Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
Cyflog y .-Glowyr.-
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cyflog y Glowyr. Gan Burl a is. Dydd Iau diweddaf, cyfarfu'r Bwrdd Cymodi unwaith eto i ystyried cwestiwn y gyfiog. Mae'r gbwyr yn gofyn am vchwanegiad o 121 y cant ar safon newydd 1915, a'r perchenogion yn gofyn am ostyiigiad o 15 y cant. Ar ddec.hreu'r rhyfel derbyniai'r glowyr drigain y cant ar hen safon 1879. Ym mis Mai, 1915, trwy gyfrwng y IJy- wodraeth, rhoddwyd i'r gweithwyr war bonus i gwrdd a chost uwch angenrheidiau bywyd, a'r ■ diweddar Arglwydd St. Aldwyu a ddvfarnodd 171 y cant at y pwrpas hwnnw. Ryw dri mis wedyn daeth y cytundeb newydd i fod, eto trwy ymyrraeth y Llywodraeth. Ymhlith effeithiau uniongyrchol y cytundeb newydd hwn y gweith- wyr a dderbyniasailt godiad ychwanegol, ar Awst 2iain, o I8- ar safon 1879, yr hyn a wnai'r gyflog yn 96l ar y safon hwnnw, lieu yn jo.83 y cant ar y safon newydd. Ym mis Tachwedcl rlioes cadeirvdd annibynnol y Bwrdd Cymodi ostyngiad o bump y cant ar y safon newydd (neu saith a banner y cant ar yr hen) eithr chwe mis yn ddiweddarach y Llywodraeth eto a gyfryng- odd, ar gais y mwnwyr, gan roddi iddynt, heb ystyried na barn na hawliau'r perchenogion, godiad o bymtheg y cant ar y safon newydd. neu 22 J y cant ar safon 1879. Felly saif y gyfiog heddyw yn 40.83 y cant ar safon 1915, neu III y cant ar hen safon 1879. Yr wythnos hon v mae'r glowyr yn gofyn am godiad a wnai'r gyilog yn 53.30 y cant ar y newydd, ac yn gant a deg ar hugain ar yr hen safon. Ar y 11a w arall, y mae'r perchenogion am ostwng y gyflog fel y byddo'n 25.83 y cant, neu yn 88.75 y cant ar y gwalianol safonau. Anodd ia*vn i'r cyffredin o ddyn na fO'11 cymryd diddordeb arbennig yn y mater astrus hwn yw deall paham y mae'r ddwy ochr yn gwahaniaethu cymaiut y,1 eu hawliau yn wyneb y ffaith fod cynrychiolwyr y ddwy blaid yn cyd- xircliwilio.'r llyfrau, gan fanwl ystyried pris y glo yn ystod y tri mis diweddaf, a'r cyflenwad ohono a werthwyd. Tebyg i hyn oedd y sefyllfa ryw dri mis yn ol, pan liawliai'r perchenogion ostyng- iad o 71 y cant, tra'r gweithwyr, ar yr unrhyw achlysur, ac ar sail yr un ffeitbiau, yn hawlio codiad o bymtheg y cant. Ceir yr esboniad yn y ffaith fod y gweithwyr yn cadw'u llygaicl yn fwyaf neilltuol ar bris cyfartal y glo yn ystod y tri mis blaenorol, tra y seilia'r perchenogion eu cais am ostyngiad yn y gyflog ar yr ychwanegiad dirfawr yn y gost o gynyrcliu. Ni amheuant am f oment fod pris y glo wedi codi, a'r gweithwyr, hwythau, ni amheuant fod costau'r nwyddau at gynyrchu'r glo wedi myned rhagddynt. Ivitlir ni allaut ddod o hyd at ddealltwriaeth pa faint o'r naill a'r Hall sydd gyfartal a'u gilydd. Dyma'r anhawster mawr o hyd, a hvnVlla isvdd wrth wraidd y cyffro beunydd a welir yng nglofeydd Deheudir Cymru a Mynwy o leiaf, cyn belled ag y mae a fynmo hynny a'r gyflog, oddiar y dydd y daeth y cytundeb newydd i ryw flwyddyii yn ol. Gellid arbed y perygl hwn o dan yr hen gytundeb i raddau pell, gan fod yn hwnnw yr hyn a elwid yn bris cydwerth (equivalent selling price). Pan werthid tunnell o lo, ar gyfartaledd, am ryw bris neilltuol, derbyniai'r .glowr hyn a hyn o gyflog fel minimum., ac yr oedd y gyflog honno a'r pris hwnnw yn safon neilltuol y gweithredai'r