Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

'Y G WLIEDYDD, BETH AM Y NOS?…

Llansantffraid, Mai dwyn.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llansantffraid, Mai dwyn. Marwolaeth Mrs .Tones.-Wedi nychtod blin bu farwpriod hynaws y Parch Evan Jones, Llansantffraid, ar yr 31ain o'r mis diweddaf, a cliladdwyd hi yn Llansantffraid y dydd lau canlynol. Yr oedd Mrs Jones yn ferch i'r diweddar Mr W. Edwards, Glanenig, Talgarth; yu wyres i'r diweddar Henadur John Prothero, Aberhonddu; ac yn nith i Mrs T.E. Harries, Caerdydd, a Mrs Principal Rowlands, Aberhonddu. Perchid hi yn fawr gan bob gradd yn yr ardal y bu yn trigo am ddeng mlynedd, a chafodd gladdedigaeth tywysoges. Treulibdd fywyd diwyd a defnyddiol ar waethaf llesgedd corli, gan gymryd diddordeb ym- arferol yn mudiadau dyngarol a chymdeithasol y cylch, yn enwedig Cymdeithas Ddirwestol y Merched a chymdeithasau y bobl ieuainc. Cymerodd ei lie yn anrhydeddus yn yr Ysgol Sabothol, ac anwylid hi gan ei dosbarth, a chafodd y claf ei chwmni a'i chy- nhorthwy. Boneddiges brydferth ei bywyd a chwim ei deall ydoedd. Gwraig ddoeth a'i geiriau'n goeth i gyd.' Ei haul a fachlndodd a hi eto'n ddydd.' Gorffennodd ei gyrfa yn 41 mlwydd oed. Yn ei hym- adawiad collwyd un oedd yn golofn gref i bopeth liiinweddol, a thystiodd ddydd ei hangladd mor gu oedd gan bawb. Gwasanaethodd diaconiaid yr eglwys fel bcanrs-Mri J. Cadwaladr. E. Hanmer, R. Jones, E. Jones, R. C. Jones a J. Pryce; ac yr oedd y gweiaidogion canlynol yn bresennol:—Parchn J. J. Poynter, Groesoswallt; Gwilym R Roberts (W), Llanfechain 0. T. Davies (M C) a J. H. Richards, Llanfyllin; J. M. Edwards, Sarnau; J. Howells, Nantmawr; L. Evans, Llandysilie; D. Morgan, Trallwm; W. M. Jones (M.C), Llansantffraid; 0. Mathias (M-C), Llanymynech; J. Lewis, Bwlchyffridd; R. J ones, Berwydd a J. E. Thomas, Meifod. Cyn- haliwyd gwasanaeth wrth y ty, yn y capel, ac wrth y bedd, a chynhaliwyd gwasanaeth angladdol y nos Fawrth canlynol, pryd y pregethwyd gan y Parch J. J. Poynter, Croesoswallt. Cydymdeimlir yn fawr a. Mr Jones a'r bachgen bach yn eu profedigaeth chwrw. J. M:-E4.