Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

j ? \ Y WERS SABOTHOL { Y…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

j ? Y WERS SABOTHOL { Y WERS SABOTHOL. t ——————— t y y 0 Y WER8 RYNGWLADWRIAETHOL. 9 ? t f Gan y Parch. D. OLIVER, D.D., ❖ TREFFYNNON. f -6 MKDI I7eg.—Paul yn Garcharor yn y Castell.— i Actau xxii. 17-29. i Y 'fnSTYNJ'EuRAIDD. Dywedaf am yr Ar- glwydd, Fy noddfa a'm hamddiffyna ydyw fy Nuw ynddo yr ymddiriedaf.Salm xci. 2. Rhagarweinioi,. Cafodd Paulgennad gan y pen-cap ten i annerch y bobl oddiar risiau'r castell. Yr oedd yn ymwybodol o'i ddiniweidrwydd, a rhoddodd ei hun i'r Arglwydd. Wedi cael distawrwydd llef- arodd wrth y bobl yn Hebraeg, neu'r Syro- Galdaeg, yr hon oedd dafodiaith o'r Hebraeg- iaith gyffredin y genedl Iddewig wedi'r dych- weliad o Fabilon. Sicrha wrthynt ei fod yn Iddew. Yna rhydd hanes ei droedigaeth a'r modd yr arweiniwyd ef i gredu ei fod yn anfon- edig i bregethu'r Efengyl i'r Cenhedloedd. Dywed ei fod wedi ei eni a'i ddwyn i fyny yn Tarsus yn Cilicia, a'i fod yn fachgen ieuanc wedi ei anfon i ysgol Gamaliel i Jerusalem. Yno cafodd ei addysgu yn y modd manylaf yng nghyfraith Moses, a dygai fawr sel dros holl osodiadau'r gyfraith. Yr oedd ei frwdfrydedd dros y gyf- raith yn gyfryw fel y penderfynodd garcharu a rhoddi i farwolaeth holl ganlynwyr yr lesu. Pan yn myned i Damascus gyda'r amcan hwn, tarawyd ef gan oleuni disgleiriach na"r haul ganol dydd. Clywodd lais yr Arglwydd lesu yn galw arno. Ufuddhaodd i'r alwad, a chydnabyddodd yr lesu yn Arglwydd. Gofynnodd yn ostyngedig, Beth a fynni Di i mi ei wneuthur ? Gorchmyn- nwyd iddo fyned i Damascus at Ananias, Iddew defosiynol ac yn credu yn yr lesu. Cafodd ganddo bob cyfarwyddyd ac anogaeth, a dywedodd wrtho y byddai'n dyst wrth bob dyn o'r pethau a welodd ac a glywodd. Esboniadoi,. Adnod 17. A darfu, wedi i mi ddyfod yn fy ol i Jerusalem, fel yr oeddwn yn gweddio yn y deml, i mi syrthio mewn llewyg.' A darfu, wedi i mi ddyfod yn fy ol i Jerusalem. Y mae'n amiwg fod yr ymweliad hwn a Jerusalem ymhen tair blynedd ar ol ei droedigaeth wedi bod yn Arabia (Gal. i. 18). Fel yr oeddwn yn gweddio yn y deml. Rhydd ar ddeall iddynt ei fod yn parchu'r deml fel ty Dduw. I mi syrthio mewn llewyg. Trance. Gweledigaeth. Gweledig- aethau a datguddiedigaethau yr Arglwydd (2 Cor. xii. r). Adnod r8. A'i weled Ef yn dywedyd wrthyf, Brysia, a dos ar frys allan o Jerusalem: oher- wydd ni dderbyniant dy dystiolaeth am danaf Pi.' A'i weled Ef. Yr Arglwydd lesu, yr Hwn a ymddangosasai iddo ar y ffordd i Damascus. Brysia, a dos ar frys allan 0 Jerusalem oherwydd ni dderbyniant, &>c. Gorchmynnir iddo ddianc ar frys o Jerusalem oherwydd gelyniaeth yr Iddewon. Yn Actau ix. 26-30 ceir hanes yr ymweliad hwn a Jerusalem ac ymddygiad yr Iddewon ato. Yr oedd gan yr Arglwydd waith iddo mewn gwledydd eraill. Adnod 19.