Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
Ebenezer, Caerdydd.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ebenezer, Caerdydd. Marwolaeth Ysgolfeistres A dnabyddus.Blin. iawn gennym orfod cofnodi marwolaeth Miss Maggie G. Jones, ysgolfeistres. Cymerodd yr amgylchiad pruddaidd le yn hollol annisgwyl- iadwy yn ei chartref, 5 Bangor-street, Roath Park, Gorffennaf 3iain. Cawsai ymweliad cym- harol ysgafn o'r rhyw dair wythnos cyn hyn, a dilynodd y rheumatic fever yn union ar ei ol. Nid oedd neb o'r teulu, nac hyd yn oed y nieddyg, yn meddwl fod unrhyw berygl; ond daeth cyfnewidiad sydyn iawn ar y bore Sul, a'r noson honno ehedodd i'r byd ysbrydol. Yr oedd Miss Maggie Jones yn adnabyddus iawn yn y ddinas mewn cylchoedd crefyddol, addysgol a cherddorol, a phrawf amlwg o hyn yw fod Mrs. Evan Jones, ei mam weddw, wedi derbvn dros 130 o lythyrau cydymdeimlad ar yr àChlysur presennol. Fel aelod ffyddlon o Ebenezer er yn ieuanc iawn, anwylid hi gan bawb. Gwnaeth waith da iawn ar un adeg fel athrawes fedrus yn yr Ysgol Sul, ond fel aelod o'r cor yr oedd iddi arbenigrwydd. 'Doedd 11a ehyngerdd na chymanfa na chwrdd mawr yn y capel nad oedd hi yn ei lie, ac nid oedd neb yn mwynhau vn fwy nac yn edrych yn fwy siriol. Rhoddodd ei gwasanaeth i'r Gymdeithas Tenyddol am flyn- yddoedd trwy ddarllen papurau ar wahanol gymeriadau cerddorol, ac yr oedd v nosweithiau hynny ymhlith y rhai mwyaf addysgiadol a diddorol. Bu yn ysgolfeistres Ysgolion y Cyngor yn South Church-street a Wood-street am rai blynyddoedd, ac yn ddiweddar cafodd ei thros- glwyddo i'r ysgol yn Albany-road. Yr oedd yn ofalus a thrwydal iawn yn ei gwaith, ac yn hynod o gydwybodol. Cymerai ddiddordeb' anghyff- redin yn ei disgyblion, a theimlid parch a hoffter tuag ati gan ei hathrawesau. Yn y byd cerdd- orol yr oedd ei thalentau wedi datblygu i'r eithaf, ac yno yr ymddigrifai. Enillodd y wobr am yr unawd contralto yn Eisteddfod Genedl- aethol Aberhonddu yn 1889, a'r unawd oedd 0, Thou that tellest.' Canodd lawer tua'r adeg yma fel unawdydcl mewn cyngherddau pwysig yma a thraw. Yr oedd yn aelod cyson o'r Cardiff Festival Choir, y Cardiff. Musical Society a'r Cardiff Harmonic Society, ac yr oedd pob arwein- ydd yn gwybod ei bod yn un ellid dibynnu arni. Fe ganodd lawer yn y byd hwn, a gwyddom yn dra sicr y caiff ganu mwy eto yn y byd arall. Cafodd angladd deilwng y dydd Iau canlynol yn y gladdfa gyhoeddus, a daeth lliaws mawr ynghyd. Danfonwyd dros 30 o wreaths gan wahanol berthnasau, cyfeillion a chymdeithasau. Cymerwyd gofal yr angladd gan ei hannwvl wein- idog, y Parch. H. M. Hughes, B.A., yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. D. R. Jones, M.A., Bethlehem; R. G. Berry, Gwaelodygarth a G. Penrith Thomas, Ferndale. Yn ol cais y teulu fe ganwyd yr emynau hyn yn yr gwasanaeth- Yr Arglwydd a feddwl am danaf (Hen Dderby) a Bydd canu yn y Nefoedd (Meirionydd). Y mae cydymdeimlad dyfnaf llu mawr o gyfeillion a'i mam, ei chwiorydd, ei brawd a'r teulu oil. Wel, gyfeilles hoff, gorffwys yn dawel am ennyd, a gobeithiwn etc gael cydganu fel yn y dyddiau gynt. CYFAITX BORE OES.
