Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
NEWYBDMNCYMRU. I
NEWYBDMNCYMRU. I —Er gwaetha'r rhyfel mae un new- yddiadur Cymreig yn cyhoeddi tua thair colofn o "farddoniaeth" bob wythnos. —Gadawodd y diweddar David Ed- wards, blaenor yn eglwys Gobaith, Cwmdar, a fu farw Mawrth 20, eiddo gwerth 5,715p. cyfanswm, 4,740p. net personalty. —'Mae Syr William James Thomas, y perchenog glofeydd Cymreig, wedi rhoddi 100,000p. tuag at sefydlu ysgol o feddyginiaèth Gymreig, -Yn Pembray, Ceredigion, deuwyd o hyd i ysgerbwd dyn hynod o dal, yn nghanol coed. Daliai lawdryll yn es- gyrn ei law ddeheu. —Cafodd dyn ei esgusodi rhag ym- uno a'r fyddin ar y tir ei fod yn cadw ei wraig a thri phlentyn, yn ogystal a dau frawd (anafwyd yn y rhyfel) a brawd arall oedd yn efrydd. I —Mai 4, bu farw William Evans, Newborough St., Blaenau Ffestiniog, yn 65 mlwydd oed. Bu am 40 mlyn- edd yn swyddog presenoldeb yn nglyn ag ysgolion elfenol Dosbarth Ffestin- iog. ac am flwyddi maith yn flaenor yn y Garregddu, ac wed'yn yn Maen- offeren. —"My only experience of the chapel is that I was married in it, and every- thing was seemly." Dyna air o lythyr Proff. Genese ar helynt Aberystwyth. —Dywedai y Parch. J. Talog Davies, Liverpool, fod yn gofyn mwy o ddewr- der i gadw allan o'r fyddin na bod yn- ddi yn y dyddiau hyn, ac y mae fod cant o Gymry ieuanc yn ngharchar milwrol yn Abergele yn brawf fod Ilawer o wir yn y sylw. —Mae'r oil o'r carcharorion Ger- manaidd oedd yn Frongoch, ger y Bala, wedi eu symud i ddeheudir Lloegr, ac ychydig o filwyr wedi eu gadael i ofalu am yr adeilad. Nid yw y rheswm am y svmudiad yn hysbys. —Y mae'r Aelodau Seneddol Cym- reig yn symud i geisio cael gan yr I Awdurdodau Milwrol gadw'r bechgyn Cymreig 18 oed a elwir i'r fyddin ar I wahan. Penodwyd Mr. E. T. John a Syr Herbert Roberts i weled yr awdur- dodau ar y mater. Yr amcan ydyw cadw'r bechgyn Cymreig gyda'i gilydd. —Clywir yr eos yn Clatter, pentref wrth ymyl Newton (Mont.), a chyrcha tyrfaoedd lawer bob nos i glywed ei chan. Ffafriwyd Sir Drefaldwyn y llynedd, hefvd, yr eos yr adeg hono yn canu yn Hochdre. heb fod yn mhell o'r lie y mae ar hyn o bryd. --0 herwydd nad oedd angen cinio fel arfer yn nglyn a brawdlys Aber- honddu, anfonodd yr Uchel Sirydd Brycheiniog rodd o 52p. 10s. i ysbyty y dref. Dyma esiampi sydd yn debyg o gymell ei hun i eraill sydd yn cael brawdlysoedd gwag. -Mae pe?rianwaith Chwarel Glan- rafon, Rhyd-ddu. yr hon sydd yn. gau- edig, yn cael eu symud, ac felly nid tebyg yr ail agorir hi. Bydd hyn yn golled fawr i'r ardal. Tua 25 mlynedd yn ol, yr oedd tua 500 o ddvnion yri gweithio yn y chwareV hon. -Tua blwyddyn a haner yn ol, aw- gryvjwvd yn y "Goleuad" y gwelid Lloyd George yn Ysgrifenydd Rhyfel. Chwerthwyd am ein penau am aw- grymu peth oedd, yn marn ein beirn- iaid, mor eithafol o annhebyg. Ond y "Goleuad" oedd nesaf i'w le. Ni ry- feddem glywed unrhyw fynyd fod Lloyd George wedi ei benodi yn olyn- ydd i ArglwYdd Kitchener. Y mae'r "Manchester Guardian" yn galw am hyny, ac