Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

LOS ANGELES, CALIF.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LOS ANGELES, CALIF. Yr Eneth Dalentog, Rita Bowen. Y mae gweinidogaeth angeu bob am- ser yn peri poen a galar, ond yn fwy felly pan yn cymeryd blodeuyn pryd- ferth. persawrus o ddaear y teulu, gan wneyd yr itoll le mewn canlyniaa yn wag a phrudd. Cofnodi marwolaeth felly ydyw ein gwaith ar hyn o bryd. Ganwyd Rita Bowen yn, Butte, Mont., Gorphenaf 16. 1902, a bu farw yn Los Angeles, Calif., Hydref 30, 1914, yn yr oedran cynar o ychydig dros 12 mlwydd oed. Merch ydoedd i Mr. a Mrs. Wil- liam Bowen. Anhawdd oedd cyfarfod a geneth oedd yn fwy poblogaidd a charuaidd na Rita, yr oedd pawb yn ei hoffi, a hithau yn hoffi pawb. Yr oedd rhywbeth yn ei phersonoliaeth ieuanc, ac yn ei ffordd oedd yn cyn- yrchu serch ati yn y fan; ac felly yr oedd ei hymadawiad yn peri fod llaw- er iawn yn drist. Yr oedd yn grefyddol o'i mebyd; byddai yn fynych yn myn- ed o gwmpas y Cymry oeddynt yn byw yn agos ati hi i'w perswadio i fyned i r capel, a gwelwyd hi rai gweithiau yn wylo, oblegid fod rhai o honynt wedi gwrthod gwrando ar ei chais. Yr oedd yn feddianol ar allu nodew., i adrodd, a llawer gwaith y clywid ei llais mewn gwahanol gyfarfodydd, yn enwedig yn y capel Cymreig, a phsn ofynid iddi i wneyd hyn, ni byddai un amser yn gwrthod. Yr wyf yn meddwl i bob athrawes fu yn ei dysgu yn yr ysgolion dyddiol ddod i gydymdeimlo a'r teulu y noswaith y daeth y gwedd- illion gartref, gan mor uchel oedd eu syniadau am dani. Penawd erthygl yn un o'r papyrau am dani ydoedd "A Flower-like Girl,' ond fe welodd y Garddwr mawr yn dda drawsblanu y blodeuyn hardd hwn i ardd y gogoniant, i dyfu mewn cynesach hinsawdd, ac o dan amgylchiadau mwy manteisiol. Oherwydd afiechyd ei thad, symud- odd y teulu o Butte i Los Angeles yn lonawr diweddaf, ond Hlydref laf, cy- merwyd Rita yn wael o'r typhoid fever, a bu yn dyoddef cryn lawer yn ystod y mis rhwng hyn a'i marwolaeth. Cyr- aeddodd y teulu gyda'r gweddillion i Butte, Tachwedd 2, a chymerodd yr angladd le, Tachwedd 4ydd. Yr oedd torf fawr iawn wedi dod yn nghyd i -dalu y gymwynas olaf iddi. Yr oedd y -capel yn orlawn cyn i'r orymdaith fawr gyraedd yno. Gwasanaethwyd gan yr ysigrifenydd, a chanodd cor y plant o dan arweiniad Mr. Trevor Thomas. Yr oedd hi yn aelod selog o'r cor hwn, hefyd canodd Mr. H. Corris Jones un- awd. Amlygir cydymdeimlad cyffredin a'r rhieni yn eu profedigaeth drom, ac hefyd ei hewythr a'i modryb, Mr. a Mrs. D. J. Charles. Yr oedd yr oil o'r rhai hvn wedi ymserchu yn ddwfn iawn yn Rita fach. Duw pob dyddanweh-alu eysuro.-H. F. Williams.

D. LLOYD GEORGE A'R RHYFEL.

j NODIADAU CERDDOROL. J i

Advertising

Y GOLEUNI NEWYDD A THYWYLLWCH…

DAMWAIN ANGEUOL I GYMRO.

NOSWAITH LAWEN VN BRISTOL.

Advertising

IHOWELL HARRIS FEL MILWR.