Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Gorseinon.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Gorseinon. Aeth Gomer i'w Ddilyn!—' Emrys wedi mynd I'-dyna welsoch ychydig fisoedd yn ol yn y TYST, ac heddyw dyma'r newydd—' Aeth Gomer i'w ddilyn!' Emrys yn cwympo yn Mesopotamia, Tachwedd 22ain, 1915, a Gomer yn cwympo ar ddydd Sant Swithiu yn rhywie yn Ffrainc.' Dau o'r bechgyn goreu oedd yng Ngoraeinon, ao y mae cydymdeimiad goreu y lie gyda Mr Jones, ein hysgolfeistr, a'i deulu o dan yr ergyd dyblyg hwn. Yr oedd Emrys yn dibennu ei gwrs colegol Gorffennaf, 1914, ac wedi cael penodiad ardderchog yn St. Thomas, Exeter, yn ysgolfeistr fel ei dad. Cymhwyso ei hun i fod yn fasnachwr yr oedd Gomer, a bu am dymor yn siop D. Evans, Abertawe. Aeth oddiyno i Lundain, lie y bu am ysbaid cyn iddo ateb i alwad ei wlad. Yr oedd yn gymeriad prydferth iawn: tuedd gref at fod yn yswil a gwylaidd, a rhyw dynerwch hardd o'i gwmpas, ond yn gallu gweddnewid i gadernid y graig pan fyddai galw, a hynny heb un arwydd o gynhyrfiad o gwbl. Yr oedd digon o nerth cymeriad a phwyll yn eiddo iddo, fel yr oedd ei symudiadau yn gyson iawn bob amser. Gallai fwynhau cwmni difyrrus gystal a neb, ond ni fyddai perygl iddo golli ei ben na'i draed yn y mwynhad. Meddyliai yn fawr iawn o'i dad a'i fam a'r teulu. Yr oedd ei ohebiaeth gyson o'r tfryot am dros flwyddyn o amser yn dystiolaeth gysurlawn o'i barch iddynt a'i serch ynddynt. Yr oedd yn sensitive i'r breintian tealuol fwynhawyd ganddo ar yr hen aelwyd yn Preswylfa. Pwy wyr werth magwr- aeth dda, na beth fydd ei ffrwyth, na pha fodd y bydd yn torri allan ? Credwn fod dylanwad. da cartref y bachgen hwn wedi cael ei deimlo drwyddo ef ar faes y gwaed yn Ffrainc. Derbyniodd lyfr yn rhodd oddiwrth ei fam eglwys ym Mrynteg. Gwerfchfawrogodd y rhodd drwy ei ddarllen, a'r canlyuiad fu i nifer o'i gyfeillion geisio benthyg y Ilyfr-I Taith y Pererin'—ganddo, a dygodd dystiolaeth ei fod wedi bod yn fuddiol iawn iddynt. Dymunol iawn fyddai cael gweled Gomer yn dod yn ol, a chaelymgom gydag ef am yr hyn a welodd, a glywodd ac a deimlodd. Hyfryd fyddai gweied ei wen siriol mewn cwmni cydnaws, er mewn gwlad ddieithr, ond gwell fyddai cael ei weled yn mynd i gofio angeu'r groes y tu ol i'r lines Byddai ei weled yn tynnu ei gap yn rhoi ryw hush ar bob dwndwr anweddaidd yn y fan honno: arwedd o uchel barch yn eistedd ar ei wyneb wrth gofio Daw ei dad a'i fam oedd wedi dod yn Dduw iddo yntau; pelydr ei lygad yn dweyd fod byd a bywyd uwch yn sylweddau iddo ef; ei ymwneyd a'r bara ac r cwpan yn arwyddo ei gysylltiad agos a'r Gwr fa farw drosto; ei ymgrymiad yn yr ordinhad yn tystiolaethu fod y llecyn yn gysegedig, am fod y Daw y clyyrodd gymaint am dano o Feibl y teulu yno gydag ef. Heddyw mae'r ddau wedi cwrdd mown gwynfyd, ac wedi cwrdd &g eraill o'r teulu oedd wedi eu blaenu hwynt Mae'r hiraeth ar eu hol yn fawr, ond mae'r north i ddal yn profi yn fwy Tystiolaeth Mr Jones eu tad, yw—' Os ydyw Emrys a Gomer wedi marw, y mae Duw yn fyw, ac y mae'n Dad i ni. Y mae ein Gwaredwr yn fyw, ac yn frawd i ni. Y mae yr Ysbryd Glän yn fyw, ac yn barod at Ei waith ym mherffeithiad ein natur ni. Ac os ydyw Duw yn Dad, Mab ac Ysbryd drosom, pwy a all fod i'n herbyn ? Dyna broflad tra gwerthfawr all fod o gysur i luoedd eto. Dyna wireddu adnod y Salmydd I A galw arnaf t yn nydd trallod: Mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi.' Goreu nef a daear fyddo yn eiddo i'r teulu parchus hwn yn ei ofid.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
