Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
U SDr^cfoo WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. THOMAS J. GRIFFITHS. Proprietor. UTICA. N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.—The attention of business men in general is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- ticatiorl. It has a large circulation, with subscribers in every State and Territory of the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
HELYNTION YR YNYS WERDD.I
HELYNTION YR YNYS WERDD. I Gan y Parch. Dan Penry Davies, I Carroll, Neb. III. 1 Cyfnod helbulus iawn oedd haner olaf y ddeunawfed ganrif i Brydain Fawr. Fe gofia'r darllenydd am y gyf- res o ryfeloedd gwaedlyd, y gwrthryfel Americanaidd o 17615, i 1783. Ac o'r! holl ddygwyddiadau cyffrous gymeras- ant le, yn ddiddadl ymostyngiad Bur- goyne yn Saratoga yn 1777, oedd tro- bwynt mawr y gwrthryfel, oblegid ar- weiniodd yn uniongyrchol i ymyriad Ffrainc o ochr yr America yn y cwer- yl, ac amlwg yw nas gallasai yr Ameri- caniaid fod wedi llwyddo i ddal gafael yn eu hannibyniaeth, ar wahan i'r cynorthwy roddwyd iddynt gan y Ffrancod. Y canlyniad anocheladwy o'r cyngreiriad hwn oedd y rhyfel a dorodd allan cydrhwng Ffrainc a'r Ys- baen ar yr un llaw, a Phrydain ar y Haw arall. Trosglwyddwyd y brwydro o'r tir i'r mor, o'r America i Ewrop, ac yr oedd yn uniongyrchol gyfrifol am godiad terfysgoodd blin yn yr India a'r Werddon. Dygodd ymyriad y "Ffrancod y cynwrf cyfansoddiadol yn yr Ynys Werdd i uchafbwynt, a rhoddodd gyf- leusdra i'r terfysgwyr gael eu ffordd eu hunain yno, gan y bu rhaid i Bry- dain ddinoethi yr ynys o'u milwyr, er mwyn eu defnyddio yn erbyn gelynion tramor. Bu yn angenrheidiol ffurfio byddin o wirfoddolwyr Protestanaidd tuag at gadw trefn yno. Eithr nid bin y bu y gwirfoddolwyr cyn ategu y gofynion am ddiwygiadau economaidd, a wnaed gan Henry Grattan, a chan fod y cyfryw ofynion yn rhesymol yn- ddynt eu hunain, ac hefyd yn deilliaw oddiwrth awdurdodau cyfreithlawn nas gellid eu gwrthwynebu, caniata- wyd hwynt yn ebrwydd. Drachefn yn 1780, rhoddwyd mesur o Fasnach Rydd i'r Werddon, yr hwn a symudodid yr atalfeydd oddiar y fasnach wlan a chydgyfeillach (intercourse) y deyrnas a'r trefedigaethau. Ddwy flynedd wedi hyn rhoddwyd iddynt hunan-lywodr- aeth deddfwriaethol a ganiatai i'r iSen- edd Wyddelig ddiddymu "Deddf Poyn- ings" a dileodd Senedd Prydain Fawr "Mesur Dangosol" 1719. Eithr (ni ddy- chwelwyd eu hawliau i'r mwyafrif Pabyddol difreintiedig, ac ni phurwyd y Senedd Wyddelig o'i llygredigaeth- au. Yn awr ni a symudwn yn mlaen at gyfnod cyffrous y Chwyldroad Ffreng- ig, yr hwn a ysgydwodd Ewrop bedryf- an, ac a achlysurodd ryfel erwin rhwng Ffrainc a Phrydain. Yn natur- iol ddigon arweiniodd i anhawsderau difrifol yn y Werddon. iNid oedd y gwelliantau deddfwriaethol y soniasom am danynt eisoes, wedi boddloni naill na'r Prydeinwyr na'r Gwyddelod, ac o ganlyniad, dechreuodd yr olaf waeddi am ddiwygiad Seneddol ac am fesur o Ryddhad Pabyddol. I'r dyben hwn sefydlwyd "Cymdeithas y Gwyddelod Unol," gan Wolfe Tone a Hamilton Rowan yn 1791. Yn ffodus iawn i Brydain, yr oedd ganddi brif weinidog effro yn Idal awenau y llywodraeth, sef y gwla'dweinydd athrylithfawr Wm. Pitt, yr hwn a