Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Y ouCa n Rely on Clarke's Bll Pills as B You Can Rely on Safe and Sure Remedy in either Sex, for all Acquired or Constitutional Dis- charges from Urinary Organs, Gravel, Pains in the Back and kindred complaints. Over 50 Year.s Succens. Of all Chemists, 4/6 per box, or sent direct, post free for Sixty Penny Stamps by the Proprietors—The Lincoln & Midland Counties Drngj Co., Ltd., Linooln. Clarke's B41 Pills C— rooiuBBBorort
I Yr Undeb ym Mrynaman.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
fell. Barnodd yr awdur at yr Hebreaid yn'ddoeth osod ger bron ei ddarllenwyr oriel o wroniaid y ffydd er eu cymell i fyned rhagddynt at ber- ffeithrwydd, a'u rhwystro rhag sythio'n ol, os nad at Iddewaeth, at anghrediniaeth ac annuw- iaeth. Yn gyffelyb y mae Cyngor yr Undeb wedi tybied yn ddoeth osod ger bron meddwl y geuhedlaeth bresennol o Annibynwyr Cymreig oriel o enwogion y ffydd Annibynnol er ei sym- bylu i fwy o weithgarwch ysbrydol a'i rhwystro i lithro at resymoliaeth oer a materoliaeth ddall. Ac ymhlith yr arwyr sydd eisoes wedi yiuddangos credaf fod Pryse, Cwmllynfell, yn hawlio lie amlwg ac anrhydeddus. Dechreuwn trwy roi amlinelliad byr o hanes Mr. Pryse. Ganwyd ef Chwefror 27ain, 1807, mewn lie o'r enw Penrhiwllwynfynwent, ym mhlwyf Llangamarch, sir Frycheiniog. Enwau ei rieni oedd Thomas ac Ann. Ymhen ychydig flynyddoedd symudodd y teulu i le a elwid Cae- rhedynbach, ym mhlwyf lylanwrtyd, ac yno y bu'r tad farw cyn magu'r plant. Wedi hynny symudodd y fam a'i thri phlentyn—dau fab ac un ferch—i dy bychan yn agos i bentref Dlan- un ferc h -i d- wrtyd o'r enw Pwllclai, ac yno y bu Rhys Pryse byw, gan ddilyn ei alwedigaeth fel gwehydd hyd y dydd yr ymddanghosodd efe yn ei gymeriad fel pregethwr cyhoeddus. Mae'r hen dy syml a diaddurn wedi ei symud i wneud lie i'r Central Wales. Yr oedd' ei frawd Hugh eisoes wedi dechreu pregethu, ac wedi ei dderbyn i Goleg y Drefnewydd yn y flwyddyn 1824. Yn 01 tyst- iolaeth ei ewythr, y Parch. D. Williams, Troed- rhiwdalar, yr oedd Hugh yn fachgen ieuanc gobeithiol; ond tra yn y Coleg gwanhaodd ei iechyd, a dychwelodd gartref, a bu farw Gor- ffennaf neg, 1826, yn 28 mlwydd oed. Yn adeg cystudd ei frawd yr ymunodd Rhys a'r eglwys Annibynnol yn Llanwrtyd, o dan weinidogaeth y Parch. D. Williams. Yng nghyfnod cyntaf ei oes yr oedd ei fywyd yn hollol ddiargyhoedd. Ond un noson cyn i Hugh huno yn yr Iesu, aeth ei fam at ochr ei wely ar ol dychwelyd o'r gyfeillach grefyddol, gan ofyn iddo, 'A wyddost ti pwy ddaeth i'r seiat heno ? Na wn i,' ebe yntau. Rhysyn dy frawd,' ebe hithau. Llan-. wyd ei enaid a gorfoledd, ac er ei fod mor wan ar y pryd fel mai prin y medrai symud, eto cododd ar ei eistedd, gan guro ei ddwylaw teneu, a bloeddio Bendigedig fyddo Duw Diolch iddo Yr oedd yn fwy esmwyth i farw wedi clywed y newydd da am ei frawd. Claddwyd Hugh ym mynwent capel Annibynnol Llanwrtyd. Derbyniwyd Rhys yn aelod cyhoeddus gan y Parch. D. Williams. Yn fuan wedi iddo ym- aelodi gofynnwyd ganddo fyned i weddi. Cyd- syniodd yntau, ac ymddengys i'w weddi gy- hoeddus gyntaf gario dylanwad mawr ar y rhai oedd yn bresennol, fel y credent fod pregethwr wedi codi yn eu