DAVIES'S COUGH MIXTURE I PESWCH PESWCH I Ni raid i neb ofni oanlyniadau Anwyd a Pheswch ond gofala fod potelaid 0 Davies's Cough Mixture yn y tj. Bydd pob dyn yn feddyg i'w deulu at holl anhwyi- derau y Gwddf a'r Frest, os bydd Davies's Cough Mixture wrth law. Y mae miloedd lawer wedi oael iachad ao yn gwneud eu goreu i'w gymell ar eraill sydd yn dioddef. Ni raid oymeryd ond UN DOSB er profi ei ddylanwad union- gyrohol ert rhyddhau y Phlegm, yn clirio y Llais, yn oynhesu ao yn oryfhau y Frest, gan weithio pob Anwyd a Ohrygni ymaith. DAVIES'S COUGH MIXTURE at BESWCH. DAVIES'S COUGH MIXTURE at ANWYD. DAVIES'S COUGH MIXTURE at ASTHMA. 08 gwyddoch am rywun,yn dioddef oddiwrth Beswch a Bronchitis, anrhegwoh ef a photelaid o OOUGH MIX- TVRB HUGH DAVIBS, ao fe'oh bendithio ryw ddydd. 18 lie a 98 9c y botel. NIMH DAVIE*, CHEMIST, HAOHYNLLETH
I .MAENCLOCHOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I MAENCLOCHOG. Y Cynhaeaf .-Canmolir y tywydd ardderchog dros yr holl wlad. Oyduabyddir gan y bobl hynaf na chafwyd gwell cynbaeaf. Dymunol fyddai gweld y wlad fwynha y fendith yn cyd- nabod yn ymarferol y Bendithiwr, ac yn profi ymdeimlad o ddyled mewn ymgyllwyniad i'w waith Ef. Ymwelwyr.—Mae nifer o ddieithriaid ar ym- weliad a'r lie hwn yn bresennol. Cymeradwyir ef gan feddygon ar gyfrit ei awyr iach. Mae llawer yn dringo i ben y mynydd yn ddyddio), ac er serthed y llwybr, mae awyr pen y mynydd a'r olygfa yn talu'n dda am y draffertb. I Hyfryd yw gweled yr ymwelwyr yn dangos eu diddordeb yng ngwaith yr Arglwydd yn yr eglwysi cylchynol Marwolaethau.—Er mop iach yr awyr yma, myn angeu hefyd ei cynhaeaf yn y gymdog- aeth. Mae eglwys yr Hen Gapel wedi ei hym- ddifadu yn ddiweddar o dri aelod gwerthfawr a ffyddlon. Gofid mawr i gylch eaug o gyleill. ion roddodd marwolaeth annisgwyliadwy Miss Henrietta Edwards, merch ieuengaf Mr a Mrs Edwards, New Inn. Dioddefodd gystudd trwm iawn am wythnos, ond daliodd yr oil yn dawei. a dirwgnach. Er nad ond 26 oed, yr oedd wedi ennill parch cyffredinol y wlad. Gwelwyd hynny yn wyneb y dyrfa fawr ddaeth drwy dywydd garw i dalu iddi y deyruged olaf o barch. Gwasanaethwyd gan y Parchn Rhys Williams, gweinidog D Williams; S. Howell (E), Maenclochog; ac Evans (E), Pontfaen. Tarawyd y chwaer Mrs Jane Phillips, priod Mr Arthur Phillips, Step ID, gan ergyd o'r parlys, fel na bu ond 12 awr cyn ehedeg o'i hysbryd at yr Hwn a'i rhoes. Profodd y chwaer hon ei hun yn ymdrechgar yn holl gylchoedd ei bywyd. Magodd deulu mawr o blant, a gwelodd hwynt oil yn sefydlu yn eu cylchoedd. Cymerai hi a'i phriod ddiddordeb mawr mewn dosbarthu y TYST a chyhoeddiadau eraiU. Disgwylid prynhawnddydd tawel, ond torrwyd hi i lawr yn 66 oed. Gwasanaethwyd yn yr angladd lluosog gan y Parchn Rhys Williams, W. J. Rhys (B), a S. Howell (E), Maenclochog. Collwyd drachefn y brawd annwyl Mr William Brown, Coynant Gwasan- aetbodd ef fel diacon am dros chwarter caurif, a llwyddodd i ennill ymddiriedaeth yr holl wlad. Cofia, llawer am ei ymddaoghosiad tywysogaidd, ei air caredig a'i ysbryd hynaws; ond er tristwch i lawer, gostyngwyd ei nerth yn 62 mlwydd oed. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth angladdol gan y Parchn Rhys Williams a W. J Rhys (B), Maenclochog. Ciaddwyd ei weddillion yn mynwent Horeb (B). Taened yr Arglwydd Ei aden dros berth- ynasau y tri annwyl hyn yn en hiraeth mawr, a choded eto lawer o ffyddloniaid i lenwi y bylchau. AELOD.
