Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

CYMRU A'R FYDDIN. ii Wi""i…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYMRU A'R FYDDIN. ii Wi""i f 1 ——— PAfLE MAF/R AELODAU CYMREIG ? 100, ACHOS Y CADFRIDOG OWEN THOMAS, A NAI TAFOLOG. GAK BERIAH. Mae wedi dod yn amser bellach i werin Cymru ddeffro ei hun, ac iddi ddeffroi ei chyn- rychiolwyr yn y Senedd. Nid gormod yw dweyd na ddioddefodd Cymru erioed o fewn cof neb byw gymaint o gam ac o sarhad oddiar ddwj-law yr awdurdodau. o'r Cabinet yn Ll an da in i lawr hyd yr ysbrigyn iselaf o dan enw swyddog mil- wrol, ag a ddioddefodd o fewn corff y ddwy flynedd ddiweddaf. Nid gormod, ychwaith, yw dweyd na welwyd o fewn y 60 mlynedd diweddaf yr Aelodau Cymreig yn fwy difater am fiuld- iannau ac anrhydedd eu gwlad, yn fwy esgud i wrando ar ei chwynion, nac yn fwy di-i-iini mewn ceisio symud achos y cwynion hyn. i Yr wythnos hon cyflwynaf i sylw darllenwyr y TYST dri achos ydynt, yn anffortunus, yn hollol nodweddiadol o'r dull yr ymddygir at Gymru a'r Cymry' gan yr awdurdodau, ac yr anwybyddir gan ei chynrychiolwyr yn y Senedd y cam a wneir a hi. Y CADFRIDOG OWEN THOMAS. Mae achos y Cadfridog Owen Thomas wedi bod yn destyn siarad yn y wlad ers amryw wythnosau. Nid oes odid gyngor cyhoeddus gwerth ei halen yng Nghymru nad yw wedi pasio penderfyniad cryf yn galw ar yr Awdur- dodau Milwrol i gadw'r ymrwymiad pendant a wnaed a Chymru gan Arglwydd Kitchener, ac a gyflwynwyd iddi gan Mr. Lloyd George, pan grewyd gyntaf y Fyddin Gymreig. I'r Cadfridog Owen Thomas ac i Mr. Lloyd George yn anad neb y mae Byddin Prydain yn ddyledus heddyw am fodolaeth Byddin Cymru. Ac nid oes yn yr holl Ymerodraeth ragorach na glewach y 250,000 a ddanfonwyd o Gymru—a'r mwyafrif mawr ohonynt yn wirfoddolwyr—i fod yn asgwrn cefn i'r pum miliwn sydd heddyw o dan faner Prydain. Heb gwyn o fath yn y byd i'w erbyn, ac heb sail i unrhyw gwyn y gallesid ddwyn i'w erbyn, ac yn wyneb gwrthdystiad Cymru gyfan, symud- wyd Owen Thomas o'i swydd fel Pennaeth Byddin Cymru yng Nghinmel, a gosodwyd yn ei le Ysgotyn o genedl, Sais o dafod, gwr nad oedd yn meddu hanner profiad milwrol Owen Thomas, na dim o'i gydymdeimlad a Chymru, na'i wybodaeth ef o'i delfrydau cenedlaethol; gwr a ymneilltuodd o'r Fyddin pan nad oedd ond is-gapten (lieutenant), nad yw ond 36 mlwydd oed, ac y sydd felly yn ieuengach na phob un o'r milwriaid Cymreig fydd yn gwasanaethu o dano yng Nghinmel, megis Ifor Bowen, Lloyd Evans, Wynn Edwards ac eraill. Er cywilydd iddynt, rhaid dweyd ddarfod i'r Aelodau Cymreig un ac oil adael i Sais, ac i Aelod dros etholaeth Seisnig, godi yn Nhv y Cyffredin y cwestiwn o'r cam a'r torri