Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

0 FRYN I FRYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 FRYN I FRYN. Y TRi hyn. Yn wylaidd y safwn o'u blaen, Shakespeare, Meyer, Lidgett. ac yn ddiolchgar ydym am danynt. Y tri chedyrn a wnaeth hyn.' Meddant ar gyhoedd usrwydd hyd ymhell, a gwerthfawr ydynt yngolwg gwledydd a chyfandiroedd. Y peth cyntaf a'r peth dyfnaf a geir ynddynt neu ohonynt ydyw mynd.' Mynd y maent o hyd, a charant fynd fel awrlais Eglwys Gadeiriol St. Paul's, fel bo'r ddinas yn elywed eu tic, ac yn eu gweld yn rhifo'r oriau, ac yn eu elywed yn taro. Nis gall- ant fod yn llonydd. Buasai aros yn gwymp iddynt ac yn ddamwain yn eu hanes. Gwahanol ydynt yn eu harddangosiadau, ond maent yn un yn eu 'mynd.' Nid yr un modd yr ant, ychwaith ond er yn newid yn y modd, maent yn un yn y mynd.' Myndw rth eistedd y mae Lidgett. Y mae cawr ar ei eistedd yn hyawdl, ac mae'r fath beth yn bod a hyawdledd eis- tedd. Aiff rhai ynghynt ar eistedd nag yr a eraill ar olwyneg neu hefo'r tren. Yr olwyneg sydd yn mynd yn hanes rhai, ac nid yr olwynydd. Wrtli y filtir y teithia'r rhai hyn, ond wrth ei feddyliau y teithia Lidgett. Nid yw ef yn cyfrif y milltir- oedd cyfrifydd meddyliau ydyw ef. Y mae medru eistedd yn ddawn gwerthfawr iawn, ac os edrychir ar wyneb Cynadl- eddau a Phwyllgorau Cymru, ceir mai prin yw'r ddawn eistedd. Un ffordd i wella'r ddawn hon ydyw pibell a myglys a mygyn. A lie bo'r ddawn hon yn gref, ceir fod yr eisteddwyr yn t'w'chu ar eu heistedd. Dyn cryf yw'r dyn fedr eistedd, a sieryd a'r byd ar ei eistedd. Un o rheiny ydyw Lidgett. Mynd wrth fynd a wna Meyer. Wrth fynd yr hel ei feddyliau ac y gwna ei bro- gramau. Yn hyn o beth y mae Meyer fel y wennol, yn wenolydd. Tren a modur iddo ef, a'i weld yn mynd a wna'r bobl. Piti na chawsai barhad i'w fywyd gwas- anaethgar am rai blynyddoedd eto, oblegid wedyn cawsai deithio mewn awyr-gerbyd. Byd yn iawn a gaiff pregethwyr teithiol a phoblogaidd y pryd hwnnw hefyd. Dyna'r pryd y gwelir angel yn ehedeg yn y nef, a dyna'r pryd y disgynna meddyliau, ac nid tan-belennau, o'r nef i'r llawr. Fel hyn, ni a dybiwn, yr a ein pregethwyr i'w hod- feuon ar ol y rhyfel. Hoffem weled Meyer yn ei awyr-gerbyd, ac yn pregethu i lweh y llawr oddiar bennau tai ac oddiar esgyn- fau balwns. Ceir digon o ymgeiswyr am y weinidogaeth y pryd hwnnw. Mynd o gam i gam, ac yn ol hyd y cam, ydym yn awr; ac mae peth felly mor gyffredin nes gwneud y camwr yn amhoblogaidd. Ond yn y man daw Meyers yr enwadau i'w hodfeuon ,o'r nef a thrwy'r nef, Fe fydd hyn yn rhagori ar gloch y IJan i alw pobl i'r odfa. Onid dyna'r adeg y ceir y diwygiad nesaf ? Gwr o gryn arbenigrwydd ydyw Shakes- peare. Mae rhan olaf ei enw yn fwy nod- weddiadol ohono na'r rhan flaenaf. Y mae yn peer, ac mae yn hynny heb fod a shake ynddo. Gwr cadarn ac anhyblyg ydyw ef. Etyb yn dda i arwain y bobl o Aifft Enwadaeth i Ganaan yr Un Eglwys Rydd.' A chan ei fod ef mor barod i adael yr Iorddonen, diau y deffry lliaws o'i frodyr i'w ddilyn. Y pwnc mawr, bellach, ydyw cychwyn i'r Ganaah hon, ac mae'r tri wyr hyn a'u cyd-deithwyr a'u ffordd yn glir i glirio'r wlad o'r Anaciaid a'r Canaaneaid a'r giwed eraill sydd yn rhwystr. Mae'n rhaid, bellach, cael un enwad a rhyw un arol- ygwr penarglwyddiaethol. Nid doeth dweyd hynny yn awr fe ddywedir hynny gan y peth ei hun ar ol iddo ddod. Bid sicr, fe sonnir yn oer am gael yr Hen Fam, druan, i ymuno a'r Eglwys hon ar yr un pryd, gwyddys fod hynny'n amhosibl. Ac, yn wir, gwell i'r archesgob arcs gyda'i ddefaid yn ei gorlan ei hun, a'u galw i mewn ac allan fel y myn a phryd y myn. Drwy hynny fe fydd efelychiad cudd Ym- neilltuaeth o'r Hen Earn yn ei Hesgob- yddiaeth yn cael gwell chware teg, a cheir lle i'r sawl sydd gyda'r Ymneilltuwyr yn yr Eglwys Newydd i archesgobaeth