plith. Tarawodd gyweirnod ei fywyd yn y cyfarfod gweddi hwnnw, oblegid parhaodd ei weddiau i dynnu sylw cynhyddol hyd ddiwedd ei oes. Yn fuan ar ol hyn cym- hellwyd ef i ddechreu pregethu, ond ofnai gy- hoeddusrwydd yn fawr. Yr oedd o dueddfryd distaw, a hoffai fyfyrio mewn unigedd ar weith- redoedd amrywiol y Brenin Mawr. Ond wedi taer gymell, cydsyniodd i ddechreu pregethu. Traddododd ei bregeth gyntaf mewn amaethdy unig o'r enw Pyllbo, rhwng Llanwrtyd ac Aber- gwesyn. Ar ol yr odfa honno aeth son am dano trwy'r holl wlad oddiamgylch. Yr oedd cylch ei wasanaeth yn ymehangu, acyn 1831 caed ef yn pregethu yn Soar, Merthyr, a chariodd ei weinidogaeth y fath ddylanwad ar yr eglwys barchus honno fel y penderfynasant yn unfrvdol i roddi galwad iddo. Ond ni fynnai fynd yno o gwbl. Eithr A-uilien ychydig flynyddoedd ar 01 hyn, derbyniodd alwad o Gwmllynfell; ac er mawr lawenydd i'r hen eglwys barchus honno, cydsyniodd a'r cais, ac urddwyd ef 3-110 Awst Igeg a'r 2ofed, 1835. Ymhen llai na dwy flynedd priododd a Mrs. Rowlands, gweddw ei ragflaenydd, y Parch. John Rowlands, a merch i Mr. a Mrs. Jones, Brynbrain. Symudodd ati i Gorsto, ffermdy gyferbyn a Brynaman, lie y treuliodd yn gysurus wedclill ei oes. Tu'r flwyddyn 1840 derbyniodd alwad o Baran, a pharhaodd i ofalu am yr eglwys honno hyd 1843, pan adeiladwyd Saron, Rhydyfro, ac yr ymadawodd 40 o aelod'au Baran er corffori eglwys newydd. Ymadawodd Mr. Pryse a Baran, a chymerodd ofal y ddiadell newydd hyd derfyn ei yrfa. Bu llwyddiant mawr ar yr achos o dan ei weinidogaeth addysgiadol. Yr oedd Cwmllyn- fell yn gynhullfan pobloedd o bell ac agos. Yr oedd amryw bobl grefyddol yn y Gwter Fawr,' a chyrchai rhai ohonynt i Gwmaman, ac eraill i Gwmllynfell. Ond yn y flwyddyn 1842 pender- fynasant adeiladu capel ym Mrynaman, ac agor- wyd ef y flwyTddyn ddilynol, a ffurfiwyd yno eglwys yn 1844 gan y Parch. Rhys Pryse. Aeth yr achos ar gynnydd, fel Y11 1856 penderfynodd yr eglwys adeiladu capel ehangach, a chyn diwedd 1866 yr oedd y ddyled arno wedi ei thalu. Ar achlysur Jiwbili Gibea yn nechreu 1867, fel hyn y canodd Mr. Pryse- 11 Y ddyled cas a O'r golwg a gladdwyd Ddera chwith o'r ddae'r ni chwy d,— Do'n fythol fe'i difethwyd. Parhaodcl Mr. Pryse i weinidogaethu i'r eglwysi hyn—Cwmllynfell, Brynaman a Rhyd- yfro—hyd ddiwedd ei oes, a phrofodd ei weinid- ogaeth lwyddiannus iddynt am yn agos i 35 mlynedd iddo wneud yr hyn oedd yn uniawn yngolwg yr Arglwydd. Ni "fchafodd nemor ofid hyd y flwyddyn 1862 ond Y11 y flwyddyn honno, pan ar ei ffordd i gyfarfod yn Gibea, ymosodwycl arno gan eidion creulon, yr hwn a wanodd un o'i gyrn i'w enau, gan rwygo ei wyneb. Ofnid ar y pryd na chawsai adferiad, ond gyda gofal a thynerwch daeth drachefn i allu cyflawni ei ddyledswyddau fel cynt, er y dywed y rhai a'i hadwaenai oreu na ddaeth byth cystal ag y bu. Diau i'r amgylchiad effeithio ar ei galon, oblegid yn fuan wedyn cwynai ei bod yn wan. Cyn- hyddodd ei ddolur yn y flwyddyn 1868, ac yn y flwyddyn ddilynol cydiodd yr enynnfa yn ei ysgyfaint, a bu farw Gorffennaf 6ed, 1869. Claddwyd ef yn anrhydeddus y Gwener dilynol ym mynwent Gibea, Brynaman. Bernid fod yno ddwy fil yn yr orymdaith bruddaidd, ac yn eu plith 30 o'i frodyr yn y