cadeirydd annibynuol wrtho pan yn rhoi ei ddyfariiiad o bryd i gilydd, wedi methu o'r pleidiau gydweld. Ysywaeth, nid oes y fath beth a phris cydwerth yn y cytundeb newydd, a'r Llywodraeth, yn bennaf, sydd i'w beio am hyn, Hyd yn ddiweddar, cynrychiolwyr y glo- wyr hwythau a wrthwynebasant yr egwyddor o sefydlu pris cydwerth. Yn y dyddiau. diweddaf hyn, 'gwelwyd yn eu mysg arwyddi:>u o newid barn, a'u bod yn barod i ail-ystyried y cwestiwn. Ond y mae'l1 amheus a fyddant yn unfarn a'r meistri ar fater y pris, ac a ymfoddlonant i osod y cwestiwn yn nwylaw barnwr lien gyfryngwr anuibynnol. Rhwng y ddau bris a awgrymwyd hyd yn hyn gan gyaiiychiolwyr v ddwy blaid y mae Y113 wahaniaeth o ryw chwe swllt y dunnell. Awgrymwycl o 22 swllt i 23 swllt gan y perchen- ogion, ac un swllt ar bymtheg a chwech gan y glowyr. Pedwar swllt ar bymtheg oedd y pris a awgrymwyd gan Arglwydd Muir Mackenzie, a gorfodwyd ef i ymddiswyddo oherwydd yr awgryin. Hyderwn y bydd llwybr Arglwydd Ustus Pickford yn esmwythacb ac ofnwn rnai anesmwylliter a fydd yn y glofeydd oni ddel rhywbeth tebyg i bris cydwerth i lywodraethu'r gyflog.
CYFUNDEB AGOGLEDD MORGANNWG.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYFUNDEB AGOGLEDD MORGANNWG. At* Olygydd y Tyst. Syr,—Blin gennyf i mi adael allan enw In gyfran- nodd yn dda tuag at lwyddiant y cyfarfod ym Methel, Aberdar, y mis diweddaf, sef enw y Parch J. D. Rees, Salem Er wedi llafurio yn yr un iiiaes am 34 mlynedd, y mae Mr Rees yn gadarn o gorff, yn dirf ac yn iraidd o ysbryd, a'i ddylanwad a'i barch yn dyfnhau o hyd- Caffed Bwyddi lawer eto i gyhoeddi v newvddion da a ewneud disgyblion i lesu Grist. Hirwaun- g. Wkrn Williams, Ysg.
COLLEGIATE SCHOOL, PONTYPRIDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COLLEGIATE SCHOOL, PONTYPRIDD. At Olygydd Y ryst. Syr,-Fe arbeda draul a thrafferth os caniatewch i mi hysbysu gweinidogion ac ysgrifenyddion yr eglwysi fy mod wedi rhoddi i fyuy yr ysgol uchod. Hyderaf y ceir rhywun i gymryd ati eto ar ol y rhvfel. Yr eiddoch, &c., Glandwr Taf. JENKYN Jones-
UNDEB YR AN NIB YN WY R CYMREIG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
UNDEB YR AN NIB YN WY R CYMREIG. d. At Olygydd y Tyst. Syr,—-Mae gofyniad Mr. John Williams, Waunwen, yn yTYST wediperiimifeclclwlyclylai Cyngor yr Uncleb ystyried mater yr ysgrifen- vddiaeth yn ddifrifol. Onid yw yr amser wedi dod i gael Ysgrifennydd Cyffrediiiol i'r Undeb ? Y mae un felly gan yr Annibynwyr Seisnig. Hwyrach y cyfyd an- hawster ynglyn a'r gyflog ond pan ystyriwn v gallai Ysgrifennydd Cyffredinol ofalu am yr ystadegaeth, y Blwyddiadur, bod ynYsgrifennydd Ariannol, yn Ysgrifennydd y Drysorfa Gyarorth- wyol, yn Ysgrifennydd y Cyngor a'r Gynhadl- edcl, nid wyf yn meddwl y byddai yna anhawster o gwbl. Gyda'r Drysorfa Ganolog mewn grym. bydd peirianwaith ein Hundeb yn fwy dyrys nag erioed a doeth fyddai cael iiii. Ysgrifennydd Cyffredinol cyn dechreu wynebn'r tir newydd. I Yn ol y drefn bresennol, mae perygl i'n Henwad fynd, fel y dywedwyd am gorff arall, vn Central Board without a centre.' Buasai Ysgrifennydd Cyffredinol yn gallu ateb gofyn- iadau'r enwad yn well, osgoi llawer o bethan annymunol, ac yn gyfrwng i uno'r Enwad yn fwy. Credaf y dylai'r Cyngor ystyried y mater. Yr eiddoch yu wir, ANNIBYNWNR.
