Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
1851 Y DRYCH 1916 Newyddiadur Cenedlaethol Cyhoeddedig Bob Dydd lau Pris y Talaethau Unedig$2.00 Pris i Canada a Chymru, tal yn mlaen Uaw yn ddieithriad_$2.50  <'n?ADE5??" [ cOUNC  .? HYSBYSIADAU am Brisiau Rhes- itymol. Anfoner am ein Telerau. ANFONER ARIAN mewn Post Office Order, Registered Letter, neu mewn Draft ar New York, taladwy i'r perchenog— THOMAS J. GRIFFITHS, Drych Office, Utica, N. Y. AT EIN GOHEBWYR Er arbed trafferth i'r clerc yn y Swyddfa cyfeirier pob gohebiaeth a phob taliadau i'r "Drych" a'r "Cambrian" a'r rhai hyny yn Axig) i Thomas J. Griffiths, Utica, N. Y. Dealled ein derbynwyr yn yr Hen Wlad nad yw Postal Orders yn werth dim i ni yma. Dim ond Post Office Orders sy'n dderbyniol ys ochr hon. Eglwys Annibynol Cymreig 206-208 EAST 11th ST.. NEW YORK CITY. Rhwng 3rd a 2nd Ave.; taith pum mynyd o 14th St. Subway a'r 14th St. L. Station. Rhed y 3rd Ave. surface car heibio 11th St. Gweinidog-Parch. JOSEPH EV ANa, B. A., 575 W. 172nd St., New York City. Phone 6354 Audobon. Trysorydd-Mr. David Jones, 43 Booraem Ave., Jersey City. Tsgrlfenydd-Mr. J. Watkin Roberts, 189 Wegman Parkway, Jersey City. Sul, y 16eg, am 7 yr hwyr, pregeth gan George Williams, Orange, N. J. Eglwys y T refnyddion Calfinaidd 505 WEST 155th STREET. NEW YORK (On West Side of City). Ysgrifenydd Gohebol-Edward Morris, 146A Sip Avenue, Jersey City. Sabbothau, Gorph. 9 a 16, bydd y Parch. W. Owen Williams yn pregethu am 10:30 y boreu a 7 yr hwyr. Saif yr adeilad newydd rhwng Broadway ac Amsterdam Avenue. Sub- way Express i 157th St. Gwahoddiad cynes i'n cydgenedl yn y ddinas a'r cylchoedd, ac hefyd i ym- welwyr.
[No title]
Y Kaiser—made in Germany; D. Lloyd George—made in Wales. Pa un (ni.d "Drun") ddewisi di'r b,yd? Dau wybod pwysig sydd y dyddiau hyn—■•cadwybod" a "cydwybod;" a'r' cyntaf sydd yn myned i lorio Germani, ac amddiffyn y byd. D. Lloyd George yn Ysgrifenydd Rhyfel a'i droed ar war y Kaiser, a Hughes yn Arlywydd ar yr ochr hon, bydd y Bedyddwyr yn amlwg iawn yn y goleu gwyn! Un gwahaniaeth rhwng Germani a gwledydd eraill yw mai llywodraeth Germani bia y bobl; a'r bobl mewn gwledydd eraill bia y llywodraeth. Y Kaiser bia y Germani&id! Os yr etholir y Barnwr Charles Evans Hughes yn Arlywydd, efe fydd y Bedyddiwr cyntaf ar res yr Arlyw- yddion. Fedyddwyr, gwnewch eich goreu drosto; a ehewch lawer o gym- orth. Ebe y "Goleuad," "Os dewisir Hughes yn Arlywydd yr Unol Dalaeth- au-nid yw hyny yn debyg iawn ar hyn o bryd—ni all neb ddweyd nad yw Cymry yn llawn eu lie yn y byd." Ein barn ni yma yw ei fod yn debygol iawn. Bu cryn siarad ac ysgrifenu am y for-frwydr rhwng Germani a Phrydain ) a elwir gan rai yn "Frwydr Jutland" a "Brwydr Mor y Gogledd." Enw arall a roddir arni yw brwydr y Skager Rock, am mai dyna enw y glanau yno; ond y mae rhyw Sais difyr wedi ei galw yn Stagger Back; a dyna oedd hi i Germani. Daeth y Kaiser allan fel cawr, ond aeth yn ol fel corgi! Pobl rhyfedd yw y rhai hyny flinant eu hysbrydoedd o hyd yn nghylch Dad- gysylltiad pan y mae yn ymdrech mor enbydus rhwng gwareiddiad ac anwar- eiddiwch yn Ewrop! Y maent fel lloerigion a'r un peth, peth, peth o hyd ar eu meddwl! Dadgysylltiad yw hi o hyd, ag eithrio y rhai a siaradant am "ddatgysylltiad." Bobl fach, ga- dewch i ni waredu y byd gyntaf cyn son am "Eglwys"! Mae ymddygiad y Germaniaid ger Verdun yn un o ddyrysbynciau y rhy- fel. Cyfrifa rhai swyddogion milwrol yr ymosodiad yn un o amTyfuseddau hurtaf yr ymdrech fawr o'r dechreu. Y mae Germani fel gwirioff yn curo ei ben yn erbyn pared, a'r pared yn talu fawr o sylw iddo. Syniad Germani yw y rhydd y pared ffordd rywbryd, ond ni wyr pa bryd. Mae o amgylch y pared a'r pared ei hun yn daenedig gan waed yr Hwniaid, ond beth 'brisia y Kaiser o waed neb y tu allan i'w deulu ei hun. Daw y Kaiser i'w syn- wyr pan y gwna Germani bared o hono ef a'i deulu. Gwelsom sylw am 15,525p. wedi ei fwriadu at ryw achos da, a