Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

KHTFEL TN EWBOP

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

KHTFEL TN EWBOP Y RHUTHR FAWR AR Y GERMAN- lAID YN PARHAU.—Y RWSIAID HEFYD YN CURO Y GERMANIAID A'R AWSTRIAID YN OL. PRYDAIN A HEDDWCH; DIM CYN GORCHFYGIAD GERMANI. D. LLOYD GEORGE YN YSGRIFEN- YDD RHYFEL. Germani ac Awstria vn amlveni ar- wyddion ewanhad.—Enillion syl- weddol v Rwsiaid.—Lions: danforol Germani newydd erroesi. Y tebygolrwydd ar hyn o bryd yw na fydd rhyfel rhwng y Talaethau a Mexico. Ymddengys i'r arddangosiad wna yr Arlywydd Wilson o allu milwr- ol y wlad, a brysiad y catrodau i gyffin- iau Mexico, ac ymyriad y gweriniaeth- au Deheuol ddylanwadu ar Carranza roi ffordd i Washington, a dadgan ei ddymuniad am gyflafareddiad. Eto ymddengys fod y drafferth fewnol yn debyg o barhau, o herwydd y mae Villa a'i blaid yn aros ac yn benderfynol o wrthwynebu Carranza a'i lywodraeth. Feallai mai yr unig feddyginiaeth yn y diwedd fydd ymyriad y Talaethau i gymeryd llwyr feddiant o'r wlad. Yn ol yr adroddiadau o'r ffrynt, y mae y Prydeiniaid a'r Ffrancod yn cadw gafael yn y tir a gymerwyd gan- ddynt oddiar gychwyniad y rhuthr fawr dydd Sadwrn y cyntaf o'r mis. Yn ol yr adroddiad, ni welwyd y fath danbeleniad yn hanes y byd a'r hyn a ddyoddefodd y Germaniaid yn ystod yr ymosodiad ar eu gwarchffosydd; cyn- yrdh dwy flynedd o 'barotoi. Gymaint oedd yr annhrefn a'r diymadferthedd yn rhengau y Germaniaid fel y cymer- wyd nifer o'u lleoedd heb golli fawr milwyr. Er fod yr enillion yn fawr- ion, ceisia Berlin fychanu y fuddugol- iaeth yn ol ei harfer. Dengys y fuddu- goliaeth un ffaith bwysig, sef fod y gallu milwrol Germanaidd wedi ei ys- igo yn ddrwg, ac nad yw yn anorch- fygol. Ddydd lau, hysbysid parhad y rhuthr gyda llwyddiant ychwanegol i'r fyddin Ffrengig yr hon sydd wedi cymeryd ail linell .gaerog y German- iaid, islaw afon Somme am chwe mill- dir o led. 'Cyferfydd y fyddin Bry- deinig a phraffach gwrthwynebiad dan y dybiaeth y gallent wneyd yn well gyda llai yn erbyn y Ffrancod, ond peryglir eu safle yn fawr gan lwydd- iant y Ffrancod. Cyfrifir y carchar- orion erbyn ddydd lau yn 16,000, a cholledion y fyddin Germanaidd heb- law hyny yn 60,000. Erbyn nos Fer- cher yr oedd y fyddin Ffrancaidd mewn meddiant o ranbarth Estrees. Yr oeddynt 'hefyd wedi cyraedd o fewn dwy filldir i dref Peronne, cysylltiad rheilfforddol pwysig. Bydd y dref yn gaffaeliad gwerthfawr i'r Ffrancod. Yn y dwyrain hefyd y mae y Rws- iaid yn parhau i enill tir, a gyru yr Awstriaid yn eu hoi, ac ymddengys na fedd yr Awstriaid allu mwyach i'w gwrthsefyll. Meddianodd y Rwsiaid y rheilffordd rhwng Lemberg, prif ddinas Galicia a Delatyn, a darogenir y bydd i hyn orfodi yr Awstriaid i ym- adael o Lemberg. Ymddengys fod y gallu Germanaidd yn y gogledd oddi yno yn rhy wan i wneyd ymosodiad effeithiol ar y Rwsiaid. Yr unig new- ydd anffafriol ddaethai o Mesopotamia lie y rhwystrir y Rwsiaid yn ddirfawr gan y tywydd a'r llifogydd. Tawel yw Germani y dyddiau hyn yn nglyn a heddwch. Hyd yma cynyg heddwch yr oedd Germani, a dysgwyl- iai gael rhyw gynifer o'i thelerau ei hun. ond erbyn hyn, teimla fod ei go- beithion yn lleihau, a theimla mwy nas gall gynyg heddwch, eithr