Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
m SDtEcb. A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. ,"sied Every Thursday Mornlrif. THOMAS J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA, N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.-The .attention of business men in general is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, .with subscribers in every State and Territory of the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized .National Organ of the Welsh People.
CRISTIONOGAETH. I
CRISTIONOGAETH. I Gan J. I Adran I.-Pechod parod i amgylohu meddylwyr pob oes, yn enwedig felly eiddo'r gorphenol, ydoedd tgioddef i'w dymuniadau a'u teimladau ormesu'n or- modol ar eu syniadaeth. Dyna gytfrifa am y ffaith fod syniadaeth y gorphenol wedi ei beichio i'r fath fesur a'r dam- caniaethol, ychydig o ystyriaeth giawsai rheolau gwir feddyleg, dymuniadau a theimladau benderfynent natur ac an- sawdd pob casgliad. Brwydr galed fu rhan pob meddyliwr feiddiai dynu cas- gliadau ifyddent allan o gydgord a dy- muniadau a theimladau y ddynoliaeth. Pan y daeth Galileo i'r casgliad mae'r ddaear amgylchynai'r haul ac nid yr haul y ddaear, cadd garchar tywyll yn wobr am ei lafur, Paham? Am y The- swm syml mae'r dylbiaeth gyffredin parthed perthynas yr haul a'r ddaear, ydoedd' yr un adlewyrchai'n fwyaf ffafriol ar y dybiaeth (yr hon ydoedd gynyrch union gyrcbal tetmladau a dy- muniadau ei gydoeswyr) mae y ddaear ydoedd canolbwynt y cread gyda dyn ei goron. Prawf hanes ddilysrwydd cas'gl- lad hollbwysig Galileo, a thelir gwarog- aeth i'w enw am arddangos y fath feiddgarwch yn llamu dros ffiniau cyf- yng byd dymuniadau a theimladau ei oes, mewn ymchwil am y gwir. Hedd- yw, pwysleisir i fesur helaethach nag y gwnawd erioed o'r blaen, y pwysig- rwydd o chwilio am y gwirionedd er meddianu y gwerth cynenid 'gynwysa, boed y canlyniadau i'n dymuniadau a'n teimlada-u. v peth y bo'nt. Pheidia gwir- ionedd ddim a bod yr hyn ydyw am na chefnoger ef gan ein teimladau a'n dy- muniadau, bodola yn annibynol ar tgy- meradwyaeth y naill a'r llall. 0 holl adranau y byd llenyddol, yr adran dduwinyddol ydyw'r un .syrthiodd ddyfnaf i'r camwri o oddef i ddymuniad- au a theimladau arglwyddiaethu ar syn- iadaeth, a chyda llaw dyna'r rheswm, ni gredwn, paham fod yr oTuchwyl iaeth o adrefnu yn, llymaoh yn yr adran hon nag yn unrhyw adran arall. Credwn ein bod yn gywir hefyd pan y dywedwn fod dymuniadau a theimladau yr adran a nodwyd, wedi chwareu rhan amlycach yn ffurfiadei syniadaeth perth-ed natur a tharddiad Cristionogaeth, nag a wnaethant yn ffurfiad syniadaeth llai pwysig. Ymgeisiwn gan hyny gyda mesur o wyleidd-dra, mewn modd di- duedd, yn annibynol ar gymellion ein teimladau, roddi mynegiant treiddtgar a duwiolfrydiig, parthed tarddiad a ntur Cristionogaeth. Y ffaith fod Cristionogaeth yn gref- ydd hanesiol sydd yn ei gosod yn agor- ed i feirniadaeth hanesiol, ac er mai cydmarol ddiweddar ydYW'T amgyffred- iad hanesiol parthed el tharddiad, mae eisoes wedi peri aflonyddwch nid bych- an yn myd duwinyddiaeth eglwysig. Yn ngoleu yr hyn elwir genym yn "hanes crefyddau" y deuir i feddiant o ddirnadaeth igywir parthed natur a tharddiad Cristionogaeth. Yn waha.nol i'r igolygiad traddodiadol, sef fod Orisit- ionogaeth o darcldied goruwchnsturiol heb unrhyw gysylltiad rhyngddl a;g hanes, gorfodir y meddwl diduedd i'r casgliad, fod iddi gy,sylltiadau achasol ag aingylchiadau mewn lie ac amser neillduol. Pe cywir ydyfbiaetJh draddod- iadol parthed ei tharddiad, nis gallesid ed ch-ymaru a dim yn mhrofiad y ddyn- oliaeth, mewn gair buasai y tu allan i gylch beirniadaeth hanesiol, gallasai fod yn wrthrych ffydd ond syrthiai yn fyr o fod yn wrthrych gwybodaeth hanesiol. Mae astudiaeth ysgolheigaidd y bed- waredd ganriif ar bymtheg, yn nghyd a'r ugeinfeft, parthed hanes y cyfnod yn mha un y cododd Cristionogaeth. ei phen, wedi esgior ar brawflon diamwys, nas gellir cyifrif am ei tharddiad ond yn ngoleuni hanes. Nid cych wyn allan yn ei llawn dwf a wnaeth, yn hytracih dad- blygodd rai o arweddau pwysicaf ei bywyd, dan reidrwydd problemau ar- benig, amlygent eu ihunain yn y ganrif gyntaf o'i hanes. Yr oedd y cyfnod yn mha un y gwnaetb. Cristiono-gaeth ei hyniddamgosio,d, yn un eithriadol gref- yddol, crefydd ydoedd anadl einioes Iuddewon Palestina, ac ymlynai eu per- thynasau gwasgaredig yn dyn wrth ffydd eu tadau. 