Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

. GLOYWI'R GYMRAEG.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GLOYWI'R GYMRAEG. [Danfoner pob gofyniad a gohebiaeth ynglyn a'r golofn hon i'r Parch. FRED JONES, B.A., B.D., Rhymney.] JR.—' Yn ddiweddar, lnewn eisteddfod heb fod nepell o gwelais y geiriau a ganlyn:- Rhyswr Unllais '—Gwobr £ 1." Ddydd yr eisteddfod canmolwyd y pwyllgor am eu Cym- raeg rhagorol. Carwn i drwy gyfrwng y TVST gael gwybod beth yw ystyr y ddau air.' Wel, petwn i'n gwybod yn gywir ymhle'r oedd yr eisteddfod, mi fuaswn wedi ymgynghori a'r pwyllgor cyn beiddio ymgais i'ch ateb. Neu efallai y gwnai'r un dro i ddanfon at y gwyr oedd yn canmol y Cymraeg rhagorol.' Wel, y mae'n rhaid cerdded yn ochelgar, ac ni fynnwn i ddim i chwi gredu bod dehongl y ddau air yn derfynol o fewn fy nghyrraedd i. Yn y lie cyntaf, mi dybiaf oddiwrth y gair unllais mai rhywbeth ynglyn a chanu ydyw. Am rhyswr,' dyma ddywed Geiriadur Bodfan Anwyl: Soldier, warrior, combatant hero, champion. Yn awr, champion ydyw'r unig air eisteddfodol a welaf i yma. Ar ol cerdded yn ofalus cyn belled a hyn, y mae awydd arnaf wneuthur cynnyg ar ei ben mai ymgais at gyfieithu champ- ion solo ydyw'r rhyswr unllais.' Wrth gwrs, mi wn yn iawn mai unawd agored a ddywedir yng Nghymraeg y rhaglenni fel rheol; ond ni ellir disgwyl i.bawb ei gyfyngu ei hun i ddull rhydd- ieithol fel hyn Eto, os wyf yn iawn ynglyn a'r ystyr, mi fentraf un neu ddau o awgrymiadau yn ychwaneg. Ynghyntaf oil, wrth ddywedyd champion solo, galw sylw at y solo a wneir, ac mai'r math ar solo a ddisgwylir ydyw champion. Yn y cyf- ieithiad tybiedig, galw sylw at y rhyswr '— hynny yw, y champion-a wneir, a dywedyd mai rhyswr ag unllais ganddo a wahoddir. Yn briodol iawn, os nad yn barchus, y cyfaddefwch chwi, Ni wyddwn i fod un ohonynt yn berchen ar ragor nag un llais.' Peth arall sydd yn ei gynnyg ei hun i'm meddwl i: tybed a ddis- gwylir i'r rhyswr unllais yma ganu o gwbl yn yr eisteddfod ? Nid oes dim yn y rhaglen yn mynegi hynny. Eto cofier nad wyf i 'n gwadu nad yw rhyswr unllais yn Gymraeg rhagorol.' Y drwg ydyw nad yw ei ystyr mor eglur ag a fyddai ddymunol i eisteddfodwyr cyfyngedig eu hamgyfired fel myfi. Unwaith eto, ynglyn a'r gair ffylliach.' Mi gefais gyfle yn ddiweddar i ofyn i wyr o dueddau Caerfyrddin a Phenfro ynglyn a'r gair. Pe ysgrifenna fy nghyfaill, y Parch. Arthur Jones, B.A., Ynysybwl, ynglyn ag ef fel hyn Wrth blentyn a ddaw'n hwyr adref o'r ysgol, Ble'r wyt ti wedi bod yn ffilliach ? Where hast thou been lingering ? Am ffermwr diofal a diog, neu weithiwr gwael, Dim ond ffilliach o biti'r lie mae e He is only dawdling about." Am ddau a fo'n dechreu caru, 'Ma' nhw'n ffilliach tipyn a i gili They are fooling about a good deal." Gellid dweyd felly-Ffilliach to linger, loiter, dawdle, fool about. Yn wir, gwnai air Cymraeg tan gamp am y Saesneg, to malinger. Am ei darddiad, nid oes gennyf ddim pendant i'w ddywedyd. Tybiaf ei fod yn perthyn i'r Saesneg, fool-ffyl-ffyll. Yn wir, y mae fy ffydd yn yr awgrym hwn yn cryfhau wrth fy mod yn ysgrifennu.' Mewn ymgom a gefais a'r Parch. T. E. Nicholas, Llangybi, yr un ystyr a gysylltai yntau a'r gair, ac yr oedd yntau yn hollol gynefin ag ef. Ac ynglyn a tharddiad y gair, nid oes gennyf ddim i'w ddywedyd yn erbyn awgrym y Parch.. Arthur Jones. Eto mae'n gofyn i'r I yn fool droi'n 11 yn ffylliach.' Efallai fod yr i gyd- seiniol sydd yn dilyn yn ddigon i beri hynny. Os felly, y mae'n gynnyg teg am esboniad. Fe rydd Dr. Owen Pughe ffillio yn ei Eiriadur yn yr ystyr o to turn, to twist ond nid yw'r gair yng Ngeiriadur Bodfan. Ai un o amryw ffug-eiriau'r Pughe rhyfedd ydyw, tybed ? Petai yn air Cymraeg fe wnai'r ystyr a ddyry Pughe iddo'r tro'n iawn i esbonio ffilliach.' Fodd bynnag, y mae ei ystyr yn nhafodiaith Dyfed, netl ran ohoni, yn ddigon eglur. Y mae amryw eraill yn aros eu tro. P. J.

ICYFARFDYDD CHWARTEROL