Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

WESTERN RESERVE, OHIO. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WESTERN RESERVE, OHIO. I Gan John M. I Youngstown, Tach. 24.-Un o ragorol- ien y ddaear, ac un o'r hen ardolwyr a dreuiiodd dros 63 o fiynyddau yn y cylch hwn, a'i bywyd a'i hymarweddiad yn help i aefydlu y cymeriad Cymreig. Ljfeiriwn aL farwolaeth y chwaer, Mrs. Ann Howells, o'r ddinas hon, yr hyn a gymerodd le y 6ed cyflsol yn nhy ei mab, Mr. Roger Howells, Hazelton Ave., yn yr oedran teg o 89 mlwydd. Ganwyd a magwyd hi yn ffermdy Pen- Ian, ger Cwmllynfell, plwyf Llangiwe, Morganwg; merch Richard a Hannah Gwilym. Ychydig iawn o addysg dder- byniodd, yn unig addysg yr aelwyd a'r Ysgol Sul, ac esiampl rhieni duwiol, yn nghyd a hyfforddiant gweinidogaeth goeth un o'r d'ynion mwyaf efengylaidd a chydwybodol a fagodd Cymru erioed, sef y Parch. Rhys Price. Derbyniwyd hi yn aelod o'r eglvrys pan tua 16 mlwydd oed, a pharhaodd i arddel cref- ydd Iesu Grist yn ddifwlch hyd y diwedd. Ymfudodd i'r wlad hon yn 1851, gan dynu at berthynasau i'w thad a drigent yn Paddy's Run, Ohio. Pan ddeallodd fod cynilfer o'i hen gymydogion yn byw yn Palmyra a Youngstown, daeth am dro i'w gweled, cafodfl dderbyniad serohog, hoffodd y lie, ac ni ddychwel- odd mwy i Paddy's Run. Y ddolen nes- af yn ngadwyn bywyd yr ymadawedig oedd ymuno mewn priodas gyda Wm. G. Howells, yn Mawrth, 1853, a pharha- odd yr undeb hwn yn ddedwydd am 33 o flynyddau. Ganwyd iddynt chwech o Iblant; pedwar mab a dwy ferch. Cladd- wyd dau o'r meiibion pan tua 16 oed. Mae yn aros Richard G. Howells, Ham- mond, East Chicago; Mrs. Alice Aus- tin, Detroit; Rachel a Roger yn Youngstown. Yn fuan ar ol priodi, symudodd y par uichod i Hubbard, lie yr oedd glofeydd yn ymagor. Cyn hir prynasant ddarn o dir, adeiladasant gartref, lie y touont fyw hyd nes symud y tad gan angeu yn 1886. Daliodd Mrs. Howells aelodaeth yn yr eglwysi ag oedd yn gyfleus iddi ar hyd y blynyddau. Bu yn aelod yn Brier Hill, Crab Creek, Hufbbard Wheat- land, ac Elm St., a dylynai foddiongras bob amser y gallai, ac yr oedd croesiaw siriol iddo gan y frawdoliaeth. Tua 1894, penderfynodd adael y fferm ger y atflte line, a symud yn nes at y plant i'r ddinas hon. Dygodd ei llythyr ac ymunodd a'r frawdoliaeth yn Elm St.; lie yr oedd iddi dderbyniad gwresog, canys gwyddid yn dda am dani fel chwaer ddidwyll, hawddgar a lletygar. Yr oedd amryw o hen gyfeillion y dydd- iau gynt eto yn fyw ac yn cofio am dani. Yma y treuliodd brydnawnddydd bywyd mewn modd tawel a dibryder, tra yr oedd yr hen frodyr a'r hen chwiorydd yn cael eu galw ymaith un ar ol y llall. Cafodd hi aros braidd yr olaf un o'r rhai ag oedd yma yn 1852. Priodol defnyddio geiriau Solomon at fywyd y chwaer hon: "Llawer merch a weithiodd yn rymus, ond ti a ragoraist arnynt oil." Fel dynes, gwraig a mam, bu yn troi yn mhlith ei phobl a'i chy- xnyd'ogion ar hyd ei hoes, ac ni chafodd ameuaeth gyfle i godi ei fys ato. Mae ei hanes yn gadwyn gyson gref bendant a addurnir gan bwyll a mantoliad meddwl a synwyr cyffredin cryf. Parod oedd ei chymwynas, doeth ei chyngor, sylweddol ei hymddyddanion a siriol ei