Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
"LLUSERN YW DY AIR."
"LLUSERN YW DY AIR." Buddugol yn Eisteddfod Cymdeithas Lenyddol Cynonfardd, Mawrth 17, 1916. "Tit nghanol nos, oleuni mwyn y nef, Arweinia fi; Mae'n dywell iawn, a minau'n mhell o dref, Arweinia fi; 0 oadw'm traed-ni cheisiaf weled trwy I ben y daith: un cam, a boddlon wy' Cymysgedd yw bywyd o'r du ac o'r gwyn: Mae'r llwybr yn arwain dros ddyffryn a bryn. Ar yrfa dyrehafiad mae dyn yn mhob oes Yn teithio el hunan gan gario ei groes. Mae'r llwybr yn fynych yn faith ac yn ddu, A gau-lwybrau dystryw yn agor bob tu. I gyraedd ei orsedd ymdeithia yn mlaen, A'i wisgoedd bob amser nid ydynt heb, 'staen. Nid hawdd ydyw teithio dros fynydd a rhos Heb oleu y llusern yn oriau y nos; Mae'r Ilwybrau yn amryw a'r perygl yn fawr, Ae angen goleuni rhwng cyfnos a gwawr. Ar yrfa dyledswydd ei broflad a bair, Mat emyn y cywir yw, "Llusern yw'th Air." Trwy leoedd anhygyrefh yn nghanol y wlad I fysg y corlanau oedd eiddo ei dad, Y teithiai'r emynydd, a'i galon yn lion, Tra dwys-fyfyrdodau y nef dan ei fron. Oa':1 oleu ar Iwybr ei droed drwy y glyn Nes cyraedd pelydrau yr haul ar y bryn! Arosodd i orphwys am enyd un nos, A goleu ei lusern borphorai y rhos; Dros danau ei delyn fe redodd ei law Yn ysgafn a thyner nes ymlid pob braw I dywyll gilfachau'r anialwch du, pell, A'i enaid yn derbyn awelon gwlad welL Meddyliai, myfyriai yn hanes ei wlad Yr hanes ddysgasai wrth liniau ei dad; Hen hanes byth-newydd y "golofn o dan" Arweiniodd y genedl-santeiddiodd ei oh an. Adgofiai Gideon a'i ddewrion di frad Yn ngcleu. llusernau'n gwaredu eu gwlad. Meddyliai am Sinai'n melltenu o draw, A'i galon yn crynu dan bwysau y Llaw Ysgrifiai'r Cyfamod amcanai wneyd byd, Ar waethaf ei bechod, yn nefol ei fryd. 'R oedd Gair y Dystiolaeth yn fyw yr awr hon, Gwresogai ei galon, goleuai ei fron, Yn emyn o folawd i eiriau ei lor! II. "Dyma Fei'bl anwyl Iesu, Dyma rodd deheulaw Duw; Dengys hwn y ffordd i farw, Dengys hwn y ffordd i fyw! Dengys hwn y golled erchyll Gafwyd draw yn Eden drist: Dengys hwn y ffordd i'r bywyd, Trwy adnabod lesu Grist." Wedi cerdded dros ganrifoedd, Wedi dianc drwy y tan: Wedi concro mil mynyddoedd Anhawsderau oedd o'i flaen; Wedi llorio ymerawdwyr, Wedi codi'r tlawd o'r llweh, Wedi troi ei ymosodwyr Oyda'i alabaster flwch. Rhamant ydyw hanes Cyfrol Dadguddiadau grasol Duw, Ar ei hymdaith anorchfygol Er bywhau dynoliaeth wyw; Teifl ei goleu ar y llwybrau Gerddodd dyn o'i fro ddi wair; 'R hwn, mewn gobaith am wyn- fydau, Ddywed "Llusern yw Dy Air." Bu i'r Iuddew yn oleuad, Ac yn athraw ddyddiau blin; Colofn dan y lion Ddychweliad, Diliau mel o nefol rin; Ysgafnhai ei fron bruddglwyfus Pan yn canu gyda'r cor; Gwell na diliau mel i'w wefus Ydoedd gair ei gadarn lor. Bu'n goleuo ar fynyddau, A dyffrynoedd Canaan dir, A hud-felus rhwng y bryniau Ydoedd sain oraclau'r gwir; Ond yr Iuddew gamgymerodd, Er yn llewyrch goleu Duw, Ac wrt,h droi ei gefn, gwrthododd Oleu hwn i'r Wynfa wiw. Methodd wel'd y llwybr grisial Oedd yn arwain at y Crist; Ac mae'r luddew byth mewn anial Du yn cwyno ac yn drist; Ond y goleu ni fachluda, Er i'r Iuddew droi ei gefn; Wedi gadael Palestina, Chwilio am ddyn y mae drachefn! Bu'n goleuo'r Apostolion Yn y pwlipud, yn y gell, Ac yn sibrwd addewidion Gwynfydedig gwlad oedd well; Teifl ei lewyrch tua Rhufain, Gartref gallu yn mhob oes; Ac Apostol a'i arwyrain Sydd yn dylyn gyda'r Groes! Bu yn llewyrch llwybrau'r tadau, Bu'n oleuaoh nag un fflam; Gobaith gwyn ei nef-drigfanau Cryfach oedd na ohariad mam! Rhuai'r llewod yn eu pangfa, Fflachiai'r stanc, melltenad'r cledd; Ond yn ngoleu y ddiangfa Canu wnaent am wlad yr hedd. Wedi dysgu'r sant i ganu, Mae yn llewyrch ar ei daith; Wedi gwel'd ac wedi dysgu, pysgu eraill yw ei waith; Pery'r goleu i dywynu Yn y canol oesau draw, Fel yr heulwen yn pelydru Bob yn ail a chawod wlaw. Canfu Wyckliff gyda Tyndal Y goleuni yn y nos; A'u cymdeithion yn yr anial R^buddiasant rhag y ffos; Seren foreu y Diwygiad, Seren oleu blaen y wawr, A broffwydai am ddyfodiad Haul Cyfiawnder dros y llawr. Goleu geiriau'r lor arweiniodd Luther gyda'i gyffes gu; Yn eu llewyrch y gorchfygodd Holl bwerau annwn. ddu; Torodd gwawr ar fywyd Cymru Pan y daeth y Beibl glan Gyda'i lewyrch i'w dyrchafu, Ac i nefoleiddio'i chan. Cododd wledydd a'i genadaeth; Creodd ddynion pur, di-nam; A symbyliad i wasanaeth Roes i wlad fy nhad a'm mam; Bu yn llusern pwlpud Seion; Bu'n goleuo yn y nos; A nef-nodau ei halawon Genir heddyw yn y ffos! Aeth llewyrch y goleu dros for a thros fynydd Tra'r Feibl Gymdeithas a'r dorch yn ei llaw Sy'n cyflym ddadguddio eilunod y gwledydd, A'u llwyr ddadymchweliad yn fuan a ddaw! Mae India yn deffro o hun-gwsg yr oesau, A'i meib yn breuddwydio delfryd- au i'n hoes; Miae'r Affrig a China yn agor eu dorau, A thrwyddynt tywyna Goleuni y Groes. Hawddamor i lusern goleuni Efengyl, Pelydred ar lwybr dyrchafiad pob dyn, Nes dringo i'w orsedd yn nghwmni yr engyl, Cenngen a malais yn farw bob un; Pan ddelo goleuni yr Orsedd dragwydd- 01 I galon dynoliaeth, brawdoldeb a bair Mai'r emyn melusaf i glust yr An- feidrol, Fydd oaniad cymrodyr mai "Llusern yw'th Air." PARCH. W. GLYN WILLI AMIS. Wilkes-Barre, Pa.