—' A minnau a ddywedais, 0 Ar- glwydd, hwy a wyddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ymhob synagog, y rhai a gredent ynot Ti.' Cyf. Diw., Hwy a wyddant eu hunain ddarfod i mi garcharu a churo,' &c. Etyb Paul yr Arglwydd trwy gyfeirio at y • ffaith eu bod yn gwybod eu hunain am y modd yr oedd wedi carcharu a churo'r rhai a gredent ynddo Ef, ymhob synagog. Adnod 20. A phan dywalltwyd gwaed Stephan Dy ferthyr Di, yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac yn cydsynio i'w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef.' Cyf. Diw., Stephan, Dy dyst.' Gadewir allan i'w ladd ef.' A phan dywalltwyd gwaed Stephan. Trwy ei labyddio. Dy ferthyr. Neu, Dy dyst.' Yr oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw. Yn barod i roddi pob cynhorthwy. Ac yn cydsynio. Yn cymeradwyo'r gwaith. Cadw dillad y rhai a'i lladdent ef. Gofalu am ddillad y rhai oedd yn ymddiosg i'w labyddio (Actau vii. 54). Math o ddadl wylaidd o eiddo Paul a'r Arglwydd am gael aros yn Jerusalem yw'r ddwy adnod ddiw- eddaf. Tybiai y buasai tystiolaeth hen elyn fel efe yn fwy cadarn o blaid y gwirionedd, ac yn debycach o gael ei dderbyn.' Adnod 21.—' Ac Efe a ddywedodd wrthyf, Dos ymaith: canys Mi a'th anfonaf ymhell at y Celihedloodd.' Ac Efe a ddywedodd wrthyf. Sef yr Arglwydd lesu. Dos ymaith. 0 Jerusalem. Gwyddai yn well pa dderbyniad a gawsai ei dystiolaeth ganddynt. Canys Mi a'th anfonaf ymhell at y Cenhedloedd. Dyma alwad bendant i Paul i fod yn Apostol y Cenhedloedd. Yr oedd galwad ar iddo fyned i Asia ac Ewrop hyd Ilyricum, a Rhufain ei hun. Adnod 22.—' A hwy a'i gwrandawsant ef hyd y gair hwn a hwy a -odas"aii.t eu llef, ac a ddy- wedasant, Ymaith a'r cyfryw un oddiar y ddaear canys nid cymwys ei fod ef yn fyw.' A hwy a'i gwrandawsant ef hyd y gair hwn. Sef y dorf o Iddewon oedd wedi ei erlyn hyd at risiau'r castell. A hwy a godasant eu lief, 6-c. Nis gallasent ddal yr ymadrodd ei fod wedi ei anfon at y Cenhedloedd. Yr oedd meddwl am i'r Cenhedloedd dienwaededig gael iachawdwr- iaeth yn annioddefol ganddynt. Llefarasant mewn cynddaredd, Ymaith a'r-cyfryw un: nid ydyw'n deilwng o gael byw. Nid ydyw'r hwn sydd yn pregethu athrawiaethau fel hyn yn deilwng o gael byw. Adnod 23.—' Ac fel yr oeddynt yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch i'r awyr.' Ac fel yr oeddynt yn llefain. Yn para i lefain. A c yn bwrw eu dillad. Eu dillad uchaf eu taflu allan fel rhai yn barod i ruthro ar Paul. Ac yn taflu llwch i'r awyr. Yn brawf o'u cynddaredd ac angerdd eu teimlad, ac hwyrach yn arwydd eu bod yn ei felltithio. Adnod 24.-—■' Y pen-capten a orchmynnodd ei ddwyn ef i'r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellaii, fel y gallai wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly.' Y pen-capten a orchmynnodd, ei ddwyn ef i'r castell. Ei dclwyn oddiar y grisiau i gastell Antonia. Yno byddai'n ddiogel rhag cynddaredd y bobl. Can beri ei holi ef trwy fflangellau. Ei holi trwy fflaligellaii er peri iddo gyfaddef ei drosedd. Yr oedd hyn yn ddull creulon iawn. Y mae'n amlwg nad oedd y pen-capten wedi deall araith Paul, onide buasai'n hawdd iddo wybod paham yr oedd yr Iddewon yn llefain arno mor gynhyrfus. Adnod 25.—' Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef a chareiau, dywedodd Paul wrth y canwriad yr hwn oedd yn sefyll gerllaw, Ai rhydd i chwi fflangellu gwr o Rufeiniad, ac heb ei gondemnio hefyd ? Cyf. Diw., Ac wedi iddynt ei rwymo i fyny a chareiau,' &c. Y milwyr oedd yn ei rwymo a chareiau wrth bawl i'r diben o'i fflang- ellu. Dywedodd Paul wrth yeanwwriarl oedd yn sefyll gerllaw. Yr oedd y canwriad hwn yn sefyll gerllaw i arolygu'r fflangellu. Ai rhydd i chwi fflangellu gwr o Rufeiniad. Yr oedd Paul yn ddinesydd Rhufeinig, ac y mae am hawlio ei fraint. Yr oedd y gyfraith Rufeinig yn gwa- hardd fflangellu dinesydd Rhufeinig, ac nis gellid cosbi dinesydd Rhufeinig heb ynghyntaf ei brofi a'i gael yn euog. Pwy bynnag a hawliai fod yn ddinesydd Rhufeinig yn dwyllodrus a gosbid a marwolaeth. Adnod 26.—' A phan glybu y canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i'r pen-capten, gan ddy- wedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur canys Rhufeiniad yw y dyn hwn.' Cyf. Diw., Beth yr wyt ti ar fedr ei wneuthur.' A phan glybu y canivriad, efe a aeth ac a fynegodd. Yr oedd y ffaith fod Paul yn hawlio bod yn ddin- esydd Rhufeinig yn galw arno fod yn ofalus beth oedd yn ei wneud. Felly aeth at y pen- capten i'w rybuddio, a dywed, Rhufeiniad ydyw y dyn hwn. Rhaid bod yn ofalus beth a wneir iddo. Adnod 27.—' A'r pen-cap ten a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Dywed i mi, ai Rhufeiniad wyt ti ? Ac efe a ddywedodd, Ie.' A'r pen- capten a ddaeth. Daeth ei hunan at Paul i ymofyn ag ef. Y mae'n amlwg ei fod wedi dychrynu. Gofynnodd iddo a oedd yn Rhufein- iad. Atebodd Paul ei fod yn Rhufeiniad. Diau fod ganddo dystiolaeth ddigonol i'r ffaith. Adnod 28.—' A'r pen-capten a atebodd, A swm mawr y cefais i y ddinas-fraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, A minnau a anwyd yn freiniol.' Cyf. Diw., 'A Phaul a ddywedodd, Ond fe'm ganwyd i yn Rhufeiniwr.' A swm mawr y cefais i. Gwerthid y fraint am symiau uchel, a synnai'r pen-capten pa fodd yr oedd un fel Paul wedi gallu ei chael. Yr oedd wedi costio swm mawr iddo ef. Pe'm ganwyd i yn freiniol. Dywed Paul ei 'fod wedi ei eni'n ddin- esydd Rhufeinig. Tybir fod ei dad neu un o'i hynafiaid wedi ei gynysgaeddu a'r fraiiit ar gyfrif rhyw wasanaeth i Rufain. Adnod 29.—' Yn ebrwydd gan hynny yr ymad- awodd oddiwrtho y rhai oedd ar fedr ei holi ef a.'r pen-capten hefyd a ofnodd, pan wybu ei fod ef yn Rhufeiniad, ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef.' Yn ebrwydd gan hynny. Wedi deall hyn, gorchmvnnodd y pen-capten i'r rhai oedd wedi eu nodi i holi Paul trwy fflangellu fyned ymaith. Nid oedd ganddynt hawl i wneuthur yr hyn oeddynt ar fedr ei wneuthur. Ofnai'r pen-capten hefyd am ei fod wedi gorch- ymYll iddo gael ei fflangellu. 0 hyn allan dang- hosodd garedigrwydd i Paul. Gofyniadau AR Y Weks. i. Pa le yr oedd Paul pan y traddododd ei anerchiad yn amddiffyn ei huli ? 2. Nodwch y prif bethau a fynegir ganddo yn ei anerchiad. 3. Ymha iaith yr oedd yn llefaru ? Paham ? 4. At ba weledigaeth neilltuol y mae'n cyf- eirio yn nechreu ei araith ? 5. Beth oedd agwedd Paul yn ei berthynas a'r gyfraith ? Pa fodd y profir hyn ganddo yn ei araith ? 6. Pa bryd yn ei araith y dechreuasant wat- war a gwrthod ei wrando ? 7. Pa fodd y dangosasaut eu cynddaredd a'i penderfyniaa i'w ladd ? 8. Pa beth a wnaeth y pen-capten mewn canlyniad ? Beth oedd ei fwriad ? 9. Pa fodd yr ataliwyd y rhai oedd wedi eu nodi i'w holi trwy fflangellu ? Paham ? Pa fanteision oedd yn perthyn i ddinesydd Rhuf- einig ?

Dim Sio miant.

[No title]