ddyrchafwyd i'r swydd uwchaf yn y deyrnas pan yn chwech a'r hugain mlwydd oed*, ac ar ol prof- iad Seneddol o dair blynedd yn unig. Gwnaeth apel am gymorth y PaJbydd- ion Gwyddelig drwy gario trwy Senedd y Werddon, nifer o fesurau er gwneyd i ffwrdd a'r rhwystrau ymyrent ag addoliad ac addysg y Pabyddion, ac a'u galluogodd i ad-enill eu hawlfreintiau seneddol, er na oddefid iddynt eistedd fel deddf-wneuthurwyr. Dwy flynedd ar ol ,hynÿ: danfonodd Arglwydd Fitz- William drosodd i'r ynys gyda'r amcan o roddi iddynt ychwaneg o ddiwygiad- au, ond o herwydd rhyw ddiofalwch ar ran y swyddog hwnw ni sylweddol- wyd yr amcan mewn golwg, a bu rhaid ei alw gartref. Achosodd hyn adfyw- iad "Cymdeithas y Gwyddelod Unol/' yr hon a ymunodd a'r dosbarthiadau iselaf yn mysg y Pabyddion, yn nghyd a Gweriniaeth Ffrainc. I'r gwrth- wyneb llwyddodd Pitt i enill ymlyniad yr uchelwyr Pabyddol a'r lleiafrif Protestanaidd. Danfonodd Ffrainc ry- felgyrch drosodd, ond gwasgarwyd y Ilyn!ges gan dymestloedd, a chyn y gallesid danfon rhyfelgyrch arall Ilwyddesid i ddiarfogi y Pabyddion drwy y ran fwyaf o'r ynys. Yn haf y flwyddyn 1798, er hyny, torodd gwrthryfel allan yn Wexford, yr hwn a ddarostyngwyd yn y frwydr, a ymladdwyd o amgylch "Vinegar Hill" yn Wicklow. Ni a gyraeddwn o'r diwedd y flwyddyn 1800, dyddiad sydd yn atgas fyth yn ngolwg y Gwyddel gwladgar ar gyfrif y ffaith i fesur ytf Undeb gael ei lunio yr adeg hono. Yr oedd y math oreu o swyddogion Pry- deinig, y rhai a ofalent am faterion y Werddon wedi hen ddiflasu gan chwerwder y gwrthbleidiau Gwyddel- ig, a llwyddasant i gadarnhau Pitt yn ei grediniaeth mai yr unig ffordd i gyfarfod a'r anhawsder ydoedd mab- wysiadu y darpariadau a gorfforwyd yn ngweithred yr Undeb. Pasiwyd y mesur gan Seneddau y ddwy deyrnas yn 1800, a daeth i weithrediad ar ddydd cyntaf y flwyddyn ddylynol. Liarparwyd fod i'r ddwy deyrnas ym- ffurfio .yn deyrnas Gyfunol, yn meddu ar un Senedd, yn yr hon y cynrychiolid y Werddon gan bedwar o arglwyddi ysbrydol, wyth ar hugain o arglwyddi tymorol, a chant o gyffredinwyr (com- moners). Unwyd hefyd eglwysi sefyd- ledig Lloegr a'r Werddon; rhoddwyd i'r Ynys Werdd gydraddoldeb mas- nachol, a gorchymynwyd iddi dalu dwy ran o ibymtheg o gyllid y deyrnas Gyf- unol. Yn ychwanegol at hyn, ceisiodd y Prifweinidog sicrhau crefydd y mwyafrif Pabyddion mewn mesur atodiadol, ond rhwystrwyd ef gan y Brenin, a bu raid iddo ymddiswyddo. Nid yw yn rhyfeddod yn y hyd fod y ddeddf hon, sef "Gweithred yr Undeb" yn ffieiddbeth yn ffroenau'r Gwyddel gwladgarol, o herwydd pasiwyd hi drwy y gwarthusrwydd duaf ar ran ei chefnogwyr, ac y mae genym hanes am dano. "A process of blackguardism and baseness" y gelwir ef gan Glad- stone. Eithr rhag ofn i neb feddwl fod y gw,ron hwn yn bartiol, gwran- dawer ar Lecky, yr hanesydd, yr hwn hefyd oedd yn Dori rhonc: "Y blynydd- oedd cydrhwng 1779 a 1798 oeddynt o bosi'bl y mwyaf llwyddianus yn hanes y Werddon, a'r genedlaeth a ddylyn- odd yr Undeb oedd un o'r mwyaf gre- svnus. "The sacrifice of nationality was extorted by the most enormous corruption in the history of representa- tive institutions." Ac uchelgais benaf y Gwyddel byth ar ol hyny ydyw dileu y gwarthnod hwn oddiar ei hanes.
GALLU A BYWYD Y GREADIGAETH.