gofynai rhywun pa faint o'r swm a gafodd yr achos. Awgryma y gofyniad lawer. Cesglir llawer at bob achos yn y byd, ond credwn yr a y mwyaf swm i ddwy- law canolwyr a chyfryngwyr rhwng y casglwyr a'r rhoddwyr a'r achosion. Gofynid gyda Haw am gyfrifiad man- wl o i ba le yr aeth yr arian. Ca llawer o arian yr enw eu bod wedi eu rhoi ac i fyned i'r Arglwydd, ond a llawer i oferedd cyn cyraedd ato a'i achos. Gallai dynion yr Hen Wlad y dydd- iau hyn wrthod yr amser newydd o gydwybod, ond byddai yn annghyfleus- tra mawr i bobl ddylynant yr hen am- seryddiaeth. Y mae ipobl o'r fath eis- oes wedi colli'r tren, ac eraill wedi colli eu He drwy fyned awr yn rhy ddiweddar; a chlywsom am basiffist o bregethwr, yn cyraedd y capel pan oedd y bobl yn ymadael! Gymry an- wyl, cydymddygwch a'r drefn newydd am dro byr, a bydd yn fendith i bawb. Ychydig o obaith sydd am iaith a'i Ilyfrau yn brin. Dyma gyflwr anffod- us y Gymraeg yn y Talaethau. Ym- drechir ei chadw yn fyw ar ddim, neu o leiaf, ar ychydig iawn; ar lai na digon. Ychydig o frwdfrydedd sydd yn ei chylch. Ychydig o heulwen ga mewn blwyddyn. Ca ychydig ar adeg Eisteddfod, neu Gymanfa, ac ambell i gyfarfod cystadleuol; ond ychydig o dwf ellir ddysgwyl o heulwen un dydd yn awr ac eto. Paham na allem ni gael ychydig o gariad sylweddol at yr iaith? Mae yn syn y Cymry sydd yn ein gwlad, a'r cyfryw yn Gymry parchus a chefnog, na wnant ddim dros eu hiaith! Bygythia y Gwyddelod wneyd mer- thyr o Roger Casement os y'i dien- yddir gan Brydain. Mae pobl yn rhy barod o lawer i wneyd merthyr o bob gwirion. Dyna hawlia Germani ei bod yn ymladd d,ros wareiddiad, ac os y'i gorchfygir, bydd y Germaniaid am ei chyfrif yn "ferthyr." Ni soniant am ferthyrdod Belgium! Bu Roger yn ngwasanaeth Prydain am lawer o flyn- I yddau, ac yr oedd yn fradwr pan yn derbyn gwaddol gan y llywodraeth. Nid yn fynych y ceir merthyron dan dal o'r fath. Gwnai ei gyfreithiwr ym- gais i brofi nad oedd yn fradwr am nad oedd yn trigo o fewn y wlad ar y pryd, ond gellid meddwl ei fod yn gymaint bradwr wedi ei lanio a chyn hyny, a glanio oedd i ddwyn ei frad i weithred- iad. Ni chosbid neb pe y cai coeg- reswm ei ffordd. Yr oedd y bardd Germanaidd Goethe yn ddyn craffus, ac y mae sylwadau hynod o ddyddorol yn ei ymddyddan- ion gydag Eckermann, y rhai a gofnod- wyd gan y gwr hwnw. Nid yw y gen- edl Germanaidd heddyw yn feddianol ar ei ddoethineb a'i bwyll. Yr oedd Goethe yn ddyn o gydymdeimlad eang, ac edrychai ar ei genedl fel fawr gw'ell nag anwariaid. Ai tybed beth feddyl- iai o honynt heddyw? Pan yn cyfeirio at ymddygiad trwstan dosbarth o'r Germaniaid, ebe efe, "Beth wedi'r oil ond anwariaid yw pobl na pharchant rinweddau gwareiddiad?" "Nid yw ein gwarelddiad ond megys o ddoe," ychwanegai, a phe y gwelsai ymddyg- iad creulon y Germaniaid heddyw, sicr yw y teimlai nad ydynt heddynt ond anwariaid, beth bynag a fyddant yfory. A oes ynddynt gyda'u syniadau hunanol y defnyddiau i fod yn ddim ond anwariaid? Un o ffaeledclau Wilson a'i weinydd- iaeth yw na wnaethant fawr o ddim dros "barodrwydd" am y tair blynedd aeth heibio. Y mae y wlad yn hynod anmharod heddyw, hyd yn nod. Mae Wilson wedi ysgrifenu peth anferth o Nodion, ac wedi gwneyd anerchiadau dyddorol, ond ni ddaeth dim o'r cyfan. Pe yr ymosodai Mexico o ddifrif gallai gyraedd i gryn bellder o'r Talaethau cyn y byddai gan y Talaethau fyddin effeithiol. Gellid cael gan Bryan i gadw y gelyn yn ol, feallai, am ych- ydig a'i hyawdledd digymhar; eto gall- ai Mexico wneyd cryn anrhaith rhwng deffro ag ymbarotoi. Un o angenion penaf ein gwlad heddyw yw parod- rwydd, a d'ýn o barotowr ddylem gael yn Arlywydd i ddylyn yr anmharod hwn sydd genyf. Mae Wilson yn ddyn da, ond nid yr Arlywyddiaeth yw ei le. Myned o ddrwg i waeth y mae achos Mexico bob dydd, ac anhawdd amgyffred pa fodd y gellir cyflafareddu y gwahaniaeth gyda phobl fel y Mexicaniaid, a llywydd fel Carranza. Aeth y milwyr drosodd i diriogaeth Mexico i erlid y