nid ydym yn ameu na bydd y wlad o'r un farn. —Mae'r trefniadau weithian wedi eu cwblhau yn nglyn a'r Gymanfa Ganu Genedlaethol sydd i'w chynal dan nawdd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth fis Awst nesaf. Mae ihagien neillduol o ddyddorol wedi ei pharotoi, yn cynwys dros haner cant o bigion tonau ein cenedl. Bydd Lloyd George yn llywyddu ail ddiwrnod yr Eisteddfod, a chan ei fod yn cymeryd cymiaint o ddyddordeb yn y Gymanfa, diau y'i ceir i aros dan ddydd Gwener. Hyderir y cymerir rhan gyffredinol yn y Gymanfa, ac y gofala arweinydd pob eglwys a chapel i anfon at Ysgrifenydd yr Eisteddfod am ragleni'r tonau. —Mae gobaith Cymru am ddyfodol teilwng yn dibynu yn gyfangwbl ar dalu sylw dyladwy i'r oes sy'n codi, a pharhau i'w hyfforddi. Trodd brenin unwaith i siglo Haw a bachgenyn, a synai ei gydymaith pendefigaidd. at ei weithred, "Ah," meddai yntau, "er mor wael a charpiog yw .heddyw fe fydd ef byw pan fydd yr haul wedi machlud i beidio codi mwy." Pe syl- weddolai pawb bwysigrwydd y plentyn delai tro ar fyd yn fuan.
MARWOLAETHAU.
MARWOLAETHAU. Y Goeledd. Abermaw.Mai 26, Wm. Griffith, 5 Bronaber, yn 34 oed. Bala.Meh. 6. Miss Lizzie Roberts, 35 Aran St., yn 68 oed.—David Ed- wards. dilledydd, Tegid St. Bangor.-Mai 16, Daniel Williams, Graig Cottage, y Graig, yn 75 oed.— Iviai 30, Dilys, merch Mr. a Mrs. D. J. Thomas, 17 Minafon, yn 2 oed. Bettwsycoed.—Yn ddiweddar, Miss M. Jones, Rock House. Caernarfon.—Yn Ffrainc, Pte. Richard Williams, Dock House.-M.ehefin 3, Margaret Ellen Pritchard, 31 Snow- don St. Criccieth.—Mai 29, Mrs. E. Williams, Wellington Terr., yn 51 oed. Croesoswallt.—Yn ddiweddar, John Gittins, Brynaber, yn 64 oed. Cynwyd.—Yn ddiweddar, Mary, merch Mrs. Hill, Glanafon Cottage, yn 4 oed. •Dinbych.—Mehefin 5, Mrs. Anne Dav- ,ies, 59 Henllan St. (gynt o'r Lon Goch). Felinheli.—Yn ddiweddar, Mrs. Ben- nett, 30 Bangor St., yn 82 oed. Ffestiniog.—Yn ddiweddar, Mrs. Ro- berts. priod Thomas Roberts, 91 High St., yn 35 oed.—Yn New Castle on Tyne, Hetty, merch Mr. a Mrs. Samuel Brookes, Salem Place, Rhiw, yn 24 oed.—William Evans, swyddog gorfodol (brawd Griffith Evans, Hastings, Nebr.).-Thom" Davies, Holland View. Llandegfan, Mon.Mehefin 5, Hugh Thomas (hynaf) yn 75 oed. Llanddeusant, Mon.—Mai 25, Richard Williams, Bryn Idan, yn 76 oed. Llanfachreth.—Meh. 6, Miss Lizzie Roberts, Ddolfawr, yn 32 oed. Llan Ffestiniog.—(Mai 28, Miss Jane Jones, Mantua House. Llangerniew.—Mai 24, John Roberts, llythyrgludydd, Fron Gollen, yn 61 oed. Llangwim.—Mai 2G, Mrs. Maggie Hughes, Llythyrdy.—Mrs. Elizabeth Jones, Tai Newyddion, yn 82 oed. Llanllyfni.—Mai 26. Henry Morris, Bron Tumor, yn 83 oed. Llanrwst. Yn ddiweddar, George Allsop, paentiwr, yn 47 oed.—Mrs. Catherine Williams, Primrose League, yn 19 oed. Lerpv/l.—Meh. 2, Maria, priod Thomas Jones, 38 Upper Brassey St., yn 52 oed. Mynydd Isaf.—Mai 26, Mrs. Hughes, Nant View, yn 76 oed.—Mrs. Mary Roberts. Brynybaal. Penrhyndeudraeth. Yn ddiweddar, Katie, merch R. J. Hughes, Post Office. 