Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

bO99+ I Y WERS SABOTHOL. I…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

bO99+ I Y WERS SABOTHOL. I i —— i V WM8 RYNGWLADWRIAETHOL. t t X ? y £ Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., I t TREFFYNNON. | A-44 GORFFENNAII x6eg.—Paul yn Atheii.-Actatt xvii. 22-34. Y TESTYN EURAIDD.—' Oblegid ynddo Ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; megis y dywedodd rhai o'ch poetau chwi eich hunain, Canys L, i hiliogaèth Efe heiyd ydym ni.).ctau xvii. 28. RHAGARWEINIOE. AETH Paul o Berea i Athen, prifddinas Attica, talaith bwysig o wlad Groeg. Yr oedd Athen yn adnabyddus trwy'r holl wledydd am bryd- ferthwch ei hadeiladau cyhoeddus, yn enwedig ei themlau. Yr oedd hefyd' yn ddiarhebol trwy'r holl fyd gwareiddiedig am ei dysgeidiaeth. Diau, o ran ei henwogrwydd llenyddol a'i hatgoflon o dywysogion athrylith, mai Athen oedd y ddinas hynotaf ar yr holl ddaear. Wedi i Paul gyr- raedd Athen, a chael amser i edrych o ,I pa-Lil gyr cynhyrfwyd ei ysbryd wrth weled fod y ddinas yn llawn o eilunod. Lie bynnag yr edrychai, gwelai eilunod o'i flaen. Yr .oedd hyn yn creu eiddigedd yn ei feddwl dros anrhydedd y gwir Dduw, a diau ei fod yn teimlo tosturi at y trig- olion hefyd oherwydd eu hanwybodaeth. Er y rhaid ei fod yn wan a lluddedig, eto nis gallasai aros yn ddistaw. Ar y Saboth ymresymai a'r Iddewon yn y synagog. Mynychai y farchnad er mwyn cael cyfleustra i ymddiddan a'r rhai a ddeuent yno. Yr oedd y farchnad (yr agora) yn fan cyfarfod i'r trigolion i ddyfod at ei gilydd i ymddiddan. Daeth i gyfarfyddiad a'r Epic- uriaid a'r Stoiciaid, ac ymddadleua A hwy. Nid oedd ganddynt wybodaeth o Dduw, ac nid oedd ganddynt grediniaeth mewn sefyllfa ddyfodol. Felly, rhaid eu bod yn wrthwynebol i'r athraw- iaeth a ddysgai Paul. Yr oedd y ffaith o fodol- aeth un Duw, creawdydd a chynhalydd pawb, ac o sefyllfa ddyfodol, yn ddinistr i'w holl addysg hwy. Gofynnai rhai gyda diystyrrwch Beth a fynnai.3 siaradwr hwn ei ddywedyd.Edrych- ent arno fel honnwr siaradus, yn fwy cyfoethog mewn geiriau nag mewn syniadau. Tybiai eraill ei fod yn dwyn i'w sylw dduwiau dieithr. Yr oedd ei gyfeiriadau at Dduw ac at Iesu Grist yn eu harwain i gredu ei fod yn mynegi duwiau dieithr. Arweiniwyd ef i Areopagus, bryn a safai ynghanol y ddinas, ac ar ben yr hwn y cynhelid prif lysoedd barn, a lie yr ymdrinid a phethau gwladol a Chrefyddol. Dygwyd ef yma er mwyn iddo egluro yn helaethach yr hyn a ddywedasai yn y farchnad. Cafodd Paul gyfle ardderchog i egluro rhai o wirioneddau mawrion yr Bfengyl, a gwnaeth y defnydd goreu o'r cyfle. Daw ei allu meddyliol ac areithyddol i'r golwg mewn modd neilltuol yn ei araith. ESBONIADOE. Adnod Yna y safodd Paul ynghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wyr Athen- iaid, mi a'ch gwelaf chwi ymhob peth Y11 dra ehoel-grefyddol.' Cyf. Diw., 'A Phaul a safodd ynghanol yr Areopagus, ac a ddywedodd, Chwi wyr o Athen, ymhob peth yr wyf yn canfod eich bod i raddau yn goel-grefyddol.' Areopagus. Mar's Hill. Bryn Mawrth. Yr oedd Athen wedi ei hadeiladu ar wastadedd, yn yr hwn y cyfodai amryw fryniau creigiog, ac un o ba rai