Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
m Or-gcb, a WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning. THOMAS J. GRIFFITHS. Proprietor. UTICA, W. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.-The attention of business men in general is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with subscribers In every State and Territory of the Unton, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
GALLU A BYWYD Y GREADIGAETH.
GALLU A BYWYD Y GREADIG- AETH. Gan Eben P. Davies. I Penod XI. I Y mae amryw o ddarllenwyr y "Drych" wedi ysgrifenu ataf i ofyn am ffynonell y ddamcaniaeth drydanol- yn inha lyfr neu lyfrau y eeir hi, a phwy oedd ei darganfyddwr a'i hadeil- adydd? etc. Y cyfrwng goreu i'w hateb yw y "Drych," ond nis medraf ddweyd mwy ar y mater hwn nag a ddywedais yn y benod gyntaf-yn "Nrych" Tach. 5, 1914. Canfyddwyd y gwirionedd gan y Barnydd John Richardson, Ill., ac air lygodd ef i B. T. Kavanaugh, M. D., D. D., Mt. Sterling, Ky., yn y flwyddyn IS, 34, yr hwn a ddadblygodd y gwirion- edd i raddau helaeth. Bu yn darlithio ar y ddamcaniaeth yn ngbolegau rhai c'r talaethau deheuol a gorllewinol. Nid wyf wedi gweled y darlithiau; ond o Awst 1882 i Gorph. 1883, ysgrifen- odd amryw o erthyglau i "Wilford's Microcosm," ac o'r ysgrifau hyny yr wyf yn tynu y rhan fwyaf o'r mater sydd yn yr ysgrifau ar "Allu a Bywyd y Greadigaeth." Penawd ysgrifau Dr. Kavanaugh oedd "Electricity the Motor Power of the Solar System." Os oes rhai o ddarllenwyr y "Drych" a'r rhifynau hyny o'r "Microcosm" yn eu meddiant, y mae ganddynt gymaint ag y mae E. P. D. wedi ddarllen ar y ddamcaniaeth drydanol. Ond teg yw dweyd, fel y dywedais yn y benod gyntaf, fod, ac 'y bydd, llawer o syniadau yn yr ysgrifau nad yw y personau a enwais yn gyfrifol am danynt; ond nid oes arnaf un pryler wrth ddweyd eu bod mor brofadwy oddiar y safbwynt trydanol ag yw un- rhyw syniad neu osodiad yn y ddam- caniaeth. Yr wyf yn ei chredu yn irwyadl, ac hoffais hi yn fawr pan welais hi gyntaf. Ymae wedi bod yn "favorite subject" fy myfyrdod byth oddiar hyny, a chaf lawer iawn o bleser wrth sylwi fel y mae athrawon gwyddonol rhai on colegau yn symud yn raddol, ond sicr, tuag at drydan- iaeth fel elfen bwysfawr yn esbonlad- aeth amlygiadau rhyfeddol natuT, ar y ddaear isod, ac yn y nefoedd uchod. Mewn penod ddyfodol gwnawn sylwi fel y mae tueddfryd ein gwyddonwyr a'n seryddwyr tuag at drydaniaeth yn cynyddu. Gobeithio y bydd hyn o eglurhad ar gychwyniad y ddamcaniaeth yn fodd- haol a digonol hyd ddiwedd y gyfres. Yn y penodau blaenorol cyfrifasom yn drydanol am droad y ddaear aT. ei phegynau, yr hyn a rydd i ni ddydd a nos; am hyd ein diwrnod; am hirgryn- edd ei llwybr, ac am ei thaith flynydd- ol o gyleh yr haul. Profasom hefyd na fedr dysgyrchiad gyfrif am ddim o'r pethau hyn. Cyn dechreu egluro yr amlygiadau uchod, profasom fod yr haul, mewn maintioli a natur, yn add- asol i gynyrchu digon o drydaniaeth i gyfarfod a holl ofynion y ddaear yn ei symudiadau dyddiol a blynyddol, ac hefyd, bod y ddaear wedi el chynysg- aeddu a'r elfenau gofynol er manteislo i'r graddau mwyaf a manylaf o'r drysorfa heulog i'r perwyl o gyflawni ei gwaith apwyntiedig. Yh y benod ddiweddaf, profwyd fod dysgyrchiad, nid yn unig yn analluog i gyfrif am hirgrynedd llwybr y ddaear, ond hefyd, fod y cyfryw hir- grynedd, ynddo ei hun, yn gwrthbrofi ei honiadau. Pe na bai. dim arall yn gwneyd hyny, y mae yr amlyglad. hwn yn unig yn profi nad yw'r ddamcan- iaeth ddysgyrchiol yn ddim ond hon- iadaeth ddisail o'r dechreu i'r diwedd. Ond nid hirgrynedd cylchdaith y ddaear yw yr unig ergyd marwol i'r ddamcaniaeth ddysgyrchiol (pe