Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
If JÐrcb WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. THOMAS J. GRIFFITHS. ProDrietor. UTICA. N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.—The attention of business men in general is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands <I who oannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with subscribers in every State and Territory of the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
ATHRONIAETH Y MEDDWL.<
ATHRONIAETH Y MEDDWL. Gan T. J. Peters, Wind Gap, Pa. Dosbarthiad Galiuoedd y Xeddiffi.-I Sylw a Dirnadaeth. Penod IV. Wrth wneyd y dosbarthiad, priodol ydyw gwybod beth ydynt, a beth nad ydynt, gyneddfau penodol y meddwl. Mewn trefil i ddeall hyn, rhaid pen- derfynu beth sydd yn cyfansoddi cyneddf feddyliol. Wrth y term yma, golygir genym allu y meddwl i weith- redu, i wneyd rhywbeth, rhoddi allan yni, a chyflawni unrhyw weithrediad. Y pwnc 1 ni yn awr ydyw edrych ar y moddau neillduol, sydd gan y meddwl i weithredu, fel y gellir gweled pob gweithrediad yn ei ddosbarth ei hun. Perthyna i'r meddwl gyniifer o gyn- eddfau gwa,hamol ag a berthyn iddo o alluoedd gwahanol 1 weithredu. Mae rhai o'r galluoedd liyn yn gyfryw n" gellir yn briodol eu galw yn gyneddf- au penodol, o herwydd eu bod yn dy- yn neu yn canlyn Ipdb gweithred fedd- yHol. Y prif rai o'r dosbarthi yma ydynt, sylw, dirnadaeth ac ymwybydd- iaeth. Nid rhanau o'r meddwl ydyw ei alluoedd gweitbredol, nid sylwedd cymihlyg yn cael ei wneyd i fyny o ranau ydyw, eithr un ydyw; mae yn anrhanadwy. Nid rhan o'r meddwl ydyw cyneddf, fel imae y Haw yn rhan o'r oorff. Er hyny, mae iddo lawer o wahanol ac amrywiol ffyrdd i weith- redu, ac mae'r moddau gwahanol hyn i'w hadndbod wrth wahanol enwau, a'u trin ar wahan oddiwrth eu gilydd. I"r dyben yma ceisiais wneyd dan- goslun (diagram), er mwyn dangos y dosbarthiad yn eglurach nag y gel-llr mewn geiriau yn unig. Nid, wyf yn honi bod yn berffaith, eto, oredwyf y gall fod yn gynorthwy i'w deall, ac i gofio yn barhaus mai nid rhan o'r meddwl sydd yn deall, a rhan arall yn teimlo, a rhan arall yn penderfynu, ond .mai y meddwl sydd yn deall, yn canfod, yn cofio, yn dychymygu, yn rhesymu, yn caru, yn cashau, yn dy- muno a gobeitihio, &c., a'r gweithred- ia'dau hyn ydyw cyneddfau penodol (distinct faculties) y meddwl dynol. Mae y galluoedd eraill, y sylw, dirnad- aeth, ac ymwytoyddiaeth yn gynwys- edig yn yr holl gyneddfau penodol, er -Yny, mae yn bwysig cael eglurhad ar- nynt. Yn wir, ystyrir y Than yma o'r wyddor lawn mor bwysig, os nad yn fwy felly, na'r un ran arall o honi, oblegid drwy y rhai hyn, yn enwedig ymwybyddiaeth, y celair egluro rhat « brif anlhawsderau y wyddor. Yr ydym dan ychydig o anfantals gyda'r iaith yn y fan yma eto. Nid oes gen- ym eiriau yn y Gymraeg i wahaniaethu yr ystyron gwahanol a roddir i'r gair meddwl. Wrth ei ddefnyddio fel enw cyffredin, y gair ydyw meddwl (Saes— mind); fel enw daneoddol (abstract) meddwl (lSaes-thought), ill. y., enw yn dynodi gweithrediad. Eto, pan y defnyddir ef fel berf, y gair ydyw meddwl (Saes--to think), a phe defn- yddiem meddwl, pan y byddo'n enw cyffredin, a meddyliad pan yn enw dansoddol, a meddylio pan yn ferf, bi asat hyny yn tueddu i fod yn Thy anarferol, gan hyny, mae yn well gen- yf ddylyn y dull