weinidogaeth. Priodol yw gorffen yr hanes hwn yng ngeiriau Dr. Thomas Cysged yn dawel wrth droed y Mynydd Du sanged pob troed yn ysgafn arno nac ymyrred neb a'i esgyrn ef; a chadwer y llecyn byth yn gysegredig fel bedd gwr Duw." Yr oedd Mr. Pryse yn un o feibion rhyfeddaf Cymru yn ei ddydd. Wrth ei ddisgrifio ceisiwn ddilyn yr egwyclelor- Nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol, ac wedi hynny yr ysbrydol. Amhosibl tynnu darlun cywirach o'r dyn oddi- allan, fel yr oedd yn cychwyn allan o Lanwrtyd, nag a geir gan 3 Parch. Kilsby Jones yn Hanes yr liglwysi Aunibynnol Y pryd y gwelsom ef yr oedd rhwng 23 a 24 oed, a thynnai ei ymddanghosiad allanol, heb son am yr hyn a'r modd y llefarai, sylw y mwyaf disylw a chysglyd o blant Adda. Yr oedd yn wr ifanc tal, esgyrnog, ac ar ei goryn gnwd o wallt du, trwchus, a hwnnw yn cyrraedd hyd at ei ysgwyddau, a rhoddai hynny, ynghyda mynegiant cyffredinol ei wyneb, iddo olwg anarferol o gyffrous. FJdrychai yn rhyw fath o loan Fedyddiwr, ac fel hwnnw wedi rhuthro allan o ryw ddiffaethwch. Mae'n wir mai nid gwisg o flew camel oedd am dano, ac ni wisgai wregys o groen am ei lwynau ohd yr oedd ei wisg o frethyn cartref, garw, blewog, wedi ei weu gan ei ddwylaw ei hun, ac wedi ei bannu ym Mhandy Esgairmoel, yn ymyl ei goty meudwyaidd, neilltuedig, a hwnnw wedi ei dorri a'i bwytho yn wisgoedd yn ol hen ffasiwn hynafol trigolion ardal gyntefig fel un Llanwrtyd. Yr oedd digon o.le i fyned i mewn ac allan ohonynt, ac am liyiiiiy yn unig y gofalai eu perchennog; ond pe dywedem eu bod yn ffitio, gwnaem gam a'r gwirionedd ac a'r teiliwr. Trwy ryw fath o gyd-ddealltwriaeth rhwng y gwahanol bilynnau a'u gilydd ac a'r gwis gur cydunent i guddio a chynhesu ei berson naturiol, golygus a hardd, ac am hynny yn unig y maliai ein plentyn natur. Ym inlynyddoedd diweddaf ei oes yr oedd yn ddyn golygus a boneddig- aidd ei ymddanghosiad. Yr oedd ganddo ben mawr ac er fod ychydig o 61 y frech wen ar ei wyneb, eto ni wnaeth ei wYlleb yn anhardd i edrych arno. Ychydig o fanteision addysg gafodd Rhys Pryse. Perthynai i'r dosbarth hynny o ddynion sydd wedi dringo i gylchoedd o ddefnyddioldeb, dylanwad a pharchusrwydd mewn cymdeithas heb lawer o gynliorthwy athrawon ac ysgolion. Ac nid yw yn debyg fod neb yng Nghymru 3-11 ei oes a ymddibynnodd lai ar gynorthwyon. Bu Hugh ei frawd yn y coleg; ond ni bu efe, oherwydd ryw reswm, mewn unryw goleg. Bu yn yr ysgol ddyddiol, meddir, am dri diwrnod ond yng ngoleuni a chwmni inatur I Efengyl a Beibl y treuliddd ei oes.' A dengys ei hanes y defnydd a wnaeth ohonynt. Trwy gymeriad pur, gallu meddyliol eithriadol, ac ymroad personol, dringodd i safle o ddylanwad ac anrhydedd yn y wlad. Yr oedd arferion ei fywyd yn hollol bur. Yr oedd yn cldirwestwr cyn bod son am ddirwest. Gellid dweyd am dano ei fod yn Nazaread o'r groth. Yr oedd yn llwyrymwrthodwr didwyll a hollol gyson ag ef ei hun. Nid oedd yn arfer myglys, chwaith, fel y mae arfer rhai dirweswtyr anghyson. @ Cawsom yr hanesyn canlynol gan un o blant enwog CwnilKiifell. Ymwelodd Mr. Pryse a theulu yn eu galar, ac ymhlith pethau eraill cymhelloclcl y penteulu i beidio defnyddio y ddiod feddwol ar yr achlysur. Cydsyniodd y gwr a'i barchus