CVFROL JIWBILI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CVFROL JIWBILI. At Olygydd y Tyst. SVR,-Y mae gwlad gyfan yn llawenychu gyda'r Parch. D. A. Griffith, Troedrhiwdalar, a'i bobl ar achlysur dathliad ei Jiwbili yn y weinidogaeth. Anaml y digwydd amgylchiad mor ddiddorol a chyffrous yn ein Henwad nac mewn unrhyw enwad, er nad dyma'r Jiwbili cyntaf yn y cylch eang hwn. Teimla amryw fod yr amgylchiad yn galw am rywbeth mwy nag hyd yn oed cheque sylweddol, a mwy nag oil-pcdnting yng Ngholeg Aberhonddu, i'r gwein- idog llafurus a'r cyfaill trylwyr hwn a wasan- aethodd mor ffyddlon am gynifer o flynyddoedd, ac a barha i wasanaethu gyda'r un parodrwydd ag erioed. Mewn dwy neu dair o'r siroedd Cymreig cy- hoeddwyd, rai blynyddoedd yn ol, gyfrol o breg- ethau gan weinidogion y sir, a deallaf iddynt gael derbyniad croesawgar. Paham nad ellid cyhoeddi cyfrol o'r fath o Frycheiniog a Maes- yfed-dwy sir y gwasanaethodd Mr. Griffith lawer o'u heglwysi gyda'i garedigrwydd dihafal ar hyd y blynyddoedd--dwy sir edrychant i fyny ato ac a goleddant syniadau uchel am dano, a dwy sir ag y mae eu gweinidogion bob un yn ei barchu a'i fawrygu. Pe ymgymerai'r Parch. T. Gwyn Thomas a'r Athro Joseph Jones, M.A., B.D., a'r gorchwyl hwn, fel y gwnaethant a chasglu hanes yr Enwad yn yr un maes, gan ei gyhoeddi yn Gylrol Coffa 1662,' credwn y gwnaent wasanaeth drwy Gyfrol Jiwbili o'r fath i gadw'n fyw ac ar gof un o'r amgylch- iadau mwyaf diddorol yn hanes ein Henwad am amser maith. Blin gennyf nad oedd fy ymrwymiadau yn caniatau i mi fod yn bresennol yng nghvfarfod y Jiwhili-a'm colled i oedd hynny ond taflaf yr awgrym hwn i'r cyhoecld, gan hyderu y deillia rhywbeth ohono. Yr eiddoch. &c. Hampton Grammar School, D. C. LLOYD. Glasbury-on-Wye, Awst 22ain, 1916.
IY BLWYDDIADUR. ;
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y BLWYDDIADUR. At Olygydd y Tyst. SYR,—Wrth ddarllen cais y Parch. D. H. Williams, Barry, parthed dygiad allan y Blwydd- iadur Cynulleidfaol, daeth imi awydd i daflu allan yr awgrym a ganlyn. Y mae'n amlwg fod cryn gwyno ar droad allan y Blwyddiadur yn y blynyddoedd diweddaf. Yr oedd y gwaith o wahanu'r dail oddiwrth ei gilydd y fath boen a thrafferth, nes digio ohonom wrth y llyfr cyn ei ddarllen. Hawdd yw beirniadu a chwyno. Beth am y fecldvgiiiiaeth ? Tybiai, syr, ei fod yn fwy na chwestiwn o well papur a dau olygydd, ac na cheid y gwelliant angenrheidiol pe ceid hynny, a dim ond hynny. Ai nid un achos o'r drwg yw hyn—ein gwaith yn cerdded ar hyd yr un llinellau o hyd, pan mae amgylchiadau newyddion a chynnydd y gwaith yn hawlio cyf- newidiad ? Rhennir y Blwyddiadur i ddwy ran (I) Y dyddiadur, (2) Y croniel o wybodaeth Enwadol. Oni ddaeth yr adeg i ysgaru'r ddau hyn oddi- wrth ei gilydd, neu i gyfyngu ein sylw at un ohonynt ? Ai nid ofer ydyw cynnyg cyflawni'r ddau waith