Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Gorseinon.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gorseinon. Aeth Gomer i'w Ddilyn!—' Emrys wedi mynd I'-dyna welsoch ychydig fisoedd yn ol yn y TYST, ac heddyw dyma'r newydd—' Aeth Gomer i'w ddilyn!' Emrys yn cwympo yn Mesopotamia, Tachwedd 22ain, 1915, a Gomer yn cwympo ar ddydd Sant Swithiu yn rhywie yn Ffrainc.' Dau o'r bechgyn goreu oedd yng Ngoraeinon, ao y mae cydymdeimiad goreu y lie gyda Mr Jones, ein hysgolfeistr, a'i deulu o dan yr ergyd dyblyg hwn. Yr oedd Emrys yn dibennu ei gwrs colegol Gorffennaf, 1914, ac wedi cael penodiad ardderchog yn St. Thomas, Exeter, yn ysgolfeistr fel ei dad. Cymhwyso ei hun i fod yn fasnachwr yr oedd Gomer, a bu am dymor yn siop D. Evans, Abertawe. Aeth oddiyno i Lundain, lie y bu am ysbaid cyn iddo ateb i alwad ei wlad. Yr oedd yn gymeriad prydferth iawn: tuedd gref at fod yn yswil a gwylaidd, a rhyw dynerwch hardd o'i gwmpas, ond yn gallu gweddnewid i gadernid y graig pan fyddai galw, a hynny heb un arwydd o gynhyrfiad o gwbl. Yr oedd digon o nerth cymeriad a phwyll yn eiddo iddo, fel yr oedd ei symudiadau yn gyson iawn bob amser. Gallai fwynhau cwmni difyrrus gystal a neb, ond ni fyddai perygl iddo golli ei ben na'i draed yn y mwynhad. Meddyliai yn fawr iawn o'i dad a'i fam a'r teulu. Yr oedd ei ohebiaeth gyson o'r tfryot am dros flwyddyn o amser yn dystiolaeth gysurlawn o'i barch iddynt a'i serch ynddynt. Yr oedd yn sensitive i'r breintian tealuol fwynhawyd ganddo ar yr hen aelwyd yn Preswylfa. Pwy wyr werth magwr- aeth dda, na beth fydd ei ffrwyth, na pha fodd y bydd yn torri allan ? Credwn fod dylanwad. da cartref y bachgen hwn wedi cael ei deimlo drwyddo ef ar faes y gwaed yn Ffrainc. Derbyniodd lyfr yn rhodd oddiwrth ei fam eglwys ym Mrynteg. Gwerfchfawrogodd y rhodd drwy ei ddarllen, a'r canlyuiad fu i nifer o'i gyfeillion geisio benthyg y Ilyfr-I Taith y Pererin'—ganddo, a dygodd dystiolaeth ei fod wedi bod yn fuddiol iawn iddynt. Dymunol iawn fyddai cael gweled Gomer yn dod yn ol, a chaelymgom gydag ef am yr hyn a welodd, a glywodd ac a deimlodd. Hyfryd fyddai gweied ei wen siriol mewn cwmni cydnaws, er mewn gwlad ddieithr, ond gwell fyddai cael ei weled yn mynd i gofio angeu'r groes y tu ol i'r lines Byddai ei weled yn tynnu ei gap yn rhoi ryw hush ar bob dwndwr anweddaidd yn y fan honno: arwedd o uchel barch yn eistedd ar ei wyneb wrth gofio Daw ei dad a'i fam oedd wedi dod yn Dduw iddo yntau; pelydr ei lygad yn dweyd fod byd a bywyd uwch yn sylweddau iddo ef; ei ymwneyd a'r bara ac r cwpan yn arwyddo ei gysylltiad agos a'r Gwr fa farw drosto; ei ymgrymiad yn yr ordinhad yn tystiolaethu fod y llecyn yn gysegedig, am fod y Daw y clyyrodd gymaint am dano o Feibl y teulu yno gydag ef. Heddyw mae'r ddau wedi cwrdd mown gwynfyd, ac wedi cwrdd &g eraill o'r teulu oedd wedi eu blaenu hwynt Mae'r hiraeth ar eu hol yn fawr, ond mae'r north i ddal yn profi yn fwy Tystiolaeth Mr Jones eu tad, yw—' Os ydyw Emrys a Gomer wedi marw, y mae Duw yn fyw, ac y mae'n Dad i ni. Y mae ein Gwaredwr yn fyw, ac yn frawd i ni. Y mae yr Ysbryd Glän yn fyw, ac yn barod at Ei waith ym mherffeithiad ein natur ni. Ac os ydyw Duw yn Dad, Mab ac Ysbryd drosom, pwy a all fod i'n herbyn ? Dyna broflad tra gwerthfawr all fod o gysur i luoedd eto. Dyna wireddu adnod y Salmydd I A galw arnaf t yn nydd trallod: Mi a'th waredaf, a thi a'm gogoneddi.' Goreu nef a daear fyddo yn eiddo i'r teulu parchus hwn yn ei ofid.

Advertising

I .MAENCLOCHOG.

TABERNACL, BARRY.

PENYBANC, LLANDEILO.