Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD FFARWEL I DR. ROBERTS.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD FFARWEL I DR. ROB- ERTS. AI BRIOD YN NEW YORK. Gan Colwynian. I '-h' f # I Un o'r nosweithiau pwysicaf ar fem- rwn hanes Methodistiaid Cymreig New York fydd nos Iau diweddaf, y 29ain cyfisol, pryd y cynaliwyd cyfar- fod ffarwel i Dr. a Mrs. Roberts ar ymddiswyddiad y blaenaf o ofal yr eglwys Fethodistaidd ar 155th St. Bu yn weinidog ar yr eglwys yma am ddwy flynedd ar hugain, a hawdd can- fod oddiwrth y dorf ddaeth yn nghyd, mai blynyddoedd o lwyddiant ac o barch fu ei gyfran yn ein plith. Cry- bwyllodd lawer tro am ymddiswyddo, ond teimlai efe a'i aelodau fod y gad- wen yn rhy dyn ac anhawdd ei thori, o ganlyniad calonau trwmlwythog a hiraethus oedd yn v cyfarfod hwn. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Ed- ward 'Morris, ysgrifenydd yr eglwys, ac yn ei anerchiad rhagarweiniol rhoddodd gipdrem ar gynydd yr eg- lwys yn ystod gweinidogaeth Dr. Rob- erts. ,Bu iddynt yn weinidog, yn gyf- aill, ac yn arweinydd,. gweini llwydd- iant ar bob cylch, ac anhawdd oedd dywedyd "ffarwel," ond dymunai idd- ynt fendith lor ar eu nawnddydd. I Mynegodd Thos. Jones ar ran y blaenoriaid ei edmygedd o Dr. Rob- erts. Buont mewn cydgord a'u gilydd am ddwy flynedd ar hugain, a theim- lai mai colled fyddai ei ymddiswydd- iad iddynt fel eglwys. Enillodd eu serch yn gyfangwbl, goleuodd hwynt ar eu IIwybrau a chawsant ynddo bob cyfarwyddyd posibl. Ychwanegodd J. Macdonald ar ran y trustees egni Dr. a Mrs. Roberts at gasglu er adeil- adu teml gyfaddas i addoli ynddi, a'u diolchgarwch Iddynt am eu gwaith di- flino yn y cylch arbenig hwn. Galwyd ar y Parch. Hugh Pritchard i ddywedyd gair. Teimlai efe y dylasai gyfyngu ei hun at yr haner oreu o Dr. Roberts. Adwaenai ef iMrs. Roberts pan yn ieuanc, gwyddai am ei phob- logeiddrwydd yn Chicago, ac edmyg- edd ei chydieuenctyd o honi. Teimlai fod Mrs. Roberts wedi bod yn wir gyd- mar id,do, wedi ei gysuro yn ei adfyd, a'i gynorthwyo yn mhob cylch. Yn wir, credai fod llwyddiant Dr. Roberts i'r graddau helaethaf yn ddyledus i'w wraig, a bod rhan fawr o'r clod yn eiddo iddi. Yn ol ei arfer, byr a blasus fu geir- iau y Parch. Joseph Evans, B. A., gweinidog yr Annibynwyr Cymreig. Cofiai am adeg y ffarweliodd ag eg- lwys yn Ngogledd Cymru. Hen wein- idog Puritanaidd lywyddai y cyfarfod, chwiliai am emyn cyfaddas i ddechreu. ond methai ei gael. Yn ei ffwdan a'i helbul, cododd ar ei draed, a rhoddodd yr emyn cyfarwydd allan, "Newydd- ion da a ddaeth i'n bro." Teimlai Imai nid felly yr oedd yn y cyfarfod yma. Credai o glywed yr anerchiadau blaen- orol, fod geiriau Emerson yn briodoli i'r Doethwr, "Nis gallaf ei glywed yni llefaru, mae ei weithredoedd yn Ilef- aru yn uwch." Dywedodd y Parch. R. E. Williams, Philadelphia, fod