Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
1851 Y DRYCH 1917 Newyddiadur Cenedlaethol Cyhoeddedig Bob Dydd lan Prla y Talaethau Unedig$2.00 illr6 i Canada a Chymru, tal yn mlaen Raw yn ddieithriad_$2.50 rRA DESL.'NIO'PN HYSBYSIADAU am Brisiau Rhes- tymol. Anfoner am ein Telerau. ANFONER ARIAN mewn Post Office Order, Registered Letter, neu mewn Draft ar New York, taladwy i'r perchenog THOMAS J. GRIFFITHS, Drych Office, Utica, N. Y. AT EIN GOHEBWYR Er arbed traff erth i'r clerc yn y 5wyddfa cyfeirier pob gohebiaeth phob taliadau i'r "Drych" a'r "Cambrian" a'r rhai hyny yn ig) i Thomas J. Griffiths, Utica, N. Y. Dealled ein derbynwyr yn yr -'en VAad nad yw Postal Orders no werth dim i ni yma. Dim ond Fost Office Orders sy'n dderbyniol jvthr hon. Eglwys Annibynol Cymreig 206-208 EAST 11th ST.. NEW YORK CITY. Rhwng 3rd a 2nd Ave.; taith pum mynyd o 14th St. Subway a'r 14th qt. L. Station. Rhed y 3rd Ave. "11 rfal"e car helbio 11th St. Geintdog-Parch. JOSEPH EVANS, q A.. 575 W. 172nd St.. New York City. Phone 6354 Audubon. Ysgrifenydd—Mr. William A. Jones, 425 E. 161 St., Bronx, New York. Pregethir y Sul nesaf am 3 y pryd- "WT1 a 7 yr hwyr gan y Gweinidog. Eglwys y Trefinyddion Calfiaaidd 505 WEST 155th STREET. NEW YORK (On West Side of Citv). Ysgrifenydd Gohebol-Edward Morris, 146A Sip Avenue, Jersey City. Saif yr adeilad newydd rhwng Broadway ac Amsterdam Avenue. Sub- way Express i 157th St. Gwahoddiad cynes i'n cydgenedl yn v ddinas a'r cylchoedd, ac hefyd i ym- welwyr.
[No title]
Nid oes hanes am Nebu yn gwneyd mwy na phori glaswellt fel ych, ond cawn y German yn dechreu ysmygu baco "cabidj" a chwyn o fathau eraill. Myned o fuddugoliaeth i fuddugoliaeth y cawn ni yr Hwn o hyd! Wel, ebe yr holwr wrth y cydwy- bodwr: "Beth yw dy wrthwynebiad di i fyned i ymladd a'r Germaniaid?" "Y mae 'nghydwybod i yn erbyn." "Da iawn. Beth yw dy alwedigaeth?" "Tendio bar mewn tafarn." "I'r ffrynt ag ef." "Y mae hawl rhyfel yn fwy gwerth- fawr na heddwch, a ni a ymladdwn am yr egwyddor werinol," ebe Wilson. Beth ddaw o'n byd-beth ddaw o bob- peth yn y byd oddigerth i ni eu ham- ddiffyn rhag gelynion am eu dystryw- io? Y mae gan y Germaniaid dyb uchel iawn o honynt eu hunain a'u rhin- weddau. Dyma ddywed un: "Ni yw enaid y ddynoliaeth. Gwnaeth Duw Israel yn rhagredegydd y Messiah, ac y mae wedi penodi y Germaniaid yn olynwyr iddo Ef." Dyma y rheswm, feallai, fod y pasiffist a'r gwrthwyneb- WT cydwybodol mor groes i ymladd &g "eneiniog yr Arglwydd." 0 ddarllen adroddiadau o Berlin, gellid meddwl- fod Germani yn fuddu- goliaethus o hyd, er mai colli tir y mae bob wythnos; eto pan yr encilia y fyddin Germanaidd hysbysir ni mai eymudiad milwrol deheuig o eiddo Hin- denburg yw. Rhuthrodd corff o filwyr Germanaidd i ochr y fyddin Brydeinig un diwrnod, a synai y "Tommies" at y mudiad, ac atebiad yr Hwniaid oedd eu bod wedi blino cilio yn ol, a theim- lent fel symud yn mlaen, a chael rhyw- beth tebycach i fuddugoliaeth! Y bobl fwyaf rhadlon yn y byd yw » yr Americaniaid, ac y mae hyny yn an- fantais fawr iddynt; oblegid rhaid grwgu er sicrhau hawliau. Os y bydd dyn yn parhau yn fwyn ac yn ddiofal o dan bob gorthrwm, cymer y gorth- rymwr a'r cribddeiliwr fantais arno i'w blufio a'i gneifio. Dyna wneir a'r bobl Americanaidd y dyddiau hyn; y maent fel dafad fawr anferth a phob crachfasnachwr a'i wellaif yn ei gwlan. Dylai yr Amerietniald roi am- bell i chwyrniad, ac ambell i wingiad! Y mae mudiad ar droed yn Nhalaeth New York i roi miliwn o erwau o dan wenith, a dywedir fod y Dalaeth yn gyfaddas i godi gwenith. Yn 1879 yr oedd 736,000 o erwau o dan wenith, ond yn mhen 30 mlynedd yr oedd yr erwau wedi disgyn i 289,000. Y mae yn werth sylwi fod codi ymborth yn cael ei esgeuluso y dyddiau hyn, a gwneuthuriad pob math o afreidion a gwagbethau yn cael sylw mawr, ar y rhai y gwastreffir peth anferth o lafur. Dygwydda ambell i dro gwael yn ein gwlad er mai gweriniaeth yw. Aeth miloedd o weithwyr allan o'r General Electric yn Schenectady am fod yno negro ieuanc wedi gael gorchwyl fel gwefrofydd. Nid oedd i fod yno yn barhaus, eithr dros amser i'w helpu i orphen ei addysg mewn coleg. Nid yw ein gwlad eto yn gwbl iwerinol. Beth all fod