Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

CASTELLNEDD A'R CYLCH. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CASTELLNEDD A'R CYLCH. :j :Soar, Castdtnedd.-Cynhaliodd yr egl\vysTlion ei chyfarfodydd pregethu Sul a nos Dun, Awst ,27ain a'r 28ain, pan y gwasanaethwyd yn effeith- iol ac amserol i dyrfaoedd mawrion gan y Parch. H. Elvet Lewis, M.A., Llundain. Maesyrhaf.—Pregethwyd yng nghyfarlodydd blynyddol yr eglwys hon yn dra buddiol gan y Parch. W. J. Rees, Alltwen. Bethesda, Briton Ferry.—Mae'r eglwys hon wedi colli eto un o'i diaconiaid mwyaf ffyddlon ym mherson Mr. David Harris. Un o hedd- ychol ffyddloniaid Israel oedd efe, ac iddo air da gan bawb a chan y gwirionedd ei hun. Bu yn hynod ddefnyddiol yn holl gylchoedd yr eglwys, a theimlir gwacter mawr ar ei ol. Yr oedd ei briod wedi blaenu i'r wlad well ers rhai blynyddoedd, a chydymdeimlir yn fawr a'r ferch fagwyd mor dyner ganddo. Cafodd angladd barchus, ac aeth i'w fedd yn 71 oed, pan y gwas- anaethwyd gan ei weinidog, y Parch. Thomas Hughes, ac eraill. Heddwch i'w lwch. Briton Ferry (S.).Mae\ Parch. T. Gwyn Thomas wedi symud o Aberhonddu i gymryd gofal yr eglwys hon. Adwaenem Mr. Thomas oddiar dechreu ei yrfa fel pregethwr, ac y mae yn sefyll yn uchel yn syniad a pharch pawb y daw i gyffyrddiad a hwy, o ba enwad bynnag. Mab ydyw i'r diweddar Barch. W. Thomas, Gwynfe, ac ysgrifennodd Gofiant da i'w annwyl dad, a chafodd gylchrediad eang. Mawr hyderwn y bydd yn ddedwydd a llwyddiannus ym maes newydd ei lafur. Yr Eisteddfod Genedlaethol. — Deallwn fod mudiad ar droed yma eto i gael yr Eisteddfod am- 1918 i Gastellnedd. Gobeithio y llwyddir ar lawer cyfrif. GOHEBYDD.

Ein Diwydiannau Genedlaethol.

[No title]

GAIR ODDIWRTH DYFNALLT.j

Advertising

ICYFARFDYDD CHWARTEROL