bai angen rhagor nag un) fel y dengys a ganlyn. Y mae yn ffaith wybyddus i bob ser- yddwr nad yw y ddaear yn symud gyda'r un cyflymder yn mhob man o'i chylch-dro. Mewn perthynas i'r ffaith hon, dywed Burritt yn ei "Geography of the Heavens" fel hyn, "Braidd byth y dengys yr awrlais cywiraf yr un am- ser a ddengys haul-ddeial. Y mae y gwahaniaeth rhyngddynt, ar rai adeg- au, yn gymaint ag un-ar-bymtheg a chwarter o fynydau. Un o achosion y gwahaniaeth hwn yw annghyfartaledd symudiad y ddaear oddi amgylch yr haul." Onid yw yn syndod fod serydd- wr, o wreiddioldeb Elihu Burritt, yn cydnabod ffaith sydd mor angeuol i'r ddamcaniaeth ddysgyrchiol, ac eto yn ei derbyn ac yn ei dysgu fel pe medrai gyfrif yn foddhaol am yr annghyfar- taledd hwn! Y gofyniad cynta-f a ddaw i'r meddwl yw, Pa fodd y mae yn bosibl i allupedd "annghyfnewid- iol"-dysgyre)hiad a "mom-entum"- ,effeithio ar y ddaear nes pery iddi symud yn arafach ac yn gyflymach? Os, fel yr hona y dysgyrchydd, y der- byniodd y ddaear ei holl allu hyrddiol (momentum) pan daflwyd hi allan o law ei Chreawdwr, pa fodd y medr y gallu unffurfiol hwn gymwyso e1 hun fel ag i amrywio cyflymder y ddaear? Nid oes y fath beth a gwagder hollol yn y gyfundrefn heulog, oblegid llen- wir pob man drwy y cysawd gan oleu- ni a thrydaniaeth. Nid yw yr elfenau hyn yn ddarostyngedig i ddysgyrch- iad, felly diddymir dau o brif hanfod- ion y ddamcaniaeth ddysgyrchiol. Ond hyd yn nod pe byddai y ddaear yn sy- mud mewn perffaith wagder, yr unig fantais fyddai iddi-y gwnai ei symud- iad yn unffurfiol ac yn barhaol. Cyn y gellir cyflymu ei symudiad, dywed "The third law of motion," fel y dy- fynwyd yn y benod ddiweddaf, ei bod yn ofynol ychwanegu ysgogydd arall trwy nerth rhyw wrthrych y tu allan- eto, dysgwylir i ni gredu y medr "momentum" fwyhau ei nerth ei hun, heb un cynorthwy o'r tu allan! Y mae yn wrthddywediad i honi y medr gallu annghyfnewidiol gynyrchu symudiad amrywiol ac annghyfartal, y mae y syniad yn wrthun i'r eithaf. Y mae unffurfiaeth ac amrywiaeth, neu sefydlogrwydd a gwamaleiddiwch, mor wrthgyferbyniol ag yw goleuni a thywyllwch, da a drwg, neu fywyd a marwolaeth. Felly, gan nas medr sef- ydlogrwydd a gwamaleiddiwch fodoli yn yr un gwrthrych, beth yw ein dy- ledswydd? I'r gofyniad hwn nid oes ond un afrebiad, a hwnw yw mai ein dyledswydd yw gwneyd i ffwrdd a'r hyn sydd a lleiaf o brawf dros ei fodol- aeth, ac yn gymaint a bod, annghyfar- talwch symudiad y ddaear yn ffaith gydnabyddedig, tra nad yw y galluoedd "cyson" ac "annghyfnewidiol" yn ddim ond dychymygion, y mae yn can- lyn fod cysondeb gwyddonol yn galw arnom i wneyd i ffwrdd a'r olaf. Tra y mae dysgyrchiad a "moment- um" yn gwbl analluog i gynyrchu sy- mudiad amrywiol y ddaear, a thra y mae eu idylanwad yn hollol i'r gwrth- wyneb, eto, oddiar safbwynt trydan, iaeth, nid oes yr anhawsder lleiaf i'w esbonio. Nid yn unig y mae yn bosibl cyfrif am dano, ond y mae yn neill- duolrwydd arbenig y gallem ddysgwyl mewn cysyiltiad a phlaned begynol. Byddai deddfau ysgogiad trydanol yn cael eu tori pe na fodolai. Fel y dywedwyd mewn penod flaen- orol, gwna y ddaear gyflwyno i'r haul ei phegwn cadarnhaol, yna un o'i hochrau cyhydeddol, yna ei phegwn nacaol, ac yn olaf ei hail ochr gyhyd- eddol. Wi th newid o un i'r Hall, gwna y ddaear, o angenrheidirwydd, gyf- lwyno mwy neu lai o'i phegwn cadarn- haol neu ei nacaol i'r haul, yr hiyn a gyfrif yn gyflawn a boddhaol am ei symudiad arafach a chyflymach. Cyn y gellir cynyrchu symudiad annghyson, rhaid yw i'r gallu ysgogol fod yn new- idiol, a chawn y briodoledd hon yn gyflawn ac yn berffaith mewn trydan- iaeth—a'i gynyrch, ehedfaenedd, "magnetism."