y gwrthwynebiad hwn i'r negro? Y mae yn hen ddinesydd o'r wlad, ei gyndadau yma yn hir cyn cyr- aeddiad y streicwyr. Ni roddir un- rhyw reswm ameen na lliw ei groen! Ar ol y rhyfel y daw y Germanwr i amlygrwydd. Gwelsom hanes am ei faweiddiwch yn Ngogledd Ffrainc. Ni freuddwydiodd y buasid yn ei yru allan o leoedd. Wedi eu henciliad yn ol o un ardal, cafwyd eu bod wedi claddu rhai o'i milwyr yn mynwent y pentref, a defnyddio y ceryg beddau a goffaent feirwon y plwyf ar feddau eu milwyr eu hunain. Nid oes dim yn rhy frwnt i Fosh ei wneyd; a dyma y gethern y mae y pasiffist a'r gwrth- wynebwr cydwybodol yn coelio ei fod yn bechod eu gwynebu a'u dyfetha. Mae yn sicrach ei fod yn bechod i beidio. Un o beryglon penaf y byd gwar- eiddiedig heddyw yw ei ordiriondeb. Agorir ei lygad i hyn gan y German- iaid. Y mae perygl i'r byd gymeryd ei ddyfetha gan y gwan deimlad hwn. Camgymeriad yw credu mai Cristion- ogaeth yw; os mai, y mae perygl i Gristionogaeth droi yn ddinystr i'r: byd. Gelwir Pen Cristionogaeth yn Waredwr, ac amlwg felly yw fod pob egwyddor neu drefn na fo yn foddion i waredu y byd yn annghristionogol ac yn groes i genadwri ac amcan y Gwaredwr ar y ddaear. Dylem gadw hyn o flaen ein llygad fel y prif gyfar- wyddyd, oblegid y mae perygl i'r byd fyned i wrthod Gwaredwr a'i grefydd a beryglo ddyogelwch y byd. Ar ol y rhyfel yr ysgrifenir byw- graffiad neu gofiant Germani, a chof- iant a gofir fydd yn siwr. Nis gellir ei ysgrifenu yn iawn hyd nes y carthir yr Hwniaid allan o Ffrainc, Belgium, Servia a Rwmania, &c., ac wedi hyny y daw yr hanes cyflawn i lawpa sut yr ymddygodd plant y diafol yn y gtwa- hanol wledydd; a bydd yr hanes mwy- af gwarthruddol a wnaed erioed. Bydd y trueiniaid sydd heddyw dan fodlau y Boshiaid, ac mewn braw o'u bywyd, yn rhydd i adrodd eu profiad, a bydd angelion a diafliaid yn glust ac yn llygad i gyd y pryd hwnw. Y pryd hwnw y bydd Belzebwb yn rhoi i fyny ei goron i'r Kaiser, ac yn ymddiswyddo i'w olynydd, y Prif Fosh! Un o angenion penaf Cymru heddyw yw wythnosolyn Cymraeg i geryddu y wasg Gymraeg sydd yn ymylu ar fod yn fradus tuag at eu gwlad. Y mae rhyw dine annymunol yn y papyrau Cymraeg gyhoeddir drwy y Dywysog- aeth, a buasai yn dda gan y "Drych" fod yn agosach i lachffonio rhai oJion- ynt a gwgu ar rai o'r Sinn Ffeiniaid Cymreig. Y mae yn amlwg erbyn hyn fod crefydd Cymru yn berygl i'w dyo- gelwch yn ngwyneb gelynion fel Ger- mani. A pha beth ddylid feddwl o ddosbarth o Gymry wnant eu goreu i galonogi a chysuro y Boshiaid sydd am ddyfetha yr holl fyd? Dylai y rhyfel presenol agor llygaid merched miliwnyddol y Talaethau i ymwadu a gwyr urddasol disylwedd a digymeriad Ewrop. Gwelsom yn ddi- weddar am amryw wedi dianq yn ol i America, ond heb lawer o'r golud a gymerasant gyda hwy i "gastelli" eu gwyr priod acw. Syn mor ddiofal 'y mae merched tadau go gyfrwys, ac mor anystyriol y cawn nf'r tadau hyny hefyd! Estyna y tadau hyn eu merch- ed i gythrymiaid o Dywysogion, a Chowntiaid a Barwniaid a pherchen- ogion crachdeitlau eraill-elrth a bleiddiaid a dyhirod ysglyfaethus yn rhith uchelwyr o fonedd. Y fath swyn sydd mewn rhith a lledrith a gwagedd, onide? Y mae llai o ddyfalu yn nglyn a therfyniad y rhyfel yn awr nag a fu, a sonia Germani am ddal yn mlaen am flwyddyn eto. Y mae un ffaith i'w hystyried yn nglyn a Germani a ebar- gofir. Y mae y wlad a'i llywodraeth yn wallgof gan ddialedd. Gymaint oedd ei balchder a'i choel ynddi ei hun nes y mae y rhagolwg o'i gorchfygiad wedi dyrysu y synwyr oedd ganddi- y synwyr melldithiol oedd ganddi ac a drowyd yn felldigedig. Er y deil Ger- mani i guddio ei thlodi a'i chyfyngder, y ffaith yw ei bod mewn cyfliwr gresyn- us. Nid yn unLg y mae yn brin o fwyd, eithr hefyd o ddillad. Y mae perygl iddynt, nid yn unig i newynu, eithr hefyd fyned o amgylch mewn carpiau. Byddai yn foddlon- rwydd i'r byd weled y Kaiser heb grys am ei gefn! Mor hawdd yw i basiffist gael hedd- wch. Y mae rywbeth tebyg i hyn: Dyma leidr yn tori i'w dy, yn ysbeilio y cyfan oddi yno, ac yn dyfod at y per- chenog mewn congl ac yn cynyg hedd- wch iddo, ac yntau, o ofn, yn cwympo i fewn a'r telerau, gan iddo ddysgu yn y capel fod gwrthwynebu drwg yn ddr.wg! Ebe "G" yn y "Goleuad," "Dywedir fod Awstria yn barod am heddwch, a chan na ofyn Rwsia am Gaercystenin, ni ddylai fod anhawsdra mawr i wneyd heddwch a Bwlgaria." Mor yslic y gall pasiffist drefnu hedd- wch! Y mae John yn barod i wneyd ffryndiau a Twm, felly ni ddylai fod dim ar y ffordd i Bil gydsynio! Hy- derwn na fydd y wasg yn Nghymru a llaw yn mharotoi heddrweh. Dechreua gwneuthurwyr gyflawnhau ac esgusodi eu hunain am y prisiau uchel, ond ni wna eu rhesymau y tro. Y mae gan fasnachwyr lawer o esgus- odion. Bsgidiau y merched, er eng- raifft. Gwna y goludogion filiynau ar y rhai hyn, ac y mae y merched gwir- ion yn barod i dalu unrhyw bris am rywbeth yn y ffasiwn; yn enwedig yr esgid newydd yma—gwyn, glas, coch, llwyd, gwineu, porphor, crachliw a phob lliw sydd yn esgid a hosan gyda'i gilydd. Yr esgus a rydd y cryddion goludog hyn yw fod 300 o gryddion yn gweithio ar bob esgid, a dros gant o beirianau yn eymeryd rhan yn y gor- chestwaith! Ie, ond nid un esgid, wna y 300 cryddion a'r cant peirianau, eithr miloedd o honynt. Gresyn na ellid cael y merched gwirion i ddiWyn eu traed i ddoethineb! Y mae ymrafael yn ngwaed y Celt- y Cymro a'r Gwyddel, er engraifft. Yn mhlith y Gwydelod y mae y Sinn Ffeiniaid, ac yn mhlith y Cymry, yr Orgraffwyr; ac y mae y rhai hyn mor gyndyn a'r rhai acw, ac ni ddeuant fyth i gydwelediad, y mae arnom ofn. Gwelir hyn yn yr ymgais i gyfieithu geiriau Seisneg i'r Gymraeg yn Nghymru. Gofynid am air am "allot- ment" sydd yn chwareu rhan fawr yn yr Hen Wlad, a chynygia y llenorion dri o leiaf "parthdir," "rhandir" a "cyfrandir." Y mae rhyw elfen ym- rafaelgar hyd yn nod yn ein hialth- yn ei horgraff; oblegid gellir ei sillebu mewn amryw ffyrdd, fel y mae ein profiad ni yn y Swyddfa hon. Cawsom engraifft ddyddorol o hyn heddyw ddi- weddaf, pan y gwelsom "corphffolaeth" am y tro cyntaf! Y mae y genedl Ffrengig wedi taro ar gynllun rhyfedd o darawiadol yn nglyn ag Eglwys Odidog Rheims ag y mae y Boshiaid wedi 'bod yn ei than- belenu am ddwy flynedd gan ei din- ystrio; adeilad a gymerodd oesau o'r crefftwyr cywreiniaf i'w roi i fyny, ei gwblhau a'i addurno. Dylasai gael parch ac edmygedd y Bosh, ond ni pharcha efe ddim na neb ond ei nwyd- au isel ei hun. Ni fwriada y Ffrancod ei hadgyfodi na'i chyweirio, eithr rhol banerau y gwledydd cyngreiriol ar hyd-ddi a'i gadael yn gofadail o an- wareiddiweh cenedl a ymffrostiai yn ei dlwylliant. Syniad ardderchog! Ni ddysgwylir y cywilyddia y Bosh o her- wydd ei ddrwgweithredoedd, ond fe wrida y byd drosto hyd y delo efe yn ddigon gwar i sylweddo.li yr hyn a wnaeth. Dysgwylir y daw ato ei hun ryw bryd, a phan y daw bydd Eglwys Rheims o hyd dan ei chreithiau iddo yn ddanodiaeth dra@wyddol erchyll! Y mae yn amlwg erbyn hyn fod y Cymry'yn dechreu troi yn erbyn y Prif- weinidog; dosbarth o honynt, o leiaf. Y mae ganddynt gryn lawer o gwynion yn ei erbyn; am na wnai hyn ac arall, ac am y gwna hyn ac arall—am na bai yn hollalluog a hollbresenol; am na gauai y tafarnau; am na ddadgysylltai yr Eglwys; am na roddai ddiwedd, ar y rhyfel; am na ddiswyddai y Toris o'i lywodraeth; am na edrychai yn sarug ar Edward Carson, a llawer o bethau o'r fath; ag yntau a'r gorchwyl an- ferth ar ei law o orchfygu y German- iaid! Wel, gorchfyger y Germaniaid yn gyntaf, a sicrhawn i'r Cymry y gwna D. Lloyd George fwy (os na afael rhyw salwch ynddo) nag un haner cant o'r grwgnachwyr i drefhu pethau eraill. Gymry, aroswch hyd ar ol tori ymaith ben Goliah! Credwn fod llawer o fai ar y bob! am y prisiau uchel ffynant yn America. Gelwir hi yn wlad gnydiog o bob peth, yn enwedig o bob math o gynyrch am- aethol. Y mae yma hefyd gribddeil- iaeth ddigyffelyb, o herwydd fod y bobl wirion mor rhadlon ac yn aros yn dawel i'w plufio a'i cneifio gan gyth- rymiaid gwenog a boneddigaidd. Y dydd o'r blaen yr oeddym yn sefyll y tu allan i faelfa ffrwythau ar heol Genesee, Utica, a gwelem yno geirios yn 40c. y pwys; ac afalau, bedwar am 25c. Yr oedd ffrwythau eraill yn gyf- artal uchel, a'r pethau gerddi mwyaf disylwedd a difaeth hefyd yn 10c. a 15c. y swp! Ni ddylai y bobl gefnogi y fath ysbeilwaith; a'r unig ffordd yw peidio'u prynu. HEDDWCH DI WERTH. Dyddiau hynod o ddyddorol yw y rhai yr ydym yn