cyffredin, a d'weyd gyda'r bardd (y Myfyr gynt). "Meddwl ar Feddwl 'r wyf ft," &c. Mae yr un anhawsder gyda nifer luos- og o'r termau, neu enwau gwelthred- iadau y meddwl, wrth eu trafod. yn ngoleuni y wyddor, neu athroniaeth y peth ei hun. 1. Sylw (attention). Ceisiaf yn gyntaf egluro yr hyn a olygir, ac a ddeallir, wrth y gallu. I'w ddarnodl, dywedaf mai ygåHu meddyliol hwnw ydyw, yr hwn sydd yn cyfeirio ei fedd- yliau yn fwriadol, a gwirfoddol, at ryw un gwrthrych, ar wahan i bob gwrthrych arall. Mae rhai yn siarad am sylw anwirfoddol, cyflwr meddwl yn mha un y mae ein meddyliau heb ymgais neu fwriad o'r eiddom ein hun- ain, yn cael eu hollol feddianu gan wrthrychau o ryw natur gynyrfiol. Ond mae yn ameus a ydyw yn briodol galw hyn yn sylw. Goddefydd ydyw y dyn, ac nid gweithredydd yn y cyflwr yna; pan y mae yn weithred wirfoddol yn unig, y mae yn briodol allu y medd- wl. Prin y mae yn angenrtieidiol des- grifio natur gallu sydd mor gyson mewn ymarferiad. Cenfydd pawb, er engraifft, y gwahaniaeth rhwng!' dar- lleniad diofal o lyfr, pan mae'r llygaid yn llithro dros y tudalenau yn ddlfater, a'r meddwl yn derbyn ychydig neu ddim argraffiad oddiwrth yr hyn ddar- llenir, a darlleniad yr un llyfr, gyda sylw sefydlog a gofalus, pryd y eylwir yn fanwl ar bob gair, y ipwysir pob gosodiad, a holl egni ac ymdrech y meddwl yn gyfetriedig at y gwrthrych y traethir am dano. Mae y cyntaf yn annkho,fla y cyfan, a'r ail yn ei gofio, ac megys yn gwneyd y pwnc yn rhan o hono ei hun. Eto, wrth gerdded h' > vdd dinas boblog a phrysur, eir heibio i lawer o bersonau a phethilu yn ddisylw, ac nia gallwn roddi eyf,.if am "U hymddangosiad ar ol hyny; ond yn sydyn, dyna rhywun neu rywbeth yn tynu ein sylw, gwyliwn ei ym- ddangosiad a'i symudiadau, neillduol- rwyddet wisg, digrifwch ei ysgogiad- au, ei liw, e1 lun, a'i ddull, Ac., a gallwn eu deegrifio wed'yn gyda gradd 10 fanylwch. Yn y cyntaf, canfyddwn, ond heb sylwi; yn yr ail, sylwn mewn, | trefn i ganfod. Sylw sydd yn dal, a chadw y meddyllau ger bron y medd- wI, a thrwy hyny gau allan ffurfiau eraUI o feddylddryeha,upan yimae a'i fryd ar Iywncpenodol, gan ei adael yn rhydd 1 gyfeirio ei holl ymdrech at lawn ddeall y pwnc hwnw. [ Y pwysigrwydd yn nglyn a sylw ydyw ei iawn ymarfer, fel ag i fod o dan lywodraethiad yr ewyllys, ei gadw dan ddysgyblaeth i gyfeirio y meddyl- iau at yr hyn sydd rinweddol, a chadw'r meddwl rhag llochesu medd- yliau sydd yn tueddbenu at iselhau a dirywio chwaeth dda, ac wrth wneyd hyny, ddirymu nerth llawer temtas- iwn, gwanhau dylanwad gwyniau a chwantau llygredig, a dyrchafu y du- edd gynTeddfol sydd mewn dyn, at yr hyn sydd foesol, dynol, rhinweddol a phur. Pa un "a allwn sylwi ar ddau wrthrych ar yr un pryd?" ac, "a oes rhai gweithrediadau yn cael eu cyf- lawni heb un gradid o sylw," sydd gwestiynau i bob un benderfynu drosto ei hun, wrth ymChwilio i weithiau dys- gedigion sydd yn trafod y pwnc yn fanwl ac athronyddol. Dirnadaeth (comprehension) ydyw y gallu i wneyd unrhyw beth yn wrth- rych neillduol i feddwl arno, i'w am- gyffred, i'w egluro fel peth iposibl, yn bodoli fel hyn, neu fel arall. Gallu i ddeall, i dderbyn, i gynwys meddyl- rithiau. Mae y ffurf yma o weithred- iad meddyliol yn dylyn ein holl fedd" yliau i raddau mwy neu lai, mae mewn canfyddiad, cof, dychymyg, barn, rheswm, &c., ac am y