i Dr. Roberts le am- 1 lwg yn mhlith gweinidogion Cymreig yr Unol Dalaethau, a'i fod wedi cyr- aedd pinaclau bri yn mhwlpurl Cymh reig y wlad. Gobeithio y cai flynydd- au lawer eto i wasanaethu ei Arglwydd a Chymry y Talaethau. Yr oedd gan- ddo ef barch dirodres id,do. Cafodd gydmar bywyd o'i eglwys yn Racine- yr etifeddiaeth oreu gafodd mewn ys- tyr ddaearol. Olrheiniodd y Parch. J. W. Morris, Poultney, Vt., fywyd Dr. Roberts. Bu yn Vermont am ysbaid yn gweinidogaethu. Mae ei ddylan- wad eto yn aros, a phrawf digonol ydyw hyn yna, mai nid ofer ei ymgais. Hir oes iddo ef a 'Mrs. Roberts yn eu cartref newydd. Dyna yn fyr y prif anerchiadau, ond ni ddywedwyd yr oil. Ar ran yr Ysgol Sul, siaradodd yr arol- ygwr, J. W. Jones, a chafwy-d ychydig eiriau gan R. Roberts. Anrhegwyd Dr. Roberts a chodaid o aur ar ran yr eglwys gan Thomas Morris, a Mrs. Roberts a sweater hardd gan Mrs. W. E. Jones fel Llywyddes y Ladies' Aid, ac a pin tlws gan Miss Elizabeth Roberts ar ran y Christian Endeavor. Canodd Mrs. Henderson Jones, "O! rhowch i mi bregeth Gymraeg," a Megan Dwyryd, "Yr Hen Gerddor," cyn felused ag erioed. Afraid i mi ganmol y ddwy gantores, maent yn rhy gyfarwydd ag ymddangos ar dudalen- au y "Drych." Swynol oed'd clywed nifer o blant yr eglwys yn canu "God be with you till we meet again," ac yn cyflwyno i Mrs. Roberts bleth-dorch o flodau hardd. Gyda'u hymadawiad, telmla Cymry New York eu bod yn colli eu cyfeilHon goreu. Bydded i'r Dr. a Mrs. Roberts felus orphwysfa wedi Iludded a gwaith y dydd. Bwr- ladant wneyd eu cartref yn Racine, Wis. Dymuniad ipob calon Gymreig yn New York ydyw iddynt gael "hedd- weh fel yr afon" yn hwvrddydd bywyd. Os felly, credwn y gallant ysgrifenu mewn llythvrenau breision ar barwyd- ydd eu cartref newydd y geiriau can- lynol fel dyhewyd puraf eu haml gyf- eillion yn ninas New York. Tyred pan fynych Croesaw pan ddelych; A chwedi y delych Tra mynych trig. Daeth cynulliad mawr i'r capel Cym- raeg ar 155th Street nos Iau diweddaf, Mehefin 29ain,i ganu yn iach i Dr. Rob- erts a'i briod, yr hwn wedi gwasanaeth ffyddlawn yn yr eglwys y mae wedi rhoddi ei gofal i fyny. Nos Sul diwedd- af pregethodd ei bregeth ymadawol, ac mae efe a Mrs. Roberts yn gwynebu tua Racine, Wis., lie y bu yn bugeilio am flynyddau cyn dod i New York. Paham Racine, gofyn rhai. Wel, yn ngeiriau y Doctor, "fel y byddwn yn agos i'r plant pan y'n gelwir adref at yr Hwn a'u rhoes." Mae y plant wedi eu claddu yn Racine, felly gwelir yr atdyniad. Ar yr esgynlawr, gwelais y Parch. Dr. Rob- erts a Mrs. Roberts, Parchn. Hugh Pritchard, Joseph Evans, R. E. Wil- liams, Philadelphia, John W. Morris, Poultney, a brawd yr Ymddiriedolwyr, Edward Morris, Thomas Jones, Thom- as Morris, Wm. McDonald, Robert Rob- erts; Edward Morris yn arwain y cyf- arfod. Dechreuwyd trwy ganu emyn