Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
m ldrycb., A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. 1.ùed Every Thursday Morning. rHGMAS J. GRIFFITHS, Proprietor, UTICA, N. Y. IMPORTANT O ADVERTISERS.—The attention of business men in general is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with subscribers in every State and Territorj of the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
[No title]
Tra yn anerch cyfarfod ymrestru yn Towchesiter dywedodd Arglwydd IPen- "bvn ei fod yn apelio at y dynion fel tad i ch-anddo feibdon yn gwasanaethu eu "wle.õ. Yr oedd un o'i feibi-on ar goll ac yn glwyfedig. Yr oedd ganddo ddau "rawd, pum brawd-yn-nghyfraith, ac un- -ir ddeg o neiod yn gwasanaethu eu -wl,ad a'u Brenin. Yr wythnos o'r Maen ymuraodd Arglwydd Penrhyn ei vunan a'i hen gatrawd, y 1st IAfe Guards.
I RHAI 0 HEN GYMERIADAU PENMACHNO.
I RHAI 0 HEN GYMERIADAU PEN- MACHNO. I Gan E. O. Roberts., I XII. I Dafydd Roberts, Twll y Cwm. Diau mai un o gymeriadau mwyaf gwreiddiol ifu yn perthyn i eglwys Rbyd y Meirch yn y Cwm, yn yr oes o'r blaen oedd Dafydd Roberts, Twll y Cwm. Yr oedd yn bortread cywir o'r "Cymeriad Oymreig" ys dywedir, yn wr o gorffol- aeth gadarn, wedi ei fagu ar fara ceitch a llaeth enwyn, ac ni roddodd heibio i'r un o'-r ddau ar hyd ei oes. Ni ohafodd nemawr ddim addysg, ond llwyddodd i ddysgfl darllen ac ysgrifenu pan yn bur ieuanc. Darllenodd lawer ar ei Feibl, a gwnaeth ei oreu tuag at ei ddeall. Ei brif esiboniad oedd "James Hughes," a meddyliai yn uchel iawn o hono. Drwy graffder ei feddwl, a chymorth "James Hughes" daeth yn dduwinydd da, a de,allfli athrawiaethau yr Bfengyl yn well na nemawr un o'i oes. Deallwn y bu o gymorth mawr i'r Parchn. Dr. Joseph Roberts a'r diweddar William Machno Jones, pan ddechreuasant bre- gethu. Rhaid fyddai iddynt gael barn Dafydd Roberts ar eu pregethau yh gyn- taf cyn anturio o flaen cynulleidfa. Yr oedd gan y ddau bregethwr faen neill- duol yn bwlpud yn y Oeunant, gerllaw Twll y Cwm, ond ni fyddai yno ond un gwrandawr, sef Dafydd Roberts, a phan fyddai yn beirniadu eyfansoddiad y pre-I geth, gorweddai ar ed wyneb ar y ddaear, ond pan feirnia.dai y traddodiad fe eisteddai gan sylwi yn fanwl ar ys- turn y pregethwyr; a ohawsant lawer! gwers werthfawr ganddo, a deallwn y 1 byddai y cyfarfodydd yn troi yn rhyw- beth mwy real na practice yn ami ia wn. Gwnai Dafydd Roberts rai troion pur drwstan yn nglyn ag amgylchiadau cy-! ffredin bywyd, ond y mae rhywbeth yn gysegredig yn nhroion trwsgl dyn duw- iol. Nodwn ychydig engreifftiau. Fel y crybwyllwyd, yr ydoedd yn ddyn cryf ac iach, ac ni ehymerodd ddim meddyg- lyn hyd nes oedd yn hen wr. Un diwr- nod yr oedd Dr. Williams yn ymweled a chlaf yn y ty nesaf iddo, a dywedodd Dafydd Roberts wrth y meddyg fod rhywbeth arno yntau hefyd. Wedi i Dr. Williams ei archwilio, dywedodd wrtho yr anfonai botelaid o gyffer iddo. Felly fu, ac arni yr oedd yn ysgrifenedig "Llond llwy fwrdd bob pedair awr." Ond yn lie hyny yfodd D. R. gynwysiad y hotel ar unwaith. Ar ei ymweliad nesaf a'r Owm, gotfynodd y Dr. iddo, "Sut yr ydych yn teimlo erbyn hyn Daf- ydd Roberts?" "O," meddai y claf, "teimlaf lawer yn well." "Da iawn," ebe'r meddyg, "a oes genych beth o'r feddyginiaeth eto?" "Nag oes, yr un dyferyn, yfais y cwbl ar fy nhalcen pan ges i o. 