Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
---- - - -Gwellhad Golygydd'…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Gwellhad Golygydd' y Tyst. Gwyr llawer o ddarllenwyr y TVST nad yw iechyd ei Olygydd galluog a ffyddlon wedi bod yn foddhaus ers ychvdig fisoedd, er na chry- bwyllwyd hynny yn ei golofnau. Oherwydd hynny bu raid iddo, yn ol gorchyrnyn pendant ei feddyg, roddi fyny gyfrifoldeb yr olygiaeth am dymor, a chymryd seibiant hollol yn Mhorthcawl. Achcsai hyn bryder nid bychan i'w gyfeillion ac i'w Enwad ar y pryd, canys y mae iddo ei safle uchel yn syniad a pharch ei enwad a'i genedl, ac nid hawdd y gellid hep- gor ei wasanaeth i'w pulpud a'u llenyddiaeth. Ond erbyn hyn y mae'r achos o'n pryder yn diflannu, a Mr. Hughes, yn ol pob argoelion, yn dychwelyd i gyflawn fwynhad o'i nerth a'i iechyd arferol. Yn nechreu Medi bwriada ymgymeryd a golygiaeth y TYST fel cynt. Rhydd hyn law- enydd dwfn i'w edmygwyr lawer, y rhai o galon a'i llongyfarchant ar ei adferiad, ac a ddymun- ant iddo bob nerth a dedwyddwch yng nghyf- lawniad ei wasanaeth gwerthfawr i'w Enwad a'i oes. Diolchwn yn gynnes iawn i'r brodyr galluog yn ein pulpudau a'n colegau, y rhai a ddangos- asant y parodrwydd mwyaf i'n cynorthwyo, trwy eu herthyglau cryfion ac amserol, i gadw ein cyhoeddiad Enwadol rhag dioddef llawer trwy gystudd ei Olygydd. Bu en caredigrwydd yn werthfawr i ni ar adeg o brysurdeb, ac yn enwedig pan geisiem fwynhau ychvdig seibiant ein gwyliau haf. JACOB JONES.
' EIDDO CESAR I CESAR.'
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EIDDO CESAR I CESAR.' At Olygydd Y Tyst- SYR,—Gan fy mod yn adnabyddus i liaws o ddarllenwyr y TYST o dan y ffugenw Gerallt ers blynyddoedd bellach, ni hoffwn i neb ohonynt fod o dan yr argraff mai'r Gerallt hwn yw awdur yr ysgrif At Fy Nghydenwadwyr vn y TYST. Eiddo Cesar i Cesar.' Cofion cywir, J. R. JONES (Gerallt).
COI-EG BALA-BANGOR.,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COI-EG BALA-BANGOR. At Olygydd y Tyst. SYR,—Byddwch garediced a chaniatau i ni hysbysu y newidir dyddiau arholiad yr ymgeis- wyr o'r rhai a hysbyswyd gyntaf—Medi 12fed, &c.—i Fedi igeg a'r dyddiau dilynol. Mae &c.-i l,edi i:geg a'r dyddian dil3,llol. -Nlae arholiad y Welsh Ma??cM?i'MM ar y dyddiau cyntaf. Cyferfydd y Pwyllgor i derbyn ymgeis- wyr Medi zzaiu. Yr eiddoch, &c.. Coleg Bala-Bangor, T. RIms. Awst 26ain, 1916. — —■
j GAIR 0 EGLURHAD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GAIR 0 EGLURHAD. At Olygydd y Tyst. SYR,—Nid mantais, ond anfantais fawr ydyw fod dau ddyn o'r un enw yn byw yn yr un stryd mewn lie bychan fel Llanfyllin, yn enwedig pan na byddo'r ddau ddyn hynny o'r un anian. Mae hynny'n digwydd yn fy hanes i, ac ychydig wythnosau'n ol fe dorrodd y cyfaill sydd yn dwyn yr un enw a fy hunan gyfraith y wlad, a chafodd ei ddwyn gerbron yr ynadon fel drwg- weithredwr. Gwir nad oedd y trosedd yn fawr iawn, ond cafodd ei gosbi yn ol ei haeddiant ac, yn naturiol, fe roddwyd ei enw, Thomas Morgan, Bridge-street, Llanfyllin, vn y newydd- iaduron, niegis yr Oswestry Advertiser, y County Times a'r Montgomeryshire Express. Gwn fod lliaws mawr yn credu mai myfi yw'r drwgweith- redwr, ond da gennyf hysbysu darllenwyr lluosog y TYST, er maint fy amh.erffeithrwydd, iia(i wyf yn ystod y naw mlynedd a deugain er pan IVyf yn y byd wedi bod o flaen yr ynadon fel drwg- weithredwr. Ac mi obeithiaf yn gryf iawn, trwy gymorth gras y Nef, na bydd dim o le vn fy mywyd hyd derfyn y daith yn annheilwng o gymydog, Cristion a phregethwr. j Yr eiddoch vn frai??dol, Llanfyllin. THOMAS MORGAN.