16. oed. Penygroes. Yn Awstralia, Hugh Griffith, mab Mr. a Mrs. John Griff- ith, Llwyndu Bach, yn 40 oed. Pwllheli.—-Mai 2 8, John Thomas, Abereroh Road, yn 72 oed. Trawsfynydd. — Yn ddiweddar, Maggie, merch Mr: a Mrs. Richard Parry, Frongaled, yn 7 oed. Tregarth.—Yn y De, George Thomas, Braich Talog, yn 55 oed. Tremadog.—Mai 28, William Jones, Glanmorfa Terr., yn 64 oed. Y Deheudir. Aberafon.—Meh. 4, Thomas St., Sarah, priod David James. Abergafeni.—Meh. 6, Magnolia House, Monk St., Samuel Davies, yn 83 oed. Abergwynif.—-Meh. 1, Caroline Street, Margaretta, priod y Parch. John Williams. Abertawe.—Yn yr ysbyty, Mehefin 2, John Davies, Gelliddyfod, Llanfair, Clydogan, yn 62 oed. Bristol.-Meh. 6, yn yr ysbyty, Lilian Kate, merch Wm. Thomas a Mary Catherine Jones, Winston, Casnew- ydd. Cae-,dydd.Mai 31, Emily, priod H. G. Davies, Rectory Rd.Mai 29, Flor- ence, priod John Price.—Yn ddi- weddar, yn East Terrace, Wm. Dav- ies. Ebbw Vale.—Mai 29, Spencer St., Thomas Prosser, mab Thos. Prosser, Bridge House. Llanbedr.—Meh. 3, Cwmane P. 0., Johnny Davies. Llanilltyd Faerdref.—'Mai 31, Edmund Lloyd, Bryn Goleu. Llanilltyd Fawr.—Mai 31, yn Bryn- goleu, Edmund, priod Elizabeth Lloyd. Merthyr.—Meh. 1, Victoria St., Mary, priod Evan Davies, pobydd.—Mai 28, Cromwell St., Elizabeth Fer- guson, yn 70 oed. Pendarren.-Meh. 3, William Place, Frank Williams, yn 20 oed. Pencoed.—Meh. 1, Bedlwm, Catherine, priod Charles Jones, yn 43 oed. Tonypandy.-Meh. 5, Dunraven St., Edward Picton (Pickie), mab L.. a M. Ladd (tynwr lluniau). Tenby.-Mel,ef-;n 7, yn y Crofft, Cath- erine Morfydd Protheroe, gweddw yr Archddiacon Protheroe, Aberyst- wyth. Tre(legar.-Meh. 1, Park View, Mary Charles, chwaer y diweddar Wm. Charles, haiarn fasnachwr. Trehafod.—Meh. 4, Trehavod Rd., Ann. priod Richard Davies, 75 oed. -imeh. 1, Roath, William, priod' Esther Davies. T, eher-bert.Mai 29, Cwmsaebren, Nellie Thomas, priod S. Thomas. Treherbert.—Meh. 3, Taff St., Mary Barbara, priod Henry Roberts, merch Mr. a Mrs. Evan Rees. Ystalyfera.—Mai 31, Lucknow Shop, Sarah, gweddw Phillip Evans. « • •
Advertising
Llyfrau Maes Llafur Undeb Ysgolion Sab- bothol y T. C. "CYSONDEB Y FFYDD" CTR, CYNDDYIAN JONES). Cyfrol IV. "Person yr Ysbryd Glan a'i Waith." Allan o'r Wasg. Pris $1.25. Anfonwch eich archeb yn ddio-ed i sicrMau copi. Llawlyfr Cymraeg ar Efengyl loan, Penod I-VIII., i'r Dosbarth Hynaf a'r Canol, gan Dr. J. Cynddylan Jones. Pris, gyda'r Post, 65c. Llawlyfr Saesueg ar Efengyl loan, Pen. I.-VIII., i'r Dosbarth Hynaf a'r Canol, gan Proff. Marcus Dods. Pris gyda'r Post, 60c. Gwerslyfrau ar Efengyl loan, Pen. I-VIII. i rai o dan 16 oed (Cymraeg neu Saesneg) gan y Parch. T. E. Roberts, M. A., Aberystwyth. Pris 5c.; y dwsin, 50c. Rhodd Mam, Dr. Davies (dwy-ieithag), 5c.; 50c. y dwsin. Rhodd Mam Cymraeg (Parch. John Parry, Caer) 38c. y dwsin. Llyfrau Dosbarth Rhag- barotoawl, 38c. y dwsin. Pob math o Lyfrau ar gyfer Ysgolion Sabbothol. LLYFRATJ ERAILL. Llawlyfr ar v Gwyrthiau (Parch. J. E. Davies. Treffynon). 35c. Blagur Awen Ben Rowpti. 