'Nid llai crefyddoll yclfwaith y pagan yn ei ffordd ei hun, cai crefydd sylw amlycaf yr athronydd a'r bardd, a honid fed yr ymerodraeth o ba un yr oedd Palestina yn rhan yn I gorphwys ar seiliau crefyddol. Yr oedd meddyliau crefyddol y cyfnod hwn mor weithredol. nes caregu o honynt yn ar- ferion, seremoniau ac atlirawiaethau, nid yn unig yn mhlith yr luddewon, ond mewn cylchoedd ipaganaidd drwy ym- erodraeth Rhufain a Groeg. Ymddang- osodd Cristionogaeth ar y maes cref- yddol-hwn, nid fel rfhagngloddiwr (pion- eer) ond yn hytrach fel cystadleuydd. Cystadleuai yn gyntaf ag Iuddewiaeth, yna a Phaganiaeth, a pharhaodd yr ym- dretchfa rhyngddynt am amryw, oesau. Yn ngoleu amigylchiadau o'r fath, o'r braidd y gallwn dybio fod Cristionog- aeth yn rhywbeth wedi ei lluniaethu a'i gonphen yn y nefolion leoedd, yn hy- trac.h meddyliwn am dani fel dadblyg- iad o brofiad crefyddol, a hwnw yn am- rywio yn ei gynwys a'i ffurfiau myneg- iadol, yn gyfatebol i angenion gwahanol bers/onau, yn nghyd a gofynion am- gylchiadau amrywiol ei hanes iboreuol. Mynediad dadblygol yn mhrofiad dynol- beth ydoedd yn su'gno i mewn elfenau byw o ffynonellau amrywiol ei chrylch- fyd. (I'w Barhau).
GALLU A BYWYD Y GREADIGAETH.
GALLU A BYWYD Y GREADIGAETH. Gan Elben P. Davies. I Penod Y. I Fel y sylwasom yn yr ysgriif ddiwedd- aJf, try y ddaear ar ei phegynau yn rhin wedd y ddeddf drydanol fod cydrywiaid yn igwrthod eu gilydd, a gwrthrvwiaid yn atdynu eu gilydd. Sylwasom ein bod yn cael dydd a nos bob yn ail drwy fod yr haul yn Igwthioyr ochr oleuedig ac yn tynu yr ochr dywell. Cymar hyn le yn gyson bob pedair awr ar hugain, ac y mae .sicrwydd ei barhad yn y ffaith fod Duw wedi arfogi yr haul a gallu i gyfnewid y nacaol i'r cadarnhaJOI- gwneyd yr anweithredol yn weithredol —neu wneyd yr hyn oedd "farw" yn fyw drachefn. Y mae dyn wedi pendroni llawer, y mae wedi myned i'r ,gwallgolfdy, ac wedi cyflawni hunanladdiad ganoedd o weith- iau yn ei ymc-hwilied am y "symudiad parhaol" (iperpetual moti'on) ond ni Iwydda ,hyth hyd y medr, fel Duw ei hun, ddyfeisio peiriant gynyrcha ei allu ei hun, a hyny heb ddifa mymryn o'i adnoddau. Gwnaeth Duw hyn pan gre- odd yr haul, cynysgaeddodd ef a chym- wysder i fod yn hunanngynyrchydd per- haol o'r elfenau sydd yn hanifodol i fywyd a rheolaeth ei wrthrywiol blan- edau. Synodd Moses yn Tawr pan wel- odd y berth yn llosgi ac heb ei difa, ond yr oedd hyn yn henbeth yn hanes Duw —mor hen a cfhreadigeeth yr haul o leiaf. Nid am na wyr y darllenydd hyny y dywedasom y try y ddaear ar ei phegyn- aubOlb pedair awr ar hugain, eithr er mwyn galw ei sylw at y ffaith mewn modd arbenig. A yw wedi gofyn erioed, Paham pedair awr ar hugain? neu Pa- ham na fyddai yn fwy neu yn llai? Ser- haif ef na. fyddai yn rhyfyg ynddo pe gwnai, ac ni fydd yn rhyfyig ynwyf inau i geisio ei ateb. Y mae yn amlwg nad ei safle yn ei pherjthynas a'r haul bend-erfyna hyd ei diwrnod, oblegid prawf ei thaith flyn- yddiol oddiamgylch ei theyrn yn groes i hyn, felly nid yw y gallu dysigyrcihiol i'w ystyrded o gwbl. Ac wele Mars, ond ychydig dros haner ei phellder, a'i diwrnod ond tua haner awr yn hirach, tra y mae Sadwrn a Jupiter, y naill yn bedair a'r llall yn ddeg o weitlhiau yn mhellach, a'u diwrnod yn ddeg awr. Y mae yr un mor amlwg nad ei maintioli a'i penderfyna, oblegid y mae yr