IY GWRTHWYNEBWYR CYDWYBODOL…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GWRTHWYNEBWYR CYDWYBODOL AC ANNIBYNWYR MALDWYN. At Olygydd y Tyst. SYR,—-Pwy sydd a'i waed heb fod yn berwi wrth ddarllen hanes y driniaeth gafodd y brawd ieuanc Ithel Davies, Glanrafon, Cemaes, Mald- wyn-aelod crefyddol gyda'r Annibynwyr, a nai i'r diweddar Brifardd Tafolog—fel y ceir ef yn ei lythyr ei hun yn ysgrif Beriah yn y TYST am Gorffennaf 5ed ? Gwnaeth Ithel Davies gais am exemption ger bron Tibiwnal Gwledig Machyn- lleth fel gwrthwynebydd cydwybodol, a gwrthod- wyd ef. Yr unig gasgliad ellir dynnu oddiwrth eu gwrthodiad ydyw eu bod yn credu fod Ithel Davies wedi mynd ger eu bron i ddweyd yr hyn nad oedd wir, oblegid yr oedd y Ddeddf Filwrol yn rhoddi hawl iddynt roddi rhyddhad iddo os oedd ei wrthwynebiad yn un didwyll. I)ruail o'u barn a'u gwybodaetli, a'u barnu oddiwrth yr achos hwn, i sefyll mewn barn ar gydwybod dyn, er fod -mwyafrif ohonynt yn ddiacon- iaid gyda'r Annibynwyr Yr un dyddiau ag yr oedd achos Ithel Davies yn cael ei drin yn y Senedd, yr oedd Cynhadledd Cymanfa Annibynwyr Maldwyn yn cyfarfod ym Mhenarth. Dywed yr adroddiad swyddogol gan yr Ysgrifennydd fod penderfyniad yn gwrth- dystio yn erbyn yr ymddygiadau a ddanghosir tuagat y gwrthwynebwyr cydwybodol wedi ei basio drwy bleidlais ychwanegol y Cadeirydd Dywed adroddiadau eraill mewn papurau lleol fod y penderfyniad o wrthdystiad wedi ei gynnyg gan y Parch. Henry Williams, B.A., Machyn- lleth, yn cael ei eilio gan y Parch. William Evans, Llanidloes, ac fod y penderfyniad wedi cael ei wrthwynebu gan y Parch. Griffith Griffiths, Drefnewydd, yn cael ei gefnogi gan y Parch. Samuel Roberts, Llanbrynmair Wel, wel Gweinidogion blaenllaw yr Efengyl yn cefnogi triniaeth fel a gafodd Ithel Davies am sefyll dros hawliau cydwybod !oblegid pa ystyr arall ellir roddi i'w gwrthwvnebiad i basio penderfyniad mor resymol ? Y mae gennym hanes am III o ddewrion Maldwyn, yn weinid- ogion a lleygwyr, wedi dioddef carchar a chreu- lon derau am sefyll dros gydwybod a dyma rai o'u holynwyr yn yr ugeinfed ganrif yn ddigon annynol hyd yn oed i wrthwynebu codi llef yn erbyn camdriniaeth dynion ieuainc nad yw'r byd yn deilwng ohonynt. Ffei ohonynt Pa ryfedd fod y capeli yn myned yn wag ? Diolch i'r Parch. Wynne Williams, Cadeirydd y Gyn- hadledd, am acliub y penderfyniad drwy ei casting vote. Yr eiddoch, &c., CUWAKK TEG.