carn-ladron; ni wnaeth Carranza ddim i gynorthwyo. Ni wnaeth ond edrych, gwylio, a chen- figenu wrth filwyr 'Newythr Sam, a thaflu rhwystrau ar eu llwybr. Deil y carnladron i groesi i Texas a chyf- lawnu eu drw,g, ond ni ymddengys fod Carranza yn gwneyd dim i'w hatal. Sonir os a yr Americaniaid i ryfel a Mexico, yr ymuna Carranza a Villa, a'r Mexicaniaid a'r carnladron i am- ddiffyn eu gwlad. Nid hawdd yw ym- gyflafareddu a phobl o'r fath. Y mae Villa yn gymaint o Fexican a Car- ranza, a Carranza yn gymaint carn- leidr a Villa, gellid meddwl. Plant o'r un tad ydynt oil. Mae gan "Beth sydd i mi yn y byd?" chwaer emyn na sonir dim am dani. Mwy poblogaidd ac adnabyddus yw "Beth," &c., na'i chwaer, fel yr oedd Mair na Martha, ond gwell genym ni ei chwaer, "Gorthrymder ar orthrym- der." Diwedda hon fel hyn: Er hyn pob peth gydweithia Pob ergyd yn ei Ie Yn dwyn y gwarediigion Yn .nes i deyrnas ne. Yn un o ffughanesion prydferth M. Loti, y Ftrgnewr, "Y Pysgotwyr" (Les Pecheurs) sonir am ystorm yn chwythu y pysigotwyr adref o'u meus- ydd yn eithafion y Gogledd. Dyna yw ami i orthryrnder-aweI yn hwylio hen long bywyd a'i chwythu "yn nes i deyrnas ne," os y gwneir y d,efnydd priodol o hyny. Gwelsom fachgenyn yn ddiweddar ag oedd wedi myned i gwmni o fechgyn drwig yn cael cyffel- yb brofiad; ei fam wedi dod ar ei ol ac yn ei gyfarwyddo a'i gynorthwyo adref gyda phwmp a hwb ar hyd y ffordd! Pob pwmp o hyd yn ei yru yn nes i dref. Pe na fyddai dim yn y byd ond pleserau, byddai genym fyd! Dywed y Prifathraw T. Lewis, Aber- honddu, yn y "Tyst" "nad yw y gwrthwynebiad cydwybodol amgen na ffurf arbenig ar Annghydffurfiaeth." Ac yna dipyn yn is yn ei ysgrif cys- ylltia Dduw a'r gwrthwynebydd cyd- wybodol, fel i gadarnhau a santeiddio y gwrthwynebiad. Felly y mae yr Ar- glwydd yn erbyn gwrthwynebu Ger- mani, ac felly mewn ffordd gyda Ger- mani, yr hyn a wna i'r Arglwydd gy- meryd safle annymunol i Brydain. Yr ydym yn .gwrthod safle y Prifathraw, ac yn beio ei ffordd haerllug o gryfhau Germaniaeth a'i chreulonderau. Ai tybed ein bod i gymeryd Annghydffurf- iaeth fel yn golygu anwrthwynebiad i ddrwg? A yw Annghydffurfiaeth y Prifathraw yn gydsyniad a dyfodiad teyrnasiad y Germaniaid yn Mhrydain? Dyna fydd, os y ca y pasiffist a'r cyd- wybodwr eu hegwyddor i weithrediad cyffredinol. Neu a oes ganddynt ryw ymwared i Brydain i fyny eu llewys? Dylent amlygu hyny. Mae dau fath o basiffistiaid yr ochr draw: y naill yn priodoli y rhyfel pre- senol i wahanol bechodau; rhai i ddad- gysylltiad yr Eglwys, i esgeulusdra yn darllen y Beibl, i ddiystyriad o'r Ysgol Sabbothol ac i bechodau arbenig, ac hyd yn nod i bechadurusrwydd yn gyffredinol; ac felly gan mai llaw Duw sydd yn cosbi, a'r Germaniaid yw llaw Duw, doeth yw ymostwng i'r gwein- yddiad, a dyoddef anwareiddiwch i or- lifo Prydain a'r trefedigaethau fel Belgium, Servia, Poland, &c.! Y fath wirioniaid y rhaid fod y bobl hyn! Y dosbarth arall a goelia mai rhyfela yw y drwg penaf, ac felly ei fod y pechod penaf i ymwneyd dim a'r gwaith, a seiliant eu golygiadau ar y Beibl. Ond a chaniatau fod rhyfela yn ddrwg, pa sut y mae yn ddrwg ei atal i oresL- gyn y cyfan? Ai nid yw yn ddrwg i adael i ddrwg heol glir? Pe y deuai cant o anwariaid llofruddiog drwy dref 'neu ddinas, ai nid iawn fyddai eu hatal ag arfau a'u darostwng? A ydyw y pasiffistiaid wedi colli yr ych- ydig synwyr gawsant gan eu Creaw- dwr? RHAG I NI ANNGHOFIO. Y boreu o'r blaen pan oedd y mil- wyr yn ymadael ag Utica am y ffrynt, yr oedd yr heolydd yn ymlenwi yn gyflym cyn chwech o'r gloch, a llawer wedi codi am bump a chyn pump, a chlywsom rai yn cyfaddef na chodas- ant mor foreu er's talwm. Gwnaethant hyny, wrth gwrs, i ga- lonogi y bechgyn, ac yr oedd y bech- gyn yn gwerthfawrogi yr arddangos- iad. Yr oedd llawer o famau a gwrag- edd a ehwiorydd a chariadon yno i weled y bechgyn am y tro olaf y pryd hwnw (ac feallai am byth i rai o hon- ynt), a deuai deigryn i lygad ami i ddyncaled wrth