'Doedd dim perygl ynddo oedd, Dr.?" "Wn i ddim yn slwr," meddai'r meddyg, "ond cymerwch oflail na wnewch gast fel hyn eto, rhag orfny profa yn waeth y tro nesaf." Erbyn hyn nid oedd gan D. R. yr un dant yn ei enau, ac yr oedd ei gums mor galed fel y bwytai fara ceirch yn hollol ddidrafferth. Yn chwarel Rhiw Bach y gweithiai yn ystod y rhan ddiweddaf o'i oes, yn hogi llifiau, ac yr oedd yn fedrus iawn gyda'r gwaith hwn. Mr. Prichard ydoedd y goruchwyliwr, yr hwn oedd ddyn call, a llawer iawn o arabedd yn perthyn iddo. Er mai dyn ieuamc oedd Mr. Prichard yr adeg hono, yr oedd Yu- ddo ryw anwyldeb teimladwy tuag at Dafydd Roberts, a chyfarchai yr hen wr bob amser yn ychdii. Un diwrijod aeth- ant i son am ddanedd celfyddydol, ac meddai Mr. Prichard, "Yr wyt tithau yn methu yn arw Dafydd na oheisi di ddan- edd gosod." "Pw," meddai Dafydd, "yr ydwyf fi yn gwneyd cystal a neb heb yr un dant naturiot na, chelfyddydol, onide fe wnawn rai fy hun pe eu hangen. Ac, yn wir, dyn cywrain iawn ydoedd, yr oedd yn sitone cutter rhagor- ol, a gallai wneyd amrywiol bethiaii o bres, &c. Fodd bynag, pan aeth Mr. Prichard i'w weithdy dranoeth, dywed-, odd Dafydd Roberts wrtho ei fod am fymed yn mlaen i wneyd par o ddanedd iddo ei hun, ac fod ganddo ddlgon o ddanedd defaid, fel nad oedd dim yn eisieu ond eu ffitio, ond na wyddai yn y byd pa fodd i'w rhoddi yn sownd, ac meddai Mr. Prichard, "Rhaid i ti gael rhyw sylweddmeddal er ffurfio mold." Y peth nesaf a wnaeth Dafydd Rolberts oedd meddahi 'cutta peroha,' a'i roddi yn ei enau a gwasgu arno. Ni raid dweyd beth fel y canlyniad, a dychryn- wyd Mr. Prichard yn ddirfawr, canys ofnai y buasai yn mygu cyn llwyddo i agor ei eneu, ac i gael y 'cutta percha' yn rhydd. Fodd bynag, dyna ddiwedd lianes y dan-edd gosod. Er ei droiom trwstan, yr oedd ei gyd- weithwyr a'r goruchwylvyr yn hoff iawn o hono, ac edrychid i fyny ato gan ei gydnabyddion fel gwr Duw. Gwedd- iodd lawer wrth fynd a dod at ei waith o Dwll y Cwm i'r Rhiw Bach. Dywedai ei gymydog nesaf mai y fraint fwysuf a gafodd ef yn ei oes oedd estyn llymaid o ddwr i oeri gwefusau Dafydd Roberts cyn croesi'r farwol len an^ylad yr hedd a'r wledd dragwyddol. bu erioed mewn cerbydres, nac yn nod ar lawr un orsaf, tra yn ceithio ffordd bodolaeth y daith ddaearol, hyd nes cyraeddodd y platform el.idd yn llgor- saf tragwyddoldeb a'r drydedd nef. De- allwn fod bywgraffiad wedi ei ysg-rifenu am dano, yr hwn sydd eiddo i roddwr y wobr, set Richard Roberts, West Ban- gor, Pa.
I CRISTIONOGAETH.
I CRISTIONOGAETH. I Gan J. I Adran II. 0 blith y nerthioedd a ?u yn cyfranu eu rhan i fywyd Cristionogaeth, nodwn dair o'r ffrydiau grymusr f. Y gyntaf yn ffynonellu y tu fewn » gylch Crist- ionogaeth ei hun, mewn personau ar- benig, megys Iesu a Phaalj yr ail yn llifeirio allan o Iuddewiaeth; a'r dryd- edd allan o awyrgylch grefyddol Groeg a Rhufain. Gwnawn ych. Hg sylwad'au, gan hyny, parthed y nerthoedd hyn yn ol y drefn a nodwyd uchod. Personol- iaeth ydyw y gallu cryfaf welodd y byd, hebddo tiis gelliT cyfrif am unrhyw sy- mudiad. Mae drychfeduyliau ynddynt eu hunain yn ddiymadfer:,h, hyd nes y rhydd personoliaeth adinydd iddynt. Nid i fyny yn yr awyr ya nghymydeg- aeth drychfeddyliau enorphenol y cafodd Cristionogaeth eJ'enau ei byw- yd, ond yn hytrach mewn personol- iaeth fyw, personoliaeth ag ydoedd yn fynegiant mewn lie am rmser o'r dwy- for tragwyddol. Haby mesur lleiaf o ameueeth deuwn. i'r cas-gliad fod Cristionogaeth yn ddyleo-is i fesur, nid bychaa, i'r persionau hyny wnaethant eu hymddangosiad yn c-' !ines boreuol, yn neillduol ieliy lesUllaUI. Hwynt- hwy o bawb arddangosasant y mesur helaethaf o arucheledd natur, adlew- yrchasant yn rymus ar ;roblemau eu dydd, a llwyddasant uwchlaw yr oil o'lu cydoeswyr i wneyd argraffladau arosol ar eu hedmygwyr. Yr oeddynt y math hwnw o bersonau ag y gallesid dysgwyl ar iddynt gyfranu yn effeithiol tuag at