PRINDER BWYD YN GERMANI.
PRINDER BWYD YN GERMANI. Dywedodd y Oangellydd Germanaidd nad oedd y straeon am brinder bwyd yn Germani ond dychymyg y gelyn. Yr oedd digonedd o fwyd i bawb yn y wlad. Profa y Ilythyrau canlynol, a gymerwyd oddi ar berson carcharor Germanaidd gan y Ffrancod, Mehefin y laf, yn hollol wahanol. Dywedant yn fwy croew na dim arall beth ydyw sefyllfa pethau yn Germani. Mai 14eg, 1916. Anwyl Walter-Derbyniasom eich cerdyn, yr hwn a roddodd lawenydd mawr 1 mi. Dywedaf newydd wrthych yn awr. Bu yma gynwrf mawr neith- iwr (nos Sadwrn). Mewn amryw drefydd (nodir hwy) torodd y dorf i amryw siopau, gan gario pob peth ymaith. Yn y pentrefydd o gwmpafl gwnaethant yr un modd, gan gario y cwbl allan o'r Zlopau. Ymgasglodd miloedd o bobl, gan waeddi ac oernadu. Yr oedd 100 o blismyn yn y lie, ond nis gallent wneyd dim ond edrych. Nid oes genych ddirnadaeth o'r ffordd yr oeddynt yn cario pethau yn mlaen. Pan aethym gartref, haner awr wedi haner nos, yr oedd pawb o'r hron yn yr heolydd o hyd. AnmhosibI i mi allu dweyd wrthych am bob peth gymorodd le. Stormiwyd siop chocol- ate yn Beutsch gan y dorf. Y boreu heddyw ail ddechreuwyd y cynwrf. Torwyd i fewn i siopau. Parhaodd hyn hyd bedwar o'r gloch y prydnawn, pryd y galwyd y milwyr allan. Nis gallaf ddwevd beth fydd y canlyniadau, y mae y bobl mor gynyrfus. Yr wythnos hon ni roddir i ni ond pum pwys o datws. Arferent roddi deg pwys, yna saith bwys, ac yn awr. dim ond pump. (Arwyddwyd) Eich Mam. Mai 29ain 1916. Fy anwyl Walter-Gresyn o beth na ddeuai y rhyfel ofnadwy hon i der- fyniad buan. Yr wyf yn gobeithlo hyn yn fwy bob dydd. Nid yn unig yr ydym yn pryderu yn eieh cylch chwi, <sydd yn y ffrynt, ond mae ewes- tiwn yr ymborth wedi ein gwneyd yn bryderus., Er Ehrill 10fed yr wyf wedi colli deg pwys yn fy mhwysau, ac nid oes dim rhagolwg fod pethau i wella. Bydd yn rhaid i chwi, yn y ffrynt, weithiau, fod yn newynog, felly ninau gartref, am nad oes yma ddigon o fwyd i ni. Sut mae'n bosibl byw ar bum' pwys o datws yn yr wythnos. Mae blawd pys yn costio 6c. y chwarter pwys, a rhaid i mi ddefnyddio haner pwys at wneyd bwyd i'r iplant. Ar ol hyny cawn damaid o fara, ond dim ymenyn, nac unrhyw fath o saim. Yr wyf yn dra diolchgar am yr ymenyn a anfon- asoch i mi. Ni freuddwydiaiserioed y buasai ein bara beunyddiol yn rhoddi cymaint o bryder i ni. Mae genyf eisieu gofyn ffafr i chwi, Walter. A ellwch chwi anfon haner pwys o faewn i ni yn wythnosol drwy y post? Nis gallwn gael yma ond 7 owns o gig y pen yn yr wythnos. Nid oes yma ddim ychwaneg o saim— maevr awdurdodau milwrol yn ei gario ymaith oil. Nid wyf wedi gwel- ed dim saim na suet er's rhai wyth- nosau. Rhaid i ni roddi archeb am ein cig at y Sul y dydd Mawrth blaenorol y fan bellaf. Yr wyf wedi rhoddi ar- cheb am 27 owns o gig a thri chwarter pwys o sausage, yn cynwys cig at y Sul. Rhaid i hwn barhau i ni ar hyd yr wythnos. a dyna'r paham y carwn i chwi anfon ychydig o gig i ni, os gell- wch. Gadewch wybod beth gyst ei an- fon, ac anfonaf yr arian i chwi. Arferem gael digon o wyau, ond an- mhosibl eu cael yn awr. Am bythefnos sicrhaodd y Cyngor Trefol supply i'r bobl, a gwerthid yr wyau am 2%c. yr un. Ond yn awr nid oes yr un i'w gael, oddieithr mewn ambell i siop, a hyny am'3V2c. yr un. Dywedant y bydd y pris yn fuan yn 4%c. Y mae yn anmhosibl i mi eu prynu am y pris hwnw. Yr wyf yn gwario fy holl arian am fwyd yn unig. Ofnaf eich bod yn blino arnaf yn rhoddi manylioft fel hyn i chwi, ond' bydd,wch yn sylweddoli, y fan leiaf, ein bod ni gartref yn dyoddef oddiwrth y rhyfel fel chwithau yn y ffrynt. 0 foreu hyd hwyr yr anhawsder i sicrhau bwyd sydd yn ein poeni yn wastadol. Nid oes. mwyach, ddigon o gig moch i bawb, fel mae'n rhaid i ni aros ein tro. Bob dydd Sadwrn rhoddir i ni gardiau wedi eu rhifo, yn arwyddo y drefn yr ydym i fyned i'r siopau, al chan fod fy nhocyn i yn rhif 245 bydd yn rhaid i mi aros am bythefnos cyn y caf gyfie i gael fy rhan o'r bacwn. Yr unig biff sydd i'w gael ydyw brif rhew- edig. Fel. os cewch chwi gyfle, teim- lwn yn ddiolchgar iawn i chwi, pa m^jr lleiod bynag y bo. Eich Mam. Y mae amryw lythyrau cyffelyb wedi eu cael ar filwyr Germanaidd eraill ,a wnaed yn garcharorion. Profa y llythyrau hyn fod y rhan fwyaf o fwyd y,wlad yn cael ei anfon i'r milwyr, gan adael y rhai sydd gartref fyw ar y nes- af peth i ddim, neu ar yr hyn a dder- 'byniant oddiwrth eu perthynasau yn y fyddin.