weled ymlyniad y mamau a'r gwragedd, y chwiorydd a'r cariadon wrth y bechgyn. Y mae cyffyrddiad o'r fath yn profi ein !bod oil o'r un gwaed. Ond defn- yddiwn yr uchod ercyrnwysiad yr am- gylchiad at yr Hen Iaith. Gresyn na wnelid ambell i ymdrech a ehodi am bump i gefnogi yr Hen Gymraeg, a dangos ein hymlyniad wrthi, fel y mamau, &c., uchod at y boys. Y mae yr Hen Gymraeg y dyddiau hyn fel ar y ffrynt, yn ei hymdrech ag anwybyddiad ei phlant o honi, a chre- dwn y dylai ei charwyr ddod allan fel byddin i'w hamddiffyn! Mae yr Hen Iaith, fel y dywed y Germaniaid, yn ymladd am ei bodol- aeth, a'r wedd waethaf ar yr ymdrech yw fod ei phlant yn ymrestru gyda'r Seisneg; yn y gwarchffosydd gyda'r Seisjieg yn tanio ar yr Hen Iaith; a'r rhai sydd yn esgus bod gyda. hi yn gwrthod gweithio i gael ammunition f DR. T. J. WILLIAMS. I (cyfarpar), sef llyfrau Gymraeg, iddi amddiffyn ei hun. Mae ei rhengau yn llawn pasiffist- iaid a gredant fod amddiffyn y Gym- raeg a phrynu llyfrau Cymraeg yn "wrthwynebu drwg;" ac eraill yn "gydwybodia,id," y rhai nad oes "llys- oedd cydwybod" i'w cywilyddio; a dyma'r O. N. yma, rhyw fath o der- fysgwyr fel Sinn Ffeinwyr Cymreig yn ychwanegu at gythryblon yr Hen Fam! Gresyn na welem foreu ar Gymraeg fel a welsom yn Utica yn ddiweddar, a brwdfrydedd pump o'r gloch! BWYD A BYWYD. Yr ydym wedi awgrymuhyn droion o'r blaen, ond ni sylwasom fod yr un capel wedi cymeryd yr awgrym. Ni fyddai allan o le yn yr Ysgol Sul. Y peth y cyfeiriwn ato yw ymborth fel testyn crefyddol. Dyma sylfaen bywyd, a sylfaen addysg grefyddol. Galwai y Ceidwad ei Hun yn fara, a soniai am ddwfr y bywyd, a fy mwyd ebe Efe, yw gwneu- thur ewyllys y Tad; a gan mai Bywyd yw crefydd, addysgir hi drwy lawer o gyfeiriadau at fwyd. Felly y mae o bwys aruthrol i ni iawnamgyffred gwerth bwyd anianol ar gyfer y corff anianol. Ni chamddeallir ddim yn gymaint a bwyd. Mae y mwyafrif mawr yn holl- ol anwybodus a diofal o hawliau eu cyllau a'u cyrff. Yn ol tyb llawer nid yw bwyd ond rhyw ddarpariaeth ar gyfer boddio chwant bwyd; ni thyb- iant am enyd mai a'r bwyd yr adeiledir y corff a'i wahanol ranau, a'i gyneddf- au cyfrin a chywrain; y giau, yr ym- enydd, a chyneddfau mwy cyfriniol na'r rhai hyny, na wyddom ni am dan- \ynt. Os y bwyd yn wael ac yn ddrwg, gwaethygir cyneddfau y corff, ac an- hwylusir gweithrediad y giau a'r ym- enydd a'r cyneddfau cuddiedig eraill y cyfeiriwyd atynt. Pe bae dyn am wneyd cyllell, ni roid haiarn na chopr na phren ynddi, er fod y pethau hyny yn ddefnyddiol yn eu lie. Yr un rqodd, nid pob math o fwyd a diod wnant y tro i ad-eiladu corff dyn. Nid rhywbeth i gadw y corff yn fyw yw bwyd, y corff yn tyfu yn wyrthiol ryw ffordd arall, eithr y bwyd yw y corff, ac ymddibyna iechyd y corff ar ansawdd y bwyd; nid ar ei flas, eithr ar ei sylwedd adeiladol. Y mae llawer o salwch o herwydd anwybyddu pwysigrwydd ymborth yn nadblygiad y corff. Y mae ymborth, yn fwyd a diod, yn dadfeilio ami i gorff ac yn arwain i alwad mynych am fedd- vg i adgyweirio, fel y mae plastriad gwael mewn ty yn galw am ymweliad mynych y plastrwr i'w glytio i fyny. Ymddengys yn syn i ni na thelid llawer mwy o sylw i hyn o bwlpud, ac ar fainc Ysgol Soil; ond, ebe'r dyn, beth sydd a fyno bwyd a chrefydd? Dyna hi. Fel rheol gyffredin, rhy gyffredin, nid oes a fyno crefydd ond a'r bywyd dyfodol! Ond wedi'n un bywyd sydd, a'r un yw'r presenol a'r dyfodol, a thrwy ofalu am y presenol, y mae i ni ofalu am y dyfodol, oblegid fe ddaw hwnw yn bresenol. Y mae y syniad o preparedness yn addysgu perthynas ac unoliaeth y ddau. Byddai anferth yn fwy o iech- yd a chysur, pe y gwnaed y bywyd a'r bwyd presenol yn rhan o'r bywyd a'r bwyd tragwyddol. Os na ofalwn am y naill, pa fodd y gofalwn am y Hall? I
[No title]
Hyd yn hyn cymerwyd 1,000 o wrthwynebwyr cydwybodol i'r ddalfa am wrthoj ymuno a'r fyddin. Dywedodd yr Ysgrifenydd Cartrefol fod 14 o Almaeniaid, 21 o Awstriaid, a 'phedwar Twrc, yn rhydd yn Poplar, Llundain.