iefyalu yn arosol grefydd newydd ac ar- benig. Sylwn gan hyny ar rai o'r neill- duolion hyny pa rai rydd. gyfrif am y rhan bwysig chwareuwyd ganddynt yn ffurfiad Cristionogaeth. Gofynai'r Iesu am ymdoddiad diam- odol o eiddo y galon i ewyllys Duw, ei arwyddair ydoedd sylweddoliad per- ffaith o'r ewyllys ddwyfol yn mywyd dyn. Yr ydoedd ei ffydd yn Nuw yn un ddyrchafol, yn dod a mwy o fendithion i fywyd y ddynoliaeth nag o ofnau, ei bregeth yn fynegiant o'i galon, yn gad- arn o ffydd ac yn gynes o gariad, pawb a'u gwelsant deimlent fod rhywheth newydd ac aruchel wedi gwneyd ei ym- ddangosiad. Nid meudwy crefyddol yd- oedd. Cynyrehai meudwyaeth ddim ys- brydiaeth, mwy nag y gwnaethai preg- eth edifeiriol. Gormod gorchwyl iddo illf ydoedd gwahanu ei hunan oddiwrth gymdeithas fel y gwnaethai Phariseaid ei oes, ac nis gallasai ymneillduo ych- waith i'r anialwch fel y gwnaeth ei ragredegydd loan. Chwilio am ddyn wnaeth Iesu; chwilio am dano er gallu ei garu, "Agorodd law ei gariad er trwsio briw trais a brad." Condemniai bechod igyda llymder ofnadwy, ond car- ai y troseddwr gyda chariad mwy. Yn rhinwedd ei undeib a'r dwyfol, protodd ei bersonoliaeth yn wenwyn i bechod, daeth a Duw i ymyl dyn a dyn i yrayl Duw. Proflodd cyfaredd crefyddol ei bersonoliaeth mor nerthol nes y llwydd- odd i fytholi yr holl argraffladau a wnaeth ar feddwl a bywyd ei gydoes- wyr; rhoddodd symbyliad newydd i'r da a'r pur i ddringo'n uvvch hyd lethrau y mynydd, i awyrgylch Imrach, allan o hualau marwol materoliaeth. Gwelir arbeni'grwydd yr hyn wnaeth Paul yn ffurfiad Cristionogaeth yn y cyfnod hwnw *ar ei hanes pan y dad- blygai yn eglwys, ac y perygl id ei bod- olaeth gan Iuddewiaeth, pa un geislai gyfyngu ei hygbryd y tir fewn i ffiniau cenedlaethol. Yn y CYfwnghwn yn ei hanes llamodd Paul megys i'r adwy, a chwareuodd ran ac y teimla'r byd hyd heddyw yn ddyledus iddo am dami. Dadgysylltodd Gristionogaeth oddiwrth grefydd ddefodol yr Iudiiew, gan ei dyr- chafu i awyrgylch lie y gweithredai yn annibynol er budd y ddynoliaeth (fel corff, mewn gair, achubodd holl walth yr Iesu, gan ddryllio yn deilchion y lieffetheirtau a'i daliai yn rhwym. Daeth Cristionogaeth fel crefydd arbentgol yn gwahaniaethu oddiwrth Iuddewiaeth a Phaganiaeth i fod yn Antiochia, fel can- lyniad ymdrechion Paul; yno am y tro cyntaf y galwyd dyggyib,lion yr Iesu yn Gristionogion. Y ffaith iddynt dan anogaethau Paul wrthod mabwysiadu arferion Iud,dewig gyfrita am dani fel crefydd wahaniaethol ac annibynol. Bu- as,ai wedi ymgolli a marw mewn Iuddewiaeth pe ond am y rhan 'bwysig chwareuwyd gan enaid eangfrydig Aipostol mawr y cenedloedd. Heblaw y gorchwyl o ryddhau Cristionogaeth o hualau Iuddewiaeth, rhaid priodoli hefyd i Paul y gorchwyl hollJbwysig hwnw, o arwain Cristionogneth drwy flynyddoedd mwyaf dyrys ei hanes. Yr oedd gogwyddiadau chwyldroadol y cynulliad Oristionogol yr adeg hon yn gyfryw ag a beryglai fodolaeth y gref- ydd ei hun; yr oedd eu h,oll sylw wedi ei ganolbwyntio'i gyfeiriaif y trychine'b ofnad.wy, dybient fyddai yn ddiwedd i'r blaned ddaearol. Canlyniad hyny ar eu bywydau ydoedd i'w perthynas a sefyd- liadau cymdeithasol fodolent ar y pryd, brofi yn ddim amgen na pherthyn- as hollol negyddol. Canfyddodd llygad treiddgar yr Apostol y perygl, a gwar- iodd ei enaid mawr er dyrchafu y brwd- frydedd hwn i level uwch, gan roddi cyfeiriad iddo hyd linellau mwy ymar- ferol. Drwy wneuthur hyny llwyddodd I arwain Cristionogaeth drwy flynydd- oedd ei brwdfrydedd plentynaidd hyd lwyibr ar hyd pa un yr ymgorphorodd yn eglwys achubodd ei dyfodol gan wneyd ei dadblygiad eglwyayddol yn bosibl.