Y DIWEDDAR BARCH. T. C. DAVIES.I
Y DIWEDDAR BARCH. T. C. DAVIES. I I Ymddatodiad a Chladdedieaeth Gwein- I idosr Hynaf v Trefnvddion Calfin- aidd vn America. I Gan Gomerian, Pittsburgh, Pa. I Fel y cofnodwyd eisoes yn y 'Drych,' y mae gyrfa y pregethwr dawnus a'r bugail ffyddlon, y Parch. T. C. Davies, diweddar o Willows, Calif., ond Pitts- burgh gynt, wedi ei dirwyn i ben, aT lais wedi tewi yn yr angeu. Yn rhin- wedd y ffaith mai efe ydoedd gwein- idog hynarf y cyfundeb yn America, mae ei yrfa faith a chlodus yn haeddu sylw amgenach na chrybwylliad byr ei fod "wedi llamu tuhwnt i'r lien." Gan nad oes neb arall wedi anturio cof- nodi hanes "ei faith ddaearol rawd," cyflwynir i ddarllenwyr y "Drych" gipdrem frysiog o hanes gyrfa un ag y mae iddo leng o gyfeillion ac edrnyg- wyr yn y wlad hon, y rhai sydd was- garedig ar hyd a lied y talaethau o for y Werydd i'r Tawelfor. Ganwyd Mr. Davies yn Talsarn, sir Aberteifi, D. C., M-ehefin 27, 1832, felly yr oedd o fewn ychydig ddyddiau i fod yn 84 mlwydd oed. Pan yn 17 mlwydd oed, ffarweliodd a'i enedigol wlad, gan wynebu am America. Taflodd ei goel- bren yn Pittsburgh, ond byr fu ei aros- iad yma. Aeth i Weathersfield, 0., lie y dechreuodd ar ei yrfa bregethwrol. Ordeiniwyd ef a'r diweddar Barch. Rowland H. Evans mewn cymanfa fythgofiadwy a gynaliwyd yn Jackson, 0., yn y flwyddyn 1861. Yr oedd yr Arlywydd Lincoln wedi apelio am wir- foddolwyr i amddiffyn unoliaeth yr undeb, a Iluaws o Gymry Jackson wedi ymrestru. Yr oedd cwmni o'r milwyr Cymreig yn bresenol yn y cyfarfod yn mha un yr ordeiniwyd y ddau bregeth- wr a enwyd, ac yn nghanol berw a swn udgyrn rhyfel y traddodwyd y siars i'r ddau. Ar ddiwedd y cyfarfod ymffuffiodd y cwmni o flaen y capel, ac oddi yno cychwynodd am faes y gwaed. Dyma y gymanfa ddaearol ddiweddaf a fwynhawyd gan rai o'r bechgyn milwrol, canys ni ddychwel- odd eu haner yn ol o faes y frwydr. 0 dan ei ofal 'bugeiliol, daeth graen lewyrchus ar eglwys Weathersfield, un o eglwysi hynaf y cyfundeb yn nghylch y Gymanfa. Ond nid hir fu ei arosiad yno, canys cafodd alwad i fugeilio eg- lwys Pittsburgh. Ar ei etholiad i fod yn ysgrifenydd y Gymdeithas Genadol ymddiswyddodd. Wedi rhai blwyddi yn y swydd hon sjonbylwyd ef i wrthod ail etholiad. Cafodd ei benodi i fod yn arolyigydd trefniadol y "Wasg," new- yddiadur wythnosol a gyhoeddid yn y ddinas hon, a oedd y pryd hwnw yn an- terth ei nerth a'i hoewder. Yr oedd Mr. Davies yn ddirwestwr egwyddorol, ac o berwydd fod rhai o gyfarwyddwyir y newyddiadur yn ffafrio cyhoeddi hys- bysiadau tafarndai, torodd ei gysyllt- iad a'r wythnosolyn. Cafodd ail alwad i Ifug-eilio eglwys Pittsburgh, ac mewn cysylltiad a'r eglwys hon yr enwogodd ei hun fel pregethwr a bugail. Bu yn! weinidog cymeradwy i'r eglwys hon am dros chwarter canrif, ond pan oedd pwys y blynyddau yn dechreu byrhau ei gamrau, ymddiswyddodd yn 18921. Er tori ei gysvlltiadau bugeiliol, par- haodd i wasanaethu eglwysi cylch y dosbarth hyd ei symudiad i California bum mlynedd yn ol. Parhaodd i dra- ddodi "y newyddion da" hyd o fewn llai na blwyddyn yn ol, canys bu droi- on yn pregethu yn eglwysi Cymreig California, ac hefyd mewn eglwysi Seisnig. Yr haf diweddaf. cyfarfydd- odd ag anffawd a gyflvmodd ddadfeiliad v "babell lbridd." Wrth ddiffodd tan mewn cae cyfaigos i'w anedd Ilosigodd ei draed yn enbydus. Oddiar hyny, ni fu yn ei gynefin iechyd a'i hwyliau, ac er's Thai misoedd amlwg ydoedd fod dydd yr ymddatodiad gerllaw, yr hyn gvmerodd le nos Fercher, Mehefin 7. Claddwyd ef yn mynwent Willows y nawn Sadwrn dylynol. Gedy ar ei ol ei weddw drallodus. yn nghyd a.phed- war o blant, sef Mrs. Emrna Warren T/ytle, Crafton, Pa.: Wm. J. Davis. San' Francisco; T. Chalmers Davis, Okla- homa, a Miss Hannah Verne Davis, Willows. Mae iddo hefyd ddau orwyr- ion, sef Herbert Lytle, is-lywydd y Pittsburgh Academy, a Miss Marion Lytle, Crafton, Pa., yn nghyd a nifer o berthynasau yn Pennsylvania ac Ohio. Foreu dydd