hyn mewn llyfryn digon bach i fynd i'r llogell ? Am y Blwyddiadur Cynulleidfaol fel dydd- iadur, nid ydyw y goreu heddyw am ei fod yn rhylfawr i'w gario'n esmwyth yn y llogell. Hefyd y mae cymaint o ddewis heddyw o ddyddiad- uron bychain a defnyddiol. Casglaf fod nifer y rhai brynant y Blwyddiadur er mwyn y dydd- iadur sydd ynddo yn mynd yn llai o hyd. Hyd y sylwais, rhai eraill sydd gan weinidogion ac ysgrifenyddion yr eglwysi gan mwyaf yn eu llogell au. Am y Blwyddiadur fel cronicl o wybodaeth Enwadol, onid yw'r Enwad a'r Undeb wedi tyf:u'n fwy nag y buont, a'u llwyth wedi trym- hau ? eto ceisir croniclo pob gwybodaeth yn eu cylch mewn Ifyfryn o'r un faintioli a phan oedd yr Enwad a'r Undeb lawer yn llai. Tyfodd yr Eirwad yn rhy fawr i'w wthio i'r boced. Beth am gyhoeddi dau lyfr blynyddol-un ohonynt yn ddyddiadur hylaw, gan gynnwys ychydig gofnodion o brif ffeithiau ynglyn a'r Enwad, a'r llyll—-yn debyg i'r Congregational Year Book neu Flwyddiadur y Methodistiaid Calfinaidd-yn cynnwys pob rhyw wrybodaeth am ac er mwyn yr Enwad ? Neu, os mai un yn unig ellir ei ddwyn allan, ar bob cyfrif bydded i hwnnw fod y cronicl Enwadol o fiaen y dydd- iadur. Trefnir dyddiaduron gan eraill, tra mai CYllgor yr Undeb yn unig ddarpara gronicl o'r eglwysi a'r Unneb. Onid oes llawer o wybodaeth Enwadol yn cael ei guddio oddiwrth y darllenydd Cymreig ? Ceisir llanw y diffyg i fyny mewn rhai cyfun- debau drwy Adroddiad Cyfundebol yn cynnwys pob manylion posibl am bob eglwys yn y cyf- undeb. Ai ni ellir cael un llyfr felly i'r Enwad i gyd ? Gallasai fod yn ddarllenadwy, yn ddi- ddorol, yn awdurdod cywir ar faterion yr Enwad, ac yn rhad. Oni cheir mwy o fanylion am eglwysi Cymraeg yn y Congregational Year Book nag yn y Blwyddiadur ? Clywais rai yn dweyd o dro i dro iddynt roi fyny y Blwyddiadur am yr Year Book er cael y manylion hyn. Paham y gwasanaethwn y Saeson yn well na ni ein hunain ? Mae i hyn ei ddylanwad. Mewn teuluoedd enwadgarol diorseddwyd y Blwydd- iadur gan yr Year Book, a hynny ar y cyntaf er mwyn helaethach gwybodaeth am yr eglwysi Cymraeg, ond gyda'r canlyniad terfynol fod diddordeb y plant a'r teulu ymhen amser yn troi yn bennaf o gylch yr Enwad yn Lloegr. Gwas yr Undeb Seisnig yw'r Year Book wedi'r cwbl. Beth amser yn ol, a mi ar daith, tarewais ar gyd-Enwadwr yn aelod selog o eglwys Gymraeg. Wrth ymddidclan ag ef deellais y cymerai ddi- ddordeb arbennig yn ei Enwad, gan feddu gwyb- odaeth fanwl am yr eglwysi a'u hanes. Cefais achos i ofyn iddo am esboniad ar ei wybodaeth fanwl. Atebodd Yr wyf wedi dod o hyd i lyfr newydd sydd wedi agor fy llygaid ac wedi fy symbylu i gymryd ddiddordeb newydd yn fy Enwad a'm heglwys.' Beth ydyw ? gof- ynnais iddo. Atebodd yn ol: Y Congrega- tional Year Book.' Caiff y ffaith hon ategu'r awgrym a roddaf. Yr eiddoch yn bur, Penrhiwceibr. DANIEL DAVIES.
