Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. CAN EYNON. Pan oeddwn i yn nhawelwch a diogelwch Llandrindod y Sul diweddaf, yr oedd aelodau y teulu yma yn cael amser bywiog dros ben yn herwydd dyfodiad y Zepps i dorri ar ein hedd. Rywfodd y mae Llundeinwyr yn cyncfino a'r creaduriaid cas hyn sydd yn ehedeg ar adenydd y nos o'u llochesau yn Germani i dyVallt bombs ar hen wragedd a phlant yn y wlad lion. Gwel- som Zepps o'r blaen lawer tro yn hedfan uwch ein pennau, clywsom dwrf en peiriannau yn nyfnder nos, a gwelsom hwy yn tywallt bombs ar Croydon a Greenwich ond bore Sul diw- eddaf cafwyd golwg ar un ohonynt yn disgyn fel Lucifer o'r uchelder i lawr. Aeth un o'n bechgyn ni i fyny ar aden peiriant bychan— hornets yw'r enw poblogaidd arnynt-a dacw hi yn ornest fry tua deg mil o droedfeddi uwch- law'r ddaear—a'r hogyn un ar hugain oed a orfu Rhoddodd y concern melltigedig ar dan, a daeth i lawr yn ffagl i'r ddaear gerllaw Enfield. Collodd rhyw bymtheg o'r gelynion eu bywydau mewn ffordd arswydus iawn. Rhwygwyd yr awyr ganol nos gan fanllefau'r torfeydd am fod gwyr y Zepps o'r diwedd wedi cael eu haeddiant. Yr oedd capten y llong hon wedi hen haeddu ei dynged, am ei fod droion wedi ymweled a ni ar ei negeseuon melltigedig. Bu efe a'i griw yn angeu i lawer mam ddiniwed a llawer o blant bach. Drannoeth y gyflafan hon croch- lefai llawer drwy gyfrwng y wasg am roddi iddynt gladdedigaeth cwn; ond, er mawr an- rhydedd iddynt, trodd yr awdurdodau glust fyddar atynt, a chafodd y pymtheg eu claddu yn barchus,. er, wrth reswm, nad oedd fawr dagrau yn yr angladd. Ac felly gorffwysant oddiwrth eu llafur creulawn, druain ohonynt, ym mynwent fechan Potter's Bar hyd y dydd pan fo'r Kaiser a'i luoedd gwaedlyd yn sefyll ger bron y frawdle. Hoffwn i ddim sefyll yno yn ei le. Bydd gwaed gwirion miliynau yno'n llefain am ddialedd y bore hwnnw, ond fe wyr yr Hwn fydd ar yr orsedd sut i wneud cyfiawn- der. Mae'r Babiloniaid yn falch iawn ein bod o'r diwedd wedi cael un o'r adar duon yma i lawr. Hwnna yw ein teimlad pennaf ar hyn o bryd. Prawf ein bod yn byw mewn amseroedd enbyd yw'r ffaith fod y pwerau mawr wedi awdurdodi rhywbeth fel yr hen press gang yn y dyddiau diweddaf hyn. Gwyddys yn reit dda fod yna lawer creadur slim wedi gallu osgoi'r rhwyd ac heb ei ddal, gan adael i bobl eraill ymladd drosto. Bellach gosodir rhwyd wrth enau y sach, a phan fydd torf yn cyfarfod i ymddi- fyrru yn y ddinas hon, gofviinir i bawb ddangos ei gerdyli--fod ei enw i lawr ar y memrwn. Yn y fel hyn ca ami un ei ddal. Ar yr un pryd, pwy feddyliasai y gwelsid dim o'r fath beth mewn gwlad rydd fel hon ? Ond dichon, gan fod tynged y ddynoliaeth yn y glorian, nad yw