byw ynddynt. Dydd- iau y dirprwyaethau a'r cynadleddau; holl wledydd y ddaear o'r braidd yn anfon cynrychiolwyr ar ymweliad a'u gilydd gyda'r atncan o gael trefn ar bethau, a phawb a'u cynlluniau an- ffaeledig yn eu llogellau. Amser a ddywed beth ddaw o'r croesymweliad. Gwelir pleidiau hefyd yn croes-gyni- wair drwy eu gilydd gyda phob math o gynlluniau a bwriadau heb lawer o afael ar drafferthion y byd. Y dra- fferth fwyaf gyda'r holl gynlluniau heddychol hyn yw na welant safle Ger- mani. Ffordd Maxim Gorky, y Rwsiad, yw cyflwyno pwnc heddwch i ddysgawd- wyr a gwyddonwyr y byd, fel yr unig feddyginiaeth. Oni wel efe fod dys- gawdwyr a gwyddonwyr Germani y tu cefn i'r Kaiser a'i igynllun i ddaros- twng y byd? Oni wel y Cymdeithasol- wyr mai Cymdeithasolwyr yw milwyr y Kaiser? Yn lie myned i Stockholm, pa ham na ai Cymdeithasolwyr Ger- mani at y Kaiser a'i gael i symud allan o Belgium a Gogledd Ffrainc? A'r crach-heddychwyr eto, pa ham na ant at y Kaiser a'i gael ef i beidio rhyfela a'r byd os am i'r byd beidio rhyfela ag ef? Beirniadu yr ochr hun- anamddiffynol y mae y rhai hyn eto, yn lie ymliwio ac ymddadleu a'r ochr ymosodol. Ymosodant yn llawer amlach a chwerwach ar Lloyd George a'i lyw- odraeth nag ar y Kaiser a'i giwed. Pa fodd i gael heddwch a Germani nad yw am heddwch pan nad yw yn barod i gyhoeadi ei thelerau? Pa fodd i far- geinio heb gael y telerau o'r ddiwy ochr? Pa fodd yr ai y "Deyrnas" yn Nghymru, corfforiaeth yn y drafodaeth heddwch, heb gael telerau heddwch y Kaiser? Ni ellir prynu ceffyl na buwch heb gael prislau y gwerthwr. Ymddengys mai ffordd y "Deyrnas" o brynu yw prynu ar bris y gwerthwr, hyd yn nod pe y codai ei bris ar ol y fargen! A dyna wnai Germani pe yr elai yn fargen rhyngddi a'r byd ar ei thelerau anhysbys ei hun. Gorchfygiad Germani yw yr unig ffordd ddyogel i heddwch parhaus a Germani. Dylai y byd fynu heddwch ar ei delerau ei hun. YMBORTH FEL ARF. Gweinidog Amaethyddol Prydain a ddywedai y dydd o'r blaen "fod an- foddogrwydd y cylla mor beryglus ag anfoddogrwydd yr ymenydd. Ffordd anffaeledig i godi gwrthryfel neu ach- osi chwyldroad yw newynu, neu anwy- byddu gofynion y cylla. Dyna y rheswm yr ymyra Prydain a'r Talaethau y dyddiau hyn gymaint a phwnc bwyd ac ymborth. Arwein- ydd poblogaidd ffyrnig y werin yw eis- ieu bwyd; a phrofwyd hyn yn mhob oes. Dyna paham y clywir fod y fferm- wr mor biwysig i enill y rhyfel hwn a'r milwr yn y cadffos. Gall y milwr ym- ladd a'r German, ond ni allai feddwl am ymladd a newyn; ac yna daw y ffermwr yn mlaen i ymladd a newyn fel y gall y milwr ymladd a'i elyn yn- tau. Felly y mae cydweitiirediad y fferm- wr a'r milwr yn angenrheidrwydd. Y mae pawb felly yn pwyso ar eu gilydd fwy neu Iai drwy gymdeithas. Ofer yw i neb goelio mai efe yw yr oil o gymdeithas. Gallai y glowyr ein rhewi mewn un gauaf, a'r ffermwyr ein newynu gyda hyny. Y segurwyr yw y bobl fwyaf ddir- mygedig a diymadferth o bawb, ac yn y rhyfel echrydus presenol nid yw y gwrthwynebWr eydwybodol a'r pasiffist namyn bymiaid a hoboaid diwerth. Oni bai fod gwroniaid ar dir a mor yn barod i wynebu y gelyn ddydd a nos, buasai Prydain heddyw dan draed y Boshiaid, a cheisiwn ddychymygu yn awr ac eto y fath felldith fuasai hyny i drigolion Prydain. Ni fyddai gobaith mwyach am "genedlaetholi" y fasnach feddwol mewn gwlad lie y byddai y German lagergarol yn rheoli. Y tebygolrwydd yw y troid Eglwys Loegr yn Lutheraidd; yr elai yr het silc allan o ffasiwn i roi y maes i gap a phigyn y Bosh; y troid yr Eisteddfod a'r Gymanfa yn beer gardens; y trinid Cymru fel y trintr Poland, Alsace a Lorraine; y troid y pregethwr o'r neilldu i roi ei le i'r "liwtenant" Prws- aidd haerllug; y ceid masnach a ffair ar y Sabboth, a siopa ac yfed fel sydd yn Germani, a gwaeth, na'r cyfan bydl ai drwy Gymru epil 'Boshaidd wedi eu cenedlu o gyfathrach orfodol y Bosh a'r Gymraes! A feddyliodd y pasiffist a'r gwrth- wynebwr cydwybodol am y canlyniad- au erchyll hyn? Eto dyna fyddai yn Mhrydain, ac yn Nghymru o ran a wnaeth y pasiffist dirmygedig a'r cyd- wybodiwr dienaid. Dyna y fath deyrnas a fyddai can- lyniad cynllun crach-Gristionogol y "Deyrnas" a olygir ac a gefnogir gan wirioniaid crefyddol yn Nghymru!