rheswm yma y dywedir nad ydyw yn briodol ei alw yn gyneddf benodol, ei wrthryoh ydyw gwrthrych y meddwl, presenol ac ab- senol, gorphenol a dyfodol, gweithired- 01 a delfrydol, synwyrol a goruwch- synwyrol. Nid ydyw dirnadaeth yu- ddo ei hun na gwir na gau, ac ni Ibydd felly nes y daw o dan ymarferiad barn neu greainiaeth. GallwR ddirnad, am fynydd o wydr neu aur, ac nid oes. gan y ddirnadaeth syml yna ddim i'w wneyd a. gwirionedd neu gyfeiliornad. Pan y bydd i ni ddirnad am dano yn bodoli mewn rhyw le, neu i ni dybio y gellir dyfod o hyd i'r fath fynydd yn rhyw le, yna bydd y dyb neu gredin- iaeth o'r peth, un ai gwir neu au, ond nid ydyw mwyach yn ddirnadaeth syml. Eto, nid bob amser y mae peth- au dirnadwy yn bosiibl, na phethau posibl yn ddirnadwy. Gallwn ddirnad am 'beth yn bod a pheidio bod, a bod mewn dau le gwa'hanol ar yr un adeg, fod rhan yn gyfartal i'r cyfan, ond mae'r pethau yna yn wrthddywediad- au, ac felly yn anmhosibl, neu pan y mae yn, wrthwynebol i ddeddfau medd- wl, fel pe gallai rhywbeth ddygwydd heb achos, nad ydyw lie yn angenrheid- iol i fodolaeth ac estyniad defnydd (matter) neu amser i ddibyniad ddy- gwyddiadau, mae yr holl bethau hyn yn anmhosibl, er eu 'bod yn ddirnadwy. O'r ochr arall, nid ydyw pob peth posibl yn ddirnadwy. Mae bodolaebh heb ddechreu na diwedd yn bosibl, ond n,id ydyw o fewn terfynau y meddwl dynol i allu ei ddirnad na'i amgyffred. Gwyddom fed y Duwdod yn bodoli, felly, deallwn beth a olygir wrth y fath osodiad, ac yr ydym yn ei gredu, ond nis gallwn ei egluro i ni ein hunain fel dealldwriaeth benodol neu amgyff- rediad, megys y gallwn ddirnad am fodolaeth dinas neu gyfandir, neu ffeithiau oddiwrth osodiadau rhesym- egol neu fesuronol. Fel gallu meddyl- iol, mae yn gorwedd o dan yr holl gyneddfau neillduol, ac yn hanfodol iddynt oil, ac yn hyny mae yn meddu yr un safle yn ngweithrediadau y meddwl a sylw.
GALLU A BYWYD Y GREADIG-I…
GALLU A BYWYD Y GREADIG-I AETH. iGanEoon P. Da vies. .¡. 'ènod X. Mewn penod flaenorol eglurasom fod hirgrynedd llwybr y ddaear oddi am- gylch yr haul yn cael ei achosi gan y ffaith ei bod yn begynol, sef bod iddi begwn cadarnhaol, a phegwn nwaol. Ni olygid i'r eglurhad hwnw fod 3n esboniad cyflawn ar ei bod yngwneyd llwybr o gw.bl, eithr yn benaf, golygid iddo gyfrif am ffurf ei llwybr, sef y paham y mae yn agosach i'r haul, neu yn mhellach oddiwrtho, ar rai degau na'i gilydd. Tra y mae yn annimad- wy i ni y medrai y ddaear symud o gwbi pe heb ei phegynau, eto, pe bydd- ai hyny yn 'bosibl, gwnai ddesgrifio llwybr perffaith grwn yn lie un nir- grwn. Wedi dangos o honom fod gallu at- dynol a gwrthodol trydaniaeth yn gofyn llwybr hirgrwn i'r ddaear oddi amgylch yr thaul (ac nid yn unig yn cyfrif am dano), gwnawn yn awr eg- luro y modd yr ysgogir hi ar hyd ei llwybr; ond cyn gwneyd hyny y mae ychydig eiriau yn ofynol er dwyn y pwnc yn briodol ger bron y darllenydd, Beth bynag grea Duw, gwna ei lyw- odraethu; ac y mae yr elfenau, neu yti egwyddorion trwy ba rai y sicrha hyn yn blanedig yn nghyfansoddiad y peth creuedig. Y mae y Theol hon mor gymwysiadol at fywyd ag yw at y di- fywyd. Pan greodd Duw y ddaear, rhagwelodd yr angenrheidrwydd o osod yn ei chyfansoddiad elfenau y gallu oedd 1 lywodraethu ei phwrpas, beth bynag fyddai hwnw. Yn gymaint ag fddi gael ei chreu i gymeryd ei lie fel