35c. Short Stories of Welsh History (0. M. Edwards). 20c. Arfon y Dvddiau Gvnt. 40c. Ceinion y Gynganedd (Alafon), 40c. Rhys Lewis (Nofeli yn yr Taith Saesneg, 75c. Agoriad i Drluwinyddiaeth y Testament Newvdd (Parch. James Charles. Dinbych). $1.10. Rhyddiaith Ben Bowen, a Bywyd (Parch. D. Miall Elwardgi. $1.10. Owen Glyndwr (English).$1.50 i'w werthu am $1.10. Llyfrau ar Gerddoriaeth. Llyfrau Adrodd. Dramodau. CERDDORIAETH CERDDORIAETH Canoedd o rnawdau mewn stoc. Anfonwch am gatalog o'r Gerddoriaeth Telir sylw manwJ i bob archebion. R. Morris Williams, Box 256, Utica, N. Y Yn Rhad i'r Milwyr Mae y Citizens Trust Co. yn barod i gadw, I yn ddidal, bapyrau cyfrinachol a gwerth- fawrogion o eiddo y milwyr sydd wedi eu galw allan. Dewch a hwy yma, a chedwir hwy yn ein dyogelfan. Y cynyg hwn yn unig i'r bechgyn sydd wedi ymuno i ddylyn y faner. CITIZEN'S Trust Company Phone 546—Private Branch Exchange. SENECA SQUARE, UTICA, N. Y.
I NEW CASTLE. PA.
NEW CASTLE. PA. Gan Brython. Blin oedd gan ffryndiau y brawd Thomas Clark, Canton, Ohio. i glywed am ei drafferthion a'i ofidiau blin. Ychydig amser yn ol gwelodd gladdu ei briod anwyl a ffyddlon, ac wythnos yn ol, gwelodd gorff prydferth ei fab John yn cael ei osod yn mhriddellau y dyffryn. Yn ol yr hanes, cyfarfyddodd y bachgen a damwain druenus ar y rheilffordd, yr hyn fu yn angeu iddo. Bachgen da i'w rieni anwyl oedd John, ac wedi bod yn gwmni mawr i'w dad wedi claddu ei fam. Mae pobl New Castle mewn llawn cydymdeimlad a'r brawd. Yr wythnos o'r blaen, cawsom fel teulu y pleser a'r mwynhad o gael cymdeithas felu.s Mrs. Sarah Hutchin- son, Lebanon, Pa., priod Mr. William Hutchinson, goruchwyliwr y Lebanon Iron Works. Mae hi yn gyfnither i fy ngwraig, plant y ddau frawd; fy mhriod i yn ferch i Richard Jones, y teiliwr, Treforris, a hithau yn ferch i David Jones, Merthyr (Dewi Morlais), a dyma y tro cyntaf iddynt gyfarfod a'u gilydd, er fod y ddwy wedi gweled mwy na deugain mlynedd o oes yn y byd yma. Gallaf ddweyd fod y cyfar- fyddiad yn un hapus iawn, ac nid oedd dim i glywed ond son am Dreforris, Llandeilo, a Merthyr. Dyma farwnad Dewi Morlais i'w frawd Richard: Aeth fy mrawd i blith rtleirwon—i'r Er dolur pob calon; (du lawr Crip,tion call, diwall o'r don A'i gariad oedd ei goron. Daeth y newydd blin i ni y dydd o'r blaen fod priod anwyl Mr. John Ro- berts (Cymro), East Chicago, wedi gorphen ei gyrfa ar y ddaear. 0, ergyd caled; 0, ergyd chwerw i'r brawd Roberts; colli y ffrynd goreu oedd ganddo; ie, gwraig rinweddol yn caru ei thy a'i theulu yn fwy ac yn well na dim arall. Yr ydym mewn llawn cydymdeimlad a John a'r teulu, ac yn dymuno gwenau y nefoedd gyda hwy; ac na fydded iddynt wylo, f el rhai heb obaith, ond y bydd iddynt fyw mewn ffydd a gobaith y cant gyfarfod eto mewn gwell byd. Gan hyny, anwyl gyfaill, Gwrandewch ryw air fel hyn, Am beidio wylo gormod Am golli gwraig trwy'r glyn; 0, cofiwch eiriau'r Iesu Pan yn dweyd yn glir, Am hyny byddwch barod Cewch ddylyn cyn bo hir. Yr wythnos o'r blaen, fe