GALLU A BYWYD Y GREADIGAETH. Gan Eben P. DaVies. 1 Penod, IX. I Dywedasom ar ddiwedd y benod ddi- weddaf, tua chwe mis yn ol, na chymer y ddamcaniaeth drydanol ddim yn ganiataol, ac na ofyn am amodau ac amgylchiadau tybiedig, fel y gwna y ddamcaniaeth ddisgyrehiol, ond y rhydd reswm ac achos dlgohol diroa bob effaith gweledig ac adnabyddus. Cyn cyfrif am ragor o amlygiadau na- tur yn ngoleuni trydaniaeth, gwnawn ddangos fel y metha disgyrchiaeth gyf- rif am yr amlygiadau hyny ydym wedi eu hegluro. Gosodir "cyffredinedd" deddf dis- gyrchiaeth allan fel hyn—"Y mae pob mater yn y greadigaeth yn atdynu mater arall tgyda gallu cydunol a chyf- artaledd swm y sylwedd sydd yn tynu, a'r sylwedd a dynir; ac yn cyfnewid yn wrthgyferbyniol i ysgwar y pell- der." Yr hyn a olygir wrth y frawddeg olaf yw fod 'gallu atdyniadol disgyrch- iaeth yn lleihau i un rhan o bedair; i un rhan o naw; neu i un rhan o un ar bymtheg-os mwyheir y pellder, yn berthynasol, ddwy waith, dair gwaith, neu bedair gwaith; a ibod y gallu yn mwyhau gyda'r un cyfartaledd pan fydd y pellder yn Ileihau. Gellid dweyd rhagor mewn eglurhad o ddis- gyrchiaeth; ond digon yw i'r darllen- ydd gofio fod ei allu bob amser yr un fath ar yr unrhyw bellder, a'i fod yn mwyhau, ac yn lleihau, fel y bydd y pellder yn lleihau neu yn mwyhau, ond ai yn ol y cyfartaledd a nodwyd sydd bwnc arall, y mae lie cryf i gredu nad yw y "cyfartaledd" hwn ond hon- iad. Yr unig allu gwrth-hyrddiol (cen- trifugal) a hawlia y disgyrchydd a berthyn i'r ddaear yw y "momentum" a roddwyd iddi pan daflodd ei Ohrewr hi allan i'r eangder mawr. Hawlia hefyd fod y "momentum" hwn.yn aros yn allu parhaol yn rhinwedd y ffaith, neu yn hytrach, yr honiad, fod y ddaear yn troi ac yn cylch-deithio mewn gwagle (vacuum). Os yw gallu disgyrchiaeth yn annghyfnewidiol ar yr un pellder (fel yr addefwn) a "momentum" yn barhaol mewn gwag- le, paham na wnai y ddaear ddesgrifio cylch crwn ar ei thaith flynyddol? Hyn ddylai, ac yw, y canlyniad i ddis- gyrchiaeth unffurfiol a "momentum" parhaol. Nis gall llwybr o un ffurf arall fodoli mewn ufudd-dod i hawliau y disgyrchydd. Eto, pa fodd y medr y "momentum" "annghyfnewidiol" hwn ddwyn y ddaear, o'i man agosaf i'r haul, allan i bellafnod ei chylchdaith, a hyny yn groes i allu disgyrchiaeth, yr hwn sydd sefydlog? Ac ar ol iddo lwyddo i fwy- hau y pellder rhwng y ddaear a'r haul dros dair miliwn o filldiroedd, paham y mae "momentum," yn sydyn, yn colli ei nerth, nes y mae disgyrchiaeth yn cael y trechaf arno, ac yn dwyn y ddaear yn ol fel y mae mor agos i'r haul ag oedd cyn ei chychwyniad allan? Y mae deddf "momentum" yn hawlio, os llwydda i fwyhau y pellder ond ychydig rhwng y corff atdynol a'r un symudol, fod ei allu yn cynyddu. Ond beth yw y ffeithiau? A anrhyd- eddir yr hawliau hyn yn nghylchdro blynyddol y ddaear? Na wneir, eithr anwybyddir hwynt yn hollol, a throir hwynt yn ben am ben. Ar yr unfed-ar-hugain o Rhagfyr, pan y mae y ddaear yn ei man agosaf i'r haul, y mae deddf yn hawlio fod disgyrchiaeth yn ei fan goreu, i. e., fod htdyni-ad cydunol yr haul a'r ddaear* yn igryfach y 'pryd hwnw nag ar un- rhyw adeg arall o'r flwyddyn, eto, ar waethaf hyn, tgafaela "momentum" yn y ddaear, a charia hi i bellafnod ei chylchdaith, felly yn mwyhau y pell- der rhyngddi a'r haul dros dair miliwn o filldiroedd. Eto, ar yr unfed-ar- hugain o Fehefin, hawlia y ddeddf fod disgyrchiaeth yn wanach nag ar un adeg arall o'r flwyddyn, am fod y pell- der rhwng y ddaear a'r haul yn fwy; ond er ei wendid, gwna gydio yn y ddaear o afael "momentum," a'i dwyn yn ol i'w hagosfan, er iddo, chwe mis yn ol, pan oedd lawer yn gryfach, fethu ei dal