ainod gwarthus a wnaed a Chymru. Rhoddodd Syr Arthur Markham, A.S., rybudd i'r Prifweinidog o'r cwestiwn a ganlyn :—' A wyr y Prifweinidog ddarfod i'r diweddar Arglwydd Kitchener, mewn ymgom a roddodd i'r Cadfridog Owen Thomas, ac ar gais y Cadfridog, tra Mr. Lloyd George hefyd yn bresennol, roddi addewid pendant i'r Cadfridog, os ymgymerai ef a chodi N ortiz Wales Brigade i Fyddin Cymru, y caffai'r Cadfridog yr hawl i benodi'r holl swyddogion i'r Adran honno, a'i bod yn ddealledig mai Cymru o ran iaith a fyddai'r swyddogion hynny ymhob amgylch- iad posibl ? Fod Arglwydd Kitchener wedi awdurdodi'r Cadfridog i hysbysu Cymru fod yr ymrwymiad hwn wedi cael ei roddi ? Ai gwir yw fod y Cadfridog, ar waethaf yr ymrwymiad hwn, wedi cael ei droi o'i swydd, a bod Ysgotyn, milwriad y Tiriogaethwyr, a fu gynt yn is- gapten (lieutenant) yn y Fyddin, wedi cael ei benodi yn ei le ? Ac a wna'r Prifweinidog, yn wyneb yr ymrwymiad a roddwyd gan Arglwydd Kitchener, roddi ystyriaeth i'r achos ? Wedi i Syr Arthur Markham roi rhybudd o'r cwestiwn uchod, ac i hynny gael ei gyhoeddi yn y newyddiaduron, rhoddodd Syr Herbert Roberts (Cadeirydd y Blaid Gymreig yn y Senedd), ry- budd o ofyniad o'i eiddo yntau, sydd yn darllen fel a ganlyn :—' A wyr y Prifweinidog fod pen- derfyniadau wedi dod o bob rhan o Gymru yn amlygu gwerthfawrogiad o wasanaeth y Cad- fridog Owen Thomas ynglyn a chodi a dysgu Byddin Cymru ? Ac, yn wyneb y cyfnewidiad a wnaed yn llywyddiaeth y Fyddin yng Ngwer- syll Kinmel, a all y Prifweinidog roddi ei air y parheir gwasanaeth y Cadfridog Owen Thomas mewn safle o gyfrifoldeb cyfartal yn y Dywysog- aeth ? Gwelir fod gwahaniaeth mawr rhwng y ddau gwestiwn. Pwysleisia'r Sais, Syr Arthur Mark- ham, yr addewid bcndant i Gymru pwysleisia'r Cymro, Syr Herbert Roberts, nid hawliau cyf- iawn Cymru a hawliau milwyr Cymru, ond y pwysigrwydd o gael rhyw fath o swydel gyfrifol yng Nghymru i'r Cadfridog Owen Thomas. Er cymaint yw parch Cymru i Owen Thomas, ac er cymaint yw serch ei gydgenedl am dano, nid sicrhau swydd i Owen Thomas yw'r cwestiwn. Nid er mwyn sicrhau swydd i Owen Thomas, ond er mwyn sicrhau cyfiawnder i Gymru, chware leg i filwyr Cymru, a pharch i ymrwymiadau difrifol yr A wdurdodau Milwrol y pasiodd y cynghorau a'r cynadleddau cyhoeddus y pen- derfyniadau. Mae anrhydedd cenedl y Cymry a'i safle ymhlith cenhedloedd Prydain, yn annhraethol bwysicach na chael swydd gyfrifol i Owen Thomas.' Sarhawyd Cymru drwy ei symudiad athrod- wyd Cymru drwy yr ateb a roddwyd yn y Senedd i gwestiwn Syr Herbert Roberts. Dywedodd Mr. Tennant fod Owen Thomas wedi cael ei symud o'i swydd er mwyn sicrhau effeithiolrwydd mil- wrol.' Ai