Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Detholiad o Donau ac Emynau.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Detholiad o Donau ac Emynau. BARN A Pwyllgor y Caniedydd,' yn wyneb JD pris uchel papur a llafur, nad -'d'oeth cy- hoeddi'r Llyfr yn bresennol, gan y byddai rhaid codi llawer yn ei bris eithr dwg allan yn y cyfamser ddetholiad o tua 50 o Donau Cynull- eidfaol a 10 o Donaii Plant yn Llyfryn mewn ainlen bapur, ac yn cynnwys tua 120 o emynau, i'w gwerthu am tua 6c. yn y Sol-ffa, a thua 1/- yn yr Hen Nodiant. Ni chaniata'r draul o argraffu i'r Pwyllgor roddi hawl i osod tonau o'r Detholiad hwn mewn rhaglenni. I Yr ydym yn dra awyddus i wybod oddiwrth Bwyllgorau Cymanfaoedd Canu ac Eglwysi pa nifer ewyllysiant gael o'r ddau Nodiant, er ein galluogi i'w harchebu yn yr argraffiad cyntaf, ac felly arbed traul a siom hyd y gellir. Nid oes amser i'w golli, gan yr hoffem ddwyn allan y Llyfryn ymhen llai na mis wedi cael y wybod- aeth. Ceir hysbysrwydd manylach eto am y cludiad., &c., ond byddwn dan rwymau i godi'r clud at y pris dan yr amgylchiadau presennol. Anfoner pob archebion gyda blaendal i'r Llyfrfa, 20 Alexandra-road, Swansea. Goruch- wyliwr-D. MORGAN DAVIDS.
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Dymunir ar i'n Gohebwyr tod mor garedig a phwyso eu llythyrau cyn eu hanfon i'r Swyddfa Mewn Llaw.—Cymanfaoedd Maldwyn, Mon, a Dinbych a Fflint-Bethania, Abertyswg- Pentre, Rhondda-Arholiad Dirwestol Undeb yr Annibynwyr Cym.reig-Rhanbarth Penybont —-Addoldy, Glyn-nedd-Siloaiii, Pentre Estyll- Llanybyther a'r Cylchoedd—Carmel a Seion, Pembre Y Drysorfa Gynorthwyol Cyfar- fodydd, &c. Oherwydd y lie roddir i'r Undeb, y mae amryw erthyglau mewn llaw; ond rhoddir hwynt i mewn y cyfle cyntaf. j,
YR, UNDEB YM MRYNAMAN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR, UNDEB YM MRYNAMAN. GAN YR ATHRO JOSEPH JONES, M.A., B.D., ABERHONDDU. LLA WENYDD gennym dderbyn gwahodd- iad i adolygu'n fyr gyfarfodydd Uchel- wyl ein Henwad. Ar wahan i'r rhyfel a'r problemau gofidus a gyfyd ohono, gellir dywedyd na chyfarfu yr Undeb erioed o dan amgylchiadau mwy ffafriol; ac an- fynych, a dywedyd y Ueiaf, y cyrhaedd- odd y traethiadau safon uwch. Ffodus a fuom yn ninas ein cyfarfod. Pan yr oedd ac y mae cynifer o'n cydgenedl a phobi o'r un Enwad yn y ffosydd yn Ffrainc, nid annaturiol oedd i'r Undeb yntau droi ei wyneb tua'r Gwter Fawr. Aeth y Gwter yn Fryn ers blynyddoedd, ac nid yw'r cyf- newidiad ond dameg o gynnydd eithriadol Annibynia yn y cylch. Mae'r hadau a heu- odd John Davies a Rhys Price wedi tyfu yn bren mawr ami ei ganghennau, sydd yn gysgod i filoedd o bobl. Dyna nod fawr yr Undeb eleni-amlder yr eglwysi a'i croesawai, a'r tyrfaoedd anferth welid yn tyrru i bob cyfarfod. Gresyn nad oes ym Mrynaman nenadd yn dal o ddwy i dair mil o bobl. Ai nid oedd yn beth newydd yn hanes yr Undeb i ddau neu dri overflow meeting gael eu cynnal ar yr un adeg a rhai or cyrddau, a hyn yn wyneb y ffaith fod y cyfarfodydd adrannol eisoes wedi eu trefnu ? Nid yn ami, .ychwaith, y gwelodd un o'r areithwyr