Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Mehefin Gwlvb. 1916. Gwlaw y bau gela'i bywyd-y mae haf Mehefin yn oerllyd; Y llafur falla hefyd- A ddaw i ben ddyddiau byd? GAiDLB. o Goleuni. Goleu dydd a rydd ei wres—i'n byd ni ET dal bywyd cynes; O'r haul daw yn wefrol des A hynod yw ei hanes. iScranton, Pa. DANIEL DDU. o Enelvn Cvfarchiadol I I'm hen gyfaill, T. C. Davies (Didymus Cernyw) Shell Lake gynt, ond yn awr o Randolph, Wis., ar ol iddo gael ei urddo yn fardd, yn ol braint a defod ynys Prydain, yn Eisteddfod San Francisco, Calif.: Ar dy ben wr dibynol-yn helaeth Rhoed corn olew hudol; Dyna enaint enynol Ac awen gu yn ei gol. W. W. JONES. Welsh Prairie, Wis. Tynerwch. I Wrth rodio llwybrau'r dolydd, AT foreu gwanwyn lion, Mor dyner i'r ymwelydd Yw yr olygfa hon; Fel eurferch i'm cyfarfod, O'r dwyrain wele'n dod Y wen-wawr brydferth hynod Yn gwenu dan ei chlod. Mor dyner yw'r awelon Yn llithro uwch fy mhen; A llamu wnant yn rhyddion- Forwynion glan y nen; Mae cusan haul boreuddydd, Mor dyner ar fy min; Bendithion boreu newydd, Hudolus yw eu rhin. Mor dyner deffry'r blodau nan wen y wawrddydd dlos; Ac egyr eu hamrantau Fu'n nghaead yn y nos; Yn lion, heb un ochenaid Cydwenant mewn mwynhad, Fel plantos bach diniwaid, Dan ofial tyner dad. Yn fy mreuddwyd ymagora, Golygfeydd tynera'n fyw; Mwyn beroriaeth a dramwya !Sain telynau euraidd Duw; Dan gyfaredd cwsg ymloni A wnaf yn fy oriau rhain; Tyner law fy Nuw wna'm noddi Efe'n dwr a'm castell cain. Tyner ydyw llaisefengyl- Mae'i chyfrinach fel y dydd; Mae mor wyn ag edyn engyl, Dan ddysgleirdeb dwyfol sydd; Ceidw'r galon fel yr eira, Pan y bydd yn ngofal Duw; Dyma ydyw'r bywyd ucha'— Dyma brofiad dynol ryw. 0 dan gysgod pren y bywyd, Gyda'm telyn yn fy llaw; Yimflaguro mewn dedwyddyd Heb un syniad byth am fraw; Anfachludol yw'r gogoniant Sydd yn Nghanaan dyner fry, A thragwyddol fydd y moliant Yn mharadwys Iesu cu. W. W. JONES. Welsh Prairie, Wis. ——— u ——— Anfon Lythvr Adref. I Gyfaill hoff, os ydwyt heddyw 'N unig ac mewn estron wlad, Cofi,a'n fynych anfon llythyr Draw i fwth dy fam a'th dad; Paid a'u siomi, cofia anfon; Ti addewaist wneuthur hyn; Dysgwyl mae y ddau am dano Yn y 'bwth islaw y bryn. Mae dy fam bob dydd o'r wythnos Yno'n dysgwyl ger y ddor; Gwel'd yr oriau'n myned heibio Heb gael llythyr dros y mor; Anfon ati, paid a'i siomi; Cofia mai dy fam yw hon; Mae dy anufudd-dod yma Yn creu gofid dan ei bron. Pwy sydd genyt ar y ddaear Ond dy fam a'th dirion dad Ag sy'n haeddu cael dy hanes Oil yn gyflawn o bob gwlad? Pwy fu am flynyddau lawer Yn dy wylio rhag un cam? Pwy lafuriodd er dy fagu Ond dy anwyl dad a'th fam? Pwy sydd eto yn dy gofio A gweddio ar dy ran? Cofia, gyfaill, am dy riaint- Anfon lythyr bach i'r fan; Yna bydd llawenydd dirfawr Yn y bwthyn bychan gwiw, Wedi iddynt ddeall yno Fod eu bachgen yma'n fyw. Paid a gadael i bleserau