. yn Rhydy- meirch, Owm, oedd y gwr hwn, ond ei wraig a'i ddwy ferch 'yn aelod-au selog gyda'r Wesleyaid. Byddai y merched ar ei heithaf drwy wneuthur eu goreu i'r priod a'r tad i gael myned i'r igrwa- hanol foddianau, ac ni fynai yntau daflu y rhwystr lleiaf ar eu ffordd hwy- thau, er yn myned i gapel gwahanol. Yr oedd sel y ty yn ei ysu a llefarai yn Illym yn erbyn pechod. Bodolai hen arferdiad yn mhlith y bobl ieuainc yr adeg hono (ac eto mae'n debyg) o an- fon VaJentines hyllion a llythyTau an- weddus i'w gilydd, a'r hyn a barai gryn ofid i'r hen Gristion, ac un tro cyngoriai hwy fel hyn "Da chi, peidiwe-h a'u hanifon, ac os cewch rai o honynt, llosg- wch, ne' malwch nhw yn dipia yfflon gyrfana gwylltion." Owen Jones, Hafod y Fraith..—Hen flaenor selog amll yn Rhydymeirch. Ar ei ysigwyddau ef y bu arweinydd- iaeth y gan am flynyddau lawer, a deallwn y nodweddid ei feibion a thal- ent gref at gerddoriaeth, ac i'r fantell arweinyddol ddisgyn arnynt ar ei ol, ac yr arosa ar un o honynt hyd heddyw. Cyn ymadiael a Rhydymeirch, cry- bwyllwn am dri neu bed war o hen gy- meriadau gwreiddiol a hyno-d. Owen Jones, Brynmadog, oedd un o honynt. Yr oedd ef yn ddyn talentog, yn ys- grythyrwr da, ac yn siaradwr rhwydd. Yr oedd fel Saul yn uwch o'i ysgwydd- au i fyny na'i frodyr, er mai lied encil- iedig ydoedd, ond pan y llwyddid ijw gael i siarad yn gyhoeddus, byddai y bobl yn teimlo ac yn toddi oddiwrth effeithiau ei ymadroddion. Un arall .oedd Roland Huws. Ni bu ef erioed yn swyddog, ond bu yn weithgar iawn gyd- a'r achos. Hoffai bob amser fod yn nghwmni y pregethwyr, ac arferai fyn- ed yn gyson i'r Ty Capel at y pregeth- wr. Os mad un o efrydwyr coleg y Bala fyddai yno, arferai ddweyd "Un o'r ffowndri sy'n gynon ni heddyw." Wm. Roberts, Rhiw Fachno, oedd un arall a'i bryder yn fawr am yr achos. Pan yn adeiladu yr addoldy presenol, dyma a ddywedodd "Waeth i ni foddi mewn llyn mawr na llyn bach." Fodd bynag, dywenydd genym ddeall fod y capel bron yn glir erbyn hyn. Hen frawd o'r enw Dafydd Jones ar ol clywed fod rhywrai yn cario pethau allan o'r seiad- au, a roddodd y cyngor canlynol: "Da. chrwi, peidiweh a chario pethau allan o'r calpel. Own fydd yn cario petha-u
J Y DDIOD A'R TYBACO.
J Y DDIOD A'R TYBACO. Gan Dirwestwr. I ,Gan Dirwestwr. I n. 1- Mae yn llawn bryd i'r eglwys roddd esiampl i'r ibyd yn y mater hwn, ac ym- lanhau oddiwrth lygredd y tybaco ag sydd yn sicr ar ffordd ei llwyddiant, fel y gall ddweyd fel Paul, "Byddwch ddyl- ynwyr i mir megys yr wyf flnau i Grisit" I'n cael fel hyn, rhaid i bawb sydd yn y camwedd ddiwygio, y, parchedigion a'r diaconiaid, a'r holl aelodau, yna ni fyddai o ;fawr drafferth 'gwella'r' byd wedi cael yr eglwys yn lan. Mae yn syndod meddwl fod yr hen arferiad hwn a ddechreuiwyi gan hen bagan o Ind- iad, ie, yr eilun hwn, yn cael ei addoli fel Baal gynt gan gymaint o rai a bro- ffesant eu bod yn addoli y gwir Dduw. Dywedai preigethwr unwaith, pe bu- asai ef yn euog o ddysigu y to ieuanc i gnoi a. mygu tybaco, na. ddysgwyliai lai na than uffern yn gosp. Diarllenais erthygl yn ddiweddar o waith un o'r dynion galluocaf yn yr U. n. ar yr ar- feriad yma, a rhydd amryw resymau dros gredu fod yr anferiad hwn yn fwy niweidiol na'r arferiad a'r diodydd meddwol. Nid yw yn angenrheidiol, meddai ef, 1 geisio lleihau dim ar ddrygedd a'r dinystr oifnadwy a achosir trwy y fasnach feddwol, na cheisdo llei- hau dim ar y ffigyrau (statistics) sydd yn profi mor eglur y sefyllfa druenus a'r dinystr erchyll mae yn ei achosi yn ein giwlad, i brofi y gosodiad. A dyma un rheswm fod yn llawer haws ffurfio yr arferiad a'r tybaco nag a'r diodydd meddwol. Mae o 1200 i 1500 o fechgyn yn dysgu yr arferiad hwn ar gyfer