Advertising
SALE FAWR WICKS & GREENMAN. Edrycher ar tudalen 8 am y bargein- ion neillduol a geir yn Sale Fawr Wicks & Greenman, 56-57 Franklin Square, Utica. Gofynwch am y Cymro Thomas L. Hughes.
LLWYDDIANT MEDDYG CYMREIG.
LLWYDDIANT MEDDYG CYMREIG. Gan Gwilym E. Jones, Chicago, 111. Galw sylw yr ydym at y meddyg ieu- anc Cymreig, Dr. T. J. Williams, y gwelir ei ddarlun uchod, ag sydd yn awr mewn lie a safle gyfrifol yn ein dinas. Llawenydd mawr i ni ydyw gweled pawb yn llwyddo, yn arlbenig felly ein cydgenedl ein hunain; a di- ameu fed pob gair ac ymddygiad cefn- ogol yn eu hysbrydoli i ddringo'n uwch, ac i enill buddugoliaeth hel- aethach. Ganwyd gwrthrych ein hysgrif yn Colwyn Bay, G. C.; yn fab i Mr. a Mrs. James P. Williams, sydd yn awr yn trigo yn Ipswich, South Dakota. Pan yn chwe' mlwydd oed ymfudodd gyda'r teulu i America, ac ymsefydlasant yn Williamsburg, Iowa, lie y dechreuodd fyned i'r ysgol ddyddiol, ac y dylynodd hi nes graddio o hono o'r Williams- burg High School. Blwyddyn wedi graddio o'r ysgol hono aeth i'r College of Liberal Arts o'r State University of Iowa, wedi hyny i'r College of Medi- cine o'r un Brifysgol, ac o ba un y graddiodd yn ddiweddarach. Efe oedd llywydd y dosbarth yn yr adran fedd- ygol. Wedi hyn, dechreuodd ymarfer ei alwedigaeth yn rhan ddeheuol y Dal- aeth, lie y dadblygodd ei ofalaeth yn. gyflym, ond yn hytrach nag ymfodd- loni i fyned yn mlaen, dyheu yr oedd am gyfle i ymberffeithio yn ei alwedig- aeth. Ei benderfyniad oedd gwneyd astudiaeth arbenig o'r llygad a'r glust, y trwyn a'r gwddf. I'r dyben hyny, aeth i'r ysgolion goreu yn New Or- leans, Chicago, a New York, lie y der- byniodd yr hyfforddiant mwyaf trwy- adl posibl. Wedi gorphen y cwrs hwnw, apwyntiwyd ef gan gwmni llinell y Santa Fe yn Special Examiner yn y cangenau arbenig a astudiodd. Yma cafodd gyfleusderau lawer, a phrofiad gwerthfawr iawn. Yn gweled uchelderau eto yn ei al- wedigaeth, ac yn ymawyddu am eu, cyraeddyd, gadawodd ei waith yma, ac aeth trosodd i Ewrop, lie y treuliodd rai blynyddau yn ymweled a'r clinics yn y prif ddinasoedd. P-odd bynag, arosodd y rhan fwyaf o'r amser yn Llundain ac Edinburgh, ac yn y flwyddyn 1913 derbyniodd yr anrhyd- edd arbenig o gael ei wneyd yn Fellow of the Royal College of Surgeons yn Edinburgh, fel cydnabyddiaeth o'i lafur gwerthfawr yn y gangen hono. Bu am amser yn gofalu am glwyfedig- ion y rhyfel presenol, ac yna dychwel- odd i'r Unol Dalaethau, gan ymsefydlu yn Chicago. Yn uniongyrchol wedi ei ddyfodiad yma, etholwyd ef i gadair y Llygadyddiaeth (Ophthalmology) yn Illinois Post-Graduate College of Medicine, a'r West Side Hospital, lie mae yn arolygwr y gangen. Triga Dr., Williams a'i briod, hithau hefyd yn Gymraes, ar gyrau y ddinas yn Evanston, a'i swyddfa yn nghanol y ddinas, sef ar 30 North Michigan Boulevard. Perthyna i amryw Gym- deithasau a Chyfrinfau, yn eu plith y Kymry Society a'r British-American Club; yn 32 Degree Mason ac yn Shriner. Sicr y bydd Golygyddion y "Drych" a'i ddarllenwyr oil yn teimlo fel llongyfarch Dr. Williams ar ei lwyddiant, ac nid efe yn unig, ond pob Cymro a Chymraes sydd yn gwneyd cyffelyb ymdrech i lwyddo yn y byd, ac ar yr un pryd fod o wasanaeth a bendith i'w cyd-ddynion.
SHARON. PA. I
SHARON. PA. I Nos Sadwrn, Mehefin laf, daeth dros haner cant o aelodau a ffryndiau eg- lwys y Bedyddwyr Cymreig, Sharon, Pa., yn ddiarwybod i gartref hardd y brawd hoff, a'r pregethwr melus, Henry Harris, Sharpsville St., gyda y bwriad clodfawr o gyflwyno tysteb iddo. Boss yn y felin ydyw Mr. Harris, ac yn bregethwr cynorthwyol hynod o dderbyniol yn y frawdoliaeth. Yr oedd yn amlwg iawn y noson gry- bwylliedig ei fod yn ddwfn yn serch a mynwes ei frodyr a'i gydweithwyr. Yr oedd pob peth a welwyd ac a ddy- wedwyd yn brawf digonol o hyn, ac yr oedd presenoldeb a siarad y gwyddfod- olion yn Ilefaru yn uchel am sefyllfa anrhydeddus Mr. Harris yn ein plith. Mr. Joshua J. Evans, diacon gweith- gar yn yr eglwys, fu yn flaenllaw yn y fusnes, ac a gasglodd ugeiniau o ddoleri, er prynu oriawr aur pur, fel tysteb o gydnabyddiaeth a pharch iddo am ei ba-rodrwydd yn wastad i wasan- aethu yr eglwys yn ei phwlpud, a hyny yn rhad ac am ddim. Mr. Evans hefyd a gyflwynodd y dysteb mewn araeth dra phwrpasol, a chydnabydd- odd Mr. Harris yn ddiolohgar y rhodd mewn teimladau drylliog. Canwyd ac areithwyd gan amryw, ac ymadawodd pawb igan ddymuno hir oes i'r brawd Harris a'i briod serchog.—Cenydd.
