Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Lloyd-street, -Llanelli.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Lloyd-street, Llanelli. I Brynmor wedi mynd I—Nid oes odid eglwys heddyw nad ymunodd rhai o'i bechgyn a'r fyddin, ac amryw o'r rhai a ymunasant a aeth- ant yn ebyrth i gynddaredd y gyflafan waedlyd. Gwelodd yr eglwys uchod ddeg-ar-hugain tea ddeugain o'i bechgyn yn ufuddhau i archiad eu gwlad, ac aeth ar ei deulin i ymbil am gysgod iddynt ynghanol ergydion y fagnel a fflach- tadau r cledd. Er ffyrniced y frwydr, credid o hyd y cedwid y rheng yn gyfan; ond ychydig ddyddiau'n ol clywyd fod bwlch wedi ei agor. Derbyniodd Mr Richard Davies, un o ddiacon- laid parchns Lloyd-street, y newydd trist fod ei fab Brynmor, ac efe ond llanc ieuanc dwy ar hagain oed, wedi ei ladd yn Ffrainc ar y lOfed o Orffennaf. Ymunodd Brynmor a'r fyddin yn gynnar, ac nid hir y bu cyn cael ei alw i gymryd ei le'n y ffos a oleuid gan y fflam erchyll. Gwyddem am y gwaith peryglus ddisgynnodd i'w ran. ond ni thywyllodd ein gobaith yn ei gylch, ac ni pheidiodd ein gweddi. Ond ft 1 amryw eraill o'n bechgyn annwyl, cafodd Bryn ieuanc fedd yn naear yr estron heb riaint a cheraint yno i gymysgu dagrau'u calon A'r gro cysegredig. Yr oedd yn fachgen caruaidd, yn un a berchid ac a gerid gan bawb. Syniai'r egjlwys yn uchel amdano, a'r biodau a blanna ar 01 fedd bychan sydd wlyb gan ddagrau'i hiraeth. Cydymdeimlir yn fawr a Mr Davies- a'r tenia yn eu profedigaeth lem. Nerth gaffont i vmgynnal dan yr ergyd, a huned Bryn annwyl hun yr arwr ieuanc roddodd ei fywyd yn aberth yn nydd y ddrycin. Er pelled ei orweddfaa o Gymru, cbladdwyd mohono tuallan i' erwDuw ae ni agorir bedd iddo'n serch y rhai a'i hadwaenai. A

[No title]

Advertising

I Jiwbili y Parch. D. A. Griffith.

COLOFN YR EGLWYS.