Sul, Mehefin 18, cynal- iwyd gwasanaeth coffadwriaeth iddo yn eglwys Pittsburgh, maes ei lafur ffyddlon am gyfnod hirfaith. Daeth cynulliad cryno yn nghyd, llawer o hen gyfeillion a chyfoedion y dyddiau gynt wedi ymgyrchu yno bellder ffordd i dalu gwarogaeth i un ag ydoedd an- wyl a mawr ei barch iddynt ar lawer ystyr. Yr oedd y canu yn nodwedd- iadol o ddwys, a thraddododd y gwein- idog, y Parch. E. L. Hughes, bregeth deimladwy, yn yr hon y cyfeiriodd yn darawiadol at yrfa lafurus a maith Mr. Davis yn y weinidogaeth.. Ar ddi- wedd y gwasanaeth mabwysiadwyd penderfyniadau o gydymdeimlad a'r teulu, gan ddadgan hefyd golled y cyf- undeb yn ei farwolaeth. Dyna yn frysiog gipdrem o hanes gyrfa ddaearol pregethwr hynaf y cyf- undeb yn y wlad hon, ac y mae yn ameus a oes ei hynach yn 'perthyn i unrhyw gyfundeb Cymreig arall, Y Sul cyntaf yn Gorphenaf, 1906, yr oedd yn dathlu ei jiwbili yn y weini- dogaeth, Dryd y traddododd bregeth rymus yn eglwys Pittsburgh, yn yr hon y cafwyd ol-drem ar hanes cynydd a dadblygiad y cyfundeb yn nghylch y Gymanfa y perthvn yr eglwys iddi. Ar yr amgylchiad hapus hwn, anrheg- wyd ef a phwrs yn cynwys haner cant o ddoleri, amlygiad o ewyllys da yr eg- lwys. I ran ychydig, ysywaeth, y syrth y ragorfraint o ddathlu haner can' mlynedd yn y weinidogaeth, ond wele ddeng mlynedd yn cael eu hychwan- egu at y cyfnod hirfaith hwn yn ei hanes ef. Yn ystod ei yrfa weinidogaethol, anrhydeddwyd ef trwy ei etholiad i swyddi o urddas ac anrhydedd. Bu yn llywydd Cymanfa Gorllewinbarth Pennsylvania ac Ohio, ac yn ddiwedd- araoh dyrchafwyd ef i gadair lywyddol y Gymanfa Gyffredinol, swyddi a lan-l wodd gyda doethineb ac urddas. Yr oedd yn bregethwr hwyliog a grymus, ac yn dduwinydd rhagorol. Dichon na restrid ef yn gawr hyawdl, eto yr oedd yn draddodwr gafaelgar, gyda rhyw arwedd newydd i bob pwnc a driniai. Anfynyoh iawn y byddai ei bregethau yn hyn a gyfenwir "yn sych," canys yr oedd yn ddyn cwmpasog, o bosibl heb ei well yn y cyfeiriad hwn yn nghylch y Gymanfa. Yr oedd yn athrawiaethol ac athronyddol, ac ym- hyfrydai dreiddio i ddyfnion bynciau dyrys ag sydd fagl i amrai o br-egeth- wyr yr oes uwchfeirniadol hon. Nid oedd ei ffydd a'i gredo ef wedi eu deifio gan y chwaon afiach a darddant o wlad yr Ellmyn ameugar. Nid corsen ysig mo hono, ond mal ced- rwydd Libanus, a'i wreiddiau wedi ymledu ac ymlapio o amgylch ac ogylch "Craig yr Oesoedd." "Mi a wn i bwy y credais" ydoedd cyweirnod hyglyw ei genadwri ef, a,c nid oedd berygl i'r rhai a fwydid gan ei efengyl bur a'i athrawiaethau iachus ef gael eu blino a "gwalldreuliad ysbrydol," clefyd ag sydd ffasiynol iawn yn y dyddiau diweddaf yma, ie, hyd yn nod yn mmhiith plant "y breintiau mawr." Bellach, y mae llais y dawnus wr hwn wedi tewi,ond nid ofer fu ei ymroddiad a'i yrfa ffyddlon yn ngwinllan ei Ar- glwydd. Bydd yr had da a hairwyd ganddo yn sicr o ddwyn ffrwyth cy- meradwy yn mhen blwyddi lawer wedi i'w weddillion gael eu tynghedu i'w hun olaf yn California bell. Gan y trefnir, mae'n ddiau, i ryw frawd yn y weinidogaeth baTotoicofiant teilwng iddo yn nghylchgrawn y cyfundeb, nid ymhelaethwn. Ond wrth sychu y pin eiddunwn gyflwyno ein cydymdeimlad dwys a'i weddw trallodus a'i deulu yn eu tristwch a'u galar, ac a'r cyfundeb yn y rhwyg amlwg a grewyd yn rheng v ffyddloniaid trwy ei ymddatodiad. Melus gofio fod "gwell gwlad" yn eti- feddiaeth "y rhai a gredodd iddo Ef," lie y ceir, rhyw ddydd a ddaw, gyd- gyfarfod, heb ymwahanu mwy. I
[No title]
Hysbysir fod y Brigadier-General Owen Thomas wedi terfynu ei wasan- aeth fel penaeth y 'Fyddin Gymreig yn ngwersyll Pare Kinmel, ac fod swydd- og arall wedi dechreu ar ei waith yn y lie hwnw. Y mae Cymru wedi dad- gan ei barn yn groyw yn erbyn y syniad o symud y Cadfridog Owen Thomas; ac os yw yr adroddiad presen- ol yn gywir, gwelir fod Cymru wedi ei hanwybyddu yn hollol, a bydd sym- udiad y swyddog Cymreig enwog o Kinmel yn achos o ofid i'r holl Dywya- ogaeth.