SPOKANE, WASH.I
SPOKANE, WASH. Cyfarfod Synu.Mehefin 19, pen blwydd Mrs. Wm. D. Jones, E. 320 Sfxteenth Ave., a chan fod y dygwydd- iad yn un annghyffredin, sef cyraedd- iad 80 mlwydd oed, cymerwyd medd- iant o'r ty y prydnawn y dydd dan sylw gan y Ladies' Aid, ac yn wir yr oedd y foneddiges wedi megys an- nghofio ei hun wrth weled cynifer yn dod i fewn heb un rhybudd na breudd- wydio am y peth. Mae hi yn un o ffyddloniaid yr achos Cymreig a'r Ys- gol Sul, nid Sul yn awr a phryd arall, end bob Sul, er yn yr oedran y mae, a chanddi gryn bellder. Ni chefais y manylion ond clywais iddynt gael am- ser da. Y mae hi yn un o ffyddloniald y "Drych," a'i gwr pan yn fyw. Yr' oedd efe yn flaenor, a chafwyd colled ar ei farwolaeth.—Gwilym Ddu o Went.
INODION PERSONOt-I
NODION PERSONOt I Mae eglwys Gynulleidfaol Vaughns- ville, Ohio, wedi estyn galwad i'r Parch. William Surdival, Middlepoint, Ohio. Nid yw y gwr parchus wedi ateb yr alwad hyd yn hyn. Gofyna un o'n gohebwyr pa un sydd yn iawn, "Moriah" ai Moria." Daf- llenodd bregeth y dydd o'r blaen, a'r gair "Moria" ynddi fwy. nag unwaith. "Moriah" sydd yn iawn. Byddwch yn ofalus o orgraff y dyddiau presenol. Mehefin 27, 1917, yn 3011 Warren Ave., Chicago, gan y Parch. John C. Jones unwyd mewn priodas Mr. Wm. A. Schreiber a Miss Emma L. Davis; y ddau o'r ddinas—y briodferch yn ened- igol o Jackson, O. Fel hyn yr etyb un o feirdd y Gor- llewin i'r sylw yn y "Personolion" di- weddaf: Y llyfr ddylai Index gael Yw llyfr gwych a'i roi yn hael; Ei werthu am 10c. yr un A dish o "gream" i wraig pob dyn! H. R. a enfyn i ni linellau barddon- ol er cof am ei anwyl fodryb, ond gwell yw iddo ddysgu cynyrchu gwaith teilwng i ymddangos ar ddalen y "Drych." Ni allwn wella pob math o benillion ddaw i law. Ysgrifena cyfaill atom o Galiffornia yn cyfarwyddo anfon y "Drych" ar ei ol i'w ,gartref newydd, ac yn mhlith pethau dymunol eraill, dywed fod y "Drych" wedi ei ddenu i ddarllen mwy o Gymraeg oddiar pan yn ei ddarllen nag erioed. Mae'r "Drych" yn werth ei ddarllen. Dymuna y Parch. L. T. Hughes, gynt Arvonia, yn agos i Lebo, ei fod wedi symud i Richmond, Kas., ac olynir ef yn ei eglwys yn Arvonia gan ei frawd, y Parch. J. Cadog Hughes. Y mae yn llwyddianus yn ei le newydd. Ysgrifena gohebydd yn nglyn a'r gair "acer." Ymddengys iddo ddefn- yddio y gair, ac i ddau Ddeheuwr ddweyd nad oedd yn iawn. Cymreiig- iad o'r gair Seisneg "acre" yw "acer," fel nifer o eiriau eraill a ddefnyddir gan Gymry. Y gair Cymraeg yw "erw." Y mae Ellis Roberts, 33 Wright St., Oshkosh, Wis., wedi darparu darlun ei ddiweddar dad, J. Eldno Roberts, a ym- ddangosodd yn y "Drych" yn ddiwedd- ar o fewn cauad o bapyr tlws lliwiedig, ac y mae yn barod i'w anfon am ddim i unrhyw gyfaill i'w dad a anfopja ei gyfeiriad iddo. Bydd yn igyfleus i'w hen gyfeillion ar hyd y wlad ei gofio yn barhaus. Yr oeddym yn myned heibio i faelfa yn Utica y dydd o'r blaen, ac o flaen y fynedfa yr oedd tatws a "80'c. y peck" arnynt. Chwarter hyny yw "Llyfr Tri Shon" Index. Druan o lenyddiaeth yn yr amser cul presenol, o leiaf. Pecaid o datws yn dri swllt a dwy; A llyfr y Cymro ar fynd ar y plwy! Dal i gwyno y mae ein gohebydd, D. F. Lewis, Cleveland, 0., ac y mae ei anhwylusder yn ei flino, wedi bod ar hyd y blynyddau yn cymeryd rhan amlw,g yn mhlith y Cymry. Y mae er- byn hyn wedi cyraedd oed mawr, a dy- lai o hyn allan ei chymeryd yn es- mwyth, a pheidio dysgwyl y gall gyf- lawni pob peth fel gynt. Cyngorwn ef i daflu ei feichiau ymaith o un i un. Yn West Allis, Wis., Mehefin 27, 1917, gan y Parch. O. O.Jones, priod- wyd y Parch. Hugh Owens, Ixonia, a Mrs. Elizabeth Davies, Barneveld, Wis. Mae Mr. Owens yn adnabyddus iawn i gylch eang. Heblaw amgylchoedd Oshkosh lie treuliodd gyfnod boreuol bywyd; bu yn bugeilio eglwysi yn Barneveld, Picatonica, Coed Mawr, Minn.; Plana, So. Dakota; ac yn awr yn Ixonia, ac yn gymeradwy fel gweinidog. Aiff dymuniadau da llu- aws cydnabod allan atynt yn eu per- thynas briodasol. Ysgrifena Dan Protheroe atom yn nglyn a chyfieithiad a wnaeth y di- weddar ApMadoc o emyn Elfed, "Nefol Dad, mae eto'n nosi," a ymddangosodd yn y "Drych," ebe