Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

N - - - -r CAPEL ALS, LLANELLI.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

N r CAPEL ALS, LLANELLI. Cynhaliwyd cyfarfodydd ordeinio Mr. I). J. Davies, B.A., o Goleg Aberhonddu, ar gangen o Eglwys Crist a gyferfydd yn y capel uchod ar nos Lull a dydd Mawrth, Gorffennaf 3ydd a'r 4ydd. 1 gib. Dechreuwyd odfa nos Lun gan y Parch. E. D. Evans, Pontypridd, a phregethodd y Prifathraw T. Lewis, M.A., B.D., Aberhonddu, ar Natur Eglwys. Bore dydd Mawrth, am 10.30 o'r gloch, dechreuwyd gan y Parch D. E. Harries (S.), Amanford, a phregethodd y Parchn. W. Arfon Johns, Blaenafon, a W. Davies, Llandeilo, y cyntaf yn Saesneg, a'r ail siars i'r eglwys. Am ddau o'r gloch, dechreuodd y Parch T. Orchwy Bowen, Ebenezer, Llanelli. Llywydd- odd y Parch. J. Stephens, Brynteg, yr odfa ordeinio gyda'i ddoethineb a'i arabedd nod- weddiadol. Galwodd ar Mr. D. Harris, New-road, ysgrifennydd yr eglwys, i roddi hanes a'r modd y rhoddwyd yr alwad, yr hwn a ddywedodd :— Fel ysgrifennydd yr eglwys, disgwylir i mi roddi ychydig o hanes yr eglwys a'r modd y rhodd- asom alwad i Mr. Davies. Caniatewch i mi, annwyl frawd ieuanc, eich croesawu yn enw'r eglwys yn gynnes iawn i'n plith, a bendithied Duw chwi yn helaeth ymhob gras a doethineb. Dechreuwn heddyw fel eglwys gyfnod newydd. Llenwir ein calonnau a hyder, ac edrycbwn yn galonnog i'r dyfodol, wrth gofio ardderchowg- rwydd y dynion galluog fu yn gweinidogaethu yma, a duwioldeb a ffyddlondeb y tadau a'r mamau lafuriasant yma, mor llwyddiannus tan amlwg arweiniad Duw drwy yr oesau a aethant heibio. Mae hanes Annibyniaeth yn y (lref a'r cymdogaethau cylchynol wedi ei ganoli yn yr eglwys a gyferfydd yn y capel hwn. Dechreuwyd .pregethu gyda'n Henwad yn y dref yn y flwyddyn 1770, gan y Parch. D. Thomas, Ffos- yrefail, Llanedi. Urddwyd Mr. Evan Davies yn 1775 yn gyd-weiniclog ag ef, yr hwn a rodd- odd gyfran helaeth o'i amser a'i wasanaeth i'r ychydig bobl oedd yn cydymgynull fel addolwyr a chynhyddodd y gynulleidfa gymaint fel y bu raid adeiladu yn 1780 adeilad cvfleus ar y llecyn cysegredig y safwn arno yn awr. Capel bychan, diaddurn, meddir, oedd hwnnw, a phregethid ynddo ar brynhawn Saboth yn unig. Helaeth- wyd yr adeilad yn 1797, a bu y Parch. Evan Davies farw yn 1806. Hytrach yn ystormus fu hanes yr achos tan weinidogaethy Parch. Thomas Edwards, ei olynydd. Ar ol ymadawiad y gwein- idog hwn, a chyn rhoddi galwad i olynydd iddo, fe sefydlwyd eglwys Jerusalem, Pembre. Yn y flwyddyn 1813, urddwyd Mr Howell Williams yn weinidog yma-a chynhwysai cylch ei wein- idogaeth Jerusalem, Pembre, a Nazareth, Pont- yeats, hefyd. Oherwydd gwendid corfforol, rhoddodd i fyny y ddwy eglwys hyn, a chyf- yngodd ei wasanaeth i Gapel Als. Yn ei amser ef yr helaethwyd y capel, ac y sefydlwyd eglwys yn Rehoboth, Pump Heol, yn bennaf drwy offer- ynoliaeth un o swyddogirjn yr eglwys, sef Mr. Davies, tadcu Dr. Llewelyn Bevan. Bu y Parch. Howell Williams farw yn 1827, yn ddyn ey- mharol ieuanc. Yn 1829 urddwyd Mr. David Rees yn weinidog ar yr eglwys, a llwyddiant digyffelyb fu ei