Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

RHYFELYN EWROP

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHYFELYN EWROP Y FYDDIN RWSIAIDD YN PARHAU YN LLWYDDIANUS.-Y GER- MANIAID 0 FLAEN VERDUN. GERMANI YN DECHREU DOFI.—YR ARABIAID YN CODI YN ERBYN TWRCI. I Y drafferl, vn Mexico.-Bukowina oil vn nsrhafael Rwsia.—Yr Arlvw- vdd a Carranza. Dal i ymffrostio y mae Germani, a chymer gryn lawer o guro arni cyn y ceir ei balchder a'i thraha allan o honi. Yn un o gyhoeddiadau trymion Berlin y dydd o'r blaen ymddangosai penderfyniad Germani i guro Ffrainc gyntaf, ac yna croesi i Lloegr, obleg- id, ebe efe, nid oes gobaith am der- fyniad y rhyfel cyn mwydo Prydain a gwaed y bobl yno. Dyna ymffrost yr anwariaid Germanaidd. Gobaith gwan sydd iddynt lanio fyth yn Lloegr. Rhaid iddynt wneyd yn well nag y gwnaethant. Ar gyffiniau Awstria i'r gogledd ymddengys fod y Germaniaid yn brys- io yno i gymorthi yr Awstriaid sydd yn ymollwng yn mhob cyfeiriad o flaen y rhuthr Rwsiaidd. Foreu dydd Mercher, hysbysid fod y fyddin Awstriaidd wedi ei thori yn ddwy, a. chyfran y Cadfridog Pflanzer ar encil i gyfeiriad y mynyddoedd; a hysbysid fod y Germaniaid yn cymorthi yr Awstriaid yn ofer. Nid yw yn debyg y gall Germani fforddio estyn y cym- orth digonol i'r Awstriaid. Dal i ymosod y mae y Germaniaid ar amgaerau Verdun, ond yn ol yr ad- roddiadau ni ymddengys eu bod yn agoshau nemawr at y nod. Cryn ddir- nad sydd wedi bod yn nglyn a rheswm Germani dros wneyd y fath aberth i dori drwodd yn Verdun, ac yn ddi- weddar ar y mor yn Mor y Gogledd. Y gwir achos fel a ddaeth i Lundain o Ysweden yw fod Germani mewn cyflwr enbydus o newyn, ac fod yn rhaid i'r Kaiser wneyd ffordd i gael ymborth neu roi i fyny yr ymdrech. Mae y bobl yn marw o eisieu, a'r cau arnynt yn dynach yn awr na gynt, ac felly fod yn rhaid i Germani gael bwyd yn ddi- oed. Curwyd hi yn ol yn Mor y Gog- ledd, ac nid oes gobaith yr a drwy Verdun. Hysbysid fod yr Eidaliaid yn symud yn mlaen eto ar gyffiniau Aws- tria, o herwydd fod Awstria a'i dwy- law yn llawn yn ymdrechu dal y Rwsiaid yn ol. Yn y wasg ddydd Iau hawliai y Ger- maniaid eu bod wedi atal rhuthr y Rwsiaid i gyfeiriad Kovel a Vladimir- Volynski, ond yn ol yr adroddiad o Petrograd yr oedd y Rwsiaid yn am- gylchu ar y ddwy ochr fel ag i 'beryglu dyogelwch y Germaniaid. Bydd cyr- aedd Kovel yn fantais fawr i Rwsia. Symud yn mlaen y mae Rwsia o hyd, a ddydd Iau hysbysid fod rhif y car- charorion wedi cyraedd y cyfanswm Mehefin 15 o 170,000 a 3,350 o swydd- ogion heblaw symiau mawrion o ynau, arfau a nwyddau rhyfel. Bob dydd o'r braidd y daw adrodd- iadau am ymosodiadau ffyrnig y Ger- maniaid ar amgaerau Verdun, gyda'r un canlyniadau o'u taflu yn ol gyda cholledion trymion. Ymddengys yr ymosodiadau ofer hyn yn wiriondeb yn ngoleu y colledion a'u haneffeith- iolrwydd. Nid ydynt ond cynyrch cyn- dynrwydd. Mae arwyddion amlwg y dyddiau hyn fod Germani yn dofi yn raddol a'i bod yn d-echreu sylweddoli fod ei huchelgais i reoli y byd yn oferedd, ac y bydd rhaid iddi ymfoddloni wedi yr holl erchyllderau ar ei chyffiniau cyf- yng. Y