efe, tua phum mlyn- edd yn ol. Gan ei fod yn awyddus am eu cael i'w osod i fewn yn y Ilyfr ton- au ac emynau newydd, carai gael copi o hono oddiwrth un o ddarllenwyr y "Drych," neu carem ni gael gwybod- aeth yn mha rifyn a'r flwyddyn y daethant allan. Carem gael y beirdd i wasanaethu "Colofn y Syniadau" a "Cholofn yr laith" yn fwy. Y mae hen goffor yr awen yn llawn iawn genym o hyd, a'r beirdd yn dal i falu, ac ymddengys fel pe na wyddant ddim am y ddwy Golofn arall. Y mae y Cymro, yn fardd ac yn lienor, mewn gwir angen am wybod- aeth o'n hiaith. Pa nifer o honynt efrydiasant yr hen iaith yn drwyadl? Dylai pob Cymro gar ei iaith ei gwy- bod yn dda, a'i medru yn wych. Carem roesawu mwy i'r ddwy Golofn. 'Bisbee, Arizona.—(Colled fawr i'r achosion cenadol yn y cylch, oedd ym- adawiad y Parch. J. Rhys Evans am Fedora, South Dakota. Gwnaeth Mr. Evans waith mawr yma, ac anhawdd fydd cael arall i lenwi ei le. Hefyd mae y Parch. J. G. Pritchard wedi ein gadael am Los Angeles, Califfornia.— G. J. W. Milwaukee, Wis.-C,yraeddais gar- tref o'm taith yn ddyogel nos Sul, Mehefin 24. Cefais y teulu oil yn dys- gwyl yn awyddus am danaf. Gallaf ddweyd i mi gael trip hynod o ddy- munol o ibenbwygilydd, a chael llu o bethau newyddion i feddwl am danynt yn y dyfodol. Diolchaf yn gynes i bawb o'r "Drychwyr" a gyfarfyddais. —John Elias Jones. Enfyn Joseph Davies (Reinallt), Denver, Colo., yr anerchiad hwn i ni ar ben blwydd Mrs. John J. Jones yn 57 mlwydd oed, Mawrth 15, 1917. Boed nawdd a bendith Nef, yn rhwydd, I Ann, heblaw ar ben ei blwydd; Ond boed o hyn i ben y daith; Mae heddyw'n bum'-deg-mlwydd a saith, A phrofodd lawer yn ei hoes, 0 lym ofidiau'r byd a'i groes. Mae Ann, o hyd er maint ei hoed, Yn edrych gystal ac erioed; Mae'i gwallt yn wyn, mae hyny'n wir; Ond dyna flodau henaint dir: Ond nid oes arwydd ar ei gwen, Fod Ann, er hyn yn mynd yn hen. Mae'i llais mor beraidd, ac mor fwyn, Na feiddia henaint byth ei ddwyn; Ac yn ei chwmni, mawr a lba-ch, Gant glywed ei chwerthiniad iach; A Ilawer cwmni wnaed yn lion Trwy ga-redigrwydd calon hon. Yn unig nid a'i thy ei hun, Mae gwir wreithgarwch hon yn nglyn, Ond gyda Thy a gwaith yr lor, Mae ei ffyddlondeb fel y mor; Llywydda gylch y "Dorcas" fwyn, A beichiau eraill fyn ei dwyn; A'i baich ei hun er pob rhyw loes A dafla i lawr wrth droed y Groes.
SCRANTON. PA.I
SCRANTON. PA. Dathliad yr 4nfed-flw. yddyn-ar-ddeg- ar-hugain yn hanes Eglwys y Tabernacl. Mae yr eglwys hon yn hynod yn hanes eglwysi America am gynal cyf- arfodydd er dathlu adegau arbenig, a gwna hyny yn y modd effeithiolaf posibl. Felly y gwnaeth yn nglyn a'r dathliad uchod. Etholwyd pwyllgor o dri i dynu allan raglen o'r cyfarfodydd, sef Mri. Evan G. Reese, Gordon T. Parry a Howell Powell. Cynaliwyd y cyfarfod cyntaf nos Fercher, Mehefin 20fed, yn mha un y cafwyd anerchiad- au rhagorol. Siaradwyd gan Mr. James W. Reese ar "Eglwys y Gor- phenol," a chan Mr. D. M. Jones ar "Eglwys y Presenol." Arweinid y gweithrediadau gan Mr. Evan G. Reese, ysgrifenydd yr eglwys, a gofelid am yr adran gerddorol gan Mr. T. J. Williams, yr hwn sydd wedi bod yn ffyddlawn ac egniol gyda chanu y Tabernacl er ei gychwyniad. Ar ddiwedd y cyfarfod hwn, anrheg- wyd ef ag awrlais hardd fel dangoseg fechan o werthfawrogiad yr eglwys o'i lafur diflino gyda chaniadaeth y cys- egr.' Cyflwynwyd yr anrheg gan Mrs. D. Redmond. Siaradwyd ar y mater gan y Parch. W. R. Edwards, gwein- idog yr eglwys, ac adroddodd Mr. James W. Reese amryw englynion tlys- ion a gyfansoddwyd ganddo ar gyfer yr amgylchiad. Diolchodd Mr. Wil- liams am yr anrheg a wnaed iddo, a hyny yn hollol ddiarwybod iddo. Sicr- haodd y byddai iddo ef a'i briod, Mrs. Williams, roddi y lie goreu yn y ty i'r anrheg, am mai anrheg eglwys y Tabernacl ydoedd. Y Sabboth cynaliwyd dau gyfarfod. Arweiniwyd cyfarfod y boreu gan y gweinidog, Parch. W. R. Edwards. Mae Mr. Edwards yn awr yn gyru ar ei ddeuddegfed flwyddyn fel gweinidog yr eglwys. Yn nghyfarfod y boreu, bedyddiodd Mr. Edwards ddau o blant, ac arweiniodd Mr. Henry B. Evans mewn gweddi. Anerchwyd y cyfarfod hwn gan Mr. Edward Harvey ar "Hau a Medi," a Mr. Howell