[No title]
Dywed y "London Daily Express" fod amryw o forwyr Germanaidd yn mysg y carcharorion gymerwyd gan y Prydeinwyr yn ddiweddar ar y ffrynt gorllewinol. Dywed y morwyr hyn eu bod wedi cael eu hachub yn mrwydr ddiweddaf Mor y Gogledd. Pan lan- iwyd hwy yn Germani rhoddwyd gwisgoedd milwrol am danynt, ac an- fonwyd hwy i'r ffosydd er mwyn rhwystro iddynt ddweyd gartref beth ddygwyddodd i'r llongau Germanaidd. Fel hyn y mae Germani yn cadw'r gwirionedd rhag y bob!, a gorfodir hwy i gredu yr adroddiadau celwyddog gyhoeddir 'ganddynt.
ICERDDORIAETH - SWN, SAIN…
I CERDDORIAETH SWN, SAIN A MYNEGIANT. Gan John B. Lodwick, Youngstown, O. Rhaid wrth seiliau cyn y gellir adeiladu yn gadarn a threfnus. Eto, rhaid ymgyfarwyddo gyda'r defnyddiau a ddefnyddir i adeiladu, ac wedi Hawer o ymarferiad a phrofiad yn y pethau hyn, gydag addysg angenrheidiol i gyf- lawni y gwaith yn iawn, ni a awn rha- gom. Y sail gyntaf a osodwn i lawr ydyw dweyd fod swn yn rhywbeth ei hun, nid dylanwad yn unig ydyw. Tybia rha,i mai tonau awyrawl ydyw swn. Nid felly; y mae i swn fodolaeth fel ag sydd i'r gwynt neu drydaniaeth Fel y gwna y trydanydd ddefnydd o drydaniaeth i fod yn wasanaethgar i'w ddybenion ef, ac fel ag y mae natur ei hun yn gwneyd defnydd o hono mewn gwahanol foddau, ar wahanol adegau, felly hefyd y gwna y cerddor, ac y gwna natur, gyda swn mewn llawer dull a modd. Gwna'r dyner awel drwy deithio drwy y dail sibrwd ei alaw fwyn, a gwna y gwynt cryf drwy deithio ar uchelfanau, a'r goed- wig eang a chain a chwibanu cerddor- iaeth gwynfanus. Ond gwna'r daran gref drwy ei chyflymdra aruthrol ein dychrynu gyda'i rhuthrgerdd sydyn a dychrynllyd. Dywedwn eto fod swn yn bodoli yn beth ynddo ei hun, a defnyddiad o'r peth hwn mewn gwa- hanol foddau sydd yn gwneyd cerdd- oriaeth o bob math yn y byd. Fel ag y mae y trydanwr yn gosod ei ffrwyn ar war trydaniaeth, a phery iddo ufuddhau i'w oirchia.dau ef, felly y cerddor yntau hefyd a ddefnyddia swn i'w amcanion cerddorol, ac a wna wrhydri drwyddo, ac hebddo, nis gall y cerddor wneuthur dim. Mae yn eg- lur gweled mai dyn a,c aderyn ydyw.y rhai sydd yn gwneyd fwyaf o ddefnydd cerddorol o swn, ac y mae yr aderyn drwy reddf yn dechreu seinio yn fwy perffaith na dyn. Ond am mai aderyn ydyw, y mae efe yn parhau i ganu yr un gan o hyd, eto cynyrcha'r aderyn seiniau cerddorol melus. Talai'r ffordd i'n cantorion ieuainc roddi sylw i'r aderyn bach pan fyddo yn canu. Seinia ei nodau yn berffaith soniarus. Paham y mae crythwr yn mynd i'r drafferth i gael llinynau newydd, ac yn gwella sainfwrdd ei grwth? Eis- ieu sain mwy swynol sydd arno. Rhaid dyfod i delerau swn cyn y gellir cynyrchu sain felus a hyfryd. Eto, a y gantores ieuanc sydd yn canu yn rhagorol at ei hathraw cerddorol er diwyllio ei llais; eisieu seiniau mwy swynol sydd arni hithau, fel y byddo ei llais yn odidog felus, ac wedi ei barotoi gamddi gyferbyn a'r oes gerdd- orol sydd o'i blaen. Wedi ymchwiliad manwl, gwel yr athraw fod, y sain yn cael ei lethu gan ei gwddf; eto, gwel fod ei thafod fel cefn camel yn ei genau yn andwyo y llais ar ei ffordd allan, ac weithiau bydd y sain yn dyoddef oddiwrth y trwyn, nes gwneyd y sain yn drwynawl; a llafuria yr athraw a'r dysgybl am rai blynydd- oedd drwy eu hymarferiadau cerddorol rheolaidd, nes gorchfygu yr holl an- hawsderau hyd nes y