weinidogaeth yma. Y flwyddyn ddilynol i'w urddiad bu raid helaethu y capel. Yn y flwyddyn 1839 sefydlwyd eglwys Seisnig y Park. Yn 1841 sefydlwyd eglwys Siloa. Yn 1842 sefydlwyd eglwys y Bryn. Er hyn oil, neu, efaillai, oherwydd hyn oil. cymaint oedd llwydd- iant yr achos yng Nghapel Als, fel yr helaeth- wyd y capel yn 1852 bron at ei faintioli presen- nol. Bu y Parch. David Rees farw yn 1869. Yn Hydref yr un flwyddyn, sefydlwyd y Parch. Thomas Johns yn weinidog yma. Llafuriodd, fel y gwyr mwyafrif y gynulleidfa heddyw, gydag egni a llwyddiant mawr am gyfnod maith. Yn 1875 sefydlwyd eglwys y Tabernacl. Tu'r un adeg codwyd t)7- capel ar y darn tir gyferbyn, a brydleswyd gan y Parch. David Rees, rhag i'r diafol,' meddai, godi addoldy o flaen ty Dduw.' Yn 1880 cynhaliwyd cyfarfodydd i ddathlu canmlwyddiant yr achos. Yn y flwyddyn 1895 helaethwyd ac aduewyddwyd y capel i'r fifurf bresenncl. Bu farw Dr. Johns, yn fawr ei barch, Medi, 1914. Yr ydym wedi cyfarfod yma heddyw, ni gredwn, i sicrhau olynydd teilwng i'r proft- wydi ydym. wedi enwi fel gweinidog eglwys Crist yng Nghapel Als. Cymharol fyr yw'r amser er pan ymddangliosodd Mr. Davies yn ein plith; hyderwn, er hynny, y clechreuir heddyw bennod hir a llwyddiannus yn hanes yr eglwys a Mr. Davies. Llafuriodd y Parch. David Rees yma am ddeugain mlynedd, a Dr. Johns am bum mlynedd a. deugain. Gobeithio y parha yr undeb ffurfir yma heddyw am gyfnod cylfelyb. Daeth Mr. Davies yma y tro cyntaf Saboth, Chwefror ijeg o'r flwyddyn hon. Gadawodd ei bregethau coeth, dwyster a defosiwn y gwasanaeth, o dan ei arweiniad, ynghyda'i ymddygiad diymhongar, argraff mor arbennig ar y cynulleidfaoedd fore a hwyr nes y teimlai y swyddogion y dylid gofyn iddo ddod yma am Sul arall yn fuan, yr hyn addawodd wneud. Yn y cyfamscr, gwnaethom bob vnichwiliad i hanes Mr. Davies, a llwyr fodlonwyd ni gan dystion amryw a phrofiadol, ac edrychem ymlaen gyda brwdfrydedd mawr at ei ail-ymweiiad, yr hyn gymerodd le ar y Sul, y 12fed o Fawrth diweddaf. Daeth cynulleidfa- oedd lliosog ynghyd y Saboth hwnnw a chymaint oedd dylanwad y weinidogaeth fel y penderfyuwyd gofyn am ddatganiad o farii yr eglwys yn y gyfeillach y nos Saboth hwnnw a phau ofynwyd i'r eglwys ddatgan ei barn ar y priodoldeb o roddi galwad i Mr. Davies, cododd pawb ar eu traed gyda'r fath unfrydedd lies llenwi ein llygaid a dagrau o lawenydd, ac ui chaed un yn erbyn. Nid heb bethprycler yr edrychem ymlaen at adeg rhoddi galwad i weinidog, rhag y ceid rhai 311 eiddo Paul. rhai yn eiddo Apolos, a rhai yn eiddo Cephas end cafwyd yr eglwys yn holLl unfrydol o blaid Mr. Davies. Piiodolwn yr oil i arweiniad amlwg Ysbryd Duw hyn yw ein sail gadarn i gredu y bydd yr undeb ffurfir yma heddyw yn un dedwydd a llwyddiannus. Credwn fod Mr. Davies yn anfonedig Duw atom eto rhaid i ni oil gofio fod ei ddedwyddwch a'i ffyniant yn ein mysg yn ein llaw ni. Rhaid i ni oil wneud ein goreu i gadw trad.dodiadau uehel a da yr eglwys i fyny y mae tangnefedd, cydweithrediad a ffyddlondeb wedi nodweddu yr eglwys ar hyd y blynyddoedd. Daw Mr Davies atom yn ddyn ieuanc pur ei