u-n I an- nghysondeb yn hyn hefyd. Nid oes dim yn mhellder a maintioli cymaToil y gwahanol blanedau, er penderfynu hyd ei diwrnodau, yn cyfatdb i ofynibn dys- gyrchiaeth. Y mae dysgyrchiaeth bob amser yr un fath ar yr un ipellder, ac yn mwyhau neu yn llelhau yn wrthwynelb- ol i ysgiwar y pellder; h. y., os mwyheir y pellderddwyweJth ni fydd y gallu dyisisryrchiol ond un rhan o bedair, ac os mwyheir ef i dair 'gwaith y pellder ni i fydd yr atdyniad dyrgyrchiadol ond un rhan o naw. Felly, mae'n amlwg nad oes un gyfathrach rhwng dysgyrchieeth ag hyd ein diwrnod. Ond tra y mae yn anmhosibl i'r ddam caniaeth a ddysgir yn ein colegau hedd- yw fel gallu ys'gogol y cysawd heulog gyfrif am hyd ein diwrnod, y mae o fewn gallu y ddamcaniaeth drydanol i wneyd hyny yn syml ac yn eglur, a'r es-1 boniad yw hyn: Yn gymaint a.g mai! gallu atdyniadol a gwrtMiyrddiol yr haul dry y planedau ar eu pegynau gwahanol, penderfynir hyd diwrnod un-; rhyw blaned gan addasrwydd, neu gy- j mwysder defnydd a ffurf arwynebol y blaned hono i dderbyn trydaniaeth ga-' darnhaol o'r haul, neu mewn geiriau eraill, y mae hyd diwrnod y blaned yn gyfartal i'r amser a gymer un haner- gylch iddi ddyfod yn gadarnhaol ac yn nacaol drachefn. Try y ddaear ar ei, phegynau bob pedair awr ar hugain am y cymer i'w harwynebedd goleuedig ddeuddeg awr, a dim rhagor, i ddyfod I yn gadarnhaol, a deuddeg awr eraill li ddyfod yn nacaol. Prawf hyn fod natur gyfansoddiadol j Jupiter a Sadwrn y fath ag i alluogi eu 11arwynebau i newid o un sefyllfa i'r llall yn gyflym iawn, cyfnewidiad mor gyflym fel y gorfodir cyhydedd Jupiter i droi gyda'r cyflymder aruthrol o saith mil ar hugain o filloedd yr awr; neu dri ugain a phymtheg o filldiroedd bob eiliad. Gredwn y cydnebydd pob meddwl diduedd ein bod wedi cyfrif yn foddhaol am droad y ddaear ar ei pheg- ynau, ac hefyd am hyd ei diwrnod, yn hollol oddiar y safon drydanol. Y mae canlyniadau i droad dyddiol y ddaear ar ei phegynau nad yw un ddam- caniaeth arall wedi cynyg cyfrif am danynt, ac nis gall chwaith. Y canlyn- iadau hyn ydynt, gymeriad ehedfaenol y ddaear, ei bod yn begynol, a symud- iad ffrydiau y mor rhwng y pegynau. Y mae troad y ddaear bob pedair awr ar hugain yn dwyn y gwahanol ranau o'i harwynebedd dan belydrau unionsyth yr haul yn ol mil o filldiroedd yr awr, a phair hyn i'w gwneyd yn ebedfaen an- ferth. Nid oes eisieu gwell prawf o hyn na'i bod yn begynol, h. y., bod iddi begwn cadarnhaol gogleddol, a phegwn nacaol deheuol. Y mae y .pegynau, o angenrheid- rwydd, ar draws y ffrwd drydanol a basia oddiamgylch y ddaear o ddwyrain i orllewin. Wrth y ffrwd hon y golygwn y drydania,eth gadarnhaol a dderbyn y ddaear o'r haul yn ei belydrau, ac yn gymaint ag y try y ddaear o orllewin i ddwyrain bob pedair awr ar hugain, y mae y canlyniadau yn hollol yr un fath a phe bae y ddaear yn sefydlog a'r ffrwd yn symud o ddwyrain i orllewin yn y cyflymder o fil o filldiroedd yr awr. Ni ellir pegynu unrhyw beth heb ei ehedfaenu, oblegid cynyrich yr olaf yw y cyntaf. Cynyrchir pegynau yr elhed- faen, un yn gadarhaol a'r llall yn naca- ol, drwy yru ffrwd o drydaniaeth oddi- amgylch y gwrthrych sydd i'w ehed- faenu, os mai dur fydd, bydd yr ehed- faen yn barhaol. Dybyna lleoliad gwa- hanol y cadarnhaol a'r nacaol yn y gwrthrych a ehedfaenir ar gyfeiriad y ffrwd a yrir oddiamgyldh iddo. Gyrer y ffrwd mewn un cyfeiriad a daw un pen yn gadarnhaol a'r llall yn nacaol; i and troer y ffrwd i'r cyfeiriad gwrth- wynelbol a newidia y pegynau. Yn eu perthynas a'r ddaear y mae y pegwn cadarnhaol ar yr ochr ddeheu i gyfeir- iad y ffrwd, a'r nacaol ar yr aswy, ond pe troad eyfeiriad y ffrwd i ifyned o or- llewin i ddwyrain, yna byddai y pegwn cadarnhaol yn y deheu a'r nacaol yn' y Nid yw v ffelthiaii, pwysig o ehed- ■ faenedd a phegynedd y ddaear wedi cael un sylw gan gefno'gwyr y ddamcan- iaeth ddysgyrchiol, c?blegid "'does dim yn y ddarncaniaeth hono a fedr eu hes- ibonio nac yn galw am danynt. Y mae y i t'fethiau hyn y tu allan i derfynau y ddamcaniaeth yn igyfangwbl, er cymaint sydd a fynont ag am-lyigiadau a dadogir, yn gamsyniol, i ddysgyrchiaeth. Fel y dywedwyd yn fiaenorol, ni thraidd y drydaniaeth gadarnhaol o'r haul i mewn i'r ddaear, ond erys ar ei fowyneib, ac felly rheola ei symudiadau, deil ei phegynau ar draws y ffrwd dry- danol, a gwna ei sefyllfa wrthrywiol i'r haul ei chadw bob amser, ac yn mhob man, dan ei lywodmeth. Felly, yn unol a'r hyn sydd wybydduis am ddeddfau trydaniaeth, cyfrifwn am droad dyddiol y ddaear ar ei phegynau, ei phegynedd, a'i ehedfaenedd, drwy allu hunanaddasol, gallu a sicrha iddi weithrediad cyson dc annghyfnewidiol tra amser yn bod. (Crediwn mai gair newydd yw "Peigyn- i edd," ond ni allwn ifeddwl am ei well er gosod allan sefyllfa begynol y ddaear, ac vn yr ystyr hono y gwiiawn, ei ddefnyddlo).
IDEWIS Y PER AROGL.
DEWIS Y PER AROGL. Gan y Parch. John Hammond. Safa-i boneddiges a boneddwr, felly y clywais, mewn iard gced yn Chicago, a'r afpn gerllaw yn l'gl ddrwg ei sawr, pebh ag mae y ddir > enwog wedi wella bellach er's bl.vnyddau trwy ddir- fawr gost. Elbe y fach yn sydyn, "Oh! ydech chi ddim rii arogli drewdod yr hen afon yna!" "Na, gwyntio y byrddau ffawydd neis yma yr ydw i, thenciw ma'm!" Darlun onide o gyxa- deithas a theulu, o berson unigol a chy- mydogaeth, o lenyddiieth a chrefydd. Pertlhyn iddynt yr ar(, per a'r gwynt drwg, ac mae ffroenau meddyliol ac ys; brydol diynion yn cael dewis pa un; rhai yr afon ddrygsawrus, y ffos leid- iog ac annymutfol. Eraill yn troi yn wastad at y pinwydd a'r ffawydd llif- iedig, ac yn mwynliau. llonaid eu han- adl o'r arogl per ac inchus. Llenyddiaeth enwoir ac addysgiadol iawn ydyw eiddo yr luddewon. Cof cyntaif a choif goreu y rhan fwyaf o hon- om yw yr hanes am ral o arwyr yr hen genedl. Dyne. Jacob r Samson, Moses a Dafydd, Elias a Daniel, ac eraill. Hanes cymysgedig yV; eu hanes hwy fel pawb dynion, cynv?4adau brithion; rhai ymddytgiadau yn ela. temtio i droi draw a dal ein ffroenau, tra mae y lleill yn arogli yn hyfryd fel pinwy dd iplan yn ngardd Eden. Cymerwch eich dewis. Gwell gan rai son yn senllyd fyth a hefyd am grafeiddiwch Tacob, tad bar- geinwyr a chrihddeilwyr; y mae iddynt roesaiw i ffroeni y pceredd a'r dryig- sawr, ond gwell gen fyfyrio ar y ddysigyblaeth lem y rl oldwyd ef trwy- ddi er carthu y "disodlwT" allan o'i garictor. Hyfrytach arogl arno yn Bethel, Peniel a Gosen, nag gydd arno yn Beerseba. Paw'b r"t y peth y bo, ebe'r hen air, a thynt Ihai sydd yn wastad at Dafydd yn ■ odineb. Chof- iant hwy ddim, soniai t hwy byth am farddonia.eth fendiged g "Y neifoedd ac am y salm sy' fel rhosyn Saron. yn mhlith y salmau, "Yr Arglwydd yw fy Muigail." Ond, maohgen i, os at y pethau drerw- llyd yna y mae tynfa d'enaid, arogla di lon'd dy fal o'r hen apthavys, mi ddewis- a.f finau y perarogl, a chanaf gyda Thegidon: Mil henffych Feibl tirion, wyt werth- fawr genyf fl., Ac anwyl gan fy nghalen yw'r olwg arnat ti. Yn yr un modd, cynygia Hanes i ni yr ystyllod neis o'r goedwig iach, neu ynte y ffos a'i hatgas arogl. Bu adeg pan groniclai haneswyr ddim ond brwydrau gwaedlyd rhwng teyrnasoedd, ddim ond gorthrwm breninoedd a chreulondeb pendeflgion. Ond cododd awduron amgen, athronwyr hanes; dangoisant hwy fel y gweithiai lelfain rhyddid a hawliau y werin yn mlawd yr oesau; desgrifiant yn sybar ymdrech- ion gwerin gwlad am oleuni ac addysg, iawnder a thegwch. Mewn geiriau- er- aill, eglurant ddatblygiau y ddynodiiaeth. Y mae yna benod ddu yn hanes y Pro- testaniaid, er mai cwta ydyw mewn cydmariaeth. Buont yn rhy chw-yrn a chwerw tuaig at y rlhai a Mrahaniaethant oddiwrthynt mewn barn ac arferiadau. Ambell waith, anngho-fliagant eu hunain -kmibell w' a ,,L nes merthyru Pabyddicn; a bu