Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

- - - -_U- - - - - _-"- -…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-_U- PA BETHAU BYNNAG SYDD GANMOL- ADWY. GAN Y PARCH. D. MORGAN, TRAIAWM. DVWED esbonwyr fod y gair sydd yma wedi ei gyfieithu i ganmoladwy yn cael ei ddefnyddio ynglyn a phersonau sydd yn absennol, mewn gwrthgyferbyniad i'r gair gyfieithir i hawdd- gar,' a ddefnyddir ynglyn a phersonau sydd yn bresennol. Y cyfieithiad Saesneg o'r frawddeg ydyw Whatsoever things are of good report.' Ac y mae'r cyfieithiad hwn yn gynhorthwy i ni i ddeall yr ymadrodd. Golygir felly fod gweith- redoedd da yn cael eu cyflawni gan rywrai, ac y dylai adroddiad o'r cyfryw, ar ol iddo gyrraedd personau eraill, gael lie parchus ganddynt yn eu meddyliau. Pa bethau bynnag sydd ganmoladwy.' Mae y pethau yma yn teilyngu lie anrhydeddus yn y meddwl gyda'r pethau rhagorol eraill a enwir yn yr adnod. Yr oedd yr Apostol yn sicr o fod wrth ei fodd pan yn rhoddi'r anogaeth hon i'r Philippiaid, oblegid yr oedd efe yn hoff iawn o gael newyddion da am rinweddau a gweith- redoedd ei gydgrefyddwyr, pa le bynnag y pres- wylient. Gwelir hyn yn ei Epistolau at eglwysi a phersonau unigol. Yr oedd yr Apostol yn ddigon caredig i fynegi wrth y rhai yr ysgrif- ennai atynt am y pethau boddhaol a glywsai yn eu cylch. Yr oedd clywed am lwyddiant mewn bywyd a gwaith yn Eglwys Iesu Grist yn rhywle yn dwyn gorfoledd i'w enaid. Yr oedd pob hanes o'r fath yn cael lie yn ei feddwl a'i galon, fel y gallasai weddio am i'r llwydd- iant fyned rhagddo. Felly peth naturiol i Paul oedd gosod y frawddeg dan sylw i fewn yn yr adnod yma. Yr oedd efe am gael y Philippiaid i'r tir uchel ar ba un yr oedd efe yn sefyll mewn perthynas i'r modd i ymddwyn tuagat bethau canmoladwy. Gymerai'r Apostol yn ganiataol y byddai i bethau canmoladwy gael eu cyflawni, ac y cawsai'r Philippiaid y fraiiit o glywed am danynt. Nid adroddiad o bethau cyffredin mewn gwisg dda o ran geiriau a brawddegau oedd yng ngolwg Paul, ond adroddiad o bethau aruchel, pa wedd bynnag a fuasai ar ei ddiwyg allanol. Yn ddiameu i'r Philippiaid a Christionogion eraill glywed llawer o dro i dro am y pethau rhagorol gyflawnid gan Paul pan oedd efe ymhell oddiwrthynt, ac iddynt osod y pethau hynny yn gysegredig o fewn cylch eu meddylgarwch. Ac yn y fan hon mae'r Apostol yn cyfarwyddo'r frawdoliaeth yn Philippi ynglyn a'r modd y dylent dderbyn adroddiadau o bethau gwirion- eddol dda, o ba le bynnag y deuent. Dyma reol arhosol a cliyffredinol, Yn awr, cofiwn fod y ddysgeidiaeth geir yma yn gymwys i ninnau hefyd. Nid ydym i roddi lie yn ein meddwl i bethau gwael a dirmygedig allant fod yn gysylltiedig a rhai o'n cyd-ddynion. Ac nid oes lie i chwedlau isel am eraill yn nysg-

[No title]

'PA BETHAU BYNNAG, SYD" D.…

[No title]

- - - -_U- - - - - _-"- -…