yn hytrach y bydd iddi ofyn am heddwch, p chymer yr hyn a ga, yr hyn sydd yn wrthwynebus iawn i'w balchder. Ni thorir ysbryd Germani hyd nes y'i llwyr ddarostyngir. Y dydd o'r blaen mewn ciniaw gan y Pilgrims yn Llun- dain. siaradodd yr Ardalvdd Bryce yn gryf yn erbyn pob math o heddwch a Germani ond a seilir ar ei Ilwyr orch fygiad. Dyna yr unig heddwch syl- weddol a pharhaol, ebe efe. "Byddai heddwch a foddlonai Germani yn ofer- edd. oblegid byddai ei hysbryd heb ei dori a chodai eilwaith i flino y byd." "Yr ydym yn ymladd." ebe efe, "dros heddwch y byd yn y dvfodol." Addaw- ai hefyd y gwneir hi yn annichonad- wy i Twrci gyfiawnu ei herchyllderau ar ol hyn. Dywedir nad yw y rhuthr fawr hon ar gyffiniau Ffrainc ond dygiad i weithrediad y cynllun a benderfynwyd arno yn y Gynadledd filwrol yn Paris dro yn ol, a gwelir hi yn ymddadblygu o ddydd i ddydd, a hysbysir fod y Pry- deinwyr a'r Ffrancod yn ail ymbaro- toi at barhad a hyrwyddiad y rhuthr. Y mae y newydd o Rwsia yn galonogol. Mae yr ymosodiad cyffredinol hwn yn cadw y Germaniaid yn brysur yn mhot) cyfeiriad fel nas gallant gymorthi eu gilydd. Cyfrifir colledion Awstria eis- oes yn haner miliwn o filwyr-eu haner yn garcharorion gan y Rwsiaid. At hyn, ychwanegir 250 o ynau mawr- ion a 700 o ynau peirianol. Hysbysdd hefyd 10,000, o'r rhai y mae 5,000, yn Germaniaid ddiwedd yr wythnos. Yn y wasg ddydd Sadwrn hysbysid fod y Prydeinwyr wedi ail ymosod ar y Germaniaid yn rhanbarth Somme, ac wedi cymeryd cyfran o 3,000 o latheni o led, 500 o ddyfnder gan symud yn mlaen i Oliviers. Yn Contalmaison taflwyd corff o'r gwarchodlu Prwsaidd, milwyr goreu y Kaiser, yn eu herbyn i'w hatal, eto cymerwyd y lie a 70'0: o'r Germaniaid yn garcharorion. Tawel oedd ar ochr y Ffrancod, ag eithrio yr ymosodiad ar Verdun sydd yn parhau o hyd. Daw newydd da am lwyddiant y Rwsiaid hyd ddiwedd yr wythnos, y Germaniaid yn encilio yn Volhynia. Ar y flrynt, yr holl ffordd o Riga i Baranochi, y mae y Germaniaid yn symud yn ol o flaen y Rwsiaid. Nod y Rwsiaid yn awr yw Kovel a Lemberg. Ymddengys yn arwyddocaol iawn fod y Germaniaid mor dawedog. Nid yd- ynt yn gwneyd dim yn un man, yr hyn a brawf eu bod yn colli yn mhob cyf- eiriad. Cydnebydd Berlin fod y Ger- maniaid yn cilio yn ol yn Volhynia. Ni sonir mwy am gampau Hindenburg a Mackensen, dau arwr mawr y Ger- maniaid. Mae y Rwsiaid yn parhau i gymeryd carcharorion oddiar yr Awstriaid. Gorphenaf 4 a 5, cymer- wyd 9,900 o wyr, a 270i o swyddogion. Ar gyffiniau Awstria, y mae yr EJidal- iaid yn symud yn mlaen, ac yn cymer- yd lie ar ol lie. Y mae achos Awstria o'r ddau du yn ymddangos yn an- obeithiol, ac nid yw yn fwy addawol ar Germani. Newydd a gyraeddodd hefyd ddi- wedd yr wythnos oedd fod D. Lloyd George wedi ei benodi yn Ysgrifenydd Rhyfel yn olynydd i'r diweddar Ar- glwydd Kitchener, gydag Arglwydd Derby yn Is-Ysgrifenydd. Sonid am hyn er's tro, ond ameuid y rhoddid i George swydd mor filwrol; ond ym- ddengys nad oes swydd o bwys nas gall efe ei chyflawnu. Mae yn debyg o wasgu ar wynt y Kaiser yn y swydd newydd hon. Y oedd y newyddion o gyffiniau Awstria a Pholand foreu Sul yn galon- ogol, y fyddin Rwsiaidd yn parhau i gymeryd trefi ar ei hymgyrch lwydd- ianus, a holl