Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

MARWOLAETH DWY GYMRAES YN…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH DWY GYMRAES YN RACINE, WIS. Gan R. D. Evans. Mrs. Lizzie Jones. Gorchwyl pruddaidd ar lawer ystyr ydyw ceisio ysgrifenu y gair diweddar o flaen enwau rhai ieuainc, wedi eu tori i lawr yn nghanol eu defnyddiol- deb, megys. Dyna sydd yn rhaid i ni wneyd gyda Mrs. Jones, torwyd hi i lawr yn nghanol ei dyddiau, cyn gor- phen o honi fagu ei phlant bychain. Bu raid iddi hi eu gadael i eraill i of- alu am danynt. Anhawdd ar lawer adeg ydyw esbonio troion o'r fath, ond rhaid i ni "gofio fod dyben ac am- can i droion chwerw yr anialwch. Ganwyd Mrs. Jones yn Tyddyn Du, Bontnewydd, ger Caernarfon, Gog- ledd Cymru, Tachwedd 6ed, 1877; en- wau ei rhieni, Robert a Jane Jones. Bu ei thad farw rai blynyddau yn ol. Cafodd ei dwyn i fyny mewn awyr- gylch grefyddol, a chadwodd yn ffydd- lawn i addysg boreu oes trwy ei byw- yd. Chwefror 12fed, 1903. ymbriod- odd gyda Thomas Jones, mab y diw- eddar Thomas R. Jones fu am flynydd- au yn feistr tloty Caernarfon. Daethant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1910. gan aros ychydig yn Chicago, yna daethant i'r ddinas hon. Diau mai ychydig o gysuron bywyd a gaf- odd wedi dyfod i'r wlad yma, gan na bu ei hiechyd yn dda, ac heb iechyd. ychydig o fwyniant a allwn gael mewn bywyd. Ymdrechodd ein han- wyl chwaer yn galed i geisio magu ei phlant. a hyny yn nghanol llawer o wendid corfforol. Cafodd gystudd cal- ed iawn y flwyddyn olaf y Ibu fyw, ac awyddai lawer am gael gwellhad er mwyn ei rhai anwvl, ond mynd i lawr yn raddol yr ydoedd, a phan ddaeth i ddeall nad oedd gwellhad yn bosibl, fe ymdawelodd i'r drefn. Yr oedd yn gymeriad hynod o bryd- ferth, yn dawel a llednais. Aberth- odd lawer er mwyn el phlant bychain. a diau y bydd gan y rhai hynaf gof anwyl am eu mam. Y Beibl a'r llyfr emynau ydoedd pob peth ganddi y misoedd olaf, ac adroddai ranau hel- aeth o honynt wrth ei pherthvnasau a'r rhai fyddai yn ymweled a hi. Yn pier, yr oedd yn un o'r plant, a chan- ddi bob sicrwydd y cvraeddai y wynfa nefol yn ddyogel. Cysur mawr i'w ipherthynasau ydoedd y profiad uchel p feddai. a'r tawelwch a'r amynedd gyda nha un y dyoddefodd ei chys- tudd blin. Ymorphwysai ei henaid yn gyfan gwbl ar aberth Calfaria, a thrwy haeddiant vr Tesu y cafoddi ei gollwng i'r wlad lie na raid iddi ddy- oddef mwy. Bu farw Mai 19. gan ad- ael mewn galar ar ei hoi pi phriod, tri o blant 'bvchain. R. T.. Eirwen. a Hugh 0 Hefyd ei mam a dwy chwaer, na rai fu vn igweini evda ffvddlondeb mawr arni yn ystod ei cbvstlifi-d. Cy- merodd yr angladd le ddydd Llun, Mai 22ain. Cynaliwyd gwasanaeth vn y tv. y Parch. Owen O. Jones, West Allis. yn gweinvddu. Claddwyd hi yn Mound Cemetery. Huned mewn bedd. n chaffed y perthvnasau oil nerth i ddal y brofedieaeth. ac i ymddiried yn fwy llwyr nag erioed yn eu Ceid- wad. CDymunir ar i bapyrau Caernar- fon wneyd sylw o'r uchod.) Mrs. Marv Jenkins. Chwith genym weled yr hen sef- ydlwyr yn cael eu cymeryd ymaith y n a ill ar ol y Hall, fel erbyn hyn y maent wedi myned yn ychydig mewn nifer. Mae colli hen sefydlwyr, rhai fu yn ffyddlawn a gweithgar yn hanes yr eglwys Gymreig yn golled fawr, ac anhawdd ydyw cael rhai i lenwi eu lie mewn defnyddioldeb. Ganwyd Mrs. Jenkins yn Gronant. Dyffryn Ar- rUidwv, swydd Feirionydd. yn y flwyddyn 1833. Enwau ei rhieni yd- oedd Richard a Catharine Roberts. Daeth i'r wlad hon yn 1853, gan sef- ydlu yn y ddinas hon, lie y treuliodd y gweddill o'i hoes oddigerth rhyw wyth mlynedd y bu yn byw yn (Min- neapolis, Minn. Ar el dyfodiad i'r ddinas, ymaelod- odd a'r eglwys Gymreig, a pharhaodd yn ffyddlawn i bob moddion o ras tra y daliodd ei hiechyd. Yr oedd ei sel yn fawr dros yr Ysgol Sabbothol, ac o honi y bu yn aelod am flynyddau lawer. Carai ddarllen y Beibl, a myf- yrio yn ei wirioneddau. Yr oedd yn hoff o'r bregeth, ac yn wrandawr as- tud a meddylgar, ac yr oedd ei medd- wl a'i ph-arch i weinidogion y Gair yn fawr. Gwnaeth yr hyn a allai er hyr- wyddo pob symudiad daionus yn ein mysg, ac awyddai am weled crefydd Tesu Grist yn llwyddo. Yr oedd yn gymeriad tyner a charedig, a gwnaeth lawer i gysuro a chynorthwyo rhai mewn cyfyngder a phrofedigaeth. 0 herwydd sefyllfa ei hafiechvd, yr oedd wedi ei symud i un o ysbytai y ddinas er's tro, ac yno y dyoddefod'd ei chys- tudd olaf yn dawel ac amyneddgar, gan ymddiried y cwbl i'r gwr a garodd mor fawr trwy ei hoes. Bu farw ddydd Llun, Mehefin 5ed, yn 83 mlwydd oed, a chladdwyd hi y dydd Gw-ener dylynol yn Mound Cemetery. Cynaliwyd gwasanaeth yn y caipel Cymreig. pryd y gweinyddwyd gan y Parch. John E. Jones, South Side, Chicago. Siaradodd Mr. Jones yn uchel am gymeriad yr ymadawedig, ac am y lie anwyl oedd iddi yn nghalon- au Cymry Racine. Gadawodd i alaru ar ei hoi ddau fab, ac un ferch, sef Richard Jenkins, Minneapolis; Griffith Jenkins, Racine, a Mrs. Kate Jane Roberts, Sheffield, Canada. Bydded iddynt gael nerth i ddal y brofedig- aeth ac i ymddiried yn fwy llwyr yn y Gwr sydd yn eiriol yn y nef ar eu rhan. -0-0

Younfrstown. 0.I

SAN FRANCISCO. CALIF.I

NODION 0 PHILADELPHIA. PA.

Advertising

NODION 0 NANTICOKE. PA. I

Advertising