I"Rhvdd I Bob Meddwl el Fam…
"Rhvdd I Bob Meddwl el Fam ae I Bob Barn el Ltafar." "A Hefyd." Mri. Gol.: Yn fynyoh lawn byddaf yn dod ar draws y ddau air uchod yn argraffedig yn y "Drych," ac fe hoffwn i rai o'ch "Orgraffwyr" fy ngoleuo ar y mater. Pa un ai "a hefyd" ynte "ac hefyd," sydd yn gywir, a'u rhesymau dros eu dadl. NID DANIEL. Puntan Fel Cyfieithiwr. Mri. Gol.: Nid wyf am feirniadu cyfieithiad Puntan, ond yn unig nodi fod ei linell gyntaf mor bell ac mor anngramadegol. Yn y Seferieg y mae yn Breathes there a man with soul so ,dead- Yn y Gymraeg cawn "a anadlwyd dyn" (was man breathed) ? Sonir am "enaid" yn y Seisneg, ond ceir "gwlad- gar" gan Puntan; ac eto yn lie "so dead," ceir "blin!" Pa fodd y gellir beio beirniad am droi eyfleithiad o'r fath i lawr? Yn y Seisneg, "anadlu" mae'r dyn; yn nghyfieithiad P., "cael ei anadlu" y mae! Mae cyflwr y llinell gyntaf yn ddi,gon i'w gollfarnu. E. O. Grym Dylanwad. Mri. Gol.: Un o'r galluoedd cryfaf ar y dda-ear yw dylanwad; mae yn ddystaw, ond yn effeithiol; yn ddiym- hongar, ond yn awdurdodol; yn anwel- edig ynd'do ei hun, ond yn weledig yn ei berthynas a'i elynion. Mae dylan- wad yn allu, ac y mae pawb yn dyheu am ei feddu. Crist oedd y dylanwad cryfaf a fu yn ein byd erioed. Mae yn ffaifch fod yma ddynion mawr ac o ddylanwadau cryfion wedi bod o flaen ac ar ol Crist, ac yn ein byd heddyw, ond dynion oeddynt w-ed,r eyfan. Aeth y diwyg- iadau crefyddol heibio, ond mae'r effeithiau a'r dylanwad yn aros ar y personau a'u derbyniasant tra byddant byw, a dyna rym y dylanwad yn aros, ond mae ami i un o honom yn cario dylanwad gydag awdurdod o'r tu cefn iddo. Chicago, Ill. J. T. GRIFFITHS. 0 Drysor y Cof. Mri. Gol.: Desgrifiad Hwfa Mon fardd a edmygai fel hyn: I galon awdlau gwelai—o honynt Darluniad a dynai; A'i bwyntil ef a baentiai; Awen bur heb yr un bai. Gwyr Eifion Wyn yn dda beth yw cenfigen yn ei englyn a ganlyn: Cenfigen ladd dan wenu-dwyn ei Dan ei chlog i waedu! (chledd Ac mae'n od rhydd ddyrnod ddu I'w pherchen am ei pharchu! Profi pethau gwell oedd profiad yr hen Ddafydd Jones, Treborth. pan gan- odd: Yr oen addfwyn yw noddfa—i'r per- Darparwyd ei laddfa; (wyl Os dirfawr eich blinfawr bla, Mae iechyd yn y M-eichia! Mae rheolwr eich mawr helynt—eto Yn atal ei gorwynt; Wrth fesur mae'n gyru'r gwynt I dirioni'r dwyreinwynt. Cofiaf ddwy linell o englyn buddugol i'r "Eithinen": Un bigog yn gwisgo gwen Wrth wanu yw'r eithinen Melus i mi yw dwyn i'm cof yr en- glyn a ganlyn i Ofn (buddugol): Un ar riniog trueni-ydyw ofn, Ond da yw i'n dofi; Hen deyrn oer i'n daear ni, Ddaw i'n ffyrdd i'n hyfforddi. Pwy fuasai yn gallu darlunio y bel droed yn well na D. James. Meddai Y bel-droed yw Baal y dre'—neu eilun Anwylaf y pentre; Y ddelw hon yn Dduw o'i le A'r eglwys a wna yn wagle. Profiad melusaf Hwfa Mon: Heb Iesu pa le buaswnO, Groes lesu Grist ces bardwn; A heddyw gorfoleddwn Daw gras o,hyd o groes a hwn. GLANOfcrWEN. Puntan Eto. Mri. Gol.: Yr wyf yn mhell o gydol- ygu a Mr. Puntan Davies yn nglyn a Ilinell olaf Syr Walter Scott. Dywed Puntan mai yr un ystyr a meddwl sydd i "heb barch" ac i "heb glod." Nid yw "parch" yn gyfystyr a "chlod." Mae "parch" yn barchus; ond nid yw "clod" bob amser yn barchus. Yr hyn yn ddiau a olygai y bardd wrth "unwept" oedd dialar (nid dilef- ain neu diwylo); yr hyn a feddyliai wrth "unhonored" oedd dibarch neu ddianrhydedd; a'r hyn a fwriadai wrth "unsung" oedd diglod. Byddai dweyd iddo farw yn "ddigan" wneyd i bobl goelio mai cerddor oedd, ac iddo farw heb roi can! TWRBIL. Moelwyn yn Main. Mri. Gol.t Difyrid fi yn fawr gan of- yniadau Moelwyn i Plas Gwyn ar ddiw- edd ei ysgrif yn ddiweddar, a daethai i fy meddwl yn gryf beth wnai M. o'r gofyniadau a ganlyn ar eiriau yr Apos- tol yn 1 Cor. 15: 54, 55; a charwn i M. eu hateb: "A lyncwyd Angeu, fel y dywed yr Apostol? A yw Angeu yn berson neu ai egwyddor yw? A oes gan Angeu gol- yn? A oedd yr Apostol yn siarad yn gyffelybiaethol, ynte a oedd "yn anerch person gwirioneddol?" Ac eto, A oedd yr Apostol wrth anerch Uffern, fel y gwna, yn anerch "person gwirionedd- ol?" Os nad ydynt bersonau, paham y gwnai eu