new- I ydd hefyd. Y fath erchi ac eirchu sydd yn yr eg- lwysi ar hyn o bryd Mae'r Brenin yn erchi, ac mae'r Senedd yn erchi, a'r Arch- esgob yn erchi, ac wele Ymneilltuaeth yn erchi. Y fath helfa sydd wedi bod, ac yn bod, ar ol yr awdurdod uchaf a therfynol Heddyw, ynghwrs y rhyfel, a thra y pery y rhyfel, sieryd y llywodraeth wladol, a gwrendy eirch-esgobion arni, ac mae yn derbyn ein hedmygedd a'n gwarogaeth. Beth yw dirwest ? gofynnai hen gan gron Cymry gynt. Yr ateb heddyw ydyw, Llwyrymwrthodiad tra bo'r rhyfel, ac am chwe mis ar ol iddo ddarfod a gwelwyd Cynhadledd ym Mrynaman ar ei deulin o flaen y ddelw aur hon. Caiff ei Fawrhydi erchi Sobrwydd, a cha Mr. Lloyd George ofalu am Gynildeb, a'r wythnos hon fe saif Shakespeare, Meyer a Lidgett ger bron yn erchi Gweddi. Meddai nhw wrthym ni: 'We suggest that it would be more appropriate if special services for prayer were held in our Free Churches on Friday, August 4th, and on Sunday, August 6th. It would be well if the churches could combine and hold a united service on the Friday. In order to secure homogeneity in thought and prayer, a special form of service has been prepared.' Coeliaf fod hynyna yn llawn digon o ddy- fynnu. Dyna gil drws yr Un Eglwys Rydd Brydeinig yn agor. Y mae'r Cyngor hwn eisoes wrth ei waith, a rhan o'i waith yw penodi amser gweddi a phenodi ffurf gweddi. Wrth gwrs, pe curid wrth y drws hwn, maent yn eithaf parod i benodi gweddiwyr hefyd. Prif gyrch y cwbl yw, cael un Eglwys fo'n dileu y man eglwysi yn eu diwyg annibynnol a chynulleidfaol, ac a fo'n dileu enwadaeth, ac a fo'n rhoi rheolaeth y corff i Un Pen—gyda'i Gyfrin Gyngor, bid sicr. Ac mae'r cais presennol am weddi ac eiriolaeth ar y Gwener a'r Sul cyntaf o Awst yn rhywfath ar gynnyg nwyddau i'r bobl cyn agor y siop. Os cymera rhywbeth fel hyn yn weddol o gyffredinol, gellir gydag amser dywys yr eglwysi a 11 a n o'u hen gysylltiadau, ac i gysylltiadau newyddion, a hynny megis heb yn wybod iddynt. Y rheol yw fod symudiadau fel hyn yn llwyddo, pe llwyddo hefyd, drwy gymryd gormod yn ganiataol oddiwrth fyrbwylldra a diofal- wch a swydd-wasanaeth. Y mae i'r cyffro hwn yn barod ei ddylanwad. Mor bell ag yr a ei ddylanwad iachus, y mae'n hollol bwyllgorol. Bodlonrwydd pwyllgor a chynhadledd sydd iddi, ac nid eglwys ac enwad. Tuedda i bellhau'r eglwysi oddi- wrth eu gilydd, ac i bellhau'r bobl neu gymdeithas oddiwrth yr eglwysi. Cyll yr eglwysi, yn herwydd hyn, lawer o'u hym- ddiriedaeth yn eu gilydd, ac ynddynt eu hunain hefyd. Safant yn syn yn wyneb yr ymgais, ac edrychant yn wan-galon. ac ymholant, Beth sy'n bod ? A ydyw crefydd yn ddiystyr ? A oes meddwl arhosol i Gristionogaeth ? A ydyw'n bosibl i ni fod mewn gwell amgylchiadau i fod yn un na'r rhai ym ynddynt yn bresennol ? Ac onid ydym yn un yn y pethau mwyaf ? A phe difodid enwad- aeth yn y pentrefi, onid gwaeth, ac nid gwell, yr aethai Crefydd Gymdeithasol ac Eglwysi g ? Nid dod yn nes at eu gilydd a wna'r eglwysi yn swn y siarad hwn, ond pellhau oddiwrth eu gilydd. Ac a'r gwrandawyr a'r bobl ymhellach oddiwrth yr eglwysi. Teimla'r bobl yn awr mai'r unig Eglwys arhosol yw Eglwys Loegr a'r Eglwys Bab- aidd. Ac er bod eu troad meddwl at Ymneilltuaeth, eto, oherwydd y siarad am Un Eglwys Brydeinig, teimlant oddiwrth rywbeth tebyg i ansefydlogrwydd ac anghysondeb yn arweinwyr Ymneilltu- aeth, a theimlant fod ganddynt hawl i aros ar faes y byd hyd nes delo gwell cyd- ddealltwriaeth ar faes yr Eglwys. Buom ni flynyddoedd yn ol ar draeth y Ferry Side yn aros am i'r ystorm dawelu ar yr afon cyn croesi i'r ochr arall. Ac felly y saif pobl y byd a'u hwyneb ar yr Eglwys yn y dyddiau hyn. Na alwer yr afradlon- iaid yn ol i Dy eu Tad, oherwydd y mae ystorm ar y ferry, ac mae'r badwyr yn son am wella'r badau, a chael un long fawr newydd gyda nhw,