Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

---- - - -Gwellhad Golygydd'…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gwellhad Golygydd' y Tyst. Gwyr llawer o ddarllenwyr y TVST nad yw iechyd ei Olygydd galluog a ffyddlon wedi bod yn foddhaus ers ychvdig fisoedd, er na chry- bwyllwyd hynny yn ei golofnau. Oherwydd hynny bu raid iddo, yn ol gorchyrnyn pendant ei feddyg, roddi fyny gyfrifoldeb yr olygiaeth am dymor, a chymryd seibiant hollol yn Mhorthcawl. Achcsai hyn bryder nid bychan i'w gyfeillion ac i'w Enwad ar y pryd, canys y mae iddo ei safle uchel yn syniad a pharch ei enwad a'i genedl, ac nid hawdd y gellid hep- gor ei wasanaeth i'w pulpud a'u llenyddiaeth. Ond erbyn hyn y mae'r achos o'n pryder yn diflannu, a Mr. Hughes, yn ol pob argoelion, yn dychwelyd i gyflawn fwynhad o'i nerth a'i iechyd arferol. Yn nechreu Medi bwriada ymgymeryd a golygiaeth y TYST fel cynt. Rhydd hyn law- enydd dwfn i'w edmygwyr lawer, y rhai o galon a'i llongyfarchant ar ei adferiad, ac a ddymun- ant iddo bob nerth a dedwyddwch yng nghyf- lawniad ei wasanaeth gwerthfawr i'w Enwad a'i oes. Diolchwn yn gynnes iawn i'r brodyr galluog yn ein pulpudau a'n colegau, y rhai a ddangos- asant y parodrwydd mwyaf i'n cynorthwyo, trwy eu herthyglau cryfion ac amserol, i gadw ein cyhoeddiad Enwadol rhag dioddef llawer trwy gystudd ei Olygydd. Bu en caredigrwydd yn werthfawr i ni ar adeg o brysurdeb, ac yn enwedig pan geisiem fwynhau ychvdig seibiant ein gwyliau haf. JACOB JONES.

' EIDDO CESAR I CESAR.'

COI-EG BALA-BANGOR.,

j GAIR 0 EGLURHAD.

IY GWRTHWYNEBWYR CYDWYBODOL…

ILlanymddyfri.

Family Notices

Hyn a'r Llall o Babilon Fawr.