planed yn gwneyd i fyny ran o'r cysawd hwnw, yna yr oedd yn rhaid fod elfenau y gallu corfforedig ynddi yn cyfateb i elfen lywodraethol teyrn y gyfundrefn. Gan na fedr dysgyrch- iant, fel y mae yn amlwg, gyfrif am begynedd y ddaear, ei throad dyddiol ar ei phegynau, hirgrynedd ei llwybr blynyddol, nac am gylch-gyfnewidlad y ffrydiau morawl-priodol yw gofyn, beth ynte yw ei swyddogaeth, a pha le y terfyna ei weithrediad? Mewn ateb- iad i hyn dywedwn mai swyddogaeth dysgyrchiad yw dal y ddaear yn y cyf- anewm o honi yn un caled-gorff, ei chadw yn gydbwysol ar ei chanolfan ei hun, a rhoddi sefydlogrwydd a chadernid i ddynion ac anifeiliaid, a phob peth symudol ar ei hwyneb. Y mae ganddo ddylanwad llywodraethol ar ein hawyrgylch, ac, am y presenol, caniatawn y posiblrwydd yr ymestyn ei reolaeth hyd at y lleuad, ac yma y mae terfyn ei ddylanwad. Trwy wrthod y ddysgeidiaeth o "gyffredinedd dysgyrchiad," gwaredir ni rhag cryn drafferth a thywyllwch yn nglyn ag amryw bynciau sydd gall- lyniadau anocheladwy y ddysgeidiaeth hon. Nodwn ddau o honynt. Yn gyntaf. Hona y dysgyrchydd fod y ddaear, a'r holl blanedau eraill/ mewn perygl parhaus o ymadael a'u Ilwybrau apwyntiedig, ac i ddyfod i wrthdarawiad a'u gilydd nes cynyrchu dinystr ofnadwy; ond yn ol dysgeid- iaeth y ddamcaniaeth drydanol nid oes y fath berygl yn bodoli o gwbl, oblegid gan fod tholl blanedau y cys- awd yn drydanol nacaol, gwnant wrth- od eu gilydd, a gwna hyn wrthdaraw- iad rhwng dwy blaned yn anmhosibl- rwyd'd naturiol, a gwyddonol. Rhodd- wyd eglurhad o'r ddeddf drydanol hon mewn penod flaenorol, trwy yr ar- brawf o'r "card-board-tbox" a'r clawr gwydr. Yn ail. Dysg y ddamtcaniaeth ddys- gyrchiol fod y ddaear, yn ei chylch- daith o gylch yr haul, yn cael ei dal yn gydbwysol arno gan y galluoedd canolgyrchol a chanol-ocheliadol, "cen- tripetal" a "centrifugal." Wrth y cyntaf y golygir y duedd sydd yn y ddaear, dan ddylanwad dysgyrchiad, i syrthio i'r haul; ac wrth yr ail y gol- ygir y duedd sydd ynddi i ruthro allan i ddifancoll bythol, dan ddylanwad y DAVID LliOYD GEORGE. 'f,o'-n-I Olynydrd Arglwydd Kitchener fel Ysgrifenydd Rhyfel Prydain Fawr. "momentum," yn ol y dysgyrchydd, a roddwyd iddi ar y dechreu. Deil y dysgyrchydd mai y galiuoedd hyn sydd yn rheoleiddio ei symudiad, a phe dygai y cyntaf hi yn rhy agos i'r haul, y gwnai ar unwaith neidio i'w berfedd- ion tanllyd; tra, ar y llaT arall, pe dygai "yr ail hi yn rhy bell, yr ehedai allan i'r eangder diderfyn-byth i ddychwelyd. Y mae yr honiadau hyn mor gyfeil- iornus a'r sylfaen ar ba un yr adeil- edir hwynt. Gwrthbrofir y ddau syn- iad gan hirgrynedd cylchdro y ddaear. Wrth leihau ei phellder oddiwrth yr haul, dros dair miliwn o fllldiroedd, y mae y gallu canol-gyrchol (dysgyrch- iad) yn cael llwyr oruchafiaeth ar y gallu canol-ocheliadol ("momentum"), ond nid yw y canlyniad yn ddinystriol fel yr hawlia y ddamcaniaeth! Eto, wrth fwybau y pellder, y mae y gallu canol-ocheliadol wedi cael llwyr oruchafiaeth ar y gallu canol-gyrchol; ond ni ddengys y ddaear yr awydd lleiaf i fyned i ffwrdd ar gyfeiliorn! Dywed "Modern) Science" fel hyn am ddysgyrchiad, "Its energy is unchangeable, incessant and inexhaustible." Dywed deddf gyntaf ysgogiad fel hyn, "Nis gall gwrthrych newid ei le ond trwy gym- wysiad gallu," a dywed trydedd ddeddf ysgogiad fel