TABERNACL, BARRY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TABERNACL, BARRY. I YMDDISWYDDIAD Y PARCH BEN BVANS. Nos Saboth, Awst 6ed, pregethodd ein gweinidog parchus, y Parch Ben Evans, ei bregeth ymadawol, ar ol gweinidogaeth hynod lwyddiannus o ychydig dros 17 mlynedd. Achoswyd yr ymadawiad gan afiechyd sy'n hawlio, yn ol barn y uieddygon a'i brofiad yntau, ymryddhad Ilwyr oddiwrth bob cyfrifol- deb am dymor maith. Teimlai nad teg oedd iddo gadw gofal eglwys fel y Tabernacl, mown tret fel y Barry, heblaw ei fod yn gallu cyf- lawai ei waith fel arfer. Anogai yr eglwys ef i gymryd seibiant hir ond ofnai nad allai ddal y gwaith ar ol ail ymaflyd ynddo. ac y byddai hyaay yn a-nfantais i'r eglwys. Felly, er mwyn lies yr achos, credai mai gwell oedd iddo ym- ddiswyddo. Ni bu teimladau mwy cysegredig erioed rhwng gweinidog ac eglwys nag a fu rhwng Mr Evans ae eglwys y Tabernacl. Yn ystod yr holl amser cadwodd yr eglwys yn Hawn gwaith, a'r heddwch caredicaf yn ffynnu. Cadwodd y pulpud yn gryf ar hyd yr amser, a barn yr eglwys ar hyn o bryd yw, ei fod yn pregethu yn weil nag erioed. Gadawa eglwys gref, heddychol a gweithgar, gyda chynulleidfa dda, er fod tua 45 o'r dynion ieuainc goreu wedi ymuno a'r fyddin. Hefyd gadawa gapel hardd, cyfleus Da gennym feddwl nad yw yn bwriada gadael y lie. Erys yn aelod o'r eglwys, a cheir ei gyngor a'i gyfarwyddyd eto i ddwyn y gwaith ymlaen hydnes y ceir iddo olynydd teilwng. Bydd yn dda gan yr eglwys gael ei wasanaeth eto yn ei phulpud, a sicrhawn ef na bydd neb yn fwy derbyniol. Diau y bydd yn fantais i eglwysi'r cyich i wybod y bydd yn alluog i bregethu'n achlysurol, a sicr yw y bydd ei wasanaeth yn dderbyniol ac adeiladol. I ni yn y Tabernacl y mae yn un o bregethwyr goreu Cymru. Boed iddo gael adferiad graddol i'w iechyd, fel ag i'w alluogi i wasanaethu ei Dduw yn Efengyl Iesu Grist am flynyddoedd lawer, yw dymuniad cannoedd lawer heblaw EDMYGYDD.
