Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

COLOFN YR EGLWYS.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

COLOFN YR EGLWYS. FFYDDLONDEB I'R CWRDD GWEDDI YN NYDD CYFYNGDER.* .AN Y PARCH. J. CRADOC OWEN, A.T.S., EBBW VAI<E. DYSGWYD fi yu gynnar mai dau aincan mawr Cyfeillach Grefyddol yw mynegi'r hyn a wnaeth yr Arglwydd i'n heneidiau, ac annog ein gilydd i weithredoedd da. Pan ddanfonwyd ataf i ddweyd gair yn y Gyfeillach hon, tueddwyd fi i roi gair o anogaeth i eglwysi'r Gymanfa ar un o rasusail hanfodol y bywyd crefyddol ac eg- lwysig heddyw, sef Ffyddlondeb i'r Cwrdd Gweddi yn Nydd Cyfyngder. Ar gychwyniad y rhyfel gwelwyd nifer o eglwysi mewn llawer man yn ymuno a'i gilydd i weddio Duw, ond buan y darfu'r cwrdd gweddi undebol. Ni fuasai llawer o achos cwyno am hyx petai pob eglwys yn ffyddlon i'w chwrdd gweddi ei hun. Blin yw adrodd y ffaith nad yw'r cwrdd gweddi mor boblogaidd yn nydd cyfyngder ag yooedd.cyri'i'r rhyfel dorri allan. Ni ddaw ymwared oni welir yr Eglwys ar ei gliniau. Yn nyddiau Samuel y proffwyd gyrrwyd y genedl i gyfyngder blin gan ormes cas ei gelyn- ion. Ofer a siomedig fu ei gobeithion am ym- wared wrth weld yr arch yn dod adref, ac felly aeth yr holi genedl ar ei gliniau i weddio Duw am waredigaeth. Pan welodd y proffwyd y genedl ar ei gliniau, rhoes neges iddynt. Ofer fydd neges y proffwyd oni fydd y bobl yn barod i'w derbyn. 'A Samuel a lefarodd wrth holl dv Israel, gan ddywedyd, Os dychwelwch chwi at yr Arglwydd a cli holl galon, bwriwch ymaith v duwiau dieithr o'ch mysg ac Astaroth, a phara- towch eich calon at yr Arglwydd, a gwasanaeth- wch Ef yn unig ac Efe a'ch gwared chwi o law y Philistiaid.' Bu hyn yn ddechreuad diwygiad crefyddol a drodd yn goncwest lwyr ar y gelyn. Ymddengys i mi fod Syr David Beatty, gwron y Lion, wedi dysgu gwers yr hen hanes yma, oblegid ysgrifennodd yn ddiweddar eiriau deil- yngant ein sylw difrifolaf. Wedi crybwyll cyflwr crefyddol Ffrainc a Rwsia, dywedodd England still remains to be taken out of the stupour of self-satisfaction and complacency in which her great and flourishing condition has steeped her; and until she can be stirred out of this condition, and until a religious revival takes place at home just as long will the war continue. When she can look out on the future with humbler eyes -and prayer on her lips, then we can begin to count the days towards the end.' Rhyfelwr ynghanol peryglon ofnadwy y rhyfel sydd yn yegrifennu fel hyn. Nid trwy lu ac nid trwy nerth y gwelai efe waredigaeth, ond trwy Ysbryd yr Arglwydd. Ar gychwyniad Cristionogaeth bu rhaid i'r' Eglwys wynebu llawer i argyfwng, ond bu yn drech na'r oil am ei bod yn crwydro ar ei gliniau. Anerchiad draddodwyd yng Nghyfeillach Cymanfa