cynyrcha y gan- tores sain bur a melus. Yna y mae ei harfogaeth yn awr yn barod iddi fyned yn mlaen at waith ei hoes, nes y delo yn gantores uwchraddol a swynol, yn rhoddi mynegiant clir a dealladwy yn y dadganiad o'i clianiadau nes synu cerddorion diwylliedig yr oes. Am fy mod eisioes wedi anog ein cantorion i ddysgu eu gwers i seinio eu Icaniadau drwy edrych ar yr aderyn, yn awr, carwn eu rhybuddio i beidio bod fel yr aderyn yn canu yr un gan yn barhaus, am eu bod wedi derbyn llawer o addysg a diwylliant i'w cym- wyso i wneyd defnydd o gerddoriaeth ragorol ac uwchraddol. Bydded fod ganddynt yn awr ddigon o ganeuon newydd yn nhrysorfa eu cof yn barod at eu gwasanaeth. Gantorion anwyl, peidiwch bod fel yr aderyn, yn canu yr un hen gan o hyd. Profedigaeth fawr i hen gerddor adawodd wlad ein tadau haner canrif yn ol, ydyw clywed y to ieuanc yn canu yr un hen ddarnau cerddorol ag a ganodd yntau yn moreu ei oes yma ac yn yr,Hen Wlad. ,t Ych- ydig amser sydd er pan aethym i wrandaw ar un o denoriaid Cymru pan oedd efe ar daith gerddorol drwy'r wlad; yr oedd efe yn ganwr rhagorol, ond o herwydd iddo ganu hen gan sydd wedi ei chanu am haner can mlynedd yma "The American Star," bu diflas- dod mawr, am fod pob canwr o nod yma wedi dysgu'r gan, ac wedi myn- wesu cariad ac edmygedd at ein har- wyr Americanaidd, Washington a Montgomery, nid, oeddem yn mwynhau y gan na'r dadganiad o honi, a syrth- 1 iodd y dadganwr islaw ein dysgwyliad- au. Methodd fod.ihau ein gofyndon! Tydi ganwr Oymu>ig, paid a !bod yn aderyn. Diolch am fod y Cymry yn gantoT- ion naturiol. lV[?>1aDt y Cymry yn nodedig am hyi. Tystiai Proff. Leightner, yr hwn f: yn athraw cerdd- orol ar ysgolion ^ydMiol Youngstown flynyddau yn ol, wrthyf, yr adnabydd- ai efe blant y CYll14'Y wrth eu lleisiau mor fuan ag yr agorent eu geneuau. Meddai efe, "Y maent wedi eu geni yn gantorion naturiol." Credwyf fod yr hen wlad yn ol rhifedi y boblogaeth yn codi mwy o gantorion na'r un wlad arall. Melus gofiwn am yr Eisteddfod fach, y cyfarfodydd llenyddol, a'r Band of Hope. Diolch am gyfleusderau boreu oes, a gresyn na chawsai ein icuenctyd ni yn yr oes hon fwynhau yr un breintiau.
IDAFYDD YPJTN UN 0 HYD. I
I DAFYDD YPJTN UN 0 HYD. I i Gan Ithel. I Oddeutu dau Citi mlynedd yn ol, yr oedd bachgen o'r cnw Dafydd Huws yn byw yn mhlwyf ifelantrisaint, yn ynys dywyll Mon, maifi Cymru, yr hwn a adwaenid yn gyffredinol wrth y llys- enw "Dafydd yr un un o hyd." Nid oes wybodaeth sifcr am ei rieni, ond dy- wedir mai ple1(tyn annghyfreithlon oedd, ac fel bach%tn ar y plwyf y dyg- gwyd ef i fyny, a gwasanethai o dymor i dymor yn y gwahanol dyddynod yn mhlwyf Llantrisaint. Yn nhymor y gwanwyn, ei waith oedd cadw y brain oddiwrth yr egin arrawn, y rhai ar adegau wnant ddiirod nid bychan ar y cyfryw. Ymddengys iddr gael gafael ar lyfr yn yr iaith Saesneg, yr hwn a dynodd ei holl feddwl oddiwrth ei waith, a'r canlyniad fu, idd°i golli ei waith yn y ffermydd, a'r an s>iad oedd am dano .ad 6edd atn dano gan yr amaethwyr yn ddiwahaniaeth, sef mai yr un. un oedd Dafydd o hyd. Yn ei drallod aeth i gwynfan wrth hen wreigan weddw ar y plwyf, yr hon a gydymdeimlai ag ef, ac a roddodd fwyd a llety iddo. Un diwrnod dy- wedodd wrthi, "Modryb, 'rwyf am fynd oddi yma." "I ble yn y byd yr ei di, Dafydd bach?" meddai hithau. "Mi af i ryw- le o