NODION -PERSONOL I
NODION PERSONOL I Cyfeiriad presenol y pregethwr ieu- anc Richard J. Owen (gynt o Poult- ney, Vt.) yw 163 East Canal St., Ilion, N. Y. Dyma brofiad J. Elias Jones, Mil- waukee, Wis., ar ol darllen "Rhamant Bywyd Lloyd George": Difyr yw hanes Dafydd-a gododd Yn geidwad y gwledydd, 0 lane tlawd; drwy ffawd ei ffydd E' lunia Iwrop lonydd. Nid ydym fel pobl yn cymeryd digon o ddyddordeb yn ein hiaith. Dro yn ol ymddangosodd gofyniad yn y "Drych," sef am air Cymraeg am air arferir yn fawr y dyddiau hyn yn Mhrydain, sef "tribunal," eto ni atebodd ond dau. Mae ein pobl ieuainc fel pe wedi ym- fudo allan o'r iaith! Ebe cyhoeddiad pasiffistaidd yr ochr draw "Nid peth ffol fuasai treio Teyrnas Dduw yn lie llywodraeth dyn." Ie, ond be,th wnawn ni i am- ddiffyn ein hunain hyd nes y delo Teyrnas Dduw? Gyhyd ag y bydd yn tywallt rhaid i ni fydd cael rhyw fath o gysgod. Daw yn sych ar ol iddl beidio gwlawio, ond ddim cyn hyny. "Un yn Caru'r Gymraeg" a ysgrif- ena atom gyda chwyn yn erbyn yr achos yn Philadelphia, na chaed mwy o Gymraeg yno. Ni rydd ei enw yn gyfrinachol i ni. Os oes rhyw sylwedd y tu ol i'r gwyn, paham na ddaw "Un yn Caru" allan dan ei enw? Dylem gael rhyw afael ar ein gohebwyr. Fel y canlyn y can Dewi Gwenog i'w gyfaill gynt, y diweddar Jac y Cigydd: Un a'i rawd yn wir anrhydedd-oedd Yma ddaeth i orwedd (ef I gael unig wael anedd Gwely diboen gwaelod bedd. Yn welw glaf yn niwl y glyn—o boen Y byd aeth yn sydyn At dyrfa lie nad oes terfyn, I ganu mawl yn y gwawl gwyn. Yn nglyn ag ymddangosiad eyfieith- iad Anthropos o "Love of Country" Syr Walter Scott, cystadleuol yn Eis- teddfod Utica y Calan yn y "Drych," y lie y'i cafwyd oedd yn y rhifyn cyn y dlweddaf o'r "Geninen;" felly rhyng- ddo ef a'r "Geninen." Yn ymddangoe mor agos i'r gystadleuaeth, naturiol oedd credu ei fod yn yr ymdrech; ond ymddengys nad oedd, ac mai cyd-ddy- gwyddiad oedd. Hyderwn nad oes as- gwrn wedi ei dori. Cawsom ohebiaeth ddyddorol oddi- wrth Richard Griffith, Loomis, Neb., yn nghyd a darlun rhagorol o'r Cymro a'r dyn hynaf yn y byd, sef Thomas Morris, 122 oed. Ymddangosodd ei lun o'r blaen yn y "Drych" a'r "Cam- brian," ond y mae y darlun hwn mor ardderchog fel y ca y Cymry a'r byd olwg eto ar yr henadur penaf yn fyw. Mae gan Mr. Griffith hanes dyddorol am dano. Gwna ei gartref yn Ansley, Neb., ac y mae yn cael sylw mawr.. Daeth i America yn 1871, y pryd hwnw yn 77 oed. Argraffwyd a chyhoeddwyd gan Davies a Griffiths, Utica, N. Y., yn 1860, "Yr Athrawydd Parod," sef, Hyfforddydd Anffaeledig i Ddarllen ac Ysgrifenu Cymraeg yn nghyd a Rheol- au Barddoniaeth Gymraeg, ac Ellfenau Rhifyddiaeth wedi ei gasglu gan John W. Jones, Golygydd y 'Drych' Go- fyna gohebydd a oes modd cael ail ar- graffiad o hono. Diffyg dyddordeb a chefnogaeth sydd ar ffordd cyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg, fel yn mhob iaith arall. Rhaid wrth filoedd o gefn- ogwyr i wneyd i lyfr dalu. Ar ol terfyniad y rhyfel hwn, hoff- em weled diwygiad yn nglyn a llen- yddiaeth Gymraeg yn ein gwlad. Mae yn y Talaethau beth anferth o Gymry yn "frwd" o blaid yr Hen Iaith, ond