iawn achwyn a gwrthdystio. Digon yw dweyd ar hyn o bryd fod y llanw milwrol wedi troi mewn ffordd ddigamsyniol. Mae lluoedd y fall yn digalonni, er nad yw'r diwedd eto, y mae'r diwedd yn y golwg. Mae dyfodiad Roumania—Roumania ofnus a goiallis-yn dangos ei bod hi weithian yn gweld yn bur eglur sut y mae'r fantol yn troi. Mae Groeg yn cloffi rhwng dau feddwl o hyd, a'r brenin yn anghytuno a'i bobl. Venezelos yw dyn y bobl, a dichon mai un o ganlyniadau'r rhyfel fydd hyn y bydd pobl Groeg a mannau eraill yn dechreu holi pwy sense sydd mewn rhoddi awenau gwlad mewn dwylaw fel dwylaw Tino, brenin Groeg. Mae'n bryd iddo gael notice to quit rhag blaen cyn i bethau fyned yn anobeithiol. Nid oes neb sydd yn adwaen Ben Tillett yn synnu dim at ei araith flagardus yn y Trades Congress. Nid oes fawr gyclyrndeimlad erioed wedi bod rhwng Tillett a'r galluoedd crefyddol. Nid sant mohono. Un bychan o ran corff ydyw, ond y mae ganddo dafod-a siarad yn ffigyrol-- fel trwnc elephant. Ymosod yr oedd ar weinid- ogion crefydd am eu bod yn cael eu hesgusodi rhag trin arfau, ac yr oedd am eu hanfon allan ar unwaith pe cawsai ei ftordd. Ni ddywedodd hanner gair am y cannoedd sydd yno eisoes— yn wynebu angeu, ac amryw wedi myned i fewn drwy'r porth cyfyng. Bu Ben Tillett yno y dydd o'r blaen fel arweinydd Llafur, yn cael ei gario o fan i fan mewn motor a'i dderbyn fel pendefig. Nid oes hanes ei fod ef wedi cael unrhyw fedydd tan. Na rhedeg yn ol wnaeth i areithio ar weithredoedd gwrol pobl eraill. Os yw'r angen mor fawr, paham na wna'r gwron dewr hwn ymrestru rhag blaen, ac ennill ei Victoria Cross ? Dyna iddo wedyn hawl i dafodi pobl ydynt gan mil o weithiau yn well dynion na Ben ei hun. Credyd mawr i weith- wyr y deyrnas hon nad ydynt erioed wedi rhoddi iddo siawns i chware pranks yn y Senedd. Meddylier am Senedd o Ben Tilletts Bobi annwyl Wrth deithio Cymru yn ddiweddar sylwais, fel y pryderai llawer am ein dyfodol fel gwlad. Beth am Ryddfrydiaeth Cymru ? Ddaw yr hen Aelodau Seneddol yn ol i Sant Stephan ? Beth fydd y programme newydd ? Mae'r hen ffiniau wedi eu dileu lawer ohonynt gan y rhyfel mawr. Bydd Home Rule a Datgysylltiad allan o'r ffordd, oblegid nid yw'n debyg yr adgyfodir hwy o'r bedd gan nad beth yw bombast y gelynion. Un o bynciau mawr y dyfodol fydd pwnc y tir. Ni chaniateir i'r hen ddeddfau gorth- rymus ydynt wedi cloffi a llyffetheirio ffermwyr y gorffennol wneud yr un trie efo flermwxT y dyfodol. Yna rhaid talu sylw i bwnc yr Income Tax. Ar hyn o bryd y mae'r baich yn pwyso'n annheg iawn. Diolch i'r hen gawr, Syr Vernon Harcourt, fe agorodd ef gil y drws ond bydd galw yn y dyfodol agos agos am ragor o gyf- iawnder yn y mater yma. Nid