swn yr enw 'Dafydd yr un un o hyd," a diflanodd o fywyd plwyf Llan- trisaint. Yn mhen blynyddoedd meithion, ar foreu Sul, fel yr oedd yr arfer yn yr oes hono, pan oedd lluaws o'r trigolion wedi ymgasglu, rhai yn mhorth y fyn- went, ac eraill yn eistedd ar y ceryg beddau yn ymdrin am bynciau a hel- yntion y dydd, daeth dyn yn garpiog a bier ei wisg, ac a ymgymysgodd a hwynt—a'r gofyniad cyfCredinol oedd, "Pwy di'r hen greadur yma, tybed?" Yr oedd un beth bynag yn graffach ei lygaid na'r lleill, ac meddai, "Myn cebyst, Dafydd yr un un o hyd ydi o." Yr oedd y mwyafrif bron yn ei ysgoi ef, ac eraill yn ei holi, ond ychydig doethach oeddynt, o herwydd cynil iawn oedd ei atebiad i'w gofyniadau. Dywedodd un "Oes arnat ti ddim cy- wilydd o honot dy hun, yn fler fel hyn ar hyd y blynyddoedd, dwad? I'r hyn yr atebodd yntau yn lied ddigyffro, "Nag oes, wir, am wn I." Cyn pen hir gwelai yr hen wreigan yn dod drwy borth y fynwent, ac aeth i'w chyfar- fod gan ofyn "Modryb, sut ydach chi er's talwm?" "Diar bach, Dafydd wyt ti, dwad." "Ie, Dafydd yr un un o hyd," ac i mewn i'r eglwys a hwy, gan gydeistedd yn yr un set. Ar ddiwedd y moddion dywedodd yr hen wreigan, "Tyd hefo mi, mae acw benog a thatw gei di, ac ma'n ddrwg gin i yr olwg sydd arnat gan dloted ag erioed." "Na hitiwch, modryb, 'Dafydd yr un un o hyd' y gelwid fl, ac mae yn ymddangos fel pe yn wir." Ar ol y pryd o fwyd, diolchodd iddi, ac ymaith ag ef. Bron yn wawdlyd a dirmygus oedd. ymddygiad y trigolion tuag ato. Yn rhhen rhyw flwyddyn wedi hyn, ar foreu Sul teg a hyfryd yn y gwan- wyn, pan oedd hen gloch Llantrisaint ar fedr rhoi ei thine olaf y boreu hwnw, dyma gerbyd ysblenydd, a meirch porthianus, a gweision lifrau, yn gyflym ddod i borth y fynwent, ac o'r cerbyd disgynodd dyn a dynes yn hardd eu gwisgoedd, ac i fewn i'r eg- lwys a hwy ac i set yr hen wreigan weddw. Mawr oedd y dyfalu pwy a allent fod, -a phan ddaeth Warden yr Eglwys yn mlaen i gynyg sedd well iddynt, gwrthododd y 'boneddwr yn hynod foneddigaidd. Ar ddiwedd y gwasanaeth dyma'r boneddwr yn troi at yr hen wreigan, a chan gymeryd ei Haw, gofynodd sut yr oedd hi? "Pwy 'dach chi, syr?", gofynai yn wylaidd. "Adwaenoch chwi mo 'Dafydd yr un un o hyd?' a dyma fy ngwraig, ac os cawn ni, awn hefo chi i gael cinio." Yr oedd yr hen wreigan wedi pen- syfrdanu gymaint fel nas gallai ateb yr un gair. a chydiodd Dafydd yn ei Haw, yr hon a roddodd yn ei fraich, gan ei harwain hi i'r cerbyd ac a'i gosododd hi i eistedd wrth ochr ei wraig, yr hon oedd wedi eu rhagflaenu, ac i'r bwthyn yr aethant i giniawa. Mawr fu y syndod, y son a'r siarad drwy yr holl blwyf yr wythnos gan- lynol yn nghylch y dygwyddiad, a phan glywstant mai Dafydd oedd. Ymddengys fod Dafydd wedi gweith- io ei ffordd i Lundain, lie y cafodd waith fel "office boy" mewn ystorfa de, ac o ris i ris ymgododd i fod yn brif glerc, a,c wedyn yn bartner yn yr ys- tordy, ac a briododd ferch ei gynfeistr, a bu'n hynod lwyddianus yn ei fasnach Sefydlodd yr Ysgol Ramadegol rad yn nhref Biwmaris, a gwaddolodd ihi gan roddi ysgoloriaethau i fechgyn tlodion y sir; adeiladodd elusendai i'r hen a'r amddifad tu allan i'r dref, a rhai yn mhlwyfi Penymynydd a Llantrisaint, a rhoddodd flwydd-dal o 25p. am ei hoes i'r hen wreigan, ac ni fu gywil- ydd ayno yohwaith arddel y llys-enw "Dafydd yr un un o hyd."
