Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

I Tabernacl Newydd, Port Talbot.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Tabernacl Newydd, Port Talbot. Agor Organ Neivydd.—Noson i'w chofio yn y Tabernacl ydoedd nos Iau, vi ehefin 22aiu, pan y cyn- haliwyd cyngerdd mawreddog ar yr achlysur uchod. Er ei bod braidd yn ddiweddar ar y flwyddyn, a'r hin yn boeth, eto cafwyd ty gorlawn, a gorfu i lawer gefnu oherwydd prinder lie. Gwasanaethwyd gan Dr Caradog Roberts, Rhos- Beeintir y dref o dro i dro ag ymweliad organyddion o'r radd flaenaf, ond bron na ddywedwn, Ti a ragoraist arnynt oil. Cynorthwy- wyd ef gan Gor Meibion Port Talbot, dan arweiniad yr hyglodus Mr John Phillips, Y.H., arweinydd y gan yn y Tabernacl Newydd. Mae ei enw ef yn hysbys trwy Dde a Gogledd, ac mae'r cor dan ei fatwn wedi ennill rhai o'r prif wobrwyon yn y wlad hon a'r America ond teimlwyd y nos hon na bu canu'r cor erioed yn well. Y soprano ydoedd Miss Louie James, R.A.M., Dinbych. Dyma'r ymweliad cyntaf o eiddo Miss James a'r ardal, a rhoddodd fodlonrwydd mawr Mae ganddi lais cyfoethog, ac ol disgyblaeth fanwl arno, ac yn sicr mae iddi ddyfodol disglaer. Y Y datganwr arall ydoedd Mr George Llywelyn, A.R.C.M. 'Does neb wedi canu'n amlach yn y dref a'r cylch nag ef, ond mae mor dderbyniol heddyw ag erioed. Cafodd ei ganeuon dderbyniad brwd. I waredu rhag undoneiddiwch, sicrhawyd gwasanaeth Miss M. J. Francis, yr hon a wefreiddiodd y dyrfa gyda'i hadroddiadau. Mae hithau'n feistres yn y gelfyddyd gain o adrodd. Llanwyd y gadair i'w hymylon gan yr A.S. poblogaidd, Mr T. Jeremiah Williams, yr hwn roddodd nid yn unig rodd dywysog- aidd, ond hefyd araith llawD tan. Rhyw ddeufis cyn y recital, rhoddodd Mr John Phillips her i'r gweinidog, y Parish, Ogwen Griffith, y cyfrannai ef 220 ar yr amod fod yr eglwys yn gwneud 280 trwy recital a chyfraniadau personol. Gosododd y gweinidog yr achos gerbron y gynulleidfa ar nos Sul, a chafwyd yn agos i 280 o addewidion y noson honno, a Jlwyddwyd i wneud cydrhwng y recital a'r cyfrauiadau tros C170 o elw clir. Ysgrifennydd y cyngerdd ydoedd Mr D. W. Lewis, yr Ysgol Sir. Taflodd ei 'holl enaid i'r mudiad, a thrwy gyfuniad o fedr a sel, llwyddodd yn ardderchog, ac iddo y bo'r clod. Gwobrwyo Gwasanaeth.-Nos Fercher, Gorffennaf 26ain, caed cyfarfod diddorol iawn i wobrwyo Mrs Fordar achlysur ei phriorlas a'i hymddiswyddiad fel organyddes; hefyd i anrhydeddu Mr Edward Davies fel arweinydd y Gobeithlu ac is-arweinydd y gan. Daeth nifer dda ynghyd, ac anrhegwyd Mrs Ford a silver tea and coffee serrice hardd, a Mr Davies a gold albert fel arwydd fechan o'n gwerthfawrogiad o ffydd- londeb a llafur diflin y ddau am flynyddoedd. Siarad- odd amryw, a thalodd pob un warogaeth uchel i'r ddeuddyn am eu gwasanaeth. Hir oes iddynt i fwyn- hau yr hyn y maent wedi wir deilyngu. Dyma'r drydedd waith yn ystod y flwyddyn hon i'r eglwys ddatgan ei gwerthfawrogiad o wasanaeth mewn modd sylweddol. Yr Organyddes Ne.,tdydd.-Ar awgrymiad Dr C. Roberts, wedi prawf cyhoeddus ar yr organ, dewisodd y pwyllgor gydag unfrydeddvHss Gwyneth Jenkins. Mae Miss Jenkins yn ferch ieuanc o alluoedd cerdd- orol disglaer, ac mae gan yr eglwys hawl i ddisgwyl llawer oddiwrthi. Eiddunwn iddi flynyddoedd lawer o wir lwyddiant yn ei chylch pwysig.

"',. - r-..............- "-'-""-""…

LLANOEILO.

Family Notices

i iGLYN-NEDD.

A D D Y8 G RAGBARATOAWL .…