ILlanymddyfri.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Llanymddyfri. Marwolaeth Mr Morgan Saunders Morgan.— Bu'r hen frawd annwyl Dyfri ab Towy farw yn ddiweddar dan faich 81 o flynyddoedd. Gad- awodd bump o blant ar ol. Meibion i'r ymad- awdig yw y Cynghorwr E. Saunders Morgan, Pantycelyn House, Llanwrtyd; Mr M. W. Saunders Morgan, Monk-street, Aberdar; Sergeant D. R. Morgan (Royal Defence Corps); a mab iddo oedd y Parch Daniel Morgan, yr hwn a fu farw yn ddiweddar yn Oregon, America. Mae dwy ferch hefyd ar ol i eneinio coffadwriaeth eu tad Yr oedd Saunders Morgan yn fasnachwr cyfrifol yn y dref, ac yn un o'r cymeriadau mwyaf parchus yn y sir. Bu yn ddiacon am 30 mlynedd yng Nghapel-y- groes, Cilycwm; ac ar ol symud i Lanymddyfri bu yn un o ffyddloniaid Salem. Yr oedd yn un o'r cymeriadau mwyaf cyflawn ar raddfa gymedrol—yn ddiwinydd, hanesydd, lienor, yn gerddor ac yn Gymreigydd o'r iawn ryw, ac fel ei frawd Rees Morgan, uu o ohebwyr y Drych yn America, yr oedd yn ddirwestwr brwdfrydig drwy ei oes. Mae gwacter yn y dref ar ol yr hen 'Saunders.' Mae Salem yn llai diddorol, a theimlir ei eisiau ar lwyfan yr eisteddfod. Cafodd augladd anrhydeddus iawn. Yr oedd prif ddynion y dref a'r cylchoedd yn bresennol, ac yr oedd drcs ugain o gerbydau yn yr orym- daith. Claddwyd yng Nghilycwm, pan y gwas- anaethwyd gan y Parchn Joseph Harry, Salem; D. Richards, Myddfai; Volander Jones, Pentre- tygwyn; R. James, Llanwrtyd; a Ficer Cilycwm. Gwelsom hefyd yn bresennol y Parchn Dr Thomas, D. J. Henry, B.A, ac Ifor James. Huned yr hen frawd caredig ac annwyl yn dawel gyda'i gwmni newydd. O'i oesawl drymgwsg isod Doed o'i gaer yn glaer ei glod. HIRAETHUS.
Family Notices
Hysbysiadau Teulu
Dyfynnu
Rhannu
GENI, PRIODI, A MARW. PRIODASAU. WILIJAMS-PHILLIPS.—Dydd Mercher, Awst 9fed, yn y Tabernacl (B), Hayes, Caerdydd, yngwydd lliaws o gyfeillion o'r Barry, y Parch B. Williams, A.T.S., gweinidog y Spurgeon Memorial Chapel, Bletchley, Bucks, a Miss Esther Phillips (Mair Elli). Gwein- yddwyd ar yr amgylchiad gan y Parchn Ben Evans, Barry; J. Lloyd Williams, Merthyr (brawd y priodfab); Charles Davies, Caerdydd; Idris Evans, M.A., Llundain; Marshall Moyle; ac Eluned Morgan. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei brawd, Mr D. L. Phillips, B.Sc., Abertawe. Chwar- euwyd yr organ ar yr amgylchiad gan Mr Tom Jones, Barry. Ar ol y gwasanaeth ymadawodd y par ifanc i fyned i Aberystwyth i dreulio eu mis mêI. Yno cawsant frysebau yn eu llongyfarch oddiwrth ddiacouiaid a chynulleidfa eglwys Bletchley, o'r hon y mae'r priodfab yn weinidog, oddiwrth y cor, yr Ysgol Sul, a dosbarth Mr Williams yn yr Ysgol Sul. Derbyniwyd Mrs Williams yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn Aber- ystwyth i gylch yr Orsedd yn ol ffurf a defod beirdd Ynys Prydain. Cawsant lu o anrhegion gwerthfawr gan gyfeillion a pherthynasau. Ni chaniata gofod y TYST inni enwi yr oil ohonynt, gydag eithrio yr anrhegion dderbyniodd Mrs Williams oddiwrth ei chydathrawon ac athrawesau yn Ysgol Sul y Plant yn y Tabernacl, sef cake tray, gyda cherfiad Cymraeg arni; ac oddiwrth ei dosbarth yn yr Ysgol Sul preserve dish. Fe wyr pawb ag sydd yn adnabod Mair Elli ei bod yn Gymraes bybyr, wedi bod yn aelod ffyddlawn a gweithgar gyda'r Cymrodorion yn y Barry am flynyddoedd. Bydd bwlch ar ei hoi yn Ysgol Sul y Tabernacl ac ymysg y bobl ieuanc, lie y gweithiodd gyda brwdfrydedd bob amser. Eiddunwn iddi hi a'i phriod oes hir, a phob bendith i weithio yn y cylch eang y byddant yn troi ynddo.—J. P. J.