oes sjmnwyr fod y gwr sydd a chanddo fryniau o aur coeth ,yn cael hawl i'w pentyrru ar ei gilydd pan y mae angen a thlodi lond y wlad. Mae yna lawer i apostol eithafol fel Mr. Sydney Webb yn cynnyg treth o rhyw un swllt ar bymtheg y bunt ar bobl fel hyn ond hef yd, ar dir chware teg, yn hawlio fod i'r dyn tlawd hefyd dalu ei geiniog y bunt, mwy neu lai, fel danghoseg ei fod yn cario ei ran o'r baich fel dinesydd gonest. Ar ol i'r rhyfel ddarfod cyst i ni flynyddoedd maith i osod trefn ar ein ty. Mae yna amryw Bwyllgorau ar waith 3m breseunol yn ceisio trefnu ar gyfer y dydd pan fyddo ein dewrion yn dod yn ol i ail-gydio yn eu gwaith. Bydd eisiau lleoli rhyw bum miliwn ohonom rhwng popeth Pwy sydd ddigonol i'r gwaith hwn ? Lloyd George, medd y mwyafrif. Efe yw dyn Rhagluniaeth. Wel, 'Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu ac ond i ni fel teyrnas gofio hyn, a dilyn y golofn, nid oes raid i ni ofni. Hen- ffych i'r dydd, medd pawb, pan fyddo angel heddwch yn cyhoecldi dros Jwrop a'r byd fod y wawr yn torri a'r dydd gerllaw. Diolch fod y Llaw anweledig yn ysgrifennu ar galchiad y pared y dyddiau hyn fod dyddiau'r Kaiser ymron ar ben.
I CYFARFODYDD CHWARTEROL
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
I CYFARFODYDD CHWARTEROL I CYFUNDEB BRYCHEINIOG. CYllhaliwyd Cynhadledd Cwrdd Chwarter y Cyfuudeb uchod yn N'hroedrhiwdalar ynglyn a dathliad jiwbili gweinidogaeth y Parch. D. A, Griffith, ddydd LITawrth, Awst i5fed. Yr oedd yn bresennol yn y Gynhadledd y Parchn. R. J. Williams (yn y gadair). D. A. Griffith, R. James, R. Williams, yr Athro Joseph Jones, M.A., B.D., T. Gwydrim Davies, T. GWA-II Thomas, Gomer Harris, E. T. Parry, W. M. Saer, D. Arthur Davies, J. Hywel Parry (Llaiisamlet), D. Davies (Hanover), J. S. Williams, Llalivapley) a D. Lloyd; hefyd, nifer luosog o wyr lleyg eglwysi y cylch. Ar ol gweddi gan y Parch. R. J ames a dar- llen y cofnodioli- i. Pasiwyd fod y cyfarfod nesaf iw gynnal yn inyffryli Crawnon. (a) Parch. E. T. Parry, Erwood, i draddodi'r bregeth Genhadol, gycla chyfeiriacl arbennig at John Williams, Erro- manga. (b) Parch. W. H. A. Morgan, B.A., Tatybont-ar-Wysg, i bregethu ar fater roddir iddo gan yr eglwys sydd yn galw'r cwrdd. (c) Parch. R. J. Williams i draddodi anerchiad o'r gadair yn y Gynhadledd. (d) Papur y Parch. W. M. Saer i'w ohirio hyd gwrdd y gwanwyn. 2. Ymadawiad Gweinidog.-Pasiwyd i roddi llythyr aelodaeth i'r Parch. T.. Gwyn Thomas, sydd yn ymadael ac yn ymsefydlu yn Briton Ferry, De Morgannwg. Yn ystod ei arhosiad yn Aberhonddu fel gweinidog Glamorgan-street gwnaeth Mr. Thomas waith da mewn llawer cyleIL-er enghraifft, fel Ysgrifennydd Undeb yr Ysgolion am dymor, fel golygydd y cylchgrawn Saesneg, ac fel un o ysgrifenyclelion y Gymanfa er pan ymsefydlodd yn y dref. Dymunir iddo ef a'i deulu fendith a llwydd yn ei faes newydd. 