hyn, "Rhaid i'r gallu hwn gael ei gymwyso trwy nerth rhyw wrthrych tu allan," ac eto, er yr ar- wireddau (axioms) hyn, honir y medr y galluoedd canol-ocheliadol a chanol- gyrchol amrywio eu dylanwad ar y ddaear fel ag i newid ei phellder yn ddyddiol, ac i'r graddau o dair miliwn o fllldiroedd ddwy waith bob blwydd- yn. Fel yr awgrymwyd yn barod, y mae y ddaear, gyda'r holl blanedau eraill, yn nacaol, ac yn gymaint a bod yr haul yn gadarnhaol, y mae cyd-atdyn- iad cryf rhyngddynt. iMewn canlyniad i'r cyd-atdyniad hwn elai y ddaear "ar ei phen" i'r haul oni bat y cyflenwad o drydaniaeth gadarnhaol a dderbyn ar ei hwyneb goleuedig pan yn neshau ato. Y mae ei bod yn drydanol wrth- gyferbyniol i'r haul yn ei chadw rhag tori dros y terfynau, a myned ar gyf- eiliorn tra y mae y eyflenwad o dryd- aniaeth gadarnhaol a dderbyn ar ei hochr oleuedig yn ei chadw allan yn ei phellder gyrfaol. iPe llywodraethid hi'n unig gan y igalluoedd hyn, byddai ei llwybr yn grwn; ond gan ei bod yn ddarostyngedig I ddylanwad gwrth- gyferbyniol yr haul ar ei phegynau gwahanol, y mae ei llwybr, 9 angen- rheidrwydd, yn hirgrwn. Y mae yn anmhosibilrwydd cyfansoddiadol a gwyddonol i allu unrhywiol i gyn- yrchu Ilwybr hirgrwn, y mae yn rhaid i'r cymwysder i wthio a'r cymwysder i dynu fod yn gorfforedig yn yr un gallu llywodraethol, a llenwir y gof- ynion hyn gan drydaniaeth yn unig. Eglurasom yn y bedwaredd benod ein bod yn cael dydd a nos trwy fod yr haul yn tynu ochr dywell a nacaol y ddaear, ac yn gwthio ei hochr oleued- ig a chadarnhaol. Ni pherthynai i ni y pryd hwnw i ddweyd fod yr ochr ol- euedig yn derbyn mwy o drydaniaeth gadarnhaol na'r hyn sfdd yn angen- rheidiol i'w throi ar ei phegynau, oblegid am ei dydd a nos y cyfrifem y pryd hwnw, ond yn awr deuwn at ei gyrfa iflynyddol o gylch yr haul. Y mae yr arwynebedd sydd yn der- byn o Ihelydrau yr haul, am ddeuddeg awr, yn derbyn digon o drydaniaeth gadarnhaol, nid yn unig i droi y ddae- ar ar ei phegynau, ond hefyd i'w gyru yn mlaen ar ei thaith flynyddol. Cad- arnheir y gosodiad hwn gan y ffaith nad oes ar yr ochr nacaol, yr hon sydd yn dyfod i fyny o dywyllwch, un gallu gwrthwynebol, eithr yn hytrach, at- dyniad cryf i'r unrhyw gyfeiriad. Pan wna pelydrau yr haul daro y ddaear, nid yn ganolog, eithr ar ei hymyl ddwyreiniol, cyfnewidir y gol- euni i wres, ac yna i drydaniaeth bri- odol, yr hwn a wasgar i bob cyfeiriad, felly y mae gallu ochrog mor naturiol iddi ag yw gallu unionsyth. Ar ar- wynebedd cylchol, yn wyth mil o fill- diroedd ar draws, yn cymeryd i mewn ochr ddwyreiniol y ddaear, ymgasgla swm anferth o drydaniaeth gadarnha- ol, a thery y ddaear gyda nerth ar- uthrol, nes ei gyr'u i gyfeiriad ei chylchdaith gyda'r cyflymder o wyth deg a chwech o filoedd o fllldiroedd yr awr. Hefyd, y mae yn ofynol i ni gofio y Uywodraethir y ddaear yn ei phellder, ac yn ei pherthynas a'r haul, trwy gyfrwng un ochr yn unig, felly yr unig gyfeiriad y medr symud dan ddylanwad y gallu enfawr bwysa arni, yw i gyfeiriad ei chylchdaith. Yn ychwanegol at hyn, cyfrenir symbyl- iad iddi ar ei thaith flynyddol gan ddylanwad gwthiol a thynol yr haul ar ei dau begwn gwahanol. Er mai prif swyddogaeth ei phegynau yw rhoddi i'r ddaear lwybr hirgrwn, eto nis gallasent wneuthur hyn heb, ar yr un pryd, gyfranu yn helaeth tuag at ei symudiad ar hyd ei holl lwybr.