drwy benodi Ysgotyn ieuanc, na fedr siarad ein hiaith, na wyr ddim am ein dyheadau fel cenedl, nad oes ganddo gydymdeimlad a'11 daliadau a'n harferion crefyddol, y sicrheir effeithiolrwydd milwrol' ym Myddin Cymru ? Athrod ar bob milwr o Gymro a fu o dan ddisgyblaeth Owen Thomas, athrod ar goffad- wriaetli y dewrion dywalltasant eu gwaed ac a gollasant eu bywyd ar y Cyfandir, yw dweyd fod effeithiolrwydd milwrol bechgyn Cymru i'w sicrhau yn unig drwy droi Cymro o fod yn gadfriclog arnynt, a phenodi estron o ran iaith a gwaed a syniadali yn ei le, a hwnnw yn llawer llai proftadol fel milwr na'r Cymro a ddisodlwyd ganddo. TTGAIX 0 SWYDDOGION CYMREIG WEDI EU DISWYDDO. Yn yr ymdrafodaeth yn Nhy'r Cyffredin hys- byswyd fod ugain o swyddogion milwrol, Com- manding Officers mewn Balatiynau Cymreig, wedi cael eu symud o'u swydd, a'r rhai hynny oll yn medru siarad Cymraeg. Saeson o ran iaith a benodwyd yn eu lle--a hyn oil er mwyn sicrhau effeithiolrwydd milwrol Ac eto, yn wyneb yr athrod cywilyddus hwn ar holl genedl y Cyniry, ni agorodd cymaint ag un Aelod Cymreig ei eneu mewn gwrthdystiad Pa fodd y tywyllodd yr aur, y newidiodd yr aur coeth da ACIIOS NAI TAROLOG. Cafwyd enghraifft arall o ddull y swyddog milwrol Seisnig o sicrhau effeithiolrwydd mil- wrol y Cymro yn yr achos a godwyd yn y Senedd yr wythnos ddiweddaf gan Mr. Llewelyn Williams, A.S. Achos Ithel Davies, Glanyrafon, Tafolog, Mallwyd, sir Drefaldwyn, ydyw. Nai fab brawd i'r Bardd Cenedlaethol Tafolog yw Ithel Davies, yn gweithio gyda'i dad ar fferm yn mesur 1,000 acer o dir. Gwnaeth gais at y Tribiwnal am exemption. Gan iddo seilio ei gais ar dir cydwybod,' gwrthodwvd ef. Mae pawb sy'n adwaen Ithel Davies a'i deulu yn gwybod nad ffug yw ei gydwybodolrwydd.' Yr oedd Dedclf Gwasanaeth Milwrol yn rhoi hawl iddo gael bod yn rhydd rhag gwasanaethu yn y Fyddin, end gyrrwyd ef drwy orfod i'r Fyddin. Dyma ei brofiad o ddioddef yno o achos cyd- wybod.' Wele gopi o lythyr o'i eiddo at gyfaill. Soniodd Mr. Llewelyn Williams am y llythyr yn y Senedd Park Hall Camp, Oswestry, Mehefin 8fed, 1916. FY NGHYFAIH FFYDDIVON AC ANNWYL,- Dyma fi eto yn y Camp wedi bod drwy'r prawf yn y Detention Barracks yn Mold. Cefais brofiad pur chwerw yno, a thriniaeth lem a chaled iawn, yn enwedig yr ychydig ddiwrnodau cyntaf. Dyrnodiwyd fi yno am wrthod ufuddhau y diwrnod cyntaf am oddeutu deg munud i chwarter awr yn ddibaid gan ddau neu dri o'r swyddogion, a'm Iluchio ar hyd lawr nes yr oedd fy nghorff yn ddoluriau poenus ac wedi iddynt fethu felly, fe'm rhoddwyd mewn cyffion am oriau, ac heb ddim cinio y diwrnod hwnnw. Cefais yr unrhyw driniaeth drannoeth wedyn, heblaw fy ergydio