yn y man hwnw. Os medr "momentum" orchfygu dis- gyrchiaeth ar yr unfed-ar-hugain o Rhagfyr, pan mae yr olaf gryfaf, pa- ham na charia hi allan i'r eangder di- derfyn, byth i ddychwelyd? Ac os ar unfed-ar-hugain o Fehefln, pan y mae wanaf, y medr disgyrchiaeth orchfygu "momentum," a dwyn y ddaear yn nes dros dair miliwn o filldiroedd, paham na ibarha hyd nes y tyn hi i berfeddion tanllyd yr haul? Nid yw y gofyniadau hyn ond ychydig o lawer a allem ofyn heb un gobaith am atebion rhesymol iddynt oddiwrth y disgyrchydd; ond tra y mae yn anmhosibl i ddisgyrch- iaeth eu hateb, nid yw ond peth rhwydd ddigon i drydaniaeth, fel y profwyd yn y penodau blaenorol. Tra y deil y disgyrchydd i'r holl "fomentum" angenrheidiol gael ei roddi i'r ddaear pan ollyngwyd hi o law ei Chreawdwr, eto y mae ei ddam- caniaeth wedi ei adeiladu ar yr eg- wyddor fod "momentum" yn cael ei adnewyddu bob blwyddyn ar yr unfed- ar-hugain o Rhagfyr. Gwyddom yn eithaf da na chydnebydd y disigyrchydd hyn; ond y mae yn ganlyniad anochel- adwy fod mwy o "fomentum" yn ofyn- ol i gario y ddaear allan nag i'w dwyn i mewn, i fwyhau y pellder na'i leihau. Gellid dweyd lawer rhagor ar y rhan hon o'r ddamcaniaeth, ond y maei digon wedi ei ddweyd er profl fod deddfau "momentum" a disgyrchiaeth yn cael eu gwrthdroi yn hollol gan hirgrynedd llwybr blynyddol y ddaear, felly yr unig igasgliad rhesymol yw nad "momentum" a disgyrchiaeth yw galluoedd ysgogol ein planed. Mewn penod ddyfodol, pan yn sylwi ar sym- udiadau y bodau uwchlhen, cawn roddi cryfach prawf, os oes angen, o anni- gonolrwydd "momentum" a disgyrch- iaeth i gyfrif am yr ysgogiadau a ber- thyn i'r gyfundrefn blanedawl. Cyn gadael cylchdro y ddaear, gwnawn alw sylw y darllenydd at yr arferiad cyffredin o alw alban arthan, yr unfed-ar-hugain o Rhagfyr, "ein gogwydd mwyaf gogleddol," y mae y frawddeg yn gamarweiniol ac yn an- nghywir. Y mae gogwyddiad y ddaear drwy ei holl daith yr un fath, ar yr unfed-ar-hugSt-in o Fehefin fel ar yr unfed-ar-hugain o Rhagfyr, sef gogwyddiad o dri-ar-hugain a haner o raddau i'r gogledd. Pe gallem edrych ar y ddaear, a'i gwylio oddiar ryw blaned gyfagos, gwelem hi yn symud yn dywysogaidd Orwy yr eangder, megys y gwel-wn apibell i awyren yn symud uwchben, ac yn gogwyddo ych- ydig dan ddylanwad awel esmwyth. Nid yw wahaniaeth pa un ai i'r dwyr- ain, i'r deheu, i'r gorllewin, ai i'r gogledd i'r haul y bydd y ddaear, y mae ei gogwyddiad yr un nifer o radd- au, ac i'r un cyfeiriad. Gellir meddwl w»th glywed alban arthan (yr unfed-ar-hugain o Rhag- fyr) yn cael ei alw "ein gogwyddiad mwyaf gogleddol" mai alban hefin (yr unfed-ar-hugain o Fehefin) yw "ein "gogwyddiad mwyaf deheuol," ond nid oes gogwyddiad deheuol, felly y mae y dywediad yn annghywir ac yn gamar- weiniol. Ar alban hefin y mae y ddaear yn ddeheuol i'r haul, ond y mae ei gogwyddiad yn "ogleddol" y pryd hwnw fel pan y mae yn ogleddol i'r haul ar alban arthan. Yn ein sylwadau hyd yma, yr ydym wed,i cymeryd yn ganiataol, er mwyn rhwyddineb, fod yr hyn a elwir yn "ddeddf cyffredinol disgyrchiaeth, yn cyfnewid yn wrthgyferbyniol i ysgwar y pellder" yn gywir; ond mewn penod ddyfodol cawn gynyg i ystyriaeth y rhai hyny o ddrarllenwyr y "Drych" sydd wedi rhoddi mwy neu lai o astud- iaeth i'r pwnc, yr hyn a ymddengys yn ddigbnol brawf nad yw y "ddeddf" hon yn ddim ond honiad, seiliedig art gydgyfarfyddiad. Cofier nad disgyrch- iaeth ei hun a olygwn sydd yn ddim ond honiad, eithr y cyfnewidiad o hono "yn wrthgyferbyniol i ysgwar y pell- der. 11 f Yn y benod nesaf cawn ddangos fel y dygir y ddaear yn mlaen ar ei gyrfa flynyddol gan alluoedd atdynol ac hyrddiol y ffrydiau trydanol.