j ARFERION ANWEDDAIDD.j
j ARFERION ANWEDDAIDD. j I Gan 'Talog, Fort Wayne, Ind. I "Ni ddichon neb wasanaethu dau ar- glwydd; canys y naill ai efe a gasa y naill, ac a gar y Hall, ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a esgeulusa y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mammon," Mat. 6, 24. Peth sydd yn graddol dyfu ydyw ar- feriad. Fel rheol y mae arferion drwg yn dwyn dyn i gaethiwed poenus a pharhaus. Ffrwythau arferion da ydyw rhyddid a dedwyddwch. Dylai dyn, yr hwn a. grewyd ar ddelw Duw fod yn berffaith tfeistr arno ei hun. Os yn tCyfÍ- lawni yr hyn sydid yn anweddus ni all wasanaethu Duw; mae rheol Prif- athraw'r byd yn derfynol ar hyn. Yn yr Alban, yr oedd gweinidog un o eg- I wysi y Presbyterian Reformed yn dar- llen y gwasanaeth agoriadol un boreu Sul, dewisodd ddwy adran o'r Salm fawr; wedi gorphen yr adran yn cyn- wys adnodau .17-24, estynodd ei law i logell ei wasgod a dygodid allan grimpiad o drewlwch yr hwn a dynodd i'w ffroen- au yn awchus. Pan ddechreuodd ddar- llen yr ail adran o'r Salm gwenodd yr holl wrandawyr, methai yntau ddeall y rheswm am hyny. Y geiriau oeddent. "Glynodd fy enaid. wrth y llwch." Teibyig fod y pregethwr yn anwybodol o'i weithred yn cymeryd y trewlwch ac vn porthi blys; ond yr oedd y bobl yn dystion effro o'r weithred a'r geiriau, ac yn canfod anweddeidd-dra ac annighy- sondeb eu gweinidog fel un wedi oi gysegiru at bethau ysibrydol. Mae yn ofid calon i mi am lawer < flynyddoedd, fod nifer fawr o'n gweini- dogion Cymreig yn nghyd a llawar o'r I henuriaid a'r diaconiaid yn euog e'r gwrthuni pe-chadurus o ddefnyddio ty baco, a phleidleisio dros bleidiau gwleid yddol sydd yn ffafriol i'r dafarn. T mae rhai o honynt yn perthyn i'r eg lwysi cryfaf ac felly yn fwyaf eu dylan- wad. Beth fydd canlyniadau yr esiampl- au halogedig yma ar fechgyn ieuainc yr eglwysi a dynion digrefydd y cymydog- aethau? Dyna'r cwestiwn llosgawl fydd yn rhaid i'r euog wynebu a'i ateb. Oni ddylid sychu cors y dafarn, ac felly By- mud y demtasiwn oddiwrth y blysiol? Os yw eich parti gwleidyddol yn gom- edd gwneyd hyn, ga;dawer ef ag unweh a'r hwn a wna. Gwneir ymdrech gan garwyr y dafarn i ddangos ifod y mudiad gwaharddol ya gymysgedd o'r ysbryd Piwritanaidd a theimlad eithafol. Proff. Hugo Munster- berg, ganedig mewn gwlad sydd y fwyaf enwog yn y byd am ei rhyddid yn nghylch gwirod, nis gellir ei alw ef yn BiwTitan nag ychwaith ei gyhuddo o fod yn ordeiniadol. Wele yr hyn a ddy- wed am y dafarn: "Pwy bynag a wne. yn unig ochri gyd- a'r tatarnwr a'i nawidwyr-ie, pwy bynag sydd yn rhy ddall i weled y ni- weidiau mawrion a ddygodd gwirod ar y wlad ac a ddyg heddyw, y mae yn annghymwys i wrando arno gan y rhai sydd yn caru dadblygiant iachusol a chyfanol y genedl. Mae y drygau sydd mewn cysylltlad a'r arferiad o yfed yn ddirfawr, y mae miloedd o fywydau a llawer o filoedd o deuluoedd yn ysglyf- aberth bob (blwyddyn; I-le bv-nag y mae gwiroid yn mwydo'r tir y mae afiechyd a thlodi a chamwedd yn amlhau. Protfa sefyllfa o'r fath heddyw, anwybyddiaeth o ddysg feddygol a chynilwriaeth a drwgweithrediaeth." Oddiar safbwynt feddygol dywedir fod defnyd-dio myglys yn peryglu iechyd a bywyd. Cynyrfa y corff a'r meddwl a gwna ddyn yn nerfus ac anfoddog. Dirywia y giau, yr ymenydd a'r ystuim- ag, a chynyrche. yn ami glefyd y galon. Y mae canoedd wedi cael y cancr yn y gwefusau, y gena'u a'r gwddf oherwydd ei ddefnyddio. Y mae yn ffaith brofad- wy mewn colegau o safle Yale ac Amherst, fod yr efrydwyr nag sydd yn defnyddio tybaco yn meistroli eu gwersa yn well, yn dalach mewn corff ac yn drymach, a chyflwr yr ysgyfaint yn rhagoraeh. Y mae holl ymgeiswyr chwareuol am rwyfo a phob digrifwch arall yn wrthodwyr o'r arferiad hon. Pan yn efrydwr yn Oberlin, clywaie Dr. Joseph