weinidog. Drannoeth galwodd un o'r cymdogion, a goiyunodd i'r tad 0 ble wyt ti'n cael y ddiod y tro hwn ? Nid o unlle,' ebe'r tad yr wyf yn dilyn cyngor Mr. Pryse. Wei, meddai r cymydog yn dra slom- edig, cladd ef fel claddu ci.' Daeth Rhys Pryse yn enwog am ei wybod- aeth gyffredinol. Danghosodd allu celfyddydol, a meithrinodd y ddawn, oblegid nid oedd nemor beiriant yn y gymdogaeth nad oedd yn ei ddeall. Gallai gyweirio oriawr ac awrlais gyda medrus- rwydd. Rhodiai yng nghwmni'r ser, gan alw llawer ohonynt wrth eu henwau. Yr oedd wedi astudio doluriau a chlefydau dynion nes y daeth yn un o feddygon goreu'r ardal. Yn 1849 cy- hoeddodd (mewn cysylltiad, a Mr. Griffiths, Aber- tawe) y Llysiau-lyfr Teuluaidd.' Yr oedd yn llyfr o awdurdod ar y pwnc, ac erys mewn bri hyd heddyw. Yr oedd daeareg hefyd wedi bod yn destyn ei fyfyrdod. Cyrhaeddodd wybod- aeth helaeth o'r iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg, ac nid oedd yr ieithoedd Groeg, Lladin a Heb- raeg wedi eu hesgeuluso ganddo. Yr oedd yn fardd naturiol—yr oedd yn barddoni wrth siarad. Medrai gyliganedduii rhagorol, ond nid bob amser yn gywir. Ond er fod ei wybodaeth mor eang, nid oedd am honni. Yr oedd yn enwog am ei wyleidd-dra a'i ostyngeiddrwydd a'i hawddgarwch, ac ni allai neb gyfeillachu ag ef heb ei garu a'i edmygu. Ond fel gweinidog a gweddiwr a gadawodd efe ei argraff ddyfnaf ar bobl ei ofal. Nid oedd ei ymweliadau yn ami, ond ymwelai a'r cleifion, a bedyddiai fabaiiod yn y cartrefi, a dywedir mai yn anedd-dai y bobl y llefarodd y pethau effeith- iolaf a goreu. Yr oedd rhyw swyn iddo yn awyr- gylch yr hen anedd-dai. Mewn anedd-dy yr offrymodd y weddi gyhoeddus gyntaf mewn anedd-dy y traddododd ei bregeth; gyntaf a'r tro hwnnw yr aeth i Gymanfa yn sir Aberteifi, mewn amaethdy ar y ffordd y cafodd ei odfa fawr, ac nid yn yr uchel-wyl. Gweddiwr heb ei fath oedd,' meddai Dr. Thomas ni chlywais neb cyffelyb iddo.' Priodol y canodd Watcyn Wyn am dano fel gweddiwr :— Ond llais ei weddi byth fydd yn ein clustiau, A lies ei weddi byth fydd ar ein c'lonnau 4 Yn nerth ei weddi 'roedd ei nerth yn byw, Yn llais ei weddi clywid llais ei Dduw. Ni chlywsom ddim yn gallu tynnu'r nef I'r byd erioed mor hawdd a'i weddi ef, Neu godi'r byd i'r nef—ni wyddom p'un,— 'Roedd ganddo ef rhyw ffordd i'w gwneud yn un, Yn nerth ei Dduw ynglyn a'i nerth ei hun.' Fel pregethwr yr oedd yn hollol ar ei ben ei hun, 'ac yn ddiddadl perthynai i'r dosbarth blaenaf o bregethwyr ei oes. Barnai Dr. Thomas fod rhyw debygrwydd ynddo i'r anfarwol John Jones, Talysarn. Safai yn y pulpud yn syth a sefydlog, a golwg dywysogaidd arno, ac ym- ddanghosai fel un anfonedig oddiwrth Dduw, a lieges ganddo i'w thraddodi i ddyn. A gwel- wyd cynulleidfacredd mawrion yn cael eu liys- gwyd gan ei hyawdledd sanctaidd fel coed wig o flaen ystorm gref. Gwrthdystiai yn erbyn pob math ar arferion isel a llygredig, a gwawdiai ofergoeliaeth y werin i gywilydd. Trwy ei fywyd ysbrydol, gosododd ddelfryd fyw o flaen yr ieu- anc i ymestyn ato. Yn y modd hwn dygodd y byd ysbrydol yn agos at ei bobl, ac felly llwydd- odd i roddi ton a chymeriad uchel i'r ardal eang oil. Rhodded yr Arglwydd i bulpudau ein gwlad ddynion o gyffelyb ysbryd a nerth.