[No title]
Dyma ddyfyniad o lythyr oddiwrth y Parch. James Evans, M. A.: "Erbyn hyn yr wyf wedi cyraedd yn ol at y ffosydd, ac wedi cael amser i ail- gynefino a'r gwaith. Ni ddysgwyliais, pan yn ail-gychwyn yn ol, gael fy nanfon drachefn at yr Adran Gymreig, am fod un arall wedi ei osod yn fy lie. Ond erbyn cyraedd y Pencadlys, cefais ar ddeall fod eisieu un arall yn yr Adran Gymreig o herwydd dychweliad y'Parch. W. Llewelyn Lloyd adref gan afiechyd, ac fod y Parch. R. Peris Wil- liams newydd ei ddvrchaftf i fod yn olvgwr dros yr Ymneillduwyr yn yr Adran. Felly, yn y 15th a'r 16th R. W. F. yr wyf yn awr yn gweinidog- aethu. Gyda'r ad-drefniad hwn ceir cynrychiolaeth o weinidogaeth y ped- war enwad yn Nghymru gyda'r Adran Gymreig—y Parch. Hugh Jones (IB.), Glanwyddan, a minau, gyda'r 113th Brigade; y Parch. Arthur Hughes <M. C.), Caerfyrddin, gyda'r 114th; a'r Parch. P. Jones-Roberts (W.), Bangor, gyda'r 115th: yn nghyd a'r Parch. R. Peris Williams, Gwrecsam, yn 'esgob' dros yr oil yn yr adran. Fe welwch fod yr 'Eglwys Rydd U,ned mewn cyflawn fodolaeth yma."
PREGETHWR MEWN HELYNT YN NGHYMRU.
PREGETHWR MEWN HELYNT YN NGHYMRU. Gan Myfanwy iMehefin, Johnstown, Pa. Yr oeddwn yn teithio ar y gerbydres o Gaergybi, Mon, i Fangor, Arfon, ar foreu Llun tawel, hafaidd, :pan ddaeth gweinidog adnalbyddus i mi i fyny yn ngorsaf y Gaerwen. Eisteddodd yn fy ochr, ac wedi cyfarch gwell ac ymgom- io am y tywydd, a phethau cyffredin eraill, dywedodd ei helynt wrthyf yr hyn ar brydiau barodd i'm gwaed sef- yll yn fy ngwythienau. Dair blynedd yn ol, meddai, cefais amser terfysglyd iawn yn nghymydog- aeth Caergybi. Efallai eich bod wedi clywed eisoes, ond pa un bynag yr yd- ych yn sicr o glywed. Sicrheais ef na C'hywais air. Yr oeddwn fel y gwedd- ill o'm rhyw yn dyheu am gael clywed. Wedi i ddwy neu dair o ocheneidiau trwmlwythog ddianc o'i galon, de- chreuodd gydag oslef leddfed a pher- son yn, dweyd ei bad-or. Dair blynedd i ddoe, yr oeddwn yn pregethu yn Nghaergyhi, y tro cyntaf i mi erioed fod yno. Cyraeddais yno yn brydlon gyda'r tren wyth nos Sad- wrn. Pan sengais ar y platform, daeth dyn tal, golygus, yn gwisgo livery ataf, gan fy nghyfarch yn Saesneg, "Pardon me, sir, are you the JEtev. Philip Evans? "Yes sir, I'm the one." "Well, Mr. Evans, you are to stay at Bodafon vrithgquire Wynne over Sun- day. Is this your suitcase?" Cymerodd afael yn fy suitcase ac arweiniodd fi i oto oedd yn sefyll tu allan i'r orsaf. I mewn a ni, ac yn mlaen a'r cerbyd trwy ystrydoedd cul- ion y ddinas nes cyraedd o honom i ranau mwy tawel o'r dref. Safodd y modur, ac arweiniwyd a trwy rodfeydd o flodau, a thrwch o berarogledd i anedd-dy hardd, o bosibl un o'r pres- wyLfeydd harddaf yn ininas Caergybi, sef palas yr Anrh. Rhys Wynne. Yn wir, synais fod yr anrhydedd o gael treulio Sul yn Bodalfon wedi disgyn i ran pregethwr bychan tila fel fi. Gwyddwn o'r goreu fod "Ibiig guns" y Corff yn arfer mynd yno i gael eu llenwi ag ammunition tros y Sabboth. Ond o bawfb, y fi, Phil Evans, y llai