chyfeillach. Fel y crybwyllwyd, gan- wyd a magwyd hi ar fryn uehel, yn ymyl mynydd Penllerfedwen, lie yr oedd y cymylau diog yn llusgo gan daenu niwl a lleithder, eto yr oedd haul y dwyrain yn tywynu yn foreuiach arno nag ar y gwastadedd a'r cymoedd cylchynol, a byddai goleu dydd ar Dwyn Penlan a'r gwartheg wedi eu godro cyn y buasai pobl Cwmtwrch a Chwmtawe wedi codi. Gadawodd arferion trefnus: iboreu oes, yn nghyd a glanweithdra a chynildeb diarebol Llangiwc eu hargraff arni fel y rhoddodd gyfeiriad cywir i'w holl fywyd. Fel Cristion, hoffai y gyfeillach gref- yddol, er nad oedd yn chwanog i siarad llawer, eto rhoddai fynegiad i'w phrof- iad aeddfed a'i sail am obaith mewn adno'd lwvthog o addewid a sicrwydd. Yr oedd ganddi gof gafaelgar annghy- ffredin. Medrai adrodd rhanau o'r Ys- grythyr ag oedd yn gydnaws a'i theim- lad. Pleser oedd ei gwrando yn adrodd "Pan ar y mor o wydr 'rwy'n brysio oddi yma'n brysur tua thragwyddol- deb," &c., &c., &c.; yr hon sydd gan o 9 neu 10 o benillion. Hefyd can "Y danchwa yn ngwaith Brynmorgan,' "Can y Dwytundodiaid" gan Owen Daf- ydd. Cofiai yn dda, ac adroddai ranau o baled Price Cwinllynfell ar adeg cholera 1849—y penill cyntaf fel hyn: .'r maint ysgubwyd gan yr haint— Y pla dinystriol I'r byd tragwyddol, 'Rym ni'n ddiangol, 0 ryfedd, ryfedd fraint! Adseiniwn haleluia, Hosanna gyda'r saint." Yn ystod y pum mlynedd olaf o'i hoes, fel yr oedd y "dyddiau blin" yn gwasgu, dechreuodd y clyw drymhau, a'r golygon bylu; methu clywed y pre- gethwr a methu adnabod yr hen wyneb- au siriol. Yr oedd tynu o drysorfa y cof yn felus a dymunol iawn. Fel yr oedd yn agoshau at rydiau'r afon, daeth i'w meddwl drefnu ar gyfer y symudiad, a dewisodd destyn i'w gwein- idog wneyd ychydig sylwadau yn ei hangladd, yr hyn sydd yn awgrymu cyfoeth o brofiad ysbrydol a gobeithiol —Psalm 103, 12-13, "Oyn belled ag yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin, y pell- haodd efe ein camweddau oddiwrthym. Fel y tos-turia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef!" Bu yn nychu fwy neu lai am -fis- oedd, ond yr oedd yn obeithiol, ac yn ddiolchgar am bob sylw a thynerwch. Defbyniodd bob gofal a allasai dwylaw cariad a chydymdeimlad weini gan ei hanwyl ferch, Rachel, a'i merch-yn- nghyfraith, Mrs. Roger Howells,. Am y diwedd gellir nodi "Y cyfiawn a obeith- ia pan fyddo yn marw," a "Ni frysia yr hwn a gredo." Oynaliwyd yr angladd brydnawn Llun, y 9ifed cyflsol, yn y ty gan y gweinidog, R. Lloyd Roberts, G. W. Brown, Plymouth Church, a A. E. Nicb- olson, M. E., yn cymeryd rhan yn y gwasanaeth, a chor Elm St., o dan ar- weiniad D. S. Davies, yn cael ei gy- northwyo gan yr hen gerddorion, John B. Lodwick, Ben B. Phillips, ac eraill. Dygwyd y gweddillion i fynwent yr East Church, Hubbard, i arphwys yn ymyl ei phriod a'i meibion. Yr oedd amryw o'r hen gymydogion wehl dyfod yn nghyd yno, er mwyn parch i goffad- wriaeth un o'r rhai anwylaf a adwaen- ent. Coffadwriaeth y cyfiawn sydid fendigedig.

Advertising

RANDOLPH, WIS. I

Advertising

Family Notices

HUMBOLDT PARK, CHICAGO. I

Advertising

1"-"-- 1--: POBL A PHETHAU…

Advertising

I WOODS RUN, PITTSBURGH, PA.I

Advertising