Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Ebenezer, Caerdydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ebenezer, Caerdydd. Marwolaeth Ysgolfeistres A dnabyddus.Blin. iawn gennym orfod cofnodi marwolaeth Miss Maggie G. Jones, ysgolfeistres. Cymerodd yr amgylchiad pruddaidd le yn hollol annisgwyl- iadwy yn ei chartref, 5 Bangor-street, Roath Park, Gorffennaf 3iain. Cawsai ymweliad cym- harol ysgafn o'r rhyw dair wythnos cyn hyn, a dilynodd y rheumatic fever yn union ar ei ol. Nid oedd neb o'r teulu, nac hyd yn oed y nieddyg, yn meddwl fod unrhyw berygl; ond daeth cyfnewidiad sydyn iawn ar y bore Sul, a'r noson honno ehedodd i'r byd ysbrydol. Yr oedd Miss Maggie Jones yn adnabyddus iawn yn y ddinas mewn cylchoedd crefyddol, addysgol a cherddorol, a phrawf amlwg o hyn yw fod Mrs. Evan Jones, ei mam weddw, wedi derbvn dros 130 o lythyrau cydymdeimlad ar yr àChlysur presennol. Fel aelod ffyddlon o Ebenezer er yn ieuanc iawn, anwylid hi gan bawb. Gwnaeth waith da iawn ar un adeg fel athrawes fedrus yn yr Ysgol Sul, ond fel aelod o'r cor yr oedd iddi arbenigrwydd. 'Doedd 11a ehyngerdd na chymanfa na chwrdd mawr yn y capel nad oedd hi yn ei lie, ac nid oedd neb yn mwynhau vn fwy nac yn edrych yn fwy siriol. Rhoddodd ei gwasanaeth i'r Gymdeithas Tenyddol am flyn- yddoedd trwy ddarllen papurau ar wahanol gymeriadau cerddorol, ac yr oedd v nosweithiau hynny ymhlith y rhai mwyaf addysgiadol a diddorol. Bu yn ysgolfeistres Ysgolion y Cyngor yn South Church-street a Wood-street am rai blynyddoedd, ac yn ddiweddar cafodd ei thros- glwyddo i'r ysgol yn Albany-road. Yr oedd yn ofalus a thrwydal iawn yn ei gwaith, ac yn hynod o gydwybodol. Cymerai ddiddordeb' anghyff- redin yn ei disgyblion, a theimlid parch a hoffter tuag ati gan ei hathrawesau. Yn y byd cerdd- orol yr oedd ei thalentau wedi datblygu i'r eithaf, ac yno yr ymddigrifai. Enillodd y wobr am yr unawd contralto yn Eisteddfod Genedl- aethol Aberhonddu yn 1889, a'r unawd oedd 0, Thou that tellest.' Canodd lawer tua'r adeg yma fel unawdydcl mewn cyngherddau pwysig yma a thraw. Yr oedd yn aelod cyson o'r Cardiff Festival Choir, y Cardiff. Musical Society a'r Cardiff Harmonic Society, ac yr oedd pob arwein- ydd yn gwybod ei bod yn un ellid dibynnu arni. Fe ganodd lawer yn y byd hwn, a gwyddom yn dra sicr y caiff ganu mwy eto yn y byd arall. Cafodd angladd deilwng y dydd Iau canlynol yn y gladdfa gyhoeddus, a daeth lliaws mawr ynghyd. Danfonwyd dros 30 o wreaths gan wahanol berthnasau, cyfeillion a chymdeithasau. Cymerwyd gofal yr angladd gan ei hannwvl wein- idog, y Parch. H. M. Hughes, B.A., yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. D. R. Jones, M.A., Bethlehem; R. G. Berry, Gwaelodygarth a G. Penrith Thomas, Ferndale. Yn ol cais y teulu fe ganwyd yr emynau hyn yn yr gwasanaeth- Yr Arglwydd a feddwl am danaf (Hen Dderby) a Bydd canu yn y Nefoedd (Meirionydd). Y mae cydymdeimlad dyfnaf llu mawr o gyfeillion a'i mam, ei chwiorydd, ei brawd a'r teulu oil. Wel, gyfeilles hoff, gorffwys yn dawel am ennyd, a gobeithiwn etc gael cydganu fel yn y dyddiau gynt. CYFAITX BORE OES.

CVFROL JIWBILI.

IY BLWYDDIADUR. ;

I DIOLCHGAR WCH.

[No title]

Y BRIFYSGOL A DIWINYDDIAETH.…