Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

SOAR, CWMPARC.

Advertising

❖ <><'>-<>. -<><>. ç.. -<>-…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

❖ <><'>-<>. -<><>. ç.. -<>- -<>-o<>-<>-<>-<>-<>-<>-<>-<>-<>-<>-<$> $Y WERS SABOTHOL. ij t Y WERS SABOTHOL.  ? <& ————— ?I! V Y $¥ WIERS RYNGWLADWRIAETHOL. f I — I ? Gaa ¥ Parch. D. OLIVER. D D., f TREFFYNNON. J TREFFYNNON. 4 < £ > -O- < >- • O ■ <v- ~C*- -O- ->ç.<>-<>Ø-<>-<>-<>>-<>-<>-<>-<>-<>4> Medx 3Y<ld.-—Gofidiau a Chysuron Paul.—2 Cor. xi. 21-33. YGJTESTYN EURAIDD, Ac Efe a ddywedodd wrthyf, Digon i ti Fy ngras I canys Fy nerth I, a berffeithir mewn gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn fy ligwendid, fel y preswylio nerth Crist ynnof fi.' -2 Cor. xii. 9. RHAGAR WIUNIOL. Y mae'n debygol i'r Ail Lythyr at y Corinthiaid gael ei ysgrifennu gan Paul tua diwedd ei arhos- iad ym Macedonia, ar ol derbyn adroddiad Titus am sefyllfa'r eglwys yng Nghorinth. Br fod yr adroddiad ar y cyfan yn foddhaol, eto cydna- byddai fod gwrthwynebwyr Paul yn dal yn faleisus ac yn arfer pob inoddion annheg i iselhau- ei awdurdod. Haerent nad oedd yn apostol, gan nad oedd yn un o'r deuddeg a ddewiswyd gan yr Arglwydd Iesu. Tybir mai ymysg y blaid a ymffrostiai yn Cephas yr oedd y prif wrthwynebwyr—-plaid Iddewaidd. Cyfansodd- wyd yr Ail Epistol gyda golwg ar y sefyllfa hon ar yr eglwys. Yn y Wers rhycld yr Apostol resymau cryfion dros ei hawl i gael ei gydnabod yn apostol. Yr oedd yn Hebrewr. Yr oedd wedi llafurio a dioddef llawer dros Grist. Yr oedd wedi cael gweledigaethau a datguddiadau neilltuol gan Dduw. Nid oedd yn beth dymunol gan yr apostol gyfeirio at ei waith a'i ddioddef- iadau dros Grist, ond dyma'r unig ffordd y gallasai gyfarfod ei wrthwynebwyr. ESBONIADOL. Adnod 21.Am amharch yr ydwyf yn dy- wedyd, megis pe buasem ni weiniaid eithr ymha beth bynnag y mae neb yn hyf (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd), hyf wyf finnau hefyd.' Cyf. Diw., Yr wyf yn llefaru mewn ffordd o iselhad, megis pe buasem ni yn weiniaid. Eto ymha beth,' &c. Cyhuddid yr apostol gan ei wrthwynebwyr o wendid. Mewn ffordd o hunan- ddiraddiad yr wyf yn caniatau fy mod yn wan pan yn eich plith. Tybiai rhai ei fod yn llefaru mewn gwawdiaeth. Y mae eich dysgawdwyr yn ddynion mawr nid wyf fi dclim mewn cym- hariaeth a hwynt. Y maent hwy yn gryfion, ond (er cywilydd i mi fy hun yr wyf yn dywedyd) yr wyf fi yn wan.' Eto ymha beth bynnag y mae neb yn hyf. Yr oeddynt wedi bod yn hyf i haeru ei wendid yr oedd yntau am fod yn hyf i dclangos seiliau ei apostoliaeth a'i hawl i'w hymddiriedaeth. (Mewn ffolineb yr wyf yn dy- wedyd.) Gall hyn ymddangos yn ffolineb. Yr oedd ganddo fwy o le a hawl i fostio na neb o'i wrthwynebwyr. Adnod 22.—' Ai Hebreaid ydynt hwy ? felly finnau ai Israeliaid ydynt hwy ? felly finnau ai had Abraham ydynt hwy ? felly finnau.' Ai Hebreaid ydynt hwy ? Sef ei wrthwynebwyr. Hebreaid neu Iddewon o waedoliaeth bur ac iaith. Felly finnau. Yn Hebread (Phil. iii. 5). Ai Israeliaid ydynt hwy? Golygir eu perthynas grefyddol. Yn perthyn i'r wir grefydd, ac yn ad,.Ioli'r uil Dtiw. Felly finnau. Ai had Abraham ydynt hwy ? EJtifeddioii yr addewid, ac yn dis- gwyl am y Messiah. Felly finnau. Yr oedd yn gyfartal iddynt yn yr oil. Adnod 23.