ddarfu i ddau gydymaith boreu oes i mi dalu ymweliad a dinas New Castle, sef y brawd John James, J. J., Granite City; a'r brawd Thomas Evans, Gorseinon, D. C., wedi dod allan am dro i'r wlad hon. Yr oedd y ddau yn edrych yn gampus, er eu bod yn edrych ychydig bach yn henach na phan yr oeddent yn cyd-berfformio a mi y ddrama "Joseph y bachgen da," dair blynedd ar hugaint yn ol. Blin oedd genyf fod eu amser hwy ddim yn caniatau iddynt i aros yn hwy gyda ni, yn gorfod dychwelyd oddi yma yr un diwrnod ag y daeth- ant. Yr oedd Sabboth, Mehefin 18, yn ddiwrnod cofio y meirw gyda'r urdd y Knight of Pythias. Cynaliwyd y cyf- arfod allan yn Cascade Park am dri o'r gloch yn y prydnawn, pryd y cymer- odd y Cymry ran 'bwysig yn y cyfar- fod. Canodd cor yr Emmanuel ddwy waith dan arweiniad y brawd galluog, Thomas Hopkins, A. C., a'r chwareu y piano yn ngofal Miss Annie Thomas. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parch. Clifford S. Joshua, a siaradodd wedi hyny yn eff-eithiol. a dylanwadol iawn. ———— 0-0--
[No title]
Mewn ysgrif yn "Yr Haul," ar Nicander, dywed y Parch. Evan Dav- ies, Llanllechid, mai "diwygiad Rhyd- ychain" (yr Oxford Movement) oedd -r unig "ddiwygiad gwirioneddol a pharhaus a gymerodd le yn Nghymru erioed." Wel, hwya'n byd y bydd dyn byw!
PLAINFIELD. N. Y. I
PLAINFIELD. N. Y. I Lhvyddiant mawr fu y cwrdd pre- gethu o safle ddaearol; cynulliadau mawrion; pobl yn cyrrmu o bob rhan. Cafwyd diwrnod ffafrioi, a hyderwn ei fod yn llwyddiant beiyd o safle gref- yddol, ac t cawn weled ffrwyth tor- eithiog yn codi mewn ffyddlondeb ac ymgysegriad i ddyledswyddau uwchaf bywyd. LIawen genym -oedd gweled fod cynydd mawr wedi oymeryd lie yn maintioli meddyliol y plant, ac mewn gosod allan mewn ffurf y pethau dyfodd yn eu meddyliau er pan fuont yn cychwyn gyrfa gyhoeddus yn Plain- field; a hyny yn y ddwy iaith, yr un mor hwylus. Ymadawsant gyda dy- muniadau goreu pobl Plainfield yn eu dylyn. Ond tra yr oeddym yn mwynhau gwleddoedd Seion, yn ddiarwybod i bawb yr oedd cwmwl du yn crynhoi uwch ben y gymydogaeth, ac ar doriad gwawr dranoeth i'r wyl, Mehefin 22ain, mae y cwmwl yn tori, ac yn gosod braw a dychryn trwy y lie, sef taeniad y newydd am farwolaeth .Mrs* Roberts, priod William Roberts. Y boreu blaenorol yr oedd y lie yn llawn llawenydd ar ddyfodiad geneth fechan i'r teulu; pob arwyddion ar y cyntaf am adferiad y fam i'w nerth arferol, ond yn hollol annysgwyliadwy, mae yr arwyddion yn cyfnewid, a phob gobaith am adferiad y fam wedi ei golli, a suddodd ar unwaith o'n golwg yn niwl y glyn, gan adael tad tyner galon mewn mor o hiraeth a cholled nas gall ei amgyffred, a dau fachgen bychan, a'r eneth fechan, heb fod y naill na'r Hall yn gallu sylweddoli y trychineb oedd wedi dod i'w rhan. Mae cydym- deimlad cyffredinol y gymydogaeth yn rhedeg tuag atynt. Yr oedd gwragedd y gymydogaeth yno a phob un yn gwneyd y peth a allai. Bum mlynedd i Ebrill diweddaf y daeth Mrs. Roberts i'r wlad o Ddinas Mawddwy, G. C.. ac ar ei glaniad yn Utica priodwyd hwy gan