Cook yn dywedyd mewn atebiad i'r gofyniad. "A oes hawl gan ddyn i ddefnyddio myglys ?" "Oes," oedd ei atebiad, "ond nid oes hawl gan neb wneyd i mi ei ddefnyddio; ond pan wna dyn gnoi neu fwgdarthu tybaco gwenwyna yr awyrgylch a gorfodir fi gymeryd rhan o'r gwenwyn. Pe buasai gan ddyn sydd yn cnoi myglys gi, ag os gwnae y ci boeri fel y gwna efe, byddai yn sicr o gymeryd gwn a saethu'r ci." Dywedir am Syr Isaac Newton, pan gymellai cyfaill ef i ddefnyddio tybaco, iddo roddi yr atabiad nodweddiadol yma, "Nid wyf am wneyd angenrheid- iau i mi fy hun." Dywedodd Dr. Adam Clarke pe buasai yn rhoddi offrwm i'r diafol, y cymerai fochyn wedi ei orlenwi a .myglys. Horace Greely a ddywed- odd, "Drewdod halogedig ydyw." Thos. Jefferson a ysgrifenodd, "Tyfiant ydyw sydd yn cynyrchu trueni anfeidrol." Ar- olygwr gwallgofdy Northampton, Mass., a ddywed fod "llawn haner y goddefwyr o dan driniaeth yno yn ysglyfebyrth i'r myglys. Mae rhai rheilffyrdd, ager-longaa a chwmniau gweithfaol, yn gomedd cy- meryd neb fel gweithwyr sydd yn diota a defnyddio myglys. Ystyrir hyn yn angenrheidiol er mwyn dyogelu bywyd- au dynol a meddianau. Yr wyf yn deis- yf ar fechgyn a dynion ieuainc Oymreig yr Unol Dalaethau a Chanada, am fwyn- hau eu rhyddid drwy wrthod bod yn gaethweision i'r cwpan a'r tybaco. Ar- ferion anweddaidd, costus a phcryglue ydynt. Cedwch eich arian i ddiwyllio eich meddyliau a chasglu gwyfbodaeth. Mae digon o sefylltfaoedd pwysig ac enillfawr yn agored heddyw yn y byd m&snachol a gwleidyddol, ond rhaid wrth addasrwydd, gallu, a chymeriad dilychwin i'w sicrhau a'u llanw. GresjTiol cyfaddef na cheir gwir safon cymeriad yn wastadol yn y pwl- pud nag yn y swyddog eglwysig, dylas- ai fod yma, er hyrwyddiant teyrnas Crist yn fwy effeithiol. Yn y Dyn o Nazareth y ceir yr unig eafon gymeriad- 01 berffaith. "Yr hwn ni wnaeth bech- od, ac ni cSaed twyll yn ei enau." Oc gwna poob pregethwr a swyddog eglwys-
GALLU A BYWYD Y GREADIGAETH.
GALLU A BYWYD Y GREADIGAETH. Gan Bben P. Davies. Penod VI. Athroniaeth y Gwlaw. YB J drydedd ysgrif gwnae thorn, wrth fyned heibio, stylwi yn fyr ar ddylanwad trydaniaeth mewn rhoddi i ni wlaw o'r nefoedd; ond nid oedd y sylw byr hwnw yn gwneyd cyfiawnder a'r cwes- tiwn pwysig hwn, felly gwnawn ei eg- lvo ya ngoleuni y ddamcaniaeth dry- dtJiol. Fel y byddo'r lleithder mygdarthol sydd yn yr awyrgylch yn oeri ac yn dwyshau, ffurfia yn gwmwl gweledilg, ac fel y byddo'r cwmwl yn ymgrynhoi nes cymeryd i fyny lai o Ie nag a wnelai fel niwl, daw yn drymach na'r awyr drwy yr hwn yr esgynoijd yn rhwydd ac ysgafn yn y ffurtf o darth. Pa gyflymaf yr oero ac y dwysfca, mwyaf oil yw y perygl i hollt-gwmwl gymeryd Tie. Ni ddygwydd hyn yn ami, oblegid y drefn yw i'r cwmwl ddisgyn i'r ddaear yn fan ddyferynau, ac oni bed am y ddar- pariaeth ddoeth er slcrhau hyn dislgynai y ewmwl yn un corff. Nid oes hanes fo-d cwmwl wedi disgyn felly erioed, oblegid y mae y gallu darparedrg wedi effeithio llawer iawn hyd yn nod er yr hyn a elwir yn "hollt..gwmwl," ond nid i'r graddau arferol. Fel y byddo'r cwmwl yn tevrychfu ac yn dyfod yn hylif, dosrenir ef yn ddy- farynau gan y drydaniaeth gadarnhaol stdd ynddo, a chan eu ibod oil yn gyd- rywiol gwrthodant eu gilydd, a'r canlyn- iad yw fod pob dyferyn yn ei le priodol ei hun. Y mae ffurfiad y dyferyn yn gynyrch dwy ddeddf, ac y mae ei ddisgyniad i'r ddaear yn gyn- yreh y drydedd. Y ddwy gyntaf yw deddf ymlyniad gronynol, a'r ddeddf drydanol, tra y disgyn y dyferyn i'r ddaoar yn rhinwedd ei gallu dysgyrch- iol. Penderfynir pellder y dyferynau oddi- wrth eu gilydd gan swm y gallu gwrth- hyrddiol fedd pob un, a ipbenderfynir ei faintioli gan gyfartalwcli y ddwy ddeddf a'l ffurfra, h. y., dytbyna ei faintioliar y maun hwnw lie daw ymlyniad gronynol a