mai'r unig ffordd iddo gael mynediad i'w lwyfan ydoedd drwy'r ffenestr. Enwog yw ardaloedd y Mynydd Du am eu croeso a'u lletygarwch. Nid oedd ball ar sirioldeb a charedigrwydd neb ym Mryn- aman. Yn y Te Croeso, ar yr aelwydydd, wrth y byrddau, ac hyd yn oed yn ystafell y mwg, pelydrau siriol llygaid caredig a dywynnai i bob cyfeiriad. Amhosibl peidio teimlo'n ddiolchgar i esgob annwyl Gibea, a da oedd gan bawb ei weled yn edrych cystal—Mr. Llewelyn, Bethania, a'r holl weision ac is-swyddogion a aberth- odd bopeth er mwyn sicrhau llwyddiant yr wyl. Wrth edrych dros raglen yr Undeb, y teimlad oedd mai un ddiddorol ac eang ydoedd. Nid melys ydyw rhannu y cyrddau, pa le bynnag y bydd yr Undeb ond fel y sylwyd, nid oedd ffordd arall yn bosibl ym Mrynaman. Clywyd llawer o gwyno am yr anhawster o ddewis rhwng y Cwrdd Cenhadol a'r un Diwinyddol. Yn bersonol, dywedwn y dylai pawb allu cael y ddau. Yr oedd sail gref i brotest Mr. Evans, Madagascar, y dylid cael ychwaneg nag un cyfarfod Cenhadol, ac y dylent gael tragwyddol heol,' heb ddim i ymyrryd a hwy. Ai ni fyddai pregeth Genhadol yn beth dymunol ? Blin gennym am bawb gollodd y cyfarfod Cenhadol eleni. I ni, dyna gyfarfod goreu yr Undeb. Yr oedd rhyw ysbrydiaeth o'i ddeutu na chawsom ef yn un man arall. Bendith ar y cen- hadon. Cododd y gonffrens ddiwinyddol hefyd i dir uchel. Dylai bore neu nawn cyfan gael ei roi bob tro i gynhadledd yr athrawiaeth. A bore cyntaf yr Undeb bob blwyddyn i son am arian. Colled fawr ar hyd y blynyddoedd oedd i'r Gronfa fynnu bore cyfan iddi ei hun, a bod yr ail Gronfa eto'n llwyr feddiannu yr un maes. Clywsom leygwr gostyngedig yn datgan ei ofid fod gormod o fusnes a rhy fach o ysbrydolrwydd enaid yn yr Undeb. Apeliwn am fwy o le i'r Genhadaeth ac i Ddiwinyddiaeth ar raglen yr Undeb. Gresyn na osodasid pwnc i'r Athro J. Morgan Jones, ac na chyhoeddasai yntau ei fater rhagllaw. Mantais yw i bawb wybod a pha destyn y bwriedir ymdrin. Canmol cyffredinol sydd ar bapur yr Athro. Yn sicr, disgwylid pethau gwerth- fawr oddiwrth feddwl mor finiog, gwybod- aeth mor eang, ac ymroad mor llwyr—ac ni fu siomedigaeth. Ar fater y rhaglen carem awgrymu peth arall, sef y priodol- deb o sicrhau testynau yn arweddu ar broblemau tanllyd y dydd. Ni ellir con- demnio llawer yn y cyfeiriad hwn eleni. Ond dylai hawliau cydwybod unigol, cen- edlaetholi'r fasnach feddwol, a chwest- iynau cyffelyb gael ymdriniaeth mwy uniongyrchol a phendant. Gwnaethpwyd c'yfeiriadau rhagorol at yr ail o'r pynciau hyn gan Mr. Bryniog Thomas. Ond pan y mae gennym am bell i specialist fel Mr. Rhys, Abertawe, yn ein plith, nid anny- munol fyddai cael papur cyflawn ar y mater. Anfantais o'r safbwynt hwn ydyw trefnu'r rhaglen mor fore a mis Medi, rhyw naw neu ddeg mis cyn yr Undeb. Os oes raid ei threfnu mor gynnar, nid amhriodol fai ei hadolygu tua Mawrth neu Ebrill er mwyn rhoi lie i ryw fater tanllyd a ddichon godi yn y cyfamser. Am y brodyr a fu yn gwasanaethu, tystiolaeth pawb ydoedd mai ardderchog y gwnaethant. Ni chlywsom am gymaint ag un cyfarfod gwan, nag am un elfen wan mewn unrhyw gyfarfod. Mwynhawyd hyd yr eithaf bob un y cawsom y fraint o fod ynddo, a chlywsom lawer o son am arucheledd y lleill. Nid anghofiwn yn fuan Bregethau yr Undeb yng Ngibea. Cafwyd odfa gref, gyfoethog. Dwy breg- eth wahanol i'w gilydd a bregethwyd, a mantais fawr oedd hynny. 