Dr. W. Caradog Jones, Utica, yn mhreswylfod Mr. a Mrs. John G. Roberts, Spring St., a symudasant i Plainfield, pa le yr oedd Mr. Roberts wedi pwrcasu cartref i'w derbyn. Bu y pum mlynedd yn rhai hapus, ond yn llawn trafferth fel sydd yn hanes pawb yn dechreu byw. Ffurfiodd y naill fel y Hall gymeriadau a fawr berchid gan bawb; profodd Mrs. Roberts ei hun yn wraig a mam rlyner a gofalus, yn gwarchod gartref, I yn meddu y parch Ilwyraf i bawb ac I mor belled ag y caniataodd amgylch- iadau. hi yn ffyddlon i gynulliadau "r?fyddol yr eglwys ag yr oedd yn aelod o honi, a cholled i gymdeithas a? clyfodol yr ardal oedd colli gwraig a mam o eryffelyb ysbryd ac ymroddiad fis- ydoedd hi, a sicr yw fod colled y tad n'r Ttlant anwyl yn enill tragwyddol iddi hi. Uri o fechgyn Llwyngwril ydyw Mr. Roberfs. ddaeth. i'r wlad hon ryw fwvddvn o'i blaen hi. Mae iddo frawd, Richard Meirion Roberts, Rochester; bechgyn ag mae pawb sydd VTI eu hadnabod yn falch o honynt. I Dvdd Sadwrn canlynol. daeth torf I; o'r cymydogion yn nghyd i dalu y rymwynas olaf i'w rhanau marwol. Yr oedd yr angladd' yn un lluosog; rhai o Watervilje a llu o Utica. Gweinydd- wvd yn y ty a glan y bedd gan y Parch. Abram Jones a'r Parch. H. R. Hughes, Plymouth. Pa. Yr oedd v ?wasaneth yn IIetholoddwys: gwein- vddwyd yn gyntaf yr o?dinhad o fed-j vdd gan y Parch. Abram Jones; dar- llenwyd rhanau addas o'r Ysgrythyr gan y Papch. H. R. Hughes. Bedydd- iwyd y fechan yn Bessie ar enw ei mam, a swn wylo oedd yn cerdded trwy y lie, tra yr oedd yr ordinhad o fedydd yn cael ei gario allan. Yna mae y gweinidog yn symud i ganol yr ystafell, ac -yn agor y gwasanaeth ang- laddol, a gwnaeth sylw neu ddau ar bwys y gair hwn yn llyfr y Proffwyd Habacac, 3: 6, "Llwybrau tragwyddol sydd iddo." Yna daeth Mr. Hughes yn mlaen a thraddododd anerchiad grymus yn Saesneg ar berthynas a chysylltiadau wylo a llawenydd (wil- low tree and the palm tree). Mae yn debyg nad annghofir y prydnawn hwn am amser hir. Canwyd gan y cyfeill- ion, Mrs. Evan Griffith, Mrs. G. Jones, Joseph Ephraim, a G. Jones dri o em- ynau adnabyddus i bawb. Gosodwyd y gweddillion i orwedd yn mynwent gyhoeddus Unadilla Forks. Wedi dar- llen rhanbriodol o'r Ysgrythyr, gweddiodd Mr. Hughes yn effeithiol, a gwnaeth gyfeiriad arbenig at Evan Evans, brawd Mrs. Roberts, a'r unig frawd sydd yn y teulu, yr hwn sydd wedi bod yn aros dan ei chronglwyd, ac wedi bod yn gartref clyd mewn gwlad estronol. Bendith gyfoethog y ref fo arnvnt, ac adenydd y Goruchaf a'u cysgoda ydyw dymuniad pawb o honom ar eu rhan, yn dad a phlant, a'r cysylltiadau sydd i bob ochr o'r teulu dros y don.—Abram Jones. ————
Advertising
CANTATA. The "COMMANDMENTS" by PETER EDWARDS, Mus. Bac. English & Welsh Words. Send for sample copy-50 cents. Special terms to Choirs. Selling agent in U. S. A., R. Morris! Williams, Box 256, Utica, N. Y. | WM. W. ROBERTS REAL ESTATE, LOANS AND INSUR- ANCE. Cymro Ymddiriedo! gyda phroflad a gwyboda,eth o'r Drafodaeth hon. Gyda A. B. CONGER. 246 GENE SEE ST,. TTTICA. N. Y.