DAU DDRYCH DIWEDDAR. I
DAU DDRYCH DIWEDDAR. Gan Dr. Daniel Williams. I Nid wyf wedi llinellu i'r "Drych" ar ol gadael Spokane, os wyf yn cofio. Gadawsom Spokane foreu Mawrth, Mai 30, a daethom boreu dranoeth i Miles City, Montana, lie y buom hyd foreu Llun canlynol. Tref o 8,000 yw Miles; cryn dipyn o ysbryd y cowboy yn y dref, ac yn y wlad o gwmpas. Pregethais foreu Sul i'r Parch. J. F. Smith, gweinidog yr eglwys Bresbyter- aidd. Mae George M. Miles, nai y cadlywydd, ar ol yr hwn yr enwyd y dref, wedi bod yn arolygwr yr Ysgol Sul Bresbyteraidd am 37 mlynedd. Ni chlywais am Gymro yn y dref, nac yn y cylchoedd, er nad oes pellder mawr iawn i Wolf Point lie y cartrefa y Parch. D. E. Evans a'i deulu. Erbyn nos Lun yr oeddym yn Mandan, yno mae Mrs. True, chwaer Roger Owens, Minneapolis. Gan na chaem dren dranoeth hyd dri y prydnawn aethoan dros yr afon i Bismark, lie y cefais ymgom a David T. Owens, mab Owen D. Owens, sefydliad Lime Springs flyn- yddau yn ol. Mae David yn y real estate, wedi bod yn bur llwyddianus. Mae hefyd yn un o ymddiriedolwyr yr eglwys Bresbyteraidd. Cefais gand-do un rhifyn o'r "Drych" oeddwn heb weled. Cyfarfyddais yma hefyd a'r Parch. J. R. Hughes, bachgen da a gweithgar o Nefyn, wedi bod, 10 mlyn- edd yn Bismark ond ar symud i Aber- deen, S. Dak. Erbyn chwech, yr oedd y wraig a minau yn Golden Valley, tua 75 milldir i'r gogledd-orllewin o Bistmark, a rhyw 20 milldir i'r dwyrain o Killdeer, pen y ffordd haiarn yn awr. Yma y bu farw Mr. Davfd Roberts, gynt o sefyd- liad Oshkosh rai misoedd yn ol. Wedi rhai dyddiau yn Golden Valley, daeth- om i Minneapolis, lie yr arosasem ddwy wythnos gyda fy mrawd a'm chwaer a'u teuluoedd. Cefais y Gymanfa tra yma. Y Parch. R. R. Davis, Wilkes- Barre, Pa., oedd y pregethwr gwahodd- edig. Cawsom bregethau dyddorol ganddo. Ni welais neb yn gallu cadw yr yabryd Cymreig mor gyfan yn y bregeth Saesneg. Bu y Parch. S. E. Prydderch, gweinidog Minneapolis, yn wael am beth amser wedi croesi y mor, ond yr oedd wedi gwella erbyn adeg y Gymanfa. Clywais ef nos Sul ar ol y Gymanfa, cynulliad da iawn, ac ystyr- ied fod y gwlaw mor drwm. Pur annghyson oeddwn yn gweled y "Drych" pan ar y daith, eto ces gip- olwg ar bob rhifyn yn rhywle neu gil- ydd. Ysgrifau da yw rhai David Lloyd ar "Fedd Goronwy." Da iawn yw rhai T. J. Peters ar ."Athroniaeth y Medd- wl," yn enwedig yr ail oedd yn trin am ddysgeidiaeth Socrates; mor glir y dyg yr hen Roegwr allan yr athraw- iaeth fod dwy ran mewn dyn. Prin y mae rhai o psychologists enwog yr oes hon yn deall hyn. Da fyddai i rai o honynt fyned yn ol i'r hen oesoedd a chymeryd gwersi gan rai o'r hen athrawon paganaidd. Yn "Nrych" Mehefin 22, sonia David Grey am Ddarwiniaeth ac Etholedigaeth. Yr wyf yn sicr na wyr D. G. fawr am yr athrawiaeth o etholedigaeth, ac nid yw yn amlwg iawn oddiwrth y darn hwn o'i eiddo ei fod yn gwybod llawer am Ddarwiniaeth ychwaith. Rhaid cael duwinydd da i ddeall etholedig- aeth, ac mae ambell i dduwinydd yn methu ei deall, ond yr wyf fi yn methu gweled lliw duwinydd o fath yn y byd ar David Grey. Cwynais unwaith neu ddwy pan yn y Gorllewin pell nad oedd fy llyfrau wrth law, ond erbyn hyn, dyma fi yn ol, a rhai o honynt yn y cyraedd. Byddaf yn barod bellach i ateb cwes- tiwn yn awr ac yn y man.
Y FENYW.