gwrth-hyrddiad trydanol yn gyfartal yn ei ffurfiad-tuedd y gyntaf yw ei fwyhau, a thuedd yr olaf yw ei leihau. Y mae pob gwlaw yn gadarnhaol dry- danol, ac yn fwy felly yn yr haf, a'i gy- meriad cadambaol, neu wrthrywiol i'r ddaear, yw yr achos ifod gwlaw 'bob amser yn fwy maethlon i'n gerddi a'n maesydd nag yw y dwfr a ddygir o'r groafa drwy bibellau. Ym& eto igwelwn ddoethineib anfeidrol yr lor mewn addasu igwas i esgyn i'r nef i gyrchu bywyd i'r ddaear. A i fyny yn dartb ■ACAOI, ond daw i lawr yn wlaw cadarn- kaol. A i fyny yn anweithredol, ond dtror i lawr yn weithredol, A i fyny yn wag, ond daw i lawr yn llwytbog o fywyd i ddaear wywedi'g. Ei ibrif nod- wodd pan yn eagyn yw ei leitbder, ond ellbrDt nodwedd pan yn disgyn yw ei fod ya,dd,wfr bywiol. (Gobeithio na fydd neb mor benys- pLn a meddwl tfy mod yn golygu "Y Ehrfr Bywiol hwnw" em yr hwn y soniai fesu, fel y gwnaeth rhai fy nghyhuddo « olygu y trydydd Berson yn y Duwdod pan d-dywedais mai trydaniaeth yw ys taryd glan y igreadigaeth faterol. Y aaaent yn ddigon h,en i ddeall yr hyn a ddiarllenant ac a gilywant, ond ni ddeall- aat). AT bwye ein heglurhad o athroniaeth y gwlaw, nid allan o le yw galw sylw y Aarllenydd at rdricdoldefb ac arddercb- owrrwydd y gyfrelYbiaeth a ddlefnyddie- yr Tesu er gosod allan werth ysbrydol MI ddYlgeidiaseth, yr hon a eilw Y11 '^Ddwfr Bywlol." Oddi uchod y d'aeth y "Dwfr Bywiol" hwnw, ac oddi nchod, hefyd, y daw y dwtfr ibywiol i ddaea-r sychedig. Mewn ystyr drydanol, a y dwtfr i fyny yn farw, a daw i lawr yn fyw. Mewn ysgrif flaenorol eglurasom fel y tyn yr haul iddo ei hun yr un trydan- iaeth yn barhaus mewn sefyllfa naoaol. yna yn ei fywiogi ac yn ei anion f ffwrdd yn fywyd i'r gwahanol blanedau, ac yna yn ei alw yn ol drachefn i gael cyfienwad newydd. Yn unol a'r un drefn yn hollol y dyfrheir y ddaear. Gallwn ddweyd mai yr un dwfr a ddis- gyn arni flwyddyn ar ol blwyddyn, ond bob amser yn e-sgyn yn wag ac yn dis- gyn yn llwythog o fendithion, yr hyn sydd yn ddarlun byw o ddeddf ysibrydol gweddi. Wedi cwblhau ei ddamcaniaeth gwna y "dysgyrohiwr" :gymwyso yr am gyle h- iadau i gyfateb i ofynion ei ddamcan- iaeth, yn hytrach nag adeiladu ei ddam- caniaeth i gyfateb i ofynion y ffeithiau. Un o'r amgylchiadau addasedig hyn yw ei honiad fod yr eangder tuhwnt i awyrgylch y ddaear yn hollol wag. Y rheswm ei tod yn hon! hyn yw, am nad yw y gallu ysgogol a gyflwyna yn hun- angynaliol. Yr unig allu ysgogol a iber- tlxyn i'r ddaear, medd ef, yw y "moment- um" a roddwyd iddi pan ollyngodd Duw hi o'i law greadigol, ac un o hanfodion parhad "momentum" yw perffaith wag- der i'r blaned i symud ynddo, esgorodd ar y syniad fod yn rhaid fod yr eangder yn wag, am y gwybuasai y gwnai yr ymrwbiad lleiaf arafla y ddaear yn radd- ol, ac y gwnai o'r diwedd aros yn llon- ydd ar ei rhawd. Ond nid oes y fath beth a "gwagder" yn natur, eithr llenwir yr eangder mawr a goleuni, gwres, a thrydaniaeth, y rhai ydynt wir elfenau y gallu ysgogol. Hab yr elfenau hyn fe wnai y ddaear yr hyn barodd i'r dysgyrchiwr faentumlo fod yr eangder yn wag, set aros ar ei gyrfa ond erddynt, medd yn 'barhaus ac yn ddidrai allu i droi ar ei phegymau, ac bafyd allu i'w chynal ar ei thaith flyn- yddol, fel y cawn egluro mewn ysgriif ddyifodol. C-anlyniad arall i sefyllfa ehedfaenol y ddaear yw symudiad ffrydiau y mor rhwng y pegyn&u. Y mae yn wybyddus fod y ddau-hegwn yn orchuddiedig gan ddwfr. Y mae yn wybyddus hefyd fod tair rhan o ibedair o arwyneibedd y ddaear yn orchuddiedig gan ddwfr. felly y mae cytfrwng ehedfaenol da yn cysylltu y pegynau. Yn gymaint aibod y ddaear, yn y cyfanswm o honi, wedi ei ehedfaenu, a bod yr ehedfaen yn ganoibwyntiol yn y pegynau, y mae yn canlyn, o angen- rheidrwydd, fod gan y pegynau ddylan- wad mawr ar ddyfroedd y mQe