Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Anfoner yr arian i'r Trysorydd— Sir. THOMAS DAVIES, 56 st. Quintin Avenue, London, W. Dymuuaf gydnabod yr adclewidion a ganlya tuagat 7 Dyrsorfa ucliod. Mae amryw lists wedi eu haddaw i mi erbyn diwedd Awst, ond y maent heb gyrraedd hyd yn hyn. Carwn atgofio'r brodyr hynny fod y cyfrifon am y flwyddyn hon i'w cau ddiwedd y mis hwn. Abertawe. W. JAMES. GTTRNOS, TSTALIPEBA. £ s. c. Parch. J. Thomas 0 12 6 Mr. David R. Williams, Aman Villa 0 10 0 Mrs. Williams, eto 0 10 0 Symiau llai 1 2 6 MILO (DWYRAIN CAERPYBDDIN). Oasgliad 1 14 4 FOUR CROSSES (LLEYN AC EIFIONYDD). Mrs. Robarts 0 12 6 Symiau llai 0 16 9 LLWYNHELYG (GORLLEWIN DINBYCH A FFLINT). Mr. R. Jones, Caeau 1 5 0 Mr. E. Hoskins, Gelli 15 0 Mr. J. Williams, Hendre 15 0 Mrs. J. Davies, Crown Farm 1 5 0 Mr. W. Jones, Cornelcae 1 5 0 Mrs. T. Jones, Caeglas 1 5 0 Mr. D. H. Roberts, Penllwyn 1 0 0 Mr. W. Lloyd, Pantglas 1 0 0 Mr. H. Hughes, eto 1 0 0 Mr. Thomas Davies, Crown. Farm 1 0 0 Mrs. A. Lloyd, Tan'rallt 0 12 6 Mrs. M. E. Pierce, Cornelcae 0 12 6 Miss E. Davies, Crown Farm 0 10 0 Mr. J. Davies, eto 0 10 0 Miss M. Hoskins, Gelli. 0 10 0 Mrs. J. Jones, Tan'rallt 0 10 0 Symiau llai 0 10 0 SARN (GORLLEWIN DINBYOH A PFLINT). Mr. Peter Hughes, Gelli 1 0 0 Parch. William James, Sarn. 0 10 0 Mr. Thomas Hughes, Sea View 0 10 0 Mr. J. E. Williams, Pen'rallt 0 10 0 Symiau llai 5 19 0 PANT-TEG, YSTALYEERA. Parch. Ben Davies 25 0 0 Mr. D. W. Davies, Ty Coch 2 0 0 Mr. John Evans, Pant-y-gwanyd 1 10 0 Mr. William Davies, Pwll Bach .?.?.. 150 Mr. Daniel Hopkin, Godre'rgraig 1 5 0 Mr. David George Williams, Wern 1 5 0 Mr. David James, P.O., Glanrhyd 15 0 Mr. William Morgan (grocer), Godre'rgraig 1 5 0 MrJ E.B.Grigiths.Cliftou Hill.°.??? 150 Mr. T. M. Jam, ysgolfelsœ 1 5 0 Mr. Llewelyn Evans, Pant-teg I 1 5 0 Mr. John W. Jones 0 10 6 Mr. William Jonathan 0 10 0
-0 ..DIWEDD AWST.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
-0 DIWEDD AWST. Pel y mae wedi ei hysbysu fwy nag unwaithy,' penderfynwyd ym Mrynaman adael cyfrifon y; flwyddyn yn agored hyd ddiwedd Awst, yn y gobaith y rhoddai amser i eglwysi oedd wedi dechreu casglu addewidion i orffen y gwaith yn drefnus. Y mae hynny wedi cymryd lie mewn llawer achos. Y mae eglwys nad sedd wedi symud o gwbl adeg yr Undeb, wedi casglu addew- idion o rhwng £ 170 a £200. eglwys arall, cym- harol fechan, wedi casglu dros 450, ac wedi talu'r rhan fwyaf, er nad oedd wedi cychwyn o gwbl ddau fis yn ol. Os des avian neu restrau ar law yn rhywle, a, gawn ni grefu am eu cael i mewn ar unwaith ? Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ar y iafed o'r mis nesaf, a charem gyflwyno iddo'r adroddiad llawnaf yn bosibl o waith y flwyddyn. Wrth gwrs, nid oes un bwriad i gyinryd holiday gyda'r gwaith ar ol hynny, ond dal ymlaen o hyd i geisio ennill buddugoliaethau newydd. Y mae llawer o eglwysi o hyd yn llechu yn y trenches, ac yn anodd iawn eu symud neu hwyraeh mai ofn sydd yn cadw'r ymosodwyr yn ol. Gresyn hynny. Mawr hyderaf y rhoir sylw dioed i'r cais. Borthygest, W. RoSS HUGHES, I Awst 24ain, 1916. Ysg. Cyffreddnol. I
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