y Tadau Pererinol yn rhy erlid'gar. Oni pher- thyn i bob dyn ac i boT) diwygiwr ochr ddu, nid perffaith nb pa mor alluog bynag. Ac yn eu mysg John Calvin; nid ipereroglus bobipeth a yggriifenodd yn ei dduwinyddiaeth, nid gwyn yr oil o'i ymddygiadau at ei gyd-ddynion. "Clhwi a glywsoch am amynedd Jolb," ond yn ei !amynedd y tHi y coll mawr; ac Abraham, tad iplant y ffydd a aeth yn ddi-fflydd; ec yn ei addifwynder y bu cwymp difrifol Moses. Felly Calvin, aipostol rhyddid, rhyddid meddwl a barn, rhyddid talaeth a tgwlad. Ond yn ei nerth y collodd ei ffordd ac y llith- rodd, ac yn awr pa synwyr i ni ffroeni y colliadau, a throi trwyn ar arogl peraidd ei dduwioldeb a'i allu fel esfboniwr, es- boniwr mwyaf ei oes, a'i ddylanwad fel diwygiwr ar ei oes ei hun a'r oesau ar ei ol. Na thenciw, well gen' i arogl hyfryd y pinwydd. Beth eto am grefydd yn ein mysg fel cenedl? Bygythia lesu Grist boeri rhywrai o'i enau, set eglwys a chrefy'ddwyr claiar. Nid poeri am ben eglwys Laodicea a wna, iefe; na, tphoer- odd lesu ddim am ben hyd yn oed eg- lwys glaiar ac anmherffaith, ac efallai y daw y dydd ryw dro pan welir ein go- hebwyr beirniadol yn teimlo fod ei esiamipl yn werth ei dylyn. Ami y clywch rai yn dweyd, eRhagrHhiwrs yw'ch haner chi yn yr eglwysi yna.' FeHy! Wel, ynte, mae'r haner arall yn ddi-ragrith. Ond pam rhaid i ti, ng-was gwirion i, wyntio dim ond y rhagrith a'r twyl a'r annghariad, ag y myni di eu bod yn mhorb enwad ac eglwys. A glyw- aist ti erioed, mai apha fe&ur y mesuri, yr adfesurir i tithau? Hyny yw, yr hyn yw dyn hyny a wel. Y rhai pur o galon a welant—welant beth? a welant Dduw, yn mhob man ac yn mhob dim; mewn heulwen a mellten a gwelltyn a gwlith- yn, mewn seren a seraff a saint a seiat, hwy a welant Dduw. Ond yr an- mhur ei galon, wel o mo Dduw yn un- man nac undim, a. rhyfedd fel y cenJfydd Ira,=;rithiwrs' yn mhob cyfeiriad. Fel y fenyw yn yr iard goed mae ei wynèb a'i ffroenau tuag at y ffos a'r drygsawr. Llain o goed yn arogli fel Libanus yw y cefiantau sydd genym yn ein hiaith. Parant i'r darllenydd oriau o foddineb, eangant ei ddealltwriaeth, dysgant iddo y gwersi dysgleiriaf, ac ysibrydolant ef i fyw cymeriad mwy dyrchafedig a defn- yddiol. Dyma nhw ar yr astell o fy mlaen: Ben Bowen, Ðmrys, J. Foulkes Jones, Henry Riees, H. P. Howell, Owen Thomas, &c. 0, y fath ffwl fydd- wn pe trown oddiwrth y dynion hyn oeddynt "berarogl Crist," gan ddewis yn hytrach arogli dim ond cwenylon a chulni y gwahanol enwadau, neu ym- raniadau yn yr eglwysi, neu ddig a llid rhwng teuluoedd. A wyddoch chwi am destyn balchio ynddo yn fwy na'r fam C- ymre i- ? Y fath wahaniaeth rhyng- ddi a mamau Llydaw, neu Paris, neu Antwerp. Y fath gagendor sy rhwng mamau ynys Mon a mamau Monaco; rhieni yn gamblo ffortiwn a !pherlau a, phurdeb i'r cythraul, ond beth am fam, Herber Evans ac Islwyn? Beth am Elin Jones, Tycroes, mam leuan Gwynedd? Beth am y fam hono gyda'i byehan- y ddau gartref ar nos Sul, pryd gofyn- odd hi i William bach gadw dyledswydd cyn mynd i orphwys. Y weddi blentyn- aidd hono yn swn 'amen' ei fam gyoh- wyndd y bachgenyn i ddod yn un o brif addurniadau y pwlipud Cymreig, neb amgen na Williams o'r Wern. A dyna fam y cewri o Dalsarn, mam John ac Owen Thomas; dyna Fhebe Hughes, Penybryn,- mam Ceiriog, gyda'i "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon;" a Mari Lewis, mam Rhys, gweinidc^g Bethel. Ah, maent fel angylion Duw -yn rhodio trwy ganol byd i ganol nef. Yn awr, cyfrifwn fy hun yn asyn dwl ac yn adyn du pe dewiswn sefydlu fy meddwl a 'mryd ar famau anynad ac annheil- wng, balch eu calon, segurllyd eu byd, aflawen eu tymer ac esgeulus eu moes. Na, rhowch i mi ar dudalenau ffug- chwedl ac ar ddalenau newyddiadur— rhowch i mi yn nghalendar yr Eglwys a'r eglwysi, yr hanes teuluoedd, cenedl- oedd a phersonau arogl per ffawydd a phinwydd, ac nid drygsawr ffosydd.