3. Darllenwycl llythyr oddiwrth y Parch. Robert Griffith, a mabwysiadwyd tri awgrym sydd ynddo parthed (a) Ymweled a'r eglwysi ar ran y Genhadaeth (b) Anfon dirprwyaeth i Fadagascar er cyiiorthavyo'r brodorioti i ddathlu pen caumlwydd y Genhadaeth yno (c) Trefmi 3-111 weliad personol i Mr. Griffith ddod i G-yn- hadledd y Cwrdd Chwarter yn y Dyfi-ryn. Gal- wycl sylw'r Gyiihadledd at y GYllhadledd Gen- hadol sydd i gwrdd ym Medi yn Llandrindod. 4. Pasiwyd penderfyniad cryf yn protestio'n glir ac yn bendant yn erbyn sefydlu adran ddiw- inyddol ynglyn a'r colegau cenedlaethol fel peth di-alw-am-dano a pheth nad yw i'w ddymuno. Copiau i'w hanfon i Arglwydd Haldane, Mr. Sidney Robinson (yr aelod dros y sir), ac i Gof- restrwyr Caerdydd, Aberystwyth a Bangor. 5. Pleidlais o gyciyindeimlad. a theuluoedd yn eu trallod ar ol yr anwyliaid a ganlyn :-Mrs. Powell, Rock House, Hangynidr Mrs. Lewis, Blaenycoed, Caerfyrddin Mrs. Jones, Bryn- moelddu, Beulah Mr. W. Edwards, Talybont- ar-Wysg; Mrs. Jarman, Bryncrydd-garth, Olew- ydd; Mrs. Williams, Garnlwyd, Brychgoed a Mr. John Jones, Ty'r Capel, Llanwrtyd. 6. Pod Pwyllgor y Rheolau i ddwyn eu had- roddiad i Gynhadledd y Dyffryn. Caed ychydig eiriau gan yr ymwelwyr, Parchn. Hywel Parry (hen aelod o'r Cyfundeb) J. S. Williams, Llan- vapley (godwyd i bregethu yn Nhroedrhiw- dalar) a D. Davies, Hanover. TerfynwydCynhadleddiuddiolganPron Jones. Pregethwy(I nos Fawrth fel y canlyn :—-Yng nghapel y Rhos gan y Parchn. D. Iloyd ac R. J. Williams; ym Meulah gaii y Parchn. Hywe1 Parry a Proff. Jones yn Nhroedrhiwdalar de- chreuwyd gan Proff. John Evans, a phregeth- wyd gan y Parchn. D. Arthur Davies ac R. Williams; yn yr Olewydd gan y Parchn. W. M. Saer a T. Gwyn Thomas. Cyfarfu'r Gynhadledd i ginio yn Nolderwydd, preswylfod Mr. a Mrs. Jones. Yno yr oedd y Parch. D. A. Griffith wrth ben y bwrdd yn siarad croeso'r teulu a'r eglwys. Ar ol y Gynhadledd aethpwyd i de i Landulas, preswylfod y Parch. D. A. Griffith, lie yr oedd ef a'i briod yn croesawu pawb. Diolchwyd yn gynnes i deuluoedd Dolderwydd a Glandulas am dderbvriad siriol fel arfer—os rhywbeth, yn rhagori. Yr oedd swn y Jiwbili wrth fwrdd. te a chinio, mewn ymddiddan a phregeth, yn gwneud popeth yn eithriadol y tro dedwydd hwn. Arhosed y fendith. DAVID HO YD, Ysg. O.Y.Cyfarwyddwyd yr Ysgrifennydd i anfon gair at y Parch. J. Tertius Phillips, yn cyd- lawenhau ag ef wrth ddeall ei fod i raddau ar wellhad ar ol nychtod blin a maith, ac yn hyderu y caiff adferiad llawnach. Efe yw Cad- eirydd 1917.