oedd yr amddiffynfa a elwid Acropolis. Gyferbyn ag Acropolis, yn cael ei wahanu gan bantle isel, safai Areopagus. Bsgynnid iddo ar hyd un ar bymtheg o risiau wedi eu naddu o'r graig, y rhai sydd yn awr i'w gweled. A Phaul a safodd. Eistedd y byddai'r dysgawdwyr Iddewig yn gyffredin. Ha wyr Atheniaid. Arfera'r apostol y dull cyffredin oedd gan areithwyr Groegaidd wrth gyfarch cynulleidfa. Ymhob peth yr wyf yn canfod eich bod i raddau yn goel-grefyddol. Nid ydyw'n dechreu ei araith trwy eu beio, ond cydnebydd yr ysbryd crefyddol, neu ddefosiynol, oedd yn eu meddiannu, ac awgryma ei fod yn cael ei weithio i eithaflon-very religions. Yr oedd yn canfod eu bod yn ymroddi i arferion crefyddol. Yr oedd y ddinas yn llawn o demlau ac eilunod. Cydnebydd yr elfen o ddaioni oedd hyd yn oed yn addoliad y paganiaid, sef eu defosiwn. Adnod 23.—' Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid, I'R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb El adnabod yn Ei addoli, Hwnnw yr wyf fi yn Ei fynegi i chwi.' Cyf. Diw., Canys fel yr oeddwn yli myned rhagwyf, ac yn sylwi ar wrthrychau eich addol- iad, mi a gefais hefyd allor gyda'r arysgrifen hwn, 1 DDUW NID ADWAENIR. Yr hyn gan hynny yr ydych chwi yn ei addoli mewn anwybodaeth, hynny yr wyf fi yn ei fynegi i chwi.' Edrych ar eich defosiynau. Gwrthrychau eu defosiynau—- eu temlau, eu hallorau a'u heilun-dduwiau. ['r Duw nid adwaenir. Dywed hanesiaeth fod yn Athen amryw allorau a'r arysgrifen hon arnynt. Y mae'n anodd cyfrif i sicrwydd am yr allorau hyn. Tybir gan rai mai eff-aith y syniad oedd gan lawer o philosoffyddion Groegaidd nas gellir adnabod Duw, oedd yr allorau hyn—Agnostics yr oes honno. Y mae'r rhai sydd yn addoli aml- dduwiau yn rhwy 111 o fod mewn ofn rhag eu bod yn esgeuluso rhyw dduw, ac efallai mai effaith y teimlad hwn vdoedd yr allorau hyn. Myn rhai y golygent Jehofah-Duw yr Heb- reaid-yr Hwn i'r Atheniaid oedd yn anadna- byddus. Cymer yr apostol un o'r allorau hyn yn destyn ei bregeth. Yr hyn, gan hynny, yr ydych chwi yn ei addoli mewn anwybodaeth, hynny yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. Yr oedd yr Athen- iaid yn cydnabod gwrthrych addoliad nad oedd- ent yn ei adnabod. Yr oeddent mewn anwybod- aeth am ei natur a'i briodoleddau. Yr oedd eu hawydd am Dduw yn ehangach na'u gwybod- aeth am dano. Yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. Cymer yr apostol i fyny y gair a ddefnyddiwyd ganddynt hwy am dano ef (gweler adnod 18). Yr wyf am fynegi i chwi y gwir Dduw, yr unig wir Dduw, creawdydd a chynhalydd pawb, ac fel yr oedd wedi datguddio Ei Hun yn Iesu Grist. Y mae yn nodi chwe gwirionedd neilltuol am y Duw yr oedd efe yn Fi fynegi iddynt. Adnod 24, Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gari Ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylaw.' Yr oedd Athen yn llawn o demlau o waith dwylaw ond nis gall Creawdydd ac Ar- glwycld nef a daear drigo mewn temlau o waith dynion. Felly, nis gallasai'r eilunod oedd 3711 eu temlau fod yn dduwiau. Y Duw a wnaeth y byd. Y mae'n mynegi iddynt am fod personol, yn bodoli ar wahan ac yn annibynnol ar y byd. Yr oedd yn hollol wahanol i'r duwiau a