CWYMP T. R. I
CWYMP T. R. I Gan Talywaenydd, Wind Gap, Pa. ] Cynyrfwyd ein gwlad y misoedd di- weddaf i'r graddau digonol i gyn- yrchu gwen ameus ar wynebau y bobl, ac osgo cellwair yn nhroad eu llyg- aid. Yr achos o hyn, yn ol fel yr wyf yn deall, oedd gwaith tri neu bedwar o'n dynion mawr yn ceisio yr anrhyd- edd i'n gwasanaethu ni yn y gadair Arlywyddol y tymor nesaf. Y mae, yn ddiau, raddau o deilyngdod yn perthyn i bob un o'r boneddwyr hyn; ac feallai eu bod yn amddiffyn eu saf- leoedd oddiar egwyddor neillduol; ac erbyn hyn neillduwyd dau o honynt i sefyll neu redeg am y Gadair yn yr Hydref nesaf; un i gynrychioli y Gwerinwyr a'r llall y Democratiaid; y ddwy brif 'blaid yn ein gwlad heddyw. Wel, mae yn rhaid i ni ollwng ein teimladau a dywedyd fed yn ddrwg iawn genym weled a chlywed fod T. R. wedi cael ei wthio allan o'r drafod- aeth, a gweled rhai o'n newyddliadur- on yn ymosod arno mor ddidrugaredd, yn enwedig ei alw yn "traitor to his party in 1912." Tra nad ydym yn cymeradwyo pob ipeth o waith T. R., eto barnwn nad oes yr un dyn yn Am- erica yn cael mwy o gam nag ef hedd- yw. Ychydig yn ol, nid oedd dyn mwy cymeradwy nag ef; yr oedd yn arwr yn mysg y cenedloedd gwar; heddyw hwtir ef yn y dull mwyaf bawaidd sydd bosibl. Ychydig yn ol yr oedd llygaid y cenedloedd oedd yn syllu ar- no i'w edmygu fel eu prif arwr; hedd- yw carthir cwterydd politicaidd, a theflir y carthion i'w wyneb gyda'r dirmyg mwyaf. Beth yw y rheswm? Mae y fath ymddygiad chwithig yn ddigon i'n gwneyd ni y bobl ofyn a oes ton o wallgofrwydd yn cyffwrdd a'r haen uchaf o'n gwareiddiad! Beth yw y rheswm dros ymddygiad y wlad at T. R. cyn 190,7 a'i hymddyg- iad ar ol hyny? Pa un ai helynt 1907 ynte ymddygiad T. R. yn 1912¡ yw y gwir achos o'i gwymp? Nid wyf yn coelio i'w ymddygiad yn 1912 fod yn esgus digohol i'r wlad droi mor ffyrnig yn ei erbyn. Nid wyf yn coel- io ychwaith i'n cynrychiolwyr yn Chi- cago gyflawni ewyllys y hobl; ameu- wn hefyd y dywediad ei fod yn frad- wr ei blaid yn 19112. Yma cyfyd y gofyniad hwn—Pa un ai T. R. sydd wedi bradychu ei blaid, ynte y bladd sydd wedi bradychu T. R.? Ymddeng- ys i mi iddo ymlynu wrth egwyddor oedd yn angenrheidiol ei dadlblygu ar gyfer dadblygiad ei gwareiddiad, ac i'r blaid gilio yn ol, a phlygu glin i'r cryf, y dylanwadol a'r gormesol. Os yw hyn yn iawn, yn mha un o'r ddwy ochr y mae y fradwriaeth? Gadawer i ni gadw ein llygaid ar yr hwn sydd yn dyoddef ac yn aberthu er mwyn y gwan a'r anffodus, y brif egwyddor yn Nghristionogaeth yr Efengylau; n,id Cristionogaeth Rhufain. Beth yw y gwahaniaeth? Hyn. Nodwedd ar- benig Cristionogaeth yr Efengylau yw, fod y cryf a'r galluog yn dyoddef ac yn aberthu er mwyn y gwan a'r anffodus; nodwedd arbenig Cristion- ogaeth Rhufain yw fod y gwan a'r anffodus yn dyoddef ac yn aberthu er mwyn y cryf a'r galluog. I gael gafael ar ddechreuad cwymp T. R., rhaid myned dipyn yn mhellach na'r flwyddyn 1907; a'r achos o hyny oedd iddo fyned yn rhy syth yn erbyn y gallu arianol (trust) y wlad, oedd yn prysur lyncu holl gyfoeth y bobl i'w gallu gwancus. Yr ydym yn credu fod tebygolrwydd rhwng gwaith T. R. yn y wlad hon a gwaith ein cydwlad- wr anrhydeddus Lloyd George yn Mhrydain. Aeth L. G. yn unionsyth yn erbyn gallu cryfaf Prydain, sef Ty yr Arglwyddi, i gael yr hyn oedd dad- blygiad gwareiddiad y wlad yn galw am dano. Ymlynodd wrth egwyddor neillduol, ac aeth yn erbyn y cryf a'r dylanwadol; safodd y wlad fel caerau o'i gwmpas, a chafwyd yr ysbail. Felly hefyd T. R. Aeth yn unionsyth yn erbyn gallu cryfaf y wlad hon; gallu sydd bron yn herio y Ilywodr- aeth, ac yn gallu cynyrchu panic trwy y wlad ar fyr rybudd. Aeth T. R. i wrthdarawiad a'r gallu cyhyrog hwn wrth ymly, wrth egwyddor neillduol i gael yr hyn y mae dadblygiad gwar- eiddiad y wlad yn galw am dano; ond nid oedd y mwyafrif o'r bobl yn fedd- ianol ar ymwybyddiaeth o'u safle. Gadawsant T. R.; heddyw y mae wedi ei daflu o'r neilldu, drwy ddylanwad elfenau estronol yn benaf. Mae gan y trust amryw o iffyrdd i wthio eu dylanwad ar y wlad; rhag manylu, gallaf enwi y lobi, y wasg a trash o boblach sydd yn dylifo yma pob blwyddyn o rai o'r gwledydd tramor, ac yn cael breintiau dinesydd drwy ddylanwad y cyflogwr. Fel hyn y mae ychydig o bobl neillduol, rhyw ddwslin, yn moldio y wlad hon bron yn hollol yn ol eu hewyllys, ac i raddau pell yn llywodraethu yr Unol Dalaethau hedd- yw. Felly yr ydym yn taflu y bai o gwymp T. R., prif arwr yr Unol Dal- aethau, ar ddosbarth o bobl anneallus, an-Americanaidd, a'r wasg wasaidd a'r lobi; a chyfrifwn yr amgylchiad yn sarhad ar ein gwareiddiad. Yr oil ydym ni yn ei wneyd gyda ein pleid- lais pob blwyddyn yw rhoddi arfau newyddion a ffresh yn llaw gormeswr i weithio allan ei ewyllys ei hun; ac yna dysgwyl yn hamddenol iddo daflu a-mbell i friwsionyn dros y bwrdd i ninau yn gyfnewid am ein caredig- rwydd ymarferol a'n gwiriondeb hapus!