pob dydd o'r flwyddyn yn America, yn fore- senol, medd ef. Y mae sigars a sigar- enau rhad a phwrpasol yn cael eUl gwneyd i'r amean o ddysgu rhai i ys- mygu. Nid yw prinder arian yn rhwystr i fech,gyn bychain ddechreu yr arferiid, cant aifael ar ddarn o sigar wedi eli thaflu gan ryw Gristion diofal ac weithiau ca y bach'gen dipyn o'r llwch drewllyd a ddygodd o boced ei dad, fel y weithred gyntaf yn ei fywyd i'w gyfeirio tua dinystr, yn lie i fywyd rhinwedd a gobelthiol. Heifyd mae yr arferiad yn fwy cyff- redinol na'r arferiad a'r diodydd medd- wol. Fe ddywedir, ac fe ysigrifenir llaiwer am luosogrwydd yr ymyfwyr, eto mae cymaint d-dwywaith neu dair yn ymarfer a'r tybaco, ond fe werir mwy o arian, meddir, am y pethau med,dwol. Y rheswm am hyny ydyw, eu bod yn costio mwy; mae un glasiad o'r gwirod yn costio cymaint a dwsin neu ragor o 'smokes.' Dyna'r paham y gwerir mwy am y gwirodydd. Fe ddy- wedir y defnyddir yn flynyddol o wir- odydd tua phum chwart ar gyfer Ipdb dyn, dynes a phlentyn yn yr U. D., ac y defnyddir o tybaco tua phum pwys ar gyfer poib, dyn, dynes a phlentyn, ac mewn trefn i ddefnyddio y crop o dy- baco a igodir yn y wlad hon, rhaid fod tua de-uddeg miliwn o hersonau yn ei ddeifnyddio am dair awr bob dydd o'r flwyddyn. Dyma olwg druenus, onide! Heffyd er cymaint gwenwyn sydd yn y diodydd meddwol, mae mwy yn y tybaco. Dywed Dr. Taylor mai 11 oz. yw dose leiaf o alcohol sydd wedi profi yn dcligonol i ladd dyn mewn oed, ac y gall dyn fyw wedi ei chymeryd am ddwy awr, ond fod 30 grains o dybaco a ditgon o wenwyn ynddo i ladd dyn mewn 20 mynyd. Dywed Dr. arall tod i digon o we-nwyn mown un prwys o dy-! baco i ladd tri chant o bersonau, ac er y cwbl, myn dynion droseddu deddfau eu hiechyd a deddf Duw yw ogystal trwy wneyd eu hunain yn gaethion i'r gwenwyn ffiaidd hwn. Peth arall, mae yn fwy anhawdd rhoddi yr arferiad hwn heiibio, na'r arferiad o yfed diod- ydd meddwol. Dyma yw profiad y rhai sydd wedi llwyddo i roddi y ddau heib-- io, ac mae llawer sydd wedi llwyddo i roi yr ymyfed heibio, yn methu rhoi y tybaco heibio. Fe welwyd llawer iawn oedd yn rhwym gan Bachus yn mynd yn rhydd o'i afaelion, ac yn myned allan i ymladd yn ei erbyn, ond fel rheol deil y tybaco ei gaethion o'i gwir- fodd. Hefyd mae effeithiau y ddiod yn fwy amlwg ac yn peri i rai eu hofni, ond mae effeithiau y tybaco mor araf a sicr fel nad ydynt i'w canfod nap yn ddy- chryn i neb, yr hynsydd yn ei wneyd y gwenwyn peryglaf o'r ddau. Onid yw yr ymyfwyr yn annghymwyso eu hun- ain i fod mewn cymdeithas? Felly hefyd y tybacwyr. Os. ewch ar y rheil- ffyrdd, cewch hwy o'r neilldu yn y 'smoking car' ac yn prif orsafoedd; ceir hwy mewn rooms ar eu penau eu hunain, ac felly yn y llongau, a'r gwes- tai, ac yn nhy cymydog, rhaid iddynt chwilio am y "Summer kitchen" i amgldarthu i'w Duw, ac amddifadu, eu hunain o bob gwir gysur a mwynhad yn "y cwmpeini. Hefyd mae yn enbyd o niweidiol pan ystyriom fod rhai mor ieuanc yn ei ar- fer. Ie, rhai na chant y gwirod, ond yn medru cael y tybaco, ac mae ei effeithiau yn andwyol i'r dos'barth yma. 0 dipyn i beth, gwelir hwy yn colli o'r Ysgol Sul a cheir hwy gyda'r oferwyr a'r torwyr Sebbothau yn chwareu y bel a phethau eraill. Dyma y man lwybrau sydd yn arwain i'r ffordd lydan sydd yn arwain i ddystryw. Hefyd mae yn hynod niweidiol i iechyd y dosbarth hwn. Mae ffeiithiau yn profi fod y rhai ag sydd yn ei arfer yn ieuianc yn llai o gorff, yn wanach c rtqisoddial, ac oni ragflaenir yr arferiad yn fuan, bydd yr effiaith yn ddinystr i'r oes a ddel. Oni ddylai yr eglwys godi ei llais yn llawer mwy yn erfoyn y fath elyn dinystriol sydd yn bygwth ein gwlad ac yn warth 1 foesoldeb a chrefydd, yn ogystal a'r fasnach feddwol.