ymddengys mai "ffyd.d farw" sydd gan- ddynt, eto y maent yn ei hanwylo! Cant gyfle cyn bo hir a chymelliad i "streicio'r trail." Byddai yn hyfryd- wch gweled cyhoeddi dwsin neu ddau o lyfrau Cymraeg yn America yma bob blwyddyn. Fel hyn yr ysgrifena Gwaenferch atom yn nglyn a'r ddau Nodiant: "Gwelaf fod eich gohebwyr yn ym- drin a'r ddau Nodiant a'u gwahanol ragoriaethau, a hyn oedd barn y di- weddar Isnor101 ar y Solffa: Ffordd ysgafn dda ei hosgo—heb greig- Na rhiwiau i'm rhwvstro; (iau Caf basio rhai'n ar bwys y Do-heb rysiad Yr hen osodiad wy'n arswydo! Brodor o frodir efrydiaeth—cwyd farau Cudd ddorau cerddoriaeth; Yn hylaw chwalu'n heleth Y chwarel fawr ei chwilio wnaeth. Y mae Ward B. Edwards, Utica, ger bron fel ymgeisydd Gwerinol am Gon- troler y jsir; ac ofer fyddai gofyn pwy yw Mr. Edwards. Y mae yn un o ddynion mwyaf adnabyddus y Sir, ac yn dal cysylltiad a gwladlywiaeth y sir er's 2 0 mlynedd. Nid oes lie í ameu ychwaith ei gymwysder a'i allu i wneyd controler rhagorol. Y mae yn hynod am ei weithgarweh, ac yn gyn- orthwywr cryf i bob mudiad da a gychwynir. Gwna efe y penodiad yn ddyddorol, a rhydd efe gyfrif da o hono ei hun yn yr ymdrechfa. Gellir sicrhau, os y ca efe y penodiad, na fydd efe yn segur a diofal o fuddianau a dyledswyddau y safle. Mae ganddo lawer o edmygwyr a chefnogwyr, ab y mae ar gyfrif ei allu, ei ddiwydrwydd a'i onestrwydd y fath ddyn ag y mae y swydd am dano. A ganlyn ddaw oddiwrth Gymro cyfrifol, yn hen dder.byniwr o'r "Drych" er's yn agos i haner canrif, yn flaenor mewn byd ac eglwys, ac yn rhyddf-rydig tuag at eraill. Ffol- ineb fyddai ei ystyried yn annghredwr ac yn anffyddiwr: "Da genyf eich hys- bysu fod y 'Drych' yn dal yn gryf yn ei erthyglau, ac na fu yn well mewn un- rhyw gyfnod o'i hanes. Mae ysgrifau Plas Gwyn yn unig yn werth y 'Drych'; a'r boys eraill yn ddoniol yn ceisio tynu i ilawr yr hyn y mae yn adeiladu. Mae lluaws o'r Cymry yn gul iawn yn eu golygiadau, ac ni fynant gadw i fyny a syniadau yr oes. Mae'r ysgrif- au Golygyddol hefyd yn amserol ac yn rymus." Cymanfa Gyffredinol y Methodist- iaid Calfinaidd, yn America.—Wedi derbyn cenadwriaethau y Cymanfaoedd Talaethol ar gyfer y Gymanfa Gyffred- inol sydd i'w chynal yn Lake Crystal, Minn., Awst 29-iMedi 3 nesaf, gwelaf nad oes dim un Gymanfa wedi gwa- hodd y Gymanfa Gyffredinol i'w chylch yn 1919. Prin y golyga hyn na ddy- munai yr un eglwys perthynol i'r Cyf- undeb ei derbyn yn ei thro. A ganlyn yw trefn y Cymanfaoedd er y flwyddyn 1901: 1901, Cambria, Cymanfa Wis- consin; 1904, Venedocia, Cymanfa Ohio; 1907, Wilkes-Barre, Cymanfa Pennsylvania; 1910, Cotter, Cymanfa y Gorllewin; 1913, Utica, Cymanfa New York a Vermont; 1916, Lake Crystall, Cymanfa Minnesota. Gwelir mai i Wisconsin yr elai y Gymanfa Gyffredinol yn 1919, pe dylynid y drefn uchod, ond nid wyf yn deall fod un- rhyw reol ar y mater. Dichon y par hyn o air i rai o'r eglwysi deimlo awydd i estyn gwahoddiad iddi, ac os anfonir y cyfryw i mi cyn Awst 20fed nesaf, gofelir am ei gyflwyno yn Lake Crystal.—W. Owen Wililiams, Gran- ville, N. Y. (Ysgrifenydd).
BYR NODION 0 DDINAS NEW YORK.