1PREGETHWYR YR EFENGYL A'RI…
1PREGETHWYR YR EFENGYL A'R I RHYFEL PRESENOL. I Gan Gwalia. I Ceir amryw o'n gweinidogion enwoc- I af ar y blaen yn anog ein dynion ieu- ainc i wisgo arfau. Clywir hwynt yn gweddio yn ddigon talgryf am i'r Ar- glwydd lwyddo ymdrechion ein milwyr i ddinystrio'r gelyn. Galwant hwn yn "rthyfel cyfreithlon," "rhyfel yr Ar- glwydd," yn "un o renauei ffyrdd ef." Dywedant fod cyfiawnder o'i iblaid, a bod rhyddid a dyogelwch ein gwlad yn dibynu yn awr ar nerth ein byddin. Er bod Duw yn dal i ddweyd "Na ladd," credant hwy fod yn iawn ac yn ddyled- swydd arnom wneyd pob ymdrech posilbl i ladd y Kaiser a'r Germaniaid. Tybed (fod ys'bryd Orist yn eu cymell 1 wneyd hyn oIl? Onid oeddym wedi addaw ac ym- rwymo i amddiffyn 'Belgium? Oeddym; ond hwyracih y goddefir y goifyniad, a oedd dim posibl amddiffyn heb ladd? Dywedir nad oedd. Ceisir dangos fod ein llywodraeithwyr wedi gwneyd pob- petih a fedrent i 'gadw heddwch ac i ys- goi rhyfel. Pob parch iddynt am ym- ddwyn mor deg a cliyfiawn; ond hwyr- ach y gallasent ymddwyn yn well na chyfiawn, neu yn hytrach gyda chyf-1 iawnder helaethach. A ddarfu iddynt cyn anturio i ,ryfel ymigyngori a'r Hwn sydd a chalonau lbreninoedd ac ymer- awdwyr yn ei law, ac yn igailu igwneyd fel y inyno a iplhawb yn y nef ac ar y ddaear? A ddarfu iddynt ofyn am i'r deyrnas lawnaf o Grisitionogaeth gyne.1 cyfarfod i ymostwnig ac i weddio? Pw! waefch helb gloncian ar yr ochr yna i'r cwestiwn; fflloreg wag i gyd yw son am weddio mewn amgylchiad O'r fath; beth fuasai gweddi werth i droi "adyn di- eftig" yn ei ol? Buasai y Kaiser wedi ein Uadd a meddianu ein igwlad gyda'n bod yn dechreu igweddio. Dyna dyb-: iaeth a barn igyffredinol. Erbyn hyn, beth bynag, mae yn ffaith arswydus ifod miloedd ar filoed,do fywydau wedi eu colli, ac ofnwn y collir eto lawer mwy. Pe buesem wedi mentro i gwrdd a'r gelyn ar hyd ffordd ymgyngoriad a gweddi, hwyraoh fuasai hi ddim llawer gwaeth nag ydyw. Dywedodd un dyn enwog, cyn y daw y byd i'w le rhaid i deyrnas hunanaberthu, fod yn barod i gymeryd ei merthyru dros yr egwyddor Gristionofgol. Ond a chaniatau fod ein seneddwyr galluog a theg wedi anwybyddu Crist- ionogaeth yn ei gallu uwchaf, tybed na adylai ein harweinwyr crefyddol sefyll drpyn yn ol, yn lie bod ar y blaen yn ein hanog i ryfel? Y nhw sydd yn proffesu bod yn ddysgawdwyr Cristionogaeth, ac wedi pregethu cymaint wrthym ar ffydd ac ymddiriedaeth yn Nuw, y nhw o bawb yn y ffrynt yn galw i'r gad! Teimlir wrth wrando arnynt yn cref- yddoli ac yn santsiddio y rhyfel pre- senol, eu bod fel yn ceisio uno 'goleuni a thywyllwch neu gyplysu Crist a Belial. Xn wir, y maent yn siarad yn yr un ysbryd yn hollol, a bron yn yr un ymadroddion, ag y siaradai y Kaiser ei hun yn ei bregeth ryfelgar—dduwiol ar "The Mailed Fist," yr hon a draddod- odd i ysbrydoli ei ddynion ar fwrdd y royal yacht yn Awst, 1900. Dadleuir gan rai nad ydyw wedi dy- fod eto yn ddigon gcleu i allu actio Cristionogaeth yn ol y Brageth ar y Mynydd, ac mai ynfydrwydd neu ben- boethni crefyddol fyddai ceisio gwneyd hyny ar hyn o bryd. Mae yn debyg nad ydyw, a ddaw hi ddim chwaith yn ddi- gon goleu tra bo angylion ein heglwysi yn arwain yr oes fel y maent. Ar ol hyn, wrth bob tebyg, bydd rhyfel yn cael ei ystyried yn fwy gogoneddus nag erioed, a drilio milwyr yn waith o'r mwyaf anrhydeddus ac angenrheidiol. Mae y wlad drwyddi yn ferw o ysfbryd rhyfel, a phorthir yr ysbryd hwnw gan ddynion blaenaf ein cenedl. Pregethir llawer o anogaethau ar yr adnod swyn- ol hono, "Gwell marw yn tfachgen dewr j na byw yn fa-chgen llwfr." Molienir llawer ar hen ryfelwyr Cymru Fu er, mwyn tanio rhyw fath o ysbryd gwlad- garol yn ein ipolbl ieuainc i ruthro fel meiroh i'r frwydr. Tybed y dylid dal at yr hen ffasiwn farbaraidd o addoli Glyndwr ac eraill, er bod y nefoedd dru- garog