mae y Cangellydd Bethmann- Hollweg eioses wedi dadgan nad ei ddymuniad yw cadw Belgium na y rhanau o Ffrainc y mae y Germaniaid wedi oresgyn. Ymddengys fod y Cym- deithasolwyr wedi sefyll dros hyn yn gryf,a Germani ei hun wedi sylweddoli ei hun nas gall hi gyraedd ei nod gyd- a'i gallu a'i hadnoddau yn gwanhau. Hysbysid o Amsterdam y dydd o'r blaen fod hyd yn nod y tatws yn brin yni Cologne, Germani, ac fod eu gwerthiant i'w atal yn hollol. Nid yw y cvflenwad ond dau bwys a haner y pen yr wyth- nos. Pair hyn fod Germani eto yn cyn- llunio trefn newydd i ranu yr ychydig ymborth sydd yn weddill. Daw i'r am- lwg drwy chwiliad swyddogol i ddin- asoedd fel Leipsic fod cybyrddau tai fuont gynt yn gefnog yn brin o fwyd, ond yn unig ychydig gyflenwad ar gyfer pob pryd. Ni oddefir ystorfa o fwyd yn mhlith hyd yn nod y mawrion. Cafwyd cryn drafferth gyda Groeg o'r dechreu, y Brenin o blaid Germani, y Frenines yn chwaer i'r Kaiser, ac yn ddiau yn dylanwadu yn ddrwg ar rai o flaenoriaid y llywodraeth; ond noslau hys'bysid fod y llywodraeth o'r diwedd wedi rhoi i fyny yn hollol i ofynion y gwledydd Cyngreiriol, a sicr yw iddi blygu o herwydd y cau sydd wedi bod arni er's tymor. Ychydig ddaw o Salonika yn nglyn a bwriadau y fyddin unol yno. Mae yno barotoadau mawrion oddiar de- ehreu y gauaf, ond nid oes dim wedi ei wneyd hyd hyn, nac arwyddion am symudiad. Dychymygir cryn lawer, ond tebyg fod gan y gwledydd cyng- reiri'ol gynllun unol ac yr amlygir ar fyr beth yw. Feallai mai yr amcan yw aros hyd nes y bygythia Rwsia ei dyo- gelwch, ac yr encilia Awstria allan o Serbia o Montenegro, fel ag i roi cym- elliad i'r fyddin unol yn Salonica wneyd ymosodiad ar Twrci a Bwlgaria. Hysbysid fod Rwsia- wedi cymeryd dinas Radautz, i'r de o Czernowitz, ac fod cyfran o'r fyddin Awstriaidd wedi ei ehau rhwng hyny a chyffiniau Rwmania. Ddyddiau Iau a Gwener, cyhoeddid newyddion rhyfedd yn nglyn ag ymgod iad yr Arabiaid yn erbyn y Twrciaid, a'u bod wedi cymeryd meddiant o Ddinas Santaidd, Mecca, a phorthladd- oedd cyfagos, ac wedi cyhoeddi eu hannibyniaeth ar awdurdod yr ymer- odraeth Dyrcaidd. Hefyd fod terfysg cyffelyb yn Kerbela, heb fod yn mhell o Bagdad. Golyga hyn ddiwedd ar reolaeth y Tyrciaid yn y parthau hyny. Mae yr Arabiaid wedi Iblino ar reolaeth Twrci; ac un reswm a roddant yw fod y Swltan wedi dqro-stwng ei hun i'r Kaiser o Germani ac wedi ymgyfamodi a'r aflan. Dengys hyn eto gamgymer- iad Germani yn nglyn a'r byd Mahom- edanaidd. Y mae cyd-ddealldwriaeth rhwng Prydain a phenaeth yr Arab- iaid, a'r bwriad yw rhoddi pob cymorth i'r Arabiaid sefydlu eu hannibyniaeth a'u rhyddhau o afaelion y Twrc. Gyda llwyddiant y Rwsiaid yn Armenia a Mesopotamia a'r ymgodiad egniol yn Arabia yn y de, ymddengys fod tynged Twrci wedi ei selio yn y rhan hono o'r byd. Er y dywed yr adroddiadau fod yr Awstriaid wedi derbyn cymorth Ger- manaidd yn y gogledd, hysbysir fod y Rwsiaid wedi cymeryd meddiant o'r oil o'r braidd o Bukowina a'u bod yn agos- hau at Hwngari. Cymysglyd yw yr adroddiadau o amgylchoedd Verdun. Berlin yn hawlio ychydig enillion heddyw, ac yn eu