Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

WEDI'R UNDEB.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WEDI'R UNDEB. Aeth yr Undeb heibio ers mwy na mis, a daeth yr anerchiadau, y pregethau, a'r areith- iau allau yn y wasg Distawodd yr hyawdledd fel na chlywir ond ei adsain o bell, eithrerys y cyfan yn adgof hyh'yd. Ciywais a darllenais lawer o ganmol i Undeb Brynaman-r-hai yn dweyd ei fod yn Undeb da, eraill ei fod yn anfarwol, a rhai mai dyma'r goreu ers blyn- yddoedd. Tebyg fod hyn wedi ei ddweyd am Undebau o'r blaen, ac y dywedir hyn am Undebau eto, a bydd y sawl a ddywed yn credu hynny, wrth gwrs-y diweddaf yw'r goreu o hyd i lawer. Beth bynnag am hynny, gwyl dda gaed ym Mrynaman -trefniant dymunol, cynulliadau gorlawn, areithio a phregethu godidog: mor dda fel mai caled fu ar weinidogion y cylch fodloni eu cynulleidfaoedd am rai wythnosau; ac oni bai fod yma bregethwyr go dda, buasai braidd yn ddigalon. Ond erbyn hyn y mae'r eglwysi wedi adennill eu eydbwysedd, ac wrth gasglu i dalu- treuliau yr wyl yn gofyn yn ddistaw beth gafwyd ohoni. Wei, yn sier, fe gafwyd llawer. Yn gyntaf oil fe gafwyd gweid yr Enwad, yr hyn na welwyd yma o'r blaen, Meddai gwr disyml wrthyf ail ddydd yr wyl, 'Welsoch chi gymaint o bregethwyr gyda'i gilydd erioed?' 'Wel do,' meddwn innau, "rwy'n eu gweld fel hyn bron bob blwydd/n.' Wei, wir,' eba'r dyn, 4 feddyliais i ddim fod cymaint i gael yn y wlad.' Dyna brawf y caiff y cylch fendith Wedi byw yn Iled annibynnol y mae hyd ya hyn, heb fod ya ordeyrngar i'r Enwad na'i fudiadau. Dichon y eir yr Eawad yn fwy ar 01 ei weld. Ba rhai yn meddwl mai math o de- parti blynyddol i bregethwyr oedd yr Undeb Ciywais gwestiwn un yn awgrymu hyn. 'Does dim rhyw wiedd neilltuol gyda chi hefyd,' gan gyfeirio at y cinio 'Nats oes,' ebe gweio- idog oedd yn ei ymyl, nid y giaio aV te yw prif bethou yr Undeb'; a deallodd y dyn cyn naw o'r gloch yr hwyr mai Did einiawa ar gefn yr eglwysi oedd amcan mawr yr Undebwyr. Nid beirniadu'r bwyd yr wyf—yr oedd bob peth i'w ddymuno, ond beirniadu'r dyn j ddaeth yno i fwyta. Bendith arall ymarferol iawn gafwyd yng nghysgod yr wyl oedd na welodd y cyleh fwy o rwbio a glanhau a golchi ers llawer dydd. Y mae'n He glan naturiol, heb fwg na llwch i'w andwyo, ac y mae'r trigoUon o arferion sybar. Ond pan ddaeth eysgod yr Undeb, aetbpwyd ati o ddifrif, ae ni byddem yn synnu os caiff ambell un oedd a'i wyneb at y pared estyniad oes. 4 Glendid yw'r agosaf i dduwioldeb,' medd hen ddiareb, a da oedd gweld yn yr Undeb fod eu perthynas mor agos Bendith arall allesid gael, er na chafwyd honno eleni, oedd pe gadewsid y rhai anfonodd eu henwau yn rhy ddiweddar heb letyoedd, a pbe gadewsid y thai na wyddent enwau yr ysgrifenyddion lleol heb eu hateb. Synnais glywed am rai heb sylwi ar hyn yn y TYST, ac am eraill, er cael llawer o ras a rbybllddion,\ n danfon eu henwau ryw wythnos cyn y cyrddau. Y fendith fwyaf i'r rhai hyn fyddai cael cysgu teirnos yn yr hen waith tin, Arbedai draul a thrafferth i bwyllgorau lleol Undebau ddaw. Pwy fydd yn ddigon gwrol i adael y rhai hyn allau am dro? Yroedd eraill wedi addaw dod, ac wedi cael cyfeiriad eu llety, ond ni ddaeth- ant, ac ni chafodd neb glywed pa ham Dylai pawb fod yn ddigon moesgar i arbed hyn o drafferth i'w llety wyr Fe barotowyd llawer o fwyd na ddaeth neb i'w fwyta, ac awyrwyd !lawer gwely na ddaeth neb i gysgu iddo, ac ni ddaeth eto air o esboniad. O'r ddau gwell geuaym y dyn ddaeth WI' wyl i fwyta. Ni charwn fod yn gas i ymwelwr pwy bynnag, ond awgrymwn i Bontypridd roi enwau'r diweddar- iaid yn y fasged, a^ gadaal i dalu am lety yn un o'r gwestai, neu gysgu yng nghysgod y maen llog. Ond y fendith fawr gafwyd oedd awyrgylch ysbrydol y cyfarfodydd. Bu'r Gynhadledd yn rhydd o gecru a dadiu dibwynt, a bu'r odfeuon eraill heb eithriad yn oleuni i'r meddwl a. gwres i'r galon. Ni bu un o'r cyrddau yn faich, ond yn fwynhad, a chymoth i'r traethu da oedd gwrando astud y gynulleidfa. A dylai preg- ethwyr o bawb fod yn wrandawyr da. .Y mae Undeb Brynaman bellach ymhlith ffeithiau'r gorffeuaol, a theimlwn ryw hiraeth Hon ar ei ol Ni ddaw'r dyddiau braf hynny byth yn ol, a dichon na chwrddir byth fel hynny mwy ond erys eu delw ar bob calon fu yno, a'u dylanwad yn atgof iach i'n hysbryd. Arhosed yn arbsnnig yng nghartrefi croesaw- gar y cylch, ac ar aelwydydd gwasgarog yr ymwelwyr oil.

Advertising

I Martin's-lane, Liscard.

I PORTH ERYRI.

[No title]