wedi goruwchlywodraethu eu hymladdfeydd gwaedlyd i ddwyn oddi- amgylch ryw gymaint o ddaioni? Wrth gwrs, rhaid caniatau i'r beirdd ,gael gwirioni ar eu hanes a'u darluniau cys- egredig. Pob dyledus barch i hen ar- wyr brwydmu Cymru gynt; ond yn sicr, dylai gwlad Gristionogol heddyw feddu gwroniaid rhagorach a mwy teilwng o glodforedd. Dywedai y frenines Mari fod arni fwy o ofn gweddi John Knox na deng mil o filwyr. Gwroniaid tebyg i'r dyn da hwnw sydd eisieu i amddiffyn ein gwlad. Rai blynyddau yn ol gwfelais yr han- esyn canlynol: "Cyfrifid Tom Owen yn brif ymladdwr y wlad, arswydai pawb rhaigddo; ond cafodd ei ail eni, gwnaetih- pwyd ef yn Gristion gwirioneddol. Un diwrnod daeth bwli enwocaf y Deheu- I barth ato i ymladd ag eif; ni wyddai ;fod i Tom wedi cael troedigaeth, ac er hyny mynai iddo ymornestu ag ef. Gwrth- I odai Tom yn bendant wneyd dim sylw o hono, er ei fod o'i flaen wedi diosig ei ddillad a'i ddyrnau w-rth ei wyneb. Ond pan welodd y Cristtion fod raid iddo gwffi,o, gofynodd i'w wrthwvnelbydd a gai efe biygu ar ei liniau i weddiio i ddeohreu. Caniatawyd hyny iddo gyda gwawd. Ar ol y wfeddi ymddamgosai y bwli eto yn ffyrniig am ifatel. Dvmunodd I Tom Owen arno drachelfn ysgwyd llaw ag ef cyn taro, ac ymaflodd yn gyfeill- gar yn ei law a gwasgodd hi mewn modd ffryndiol, ar hyny diffrwythodd braich y bwli yn y fan; ac ni bu son am ymladd mwy." Digon tebyg mat pwpwa rhyw wrachiaidd chwedl fel hona & wna ein perchedigion, ond credaf y dengys y stori, er ei symled, ffordd fwy rhag- orol na'r eiddynt hwy i wrthwynebu ac i orchfygu igelyn. Gresyn na baent hwy a'n gwladweinwyr talentog a hyawdl yn mynd allan i areithio ar y goruwch- naturiol mewn Cristionogaeth, yn hy- trach nag ar gyfiawnder y rhyfel a'r angenrheidrwydd am chwyddo'r fyddin. Diweddwngyda dyfyniad byr o araeth Mr. Ramsay MaciDonald yn Man-chester ychydig amser yn ol, "What a hollow-I mockery it all was," he exclaimed, "that men worshipping the same Gcd should from rival battlefields and rival pulpits] put up rival sprayers for rival blessings! It were 'better to be bad: in the old Pagan days, when every Jand had its own idol to which it could pray. Then we could be consistent." "They said this was going to be the last of the wars. He hoped it was. But war was not going to finish itself. Only the spirit of (Christian fellowship would do that, and that spirit was not to be looked in the great organization known as the churches, but for the humble men and women who followed the Master, and who had large hearts, great faith and who knew how to be- lieve in the eternal. It was one of the shortcomings of this country and of Europe that they had not the faith they professed if they really treiieved there would be no more war. "This war," he added, "is only going I to be the last of wars if the people make it so. The end of war is going to come when the common people decide that there is to be no more war or rumor or fear of war, and the common people will only decide that when they become full of Christian faith, Christian knowledge, and Christian hope." "There was talk of Prussian militar- ism. He hated that if he hated any- thing in this world. It was wrong and foolish, and cruel and devilish. But was it the only form of militarism? In this country they had been teaching a philosophy as wrong, as foolish and as cruel as any philosophy based upon the worship of force that had been spread broadcast in Germany. There had been preached a psendo-science which twist- ed Darwinism and made Dr. Wallace seem to say things he never said-a. science which seemed to justify com- petition and a trust in wealth and pow- er and influence. Classes had been raised to power on material gains. The Churches had been patronising wealth and turning the spirit of God into the back pews."