West Liberty, Iowa. I
West Liberty, Iowa. Mae llawer blwyddyn er pan ysgrif- enais i'r "Drych," a chan nad wyf yn gweled ond ychydig o'r dalaeth hon yn y "Drych," penderfynais anfon ych- ydig linellau. Tref fechan yw West Liberty, o tua deunaw cant o boblogaeth, ar y ddwy main line o'r Rock Island, 16 milldir i'r dwyrain oTowa City, ond yn anaml y gwelir tref o'i maint mor fywiog. Maent yr haf hwn yn cwblhau tua chwe milldir o balmant; go lew, onide? Maent hefyd wrthi yn adeiladu High School Building i gostio dros driugain mil o ddoleri. Ychydig o Gymry sydd yn byw yn y lie hwn, ond yr wyf yn cyfarfod ambell waith a rhai o'm ffryndiau o Long Creek, Oldman's Creek, a Williams- burg. Cawsom y fraint o glywed y Royal Gwent Welsh Singers yn y Chautauqua yma y dydd o'r blaen, ac yr oeddynt yn canu yn fendigedig o dda. Ni chlywir ond canmoliaeth iddynt gan bawb a'u clywsant, ac y maent hefyd yn fechgyn nobl. Yr oedd tua dwy fil 0 bobl yn gwrando arnynt.. Yr wyf yn mwynhau yn ddirfawr yr erthyglau penigamp a ymddengys yn y "Drych" o wythnos i wythnos. Gan obeithio mai Hughes fydd ein Harlyw- ydd nesaf, a chyda dymuniadau goreu i bawb o bobl y "Drych," terfynaf y pwt byr hwnY-Iowa Boy. ———— e ————
[No title]
Ceisia'r tafarnwyr gael estyn oriau yfed yn nhrefi'r glanau, gan ddweyd fod y tywydd yn boeth a'r ymwelwyr yn sychedig. Ac am hyny apeliant at y Bwrdd Canolog am estyn yr oriau. Anfona'r Bwrdd i ofyn barn yr ynadon Ileol, a thybia hyny eu bod yn tueddu i wrando'r gwyn.
Advertising
WHY NOT? s B A CN "THAT IRRESISTIBLE FLAVOR." Y Tebycaf i gig Moch Cymreig yn y Talaethau. SOLD BY ALL THE BEST GROCERS AND BUTCHERS < THE BENNETT PIANO COMPANY WHOLESALE MANUFACTURERS OF Grand, Upright and Player Pianos Write today for Catalogue and special "Factory to Home" proposition "Gellir gohebu ynTGymraeg os myner.' BENNETT PIANO COMPANY, MARTYN THOMAS, Manager, Wholesale Piano Manufacturers 2648 W. North Avenue, CHICAGO, ILL. Cropiau Toreithiog o Rawn V. /y/ M?rchnadoedd Cyfieus-Prisiau Uchel '??????S?T GoHiewinbarth Canada yn Enill y Gwobrwyon am Wenith, Ceirch, Haidd, Alfalfa a Gwair. Enillodd Gorllewinbarth Canada yn rhwydd y /??f v ? gwobrwyon yn y Soil Products Exposition yn Den- ver. Cynwysai y rhestr Wenith, vjeirch, Haidd a 11vM ) Gwair, y mwyaf pwysig efallai y gwobrwyon am yIAv W J Wenith a Cheirch, a'r wobr am Alfalfa. Tjm ? Nid ?? pwysig nag ansawdd ragorol grawn Gor- ?J? jN ?????-??aLM?P?\ ? "ewimbarth Canada yw ansawdd y da byw a Ibesgir ??? J? infill ar wair y wlad ??' Yn y farchnad yn Chicago ttM?lB??SK? yn ddiweddar, yr oedd cynyrch y cylch hwn yn ??E?MSh?t?BS?? uwoh yn uwchaf o ran pris ac ansawdd. j ?*?H ???'?????I??t?t?tt?K?S? t Cynyrchodd Gorllewiabarth Canada yn yitod 1915 b-aiDt RE wimok ad "n ran dair o hoH dynyrch yr Usol Da!aethM. ????fTnN???n?