Merthyr. Yn nerth ei Duw concrodd pob gelyn, a chyn- hyddodd gyda chyflymder mawr. Wrth ddar- lled Actau yr Apostolion gwelwn fod un nodwedd arbennig yn perthyn i aelodau yr Eglwys Foreol, [ sef ffyddlondeb i'r cwrdd gweddi yn nydd cyf- yngder. Os oedd yr achos mewn perygl, cwrdd gweddi oedd llwybr yr ymwared. Os bygythid bywyd yr arweinwyr, cwrdcl gweddi gyhoeddid ar unwaith. Meddylier am garchariad Pedr. Bwriadai Herod frenin ei ladd megis y lladdodd Iago, eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr Eglwys at Dduw drosto ef.' Y canlyniad fu dryllio bwriadati ac ysu einioes Herod frenin, rhyddhau Pedr o'r carchar, a phrysuro ymdaith loyw'r Efengyl 'A Gair Duw a gynhyddodd ac a amlhaodd. Gwir ddywedodd Islwyn yn ei awdl i Weddi;- Y mae gallu holl luou Engyl Duw yng ngalwad lion Ar ei llais disgynna'r llu A chan, i'm hamgylchynu. Y mae ager a grym eigion Dwr a thir dan lywodraeth hOll.' Dydd cyfyngder ydyw heddyw yn hanes gwar- eiddiad a'r achos goreu, a geilw'n cyfyngder arnom i fod yn ffyddlon i'r Cwrdd Gweddi. i. Fod ffyddlondeb yn nydd cyfyngder i'r Cwrdd Gweddi yn dibynnu ar y pwysigrwydd a gysylltir ag ef.-Cwrdd pwysicaf yr Eglwys Foreol oedd y Cwrdd Gweddi. Nid ail le roddid iddo, ond y cyntaf. Mewn Cwrdd Gweddi y dechreuodd ei hymdaith ddaionus trwy'r byd. Cafodd ei Phentecost pan oedd ar ei gliniau ger bron Duw. Cafodd y gwaredigaetliau rhyfeddaf pan yn gytun mewn gweddi. Nid rhyfedd, felly, ei bod yn cysylltu'r fath bwysigrwydd a'r cwrdd hwn, ac nid rhyfedd fod ei haelodau mor ffyddlon iddo. Buasai'n dda i ni yn nydd cyfyngder petaem yn cysylltu'r un pwysigrwydd a'r Cwrdd Gweddi. Gallwn ymdrechu a fynnom i bregethu a dysgu, i ganu a moli ond ni wnawn ddaioni effeithiol oni chawn nerth yr Hollalluog Dduw nad ellir ei gael ond trwy gysylltiad didor a gorsedd gras. Mawr yw bri y cwrdd pregethu arbennig gan lawer i eglwys heddyw. Cyhoeddir special preaching services. Pa bryd y daw'r Cwrdd Gweddi i'w fri cyntefig ? Pa bryd y cyhoeddir special prayer meetings ? Tybed ein bod wedi colli ein ffydd yn nerth gweddi ? A yelyw beirn- iadaeth ddiweddar, a rhyfeddodau gwyddon- iaeth, ac ofnadwyaethau'r rhyfel wedi difodi ein ffydd yn y goruwchnaturiol ac yng ngallu gweddi ? Ai hyn sydd yn cyfrif fod y Cwrdd Gweddi yn cael ei fychanu ? Gwell oedd symledd ffydd y tadau na balchter diffydd coegddysgawdwyr y dyddiau hyn. Canai y bardd yn symledd ei ffydd am weddi ryfedd Josua yn peri i'r haul aros yn Gibeon a'r lleuad yn nyffryn Ajalon Uchod bu syndod i'r ser-iias deuai Nos dywyll fel arfer Ddydd a nos, diffoddodd Ner Eu chwyldaith trwy'r uchelder. 