—' Ai gweinidogion Crist ydynt hwy ? (yr ydwyf yn dywedyd yn fiol) mwy wyf fi mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialen- odiau dros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych.' Cyf. Diw., 'A ydynt hwy yii weinidogion i Grist ? (yr wyf yn llefaru fel un wedi colli arno ei hun) myfi yn fwy mewn llafur yn helaethach, mewn carcharau yn amlach, mewn gwialenodiau dros fesur, mewn marwolaethau yn fynych.' Ai gweinidogion Crist ydynt hwy ? Honnent eu bod yn weinidogion Crist, yn ymdrechu ennill dynion i'w Deyrnas. Caniata yr apostol hynny. (Yr wyf yn llefaru fel un wedi colli arno ei hun.) Wrth arfer y fath fost teimlai'n boenus ei feddwl ac ynfymddangos yn debyg i wallgofddyn. Mwy wy!. ft. Yr oedd yn weinidog o radd uwch, gan ei fod wedi dioddef mwy a llafurio'n helaethach. Yr oedd seliau ei weinidogaeth yn fwy sicr. Mewn blinderau yn helaethach. Yr helbulon a'r llafur wrth bregetliu'r Efengyl. Mewn gwialen- odiau dros fesur. Ii guro a gwail yn amlach ac yn dostach. Mewn carcharau yn amlach. Un- waith y sonnir yn Llyfr yr Actau am ei garch- ariad a'i fflangellu cyn yr amser yr ysgrifennodd y llythyr hwn (Actau xvi. 23). Diau i'r apsotol ddioddef llawer o betliau ar ei deithiau nad ydynt wedi eu cofnodi. Mewn marwolaethau yn fynych. Mewn perygl i gael ei roddi i farwol- aeth, fel yn Lystra a mannau eraill. Adnod 24. Gan yr Iddewon bnmwaith y derbyniais ddeugain gwialennod ond un.' Gan yr Iddewon bumwaith. Ni chofnodir yr un yn Llvfr yr Actau. Cafodd yr Iddewon awdurdod i fflangellu, ond nid i roddi i farwolaeth. Gwa- herddid gan y gyfraith roddi mwy na deugain gwialennod (Deut. xxv. 3). Rhag inylied dros y rhif, rhoddid deugain ond un. Adnod 25.—' Tair gwaith y'm curwyd a gwiail; unwaith y'm llab3rdd.iwyd teirgwaith y torrodd llong aruaf noswaith a diwrnod y bum yn y dyfnfor.' Tair gwaith y'm eurwyd a gwiail. Sonnir unwaith yn yr Actaii am hyn (xvi. 22, 23). Gan yr ynadon Rhufeinig y cafodd y driniaeth hon. Unwaith y'm llabyddiwyd. Yn Lystra (Actau xiv. 19). Teirgwaith y torrodd llong arnaf. Ni chofnodir yr un llongddrylliad yn yr Actau, ond honno ddigwyddodd ar ol hyn wrth fyned i Rufain. Noswaith a diwrnod y bum yn y dyfnfor. Ddiwrnod cyfan—pedair awr ar hugain.. Rhaid ei fod ar ryw astell o'r llong. Nid oes cofnocliad o hyn. Adnod 26.—■' Mewn teithiau yn fynych ym mheryglon llif -ddyfroedd ym mheryglon llad- ron ym mheryglon gan fy nghenedl fy hun ym mheryglon gan y cenhedloedd ym mher- yglon yn y ddinas ym mheryglon yn yr anial- wch ym mheryglon ar y mor ym mheryglon ymhlith brodyr gau.' Cyf. Diw., Ym mher- yglon afonydd.' Mewn teithiau yn fynych. Yn y teithiatl hyn yr oedd yn agored i beryglon. Llif-ddyfroedJd. Neu afonydd. Peryglon wrth groesi afonydd. Lladron. Perygl am ei fywyd oddiwrth ladron. Gan fy nghenedl fy hun. Perygl oddiwrth yr lddewoll. Gan y cenhedloedd. Fel yn Philippi ac Ephesus, Yn y ddinas. Ceir amryw ohonynt lie y bu mewn enbydrwydd— Damascus, Corinth, Ephesus, Jerusalem. Yn yr anialwch. Anialwch Galatia a pharthau mynyddig Asia Leiaf. Ar y mor. Yn ystod ei for-deithiau. Brodyr gau. Y gau-athrawon Iddewig. Adnod 27.—■' Mewn llafur a lludded mewn anhunedd yn fynych mewn newyn a syched mewn ymprydiau yn fynych mewn annwyd a noethni.' Cyf. Diw., Mewn llafur a lludded; mewn gwyliadwriaethau yn fynych,' &c. Llafur caled a phoenus—llafur ag' oedd yn peri iddo deimlo fel un wedi ymdreulio allan. Meion gwyliadwriaethau. Yn methu cael cwsg i'w lygad na hun i'w amrantau. Newyn a syched. Yn methu cael bwyd ar ei deithiau. Ymprydiau. Yn hir heb ymborth. A nnwyd a noethni. Yn dioddef oddiwrth erwinder yr hin, ac heb ddigon o ddillad er clydwch. Adnod 28.