a'm lluchio o gwmpas i geisio'm cael i baradio a phan fethwyd a'm cael i na gwneud sandbags, na gwaith arall, na drill, er y dyrnodio a lluchio rhaweidiau o laid a cherryg arnaf, fe'm rhoddwyd eilwaith mewn cyffion a straight jacket ys y'i gelwir, ac mewn gwirionedd dyna ydyw hefyd, a bu'n bur boenus i mi. A thyna'm tynged y gweddill o'r prynhawn hwnw hyd amser mynd i'r gwely. Fe'm dygwyd allan drachefn y trydydd dydd i geisio gennyf wneud rhyw waith ac a mi'n gwrthod, daeth un o'r swyddogion yn angerdd ei lid gan fy nyrnodio'11 ddidrugaredd, a thar- awodd ii yn fy wyneb nes torrodd asgwrn fy nhrwyn, a bu'n gwaedu am oriau a phan yn y cyfhvr hwn, ceisiwyd gennyf ddrilio ar ben fy hun gydag un o'r sergeants drwy ddyrnodiau a phob modd digou cywilyddus eithr pan wrth- odais, fe'm dygwyd a chlowyd arnaf yn fy nghell unig. Duw o'i fawr gariad a'i drugaredd a'm cadw rhag profiad cyffelyb i a gefais. Y mae gennyf bronad cywir iawn o'i drugaredd heddyw sy'n amhrisiadwy i mi. Iddo Ef y byddo'r gogoniant. Duw a'ch bendithio chwi ac eraill sy'n ceisio lleddfu dioddenadau dynion cydwybod, ac a'n bendithio ninnau i gadw'r faner a roddodd i'r rhai a'i hoffant,' i'w dyrchafu oherwydd y gwirionedd i gyhwfan hyd i fuddugoliaeth. Cofion filoedd yn annwvl iawn atoch chwi a'r teulu. I'FHEL,. Dyna stori syml Ithel Davies yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif am a ddioddefodd oddiar ddwylaw swyddogion y Fyddin a godwyd gan wlad oedd yn berwi gan sel i amddiffyn cam y gwan ar y Cyfandir. Ai dyma'r modd y myn yr Awdurdodau ennyn brwdfrydedd dros y Fyddin a'i swyddogion ? Ai dyma'r modd y sicrheir military efficiency' ? Diolched y crach-swyddogion hyn a'u cefnogwyr mewn safleoedd uchel fod cenedl y Cymry yn meddwl llawer mwy na hwynt-hwy am efficiency Byddin Prydain, ac yn llawer mwy teyrngar na hwynt-hwy, ac yn barod i wneud ac i ddioddef mwy na hwynt-hwy er mwyn ennill buddugol- iaeth lwyr ar y gelyn. Ond daw dydd barn arnynt pan elo'r rhyfel heibio. Yn y cyfamser deffroer yr Aelodau Cymreig i wneud eu dyledswydd dros eu gwlad yn y Senedd. 0 na cheid Lloyd George yn rhydd o lyffetheiriau swydd am fis, a'i feddiannu gan yr ysbryd a welwyd ynddo ugain mlynedd yn ol Buan iawn y dygid y swyddogion Seisnig ffroen- uchel a wawdiant Gymru, Cymro a Chymraeg, i'w synhwyrau. Anwiredd noeth yw dweyd nad oedd disgybl- aeth Owen Thomas yn sicrhau military effic- iency.' Dengys Adroddiadau Swyddogol y Swyddfa Rhyfel ei hun mai enllib a chelwydd yw'r eyhi-iddiad--eiillib ar y Cadfridog ei hun ac ar y bechgyn a fu o dan ei ddisgyblaeth, ac a seliasant eu tystiolaeth a'u gwaed ar v Cyfan- dir

LLYTHYRAU AT FY NGHYO-WLADWYR.