0 ran dawn ac arddull, pregethwr ar y math newydd ydyw Mr. Parry. Pregeth fer, eglur, goeth gafwyd ganddo. Yr oedd diwinyddiaeth iachus yn sail iddi, profiad crefyddol gwresog yn eneiniad arni, a phersonoliaeth gref, sanctaidd yn ei thraddodi. Hoffem symledd diymhongar Mr. Parry, a'i natur- ioldeb dwys. Da oedd gennym gael y pleser o wrando Mr. Davies, Rhydyceis- iaid, unwaith eto. Cof gennym am rai o'i odfeuon ysgubol ugain a phum mlynedd ar hugain yn ol, a'r pregethau hyawdl ar Y Creadur Newydd,' &c. Pregethai efe Bregeth yr Undeb yn yr hen ddull—dull naturiol iddo yntau-dull y mae'n gy- maint o feistr arno. Byw oedd llu o'i gyffyrddiadau, a bachog ei sylwadau, ac Efengyl rasol yn rhedeg drwy'r cyfan. Araith orchestol gafwyd o'r Gadair. Fel diwinydd yr adnabyddir Mr. Charles oreu ac y mae ei araith gref, fyw, gyr- haeddbell yn her i'r syniad afiach fod gwybodaeth o economics, &c., yn fwy han- fodol ar gyfer wynebu cwestiynau'r dydd na myfyrdod o'r Beibl a Diwinyddiaeth. Gosoder llyfr diweddaraf Mr. Charles, Diwinyddiaeth y Testament Newydd,' a'i araith oclir wrth ochr, a cheir gweled fel y gwelir yn hanes Westcott a Will Reason ac eraill, mai gwybodaeth o wir- ionedd y Testament Newydd, ac ymdrochi yn ffrydiau ei ysbryd, yw'r cymhwyster i ddelio a dyrys bynciau byd a bywyd. Ardderchog, Lywydd yr Undeb Clyw- som ganmol uchel ar areithiau'r cyrddau cyhoeddus. Blin oedd gennym eu colli yn herwydd gwys i bregethu ym Moriah ar yr un adeg. Aethpwyd trwy waith Cynhadledd Bus- nes yr Undeb yn rhwydd ac yn daclus. Teyrnasai y Llywydd yn dywysogaidd, ac ni fu gormod o siarad. Un perygl mawr deimlem, sef y perygl o gau allan yn llwyr farn y Gynhadledd ar y penderfyniadau, a derbyn i'r llythyren bob awgrym o eiddo y Pwyllgor. Y penderfyniad dirwestol oedd yr enghraifft amlycaf o hyn. Pen- derfyniad oedd yn unol a barn un blaid ddirwestol, ac amlwg oedd fod llawer o aelodau'r Undeb yn pleidio cenedlaetholi, yn hytrach na chau i fyny, y fasnach yn ystod y rhyfel ac am ehwe mis ar ol hynny. Cynygiwyd dau welliant, ond ni osodwyd un ohonynt ger bron y cyfarfod. Aw- grymwn y pwysigrwydd o roddi lie a chware teg i bob barn, onide diflanna gwerth pob penderfyniad. Da iawn gennym i bwyllgor cryf gael ei ethol i wylio buddiannau addysg yr Enwad yn wyneb y Ddirprwyaeth Fren- hinol. Bydd angen gwylio llawer i awgrym a deflir allan, yn enwedig y syniad o dros- glwyddo i ofal y colegau cenedlaethol addysg ddiwinyddol Cymru. Diolchwn am yr Undeb ac i bawb a weithiodd i sicrhau ei lwyddiant. Dy- munwn lwyddiant y Dlywydd newydd, y Parch. Jacob Jones, a'i gyd-swyddogion, a llongyfarchwn Towyn ar ei etholiad i Gadair y mawrion. Duw a ganiatao, erbyn yr adeg y cyfarfyddwn, os byw ac iach, ym Mhontypridd, y bydd heulwen hedd- wch eto'n teyrnasu dros y byd.