addolent hwy. Sylfaen gwir grefydd ydyw y bod o Dduw a'i natur a'r prif amddifEyniad i'r gwir- ionedd hwn ydyw'r athrawiaeth gywir am gread- igaeth y byd. Mae'r athrawiaeth hon, fel y ceir hi yn y Beibl, yn gosod Duw allan yn anni- bynnol ar y byd, yn bod-cyn pob peth, ac wedi dwyn y cyfan i fod o'i ewyllys da, ac eto Ei fod, er goruwch oil, yn a thrwy yr oil yr un pryd.' Nid ydyw'n trigo yn gorfforol mewn I temlau fel yr eilunod, ac nid ydyw'n cael Ei gyfyngu i deml o ran Ei bresenoldeb ysbrydol. Adnod 25.Ac nid a dwylaw dynion y gwas- Ltnaethir Ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan Ei fod Ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oil.' Cyf. Diw., Gan Fi fod Ef Ei Hun yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oil.' Dygai'r Atheniaid offrymau gwerth- fawr i'w duwiau. Trwy roddi rhoddion yr oedd- ent hwy yn eu gwasanaethu. Yr oedd eu duwiau yn ddibynnol arnynt. Dysgai Paul nad oedd y Duw a gyhoeddai Efe yn dibynnu ar neb; yr oedd ganddo fywyd ynddo Ei Hunan. Yr oedd yn cyfrannu i bawb fywyd ac anadl a phob peth oil. Y mae Duw yn hollol annibynnol ar ddynion, ond y mae dynion yn ddibynnol ar Dduw. Nis gall dynion roddi i Dduw ddim ond eu parch a'u hufudd-dod. Gan fod pawb yn ddibynnol ar Dduw, y mae'n ddyledus ar bawb roddi iddo L, f barch ac addoliad. Yr oedd y Duw a fynegai Paul iddynt, nid yn unig yn greawdydd pob peth, ond hefyd yn gynhalydd pob peth. Adnod 26.Ac Efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd r-hag-osoeledig I a therfynau eu preswylfod hwynt.' Cyf. Diw., 'Ac Efe a wnaeth o un bob cenedl o del yniol1 i breswylio ar holl wyneb y ddaear, wedi pender- fynu eu hadegau apwyntiedig, a tlieriynau eu preswylfod hwynt.' Wedi traethu am awdurdod Duw, a ymlaen i egluro undod y ddynoliaeth. Pennodd yr amseroedd. Sef yr adegau apwynt- iedig. Adegau eu llwyddiant a'u dyrchafiad. A therfynau eu preswylfod. Ymha ran o'r ddaear y preswylient. Y mae Efe, nid yn unig yn Greawdwr a Chynhaliwr, ond hefyd yn Llywodr- aethwr dynolryw. Fel y mae crefyddau pagan- aidd yn credu mewn mwy nag un Duw, felly hefyd y maent yn credu mewn mwy nag un gwreiddyn i ddynoliaeth. Ac i gyfateb i hyn, gosodent y naill genedl yn uwch o ran ei thardd- iad na'r llall. Yr oedd y syniad hwn yn perthyn yn ddiwahaniaeth i bob cenedl eilunaddolgar ond, ar y Haw arall, yr oedd y gwirionedd mai o un y mae holl blant dynion, yn perthyn yn unig i'r genedl Iddewig. Nid oes un grefydd yn cynnwys y gwirioneddau pwysig o undod Duw ac undod dynoliaeth ond datguddiadau'r Hen Destament a'r Newydd.' IttjAdnod 27. Pel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu am dano Ef, a'i gael, er nad yw Efe yn ddiau nepell oddiwrtli bob un ohonom. Cyf. Diw., Fel y ceisient Dduw, os gallent trwy ddigwydd ymbalfalu am dano, Ei gael Ef, er nad ydyw Efe ymhell oddiwrtli bob un ohonom.' Amcan holl weinyddiadau Rhagluniaeth Duw at genhedloedd a phersonau ydoedd eu cael i wybodaeth o'r unig wir Dduw. Ymbalfalu. Fel y dall yn ymbalfalu am rywbeth nad ydyw'n gwybod lie i'w gael. Yll annibynnol ar ddat- guddiad, felly y maedynion yn chwilio am Dduw. Eto y mae yn ymyl, yn y trugareddau y mae'n eu cyfrannu, yn Li lywodraeth fanwl ar y byd. Y mae Duw yn agos, ond y mae pecliod yn gyrru dyn ymhell oddiwrth Dduw, ac y mae'n methu Ei gael. Adnod 28.