Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

MELINE A'R CYLCHOEDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MELINE A'R CYLCHOEDD. B)-y,nberian,-Y dydd arall bu Ysgolion Sal Brynberian a Phontgynon yn mwynhau dau bryd odea bara brith, a llawer o ddanteithion eraill, ar y bane tuallan i gapel Brynberian. Hefyd daeth i'r wledd, ar wahoddiad, blant ysgol ddyddiol Cross Roads, ac amryw fonedd- igion eraill, set y Parch T. M. James, MA, rheithor Meline; Mrs Williams, Meline; Mr Jacob Jenkins, Abertawe, ac eraill. Wedi treulio amser hapus o dri o'r gloch prynhawn hyd saith, awd i'r capel i gael gwledd i'r meddwl a'r ysforyd Cymerwyd y gadair gan y Parch Dr Rees, gweinidog y He. ac aeth y plant trwy raglen bwrpasol mewn adrodd, dadlu, a chanu, &c. Aethant trwy ea gwaith yn ardderchog. Yna deuwyd at brif amcan y cyfarfod, sef anrhegu dau o'r diaconiaid-Mr Benjamin Rees, Pontgynon, a Mr David Phillips, Rhostwarch-y ddau yn ddiaconiaid ers dros ddeugain mlynedd. Hefyd y mae Mr Rees wedi bod yn drysorydd yr eglwys oddiar marwolaeth Mr John Morris, Tyllwyd, yn 1905 ac wedi bod yn Hyddlon i'r swydd, fel na chaed ynddo nac amryfasedd na bai. Mae Mr Phillips wedi bod yn ysgrifennydd yr eglwys ers rhwng pedair a chwech a deugain o flynyddoedd, ac y mae wadi gwneud gwaith mawr a gwerthfawr fel ysgrifennydd, a. thalent arbennig ganddo at y swydd. Yn ddiweddar y~'ddiswyddodd y ddau, a chafwyd prawf o gariad yr eglwys taag atynt, a'i bod wedi gwerthfawrogi eu gwaith. Bendithiwyd y ddau a dynoliaeth mor dda, mor siriol a charedig a thangnefeddus, ac mor heddychoi a'a cyd-ddiaconiaid ac a phawb, fel pe cawsid deg o'u bath yn Sodom a Gomorrah ni losgid y dinasoedd hynny. Cyfyngwyd yr anrhegion i derfynau yr eglwys nid awd allan i gasglu, ond daeth pob un a'i rodd yn ewyllys- gar a brwdfrydig i'r capel. Br hynny dymun odd Mr James, rheithor rhyddfrydig a haelionus Meline, gael tallu ei gini atynt, a mynnodd Mr Jenkins, Abertawe, gael tafla ei hanner gini yntau, yr hwn sydd yn enedigol o'r ardal, ac yr oedd yn dda gan bawb ei weled. Cafodd y ddau wsf teilwng a anrhydeddid bob o bwrs a cheque sylweddol-yr un faint yn y ddau bwrs. Trosglwyddwyd y pwrs i Mr PhiUips gan Mr Thomas Jones, Cross Hands, Eglwyswrw, gydag araeth ragorol. Yr unig beth annymunol yu y cwrdd oedd fod Mr Rees wedi methu dyfod iddo gan aflechyd, a throsglwyddwyd y pwrs i Mrs Rees, ei briod, gan Mr David Nicholas, Pontymansel, gydag araeth dda. Diolchodd Mrs Rees yn gynnes i bawb, a diolchwyd ymbellach dros Mr Rees gan y Cadeirydd, a dymuna pawb iddo gael adferiad buan. Siarad- wyd dros yr eglwys gan ddau o'r diaconiaid— Mr David Rees, Yetwen, a Mr James Rees, Trebwlch, a gwnaethant hynny yn dda a phwrpasol iawn. Yna cafwyd areithiau rhag- orol gan Reithor Meline a Mr Jenkins, Aber- tawe. Cafwyd penillion wedi eu cyfansoddi yn bwrpasol at yr amgylchiad gan Mr Rowland Rees, Trebwlch, a Miss Williams, Penrhiwlas Bydd y ddau arwr yn parhau eto yn eu swydd fel diaconiaid, ac ar derfyn y swydd honno eant eu gwobrwy yn y nefoedd. Parhaodd y cyfar- fod am dair awr yn lluosog mewn rhif a dymunol a hyfryd iawn mewn teimlad. M B.

IIBL A ENYCO ED.

I MILO.

I Alltwalis.

Hanes Eglwys Libanus, Treforris.