Hyn a'r Llall o Babilon Fawr.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
bod yn galed iawn, am nad oes y fath beth a party politics y dyddiau hyn ac eto y mae llawer iawn o'r brodyr yn hiraethu am yr hen ddyddiau gynt pan oedd dynion yn dilyn eu baneri i faes y rhyfel, ac yn taro dur yn erbyn dur. Gwaedda rhai yn groch am lecshwn rhag blaen. Pan ofynnir pwy sydd i fotio, ceir llwyth trdl o atebion. Pan ofynnir sut i fotio ar banner dwsin o feysydd rhyfel, ni cheir un ateb call. Ond dyna hi--ceir yn y Senedd bob amser rai cranks, a'u hunig obaith am anfarwoldeb yw iddynt droi yn feriniaid-ac yn grach-feirniaid —-ac vna rhostio'r Front Bench. Dyna Syr Arthur Markham (coffa da am dano) wedi gorffen yr yrfa ar ol bod yn swmbwl yn y cnawd i'r Llyw- odraeth am lawer blwyddyn. Ac eto, syn fel y mae presenoldeb angen yn tyneru dynion. Pan yn son am dano dywedwyd y pethau caredicaf gan Mr. Lloyd George ac eraill, ac y mae ysbryd ftein fel hyn yn beth mawr iawn ym mywyd cyhoeddus ein gwlad. Er ymladd fel dewrion ar lawr y Senedd, nid oes gelyniaeth bersonol yn bod. 'Rwy'n gweled fod Prifysgol Durham yn agor y drws bellach fel ag i roddi teitlau diwinyddol -y B.D. a'r D.D.-i frodyr y tuallan i furiau'r Uglwys Sefydledig. Synnem yn fawr fod hen Gristion melys, fu'n sefyll mor ami yn Keswick ochr yn ochr ag Ymneilltuwyr dienwaededig- hen Gristion fel yr Bsgob Moule wedi cau y drws hwn rhyw dair blynedd yn ol. Y mae Caer- grawnt, bellach, a Durham wedi agor y ddor, fel ha raid i ni anfon dros donnau y Werydd am ein rhibanau.' Pan oedd rhai ohonom yn pasio drwy'r felin, nid oedd deitl fel hwn i'w gael am bris yn y byd y tu yma i'r Tweed ond ceir teitlau bellach o'r iawn ryw—dim ond gweithio am danynt. Ac y mae hynny'n ddigon teg. Cawn fod Dr. Scott Lidgett o hyd yn wrth- Ddatgysylltwr ac yn wrth-Ddaclwaddolwr, ac y mae'n ateb Dr. Massie yn bur chwerw yn y Methodist Times ar y pwnc. Y mae gan Dr. Scott Lidgett, wrth reswm, hawl i'w farn ber- sonol ar-y mater; ond yn enw pob rheswm, paham y dewisir y bonheddwr hwn yn Ysgrif- ennydd Cynghrair yr Eglwysi Rhyddion ? Ai nid yw'n bryd cael diwygiad yn y peth hwn ? Nid swydd i Laodicead yw swydd fel hon i fod.