linell y Germaniaid a'r Awstriaid ar gyffiniau Poland yn cael ei bygwth gan y rhuthr Rwsiaidd; Kovel yn cael ei bygwth o dri chyfeir- iad. Pery y Rwsiaid i gymeryd car- charorion. Dechreua y wasg German- aidd gydnabod fod eu hachos mewn: cyflwr cyfyng a pheryglus, ond daliant i obeithio yn eu balchder. Hwn sydd y tu ol i'w milwroliaeth. Yn y Gor- llewin cymerodd y Prydeinwyr 6,000 yn garcharorion yn ystod yr wythnos, a'r Ffrancod 10,000. Ddiwedd yr wythnos yr oedd y Ffrancod o fewn ychvdig i'w nod, sef tref Peronne, canolbwynt rheilfforddol. Yn ol ad- roddiadau o gyfeiriad Germani, yr oedd y tanbeleniad yn ystod yr wyth- nos y mwya,f enbydus a-dinystriol a welodd y Germaniaid eto: ac yr oedd gwaith yr awyrlestri yn hynod ddin- ystriol ar ddarpariadau y Germaniaid o fewn eu rhengau. Yn ol y wasg ddydd Llun, y mae y Rwsiaid yn parhau i yru y Germaniaid a'r Awstriaid yn ol yn llwyddianus, y gelyn fel pe wedi colli ei afael ar beth- au. Yn ol pob arwydd yn bresenol, y mae y Germaniaid a'r Awstriaid yn llwyddianus, y gelyn fel pe wedi colli ei afael ar bethau. Yn 01 pob arwydd yn bresenol, y mae y Germaniaid a'r Awstriaid yn rhy analluog i ddal eu tir, ac ymddengys mai ar wanhad y maent. ac nid oes gobaith am adferiad eu gallu. Dywedir fod symudiad y Rwsiaid yn rhyfeddol ac yn weledig- aeth, y cyfan yn syrthio o'u blaen. Hysbysid cwymp Delatyn, canol-le rheilfforddol, ac agoriad ffordd i Kovel. Dadgana beirniaid milwrol Germani, a Major Moraht, yn enwedig eu syndod at lwyddiant anorchfygol Rwsia— Moraht yn un o'r Germaniaid mwyaf ffyddiog. Difvrwyd yr Americaniaid yn fawr ddechreu yr wythnos gan laniad Hong danforol yn Baltimore gyda llwyth o nwyddau, a chenid clodydd y capten a'r dwylaw fel pe wedicyfiawnu camp ddi- gyffelyb a gwyrthiol, ac ebe pawb Dyna ddiwedd ar reolaeth Prydain o'r mor Nid llawer o fasnach ellir gario yn mlaen gyda llongau o'r fath. Gall wasanaethu cywreinrwydd yr Ameri- caniaid a balchder Germani am dro, eto nis gellir porthi Germani newynog a llongau tanforol. Gwna dipyn o gyffro ar y pryd. Nid oes sicrwydd y cyraedda yn ol yn ddyogel. Llonlg fasnachol yn unig yw, a,c felly nis gellir dysgwyl niwed oddiwrthi. Dy- wedir fod ychwaneg i ddylyn. Symud yn mlaen y mae y Rwsiaid o hyd am eu nod nesaf, sef Kovel, ac y maent eisoes wedi croesi yr afon Stokhod, a ystyriai y Germaniaid yn Ilinell gaerog. Gymaint oedd y rhuthr fel o'r braid,d y cafodd y Ger- maniaid a'r Awstriaid amser i encilio. Delir o hyd i gymeryd carcharorion o rengau y gelyn yn ogystal ag o'u nwyddau rhyfel. Nid yw yr adrodd- iadau o Berlin yn hawlio dim da o blaid Germani ac Awstria. Y mae y Ffrancod hefyd. wed,i cymeryd medd- iant o Biaches, yn rhoi uwchafiaeth iddynt ar dref Peronne. a'r dyffrvn am filldiroedd. Mae Berlin wedi dechreu gyda'i c-hynllun o borthi y trigolion o gegin- au mawrion gydachro,chanBu anferth. Porthir tua 7,00,0 bob dydd yr wyth- nos hon, a dys'gwylir y bydd 30.0001 yr wythnos nesaf: ac y mae cynlluniau ar droed i borthi o 250,000 i 500,000 os y bydd eisieu.

Advertising

! ALLAN O'R PAPYRAU CYMREIG.…

Advertising

IY PARCH. M. S. YOUNG. SLATINGTON.…

IDIWRNOD Y CYMRY. I

! YMGEISIAETH WARD B. EDWARDS…

[No title]

NEW YORK A VERMONT. I

Advertising