Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

APEL AR RAN Y DYODDEFWYR ODDIWRTH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

APEL AR RAN Y DYODDEFWYR ODDIWRTH Y RHYFEL. Gan y Parch. R. E. Williams, Phila- delphia, Pa. Rai wythnosau yn ol daeth i'n Haw Genadwri Cyngor Cenedlaethol Eg- lwysi Crist yn America at weinidogion ac eglwysi, yn erfyn am gynorthwy ychwanegol i ddyoddefwyr oddiwrth y rhyfel yn_Fwrop ac Asia. Gan fod hwn yn fater o ddyddordeb cenedlaethol, yn gystal a chrefyddol, ac nad oes neb €to gan belled ag y gwn, wedi ei dra- fod yn gyhoeddus, chwi ganiatewch i mt ychydig o ofod i ddweyd gair am dano yn y "Drych." Ymddengys fod rhai brodyr adna- byddus a chyfrifol, megys Dr. Mac Farland, John R. Mott, ac eraill, wedi bod yn rhai o'r gwledydd eu hunain, ac mewn rhan yn llygaid dystion o'r angen, ond mewn gohebiaeth a brodyr eraill a wyddent yn Ilawer gwell; a thystiolaeth unfrydol yr oil yw fod sefyllfa y gwledydd yn ddifrifol, a'r angen tuhwnt i allu dynol i'w ddes- grifio. Am Belgium, dywedir fod tair mil- lwn allan o'r saith mHiwn poblogaeth mewn angen, ac yn byw ar un pryd yn y dydd. Anfonodd y Rockefeller Foundation, un Mr. E. C. Walcott yno, er dwyn adroddiad am sefyllfa pethau yn y lie. Yn mhlith pethau eraill, dy- wedai y byddai yn newyn cyffredinol yno mewn mis, neu lal, pe y peldid ag anfon bwyd yno. Gwelodd filoedd 0 bobl yn sefyll yn yr eira a'r gwlaw, yn wlyb ac oer, yn dysgwyl am eu bara a'u eawl. Dychwelodd i'r gorsafau dosbarthiadol ddiwedd y dydd a chan- fyddodd ddynion, a merched, ac weith- iau blant, yn parhau i sefyll, ond yn diMweddarach, yn cael eu gorfodi i ddy- chwelyd i'w cartrefi truenus yn oer, gwlyb, a newynog gyda deunaw awr o'u blaen cyn y caent fwynhau y pryd ceddynt wedi ei golli. Ac y mae sef- yllfa pethau y fath yn y wlad fel pe pcidiai y rhyfel y parhat yr angen am lawer o fisoedd. Yn Ffrainc Ogleddol y mae yr angen, os yr un, yn fwy nag yn Bel- gium, trwy fod Germani wedi gwa- hardd trawsgludo defhyddiau ymborth o Belgium i'r rhan hono o'r wlad, y mae y boblogaeth wedi eu hamddilfadu i raddau o fwyd a dillad. Gwelir yno gyfoethogion yn cerdded yn droed- noeth, gwragedd a phlant bron yn noethion, ac mewn angen cynaliaeth. Cyfrifir fod dros ddwy filiwn o'r truen- usion hyn yn y parth hwnw o Ffrainc, ac yn lie myned yn well, dywedir ei bod yn gwaethygu yno, a bod niter y rhai Fydd yn marw o'r herwydd wedi cadi o 20 i 42 y cant. A hon, sef America, yw yr unig wlad fawr yr edrychir ati am gynorthwy. Gwerth- fawrogid rhoddion o ddillad, ac esgid- iau yn fawr gan y ddwy wlad olaf, yn ychwanegol at foddion cynaliaeth. Yn Serbia dywedir fod cynifer a phum miliwn o bobl wedi eu hamddi- fadu o fywiolaeth mewn canlyniad i'r rhyfel. fel y mae angen am bum mil- iwn o ddoleri er cael doler ar gyfer pob un. Y mae miloedd o Serbiaid wedi ffoi yma ac acw, at y porthladd- oedd, a manau eraill, heb ddim ar eu cyfer ond a dderbyniant yn elusen. Yn Poland ceir un-ar-ddeg o filiwn- au yn grwydriaid