hanerch fel pe yn bersonau? DYSGYBL I PLAS GWYN. Coleg Llanbedr a'i Brifathraw. Mri. Gol.: Gan ddyfynu o bapyr new- ydd yn Nghymru, dywedwch yn nglyn ag apwyntiad y Cangellwr Jayne i fod yn Brifathraw, "mor gryf yw'r ysbryd Seisnig a'r ysbryd Sais-addolgar sydd yn yr Eglwys yn Nghymru o hyd," ac y bydd y penodiad yn "ergyd i'r Eglwys." Ai tybed mai penbyliaid oedd yr ap- pwyntwyr? Oni wyddent hwy yn well na'r Methodist a ysgrifenodd y nodyn pwy oedd addasaf i'r swydd? Ai tebyg y penodasent ddyn iddi nad oedd yn gymaint ag wedi ymgeisio am dani oni bai fod yn perthyn iddo gymwysderau arbenig? Yr oedd nifer yr ymgeiswyr yn ddeu- ddeg, ac onid un o honynt yn Gymro. Ai teg a'r Eglwys fuasai penodi hwnw tra yr oedd gan eraill well hawl i'r swydd? Nid yw Prifathraw Llanbedr wedi arfer a dysgu yn Gymraeg. Mae yno broffeswr arbenig i hyny. Nid ydys wedi arfer siarad na dysgu yn Gymraeg yn y gwersi. Llyfrau Saesneg ac ieith- oedd eraill a ddefnyddir. Onid yn Saesneg y cyfleuir y ddysg yn Ngholeg y Methodistiaid yn y Bala; ac oni apwyntiwyd nifer mawr o athrawon i'r "Colegau Cenedlaethol" na fedrent air o Gymraeg, ond yn meddu eraill gy- mwysderau arbenig? Nid wyf wedi clywed na gweled am un Eglwyswr yn achwyn ar apwyntiad Mr. Jayne. Onid gwell fyddai i'r Ym- neillduwyr a wnant hyny edrych ar ol eu busnes -eu hun? Mae yna ddigon o le iddynt, tra yr adroddir yn mhob Cym- anfa a Sasiwn am leihad y to sydd yn codi o'r Ysgolion Sul, dim llai na dwy fil ar hugain yn y Cyfundeb Method- istaidd mewn deng mlynedd. Yr eiddoch, HEN EGLWYSWR. "Beth sydd i mi yn y byd." Mri. Gol.: Caniatewch i mi awgrymu hyn o ofyniad Mr. J. T. Jones, "paham y mae yr emyn dan sylw wedi cael gafael mor gryf a'i syniadau wedi treiddio mor ddwfn i galon ein cenedl ni." Goddefwch i mi newid y gair "byd" a rhoddi "cnawd" yn ei le, er mwyn cysoni syniad y bardd a syniad- au Paul. Yn yr wythfed benod o'r Rhufeiniaid, y benod fwyaf poblogaidd i'r Cristion yn y Beibl, y cafodd y bardd ei destyn. Yn yr ail benill cawn y dymuniad am gael "rhodio gyda Duw." Mae wedi cael profiad o'i anallu moesol yn ol y cnawd. Nid y "byd" sydd yn gorthrymu y Cristion, ond cnawdolrwydd. Mae llawer Cym- ro, fel Dafydd gynt, wedi iddo bechu yn colli arweiniad yr Ysbryd, a thrwy hyny yn colli ei ddylanwad, ac,yn myn- ed o dan gondemniad a gorthrymder ysbryd. Yr un ydyw ysbrydiaeth yr emyn i bob cenedl, ond mae mwy o ysbryd yn y Cymry nag un genedl arall yn y byd. Mae ein cenedl ni wedi ei benditMo a greddf grefyddol, a natur a rhaglun- iaeth wedi eangu ei dirnadaeth a man- teision gras aphrofiadau tuhwnt i bob cen-edl arall. J. G. J. Brutus, Efrog a Llew o'r LIain. Mri. Gol.: Hynod dda genyf gael ar ddeall oddiwrth ysgrif un a eilw ei hun yn "Sirgar" yn y 'Drych' diweddaf fod Efrog a Llew o'r Llain yn enedigol o'r un man a'r enwog Brutus. Y peth sydd wedi fy synu fwyaf yw pa fodd mae Efrog a'r Llew wedi gallu bod mor daw- el gyhyd, fel gohebwyr y "Drych" heb fod wedi dyweyd rhywbeth am berson o'r fath boblogeiddrwydd, enwogrwydd a gallu llenyddol a Brutus. Nid oeddwn i ond crwlyn bychan, neu yn fwy cywir, efallai, ond llanc tra ieuanc pan y bu farw. Er hyny, clywais gymaint am dano fel ysgrifen- wr enwog a galluog, fel y byddaf o hyd yn cofio. y fath enwogrwydd a glywais am dano. Golygydd misolyn tra henafol, o enw yr "Haul" ydoedd, a'r pryd hwnw, os nad ydwyf yn cam- synied, yn cael ei argraffu yn Llanym- ddyffri; ond wedi hyny yn Caerfyrddin. Misolyn perthynol i'r Eglwys Sefyd- ledig ydoedd, ac ydyw. Yr oedd yn fisolyn enwog a phoblogaidd dros ben pan oedd Brutus yn ei olygu, ond coil- odd lawer o'r. serch tuag ato ar ol ei farwolaeth, am fod megys yn an- mhosibllcael neb mor alluog i lenwi ei le. Y cof cyntaf sydd genyf fi am dano ydyw pan oedd Ifan fy mrawd, yn awr yn byw yn Utica, yn dod gartref o Llandeilo a'r "Haul" ganddo i'w ddar- llen i fy nhad a mam yn y wlad ger- llaw, a mawr y mwyniant a fyddent yn gael wrth hyny. Nid oeddwn i ond crwtyn bychan yn myned i'r ysgol y pryd hwnw, ac wrth gwrs yn rhy ieu- anc i dalu fawr o sylw i'r hyn a ddar- llenid. Y rheswm fy mod yn falch fod yr offeiriad