Y FENYW. Gan E. Puntan Davies. Wel! Wel! Wel! Druan o'r then "Ddrych" anwyl, ei ddarllenwyr, a minau hefyd yl\, y fargen, oblegid dyma fi wedi syrthio i ryw botes rhyfedd wrth geisio ymaflyd yn y fath destyn! Dywed y pregethwyr yn fynych mewn rhagymadrodd i'w pregethau, "fod y testyn yn ymagor y ffordd yma ,a'r ffordd acw," ac yn yr ymagoriadau fflaohiadol hyny, neidia rhyw "benau" nodedig. i'r amlwg, a roddodd iddynt weledigaethau ffafriol i draethu a.r- nynt, a'r rhan fynychaf bydd yn fwyn- iant pleserus i wrando ar yr hyn a ddy- wedir. Ond, dyma fi, megys wedi ym- aflyd mewn testyn geir ddim yn ym- agor ar benau yn unig, ond ar gyn- ffonau, a mil a mwy o wahanol weled- igaethau a rhyfeddodau diderfyn! On,d y pwnc mawr wedi'r cyfan ydyw, ceisio edrych trwy yr holl ddyrysweh plethedig yma, a ydyw ddim yn bosibl i ni gael rhyw olygfa fechan o adna- byddiaeth o'r gwrthrych menywaidd yma sydd wedi bod yn byw gyda ni gyhyd. Mae menyw ddysgedig a dawnus wedi taflu yr her (challenge) i'r gwr- yw i lawr, nad ydym, ac felly y mae'n rhaid i ni, o dipyn i beth, geisio ym- ddangos ein bod, neu ynte, fod yn dawel a boddlon yn ein tywyllwch. Rhyw ymgais wanaidd ydyw hon gan fab i fenyw geisio amlygu y ffordd, hon a'r ffordd arall fod y sawl sydd wedi ymdrechu i osod y gwryw, mor ddall ac anwybodus, ei bod yn cyfeiliorni, gan obeithio y daw rhagorach meddyl- iau i'r ymdrechfa ddynol. Rhaid i mi gyfaddef, y buasai yn dda iawn genyf pe buasai y fath destyn heb erioed ddy- fod ar fy meddwl, ac yr wyf yn awr bron a digio wrth goffadwriaeth un a feddyliwn yn fawr o hono, am iddo gyfeirio ato heb ei wyntyllu yn dda, ac am ei adael mor ddiseremoni ag y gwnaeth. Menyw oedd fy nain hefyd, Rachel Puntan, end er y fantais hyny o adna- bod y fenyw, mae'n rhaid cyfaddef ei bod yn galed arnaf, hyny yw, i geisio esbonio y gwahanol bethau rhyfedd a ddaw o flaen y meddwl mewn perthyn- as iddi! Menyw eto ydvw y wraig, ond dal o hyd mewn rhyw dywyllwch ydwyf, heb weled ffordd glir fy mod yn adnabod y fenyw yn drwyadl! A dechreu menyw oedd Jane fach fy chwaer, oedd mor anwyl genyf pan yn grwtyn bychan gartref. Er hyny, nid ydwyf yn gallu ymsymud, am fod y fenyw yn dal i ddyfod o fy mlaen yn ei holl ffasiwnau ac amrywiaethau geir yn palfalu y ffordd mor enbyd! At bwy yr af am help nife gwn, am ei bod yn actio a gwisgo mor rhyfedd! Mae'n gryn lawer rhwyddach cyfleithu darn- au clasurol na rhywbeth fel yma. Ond am ei beirniadu, y mae'n myned yn ddu nos hollol arnaf! Aroswch dipyn, er i mi telephonio at yr hen Foses gynt o'r Hen Desta- ment anwyl a pharchus; efallai y caf wybod rhywbeth am gychwyniad y fenyw gydag ef, a fydd o help mawr i ni wrth fyned rhag ein blaen. Paid a chwerthin, gyfaill, wrth weled enwi Moses, oblegid hen athronydd campus ydoedd ef! Gall iddo wneyd ychydig gamsyniadau, neu efallai eraill fu'n ail ysgrifenu ei athroniaethau a'i ddy- wediadau. Nis gwn am neb o'r ath- ronwyr diweddaraf sy'n gallu bod yn
OS YW PWYLLWYDDEG YN WIR.I
OS YW PWYLLWYDDEG YN WIR. I Gan H. W. Evans, Plainsville, Pa. n. Gan fod yr ermigau hunanol ac ani- feilaidd wedi eu lleoli yn ymyl eu gil- j ydd, yna naturiol fyddai dysgwyl fod yr un drefn yn rheoli yr oil ermigau, ac felly y dysgir fod yr ermigau teulu- aidd y tu ol i'r pen yn rhan isaf y wegil. Sylwch o amgylch, a gwelwch yn fuan fod hyn yn wir. Os bydd rhan fawr o'r pen, fel oedd yn y Frenines Victoria, y tu ol i'r clustiau, bydd y serchiadau teuluaidd yn gryf, ac yn weithgar. Yn ol yr un rheol, gwelir fod y wyddor yn dysgu fod yr ermigau gweithiol o gylch y llygaid, y lie mwy- af eyfleus i ganfod gwahanol agwedd- au mater, er deall a chynyrchu modd- ion cynaliaeth a chysuron y ddynol- iaeth. Felly y gwelir yn mhob man, fod dynion a rhan isaf y talcen yn hir ac yn llydan, a'r aeliau yn ffurfio cyl-ch uwch law y llygaid, yn rhagori yn eu