na'r lleiaf o'r Apostolion, yn cael y fath anrhydedd! Wedi i mi fynd trwy ffurfwasanaeth yr introdiwsio, arweiniwyd fi i'r library. Ond nid eisieu llyfrau oedd arnaf yn gymaint ag eisieu bwyd. Nid oeddwn wedi cael tamaid o swper. Rywbryd tua deg o'r gloch, daeth Mr. Wynne i'r study, ac meddai, "Are your comfortable, Mr. Evans?" Dywedais fy mod, er nad oeddwn. Gwyddwn hyd sicrwydd, pe bae ei gyd- wybod ef yn ei boeni gymaint ag yr oedd fy nghylla yn fy mhoeni i, y bu- asai yn fy arwain at swper, ac nid i'r library. Fodd bynag, wedi ymgomio am tuag awr, ac yn rhy wan i simocio, pan welais nad oedd arwydd o 'lunch' yn dod, dywedais y caraswn ymneill- duo i'm gorweddle. Dyma yr unig dro erioed i'm stumog fod yn wacach na'm llogell. Da waeth, wedi rhoi fy hun i ofal fy Nhad nefol, a mynd tros fy mhregeth, neidiais i wely plyf, a sudd- aif, i freichiau cwsg. Gwawriodd boreu dranoeth gydag argoelion o Sabboth dymunol. Aethym i lawr i frecwast. Gallaswn fwyta un- rhyw beth ag y gellid ei dreulio. Dys- gwyliais weled bwrdd huliedig, ond cato pawb, 'doedd yma ddim ond Ilian gwyn taenedig, glasaid o grape juice, ac un orange, yu nghyd a vase llawn 0 flodau. 0 barch i brydferthwoh, ni fwyteais y blodau. Fodd bynag, aeth- ym i'r capel y boreu hwnw, a phre- gethais a'm pwys ar y Beibl; yr oedd fy ngliniau yn rhy wan i'm cynal. Cefais giniaw a swper eithaf, a phre- gethais yn well deir,,Zwaith yr hwyr. Y gwir yw, nis gall pregethwr, mwy na cheffyl, weithio heb gael cylla llawn. Wedi siarad am oriau nos Sul, yn gymdeithasol, duwinyddol ac athron- yddol, dywedais wrth y Squire fod gen- yf eisieu mynd gartref ar y tren cyntaf foreu Llun. "Y tren cyntaf/' meddai mewn syn- dod, "nis gellwch godi yn ddigon boreu. Mae'r tren yn gadael am haner awr wedi pump y boreu. Gwell i chwi aros hyd y tren ddeg o'r gloch, Mr. Evans?" "Na wir," meddwn, "mae yn rhaid i mi fod gartref yn Methesda erbyn hyny." "Wel o'r goreu, os ydych yn rhwym o fynd, fe ofalwn ni eich codi yn ddi- gon cynar." Cytunwyd ac ymneillduwyd. Cysg- ais dri ugain milldir yr awr. Breudd- wydiais freuddwydion hapus. Gyda gwawr y boreu, torwyd ar draws y cyfaredd breuddwydiol gan swn megys daeargryn, a gwaedd fel pe bae y byd ar dan. "Mr. Evans, Mr. Evans, hurry down. You have only ten minutes to catch the train." Neidiais o'm gwely'n syth i'm dillad. Golchais un ochr i'm gwyneb, a sych- ais yr ochr arall. Teflais fy nghtrysau a'm coleri a lleibiais fy cuff links a'm studs yn nghyd, a manuscripts fy mhregethau yn bendramwnwgl i'm suitcase. Neidiais i lawr y grisiau, tair neu bedair gris ar y tro. yfais gwpanaid o goffi, ar fy nh-raed. Llen- wais fy ngenau a dwy deisen, gan adael ond digon o le i "Good bye." ddod allan. Carlamais i'r orsaf. Yr oedd y tren yn cychwyn. Neidiais i'r cerbyd cyntaf, a sefais ar fy nhraed ysbaid pum mynyd nes daeth fy nghalon i guro yn ei chwrs naturiol. Yr oedd- wn wedi dod ataf fy ihunan, ac yn ya- dygu cymylau o fwg pangyraeddodd y tren orsaf Gaerwen, pryd y daeth gwr ieuanc i