AR FY ADEN—MINNEAPOLIS.I
AR FY ADEN—MINNEAPOLIS. I Gan Dr. Daniel.Williams. I Ysgrifenais o Seattle, os wyf yn cofio. Yr y'm wedi teithio oddi yno hyd yma, ac am fyned yn mlaen i Storm Lake, Mehefin 27. Gadawsom Seattle foreu Gwener, Mai 12, ac yn Spokane erbyn 10 y nos. Cawsom gar- tref clyd yno gyda theulu a adwaenwn yn North Dakota 30 mlynedd yn ol. Aethym i'w ty yno tua chanol Gor- phenaf, 188,2. Pan aethym i'r ty yr oedd y wraig yn y gadair siglo a gen- eth fael). !bum wythnos oed ar ei glin. Gan i mi gael ystafell yn eu ty, daeth- ym yn gyfeillgar a'r plentyn, ac ami i dro y bum yn canu iddi, ac yn ei siglo i gysgu. Pan oedd hi yn 4 oed, gadaw- som N. Dakota am Iowa. Dysgwyliem yn siwr ei gweled yn Mai y flwyddyn hon yn ferch ieuanc 34 mlwydd oed, ond nid felly y bu. Daeth y grip ati yn y gauaf, ac Ebrill 6ed bu farw, pum wythnos a diwrnod cyn i ni gyraedd y ty. Teimlai y teulu yn ddrwg iawn, a methai y fam a dweyd un gair pan gyr- aeddasom y ty. Yn Spokane buom amryw ddyddiau o dan gronglwyd glyd fy nghefnder, Hugh T. Roberts; haner brawd Dr. R. T. Roberts, Rome, N. Y. Yr oeddwn heb weled Hugh er y flwyddyn '81. Aeth drwy y Sophomore Class yn Riipon, ond yn haf '89 bu ei chwaer farw, aeth yntau i Minneapolis, a Bis- mark, a chyn hir i Tacoma, Ile y nriododd. Bu mewn busnes am ych- ydig flynyddau yn Salt Lake, ac mae yn Spokane er's blynyddau bellach. Mae ei dy ar Aryn, a miloedd o lampau y dref i'w gweled yn y nos. Mae gan- ddo dri o blant, Frank, Allen a Jennie. Farai Jennie i mi feddwl am ei nain- modryb Jane-ail wraig y Parch. T. H. Roberts, Proscairon, ac am ei modryb, gwraig gyntaf Griffith Howells, ond y ddwy yn y bedd er's llawer blwyddyn; yr olaf er '89, a'r gyntaf er '69 neu '70. Gwelais Rich- ard Thomas a'r wraig yn Spokane, Mrs. T. yn nith i'r Parch. Daniel Rowlands. Drwg genyf weled nad yw ei hiechyd yn dda o lawer. Cefais garedigrwydd gan Robert T. Roberts, un o fiaenoriaidyr eglwys Gymreig, cefnder i Dr. J. Roberts; ei wraig yn ferch i John E. Willinms, y "Coed," ger Proscairon, Wis., neu "Sion Edwart" fel y'i gelwid. Yr oedd ei wraig "Betti Edwart" yn ddynes fawr gref, blaen a hynod. Yr oedd pawb drwy y wlad yn gwybod ac yn son am Betti Edwart. Yr oedd gan- ddi deulu mawr. Os bydd gwraig heddyw yn magu un neu ddau neu dri o blant, a golwg byw am dipyn arnynt, ystyrir ei bod yn gwneyd gwaith da lawn, ond bu gan Betti Edwart 14 o blant, a dywedodd iMrs. Roberts fod 10 o honynt yn fyw heddyw, a rhaid eu bod dros 50 oed, a synwn i ddim nad yw pob un o'r deg dros 60 oed. Dyma fam iawn, onide? Dirywio mae y byd yn lie myned yn well, er holl dwrf y Darwiniaid. Cafoatl Mrs. Roberts a minau ymgom ddyddorol iawn, am yr hen ardaloedd, a'r hen gymydogion. Ei thy hi yw ty capel Spokane. Ceg gin- iaw y Sul olaf yn Spokane (Mai 28) yn nhy Mr. Morris