gallu i ddeall achyflawni gwaith rha- gorol, tra y mae yn amlwg, i'r llygad cyffredin, fod dynion sydd a rhan uchaf y talcen yn hir, uchel a llydan r yn rhagori mewn galluoedd rhesymol a chyfluniol. Ac y mae yr un mor am- lwg i'r sylwedydd craffus, fod llawn- der y rhan ol o gopa y pen, yn cyd- fyned a gallu hunan-feddianol a Ilyw- odraethol. Ond os bydd y pen yn uchel ar ganol y copa, ac yn dal yn uchel a llydan i'r talcen, dangosa grefyddolder a dyngarwch, neu garedigrwydd dyn. Nid yw galluoedd barddonol a dych- mygol mor eglur o flaen y llygad cyff- redin, y maint yn llanw allan rhan flaen yr ail res a'r drydedd res o ermig- au yn ochrau y pen uwchlaw y clust- iau. Nid oes un ameuaeth yn fy meddwl, os gwnewoh sylwi ar benau eich cyd- ddynion yn ol y cyfarwyddiadau cyff- redinol hyn, na fyddwch yn fuan yn barod i ddweyd fod y wyddor bwyll- wyddegol yn cynwys Ilawer iawn o wirionedd. Nid wyf am ddadleu ei bod yn berffaith, gwyddor gydmarol ieuanc ydyw, ac y mae gwaith mawr i'w dysgu i'r manyldeb y dysgir hi yn y presenol, ond beth fydd y dyfodol; dwy a deugain o ermigau ymenyddol yn cynyrchu gwahanol gyfuniadau meddyliol, tra nad yw llythyrenau iaith ond saith neu naw ar hugain yn cyfansoddi dros gan mil o eiriau, a nifer aneirif o frawddegau. Felly, gall dwy a deugain o ermigau, yn eu gwahanol gyfuniadau, gynyrchu llaw- er mwy o amr.fwiaeth mewn cymer- iadau. Ac fel mae gwahanol gyfun- iadau Ilythyrenol yn cynyrchu geiriau newyddion, felly y mae gwahanol er- migau yr ymenydd yn cael eu cyfuno i gynyrchu. tybiathau a chymeriadau newyddion yn barhaus. Am hyny, gwneir ymgais i chwilio am y gwirioneddau ellir gyraedd, trwy ddeall ychydig Bwyllwyddeg. Peiriant yw yr ymenydd, trwy yr hwn y mae ysbryd, meddwl, ego, neu y fi yn y dyn, yn dyfod i gysylltiad a'r byd materol. Enaid yw y gallu bywiol sydd yn cael ei ddefnyddio gan yr ysbryd i weithio drwy yr ymenydd. Dysgeidiaeth Feiblaidd am ddyn, yw y mwyaf eyd, weddol ag athroniaeth y wyddor, "Canys nid byth yr ymrysonaf, ac hid yn dragywydd y digiaf; o herwydd yr ysbryd a ballai o'm 'blaen i, a'r eneid- iau a wnaethais i," Esaiah 57:16. "Canys bywiol yw gair Duw a nerthol, a llymach nag un cleddyf dau finiog, ac yn cyraeddyd trwodd hyd wahan- iad yr enaid a'r ysbryd a'r cymalau a'r mer, ac yn barnu meddyliau a bwriad- au y galon," Hebreaid 4:12. Daix beth gwahanol yw enaid ac ys- bryd, galluoedd anianol wedi eu cyf- uno yn fod byw yw enaid, yn gweithio drwy y corff anianol drwy yr ymenydd. Ysbryd, meddwl, y fl., gwreichionen ddwyfol, delw y Duwdod yn gweithio drwy enaid, sef bywyd y corff ar ddefnyddiau y byd materol. Nodwn bedair o briodoleddau sydd yn dra eg- lur yn p-erthyn i'r ysbryd: Cariad at y gwrthddrych; deall ynddo; cof am dano; ac ewyllys ato neu iddo. Dys- gwn felly nad oes ermigau cariad, ond fod cariad at eu gwrthrych yn mhob ermig, deall yn gysylltiadau y gwrth- rych, cof am bethau perthynol i'r gwrthrych, ac ewyllys i ymwneyd a'r gwrthrych. Ewyllys ysbryd dyn yn rhy wan i ddal ymryson parhaus neu gyson a Duw, fel rheswm digonol dros adael dyn i ddylyn ei ewyllys ei hun, a chyflawni pechodau yn dwyn canlyn- iadau dinystriol ar genedloedd, "Am anwiredd ei gvbydd-dod ef y digiais, ac y tarewais ef." Felly ewyllys rydd y dyn a grewyd i fod yn arglwydd y ddaear. Felly anwiredd, cybydd-dod dyn, oedd gwir achos V rhyfel cartrefol yn yr U. D., yw achos presenol y rhyfel fawr Ewropeaidd, a mwy na thebyg taw yr un achos sydd wrth wraidd ein trafferthion a Mexico. Tra chwant am gyfoeth yn cael y llywodraeth d,ros holl gariadau eraill yn ewyllys y dyn, bydd pechod yn blaguro. Mae dyn fel creadur rhyddewyllysgar, yn ufuddhau i ddeddfau Duw yn wirfoddol, yn fwy gogoneddus yn ngolwg Duw na mil- oedd o greaduriaid yn byw yn ol greddfau. Dyma y peth sydd yn cyfrif am fod Duw yn goddef pechod a phechaduriaid.