You Ca n Rely on 2ff £ IS/SLA; Safe and Sure Remedy in either Sex, for all Acquired or Constitutional Dis- charges from Urinary Organs, Gravel, Pains in the Back and kindred cemplaints. Over 50 Year's Success. Of all Chemists, f 1 1 ) 4/6 per box, or sent direet, post L? i 2LF tC6  S free for Sixty Penny Stamps by  the ?roprietorti-The Linooln & lis Midland Counties Drug Co., r lllw Ltd., Linooln (MGG FBQM MHBCPBT
LLYTHYRAU - AT FY NGHYD-I…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLYTHYRAU AT FY NGHYD- I WLADWYR. LLYTHYR 10. I ANNWYL ADDOLWR GWYBODAETH,— Y mae gennyf barch mawr atat. Amcan dy fywyd yw gwneud yr hyn elli i ychwanegu at wybodaeth dynolryw, ac yn neilltuol i wneud Cymru yn wlad wybodus fel y gall gymryd ei lie priodol ymhiith cenhedloedd dysgedig y byd. Mor bell ag y mae dy amcan yn mynd y mae'n aruchel, ond nid wyf yn sicr dy fod yn sylweddoli mai rhan yn unig o fywyd yw maes dy ddiddordeb, ac nid y rhan bwysicaf mewn bywyd, ychwaith. Nid wyf yn sicr dy fod yn cono bob amser fod bywyd yn ehangach na gwybodaeth, bod dat- blygiad moesol a chrefyddol yn bwysicach na datblygiad meddyliol, a bod yr olaf yn beryglus i'r eithaf os na fydd y cyntaf yn ei flaenori. Y mae'n ddiameu gennyf fod wrth wraidd dy gred mewn gwybodaeth y gred fod gwneud dyn yn wybodus yh debyg o'i wneud yn ddyn da hefyd. Byth oddiar i'r athronydd mawr hwnnw, Socrates, ddysgu mai gwybodaeth yw rhinwedd, y mae llu o wyr goreu pob cenedl wareiddiedig wedi credu y gellir gwneud dynion yn ddynion da drwy roddi digon o wybodaeth iddynt. Fe gredodd rhai o arweinwyr mwyaf blaenllaw Cymru yr oes o'r blaen hyn, a thrwy hynny collasant i raddau eu golwg ar bethau pwysig eraill. Pan etholwyd prifathrawon ysgol- ion canolraddol Cymru oddeutu ugain mlynedd yn ol, y cri mawr oedd am ddynion oedd wedi ennill graddau uchel yn y prifysgolion. Y can- lyniad oedd i ni ddwyn i mewn i'n gwlad rhai pobl na charant ein cenedl na'n crefydd-pcbl a ddysgasant y Cymro bach i ffieiddio ei iaith a'i genedl ei hun. Yr un fath gyda'r prifysgol- ion edrychwyd am ddynion gwybodus yn eu cylch eu hunain, heb dalu sylw i nemor o ddim arall, ac ni wnaeth rhai ohonynt ddim ond gwawdio ein hiaith, ein harferion a'n delfrydau byth er hynny, ac ymffrostio'n ddigon wyneb- agored nad aethant i le o addoliad oddiar eu dyfodiad. Gallaf eich sicrhau, gyfaill, fod yna gynhaeaf i ddilyn yr hyn a heuwyd. Y mae'n dechreu ymddangos yn y diffyg chwaeth at y crefyddol a'r aruchel, ac yn yr amharch ddang- hosir gan lawer o'n gwyr ieuainc at yr hen sefydliadau wnaethant gymaint i'w dyrchafu. Nid yw'r cynhaeaf wedi ymddangos yn llawn eto edrychir ymlaen ato gan lawer gyda'r petruster mwyaf. Do, fe ddisgwyliodd y cenhedloedd bethau mawr o ychwanegu at wybodaeth y bobl. 0 bosibl y bydd i gyflwr yr Almaen—y wlad fwyaf goleuedig dan yr haul-yn y dyddiau hyn alw sylw carwyr gwybodaeth at ei pherygl hefyd. Meddyliasom y gwnai i ffwrdd am byth a chreu- londeb barbaraidd, a gwawdir ni am ein ffolineb gan gronicl ffieidd-dra yr Almaenwyr ar feysydd Belgium. Meddyliasom y gwnai gwybodaeth ddwyn i'r bobloedd gydymdeimlad a deall o'u gilydd, a gwelwn yr Almaen yn cashau heddyw fel na chashaodd