0 ryfedd fri Gweddiydd, A'i law'n dal olwyn y dydd I —— Ac ni fu y fath ddiwrnod a hwnnw o'i flaen ef, nac ar ei ol ef, fel y gwrandawai yr Arglwydd ar lef dyn canys yr Arglwydd a ymladdodd dros Israel.' Tybed ein bod wedi mynd yn rhy ddysgedig (!) i gredu gwyrthiau gweddi, ac mai dyua sydd yn cyfrif am y pwysigrwydd llai gysylltir a'r Cwrdd Gweddi ? Pa le mae gweddi ddyfal yr Eglwys gynt ? Rhaid gweddio yn wastad ac heb ddiffygio,* meddai Pen yr Eglwys, ond prin yw ufudd-dod aelodau Ei gorff Ef. Angen mawr yr Eglwys heddyw yw dyfalbarhad y weddi gyfryngol. Mae'r Iesu'll byw bob amser i eiriol. Daioni dynolryw a'i ceidw i eiriol yn ddiflino. O na'n llenwid a'i Ysbryd Ef fel y'n cedwid ninnau i weddlo'n ddibaid. 2. Fod cryfder y Cwrdd Gweddi yn nydd cyf- yngder yn dibynnu ar ffyddlondeb pob aelod iddo. —Credai'r Eglwys Foreol mewn dod ynghyd yn gryf ac yn gryno Y rhai hyn oil oedd yn par- hau yn gytun mewn gweddi ac ymbil,' meddai'r hanes am dani ar un achlysur ac ar achlysur arall dywedir fod llawer wedi ymgasglu ac yn gweddio.' Dyma ffeithiau sydd yn gerydd Ilym i'r Eglwys heddyw. Bum yn bresennol yn ddiw- eddar mewn cwrdd gweddi gynhelid gan eglwys a rifa dros saith gant o aelodau. Nid oedd ynghyd ond ryw ugain ohonynt. Er fod y wlad mewn cyfyngder, er fod nifer fawr o'i gwyr glewion ynghanol peryglon y rhyfel, dim onn ugain ddaethai ynghyd i'r cwrdd gweddi Nid materoliaeth a phlesergarwch yr oes yw rhwystrau pennaf llwyddiant cnefydd, ond an- ffyddiaeth ymarferol ei phleidwyr. Petaem yn credu mewn gweddi byddem yn sicr o fod yn y cwrdd. Gwelaf 'cinemas pob lie yn Uawn bob nos er gwaethaf yr argyfwng na fu ei fath yn hanes y byd, ond gwag yw'r Cwrdd Gweddi pan ddylai fod yn llawn, yn enwedig yn nydd cyf- yngder. Byddai lies mawr yn dod o'r Gyfeillach hon petai pob aelod crefyddol sydd ynddi yn penderfynu gwneud ei ran i ychwanegu at gryf- der y Cwrdd Gweddi, trwy fod yn bresennol ei hunan a chymell eraill i ddod. Hen arfer dda gan y tadau oedd galw ar ei gilydd wrth fynd i'r cwrdd. Ydych chwi yn dod i'r cwrdd,' gofynnent yn nrysau tai ei gilydd. Dyma arfer sy'n werth ei hadfer. Ffordd arall i ychwanegu at gryfder y cwrdd fyddai bod yn ffyddlon i'w amcan wedi dod iddo. Rhy fynych nid yw ein gweddiau ond ymad- roddion ystrydebol. Dylem fod yn fyw i'n hangen yn nydd cyfyngder. Bydd ein hangen yn rhoi iaith newydd yn ein gweddi. Clywais am weinidog a ymdroai yn hir yn ei weddi heb ofyn am ddim, nes i hen chwaer dorri allan i ddweyd Gofynnwch am rywbeth ganddo gofynnwch am rywbeth ganddo le, gofyn- nwch a rhoddir i chwi.' Cafodd y Pharisead yn y deml gynt yr hyn a geisiai, sef dim. Gofyn- nodd am ddim, a chafodd ef. Ond am y publican, dim ond gofyn oedd ei wedd^i: 0 Dduw, bydd drugarog wrthyf fi, bechadur.' 'Aeth hwn,' meddai'r Iesu, i'w dy wedi ei gyfiawnhau, nid y llall.' Beth ddylai fod amcan mawr y Cwrdd Gweddi