Williams. Mae Mr. a Mrs. W. o Bettwsycoed, pobl garedig a blaenllaw gyda'r achos, ac yn Spo- kane er's blynyddau. Gadawodd Mr. W. Liverpool Mai 28, 1887; New York, Mehefin 5; ac yr oedd yn Spokane er- byn y 13 o'r mis. Yr oedd y Parch. Jonathan Edwards yno ychydig fisoedd o'i flaen. Bum yn ysgwyd llaw a Mr. Edwards ar ddiweddcyfarfod y pre- gethwyr foreu Llun, ac yn cael ciniaw gyda'n .gilydd yn y Y. M. C. A. Dining Room. Am Spokane y siaradem, nid am y dadleuon yn y "Drych." Mae Mr. E. wedi ysgrifenu llyfr Hanes Spokane County, un da, efe yn awdur- dod ar hanes boreuol y parth hwnw o'r wlad. Cafodd Mrs. W. a minau de yn nhy Mrs. McBroom, merch Mrs. Morris, a welsom yn Los Angeles, hithau yn chwaer i Evan R. Ocven, Spain, S. Dak., a'r ddau yn blant i Robert Owen, Baraboo, Wis. Cawsom de gyda'r Parch. D. Kendrick Roberts a'r teulu. Yr oedd ei fam yno, wedi dod yn ol o Long !Beach, Calif. Colled i Spokane fydd colli Mr. R. ac enill i Wales, Wis., pregethwr ieuanc galluog a go- beithiol. Pregetha/is dair gwaith y ddau Sul olaf yn ei gapel, tra yr oedd ef ar ymweliad a Chymry Wardner, Idaho, ac Almira, Wash. Un o Lake Emily yw Kendrick, wyr Ebenezer Jones, wyf yn gofio pan oeddwn blen- tyn yn Wisconsin. Cefnder i K., mab brawd i'w fam, yw Edwin E. Jones, Columbus, Ohio, fu am flwyddau yn weinidog yn Los Angeles. Gerllaw Bbenezer Jones yr oedd Dafydd Dafis y gof, ac wyrion iddo ef yw Grey a Kershey Cardy, pregethwyr gyda'r Presbyteriaid Seisnig. Yn terfynu eto a D. D. yr oedd yr "Hen John Daniel," ac wyr iddo ef yw Josiah Daniel, Seattle, ond am flynyddau yn weinidog yn Oakland, Calif. Wyres i William Davis, hen flaenor da a duwiol Lake Emily, yw gwraig R. H. Jones, Los Angeles, ac am naw mlynedd gwein- idog Emporia, Kans. Mae yn wir mai Mr. Jones sydd yn pregethu ac yn gwneyd llawer o'r gwaith, ond mae Mrs. J. yn ei gynorthwyo, os nad yn ei gyfarwyddo. Dyma blant neu wyrion Lake Emily wedi bod am flynyddau yn gofalu am eglwysi Emporia, Los Angeles, Oakland, Seattle, Spokane a Denver, prif eglwysi y Gorllewin. Go dda Lake Emily, onide? Pa ardal arall yn Wisconsin neu mewn unrhyw dalaeth arall all ddangos gwell record? Wedi tri Sul yn Spokane, daethom yn mlaen i Mills City, Montana, am bum niwrnod, tref o 8,000. Pregeth- ais foreu Sul yno i Mr. Smith, yn yr eglwys Bresbyteraidd; yna boreu Llun yn mlaen i Mandan, North Dakota, lie yr ymdroisom am wythnos, a daethym yma i dy fy chwaer, Mrs. G. G. Thom- as, lie yr aroswn dros y Gymanfa. Dysgwyliaf glywed y Parch. R. R. Davies, Wilkes-Barre, a Mr. Prytherch y gweinidog newydd yma; ei frawd, Wm. E. Prytherch, Goppa, oedd y pregethwr goreu glywais yn Nghymru pan yno yn 1892.
[No title]
—'Mae gwersi dirwestol yn cael eu I rhoddi o dan 214 o awdurdodau ys- golion Ileol yn Lloegr a Chymru.
OS YW PWYLLWYDDEG YN WIR.