& Yn ol cyfartaledd y boblogaeth,y <mae gan Canada ? t 'i jt?3?M fwy ? wenith at ei allforio na'r un wlad yn y byd,  yn ? y prisiau presenol, gellwch syniad yr elw i'r ffarmwr. ?t??j'C???mt *????A ? t It ?** yn Ngorilewinbarth Canada fardhnadoodd da, ya- t?t tL'? J M A I -f)" ?? ?ohon rhagorol, amgylchiadau cymdeithasol cysurus, ac hinsawdd campus. tM?*?T?Mt?i'?B§; Nid oes yma dreth ryfel ar dir na Korfodaeth filwrol. U 3 iiY S?. ?"?"*? am ?°y?'?th, toUau y rheilffyrdd, &c. ????j J  CANADIAN GOVERNMENT AGENT. Q.. 301 E. Genesee St.. Svracuse. N. Y.. neu Supt. of Immigration, Ottawa, Canada. Nid oes Eisiau Passports i Fyned i Canada. I FOURTH of JULY I EXCURSION N0 !? ? ??<?8 B S <? iagara Falls !<fc|Z A K ROUND $5.45 TRIP Tickets on sale for trains 6.00 p.m. and later on June 30, and all trains July 1,2,3. Returning not later than July 5. i Chautauqua $8.80 Trip Excursion tickets good going on July 7 and 28. Return limit, August 0. MlVAYl]N 5 and 26, respectively. Ar- 1, For tickets and further information, call at N'ew York Central Station. Utica, N. Y. LINES-" Phone, Bell 4500 The Triumph of the Coffee Blender's Art A New Delightfully 2:; Supreme Quality at Different Flavor. Moderate Price. ;I' A MOST VALUABLE PREMIUM COUPON PACKED IN EACH CANISTER You know the goodness of Te-Y-Brenin (King of Teas). COFFEE-Y-BRENIN is of the same high standard. To-day, buy a pound from your dealer. It will surprise and delight you. 35c A POUND, IN AIR-TIGHT CANISTERS ONLY DEALERS, write at once for special limited time inducement. Very attractive. G. T. Matthews & Co., 93 Water St., New York :I- I Fel Buddsoddiad 1 I Y buddsoddiad goreu i'r cyffredin o honom-dyn neu s ddynes-yw eyfrif llogawl gyda llog ar log. g m Nid anturiaeth fasnachol ydyw, nid oes dreth arno, ac mae Idyogelwch y swm a fuddsoddir tuhwnt i amheuaeth. Mae llwyddiant yn dechreu yn union wedi agor y eyfrif, a g mwyaf a ychwanegwch ato, mwyaf y llwyddiant. « Nid oes gostyngiad yn ngwerth y math yma o fuddsoddiad. i Tal wn 3i y cant yn yr adran logawl. Buddsoddiadau wneir o y tri diwrnod cyntaf o'r mis yn dwyn llog o ddechreu y mis. || First National Bank of Utica Cyfalaf, $1,250,000. Gweddill ac Elwt$I,350,t000 I %X;?AA%ørJJé Don't Trust to Your Memory for Telephone Numbers Consult the Telephone Directory "117HY not follow this Wsimple practice when you use the telephone? 1st—Consult the current issue of the telephone book instead of trust- ing to your memory. 2nd-Give your number clearly and distinctly. 3rd-Listen for the operator's repe- tition and make sure she has heard you correctly. These simple rules will help you to receive quick- ¡ er, and more satisfactory service and will make the 1 telephone an even more helpful assistant in all your affairs. Consult your Telephone Directory always. NEW YORK TELEPHONE COMPANY