cenedl erioed o'r blaen. Medd- yliasom y byddai i addysg feddyliol, o leiaf ddysgu dyn y modd i ymddwyn yn deilwng at y rhyw deg, a syllwn ar fryntni moesol swydd- ogion yr Almaen ar y tiroedd gorchfygedig. Gallasem feddwl y buasai'r fieithiau hyn yn gwneud i ffwrdd am byth a'r perygl o roi gor- mod o bwys ar wybodaeth yng Nghymru ond ofni wyf, a barnu oddiwrth natur yr anesimvyth- ter ddanghosir yn y wasg ynglyn ag addysg Cymru yn y dyddian hyn, nad wyt ti na'th gyfeillion wedi cael golwg glir ar bwysigrwydd cymharol pethau eto ynglyn ag addysg. Clywaf chwi yn galw am fwy o ymchwiliad i ddirgelion gwybodaeth yn ein prifysgolion, am fwy o ryddid i'r dysgawdwyr i wneud a dweyd yr hyn a fyn- nant, ac yn y blaen. Popeth yn dda ond sylwaf eich bod yn barod i aberthu undeb y colegau, a pheryglu ein bywyd cenedlaethol er mwyn gwneud hyn. m chlywaf neb yn gofyn gair ynglyn a dylanwad y colegau ar foes a chrefydd ein gwlad, na nemor neb yn gofyn gair ynghylch y lie roddir i'n hiaith a'n delfrydau yn y prif- ysgolion. Gwelaf yn wir eich bod yn galw am ysgol ddiwinyddol ynglyn Ar brifysgol, fel pe bai diwinyddiaeth a chrefydd yn faterion i'r bobl fach hynny na welant bwys mewn dim ond mewn deall dyn. Ofnaf mai cynnyg per- yglus o'th eiddo di a'th gyfeillion yw hwn. Oni welwch chwi nad mater i'r deall yn unig yw crefydd, ond mater i fywyd yn ei holl agweddau ? Nid mater ydyw, ychwaith, i'w ddarostwng i lefel y gwyddorau materol. Pa beth sydd bwysicaf, dywed-Ai bywyd a phrof- iad a brwdfrydedd ac argyhoeddiad crefyddol, neu ynte perffeithrwydd deallol, a rhesymeg sych, a manion cred ? Rhaid i brifysgol roddi y pwys lilwy, atf ar yr olaf, ac nid oes dim yn fwy peryglus i fywyd crefyddol gwlad na hynny Gelli weld effaith gwneud hynny hefyd heddyw yn yr Almaen, lie yr eglurwyd y Beibl i ffwrdd gan y proffeswyr diwinyddol, ac y syrthiodd y bobl i gors anghrediniaeth ac anfoesoldeb. Goreu po gyntaf y daw pob carwr addysg, gyfaill, i weled. gyda'r meddyliwr treiddgar hwnnw, Herbert Spencer, mai niweidio ac nid llesoli cymdeithas a wneir drwy ddatblygu deall dyn o flaen ei gymeriad a chyda'r gweledydd Ruskin, fod addysg ddeallol ar wahan i addysg foesol yn drychineb a chyda'r athraw enwog Matthew Arnold fod diwylliant deallol ar wtthan i ddiwylliant moesol yn fwy gwrthun na'r an- wybodaeth ddyfnaf. Y rheol euraidd,' meddai un dysgawdwr enwog (ac mi a fynnwn pe bai pob Cymro yn ei derbyn), "Y rheol euraidd yw hon-Am bob cam a gymeri yn dy ymchwil i gyfrinion gwyb- odaeth, cymer dri cham i gyfeiriad perffeith- rwydd dy gymeriad.' Nid eisiau rhagor o addysg sydd ar Gvmru heddyw yn gymaint ag eisiau addysg wahanol. Nid rhoddi mwy o awch ar ddeall pobl sydd eisiau yn awr yn gymaint a mwy o ras yn eu calonnau, mwy o frwdfrydedd at yr aruchel, a chryfach hunanreolaeth yn rhan o'u cymer- iadau. Gwell i'r Cymro fod vn wr da. os yn gymharol anwybodus, na bod yn ddiafol or- oleuedig a gwell iddo fod yn dyddynnwr rhin- weddol na bod yn Faust a Mephistopheles yn llenwi ei galon. Da ti, felly, rho dy ystyriaeth i'r pethau hyn. Gwn mai lies dy wlad sydd yn y golwg gennyt dyna pahain y trafferthais i ysgrifennu hvn o lith atat. Yr eicldot. I ATWBBYD.