PENYBANC, LLANDEILO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PENYBANC, LLANDEILO. Ymweliad a'r Ardal.—Y dydd o'r blaen daeth i'm rhan i dreulio Sibotb ymhlith y frawdoliaeth yn Siloh-yr eglwys sydd dan weinidogaeth lafuras y Parch Stephen Thomas. Oyrhaeddais yno y bore, a mawr oedd fy awydd am hynny. Wedi cael lluniaeth gan fy hen gyfaill annwyl Mr Morris, yr adeiladydd, euthum yn ei gwmni i'r odfa foreol, a deuthum yno i gyffyrddiad a llu o ben gvdnabod annwyl. Canfyddais, er hynny, fod lliaws o wynebau yn eisieu, y seddau yn wag, a'r Amen cynnefc arferem glywed o'r set fawr wedi cymryd ei adenydd. Da gennym, er hynny, fod rhai o bileri y set fawr yn aros o hyd yn dirflon ac iraidd i fynegi am ddaioni Duw a'i ofal dros yr achos yn Siloh Cefais y ffyddlon a'r addfwyn o'r I Ll-wydeoed' yn aros o hyd, a Phantyclai' yntau hefyd sydd yn dal ei ysgwydd yn dyn dan yr arch; a'm dymuniad yw, 'Arhoed eu bwa yn gryf am lawer blwyddyn. Euthum i'r ysgol y prynhawn, a chefais amser hapus yng nghwmni brodyr yn rhodio meusydd y wers; ac nid oedd rhaid aros yn hir yn y dosbarth cyn deall fy mod yng nghwmni yr un dosbarth o bobl ag oedd Crist yn eu holi yn y deml gynt. Yr oeddynt yn gedyrn o nerth, ac, fel Timotheos, yn bur gyfarwydd a'r meusydd Ysgrythyrol. Yn yr hwyr eto euthum i'r odfa, a chefais fwynhad nid bychan wrth wrando ar y myfyriwr ieuanc ddigwyddai fod yno ar y pryd. Wedi bod deirgwaith yn y cysegr, teimlwn fy mod wedi dod i gysylltiad newydd a'm hen gydnabod, a hen atgofion yn llifo i'm cof am y dyddiau gynt pan oeddwn yno dan weinidogaeth y diweddar a'r anfarwol seraff- bregethwr, y Parch W. R. Davies, Bethlehem. Ni chaniata gofod i mi i helaethu ar fy ymwel- iad, er y caraswn wneud. Cyn terfynu gwnaf ychydig sylwadau byr ar y cyfnewidiadau sydd wedi cymryd lie mewn perthynas ft'r pentref a'r achos yn Siloh yn ystod y chwarter canrif sydd wedi mynd heibio. Sylwer yn gyntaf ar gyfnewidiadau'r pentref. Mae yno heddyw lythyrdy cyfleus, yr hyn sydd yn hwylustod mawr i fasnachwyr y pentref a'r cylch. Eto mae'r Gate Inn wedi ei drawsnewid o fod yn dafarndy i fod yn breswylfa i ddilledydd ac yn goron ar yr oil, mae yr hen friwedd-dy (malt-house) oedd yn ymyl y cysegr wedi ei ddiorseddu oddiar ei sylfaen, a thai hardd wedi cymryd ei le. Nid yn ami y gall pentref gwledig ymffrostio mewn cyfnewidiad mor ddymunol i les cymdeithas. Un o strokes y mil blynyddoedd, mi dybiaf, ydyw hon. Meddyliais lawer tro mai hen gymydog sal i Siloh oedd yr hen f ragdy --y naill wedi bod ar ei oreu yn ceisio lladd dylanwad y llall; ond da gennym mai Dagon' syrthiodd yn yr ymgyrch, ac mae hyn yn agor drws cyfleustra i sobrwydd gael ei throed i lawr, a dalied car- wyr sobrwydd ar y cyfle i ledaenu ei dylanwad i bob cwr o'r ardal, fel bo i effaith y brag i gilio o'r gymdogaeth fel llwydrew o flaen haul Mehefin, ac i haul sobrwydd gael cyfle i lewyrchu fwy-fwy hyd ganol dydd, fel y bydd Prydain feddw'n cael ei chyfle i ddod yn Brydain sobr. Yn olaf, gair am welliantau yn ac o gylch y cysegr yn ystod y blynyddau sydd wedi myned heibio. Amlwg yw fod y frawdol- iaeth wedi bod yn ddiwyd a gweithgar ac yn effro i welliantau perthynol i'r cysegr. Mae'r capel wedi ei adnewyddu oddifewn i ryw fesur a'i harddu yn ogystal. Adeiladwyd ty i lanhSwr y cysegr, ac hefyd y mae festri h&rdd wedi ei chodi at wasanaeth y cyfarfodydd wvthnosol a'r Ysgol Sul. Felly mae'n amlwg nad oes neb o lafurwyr y winllan wedi bod ar hyd y dydd yn segur. Yn olaf, mae y frawdoliaeth yn Siloh wedi sicrhau darn o dir a chau o'i amgylch er gwneud claddfa i'r eglwya a'r gymdogaeth, ac mae amryw eisoes o breswylwyr y pentref wedi eu hebrwng iddo i noswylio hyd floedd yr utgorn. Dyma yn fyr lafur y ffyddloniaid yn Siloh. Ewch rhagooh i weithgarwoh yw dymuniad GLANRAFON.