fel y gwelir yn yr amlygiadau canlynol. Y mae y dwfr a guddia y pegwn gogleddol ac hefyd rhan helaeth o'r dyfroedd sydd oddi amgylch iddo, yn cael eu taflu i sefyllifa gadarnhaol ehedfaenol, ac felly yn rhinwedd y ddeddif fod cydrywiaid yn gwrthod eu gilydd, gyrir y dyfroedd cadarnhaol hyn oddi amgylch y ddaear, a'u cyfeiriad tuag at y cyhydedd, ac ant yn mlaen ar eu igyrfa dan y dylanwad dauddyblyg o gael eu gyru gan y pegwn gogleddol, a chael eu tynu gan y pegwn deheuol. Fel yr agoshant at y pegwn deheuol dechreuant gyfnewid yn eu na- tur ehedfaenol, ac wrth' basio drosto deuant yn igwbl nacaol, a chant eu gyru yn ol dracheifn yr ochr arall i'r ddaear, a'u 'cyfeiriad tua'r pegwn gogleddol, yr hwn yn awr sydd yn eu tynu yn rhin- wedd ei sefyllfa wrthrywiol. Yn eu teithiau oddiamgylch y ddaear, ca y ffrydiau, o angenrheidrwydd, eu llywodraethai yn eu cyfarfod gan ynys- oedd a chyfandiroedd. Weithiau, fel yn y "gulf stream," gwelir hwynt yn myn- ed i'r gogledd-orllewin, neu ogledd- ddwyrain; ond pa gyfeirilad bynag y gorfodir hwynt i gymeryd mewn gwa- lianol fanau, tueddfryd y ffrwd, bob am- ser, sydd tuag at y 'pegwn. Felly cyn- yrchir yn nyfroedd y mor symudiad iachusol a ipharhaus i bob rhan o'r ddaear. Ar eu telthiau o Ibegwn i ibegwn daw y ffrydiau oerion i leddfu y gwres tro- fanol, ac felly cyfartelir tymeredd dytfr- oedd y mor. Hwn yw y gallu ddwg yr ia-fynyddoedd tua.'r trotfanau lie y todd- ir hwynt ac y llaesant y gwres eithafol. Yn y benod nesaf rhoddwn athron- iaeth hirgrynedd llwybr y ddaear oddi- amgylch yr haul, 8IC felly ateto y goifyn- iad, "Paham nad yw el rhawd yn grwn."
I FEL ADFERYDD BYWYD.
I FEL ADFERYDD BYWYD. I Gan Hen Wr Brynsylwad 'Cincinnati, O. Cymerer yr olwg dywyllaf, dduaf, waethaf, arswydolaf ar farwolaeth y credadyn, efe a fydd byw er marw. Mae yr Hwn y mae yn credu ynddo yn Adgyfodiad. Aic wrth gymeryd yr iawn olwg arni-yr olwg a geir arni o safle briodol lesu Grist ei hun-ni ibydd y credadyn farw yn dragywydd-ni bydd yn dragywydd farw, oblegid y mae gwrthddrych ei ffydd yn Fywyd. Y fath nerth sydd yn y ffaith bwysig hon i ar- fogi meddwl y dyn da i gyfarfod yn iawel a'r amgylehiad ag sydd i bawib ond efe yn eithafol mewn dychryn ac arswydolrwydd. Ac wedi i'r dadguddiad gael ei wneyd, yr oedd ffydd yn cael ei hawlio. Gofyn- odd yr lesu i Martha, "A wyt ti yn crediu hyn?" Dyna drefn sefydlog y. nelf. Rhoddi dadguddiad a hawlio ffydd. Mae yr Iesu yn dweyd hyd heddyw, "My-fi yw yr Agyfodiad a'r Bywyd," ac y mae yn gofyn i bob un y mae yn dweyd hyny wrtho, "A wyt ti yn credu hyn?" Atebodd Martha y gofyniad pwy- sig yn gadarnhaol, "Ydwyf, Arglwydd." Ac yr oedd 'yn gallu egluro ei chredin- iaeth yn mhellach. Yr oedd yn credu mai yr Iesu oedd y Crist, a chredai fod y Crist yn Fab Duw, ac mae lesli Grist, Mab Duw, oedd yr Hwn oedd yn dyfod i'r byd yn ol addewidion a phroffwydol- iaethau yr Hen Destament, ac felly, yr oedd Martha yn barod i dderbyn yr hyn oil a ddywedai y Person gogoneddus a bendigedig hwn am dano ei hun. Yn ganlynol, yr ydym yn cael fod Mair wedi dyfod at yr Athraw. Nid oedd hi ar y cyntaf yn g-wybod ei fod yn dyfod tuag yno, ac felly, tra yr oedd ei chwaer yn derbyn y dadguddiad mawr o'r Adgyfodiad a'r Bywyd, yr oedd hi yn ddigon trist ei chalon yn eistedd yn y ty. Ond nid oedd Mair i gael ei gadael yn amddifad o'r cysuron a ddeillient o bresenoldelb a chymdeithas ei Har- glwydd. Ere a alwodd am dani. Ac wedi i Martha gael yr awgryim, aeth ar frys i'w cheisio. Hithau a gododd yn abrwydd i fyned ato. Eithr ni chafodd fyned el hunan, yr oedd yno lawer o Iuddewon gyda hi yn y ty yn ceisio ei chysuro, a phan welsant hi yn codi ar frys, hwy a'i canlynasant hi, gan ddy- wedyd, "Mae hi yn myned at y bedd i wylo yno." Mor Ileied a wyr dynion y byd