Efrog a'r athrawcolegawl o'r Llain yn dyfod o'r un man a Brutus yw y cawn gyfle ofyn iddynt am ryw gymaint a wyddant am ei enwog- rwydd. Pwy ydoedd, a pha le y cafodd y fath addysg fel ysgrifenwr Cymraeg a Saesneg, am y deallwyf ei fod yn der- byn tal am ysgrifenu i newyddiaduron neu gylchgronau Llundein, a'i fod wedi cael codiad cyffredin iawn. Deallwyf fod amryw lyfrau wedi cael eu cyhoeddi am dano. Mor bell ag y clywais am dano gan bawb, mai efe ydoedd boss holl ysgrifenwyr Cymru, a'i fod yn Ilorio tpawb a wnai gynyg ysgrifenu yn ei erbyn. Clyw- ais ddweyd lawer gwaith mai yr un a safodd oreu o'i flaen ydoedd Mr. Rees, gweinidog enwog gan yr Annibynwyr yn Llanelli y pryd hwnw. Deallwyf iddo dynu chwerwder enbyd y gwa- hanol enwadau am y Welsh Punch ofnadwy a wnaeth o honynt yn yr "Haul." Ofnwyf fy mod yn gweled rhyw gymaint o effaith y doniolwch sarhaus hwnw yn ysgrif Sirgar, pan yn son am y "LI. D. sef "llyncwr diod." Clywais y fath wmbredd o siar- ad am dano gan y rhai oedd yn hoff o hono, ac eraill nad oedd, ond dyma'r tro cyntaf i mi glywed ei fod am beth- au meddwol fel y cyfeiria y brawd hwn. Gall ei fod yn ymyfed, fel yr oedd megys pawb yr adeg hono, ond yn sicr, nis gallasai ddal ei allu fel ys- grifenwr a'i barch uwchraddol yn mhlith enwogion a dysgedigion blaenaf ei wlad, os yn gwneyd sotyn meddw o hono ei hun. Deallwyf iddo fod yn byw mewn bwthyn tra hynod, ac mewn man tra hynod, y tu allan i dref Llanymddvfri, ar y ffordd i Aberhonddu, ac yn gyrch- fan rhyfedd, meddir, i ganoedd lawer bob blwyddyn i fyned o bob parth o'r wlad, Cymru a Lloegr, i weled y dyn alluog a'i fwthyn rhyfedd! Ni fydd dynion o'r fath hyny yn cyrchu i weled meddwyn, neu ddyn yn gloddesta yn ffolaidd fel yr awgryma Sirgar. Yr un a allai ysgrifenu yn ddyddor- ol a gwybodus ar fywyd Brutus yn Llanymddyfri, yn ddiau, ydyw yr ys- grifenwr galluog Courier Morris, am ei fod efe yn dyfod o Llanymddyfri, erf nad oedd efe yn fwy na fy hunan ond tra ieuanc pan y bu farw. Ni ddylai enwadaeth o un math guddio eu llygaid rhagigweled talent lie bynag mae, ond ofnwyf fod dellni mawr o'r fath wedi bod yn tywyllu coffadwriaeth y gwr enwog a fu'n golygu yr "Haul." Yn awr, boys anwyl. o'r un man a Brutus a,c o falchder felly, fel y dyn enwocaf o lawer a glywais i am dano fel ysgrifenwr o'r parth yna, a'r un parth arall o fy sir enedigol, gadewch i ni glywed oddiwrthych am dano, a bendith Myrddin fo arnoch. E. PUNTAN DAVIES.
!THOMAS D. HOWELL. RACINE.…
THOMAS D. HOWELL. RACINE. WIS. Gan R. D. Evans. Diau y bydd yn dda gan lawer gael ychydig o hanes y gwr syd-d a'i enw uchod ar ddalenau y "Drych." Mae yn adnabyddus i gylch eang yn yr Unol Dalaethau a'r Hen Wlad, ac wedi treulio dros haner cant o flynyddau yn y ddinas hon, a dydd Iau, Mehefin 15, yr ydoedd yn terfynu haner canrif o wasanaeth gyda'r J. 1. Case Threshing Machine Co. Anaml y mae hyn yn dygwydd yn hanes yr un dyn, ond gall Mr. Howell ymlawenhau yn y ffaith. Dechreuodd weithio gyda'r cwmni yn y flwyddyn 1866 fel gweithiwr cyff- redin, ac yn fuan cawn ef yn gweithio ei ffordd i fyny nes dod yn brif arolyg- ydd ar y "Separator Erecting Depart- ment," yr hon swydd a ddeil yn bre- senol. Bychan ydoedd, y gwaith y pryd hyny, ond erbyn hyn, y mae yn un o'r rhai mwyaf o'i fath yn y byd, troant allan yn flynyddol yn agos i bedair mil o beirianau dyrnu, ac y mae y gofal o'u rhoi i fyny yn dybynu ar Mr. Howell, ac fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o'i wasanaeth, darfu i'r cwmni ei anrhegu a "Silver water pitcher," ac yn gerfiedig arno, "1866- 1916. Presented to Thomas D. Howell by the J. 1. Case Threshing Machine Co., in recognition of 50 years of faith- ful service," ac hefyd gyda hyn haner cant o rosynau hardd (American Beauty). Mae hyn yn siarad yn uchel am safle Mr. Howell gyda'r cwmni. Yn ystod y cyfnod yna, mae wedi rhoddi gwaith i ugeiniau o Gymry, a chawn amryw yn gweithio gydag ef yn bresenol. Mae wedi treulio oes brysur, nid oes dim segurdod yn per- thyn iddo. Ganwyd ef yn 1846 yn Pandy y Pennant, plwyf Llanbrynmair, G. C. Ei rieni oeddynt Daniel a Sarah Howell. Amaethwr a gwneuthurwr