Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU CERDDOROL. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODIADAU CERDDOROL. Gan Peter Edwards, Mus. Bac. (Pedr Alaw). I Emynau Cymraeg. Mewn Ilyfr Saesneg a ddarllenais yn ddiweddar, ceir ychydig o hanes emynau yr Hen Wlad, ac hwyrach y bydd crynodeb o'r cyfryw o ddyddordeb i'n darllenwyr cerddgar. Williams, Pantycelyn, gaiff y lie blaenaf yn y llyfr, a gelwir ef "the Watts of Wales"—enw tra chyf- addas, onide? Ganwyd ef yn ffermdy Cefncoed, ger Llanddovery. Ysgrifen- odd 916 o emynau. Enw ei gasgliad cyntaf o emynau ydoedd "Hallelujah." Wele gyfleithiad o'r penill cyntaf yn "Yn Eden, cofiaf hyny byth: In Eden—O the memory! What countless gifts were lost to me! My crown, my glory fell; But Calvary's great victory Restored that vanished crown to me; On this my songs shall dwell. Enw bedyddiedig ei briod ydoedd Mary Francis, a dywedir y gallai hi swyno y cynulleidfaoedd gyda'i chanu melus, yn fwy na'i gwr gyda'i bre- gethu. Un tro, pan ar daith yn sir Fon, yr oedd Williams a'i briod yn Iletya mewn tafarndy yn Llangefni, o'r enw "Penybont." Penderfynodd rhyw ddyhirod aflonyddu arnynt drwy wneyd swn drwg o amgylch y fan. Aeth un beiddgar i'r dafarn a gofyn- odd i'r pregethwr a'i briod a garent gael tiwn? "Carem," meddai Wil- liams, "rhywbeth a fynoch, 'machgen i; 'Nancy Jig,' neu rywbeth arall." Wedi dechreu 'Nancy Jig,' ar amnaid ei gwr wele Mrs. Williams yn tori allan i ganu: "Gwaed dy Groes!" Yr oedd ei chanu yn anorchfygol, ac ymaith a'r gang fel cwn euog. Un tro yr oedd "dychweledigion" yn dyoddef o ddiffyg goleu clir ar "y mater," a daethant at Williams am gymorth. Dyna, meddir, yr acfylysur a barodd iddo gyfansoddi yr emyn byth- ol-felus: o llefara, addfwyn Iesu Mae dy eiriau fel y gwin, &c. Wele gyfleithiad o'r penill cyntaf: Speak, I pray Thee, gentle Jesus, 0 how passing sweet Thy words, Breathing o'er my troubled spirit Peace which never earth affords; All the world's distracting voices, I All th' enticing tones of ill, At thy accents, mild, melodious, Are subdued, and all is still. Cyhoeddodd bedwar llyfr Emynau-yn eu plith ddau yn y Saesneg, sef "Hos- anna" (1759) a "Gloria" (1772). Darllenais y dichon mai yn y Gymraeg y cyfansoddwyd yr emynau ac mai y cyfleithydd i'r iaith fain ydoedd ei gyfaill a'i gymydog Peter Williams. Gwnaeth dawn santeiddiol y gan y flwyddyn 1829 yn flwyddyn "Y Iwbili" yn Neheudir Cymru, ac yr oedd yr un- rhyw ddawn yn amlwg yn y flwyddyn 1831—adeg y pla, pan y darfu i'r enwog John Elias enill bron yr oil o Gymru i Grist. Yr oedd yr hanesyn a ganlyn yn newydd i mi. Pan aeth John Elias i'r Cyfarfod Misol i'w "dderbyn," rhoddwyd ei enw fel "John Jones." Ond yr oedd yr enw mor, hynod gyffredin fel y gofynodd y Llywydd: "Beth ydyw enw ei dad?" "Elias Jones" ydoedd yr atebiad. "Yna gelwch ef "John Elias" rhag i ni oil fod yn John Joneses! meddai y llyw- ydd. A dyna sut y cafodd yr enw- enw a gofir tra bo Cymru mewn bod. Ffafr-emyn Diwygiad 1857-8 ydoedd "O'th flaen, 0 Dduw! 'rwy'n dyfod." Yr awdwr ydoedd Thomas Williams, sir Forganwg, a anwyd 1761; bu farw 1844. Wele gyfleithiad llyfn o honi: Unto Thy presence coming, 0 God, far off I stand: "A sinner" is my title, No other I demand. For mercy I am seeking For mercy still shall cry; Deny me not Thy mercy; 0 grant it or I die! I heard of old that Jesus, Who still abides the same, To publicans gave welcome, And sinners deep in shame. 0 God! receive me with them, Me also welcome in, And pardon my transgression, Forgetting all my sin. Bydd genyf ail lith ar y testyn dyddor- ol hwn.

[No title]

CYMANFA MINNESOTA. I

I BANGOR. SASK.. CANADA.

PWLPUD Y DRYCH

LLITH 0 GYMRU.I

Y DDAMWAIN YN AKRON. OHIO.…

Advertising

COFFEE-Y-BRENIN.

OS YW PWYLLWYDDEG YN WIR.