fyny gan eistedd wrth fy ochr. Wedi gwneyd ei hunan yn gysurus, torodd ar y dystawrwydd gyda Saesneg sir Fon, ,gan wneyd yr 'r' i ruo fel llew. "Isn't this a fine day slr-r-r?" "Yes, sir. I think we are going to have some fine weather." "We need it. By the way, do you live in this part of the country?" "No sir. I live at iBethesda?" "Bethesda. I was there last week. I have two cousins living there, but my home is in Holyhead." "Holyhead. I was preaching there yesterday at the Clinton St. Church." "That's the church of the Wynne's, isn't it. Do you know the Squire." [ "I should think I do. I stayed with them over Sunday." "They are fine people are'nt they, and such a beautiful mansion Yr oedd y tren erbyn hyn yn cyraedd Bangor. Rhaid oedd mynd, i lawr ymai a newid tren am Fethesda. Daeth y gwr ieuanc i lawr gyda mi. Nid oedd- wn ond prin wedi sangu ar y platform na ddaeth dau heddgeidwaid ataf. "Here is your man," ebai'r gwr ieu- anc gan fy nghyflwyno i'w dwylaw. Tynodd un o honynt bapyr glis o'i boced, a sel y llywodraeth wrtho. "Philip Evans, you are arrested. Any resistance on your part will be coun ted against you as defying the j law." "Beth yn eno'r anwyl, beth yw y mater?" "Mr. Evans, there is no use of you swearing." "Swearing. Why I wasn't swearing, I was talking Welsh, and I want to know what do you arrest me for?" "The charge is that you have stolen certain articles from the mansion of Squire Wynne, Holyhead. Come on, Mr. Evans." Yr oeddwn yn mron gwallgofi. Y syniad fy mod i, gwas yr Arglwydd, yn cerdded trwy brif heol Bangor yn ngofal dau o swyddogion y gyfraith. Y fi, oedd wedi bod trwy'r Sul yn pre- gethu yn erbyn peohod, yn cael fy nghymeryd i fyny fel troseddwr yn eiv byn y gyfraith. Y syniad fod y new- ydd yn cael ei daenu ar hyd a lied y wlad. Cerddais yr holl ffordd, gan ogwyddo fy mhen tua'r llawr, yr oedd arnaf gywilydd i'm cydnabod fy ngwel- ed. Ond yr oeddwn yn cael fy ngham- gyhuddo, gwyddwn hyny mor sicr a'm bodolaeth. Ceisiais feddwl am yr Apostol Paul, mor Ilawen yr oedd efe pan ddygwyd camgyhuddiadau i'w erbyn, a chefais inau beth llondid yn y syniad yna. "Mr. Evans," ebai'r ynad. "You are charged of stealing certain articles, two gold cuff-links and one diamond ring from the home of Squire Rees Wynne, Bodafon. What is your an- swer to these charges?" "Your honor, God is my witness, I am not guilty." Gorchymynwyd i un o'r swyddogion fy chwilio. Trowyd fy mhocedau tu mewn allan. Chwiliwyd pob cornel o honwyf. Yna aethpwyd i chwilio fy suitcase. Tynwyd y crysau allan gan eu taenu ar draws yr ystafell. Gwas- garwyd fy ngholeri, un yma ac acw. Tynwyd allan manuscript fy imhregeth- au, ac er syndod, ie, syndod pob syn- dod, syrthiodd diamond ring oddi rhwng y dalenau i'r llawr; a chyda gwen foddhaol ar ei wyneb, estynodd y swyddog hi i'r ynad. Hefyd ar waelod y suitcase, gorweddai y gold links. Yr oeddwn fel pe wedi fy mhar- lysu, nis gallwn ynganu yr un gair. Bum felly am tua pum mynyd yn ,sefyll yn fud fel delw o farmor. Pan