I DIOLCHGAR WCH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I DIOLCHGAR WCH. At Olygydd ,y Tyst. SYR,—Gyda'cli caniatad caredig, dymuna'r Parch. W. R. Bowen, Carmel, Maesteg, a'r perthnasau oil, gyflwyno eu diolchgarwch mwyaf diffuant i'r lliaws brodyr a chyfeillion a ysgrif- enasant mor dyner atynt i gydymdeimlo a hwy yn eu trallod chwerw a blin. Mae'r llythyrau yn rhy luosog i'w cydnabod bob yn un ac un, ond buont yn help a chysur mawr i'n hannwyl frawd a'i deulu yn nydd yr ystorm, a chedwir hwynt ganddynt ymhlith eu trysorau gwerth- fawrocaf. Soar, Maesteg. J. T. PARRY.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAPEL UCHA', SOLVA.-Y Parchn H. T. Jacob, Abergwaun, a Stephen Thomas, Salem, Llandeilo, wahoddwyd i wyl flynyddol yr eglwys uchod eleni, a chafwyd ganddynt wleddoedd breision. Yr oedd y cynulleidfa- oedd yn llaosog a'r casgliadau yn well nag arfer. Mae'r eglwys weithgar uchod, o dan weinidogaeth wlithog y bardd-bregethwr Mafonwy, yn gwisgo agwedd lewyrchus. Boed bendith yn dilyn yr holl gyfarfodydd •
Y BRIFYSGOL A DIWINYDDIAETH.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
derfynasant bleidio'r syniad, ond fod yn rhaid ymgynghori a'r colegau diwinyddol a'r enwadau cyn ethol yr athrawon! You can't have your cake and eat it/ chwedl y Sais. Os mai eisiau gorseddu Diwinyddiaeth fel brenhines y gwyddorau sydd, pa wiw rhwymo wrth ei thraed rai o hualau ei chaethwasiaeth ? O'n safbwyUt ni fel Enwad mae gwrth- wynebiadau arbeitnig i'r ymgais hon i roi Diwiuyddiaeth drosodd i'r colegau cenedl- aethol. Saif dau o'n colegau y tuallan i ddinasoedd urddasol y Brifysgol. Ceir yn Aberhonddu adeilad sydd yn addurn i'r Enwad ac yn gofgolofn i weithgarwch y tadau. Yng Nghaerfyrddin ceir sefydliad hynaf addysg uwchraddol Cymru. Nid all y ddau goleg hyn fanteisio ar yr ad-drefn- iant a gynygir. Hefyd, pa sicrwydd sydd y cai ymgeiswyr o wahanol en- wadau yr un cyfle a'i gilydd am gad- eiriau ? Egyr y cynnyg hwn y ddorau i ffrydlif o lafa enwadol i ddifwyno tiroedd crefydd yng Nghymru unwaitb eto. Mawr hyderwn yr atelir ef mewn pryd. Nid argyfwng rhyfel yw'r amser i ddadym- chwelyd y temlau heirdd a godwyd gan y tadau, y rhai a gadarnhawyd ac a addurnwyd gan sefydlwyr addysg ddiwin- yddol y Brifysgol. Nid lion yw'r adeg i daflu r colegau diwinyddol i helbul a thry- bini wedi eu llafur caled i gydymffurfio a gofynion y Brifysgol yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Credwn na fyn yr eglwysi mo'r cyfnewidiad. Da gennym na ddaeth yr un o'n colegau allan i'w bleidio, a bod eisoes amryw gyfundebau wedi pasio penderfyniadau cryf yn ei erbyn. [Mae ochr arall i'r cwestiwn pwysig hwn, ac efallai y ceir hi yr wythnos nesaf. -GoL.]