Powell ar "Ddy- ledswyddau Pobl Ieuainc," a Mr. W. E. Phillips ar "Eglwys y Dyfodol." Can- odd Miss Margaret Evans emyn Cym- raeg, a hyny yn dra swynol, a chafwyd deuawd gan Mrs. H. G. Reese a'i merch, Miss Laura Reese. Yr oedd y cwrdd hwn yn gwrdd rhagorol o'r de- chreu i'r diwedd. Yn sicr, cafodd pawb eu boddhau. Wedi cael ychydig eiriau gan Mr. John B. Jones, un o ddiaconiaid yr eglwys,. a therfynwyd drwy weddi gan y gweinidog. Dechreuwyd cyfarfod yr hwyr am 6 o'r gloch. Yr oedd hwn yn gyfan- gwbl yn meddiant y cor, oddigerth y rhan ddefosiynol. Mae cor eglwys y Tabernael bob amser yn darparu yn ardderchog. Pa ryfedd, oblegid mae y brawd Williams yn un o'r arweinwyr rhagoraf yn y dyffryn hwn. Yn hwyr ddydd y dathliad aethant drwy y gan- tata sydd yn cael ei galw "Morning in the Orient," ac aethant drwyddi yn y modd goreu posibl. Yr oedd darllen- iadau y gantata yn ngofal tair o chwi- orydd ieuainc, a gwnaethant eu gwaith yn ardderchog. Yn y cyfarfod hwn cafwyd anerchiad gan Proff. John H. Dyer ar y "Red Cross." Terfynwyd trwy weddi gan y gweinidog.Goh. • • •
-NO-DION -0 BANGOR, PA.__I
NO-DION 0 BANGOR, PA. I Gan Thomas Egryn Morris. Mehefin 28ain.Priodwyd gan y Parch. John W. Matthews yn addoldy y T. C. Richard R. Hughes a Miss Alice Thomas; y ddau o Bangor, Pa. Y gwas a'r forwyn o#ldynt, Albert Foulkes a Miss Lizzie Jones. Mae y ddau yn aelodau ffyddlawn a gweith- gar yn yr eglwys uchod. Wedi brec- westa yn nhy y. briodasferch, ymadaw- sant am Washington, D. C., a manau eraill, i dreulio eu mis mel. Gwnant eu cartref gyda Mr. a Mrs. Wm. G. Ellis ar 3rd St. Dymunwn iddynt lawer o hapusrwydd yn yr undeb. R. T. Roberts (Twrog) hefyd ddaeth i'r penderfyniad mai "nid da bod dyn ei hunan," a chafodd yntau gydmar bywyd yn Ann Evans, Slatington. Deallwn y bydd iddynt hwythau wneyd eu cartref yn iBangor. Mae Mr. Ro- berts yn Ddrychjwr selog. Eiddunwn iddynt wenau Rhagluniaeth tra y byddont byw. Nos Wener, y 15fed, cymerwyd meddiant annysgwyliadwy o dy y Parch, a Mrs. John W. Matthews, gan oddeutu triugain o aelodau Ysgol Sab- bothol y T. C. Bu i Albert Ffoulkes lwyddo i gadw trefn ar bawb a phob peth. Treuliwyd noson ddifyr trwy ganu ac adrodd, ac ymddyddan am yr achos. Cyn dechreu ar yr rhaglen caf- wyd digonedd o hufen rhew a theisen- au. Yr oedd pawb mewn ysbryd rha- gorol, a phrofwyd fod y Parch, a Mrs. Mathews yn gymeradwy gan yr, ieu- anc a'r hen, Cymry a Saeson. Foreu Sul, y 17eg, cafodd y Parch. John W. Matthews yr anrhydedd o draddodi pregeth i raddedigion y Ban- gor High School. Dyma y tro cyntaf i weinidog ac eglwys Gymreig gael y cyfle hwn. Yr oedd yr addoldy wedi ei addurno yn hardd, a'r gwasanaeth wedi ei drefnu yn dda, a'r addoldy dan ei sang pan oedd cloc y dref yn taro deg. Cafodd y graddedigion yr athrawon a siwyddogion y Bwrdd Addysg eu boddhau y tu hwnt i bob dysgwyliad. Cymerodd y pregethwr ei destyn o'r 2 Breninoedd 13: 16-18. Mater y bregeth .oedd: "Yo modd i wneyd bywyd yn llwyddianus." 1. Cael Dwyfol arweiniad; 2, Ysbrydol gynaliad; 3, Dynol barhad. Ym- ddangosodd y bregeth yn y papyr dydd- iol, a darllenwyd hi yn gyffredinol. Gwnaeth cor yr eglwys ei ran yn effeithiol trwy ddadganiad o'r anthem, "Yr Arglwydd yw fy Mugail." Da genym allu dweyd fod tri o aelodau ieuainc yr eglwys yn graddio yn y dos- barth, sef Arthur Ffoulkes, Russell Williams a John Ellis. Deallwn mai am ddringo yn uwch mewn gwybod- aeth y maent. Dymunwn iddynt bob llwyddiant, a hyderwn na bydd iddynt annghofio cyngorion eu gweinidog. Drwg genym orfod dweyd fod llaw- er o Gymry yr ardal wedi cael eu claddu yn ddiweddar, sef Owen X. Jones, Owen Hughes, Mrs. Margaret Morris, ac yn dra sydyn John R. Hughes, 4th St. Ceir ychydig sylwad- au am danynt eto. Dywedir fod y fasnach lechi yn dra bywiog yma ar hyn o bryd, ac y mae rhagolygon am gnwd mawr o datws. Dyna glywir gan bawb sut i godi tatws a milwyr. 460
MARWOLAETH MRS. ANN GRIFFITHS,…