gwlaneni oedd ei dad, fel ei hynafiaid, am genedlaethau o'i flaen. Daeth Mr. Howell i'r wlad hon yn Gorphenaf, 1863, adeg brwydr waedlyd a byth- gofiadwy Gettysburg, a daeth yn ddi- ymdroi i Racine. Gweithiodd am tua thair blynedd gyda'r ffermwyr eyn de- chreu gyda'r J. 1. C. Yn 1876 yr ym- briododid gyda Miss Kate Lewis, merch hynaf y diweddar Evan a Margaret Lewis, ac yn sicr y mae yr uniad wed,i bod yn un hapus a dedwydd. Ganwyd iddynt ddau o blant, sef merch a mab. Bu y ferch farw yn bedair oed, er mawr alar iddynt./ Ond cafodd y mab, Daniel, fyw i fod yn ddyn ieuanc hardd a gobeithiol, ac yr oeddynt hwy- thau wedi gwneyd pob peth er ei gysur a'i ddedwyddwch, wedi adeiladu car- tref hardd, a chynllunio dyfodol cysur- us iddo, ond Chwefror 17, 1914, bu farw wedi ond ychydig ddyddiau o gys- tudd. Yr oedd hon yn loes fawr i Mr. a Mrs. Howell, ac anhawdd oedd idd- ynt ei dal gan fod holl gynlluniau eu dyfodol wedi ei chwalu, a'r un oeddynt yn ei anwylo mor fawr wedi eu gadael. Fe gawsant nerth i ddal y brofedig- aeth, a chysur mawr iddynt yn eu hunigedd ydyw y cant ei gyfarfod eto mewn gwlad lie na raid iddynt byth ymwahanu. Mae Mr. Howell wedi gwneyd Ilaw- er tuag at ddadblygu ein dinas. Bu yn aelod o'r Bwrdd Addysg am bedair blynedd ar ddeg, ac yn -Ilywydd y Bwrdd am ddwy flynedd, a gwnaeth lawer i wella a pherffeithio y gyfun- drefn addysg, a thuag at gael ysgolion cymwys a phriodol, a phriodolir safle addysg ein tref heddyw i fesur helaeth i'w waith a'i ymdrechion ef. Am ugain mlynedd y mae wedi bod yn director un o fanciau mwyaf ein tref, ac wedi rhoddi llawer o'i amser gyda hwn mewn gwahanol amgylchiadau. Mae yn ddarllenwr mawr, ac mae mor hyddysg yn symudiadau yr Hen Wlad ag ydyw yn y wlad hon. Mae Ilenydd- iaeth oreu yr Hen Wlad yn ei feddiant, ac o ganlyniad mae mewn cyffyrddiad a chydymdeimlad a dyheadau goreu gwlad ei enedigaeth. Y mae yn gyffel- yb hefyd tuag at lenyddiaeth a sefyd- liadau ei wlad fabwysiedig, ac anaml y cyfarfyddir ag un yn meddu barn gywirach a syniadau mwy clir am ei symudiadau yn fasnachol, gwleidyddol, addysgol a chrefyddol. Mae efe, yn engiaifft y gellir cael Cymro i'r earn ac Americanwr teyrngarol yn yr un person. Mae wedi gwneyd llawer yn y gorphenol tuag at hyrwyddo yr Eis- teddfod a sefydliadau dyngarol, wedi rhoddi llawer o'i amser, llafur a'i arian er eu gwneyd yn fwy o ddylan- wad ac o lwyddiant. Mae efe a'i briod wedi cynorthwyo ami i deulu a pher- sonau unigol mewn amgylchiadau cyf- yng, ac nid yw yn bosibl cael neb mwy parod nag ef i gynorthwyo a threfnu mewn profedigaeth a galar. Nid oes dim yn ormod ganddo wneyd er cysur a dyogelwch ei gydgenedl. Lleinw Ie pwysig yn yr eglwys Gymreig. Mae yn flaenor er's blyn- yddali, ac yn ysgrifenydd yr eglwys er's dros ugain mlynedd, ac anhawdd fydd cael ei well, ceidw bob peth mewn perthynas a'r eglwys yn drefnus a dealladwy, a gofala am fod pob peth .yn cael ei wneyd yn ei adeg briodol. Mae ei sel a'i frwdfrydedd yn fawr dros yr Ysgol Sabbothol, a rhydd ei oreu o'i phlaid. Mae wedi bod yn ath- raw ar ddosbarth o ddynion am y cyf- nod maith o ddeugain mlynedd, ac yn sicr y mae wedi rhoddi ei oreu yn y cyfeiriad hwn, nid yn unig y mae yn gallu hwylio ac arwain ei ddosbarth yn fedrus, ond yn alluog i'w borthi a gwybodaeth ac a deall. Efryda y wers yn drwyadl, a pharotoa ei hunan yn dda ar gyfer ei ddosbarth. Anhawdd eyfarfod a lleygwr hafal iddo o ran treiddgarweh meddyliol, ac o ddirnad- aeth fwy cywir o feddwl y Gair ys- brydoledig, ac y mae wedi ei gynysg- aeddu a dawn neillduol i roddi myneg- iant i'w feddwl a'i syniadau. Awydda am i'w ddosbarth ddod yn hyddysg yn mhrif bynciau y grefydd Gristionogol. Ni bydd dim yn rhoddi mwy o fwynhad iddo na bod y dosbarth yn parotoi ar gyfer yr Ysgol, fel ag i allu treiddio i mewn i wir ystyr a chynwys y wers. Dymunwn o galon i Mr. a Mrs. Howell flynyddau lawer eto o gysur a dedwyddweh, er yn sicr y bydd mynyd- au pruddaidd ac unig yn dod heibio iddynt ar ol eu hanwyl fab. Yr Ar- glwydd fyddo yn nerth ac yn gysgod iddynt i rodio mewn tawelwch hyd der- fyn y daith.
[No title]
I -1 PARCH. T. C. DAVIES. I