Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

- - - -_U- - - - - _-"- -…

[No title]

'PA BETHAU BYNNAG, SYD" D.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

'PA BETHAU BYNNAG, SYD" D HAWDDGAR. v GAN Y PARCH. G. GRIFFITH, DREFNEWYDD. DioLcii am Gyfeillach i drafod rhinweddau. Darogan diffygion sy'n lladd Cyfeillach. Gwell rhinwedd na diffyg. Cyfeillach rhinweddau sy'n magu saint. Perthyn yr hagr a'r hawddgar i fywyd. Bywyd yn ei radd isaf yw'r hagr bywyd yn ei radd uchaf yw'r hawddgar. I'r graddau y daw bywyd yn berffaith y daw yn hardd. Perffeithrwydd prydferthwch yw bywyd per- ffaith. Cyfuniad rhinweddau yw perffeithrwydd cymeriad. Disgleiriai y rhinweddau arwrol fel y rhinweddau efengylaidd yng nghymeriad Paul. Nis gallent fod oddiwrth ei gilydd. Gall rhin- weddau ofyn, Pwy a'th osododd di yn farnwr rhyngom ? Mae Cariad a Chyfiawnder yn un yn natur Duw, a dylent fod yn natur dyn. i. Hawddgarwch lle. Mor hawddgar yw Dy bebyll Di, 0 Arglwydd y Unoedd: Hawddgarwch y babell wedi swyno calon Dafydd. Pwy sydd heb ei fangre hawddgar ? Hon yw Eden bywyd. Ni chyll byth mo'i gafael. Cofiai di o fryn Misar.' Mangre yng nghofion crefyddol Dafydd oedd y bryn hwnnw. Diolch am fangre'r hawdd- garwch. Dyma ein Jerusalem. Ein traed a safant byth ar dy lennyrch glan. 2. H-(ilzvdd,ayzvclt persoitoliaeth.-Hwll yn rhyw- beth i'w ennill. Mae i'w ennill trwy'r meddwl. Os am fod yn hawddgar, rhaid i'r hawddgar gael lie yn y meddwl. Daw rhinweddau'r meddwl yn elfennau'r bywyd. Blagur meddwl yw bywyd. 3. Hawddgarwch cymeriad, Mae hwn yn swynol.. Ennill, denu, tynnu ato ei hun mae hwn. Mae'n urddasol. Efe yw'r gwir fon- liedch\ r. Mae'n barhaol, nid un dros dro. Deil byth i syllu arno. 'A thing of beauty is a joy for ever.'

[No title]

- - - -_U- - - - - _-"- -…