—' Oblegid ynddo Ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac- yn bod megis y dywed odd rhai o'ch poetau chwi eich hunain, Canys Ei hiliogaeth Ef hefyd ydym ni.' Cyf. Diw., Megis y dywedodd rhai hyd yn oed o'ch poetau chwi eich hunain, Canys Ei hiliogaeth Ef ydym ninnau hefyd.' Yn byw, yn symud, ac yn bod. Danghosir mor agos yw Duw atom. Y mae i bob un o'r geiriau eu hystyr neilltuoL. Byw. Sef bywyd naturiol y corfi. Syrnud. Nid gallu y corff i symud, ond natur deimladwy dyn yn cynhyrchu ofn, cariad, cas, &c. Bod. Y meddwl a'r ewyllys, sef yr hyn sydd yn perthyn yn arbennig i ddyii-yn gosod neilltuolrwydd ar ei fodolaeth. Y mae'r gallu i bob gweithred a meddwl a theimlad yn dyfod oddiwrth Dduw. Danghosir perthynas agos iawn rhwng dyn a Duw, ond eto y maent yn bodoli ar wahan. Nid oes yma ddim yn ffafriol i holl-dduwiaeth. Nid ydyw personoliaeth dyn yn colli yn ei ddibyniad ar Dduw a'i hanfod yn Nuw. Nid preswyliad Duw yn y byd, ond presuyliad dyn yn Nuw a ddysgir yma. Poetau. Aratus o Cilicia a Cleanthus y Stoiciad o Troas, beirdd oedd yn byw yn y drydedd ganrif cyn Crist. Adnod 29. Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duw- dod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn.' Hiliogaeth Duw. Yn fodau deallol. Os creodd Duw fodau deallol, rhaid Ei fod yn debyg iddynt, ac nid i aur ac arian, neu ddelwau o gerfiad celfyddyd. Y mae eilunaddoliaeth yn afresymol, gan ei fod vn gwneud yr hyn sydd yn amddifad o fywyd, symudiad a bodolaeth yn awdur y pethau hynny. Nid oedd modd i eilunod fod yn bortread o'r Duwdod. Adnod 3o.A Duw, wedi esgeuluso amser- oedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn yinhob man edifarhau. Cyf. Diw., Duw, gan hynny, a edrychodd heibio i'r amseroedd o anwybodaeth hon, ond yn awr y mae Efe yn gorchymyn i ddynion ar iddynt oil ymhob man edifarhau.' Gadawodd Duw y paganiaid i effeithiau naturiol eu heilunaddol- iaeth arnynt, heb eu dinistrio ac heb anfon goleuni datguddiad i'w mysg. Ond yn awr. Trwy yr Efeii.g),-I-y clatguddiad y mae wedi ei roddi ohono Ei Hun yn Ei Fab, y mae yn gorch- ymyn i bob dyn edifarhau. Y mae'r amseroedd o anwybodaeth wedi darfod (gweler Rhuf. i. II). Adnod 31. Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna Efe y byd mewn cvfiawnder, trwy y Gwr a ordeiniodd Efe gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo Ei gyfodi Ef oddi- wrth y meirw.' Cyf. Diw., Yn gymaint ag iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna Efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y Gwr a ordeiniodd Efe o'r Hwn y rhoddodd Efe sicrwydd i bawb, yn gymaint a darfod iddo Ei gyfodi oddiwrth v meirw.' Cawn yma y rheswm paham y dvlai pob dyn edifarhau. Y gwr. Iesu Grist. Yr oedd adgyfodiad Crist yn sicrwydd o'i awdurdodiad. Ymddygiad dynion at lesu Grist fyeld yn pen- derfynu eu tynged. Adnod 32.—'A phan glywsant son am adgyf- odiad y meirw, rhai a watwarasant; a rhai a ddywedasant, Ni a'th wrandawn drachefn am y peth h-,vn." Adgyfodiad y meirw. Nid oedd y