Cymraeg, ac fel y dywedodd gwr wrth fy ymyl, "Canu rhagorol o dda, mewn amseriad da." Gair gan yr arweinydd; gair gan Thomas Jones a William Mc- Donald dros y trustees. Can gan Mrs. Henderson Jones. Araeth gan y Parch. Hugh Pritchard yn ei ddull doniol ef. Gair pwrpasol gan y Parch. Joseph Ev- ans yn fyr ac i'r pwynt. Gair gan y Parch. R. E. Williams, Philadelphia, yr oil o'r brodyr hyn yn ewyllysio pob cysuron i Mr. a Mrs. Roberts lie bynag y byddont, gyda byw yn hir i fwynhau eu hunain nes y gelwir hwy at eu gwobr. Gair gan John Henderson Jones yn cynrychioli yr Ysgol Sul. Yna dyna dorf o blant bach yr eglwys yn dod wedi eu gorlwytho a blodau i ddangos eu parch ac ewyllys da at eu hanwyl weinidog, yr hwn sydd ar eu gadael. Pan oedd yr ymdaith yn myned tua'r esgynlawr, dyna un o'r plant bach yn wylo dros y capel, a meddyliais mai rhan o'r gwasanaeth oedd y wylofain wrth feddwl colli ei hanwyl fugail, ond deallaf mai rhyw anffawd oedd wedi dygwydd i'r bychan. Canodd y plant "Till we meet again," &c. Can Gym- raeg gan Mrs. Morris yn swynol. Gair gan y Parch. John W. Morris yn dweyd hanes y Doctor ac yntau pan yn gweith- io yn y chwarel. Yr oedd y cydymdeimlad yn ffynu dros Thomas Morris, yr hwn oedd wedi parotoi araeth penigamp, ond er ei fawr syndod yr oedd wedi ei cholli, ac yr oedd mewn penbleth beth i'w wneyd ac i'w ddweyd, ond daeth ato ei hun, ac aeth trwy y gorchwyl o gyflwyno an- rheg dros yr eglwys a chyfeillion, sef codaid o arian i Dr. Roberts fel arwydd o'u parch tuag ato ef a Mrs. Roberts. Faint oedd y swm, nis gwn, ond men- traf ddweyd y medr Mrs. Roberts brynu mwy o fara a chaws gyda'r swm na fedr gyda'r oil o'r areithiau y noson. Dywedodd Hugh Pritchard wrthyf yn eyfrmachol fod yn y god ddigon o arian i gadw Dr. a Mrs. Roberts yn Racine am dair blynedd. Dylaswn ddweyd yn y fan yma fod v Ladies Aid wedi rhoi te bach am dri yn y prydnawn, ac wedi rhoddi anrheg o Sweater gwerthfawr o sidan i Mrs. Roberts, yr anrheg yn cael. ei chyflwyno dros y society gan Mrs. Wm. E. Jones, llywyddes. Rhoddas- ant boquet hardd hefyd, wedi ei rwymo yn hardd, gyda blodeuyn ynddo oddi- wrth bob aelod o'r society. Y Christ- ian Endeavor hefyd hwythau vn cyf- lwyno anrheg, sef breast pin "hardd i Mrs.Roberts; Miss Roberts yn cyflwyno yr anrheg gyda geiriau pwrpasol i'r am- gylchiad. Gair gan Robert Roberts yn rhoddi ystadegau yr eglwys. Canwyd emyn Cymraeg, felly fe welir fod yr oil o'r braidd o weithrediadau y cyfarfod wedi eu cario yn mlaen yn yr iaith Gym raeg (diolch am hyn). Ar ol y cyfarfod cafodd pawb ddigonedd o hufen rhew a theisenau, ac fel v dywedodd John Morris fod yno weddill. Iechyd a phob cysuron fyddo ei rhan hyd y diwedd yw dymuniad ac ewvllysiad.—Efrogydd.

NODION 0 NEW YORK. I

Advertising

[No title]

[No title]

j YMOFYNIAD AM

NODION PElSONOL

[No title]