—' Heblaw y pethau sydd yn dig- wydd oddiallan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, y gofal dros yr holl eglwysi.' Cyf. Diw., Heblaw y pethau sydd oddiallan, y mae yr hyn sydd yn pwyso arnaf beuliydd-pryder ynghylch yr holl eglwysi.' Y pethau sydd oddi- allan. Sef y pethau sydd yn dyfod allan o red- iad-y pethau yr wyf heb eu henwi. Yr oeddynt .yn rhy luosog i'w henwi oil. Yr oedd pryder yn-hyleh yr holl eglwysi yn gwasgu ar ei feddwl yn feunyddiol. Yr oedd ei gariad yn fawr tuag atynt, ac awyddai iddynt fyw yn deilwng o'u proffes o Grist. Cydymdeimlai a'u profedig- aethau, eu tlodi, a'u hanawsterau. Cyfeiria'r apostol yn bennaf at yr eglwysi a blannwyd ganddo ef ei hun. Adnod 29. Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan ? pwy a dramgwyddir, nad wyf finnau yn llosgi ? Pwy sydd wan, nad wyf finnau wan ? Yr oedd ei gydymdeimlad a phob aelod yn yr eglwysi. Y rhai oedd wan, ofnus a digalon, yr oedd yn cydymdeimlo a hwy. Pwy a dram- gwyddir ? Cyf. Diw., Pwy a wneir i dram- gwyddo ? Pwy a arweinir i bechod, yr wyf finnau yn llosgi gan deimlad drosto a digofaint at y rhai fu'n foddion i'w lithro. Fel hyn yr oedd ei feddwl mewn pryder gwastadol gan ofalon lluosog a'i gydymdeimlad eang. Adnod 30.—' Os rhaid ymffrostio, mi a ym- ffrostiaf am y pethau sydd yn perthyn i'm gwendid.' Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf. Gwaith croes i'w deimlad oedd ymffrostio, ond os oedd rhaid ymffrostio, yr oedd am ymffrostio ym mhethau ei wendid pethau sydd yn awgrymu gwendid—pethau y diystyrrid ef o'u plegid fel un gwan. Adnod 31.—' Duw a Thad ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr HWll sydd fendigedig yii oes oes- oedd, a wyr nad wyf yn dywedyd celw^.dd.' Duw a Thad einHarglwydd Icsu Grist. Apelia yr apostol mewn modd difrifol at yr Arg" lwvdd er cadarnhad i'r hyn ddywedir ganddoJS id oedd yn arfer gormodiaeth. Gwyddai Duw fod y cwbl yn wir. Adnod 32, Y11 Damascus, y lfywydd dan Aretas y brenin. a wyliodd deliü as y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i.' Yn Damascus. Prif- ddinas Syria. Y llywydd dan Aretas y brenin. Yr Aretas hwn oedd frenin Arabia, a thad-yng- nglxyfraith Herod Antipas. Llvwydd. Ethnarch. Llywydd penodedig gan frenia ar ddinas neu dalaith. A wyliodd ddinas y Damasciaid mewn trefn i fy nal i. (Actau ix. 23-25). Adnod 33.—' A thrwy ffenestr mewn basged y'm gollyngwyd ar hyd y mur, ac y dihengais o'i ddwylaw ef.' Cyf. Diw., A thrwy ffenestr y'm gollyngwyd i lawr mewn bagesd ar hyd y mur, ac y dihengais o'i ddwylaw ef.' Dichon v cyfeiria at y ffaith hon am mai hon oedd yr erledigaeth gyntaf a'i cyfarfyddodd. Yr oedd y waredigaeth yn llwyddiannus, ond eto yr oedd dull y waredigaeth braidd yn ddarostyngol. GOFYNIADAU AR Y VVERS, i. Beth oedd amcan yr apostol wrth ysgrif- ellllu'r Ail Epistol at y Corinthiaid ? 2. Pa le yr oedd yr apostol pan y'i hysgrif- ennodd ? Beth oedd natur y genadwri a ddyg- odd Titus iddo ? 3. Beth oedd y gwrthwyntbiad a ddygid i awdurdod. yr apostol ? 4. Pa fodd y mae'r apostol yn cyfarfod y gwrthwynebiad. ? 5. Ymha ystyr y mae'r apostol yn hawlio ei fod yn rhagori ar ei wrthwvllebwyr ? 6. Nodwch rai o'r pethau a nodir ganddo. 7. Pa fodd y mae'n dangos fod ei gy- deimlad a'r eglwysi yn achos pryder beunyddiol iddo ? 8. Ymha bethau yr oedd am ymffrostio, os oedd rhaid ymffrostio ? 9. Rhoddwch hanes ei waredigaeth o Damas- cus. Pah am y cyfeiria ati ?