MARWOLAETH MRS. ANN GRIFF- ITHS, VAUGHNSVILLE. OHIO. Dydd y bydd cofio am dano yn Sugar Creek, Putnam Co., Ohio, fydd dydd marwolaeth yr hen fam dduwiol, Mrs. Ann Griffiths. Ganwyd Mrs. Griffiths yn sir Aberteifi, D. C., yn y flwyddyn 1830. Daeth i'r wlad hon gyda ei rhieni pan nad oedd* ond tair oed. Enwau ei rhieni oeddynt Jenkin a Jane Hughes. Buont yn byw yn Newark, Ohio, y tair blynedd cyntaf ar ol dod o Gymru. Yn 1833, symud- asant i Putman Co. ar fferm. Bu Ann gartref gyda'i rhieni hyd Rhagfyr, 1854, pryd yr ymbriododd a William J. Griffith. Ganwyd iddynt bump o blant, dau o ba rai fu farw pan yn fabanod. Yr oedd gwrthrych ein hys- grif yn un o ragorolion daear. Yr- oedd yn fam dduwiol a darbodus, yn Gristion trwyadl a chyson. Meddai ar ysbryd caredig a rhagorol iawn, ac ys- tyrid hi fel mam yn yr eglwys, yn y Mrs. Ann Griffiths. cartref, ac yn y pentref. Gwnaeth waith mawr yn ystod ei hoes yn yr eglwys ac yn y gymydogaeth, a bydd argraffiadau a nodweddion ei bywyd glan ac egniol yn aros ar feddyliau ieuellctyd yr ardal. Ni fu ei chystudd ond byr. Galwyd hi oddiwrth ei gwaith at ei gwobr, o dy ei merch, Mrs. J. Price Jones. Claddwyd hi dydd Sadwrn, Mehefin 7fed. Daeth tyrfa fawr f gapel yr A. yn Vaughnsville i dalu y gymwynas olaf o barch i'w llwch. Gwasanaeth- wyd yn y ty ac yn y capel gan y Parch. William Surdival, Middlepoint, Ohio, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. G. Evans, D. D. Hawdd ydoedd deall trwy'r gwasanaeth fod un o gedyrn Israel wedi syrthio. Gadawodd i alaru eu colled, dair merch, Mrs. Evan T. Reese, Mrs. J. Price Jones, a Mrs. Richard Ffoulkes; dwy chwaer, Mrs. Hugh E. Hughes, Gomer, 0., a Mrs. Ellen Krause, Charleston, Arkansas; deuddeg o wyrion, a phump o orwyr- ion. Nodded y nef dros y rhai sydd yn eu galar. Gwylied engyl fan tawel ei bedd hyd foreu'r codi.-Cyfaill.
ACHOS AMERICANWR 0 FLAEN TRIBUNLYS…
ACHOS AMERICANWR 0 FLAEN TRIBUNLYS DOLGELLAU. Apeliai y Cynrychiolydd Milwrol am hawl i alw Richard, George Thompson, Park Row, i'r fyddin. a Y Cadeirydd:: Yr ydym wedi peii- derfynu y tro diweddaf nad oedd gen- ym 'locus standi' yn yr achos hwn, am fod y bachgen yn Americanwr. Mr. J. C. Hughes: Nid oes dyfarniad ar yr achos wedi cael ei anfon i mewn. Nid yw eich dyfarniad chwi a dyfarn- iad yr Arglwydd Brif Farnwr mewn achos arall cyffelyb yn cydgordio. Y Cadeirydd: Yna buaswn yn hoffi gwybod beth ydyw dyfarniad yr Ar- glwYdd Brif Farnwr. Mr. Hughes: Lie mae'r bachgen, buaswn yn hoffi gofyn owestiynau iddo cyn rhoi dyfarniad yr Arglwydd Brif Farnwr. Y Cadeirydd: Mae yn amlwg fod Mr. Hughes yn gwrthod rhoi dyfarn- iad y Prif Farnwr, waeth genyf fi felly beth ydoedd. Mewn atebiad i Mr. Hughes dywed- odd Thompson ei fod yn 19 yn mis Mawrth diweddaf. Bu ei dad farw yn America, Ionawr 13, nid oedd yn cofio pwy flwyddyn. Yr oedd ei dad yn Americanwr, ac yno y ganwyd yntau. Yn mhen 6 neu 9 mis ar ol marwol- aeth ei dad daeth ei fam a 5 o blant drosodd yma i fyw i 2 Park Row, Dol- gellau. Pan yn gofyn cwestiynau yn nglyn a'i Registration Card ataliwyd Mr. Hughes gan y Cadeirydd; dywedodd eu bod wedi cael digon. Yna caed ymrafael rhwng Mr. 'Hughes a'r Cadeirydd, yr hyn a barodd i Mr. Hughes ddweyd-"Llew Meirion, yr ydych yn gofyn cwestiynau ynfyd." Y Cadeirydd: "Ydwyf, wrth gwrs mi rydwyf." Dywedodd y Clerc mai y safle yr oeddynt hwy yn ei gymeryd i fyny fel Tribunlys ydoedd gan fod y bachgen yn hawlio ei fod yn ddinesydd Ameri- canaidd, mai* nid hwy fel Tribunlys oedd i setlo y cwestiwn hwnw. Mater i'r awdurdodau milwrol i'w gael allan ydoedd. Mr. Hughes: Mae'n rhaid i mi gael eich dyfarniad. Oe na chan- iatewch i mi ofyn cwestiynau iddo sut y gallaf gael hyny allan? Beth sydd yn erbyn i rywun arall ddod yma a dweyd ei fod yn ddinesydd o Timbuc- too? Aelodau y Tribunal:* Mae'.r bachgen yma ,wedi rhoi ei bapyrau i mewn. Mr. Hughes: Beth svdd yn erbyn i rvwun roi papyrau twyllodrus i mewn? Nid wyf yn honi fod hyny wedi dy arwy" dd yn yr achos hwn. Mr R. C. Evans: Mae yn amlwg i mi eich bod yn ceisio eich goreu i wnevd achos yn erbyn y bachgen hwn. Mr. Hughes: Shut up. Mr. Evans, fe i1 d vlai fod arnoch gywilydd gwneyd y fath gvhuddiad, pan yr ydwyf yn grwnevd v siwaith hwn ac yn rhoi fy amser am ddim. Penderfynodd y Tribunlys beidio rhoi dyfarniad am fod y bachgen yn honi ei fod yn ddinesydd American- aidd. t I