IHOWELL HARRIS FEL MILWR.
I HOWELL HARRIS FEL MILWR. I Gan E. T. Xid annyddorol, yn ddiau, ar yr adeg bresenol, tra mae swn y rhyfel ofnadwy yma yn llenwi ein gwlad, ydyw galw sylw at ffaith yn hanes y gwron o Dre- fecca, sydd, feallai, yn ddyeithr i rai o ddarllenwyr y "Dryeh." Tua'r flwyddyn 175G, pan oedd y deyrnas yn ofni y byddai i'r Ffrancod ddyfod drosodd i Brydain i geislo ei darostwng, cynyrf- wyd gwladgarwch a theyrngarwch Howell Harris i'r fath raddau nes y daeth allan fel milwr gwrol i amddiffyn ei wlad. Pan oedd y deyrnas yn llawn cyffro rhyfelgar, eyffw-ynwyd anerchlad i'r Brenin gan Gymdeithas Amaethydd- ol Brycheiniog, yn cynyg ymffurfio. yn gatrawd 0 wyr meirch, a myned ar eu traul eu hunain i unrhyw ran o'r deyr- nas y gelwid am eu gwasanaeth. An- fonodd ein gwron at y gymdeithas y gwnai efe godi deg o feirchfilwyr mewn llawn arfogaeth ar ei draul ei hun, fel chwanegiad at y gatrawd. Oherwydd rhesymau anhysbys, ni dderbyniwyd cynygiad y gymdeithas, ond darfu iddi, fel dangosiad o'i gwerthfawrcgiad o wladgarwch Harris, ei ethol yn aelod anrhydeddus o honi. Yn fuan wedi hyn llwyddodd i gael gan bump o wyr ieu- ainc crefyddol y 'Cartretf,' neu y Sefyd- liad, yn Nhrefecca, i ymuno a'r fyddin. Ymddengys iddynt fod mewn nifer o frwydrau poethion. Gymerasant ran yn enillia.d Quebec oddi ar y Ffrancod, pan laddwyd y Cadfridog Wolf. Dywedir fod amddiffyn neillduol wedi bod dros y pum milwr ieuainc o Drefecca, yn gy- maint felly fel na laddwyd un o honynt, er iddynt fod yn nghanol poethder y frwydr. Ni ddychwelodd ond un yn uniig o honynt yn ol i Drefecca; bu y Ileill farw o farwolaeth naturiol mewn gwledydd tramor. Yr oedd gan Harris frawd, sef Joseph Harris, ac o dan ei ddylanwad ef, ac aelodau Cymdeithas Amaethyddol Bry- cheiniog, ymunodd a'r milisia, gan ddwyn i'w ganlyn o Drefecca bedwar ar hugain o wyr. Yr oedd hyn yn ngwan- wyn y flwyddyn 1760. Yn bur tfuan cafodd Harris gommisiwn fel cadben. Yr oedd ef mor gydwybodol yn myned allan fel milwr ag ydoedd pan yn myn- ed ar hyd a lied ei wlad i anog ei gyd- wladwyr i ffoi rhag y llid a fydd. Gwas- anaethu ei Dduw ydoedd ei amcan yn y naill a'r llall o'r cyflawniadau hyn. Gwyddai, os byddai y Ffrancod yn llwyddianus, mai ffarwel fyddai am Brotestaniaeth y deyrnas hon, a dartfu i'r ystyriaeth o hyn gynyrfu ei enaid mawr i'w ddyfnderoedd, a pheri iddo wneyd ei ran yn anrhydeddus er ceisio darostwng y gelyn. Ymddiriedodd y safydliad yn Nhrefecca i ofal Evan Moses, o'r hwn y ooleddai syniadau uchel, ar gyfrif ei dduwioldeb, a dhy- wirdeb ei amcanion. Anfonwyd y militia yn gyntaf i Yarmouth, ac ar el ffordd tuag yno pregethai Harris yn mhob man. Wedi cyraedd yno, deall- odd fod rhywrai wedi gwneyd cais aftwyddianuls i bregethu i'r bobl yn y lie; cawsant eu herlid yn dost gan yr erlidwyr. Ond wedi clywed hyn, yn lie