BARGOED.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BARGOED. Cyman/a Ganu. Ar y Llun cyntaf yng Ngorffentiaf cynbaiiwyd Oytnanfa Ganu eglwysi Bargoed a'r cylch yng Nghalfaria. Arfaethasid ei chynnal ar Mawrthgwyn, ond oherwydd amgylchiadau'r wlad gohiriwyd hi hyd y dyddiad uchod. Yr arweinydd am y dydd oedd Mr W. J. Svaus, Aberdar, ac fel arfer gwoaeth ei waith i fodlonrwydd cyffredinol, Mr John Bevan, o Salem, Trelyn, lywyddai gwrdd y bore. Neilltuwyd y cyfarfod yma yn gyf;.¡n i'r plant. Oanasant yn swynol iawn, ac y mae clod mawr yn ddyledus i Mr J. C Evans, Calfaria, am eu hyRorddi cystal. Holwyd y pwnc yn ddeheuig gan y Parch Griffith J. Jones, Tabernacl, a chafwyd atebion parod gan y p'ant Cafwyd unawd gan Master Percy Jeokins, Trelyn, a dymunol oedd ei wrando yn canu mor swynol. Yn ystod y cwrdd yma anerchwyd y plaut gan y Parch W. Phillips, Salem, a cbafwyd ganddo un o'r anerchiadau mwyaf pwrpasol a wrandawsom erioed. Am 2.30 y prynhawn cynhaliwyd yr ail gwrdd dan lywyddiaeth fetirus yr Athro Sylvan Evans, B.A. Cafwyd gauddo annerch yn llawn angerdd am i'r plant ddysgu'r Gymraeg yn drwyadl, a hyderwn y gwrendy rhieni y cylch ar ei anog- aeth. Datganodd Miss Davies, o Galfaria yn y cwrdd yma, a theilynga air o ganmo) am ei gwaith da Cododd y teimlad yn uchel iawn yng nghyfarfod yr hwyr dan lywyddiaeth fedrus y Parch D. G Jones, y Deri. Yn ychwanegol at y tonau canwyd dwy anthem, Jerusalem fy ughartref gwiw (Dr Mason), a Cenweh yn llafsr i'r Arglwydd,' gan Mr R. Stephen, M A, yr Ysgol Sir, Pontypool, a deallwn ei fod yn berthynas i'r enwog Tan- ymarian. Anthem ganadwy a thlos ydyw, a theilynga le yo ein Cymanfaoedd Canu. Hyfryd oedd gwraodo ar Miss Myfanwy Jones, o New Tiedegar, yn rhoi datganiad mor fedrus o'r unawd Rbowoh imi bregeth Gymraeg.' Cafwyd anerchiad coeth 9, buddiol hefyd gan y Parch D. Leyshon EVMIS, C.C., Calfaria, a da pe y gwrandawai yr eglwysi ar ei chenadwri. Cymerwyd rhan hefyd yn ystod y dydd gan y Parchn L. T Jones, New Tredegar; D. Lewis, Cwmsyfiog; Simon Samuel (B), Aberbargoed a Morgan Lewis (B), Hengoed. Gwasanaethwyd fel cyfeilyddion gan Miss R. Edmunds, Taber- nacl, a Mr M. Vaughan, Deri, a haeddant ddiolch arbennig am eu parodrwydd a'u ffydd- londeb. TeiJwog yw Mr D. Aeron Parry, y datgeiniad poblogaidd, o ganmoliaeth am ei lafur mawr a'i set diball trwy arwain y gwahanol rehearsals; a'r ddau ysgrifennydd lJafurus hwythau hefyd a ganmolwn am arddangos cymaint o fedr ynglyn a'r trefniadau. Diolchodd yr arweinydd i'r cantorion am wnend eu gwaith mor ardderchog. Cafwyd Cymanfa nas anghofir gennym yn fuan iawn Yr oedd y capel eang yn orlawn, a phrofiad pawb ar derfyn y dydd oedd, Melus, moes mwy. ■»
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HEBRON, CLYDACH -Sul a Llun, Gorffennaf 16"-g a'r 17eg, cynhaliodd yr eglwys uchod ei ehyfarfodydd blynyddol. Pregethwyd gan y Parchn Ellis Parry, Godre'r Graig, a Stanley Jones, Caernarfon.