colli yfory. Ddydd Sadwrn, cyraeddodd yr ad- roddiatau am y gyflafan y dydd o'r blaen yn Carrizal, Mehefin 21, pan y gwnaeth y Mexicaniaid ymosodiad bradus, ar gorff o filwyr Americanaidd, gan eu dyfetha yn agos. Cyfarfu y ddwy blaid yn gyfeillgar mewn ffordd, ac aeth y ddau benswyddog i ym- gvflafareddu a'u gilydd, pan y trodd y ewyddog yn ei ol allan o gyraedd, ac y dechreuodd y Mexicaniaid bradus danio gyda gynau peirianol yn ol cynllwyn blaenorol yn ddiau ar yr Americaniaid diamddiffyn ac anmharod. Allan o 13 0, hysbysir y lladdwyd nifer fawr. Yehydig o fanylion sydd am yr am- rafael. Yn ol yr hanes ddydd Sadwrn, saith gyraeddodd yn ol yn fyw. Erbyn hyn y mae Rwsia wedi gores- gyn yr oil o goron-dalaeth Awstria, sef Bukowina, ac y mae yr Awstriaid ar ffo i'r nivnyddoedd Carpathaidd. Yn y symudiadau yn ddiweddar. coll- odd yr Awstriaid yn fawr mewn dynion a nwyddau rhyfel. Ymddengys hefyd yn ol yr adroddiadau diweddaraf fod y Rwsiaid yn symud yn mlaen yn.Vol- hynia, talaeth arall, er fod yr Aws- triaid gyda chymorth y Germaniaid yn gwneyd ymdrech fawr i'w hatal. Pery yn ymdrech enbydus o am- gylch caerfa Thiamont a phentref Fleury, ger Verdun, y ddwy ochr yn colli ac yn enill: y tanbeleniad yn parhau o'r braidd yn gyson. Ar gvffinau Awstria i'r de hefyd y mae yr Eidaliaid yn symud yn mlaen yn radd- ol o herwydd gwanychiad yr Aws- triaid. Daw ambell i adroddiad o Berlin yn hawlio ataliad y Rwsiaid. ond an- effeithiol yw y gwrthsafiad. 0 Petro- grad daw newyddion gwell fod yr Awstriaid a'r Germaniaid yn gwanhau yn eu gwrthwynebiad, a hysbysir Ilwyddiant y Rwsiaid i'r de-orllewin o Lutsk, lie y torodd y Rwsiaid drwy reng yr Awstriaid a'r Germaniaid, gan gymeryd nifer o garcharorion a'u haner yn Germaniaid. Mae colledion y gelyn yn drwm o hyd. Ddyddiau Mawrth a Mercher, daliai v newyddion i gyraedd yn nglyn a sy- mudiad llwyddianus Rwsia yn nwyr- ain Awstria; hefyd yr Awstriaid yn parhau i encilio o flaen y fyddin Eidal- aidd yn ne-ddwvrain Trentino, ac fod yr Eidaliaid wedi adenill v rhanbarth rhwng afonydd Adige a Brenta. Y mae hyn yn ganlyniad ymneillduad y milwyr Awstriaidd i wynebu y Rws- iaid. Ymddengys hefyd fod y German- iaid yn symud nifer o'u milwyr o gymydogaeth Verdun i gynorthwyo yr Awstriaid. Hysbysir hefyd fod y fydd- in Brydeinig yn y gorllewin wedi de- ehreu ar ei hymosodiad ar y rhengau Germanaidd; felly te'byg y cedwir y Germaniaid a'r Awstriaid yn brysur am yr haf. Cyhoedda Petrograd fod y fyddin Rwsiaidd rhwng Mehefin 4 a Mehefin 23, w-edi' cymeryd 198,970 o'r Aws- triaid yn garcharorion, a dros fil o ynau o wahanol fathau. Yn ol a hysbyswyd yn barod, ymos- ododd corff o filwyr Mexicanaidd yn fradus ar nifer o filwyr Americanaidd ar neges heddychol; lladdwyd nifer o honynt a chymerwyd 23 yn gaeth i garchrfr Chihuahua; a rhoes yr Ar- lywydd Wilson hyd nos Fercher i Carranza eu rvddhau, neu y cvhoeddir rhyfel. Rhaid fvdd eu rhyddhau cyn yr a y llywodraeth i gyflafareddiad am heddwch o gwbl a Mexico. I o

Advertising

I ALLAN O'R PAPYRAU CYMREIG.…

INEW YORK A VERMONT I I

Advertising

[No title]

Advertising