I Profiad Aberfan.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Profiad Aberfan. Cyffelyb mewn llawer o bethau yw pobl Mer- thyr i bobl Aberfan—yr illl teimladau a'r un golygiadau diymdro. Cred y dyn hwn o Aber- fan a wna'r adroddiad a argreffir isod mewn ceisio cynorthwyo eraill fel ad-daliad am yr help a dderbyniodd ei hunan. Mr. E. Jones, 48 Aberfan-road, Aberfan, ger Merthyr, a ddywed :—■ Pan y cefais arwyddion o anhwylder yr arennau yr oedd fy nghefn a'm hochr yn boenus iawn. Gan y rhaid i mi blygu llawer wrth fy ngorchwyl, teimlwn ef yn waith anodd iawn. Amharwyd cyfundrefn yr arennau drwyddi, ond ar ol pwrcasu amryw bethau a methu cael rhyddhad dechreuais gyda Doan's Backache Kidney Pills. Rhyddhasant fi o'r poenau ar unwaith, gan lanhau'r gyfundrefn droethol. Cymerais gwrs ohonynt, ac yn fuan iachasant fi. Pelennau Doan yw'r feddyginiaeth oreu at yr arennau, a chymeradwyaf hwynt yn gryf i unrhyw berson sydd yn dioddef oddiwrth ofidiau yr arennau. (Arwyddwyd) E. Jones.' Gorwedd yr arennau o dan y meingefn. En gwaith mawr yw hidlo'r wast gwenwynig a'r gweddill dwfr allan o'r gwaed. Ond pan y maent yn wan gadawant beth o'r wast gwenwynig hwn yn y cyfansoddiad, ac yna dechreuwch deimlo'n hurt, trymaidd a chyffrous, a gellwch cael gur yn y pen, grafel, anhwylderau troethol, chwydd- iadau y dyfrglwyf, crydcymalau a'r glunwst. Cynortliwya Doan's Backache Kidney Pills yr arennau i daflu ymaith y gwenwynau anhyfryd, ac felly i gyrraedd yr achos o'r arwyddion uchod. Gellir eu cael gan yr holl werthwyr, neu am 2/9 y blwch oddiwrth Foster-McClellan Co., 8 Wells-street, Oxford-street, Dondon, W. Peid- iwch a gofyn am belennau at ddolur y cefn neu'r arennau, ond gofynnwch yn eglur am Doan's Backache Kidney Pills, yr un fath ag a gafodd Mr. Jones. 8
I ____GALWADAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I GALWADAU. SALEM A SOAR, TALYBONT, DYFFRYN CONWY. —Estynnodd y cylch hwn alwad unfrydol i Mr T. H. Williams, o Athrofa Bala-Bangor, a deallwn ei fod yntau wedi cydsynio. Bwriada ddechreu ar ei waith yno yn gynnar ym mis Hydref. Brodor o Rydybont yw Mr Williams: dyn ifanc ymroddedig i'w waith, par ei waith, gloyw ac aruchel ei ddelfrydau, a hardd ei foes. Lwc dda.—T. H. T'