OS YW PWYLLWYDDEG YN WIR. Gan H. W. Evans, Plainsville, Pa. Chwilio am y gwir ydyw dyledswydd benaf bob dyn fel bod cyfrifol, neu fod rhyddewyllysiol. Er cyraedd gwir ryddid, rhaid yw gwybod y gwir. Yr awdurdod uchaf ar y pwnc ydyw y dyn perffeithiaf "Os y gwirionedd a'ch rhyddha chwi, rhyddion a fyddwch yn wir." Gan hyny, dysgwn nad oes rhyddid perffaith ond lie mae gwirion- edd yn berffaith, a dyledswydd pob dyn yw ymdrechu bod yn berffaith "fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nef- oedd, yn berffaithP Ymgyraedd am berffeithrwydd dwyfol y Creawdwr sydd yn Dad i Ibob dyn fydd yr amcan wrth ddefnyddio yr ysgrifell mewn ate-Mad i'r cwestiwn, A yw Pwyll- wyddeg yn wir? Dyn, yn ol y Beibl, yw gorchest- waith Duw yn y greadigaeth. Llefar- odd Duw bethau eraill i fodolaeth, ond am ddyn, dywedir, "Deuwch, gwnawn ddyn." A barnwn fod yn anhawdd i Plas Gwyn brofi fod y dyn sydd ar lun a delw Duw, wedi tyfu allan o un creadur arall. Y mae y gwahaniaeth rhwng y dyn a'r creadur afresymol mor.prfawr, fel y mae wedi bod, ac yn bod, yn destyn syndod. Beth yw dyn! Os edrychwn ar ddynion i'w cydmaru a'r creaduriaid sydd yn cael eu Ilyw- odraethu gan reddfau eu natur, saif y dyn i fyny fel creawdwr bychan o'i gydmaru a gorchest-gampau creadur- iaid. Felly yr ydym yn gweld dyn wedi ei wneyd a gallu i ddewis rhwng y da a'r drwg, ac yn meddu y gallu i wneyd da a drwg. Fel hyn, prawf dynion drwg fod yn bosibl fod trefn Duw yn y byd moesol yn caniatau bod- olaeth y da a'r drwg. Peiriant rhyfeddol yw corff dyn, ond rhaid i'r maes mawr eang hwn gael ei olrhain, a'i ddarlunio gan y doctoriaid. Yr ymchwiliad i berthynas yr ymenydd a chymeriad, galluoedd a thalentau dynion yw maes y Pwyllwyddegwr. Am hyny, y gosodiad cyntaf wneir yw, mai trwy yr ymenydd y mae meddwl, neu ysbryd dyn, ac enaid dyn, yn dy- fod i gysylltiad a pheirianau ei gorff, a'r byd" materol neu allanol. Saif dyn yn dair rhan, corff, enaid ac ysbryd. Corff yw y peiriant materol; yr enaid yw y bywyd greddfol anifeilaidd yn y dyn; a'r ysbryd yw yr elfen hono sydd yn fodolaeth ysbrydol yn dwyn dyn i berthynas agosach a'r dwyfol, fel y gall lywodraethu ei chwantau, a dweyd 'na' wrth reddfau anifeilaidd ei natur. Gallwn ddiffynu y corff materol yn ol i'w elfenau, ond bywyd y llysiau a'r blodau amryliw, sydd fel enaid y dyn a chreaduriaid eraill, y maent y tu draw i'r lien. Efallai mai credu fod bywydau wedi eu cuddio gyda Christ yn Nuw sydd oreu. Dysgir ni, "Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd oedd oleuni dynion." Trwy y cyfryngwr, y Gair, y mae y lie dyogelaf i chwilio am y gwir. Wrth eu ffrwythau yr adna- byddwch hwynt. Rhaid i ni wrth ffydd i gredu Ilawer o bethau, heb eu deall. Wrth ddadblygiad o'r gwahan- iaeth rhwng dyn a'r anifail, yr ydym i ddysgu am natur yabrydol dyn fel llyw- odraethwr yn meddu awdurdod i feis- troli. Synu yr ydym weled y blodau yn tynu gwahanol liwiau o'r un ddaear. Felly y mae yn llawer mwy o syndod i weled amrywiaeth cymeriadau trwy ymenyddiau o'r un natur. Gosodiad arall ydyw, fod yr ymen- ydd yn wahanol ranau, neu ermigau, yn gwasanaethu yr ysbryd mewn gwa- hanol gyfeiriadau, sef tueddiadau gwa- hanol yn gweithio, trwy wahanol ran- au o'r ymenydd, megys rhan o'r ymen- ydd yn caru plant, rhan arall yn hoffi peirianwaith, rhan yn mwynhau ym- borthi, tra y mae rhan yn ymyl yn caru casglu a meddianu. Felly, mae tua dwy a deugain o ermigau yn cyfan- soddi un ymenydd dynol. Darganfydd- wyd y gwahanol ermigau trwy sylwi fod gwahaniaeth yn ffurf y penau, yn cydfyned a gwahaniaeth yn ymddyg- iadau dynion. A bod penau o'r un ffurf yn ymddwyn yn debyg. Felly, trwy gydmaru miloedd o benau, dysg- wyd fod penau dynion o'r un ffurf yn eyffelybu mewn cymeriad. Dysgwyd fod yr ermigau sydd yn gofalu am ddyogelwch hunanol dyn- ion, fel creaduriaid, o amgylch a rhwng y clustiau, yn rhoddi lied mawr i'r pen ac yn ffurfio y pen crwn yr ysgrifenir am dano. Nid oes a fynom a'r ddadl yn. y "Drych," pa un ai pen crwn, neu fenyw ben gron sydd iawn yn ieithydd- ol, ond y mae yn iawn barnu fod dyn- ion a benywod sydd a phenau crynion a llydain rhwng y clustiau, yn dueddol i fod yn dra gofalus am eu buddianau