gymeriad, a disglaer ei alluoedd, cwbl ymroddedig i waith yr Arglvvydd, ac wedi parotoi yn dda ar gyfer ei waith. Ca yma eglwys luosog, unol, lieddychol, a gwaith mawr yn ei aros-tyrfa o blant i'w harwain at yr Arglwycid, a llu o b )bl icuainc awyddns i weithredoedd da, ac yn sychedu am wybodaeth a phrofiacl o'r gwirionedd. Derbyniwn ef yn siriol i'n cartrefi, cvnorthwy-wn ei ymdrechion a'n ffyddlondeb, cynhaliwn ei wei.iidogaeth a'n gweddiau, a daw iddo ef a niiinau a'n plant,, ac i'r dref, t'en- dithion cvfoethucaf Duw. Holodd y Parch. W. Trevor Davies, Soar, Llanelli, ofyniadau yr urddiad ac atebodd y gweinidog ieuanc yr oil yn syml a phendant. Wedi i'r gynulleidfa a Mr. Davies roddi arv/ydd- ion gofynedig yr urddiad, offnanodd y Parch. D. Lewis, Dock, weddi yr urdd ad, a phregethodd y Parch. P. E. Price, Glandwr, Penfro, bregeth siars i'r gweinidog. Galwodd y llywydd ar Mr. James, Y.H., Pontygafel, i siarad a chyflwyno cheque dros eglwys a chynulleidfa Glandwr i'r gweinidog urddedig. Siaradwyd hefyd gan y Prifathraw T. Lewis, M.A., B.D., Aberhonddu; Mr. L- J. T. Lew i s, M. A B.1)., Evans, B.A., myfyriwr (dros fyfyrwyr Aber- honddu) a'r Parchn. R. Gwylfa Roberts, D.Litt., Tabernacl, a J. Evans, Bryn. Llanelli. Dechreuodd y Parch. Rhys Griffiths, M.A., B.D., (S.), Park, Llanelli, odfa yr hwyr, a phreg- ethodd y Parchn. Athraw D. Miall Edwards, M.A., Aberhonddu, a Gwilym Rees, B.A., Merthyr. Gvvelsom yn bresennol, heblaw a enmvyd yn barod, y Parchn. J. Davies, M.A. (M.C.), Capel Newydd G. Williams (Presb. S.) W. Trevor Jones (B), Betliania, a Hugh Jones (B.), Bethel, Llanelli; J. H. Rees, Burry Port; Robert Griffith, Cymdeithas Genhadol Llundain Parry, Llansamlet J. Abel, B.A., IVddewi; T. Jones, Libanus, Pwll; J. R. Evans (B.), Soar, Llwyal- hendy R. O. Hughes (S.), Burry Vort D. G. Jones, Deri; D. g. Harries (S.), Amanford; Griffiths, Pilton Green L- Berian James, B.A., Penygroes; W. J. Williams, Carway; T. Davies, Llangennech J. Humphreys (B.), Felinfoel; D. Rhyddereli, B.A., Capel Seion; T. M. Price, Llanon Lloyd, Siloh, Pont- ardulais W. Morgan, Brynteg a Davies, (M.C.), Glen Ala, Llanelli. Cawsom gyfarfodydd ardderchog; cynull- eidfaoedd lluosog—gorlawn oedd y capel mawr yn ystod pob odfa. Cafodd y gweinidog a'r eglwys gychwyniad urddasol ar eu pennod newydd yn eu hanes. Gwerthfawr iawn ydyw dymuniadau da tyrfaoedd o bobl oreu tref ac ardal. Gwnaeth y rhai drefnodd yr urddiad eu gwaith yn ddoeth; ni allent drefnu yn fwy uniawn. Yr oedd byrddau wedi eu trefnu, eu taenu, eu hilio yn ehelaetli a'u haddurno yn chwaethus. Croesawyd ni yn gynnes gan chwior- ydd caredig yr eglwys. Wele, gwnaethpwyd pob peth yn dda. Cyflawnodd y brodyr eu gwaith yn yr odfeuon yn deilwng o'r amgylchiad a'r amgylchoedd. Canodd y cor y corganau, ac eraill unawdau, yn ardderchog. Pregethodd y brodyr gyda nerth ac arddeliad Duw. Bydded gras Duw ar yr undeb, a gwneler dyfodiad fy PiiiiNvyl frawd i brif bulpud I/lanelli yn ddeffroad ysbrydcl yn yr holl eghvvsi, ac vn ogoniant i'r Arelwvdd. Bryn. J OH x EVANS, Ysg. y Cyf undeb.

ILLYTHYRAU AT FY NGHYDiWLADWYR.