am symudiadau y rhai sydd hoff gan yr Iesu. Pan yr oedd Mair yn codi I fyned i fwynhau cymdeithas yr Ad- gyfodiad a'r Bywyd, yr oeddent hwy yn tybio mai at y bedd yr oedd yn myned! Cyraeddodd Mair i'r He yr oedd yri Iesu, a ayrthiodd wrth ei draed, gan, wylo a dywedyd fel ei chwaer o'i blaen, "Arglwydd, pe (buaset ti yma, ni buasai fy mrawd farw." Ale heblaw fod Madr yn wylo, yr oedd yr Iuddewon a ddaeth- ai gyda hi yn wylo. Wrth weled hyny, yr Iesu a. riddifanodd yn yr ysbryd, ac a ¡ gynyrfwyd! Geiriau rhyfedd yw y rhai hyn. Pahlam y cynyrfodd? Beth oedd yr achos o'r tgruddfaniad? Pa un ai mewn cydymdeimlad a Mair, ai mewn digofaint santaidd tuag at (bechod (yr achos cyffredinol o holl drallodion dyn- oliaeth) y gruddfanodd ac yr ymgynyrf- vodd? Digon teby-,g fod yno gydgytfar- fyddiad nerthcl o'r ddau deimlad yn ei fynwes ar y pryd. Ac nid annhebyg fod Satan, yr hen elyn mawr, yn gwrth- wynebu yr amlygiad mawr oedd i gael ei wneyd. Y pryd hyn, gofynodd, "Pa 'e y dodasoch chwi ef?" Nid am ei fod yn anwybodus, ond am ei fod am ei gael mewn dull ifel dyn, ac hwyrach fel ar- wydd i'r gallu gelynol mawr oedd yn weledig iddo ef ei fod am adgyfodi ei gyfaill o'r bedd. Atebasant hwythau, "Arglwydd, tyred a gwel." A thra yr oeddent yn myned tua'r bedd, "Yr Iesm ■i wylodd," Ilanwodd ei lygaid a dagrau. Yr oedd yn myned i sychu dagrau dwy chwaer trwy adgyfodi eu. bra wd dra- chefn. Ond wele ddagrau yn ei lygaid ef ei hun, "Yr Iesu a wylodd." Mor cleibyg iddo ei hun, onide? "Trwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni," ydyw hi o hyd. Ac y mae y dadguddiad a gafodd Mair yn annhraethol werthfawr. Yr ydym yn canfod yn nagnku ein Hiesu ei fod yn cydymdeimlo a'i bobl.,yn eu trall- ad, yn gystal^ag y gwelwTi yn ei eiriau yr a pob trailed heibio. Yr oedd eisdeu y dadguddiad gwerthfawr a gafodd Mair i gyflenwi a chwblhau y dadguddiad go- goneddus a gafodd Martha; ac mae miloedd o blant trallod, tra yn edrych yn mlaen yn obeithiol at yr amser na bydd trallod na blinfyd mwy, wrth ddarllen, "Myfi yw yr Adgyfodiad a'r Bywyd," yn teimlo fod eu trallod yn cael ei ysgafnhau ar y pryd wrth ddar- llen "Yr Iesu a wylodd." Wrth fyned heibio yn y fan yma yr ydym yn cael cipolwg ar y ddau gymer- iad gwahanol oedd yn mhlith yr Iuddew- on a ddaethant i gysiuro y ddwy chwaer. Gwelai rhai o honynt gariad yr Iesu yn ei ddagrau, tra yr oedd y lleill yn cael yn marwolaeth Lazarus le i ameu gallu lesu i wneyd gwyrthiau. Mae bedd cyfaill, sylw annghrediniol y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac efallai ymddangos- iad ygwrthwynelbwr diafol, yn peri i'r Iesu riddfan ynddo ei lyinan unwaith drachefn. Yn awr y mae yr olygfa wrth y bedd I yn cael ei dwyn ger ein bron. Dywedir wrthym yu gyntaf pa fath un oedd y bedd. "Ogof oedd, a maen wedi ei ddodi arno." Yn nesaf, fe orehymynodd yr fesu i'r rhai oedd yn bresenol symud ymaith y maen. Mor ardderchog o urddasol y mae yr Iesu bendigedig yn symud yn mlaen yn raddol at y weith- red fawr ei hun! Caiff dyn wneyd yr hyn a all yn yr amgylchiad yma fel ar- fer-dyn sydd i godi ymaith y maen. Yn y Can hon, daeth Martha i ymyraeth. Yr oedd y prawf braidd yn ormod iddi ddal. Meddyliodd fod corff ei brawd wedi dechreu llygru, a theimlodd y fath anhawsder fel y llefarodd. Ond na fydded neb yn rhy lym wrthi, mae y Dysgybl Anwyl yn ein hadgofio mai "chwaer yr hwn a fuasai farw" ydoedd, ac wrth iddi edrych i un cyfeiriad, cy- feiriad naturiol iawn iddi hi ar y pryd, dechreuodd betruso, a dechreuodd suddo. Ond fe estynodd ei law mewn pryd i'w chynorthwyo, "Oni ddywedais i ti, pe's credit, y cait ti weled gogon- iant Duw?" "In the presence of corrupt- ion, He renews His promise," ebai yr i enwog Hengstenburg. Wedi hyny, cod- j wyd y maen oddiar y bedd. (I'w Barhau).