BYR NODION 0 DDINAS NEW YORK. Gan Glan y Mor. Nos Iau, Mehefin 29, y cynaliwyd un o'r cyrddau mwyaf dyddorol o'r fath, y cawsom y fraint o fod ynddo, sef cwrdd ymadawol i Dr. a Mrs. Joseph Roberts. Mae'n hysbys i Dr. Roberts gyflwyno ei ymddiswyddiad i'r eglwys wedi ei gwasanaethu fel bugail am yn agos i 22 mlynedd. Gan fod adroddiadau eraill wedi eu cy- hoeddi, ni wnaf ymhelaethu, ond yn unig ddadgan fy mhleeer a'm diolch- garweh o gael bod yn bresenol. Yr oedd yn gyfarfod neillduol. Y Sabboth dylynol, pregethodd Dr. Roberts y boreu a'r hwyr, a theimlem wrth ei wrando nad yw defnyddioldeb y gwr parchedig fel pregethwr wedi dirwyn i ben o lawer o ffordd. Trwy farwolaetb. y cymrawd caredig W. W. Owen, superintendent y Colum- bia Bldg., collodd y Cymry un oed,d yn caru ein cenedl a'n hiaith, ac un oedd yn haelionus at achosion da. Ofnwn y bydd i'w ymadawiad sydyn achosi cyfnewidiadau anffafriol i'r Cymry ar- ferant weithio yn y Columbia Bldg. Tri o Gymry sydd yno yn awr, sef Hugh Morris, bachgen o Benllech, sir Fon; David Griffiths, o Llanberis, a Owen Roger Owen, o West Pawlet. Da oedd genym ddarllen ysgrif 0. W. Rowlands, Powell, S. D., ar ei ymwel- iad a Plana, S. D., a diolch iddo am grybwyll mor garedig am fy nhad, Thomas Roberts, hen flaenor yn Bryn- teg, Bethesda. Chwith fuasai gan lawer o'i hen gydnabod yn yr Hen Wlad ac yn y wlad hon weled y fath gyfnewidiad y mae ychydig flynyddau yn wneyd ar y meddwl, ambell waith. Un o'i hen gydnabod, a chyfaill iddo yn yr Hen Wlad, ond sydd yn awr yn y wlad hon, yw y gohebydd a'r lienor William Oliver. Beth amser yn ol, yr oeddwn yn darllen llythyr dderbynioddi fy nhad oddiwrth Mr. Oliver, Ilythyr syml oedd, heb ddim rhodres nac ym- gais at goethder arwynebol, ond yr oedd yn llawn o'r peth byw hwnw sy'n tynu'r deigryn i'r llygaid, a pha beth yw deigryn ond y rhan oreu o ddyn mewn dafn o ddwr. Da genyf fod plant Bethesda yn gwneyd eu rhan i gadw'r iaith Gym- raeg yn fyw trwy gyfrwng y "Drych." Yr wyf yn synu pan yn son am hyn, gynifer o honynt wyf yn adnabod yn bersonol. Dyna Deiniol Arfon, Pitts- burgh; Richard J. Hughes, Spokane; Lewis Jones (Gwlithyn), West Paw- let; Griffith J. Williams, Bisbee, Arizona; Owen Prydderch (Carnedd- wr), Pasadena, Calif.; Joseph Davies (Rheinallt), Denver, Colo., a Mair Llechid. Feallai fod eraill nad wyf yn gofio ar hyn o bryd. Gofynai Mair Llechid yn ddiweddar beth oedd yn pery i mi gadw mor ddystaw. Un rhe- swm sydd genyf yw i mi fod, fel y bu hithau, o dan operation bwysig a pher- yglus y gauaf diweddaf, ac er i mi ddod allan yn llwyddianus, bum am ysbaid hir heb deimlo yn gryf. ond mae, yn dda genyf allu dweyd fy mod yn gwella yn foddhaol, a da genyf ddeall ei bodTiithau wedi gwella erbyn hyn. Drwg genyf ddeall am farwol- aeth John Humphrey Jones, West Pawlet, un o'm hen athrawon yn ysgol y Tonic-Solffa yn ystafell gefn yr hen gapel anwyl Brynteg. Yr wyf yn coflo yn dda y noson y cefais ganddo ef a Evan Parry y certifleate gyntaf, a mi yn un-ar-ddeg oed. Byddaf bron meddwl weithiau iddynt wneyd ffafr- iaeth a mi gan i bawb o'r ymgeiswyr eraill gael eu siomi y noson hono.
SLATINGTON. PA.
SLATINGTON. PA. Galwodd y cyfaill, Thomas Wynn, Bangor, Pa., yma am ychydig oriau yn ddiweddar, cyn ei ymadawiad a Chi- cago i fyw, ac i wasanaethu y Western Slate Co. Mae Mrs. Hugh Jones wedi myned yn ol i Randolph, Wis., i gyrchu ei dodrefn, fel y gall efe a hithau fyw yn nhy ei brawd, Robert Edwards. Bydd y Parch. Moses M. Young yn hwylio am Gymru ar y Baltic, Gorph. 26ain, er ymweled a'i rieni yn sir Benfro, D. C., a bydd efe a Mrs. Young yn hwylio yn ol oddeutu diwedd Medi: Bydd yn pregethu yn nghapel Bethesda, Utica, N. Y., y trydydd Sul yn Gorpihenaf. Cofied Cymry Utica am fyned i'w wrando, gan ei fod yn bregethwr llithrig yn y ddwy iaith. Hwn fydd ei drip cyntaf i Utica. Da genyf ddeall mai John M. Morgans yw ysgrifenydd gohebol eglwys Bethesda, Utica. Bu efe yn aelod selog yn eg- lwys y Bedyddwyr Slatington wedi iddo ddod i'r wlad ychydi.g flynyddau yn ol, wedi ei ddyfodiad o Benrhyn- dcudraeth, G. C. Drwg genyf ddeall pan ar ymweliad ag anedd-dy John G. Griffiths, ar Church St., fod ei nith, Mary Griffiths, gynt o New York a Philadelphia, yn wael iawn, ac wedi myned i orwedd i'w gwely er's dros wythnos. Y mae yn ddrwg genyf orfod hysbysu yn awr am ei marwolaeth. Hefyd dys- gwylir ei ferch, sef Neli, neu Mrs. Miller a'i gwr adref dros y Fourth o Steubenville, Ohio. Mae yn ymddangos nad yw iechyd y Parch. John Williams, gweinidog parchus yr M. C., yn dda iawn ar hyn o bryd. Gobeithio y bydd iddo gael adferiad a hyny yn fuan. Pan yn Tamaqua y Sadwrn diwedd- af yn igweled y milwyr yn myned i ffwrdd i Mt. Gretna, yr oedd amryw fechgyn Cymreig yn ei plith o Lans- ford, sef dau o fechgyn Fred Stevens, ac wyr Ex-Burgess Richards, sef Crispin. Yr oedd yr orsaf yn Ilawn o bobl; hefyd cyfarfum a dau o hen drigolion Slatington, ag sydd yn byw yn Tamaqua, sef Howel Jones (Rhen Bero) fel y'i gelwir gan y chwarel wyr, a John Hughes (Jack Pad). Yn hir- aethu am Vermont y mae efe, gan iddo ddod oddi yno yn ystod y streic ddi- weddaf.