Fyn'd a'th feddwl a dy fryd; Paid a bod yn fachgen afrad Tra yn rhodio hyn o fyd; Paid annghoflo'r cartref gefaist- Dedwydd ydoedd, onide? Pan yn cael cyngorion buddiol Ar y ffordd i deyrnas ne? Mae dy fam, ti wyddost hyny, Yn bryderus ar ei hynt; Ofni hyn ac ofni arall Nad yw'r bachgen megys gynt; Meddyginiaeth dda i'r teulu Fydd yn awr dy lythyr bach 0 wlad bell er dangos iddynt Fod eu mab yn fyw ac iach. IOAN EURON. New York Mills, N. Y. -0- Er Cof Am y diweddar Barch. Alfred Harries ,fu farw mor hynod sydyn ac annys-' gwyliadwy yn ei gartref, y persondy, Coxestown, Harrisburg, Pa., ddydd ,M!awrth, Mehefin 6ed, 1916. Daeth y "Drych" yn ol ei arfer Gyda'i wyneb hawddgar lion, A'r gofyniad yw bob amser, Beth sydd ynddo'r wythnos hon, 'Chydig ddarfu i ni feddwl Y cawn ynddo'r newydd trist Am symudiad un oedd anwyl lawn o'n plith at lesu Grist. Alfred Harries, dyna'r cyfaill Sydd yn destyn hyn o gan; Gwr oedd anwyl gan ei deulu A chan bawb yn ddiwahan; Gyda'i wen a'i wyneb llawen Yn croesawu pawb i'w gol; A digalon 'r ym wrth feddwl Na ddaw Harries byth yn ol. Draw yn Nghymru, gwlad y bryniau, Lie y treuliodd foreu'i oes, Clywodd lais yn dwedyd, cyfod, Dos, cyhoedda Waed y Groes; Ufuddhaodd yntau iddo Bu'n pregethu fiwyddi maith; Gyda mesur da o Iwyddiant 'Roedd ei galon yn y gwaith. Fe nodweddid ei gymeriad A sirioldeb yn mhob man; Caredigrwydd, penderfyniad Parod iawn i wneyd ei ran; Er yn fychan o gorffolaeth, Mawr ei enaid, mawr ei waith; Gweithiwr caled, diwyd, ffyddlawn Fu ef yma ar ei daith. Dyna sydd yn gwneyd y golled I ni heddyw'n gymaint mwy, Gweld rhai eraill mor ddigyffro Eto Duw'n eu harbed hwy; Ond Bfe sydd yn teyrnasu; Dyrys yw Ei lwybrau Ef; u. mor bwysig fod ein hachos Wedi ei selio yn y nef. Bod yn barod pan ddaw'r alwad Fel yr oedd ein hanwyl frawd; Daeth y cerbyd, llamodd iddo A gorphenodd yma'i rawd; Er mor hoff yr oedd o'i gartref Ei deulu bach a'i aelwyd glyd; Eto'r cartref yn y nefoedd Oedd yn gyson ddenu'i fryd. Daeth yr alwad iddo'n sydyn Fel y fellten, finiog, lem, Ac ehedeg wnaeth ei ysbryd At y Gwr fu ar y pren; 'Nawr mae'n ddedwydd yn y wynfa; Nid oes yno neb yn brudd; Stormydd gauaf aethant heibio— Haf tragwyddol yw ei ddydd. O! mor hoff yr oedd o ganu Pan oedd yma ar y llawr, Hen emynau cysegredig Ddywedant am y meddyg mawr; Rhyfedd meddwl na chawn glywed Mwy ei gan a'i iaith ddi sen; Cana heddyw gyda'r engyl "Rhowch y goron ar ei ben!" Mrs. Harries, Bella, chwithau, Sydd mor unig yn y byd; Cofiwch fod yr addewidion Yn parhau yr un o hyd; Fe ofala Duw am dandch; Rhowch eich hunain yn Ei law, A ,chewch eto gwrdd diddiwedd A'ch anwylyd ddydd a ddaw. DAVID R. DAVTES. Nanticoke, Pa.

MILWAUKEE WIS. I

HUMBOLDT PARK. CHICAGO. I

[No title]

I IF,,.ydd I Bob Meddwl el…

COLUMBUS, 0.

[No title]

Advertising

[No title]

NODION 0 WILKES-BARRE. PA.…

MRS. MARGARET E. HUGHES. CAMBRIA.…