digartref,' a thair a haner o filiwnau mewn cyflwr o newyn, heb ddim ond marwolaeth ym eu gwynebu os na ddaw gwaredigaeth gyflym o rywle. Dywed Paderewski fod llawn un ar ddeg o filiynau o wragedd diymadferth, plant, pobl wladaidd, a gweithwyr, sylwedd a nerth y genedl, wedi eu gyru i'r awyr agored; ac fod miloedd yn ymguddio yn mhlith malurion, mewn coedwig- oedd a cheudyllau, yn ymborthi ar wreiddiau a rhisgl coed. Y mae can- oedd o filoedd o deuluoedd oeddynt un- waith yn llwyddianus wedi myned heb ddim-yn newynog, claf, ac yn marw. "Yn enw cariad Cristionogol, meddai, ac yn enw dynoliaeth gyffredinol, apel- iaf at bobl America fawr i gynorth- wyo." Yn Nwyrain Prwsia hefyd y mae Ilawer o'r bobl mewn cyflwr difrifol o herwydd anrheithiad byd,dinoedd y gwahanol wledydd, ac apelir am gyn- orthwy i'r pum can mil gweddwon yn yr Ymerodraethau Canolog. Am Armenia, yr unig reswm diros fod y genedl hon heb gael ei Ilwyr ddifa, ydyw ymyriad ein cynrychiol- wyr Americanaidd, a'r cynorthwy a dderbyniwyd o'n gwlad. Y mae haner miliwn o ffoedigion Armenaidd yn nghyfeiriad Damascus, Zor, ac Aleppo eto, mewn angen cynorthwy, gyda thri chan mil yn Twrci, a dau can mil yn y Caucasus ac Armenia Bersaidd. Ac yn awr dyma air yn erfyn am gynorth- wy i drigolion Mynyddoedd Libanus, Ilawer o ba rai ydynt yn marw o newyn o herwydd colli cnwd y llynedd trwy bla y locustiaid. A pheth am Brydain, a Chymru fechan. Er nad oes apel am gynorth- wy iddynt hwy, eto rhaid fod y rhy- fel yn dweyd arnynt hwythau, gan fod yno lawer o glwyfedigion erbyn hyn, yn nghycl a llu o weddwon ac o amddi- faid, a u dyfodol yn ymddangos yn ddi- gon tywyll. Mewn parnphledau diweddarach oddiwrth y Cyngor, gelwir sylw at ddeillion y rhyfel. Dywedir fod dwy filiwn a haner o ddeillion yn y byd cyn y rhyfel, oil yn dybynu mwy neu lai ar garedigrwydd a haelioni eraill, ac y mae y rhyfel yn barod wedi ychwanegu miloedd atynt, ac apelir yn daer am gynorthwy iddynt. Eraill yr apelir ar eu rhan ydyw Protestaniaid Ffrainc. Dygwyddai fod prif nerth y rhai hyn yn y rhanbarth a anrheith- iwyd yn benaf gan yr Ellmyn, ac y maent wedi colli eu haddoldai, a'u gweinidosrion, a'u pobl wedi eu gwasgu i gyfyngder mawr. Fel hyn y mae holl Ewrop yn faes ag sydd yn apelio yn gryf at Gristion- ogion America ar hyn o bryd. A gawn ni gynorthwyo hyd eithaf ein gallu. Da genyf d'dweyd fod Cymanfa y T. C. yn Penna. wedi pasio i'w heglwysi oil i wneyd casgliad at y peth, a hysbysu i'w thrysorydd, Griffith Thomas, Wind Gap, wrth ddanfon y casgliad, at ba wlad y carai drosglwyddo ei chyfran. Diau pe y carai eraill anfon eu cyfran i ofal Rev. Charles S. MacFarland, D. D., 612 United Charities Building, 105 E. 22nd St., New York, General Secretary y Federal Council, gyda'r un 'hysbysiad, yr anfonai efe i'r man y dylai fyned, ac y mae yn sicr genyf pe yr anfonid ef i ofal R. Morris Williams, Box 256. Utica. N. Y., gyda'r un cyf- arwyddyd. y gwnai yntau yr un peth.

Advertising

ICYNGERDD LLWYDDIANUS YN MARYSVILLE.…

Advertising