I J IWBIIXR PARCH. D. A. GRIFFITH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
J IWBIIXR PARCH. D. A. GRIFFITH. At Olygydd y Tyst. gYR)—-Dyniunwy^d arnaf i anfon gair i alw sylw taer eich darllenwyr am y waith olaf at Jiwbili a Thysteb y Parch. D. A. Griffith, Troed- rhiwdalar, a gwnaf hynny gyda'r hyfrydwch mwyaf, er nad oes gennyf un berthynas swydd- nogol a mudiad y dysteb. Byr iawn yw y rhybudd a roddwyd i'r cyhoedd ynglyn a'r dysteb hon a chan y cyflwynir hi i Mr. Griffith (fel y gwelir yn' yr hysbysiad) ar yr 16eg o Aivst-hanileT canfed pen blwydcl ei weinidogaeth yn yr un cylch-gwelir fod yr amser bron ar ben, a bod yn ofynnol i'r rhai sy'n awyddus i ddatgan en gwerthfawrogiad o wasanaeth a phersonoliaeth Mr. Griffith i wneuthur hynny ar frys. Ni chan- iata eich gofod gwerthfawr i mi ymhelaethu ar deilyngdod eithriadol Mr. Griffith, yn rhinwedd ei wasanaeth hirfaith a disglair i'w Enwad ac i'r cyhoedd yn gyffredinol. Buasai aim ond nodi'r swyddi pwysig a lanwodd. yn myned a gofod helaeth, ac yn ddanghoseg o'i ynni a'i weithgar- wch anil-ochrog. Syndod meddwl sut y gallai un person fyned trwy gymaint o waith, a hynny mewn modd mor efreithiol a thrylwyr, ac yntau hefyd yn gyfrifol am fugeiliaeth mor eang. Cariodd ei feichiau amrywiol a thry-mion bob aniser dan ganu, a gellid meddwl nad oedd dim yn faich iddo. Ynghanol ei holl ddyledswyddau, pwv mor hynaws a heinif, mor llawn o ysbryd ac asbri, a'n brawd ? Nid yw'n ormod i'r Enwad a'r cylchoedd gynorthwyo ei eglwysi i roddi iddo dysteb deilwng o'i wasanaeth amhrisiadwy. Apelir, hefyd, at hen fyfyrwyr ac aelodau Pwyll- gar Coleg Aberhoiiddu am roddion tuag at sicrhau darlun o Mr. Griffith i'w osod ar un o furiau'r Coleg, fel arwydd o werthfawrogiad o'i waith fel Ysgrifennydd y Coleg am yr agos ddeugain mlynedd. Ond ni fwriedir i'r ddau apel wrth-daro yn erbyn eu gilydd 11a chyrraedd yr un personau. Apel eglwysi Mr. Griffith at y cyhoedd yw yr un sy'n galw gyntaf. Derbynir rhoddion yn ddiolchgar gan yr ysgrifennydd, Mr. Ivl. Jones, Llwynpiod, Garth, S.O., Brecon- shire. Mae yn haeddu gwneuthur ohonom hyn iddo. Yr eiddoch, &c.. Aberhonddu, Aberhonddu, D. MIALL EDWARDS. Awst 3ydd, 1916.
YR YSGOL. SUL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
gweinidogion yr eglwysi ? A fyddai'n ormod gofyn i Gyngor yr Undeb gysegru un cwrdd, o leiaf, ym Mhontypridd y tlwyddyn nesaf i ystyried mater yr Ysgol Sul ac addysg grefyddol yn en gwahanol agweddau ? Mae holl addysg Cymru i fynd trwy dan beirniadaeth lem yn ystod y blynyddau nesaf. Nid oes un darn o'r maes mewn mwy o angen am y driniaeth nag addysg grefyddol a moesol ac o'i drin yn iawn, nid oes un darn ohono chwaith mor debyg o ddwyn ffrwyth ar ei ganfed a'r Ysgol Sul.